Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

._.---- ."CYNGHORION I BOBL…

EGWYDDORION PABYDDIAETH.

Y CASGLIAD DWY GEINIOG, AC…

GAIR AM YR EISTEDDFOD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GAIR AM YR EISTEDDFOD. At Olygwyr y l'yst Cymreig.' Foneddigion,—Fel miloedd eraill bum yn Nghaer- Eyrddin yr wythnos ddiweddaf, a chyda'r eithriad o'r tywydd, cefais gryn lawer o foddhad. Dygwyd i111an gynnyrchion teilwng o wobrau, a rhoddwyd ly cynhyrfiad i dalentau ag y mae yn anmhossibl dy- wedyd pa efieithiau a weithiant yn llenyddiaeth y genedl. Llwyddiant iddynt ac i'r Eisteddfod. => Yr oedd un peth er hynyyn cydfyned a'r Eistedd- fod ag y credaf sydd raid ei wrthsefyll yn ben- derfynol, sef, na ddylai neb wybod pwy yw y budd- ugol hyd yr amser y byddo yn derbyn y wobr. Yr oedd hyn yn mhell o fod yn rheol yn yr Eisteddfod ddiweddaf. Er engraifft, y boreu cyntaf, rhedai enw y buddugwr ar y Bryddest i Syr Rhys ap Thomas yn rhwydd drwy resau blaenaf yr ymwelwyr, a dy- wedai un wrthyf ei fod wedi clywed darnau o honi yr wythnos flaenorol. Nid wyf yn dywedyd nad y hi oedd yr oreu, ond, feirniad, er mwyn yr ymddir- iedaeth a roddir ynock, ac er eich anrhydedd eich hunain, celwch hyn hyd yr amser priodol i'w cldat- guddio, rhag i neb dynu camgasgliadau oddiwrth y fath ymddygiad. Gellid nodi yr un peth am amryw eraill, yn gystal ag ammheuaeth a oedd rhai o'r beirniaid y cymmwysaf a ellid gael i'r gwaith. Nid oedd gan yr ysgrifenydd un cyssylltiad a'r Eistedd- fod rhagor nag ymwel) dd yn unig, nac un dyben yn hyn o lmellau amgen na dileu, os yn bossibl, yr hyn a ystyria yn fai. Yr eiddoch, &c., GIRALDUS.

YR HEN DEILIWR.

CYMMANFAOEDD YR ANNIBYNWYR.