Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

','CYNNULLION O NANNAU.1

PREGETHWYR CYNNORTHWYOL A…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PREGETHWYR CYNNORTHWYOL A MYFYR- Wyp,, YR ANNIBYNWYR. Foneddigion,—Mae rhywbeth yn codi'r pwnc uchodyn barbaus i wyneb cymdeithas o fewn yr yehydig flynyddoedd diweddaf yma, a bron yn ddi- eithriad teliir pwn da o feiau ar gefn yr eglwysi, am na byddent yn gwneud mwy o'r dosparth uchod ond y mae gair neuddan i'w ddyweyd yn ffafr yr eglwysi nad ydym ni wedi ei glywed hyd eto. Ac yn gyataf, dywedwn nad yw yr eglwysi yn eu codi i'r gwaith. Mae hwn yn bwnc delicate iawn i siarad yn gadarnhaol arno ond gallwn ddyweyd am gylch ein hadnabyddiaeth, fod yma amryw wedi eu hanfon i bulpudau gan eu perthynasau ae ychydig gyfeillion, a chynnifer hyny wedi eu goddef i fyned i bregethu, pan oedd teimlad yr eglwys yn groes i hyny. Ond waeth beth a fo wedi unwaith gychwyn y teimlad pregethwrol, nid oedd rhoddi i lawr i fod mwy ac y mae ein trefn ni fel y gall bechgyn na ystyrir yn gymhwys at y gwaith gartref, er na fydd dim yn neillduol yn ei erbyn, fel y gallant, meddwn, fyned allan i eglwysi eraill i bregethu. Mae hyn yn ein harwain at air arall, sef, mai dyfod ar draws yr eglwysi y mae y rhai y cwynir yn eu cylch, heb ofyn eu cenad, nes ydynt yn eu beichio drwy fyned a'i amser, a'i taflu i dreuliau a phan fyddo 'r cyfryw yn ddifedr, ac y mae llawer o honynt felly, fel mae'r gwaethaf, nis gellir disgwyl i'r eglwysi fod yn gar- edig iawn iddynt; ac felly y mae yr angharedigrwydd yn disgyn yn ol ar benau y rhai a'i derbyniant. Wrth gwrs, nid ydym yn dyweyd nad oes eithriad yn bod. Ond teimlad yr eglwysi yn weithredol at- ynt yw, Pwy a geisiodd hyn ar eich llaw chwi ? Rhyw air neu ddau wrth yr eglwysi. Peidiweh ar un cyfrif a gadael i ddyn ieuanc ymyraeth dim a'r gwaith o bregethu, os na fydd cymhwysdera foddlona fwyafrif yr eglwys ynddo. Gwrandewir ilawer gormod ar ddynion ieuainc a'i perthynasau i'w gadael i fyned i'r pulpud, ac yna ffwrdd a hwy rhag blaen i'r ysgol, ac oddi yno i'r coleg, cyn bod braidd neb o'u cymmydogion wedi gweled dim yn- ddynt, ond eu bod yn fechgyn bach fine, ac yna pan ddenant ar hydy wlad fel myfyrwyr, mawr y beio sydd ar y coleg am y stwff y mae ef yn droi allan, fel pe byddai ganddo rhywbeth gwahanol i droi allan i'r hyn a aeth i fewn. Bai yr eglwysi ydyw bod cynnifer allan o'r colegau ac heb leoedd, ac y mae y cyfryw eglwysi nid yn unig yn gwneud cam a hwy eu hunain, ond a'r enwad, drwy lanw'r wlad a gweinidogioa heb fod ar y blaen ar y gynnulleidfa. Peth itrall peidiwch rhoidi eich capeli yn agored i bawb a ddclo heibio yn yr enw pregethwyr. Bydd- ai yr enw cardotwyr yn llawer teilyngach iddynt. Os byddweh yn adnabod y sawl fydd yn anfon ei gyhoeddiad i chwi, da, onite, pawb eraill, gadewch iddynt fyned heibio, ac yna fe ddarfyddai y crwydro yma sydd fechgyn sydd wedi blino ar v/aith, neu yn meddwl cael bywioliaeth barchusach heb halogi eu dwylaw a llafurwaith. Chwithau, fechgvn, sydd yn teimlo tipyn o awydd at y gwaith, mynweh eich hunain yn serch a pharch eich eglwys, a gwnewch hyny sydd ynoch i gym- hwyso eich hunain iddo, ac yna nid yw yn debyg y bycldwcli yn hir cyn cael eich annog at y gwaith. Gair arall. Peidiwch gwthio eieh hunainar draws eglwysi heb iddynt anfon am danoch. Cewch dder- byniad mwy croesawus. ac ni fyTdd y cytfredin yn credii mai gwneud ceiniog ydyw amcan mawr eich pregethu, ac ond i chwi ymgynghori ychydig a'ch synwyr cyffredin, cewch weled nad difudd ydyw y cynghovion uchod i chwi ac wrth i chwi ymroi gartref, byddweh yn fwy tebyg o argraffu ar feddwl cich cyfoedion a'ch cydnabod, mai awydd gwneud tlaioni sycld yn eich rneddianu, ac nid awydd am fywioliaeth foneddigaidd. Ystyriwch bwysigrwydd y gotyni,-t(I-I A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn.' Yr eiddoch, &c, UN 0 WYR Y SEATS.

LLAIS Y WLAD, A LLAIS Y DRE.

AT Y PARCH. T. PHILLIPS,-…

LIBANUS, TREFORIS, A'R PARCEt…

EISTEDDFOD CAERFYRDDIN.

COLEG ABERHONDDU.

EGLWYS HEB WEINIDOGAETH SEFYDLOG.

AGWEDD WLEIDYDDOL AMERICA.

Y DDAU LA IS.

YR HEN ARDDWR.