Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

GATR 0 EIFION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GATR 0 EIFION. Deallaf nad ydyw Neb yn annghymmeradwy yn Lerpwl yna. Ac yr ydwyf yn hyderu nad ydyw yr ysgrif ddyddorol (.") a ymddangosodd yn mhlith eich tystiolaethau diweddaf dan y penawd uchodyn hollol annerbyniol. Pa fodd bynag, cymmeraf hyny yn ganiataol o herwydd i'r awdurdodau goruchel weled yn ddoeth ei hargraphu. Mae llawer o bobl ymyrgar yn y byd yma,' Meistr Golygwrs.' Nid ydwyf yn gwybod i ITeb ddangos « drwyn erioed o r blaen yn y TYST, er ei bod yn fwriad ganddo er ys tipyn bellacb. Ac yr oeddwn yneddwl cael ysgrifio ychydig bob wythnos, neu fel y byddai cyfleusdra yn rhoi, a hyny heb yn wybod ond i rhyw un neu ddau; ond ni welsoch erioed y fath beth,—pedwar o lythyrau sydd wedi dyfod yma gofyn ai fi yw Neb. Trwy eich hynawsedd chwi, ac i spario peth afreidiol o stamps a phapur ac inc, yr ydwyf yn dymuno hyspysu pawb a holodd, sydd yn holi, ac a ddichon glywed ar ei galon holi rhagllaw, nad oes gan neb bawl i awduraeth Uythyrau Neb ond y fi fy hunan. 'A good servant but a bad inaster,dyna ddywedir am y tan. Gwelwxd y gwas da hwn wedi troi yn feietf drwg ercbyll nos Sabbath wythnos i'r diwedd- af yn Nghriciaeth. Yr oedd Mr E. Williams, Eilion House, wedi adeiladu siop newydd yn ymyl yr hen. Oddeutu hanner nos, yr amser crybwylledig, gwel- wyd y ty newydd yn ffaglu yn fawreddog. Yr oedd gwres y fflaman mor angerddol fel yr oedd yn toddi y paent ar y ffenestri a'r diysau yr ochr arall i'r heol. Yn fuan iawn yr oedd pob lantern, piser, a saucepan yn y lie ar waith, a thrwy ymdrech can- moladwy rhoddwyd y tan allan. Cyfrifir y golled oddeutu 400p. Nid oedd Mr Williams wedi yswirio ei dy. Ni cbafwyd allan eto pwy a'i cyneuodd. Creuir syndod cyfFredinol yn y parth yma o'r byd at y cynnydd arnthrol sydd mewn trafaelio wedi i'r gerbydres yma redeg. Nis gwyddom beth fyddai'r bobl sydd yn awr yn tramwy yn ei wneud o'r blaen. Ond eglur yw fod yr boll wlad fel pe wedi ymrwymo i fynu cael prawf ar y ffordd newydd yma o drafaelio. Mae teuluoedd yn myned i'r visit gyda'r tren. Synwn i fawr na byddant yn myncd i ddanfon eu Uythyrau yn lie eu postio cyn hir. .Go farw ydyw hi yma am newyddion. Nid oes genym ci yma bron ddim ond a gawn ni o bell. Deallwn ei bid yn ddifiifol ar y cyfandir, -Mae Nap au wedi "osod tyllvvyr i d\l!u; mae yntau ei hunan yn gosod ambell i ergyd ar yr ebill with grace. Synwn i aciim nad ydy.v'r ffiwsau yn y twll, acuad oes eisiau bron ond tpiiio,, Y aearnf oft) hefyd. y bydd ambell. i glwt o garreg yn cael digon o rym i'w tfiaflu dr,,s vi- E,tiglish Channel i'n gwlad ni. Da Ob! ie, fe fu yn agos i mi 'anghofio dywedyd nad da i gyd ydyw'r trens yraa. Yr wythnos ddiweddaf lladdwyd tri Ho perth.) nol i Mr W. Ellis, Tyddyn-y- Felio. Nid oedd y cwmpeiui wedi bod yn ddigon gofal ts yda'l' fence. Deullwyf y gwneir y golled i lyp,u o fewn rhyw ddwy butit neu dair. ^Mae Neb yn cofio at bawb.

CASNEWYDD-AR-WYSG. ,

HERMON. MOELTRYFAN.

MAN NEWYDDION.

LLUNDAIN.

Itt\1yddittU iramnr.

_.___-: - NEWYDDION DIWEDDARAF

[No title]

MARCHNAD LLUNDAIN.

MARCHNAD ANIFEILIAIQ SMITHFIELD.

MARCHNAD LIVERPOOL.

MARCHNADOEDD CYMREIG.

Family Notices

[No title]

LLANYMDDYFRL