Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

.. PONT-Y-GWR-DRWG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PONT-Y-GWR-DRWG. Ddarllenydd,—Os wyt ti yn meddwl fy nilyn heddyw, rhaid ti barotoi 1 daith bell, ac at ddiwrnod o lafur caled. Cymmer dy ffon yn dy law i gychwyn. Tua Phont-y-gwr-drwg y mae fy wyneb, er fy mod yn meddwl cael gweled llawer o fanau eraill wrth fyned a dychwelyd. O'r Cwrt mawr, Llangeitho yr ydwyfyn eychwyn, ar foreu Llun. Nid yw o bwys i mi ddweyd yn y fan yma beth a'm harweiniodd yno, hwyrach y daw ar fy ffordd ryw bryd eto i fynegi hyny. Palasdy gwych iawn ydyw y Cwrt, ac y mae yn awr yn cael ei adrefnu a'i helaethu yn fawr. Mae Mr Davies, y preswylydd a'r percbenog yn frawd i'r Parch D. Charles Davies ac yn wyr i'r diweddar Barcliedig D. Charles, Caerfyrddin. Mae Mrs Davies yn orwyres ir hybarch Peter Williams, felly y mae dwy genedl gref wedi eu huno yn nheulu siriol a charedig y Cwrt mawr. Yr oedd yno faban bychan wedi gwneyd ei vin- ddangosiad yn ddiweddar. IVlynwn iddynt ei alw Peter Williams. Yr oedd ganddynt David Charles o'r blaen; yna cawsid Peter Williams a David Charles dan yr un gronglwyd. Boed bendith arnynt hit ac epil. Cymerodd Mr. Davies fi yn ei gerbyd i fyned oddiamgylch y diwrnod hwnw, a thrwy gym- morth anifail da, galluogwyd fi i weled llawer mewn a.mser byr. Aethom yu ddiymdroi drwy Swydd Ffynnon ac i Ystrad Meurig—He nodedig fel eistsddle addysg. Mae ysgol Ystrad Meurig wedi troi allan lu mawr o offeiriaid yn y dyddiau gy jt; ac y mae yno yn awr fwy na 700 feehgyn ieuainc yn derbyn addysg; a rhoddir canmol- iaeth uchel i'r addysg a dderbyniant. Mae gerrnym ffordd arw, gul, gerygog, i fyned i Ysbyty Ystwyth; ac wedi i ni gyrhaedd y lie, a phasio heibio i gapel y Methodistiaid-oblegid hwy sydd yn teyrnasu yn y wlad yma-ae i lawr yr allt, heibio y gweithfeydd mwn pwysig sydd yma. Nid oes ond ychydig o bydferthwch i'w weled yn arwynebedd y wlad, ond y mae cyfoeth o drysorau yn nghrombil y bryniau moelion hyn. Wedi myned heibio i Lwyn Rhydygroes, a thalu swilt i ryw hen drysores a gadwai Lodge yn arwain at balas, gollyngwyd ni i mewn i'r pare. Dyma bare yr Hafod. Ardderebog yw yr olygfa. Anaml y gwelais y fath gydgyfar- fyddiad o olygfeydd ysplenydd. Gorchuddir yr holl fryniau cylchynol o'u crib i'w sawdl gan goedydd tewfrig yn estyn allan eu cangau preiffion; ac y mae amrywiaeth lliw y dail sydd yn awr yn cyfnewid fel arwyddion dyfodiad y gauaf yn rhoddi arwedd o ddifrifwch ychwanegol ar arneheledd yr olygfa. Cysgodir palasdy yr Hafod o'r tu cefn gan un o'r bryniau uchel hyn. Mae y pare prydferth yma, trwy yr hwn yr ydym yn pasio o'i flaen; ac ar y dde i ni y mae afon Ystwyth yn ym- dreiglo heibio, gan olchi traed y bryniau o flaen y palas, a maethu y coedydd ar ei glanau. Dy- wedwyd wrthyf fod cofadail arddercbog o fewn i balas yr Hafod, yn ddarlun o Miss Johnes, merch i un o gyn-berchenogion y lie, yn marw. Dy wed y rhai a'i gwelsant fod yr olygfa yn un o'r rhai mwyaf prudd-effeithiol y gellir ei gweled. Q-orwedda hi ar esmwythfainc (sofa), a'i thad o'r tu ol iddi, a'i law aswy dan ei phen, a'i law ddehau yn yin, afael yn ei braich. Mas ei mam yn eistdd wrth ei thraed, yn ouddio ei phen i wylo; ond wedi methu vmatal, yn codi ac yn ymafael yn nwylaw y ferch, yn ei gwlychu a'i dagrau, yn cusanu ei gwefasau, a hithau yn marw er pob peth. Nid wyf yn sicr fod y des- grifiad yn gywir o'r manylion, am mai o'm cof yr wyf yn ysgrifenu; ac yr wyf yn eithaf sier fod pob desgrifiad a roddir yn fethiant- ya ymyl yr olygfa ei hun. Yn fun dyma ni allan o'r pare, ac wedi dringo yn hir cawsom ein hunain ar y ffordd fawr sydd yn arwain o Aberystwyth i Llanidloes. Ehaid i ni droi yn ol rhyngom a'r lie blaenaf, er gweled y fan y cychwynasom er ei fwyn. Yr ydym yn myned i lawr i oriwared m^wf- Mae y g'wlaw yn euro arnom yn ddi- arbed, a mnau ar fynyddoedd llymion adwytbig. Ond nid yw fy ngbydymaith, ond iddo gael ffordd weddol, yn arbed yr anifail. Dyma ni yn union wrth yr hotel, Devil's Bridge; ac wedi rhoddi yr anifail yn yr ystabl i. gael ymgeledd; o blegid y mae pob gyrwr da welais i erioed ar y ffordd yn ofalus am i'w anifail gael ymgeledd yn yr ystabL Y dyn creulonaf i'w geffvl ydyw hwnw sydd yn hongian ar ei gefa trwy y dydd i fyned ryw bymtheg milldir, ac na thry byth i un man i roddi tamaid iddo, os na cha damaid iddo ei hun a'i anifail am ddim. Mae yn 'Mhont-y-gwr-drwg' dair o bontydd- y naill uwch ben y llall. Yr uchaf yn bont dda gref wedi ei hadeiladu yn dcliweddar. Yr ail yn bont gul un bwa, ryw 30 o droedfeddi. Coclwyd hontnarnwyddyniy93. A'r drydedd, yr hon yn brxodol yw Pont-y-gwr-drwg is law hono eilwaith yn gulach fyth, un bwa fel y Ilall, ac yn rhyw 20 troedfedd o gylch, mi debygwn. Am hon y mae y chwedlau dirif. Yr hen chwedl yw mai gwaith noson i'w fawrhydi oedd hon, ac i'r boreu ei ddal cyn iddo ei gorphen. Dywedir fod rhyw hen wraig dlawd wedi colli ei buwch; ac er ei syndod, canfu hi yr oclu- arall i'r afon. Yr anwyl fach,' meddai, beth wnai am fy muwch ?' Ar hyny daeth Satan heibio yn ei wibdeithiau, a chynhygiodd godi pont ar yr ammod iddo gael y peth cyntaf a ai drosti. Cydsyniodd yr lien chwaer, ond erbyn cydsynio, gwelodd ei bod wedi ei dal. Yr oedd ganddi hen gi newynog yn ei dilyn; ac yn ffodus, digvvyddodd fod hen gryst- yn yn ei phoced. Taflodd hivn dros yr afon ac erbyn fod y bont yn barod, rhedodd y ci drosti at y crystyn, ac felly disgynodd yn aberth i'r gwr drwg. Wel yr oedd hen gi yn ddigon da o aberth iddo ef. Ond ni wnaeth y gwr drwg erioed gym- maint o garedigrwydd i gymmydogaeth a thaflu pont dros afon. Dinystrio, ac nid adeiladu y inae efe. Y peth tebycaf ynddi i'w waith ef ydyw iddo eu gadael ar ei haner. -Dyna ei arfer erioed. Ond y tebygolrwydd ^ai Ystrad Fflur (Strata i r^a v.a ke.Q fynachdy Pontrhydfendigaid, a gododd y bont I a,t«b eu gwasanaeth eu hunain, 6U^y^iadau trwy y wlad. Gelwir yr afon y Mynach, oblegid hwyraah mai y M vnachod a gododd y bont drosti, neu dicholl i ryw ben Mynach rywbryd foddi yr.ddi. Tybir iddi gael ei chodi tua'r ffwyddyn 1067. Beth bynnag am y bont, a'i chodiad, golygfeydd digymar a geir. yn y fan hon. Mewn cylch mor fychan, ni welais ddim erioed yn fwy rhamantus. Yr ochr uchaf i'r bont disgyna y dwfr yn wyllt, grychias, gyn- ddeiriog i lawr ryw ddeunaw troedfedd o glogwyn i badell, yr hon y mae y dyfroedd wrth dreiglo wedi ffurfio. Yna heb fawr orphwys rhydd, lam ofnadwy o ryw driugain trodfedd dros yinyl- au y creigiau serth, daneddog, rhwng coedydd cysgodfawr a dyfant o bob tu. Wedi rhedeg yn araf am ychydig rhydd gam hir o ugain trodfedd; a heb aros i gymeryd ei hanadl, rhydd naid of- nadwy arall o fwy na chan trodfedd; ac y mae y bylchau trwy y rhai y rhed uawaith neu ddwy, mor gul fel y mae yn tyrfu yn ofnadwy, gan fygwth rhwygo y creigiau, am na byddai y ffordd yn rhyddach iddi. A rhwng yr holl ddisgyniadau, y mae wedi dyfod 500 o drodfeddi erbyn eyfarfod a'r Rheidiol yn ngwaelod y glyn cul, tywyll, anghysbell obry. Nid rhyfedd fod y Saeson, o diroedd tawel, gwaelod Lloegr, yn ffoli ar y fath olygfeydd aruchel a rhamantus. Aeth y ddwy awr oedd genym i.aros yno, heibio yn llawer rhy fuan. Ac wedi cael tamaid o giniaw yn y gwesty, dyma ni i fynu yn y cerbyd, ac yn pi drwy Ysbytty, Pontrhydfendigaid, a Thregaro-n,, am y rhai nid oes amser i ddyweyd dim yma, rhaid gadael hyny hyd ryw dro eto. Dychwel- asom i'r Cwrt erbyn 6 o'r gloch, wedi taith faith, ac yn brydlawn erbyn y eyfarfod oedd y noson hono yn disgwyl fy ngwasanaeth. SYLWYDD.

• CANLLAW HEB BONTBREN.'

LLINELLAU COFFADWRIAETHOL

J Y TEULU DEDWYDD; -.

DAU BENNILL

ENGLYN I'R ' TYST CYMREIG.'

ENGLYN I 'IOAN SILO,' PENRHYNCOCH.

- DEWI WYN AC EBEN FARDD.

HANESYN HYNOD.

[No title]