Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
--EIN TELERAU A'N DOSBARTHWYR.
EIN TELERAU A'N DOSBARTHWYR. Anfonir 4,8,12, yn ddidraultrwy y post, gan y cyhoedd- wyr, i unrhyw Is yn ol Ceiniog yr un. Byddwn yn dra diolchgar i'n holl Ddosbarthwyr sydd yn derbyn eu sypyna/u trwy y Post, am drefnueu harchebion yn y viodd mwyaf digolled. Gellir cmjon 4 am geiniog, 8 am ddwy geiniog, 12 am dair cei-niog, ac felly yn mlaen; ondy mae pob rhifedi cyd-rhwrig y nifer uchod yn draul ychwanegol i'w hanfon. Ychydig o ymdrech o du ein cyfeillion a godai y 5 i 8, a'r 9 i r 12. Yr ydym am anfon y sypynau hydy gellir gycla'r Rail, oblegid ei bod gymmaini yn rhatach; ac yr ydym yn cael ein dosbarthwyr yn mhob man yn garedig iawn yn ein cynnortlvwyo i berffeithio ein trefniadau. Fob archebion (orders) i'qo hanfon, a phob arian tw gwned yn daladwy i REV. H. E. THOMAS, 19, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool. Cg" Yr ydym yn ddiolchgar iawn i'r Dosbarthwyr ffyddlawn sydd wedi anion y tal yn llawn ddiwedd y chwarter. Talodd amryw yn rheolaidd ar ddiwedd pob mis. Dyna a hoflem, yn en we dig o'r lleoedd y mae nifer fawr yn myned. OND YE XDXM YN DISGWYL I BAWB LWYR WASTADHAU EU CYFIOTON AB DDIWEDD Y CHWAETEE. Cofiweh y rhai sydd ar ol yn hyn, fel na byddo raid i ddyweyd ond unwaith. Yr ydym yn ail ddiolch i'rlliaws ffyddloniaid. v iKT Y mae amryw wedi anfon atom i ofyn em telerau. xr eeddym yn tybied fod hyny yn ddigon eglur ar bob rhifyn; ond er mwyn gwneud y peth mor amlwg fel na ellir oamsymed. DALIEK SIIW:- A, Anfonir 1 rhifyn gyda'r Post am chwarter (13 wythnos) am 2s. 2c. Anfonir 4 rhifyn am 4s. 4c. 8 rhifyn am 8s. Am 12 rhifyn, ac uwch law hyny, rhoddir 2g. y swllt am Ddosbarthu. Nis gallwn ganiatau ychwaneg o elw, A'U RAN- TOIT TRWY Y POST. Caniateir y Postage wrth anfon yr arian o'r swm. Ymdreched ein cyfeillion godi y derbynwyr i 12 ac uchod bob wythnos, ac yna bydd rhywbeth iddynt am eu tra- ffertte. Er arbecl pob camgymmeriad, dymunir na byddo yr archebion yn cael eu gyru i'r argraphydd, ond yn ol y cyfarwyddvd i-Rev. H. E. Thomas, 19 Chapel Walla South Castle Street, Liverpool.
TELERAJJ AM HYSBYSIADAU.I
TELERAJJ AM HYSBYSIADAU. Chwe' llinell a than hyny Is. 6c. y tro. Am bob Uinell ychwanegol 3c. Hysbijsiadau am chwarter blwyddyn a throsodd, am brisiau llawer is. Dalier Sylw.-Cyhoeddir Hysbysiadau am Gyfariod ydd Pregetha, a Chymmanfaoedd, a Chymmanfa- oedd yr Ysgolion Sabbathol, a Chylchwyliau Dir- westol, a phob peth cyssylltiedig a chrefydd a moesoldeb am bris llawer is na hysbysiadau yn gyffredinol. AT EIN GOHEBWYR. Daeth yr ysgrifau canlynol i law er eyhoeddiad ein rhifyn diweddaf, sef eiddo Dewi ab Gomer, W. Williams, Gwilym Trefor, E. Jones, C. Ayron, Cadvab, Athan Fardd, D. Hewells Caerfyrddin, Gwilym Glan N edd, Iorwerth, Ab Callestr, Y Gwir yn erbyn y Byd.' GWYSTIONYDD a ddymuna hysbysu E. E., Tredegar, mai cys- tuddiau a marwolaethau yn ei deulu, a achosodd oediad cyhoeddiad 'Enwogion Sir Aberteifi.' Daw allan yn fuan, Pris 2s 6ch, J. WILLIAMS.-Byclcl yn dda iawn genym gael y llythyrau a nodwch. W. WILLIAMS, Glandwr.—Mae yn flin iawn genym na chyr- haeddodd y sypyn yna yn brydlawn. Nis gwyddom pa le mae y bai. Sicrbeir yn. y Swyddfa iddo gael ei anfon. Bethbynag nid eich bai chwi ydyw na buasai yn llaw eich derbynwyr. Ni feddwn ar ein rhestr hir ffyddlonach Dosparthwr. T. P.-Mae amryw heblaw chwi yn cwyno ar aneglurder ar- graff rhai o'r copiau. Yr ydym wedi rhoddi gwers dda i'r gwasgwyr, os oes dysgu arnynt hwy ddiwygiant. 'Y GWIR YN ERBYN Y BYD.Nicl yw yr hen weinidog a ddywedodd nad yw y Parch. W. Rees, D.D., yn bolitician,' yn werth cystal llythyr a'r eiddoch chwi. Pe buasai yr hen weinidog ei hun wedi ymyraeth llai a pholities, a thalu mwy o sylw i'w weinidogaeth. buasai yn well i grefydd ac i AnllI- byniaeth yn y dref lie y mae. W. W.-Alae y pennillion islaw ein safon, ymroddwch a gellwch lwyddo. G. TREFoR.-Dylai pob awdwr ddysgu sillebu ac ysgrifenu yn gywir cyn disgwyl i'r wasg anrhydeddu eu cyfansoddiadau. T. W.-Nid ydym yn gweled cymmaint o wahaniaeth rhwng yr hanes a anfonasoch i ni, a'r hwn a gyhoeddwyd yn ein rhifyn diweddaf, fel y mae yn werth ei ail gyhoeddi. Mae yr eiddoch chii yn gyflawnach; ond y mae y llall yn gywir mor bell ag y mae yn myned. -CORWERTII.-Nicl ydym yn gweled achos am lythyr mor ehwerw a phigog a'r eiddoch. Nid annerbyniol ydyw pob peth a ddigwydd gael ei daflu wythnos yn hwy na'n dymuniad. Yr oedd wedi ei gyssodi yr wythnos ddiweddaf, ond trwy ryw am- ryfusedd gadawyd ef allan. Gwelwch yr wythnos hon fod pob peth yn iawn. Llawen iawn genym glywed am lafur a gweith- garwch Mr Davies ac Eglwys barchus Tabernacl, Llandilo. Ardderchog y gwnaethant. L. P.—Yr ydym yn meddwl ein bod yn gywir yn y peth a wnaethom. Ni fynem yspeilio neb o'i DITL OS cafodd ef drwy arholiad neu fel pwynt o anrhydedd; ond os holwch credwn y cewch na chafodd y gwr y eyfeiriwch ato mo hono yr un ',o'r ddwy ffordd, ac nid ydym yn meddwl fod y gwr parchus ei hunan erioed wedi ei gyssylltu a'i enw. AT Y BE IKDD.—Da chwi trugarhewch wrthym, Y mae gen- nym y fath faich o Parddoniaeth nas gwyddom beth a wnawn a hwy. Mae pawb yn gwneud ei oreu yn ddiammheu. Dia- gwylir rhywbeth heblaw Barddoniaeth mewn newyddiadur. Derbyniasom y llythyr a ganlyn oddiwrth Mr J. Williams, o Goleg Caerfyrddin; a chan ei fod yn rhy ddiweddar i golofn ein gohebiaethau, gosodwn ef yn y fam yma. Y mae yn gwbl deg i'r gwr ieuanc gael gwneud ei amadiffyniad. Attaliasom bawb arall i ddweyd dim ar yr achos; am ein bod am ddwynjy cwbl i gylch mor gyfyng ag y byddo bosibl, ac mewn gobaith y terfynir ar hyn.
AT Y PARCH, MR. ROBERTS, LLANERCHMEDD.
AT Y PARCH, MR. ROBERTS, LLANERCHMEDD. BAECH. SrR,-Nid oeddwn yn meddwl gwneud y sylw lleiaf o'r Lleisiau,' a'r Casgliad Dwy Geiniog,' yn y TYST, oni bae eich bod wedi ymostwng i fy ngorfodi i amddinyn fy hun. Y mae yn syn genyf eich bod yn ymosod arnaf yn y fath fodd am wneuthur yr hyn a ddylaswn, heblaw fod yr ymosodiad yn an- nheiIA-ng lio honoch chwi fel un o frodyr parchus y weinidog- aeth. Tybiaf mai dyledswydd myfyriwr pan yn casglu tuag at y Coleg ydyw gosod i lawr yn yr Adroadiad' y swm a dderbynia hyd yn oed pe bae ddim ond ffyrling, ac os na wna hyny gellir ei gyfrif yn anonest. Hefyd ni ddarfu i chwi osod allan y ffeithiau yn gywir. Dy- wedasoch mai ar nos Wener y bum yn pregethu yn Llanerch- medd, pan y dylasech ddweyd mai ar nos Iau. Nid wyf yn meddwl i chwi wneuthur y camsynied hwn yn fwriadol dichon eich bod wedi anghofio. Dywedasooh hefyd mai ar yr heol y derbyniais y ddwy geiniog oddiwrth y ferch .fach: yr hyn sydd yn hollol gamsyniol. Ond gan eich bod wedi anghofio ar ba Boson y bum yn pregethu yn eich capel y mae yn naturiol i gasglu eich bod wedi anghofio hyn eto. Derbyniais y ddwv geiniog o'ch llaw chwi eich hun yn y cor mawr yn eich capel, oblegyd i chwi y rhoddodd y ferch fach hwynt, gan ddweyd ar yr un pryd mai at y Coleg yr oeddynt. Nid wyf yn meddwl ychwaith iddi eu rhoddi o honi ei hun oblegyd gwelais rhyw ■wraig yn ei gyru hi yn mlaen i'r man lie yr oeddych chwi a minnan yn sefyll. Felly gwelwch nad oedd genyf ddim i'w wneuthur ond gosod y ddwy geiniog i lawr gyferbyn a'r capel yn yr hwn y derbyniais hwynt. Bum yn ares am hir amser i chwi gyflawni eich addewid, sef casglu at y Coleg yn ol Haw, ond gan na wnaethoch hyny, me- ddyliais mai gwell oedd i mi osod i lawr ar yr Adroddiad' yr hyn oedd genyf mewn llaw, yn nghydag hanner coron y foxedd- iges garedig a danysgrifiodd. Gadawaf y cyhoedd i farnu pa un oedd yn iawn, gosod i lawr ar yr 'Adroddiad' y ddwy geiniog dderbyniais y flwyddyn o'r blaen tuag at y Coleg yn Llanerchmedd, neu rnteeu cadw i mi fy hun. Dymunaf i «hwi gofio hefyd i mi ddiolch i'r feroh fach' am ei rhodd yn eich clyw chwi. A bod genyf yr un faint o barch i eglwys Llanerchmedd a phe buasai wedi casglu i mi, so yn ddiolchgar iawn am y groesaw geflais ddi. < Yr eiddoch, &c., Coleg Caerfyrddin. J. WILLIAMS. Cyfeirier y Gohebiaethau oll-To the EDITOES OF THB TYSI CYIIBKIO, 19, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool.
AT Y CYHOEDD,
AT Y CYHOEDD, TeiirJai ysgrifenydd y nodyn byr hwn yn ddiolchgar iawn pe byddai; rYWUll fod mor garedig ag anfon iddo yr ADRODDIAD argra/lcdig o'r casgliadau a'r tanysgrifiadau a wnaed tua'r fl. 1836 neu 1397, er dileu dyledion addoldai yr Annibynwyr yn Nghymru. Bwriada'r ysgrifenydd wneud defnydd o hono yn nglyn a' Hanes y Cymmanfaoedd,' He y bydd yn ddyddorol iawn, ac yn foddion i'w gadw rhag myned i ddifancoll. -Lham- mheu fod yr Adroddiad, yr hwn a argraffwyd yn llyfryn bych- an, ar gael a chadw ganrywunneu gilydd. Ymrwyma yr ys- grifenydd ei ddychwelyd, os anfonir ef iddo cyfeirier ;-REV. J. LL. JAMES, WHITCHUBCH, CARDIFF.
t !Jthuo. --
t !Jthuo. DISGWYLIR y bydd i'r Frenhines ddychwelyd o Balmoral i Lundain, un o'r dyddian nesaf. Dywed un o newyddiaduron y brif ddinas fod ei Mawrhydi yn ymwroli, ac yn ymgryfhau, ac y byddiddiymddangos yn gyhoeddus ar achlysuron o bwys, fel yr arferai :wneud cyn dyddiau :ei galar. Ond gan i hysbysiad cyffelyb gael ei gyhoeddi fiwyddyn yn ol, a chan na chyflawn- wyd y broffwydoliaeth hono, yr ydym yn hwyr- frydig i dderbyn a chredu y pethau a ddywedir yn y cyfeiriad hwn. Cychwynwyd tanysgrifiad dydd Sadwrn, gan Babyddion cyfoethog Llundain, er prynu Minie rifles, breach-loaders, a revolvers i fyddin y Pab. Casglwyd 1000 gini mewn ychydig oriau. Prydnawn dydd Sadwrn, trymhaodd wyneb y ffurfafen, deuai y gwynt allan o'i loches, ac ymsymudai y cymylau fel teithwyr blin dan feichiau rhy drwm i'w dwyn yn hwy, a deallai morwyr profiadol Liverpool, ac Arfon, a Mon, fod ystorm fawr gerllaw. Yn mhell cyn toriad y wawr foreu y Sul, deffrowyd lluoedd yn foreu- ach nag arferol gan ruthr y gwynt a chwibaniad y corwynt. Yr oedd swn y gwynt yn ddych- rynllyd—swn dolefiis un euog yn galw i'w gofy difrod a'r dinystr a wnaethai wrth groesi o'r Iwerddon i Gaergybi a Liverpool. Am wyth, a naw o'r gloch disgynai y gwlaw yn llifeiriol yn Liverpool, a'r ardaloedd cyfagos, ond cliriodd yr awyr ychydig erbyn amser yr addoliad boreuol. Deallwn i Lundain hefyd deimlo yr ystorm; dyryswyd y cynulleidfaoedd yno foreu y Sabbath gan fod ly gwlaw yn ymdywallt ar yr amseei gychwyn i'r addoldy. Ar y mor yr oedd pethau yn fwy [dychrynllyd fyth; yn agos i Gaergyb suddodd llong o'r enw Earl of 0 hester, ar e thaith o Liverpool i Madras, a boddwyd y mor- wyr bob un-deunaw mewn rhifedi. Yr wythnos hon y mae 26 o Ffeniaid yn cael eu profi yn Manchester. Y maent oil yn cael eu cyhuddo o fod yn gyfranog o lofruddiaeth yr heddgeidwad Brett. Y barnwyr ydynt, yr Ynad Mellor a'r Ynad Blackburn; y cyfreithiwr cyffredinol, Syr J. Karslake, a Mr. Higgin sydd yn erlyn, ac amddiffynir y carcharorion gan Sergeant O'Brien, Mr. Digby Seymour, Mr. Cottingham, a Mr. Ernest Jones. Cynaliodd ynadon Manchester gyfarfod dydd Sadwrn, pryd y penderfynasant fod pob un Sydd a'i enw ar restr y dinasyddion yn agored i gael ei alw fel heddgeidwad neillduol. Mae yr holl dref yn dawel. Yr ydym newydd ddarllen llythyr wedi ei ysgrifenu gan un o garcharorion Abyssinia, yr hwn a ddywed fod y wlad mewn gwrthryfel yn erbyn Theodorus, a Theodorus wedi colli ei ym- ddiried yn ei ddeiliaid, a'i filwyr, a'i weision; fod cigyddiaeth farbaraidd yn cael ei chyflawni yn enw y llywodraeth, fod gwragedd o fonedd yn cael eu trin mewn dull rhy ffiaiddi'w adrodd, fod babanod diniweid yn cael eu rhoddi i farw- olaeth yn daledigaeth am enciliad eu tadau o fyddin yr Ymerawdwr, fod ymborth yn myned brinach brinach, fod y typhus fever yn gwneud difrod ofnadwy, a bod rhifedi y lladdedigion yn fawr. Ofnir, er i'r carcharorion ddianc rhag Hid Theodorus, y byddant feirw o newyn, oddi- eithr iddynt dderbyn ymwared yn fuan. Yn ddiweddar, anrhegodd y Milwriad Merewether yr Ymerawdwr a thelescope, ond yn lie diolch am dano, efe a ffromodd yn aruthrol, ac fel hyn y ceisir esbonio y tramgwydd :-Pa.n gynygiai yr Ewropiaid egluro pethau perthynol i Ewrop i'w Fawrhydi, mewn atebiad arferai ddiareb adnabyddus yn Abyssinia, yr hon sydd yn dywedyd-H Dall wyf:fi!" Pan dderbyniodd Theodorus y telescope, efe a farnodd mai rhyw offeryn ydoedd i agoryd llygaid y dall, oherwydd paham cyffrowyd ei ddigofaint barbaraidd yn fawr. Anghredadwy y bernir ganddo y gall Lloegr ei alw i gyfrif am ei draha a'i drawsedd. Nid oes ond un dyn yn ei clftll," ebe Higel, am philosophi, ac nid ydyw yntau yn ei deall." Gallem feddwl mai rhywbeth cyffelyb yw profiad Napoleon, a Victor Emmanuel, a'r Pab, o barth sefyllfa Itali a Rhufain. Nyni a wyddom fod Napoleon wedi anfon ei gatrodau yno, fod y Pab wedi gadael y Vatican, fod Victor Emmanuel yn ceisio gostegu y terfysg, a bod Garibaldi yn ymladd brwydrau rbyddid. Ond os gofyn rhywun i ni, Pa beth a fydd y foru yn Itali neu Rhufain ? mae yn rhaid i ni ateb yn wylaidd, nas gwyddom. Cyfyng iawn ydyw ar Frenhin Itali; mae y ddiareb "Happy as a King," yn ddirgelwch nad wyr ef druan nemawr am dano. Cul yw y llwybr mae yn ei deithio, a dyfnder mawr sydd ar bob llaw. Y mae ei gyfammod a Napoleon yn ei rwymo i adael llonydd i Rhufain; ond y Garibaldi a'i ganlynwyr brwdfrydig a gwladgar- ol, a gwrthbabol, yn dal i waeddi, Bhufain neu angeu Pa wedd bynag a gymer pethau yforu, neu yr wythnos nesaf, neu y fiwyddyn nesaf, mae llywodraeth dymorol y Pab wedi eu rhifo. 0 lanau y Tiber y daw llais, ac o eithafoedd y ddaiar y daw adlais, yn dywedyd, SYRTHIODD, SYRTHIODD, BABILON FAWR."
GARIBALDI A RHUFAIN.
GARIBALDI A RHUFAIN. Dyma act arall o'r ddrama fawr wedi dechreu, dau actor newydd wedi ymddangos ar y chwareufwrdd. Diangodd Garibaldi o Caprera trwy ganol y llongau rhyfel oedd yn amgylchu yr ynys i'w wylio. Aeth yn ei flaen trwy ganol Itali, a thrwy ganol Florence, y brif-ddinas, gan ail danio'r Italiaid yn mhob man i angerddoldeb mwy nac erioed am feddiannu Rhuf- ain, arhoddi y dyrnod marwol olaf ar ben y Babaeth. Aeth o Florence yn ei flaen tua Rhufain cafodd tua phedair mil o wirfoddoliaid ar gwr tiriogaethau y Pab; arweiniodcl hwynt ar gyfeiriad Rhufain cyfarfu ag adran o fyddin y Pab gerllaw tref o'r enw Monte Rotoxdo, ac wedi brwydr galed, llwyr orchfygodd hwynt. Aeth y newydd ar aden y fell- ton i Paris, a dyna orchymyn oddiwrth L. Napoleon i lengodd o filwyr ymadael yn ddioed o Toulon, a hwylio ar uniongyrch tua Rhufain, i waredu Pio .Y Nono a'i babaeth o'u perygl a'u cyfyngder, ac y maent cyn hyn wedi cyrhaedd Civitta Vecha, os nid Rhufain ei hun. Y mae Victor Emmanuel, druan, mewn benbleth ddirfawr. Methodd Cialdini a ffurfio Geinyddiaeth, a gorfuwyd galw y Cadfridog Menabrea i gynyg ar y gwaith, ac ychydig iawn o obaith sydd yn ym- ddangos y gall hwnw lwyddo i gyfanu llywodraeth alluog i sefyll i fyny, a dal ei ffordd ond am ychydig iawn o amser yn wyneb yr amgylchiadau presenol. Y mae yspryd Itali yn eirias fyw trwyddo oil —Uenwir ei hawyr a llefau, Rhufain Rhufain ? ac y mae holl fynyddau a chreigiau y wlad yn adsain bendithion ar ben Garibaldi, a melidithion ar ben L. Napoleon, a dorant allan fel taranau cryfion o waelod calon cenedl gyfan o ddynion. Anfynych yn hanes y byd cyfirous hwn y gwelwyd enghraifft gyffelyb o genedl gyfan o bobl wedi cyfiroi a chyth- ruddo trwyddi i'r fath raddau ac y mae Itali yn awr. Nid ymddengys ei bod yn bosibl y gall Garibaldi a'i ddyrnaid o wirfoddoliaid, heb nemawr i ddim o adnoddau wrth eu cefnau, wrthsefyll gallu Ffrainc. Y mae Victor Emmanuel a'i gynghor wedi eu taro"a syfrdandod a braw, yn methu gwybod beth i'w wneud. Teimlant yn rhy weiniaid i ddarostwng yr yspryd sydd wedi meddianu Itali, ac yn rhy wein- iaid i fyned i ryfel a Ffrainc. Gobeithiwn fod L. Napoleon, beth bynag, yn chwareu ei ystranc olaf yn awr, ac y cyst hono yn ddrutach iddo yn y can- lyniad nac un stranc arall yn ei fywyd. Y mae weithiau wedi llwyr andwyo a damnio ei enw am byth, ac erys collfarn hanesyddiaeth ar ei goffadwr- iaeth hyd ddiwedd oesau. Odid fawr nad ydyw yn yr act ddiweddaf pan yn canu cnul ei drancedigaeth ei hun a'i awdurdod. Y mae rhyw derfynau na oddefir i angenfilod o'r fath fyned trostynt heb i ddialedd eu goddiweddyd. Gallai fod dydd cwymp y cynnorthwyedig" Pio Nono, a'r cynnorth- wywr L. Napoleon yn nes nag y mae neb yn tybiep ei fod. Pa fodd .bynag, yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, a'i amcanion Ef a gwblheir, a'i gyngho Ef a saif."
MARWOLAETH CREUDDYNFAB.
MARWOLAETH CREUDDYNFAB. Mae genym yr wythnos hon y gorchwyl gofidus o groniclo marwolaeth yr hynaws a'r serchog Creu- ddynfab. Bydd ei golli yn golled fawr i Farddcn- iaeth a Llenyddiaeth Cymru. Yr oedd yn fardd galluog, yn fe irniad teg, ac yn un o'r dynion mwyaf gwybodus a meddylgar. Bu yn gwasanaethu fel Ysgrifenydd i'r Eisteddfod, ac mor belled ag yr oedd cymhwysderau llenorol yn myned, nid oedd yn bosibl cael neb gwell. Nid ydym yn sicr ei fod mor fedrus yn y business part, ond bu gorfod iddo roddi i fyny ei gysylltiad swyddol a'r Eisteddfod o herwydd sefyllfa ei iechyd. Yr oedd yn gwaelu er ys tro, ac aeth yn ddiweddar i Drefriw am ieehyd, a thybid ei fod yn gwella yn raddol ond yr oedd angeu wedi ei farcio, ac unwaith y gesyd y gelyn ei law ar ddyn, nid oes bwrw arf au yn y rhyfel hwnw.' Yr oedd Creuddynfab yn un o wir feibion athrylith, a theimlir chwithdod a hiraeth gan lawer ar ei ol. Bydded nawdd Rhagluniaeth dros ei weddw a'i amddifaid,
[No title]
Dywedir fod Ei Huchelder Brenhinol Tywysoges Prwssia. (merch henaf ein Brenhines), yn bur glaf, ae mai dyma y rheswm na buasai hi a'i phriod wedi cyr- haedd i'r wlad hon yr wythnos yma.
ftA itejlMeit Sramor.
ft A itejlMeit Sramor. Pa fodd y diangodd Garibaldi ?—Ystyrir ei waith yn dianc o Caprera yn un o brif orchestion ei fywyd. Gwylid ef yn fanwl gan saith o longau rhyfel, ond modrodd eu hysgoi hwynt oil. Yr oedd ei fab-yn- nghyfraith, ac ychydig gyfeillion eraill, wedi ym- wisgo fel pysgotwyr, ac aethant mewn ewch yn nghyfeiriad yr ynys, gan bsnderfynu ei ryddhau; ond gorchymynwyd hwy gan y mor-filwyr glldw draw i bysgota, fel na chaent gyfle i fyned i Caprera. Ond cymmerodd y gwron y mater yn ei law ei hun. Yr oedd wedi cuddio cwch bychan rhwng y ci«igiau er pan y deallodd ei fod yn cael ei wylio ac ocldeutu pedwar o'r gloch y boreu, Hydref 15fed, neidiodd i'r cwch gyda Basso, ei ysgrifenydd. Yr oedd wedi taflu ei wallt yn ol, ac ymwisgo mewn cap coch, a chob werdd pysgotwr. Rhwyfodcl yn mlaen heibio y llongau rhyfel; a phan y galwyd arno i roi cyfrif o hono ei hun gan lywydd y Prince Humbert,' dy- wedodd mewn priod-ddull Genoaidd, ei fod yn myned i bysgota ar y tueddau. I Dos yn dy flaen,' meddai y swyddog. Cyrhaeddodd i Maddelena; ac wedi ymguddio yno am ddiwrnod a noson, aeth ar draws yr ynys, ac oddi yno mewn cwch i Sardinia, ac wedi bod am 17 o oriau heb fod mewn ty, cyrhaeddodd Prandinchi, a glaniodd ar y 19eg o Hydref yn Vadda. Cyrhaeddodd i Florence, ac wedi cael ymddiddan ag amryw o'i gyfeillion, a rhai o ddynion o bwys yn y llywodraeth, aeth yn mlaen at ei fab Menotti, tua thiriogaethau y Pab. Ffrainc yn anfon Milwyr allan.- Wedi i Napoleon ddeall fod Garibaldi wedi dianc, anfonodd lynges allan boreu ddydd Sadwrn, i Civita Yecchia, a glan- iodd y milwyr yno boreu Llun. Anfonwyd ail lynges o Toulon, ac y mae rhagor o filwyr yn ymgasglu yno. Par yr ymyriad yma o eiddo Napoleon gynhwrf dir- fawr trwy Itali, a thrwy Ffrainc ei hun, lIe y dat- ganir yn ddifloesgni, heb ofn yspiwyr, fod yr Ymer- awdwr yn prysuro dinystr Ffrainc. Gwrhydri Garibaldi.-Wecli cyrhaedd at ei fab, dechreuodd drefnu ei filwyr, ac arinogodd iddynt fod yn ddyfalbarhaus a diysgog, a thaflodd yspryd new- ydd iddynt fel y cyfeiriasant tua Rhufain, yn 4 i 5 mil o nifer. Ddydd Gwener, bu Bnoydr Fawr 31onte Rotondo. Ymosodwyd ar y dref hon gan o ddeutu mil o'r Garibaldiaid, o dan arweiniad Ghirelli ac Atorno, y rhai a daniasant un o byrth y dref. Dywed y new. yddion Rhufain, i filwyr y Pab eu gwthio yn ol, gan ladd llawer o honynt, ac yn eu plith llywydd y fintai. Ond ymddengys i'r Garibaldiaid gael eu hadnerthu gan finteioedd eraill, a chan encilwyr lawer o fyddin Itali, fel yr oedd gan Garibaldi o 10 i 12 mil oddi dano, pan y gwnaed ail ymosodiad ar y lie o dan ei arweiniad personol ef eiorchfygwyd milwyr y Pab ar ol brwydr galed, a chymmerwyd 100 o honynt yn gareharorion, a thri o fagnelau, ac ymlidiwyd ar ol y lleill. Garibaldi o flaen muriau Rhufain.-Cyhoedtla am- ryw o newyddiaduron Paris ei fod wedi cyrhaedd o flaen Rhufain nos Sabbath, lie y mae un neu ddau o derfysgiadau wedi bod eisoes. Y Pab wedi ffoi o'i Balas.-Y mae y Pab wedi gadael y Vatican, ac wedi myned i Castell Angelo. gy Weinyddiacth yn Itali.—Methodd Cialdini a ffurfio gweinyddiaeth, ac ymddiriedwyd y gwaith i'r Cadfridog Menabrea, yr hwn, meddir, sydd wedi llwyddo, ar yr ammod i'r Brenhin wadu pob perth- ynas a gwaith y Garibaldiaid, ac ymuno a milwyr Ffrainc i'w cadw i lawr; ac y mae yntau wedi cy- hoeddi datganiad i'w condemnio, ac ar yr un pryd addawa wneyd yr oil yn ei allu i gadw anrhydedd Itali. Dywedir fod milwyr Itali wedi croesi i clir- iogaethau y Pab. Llywodraeth Ffrainc ac Itali.- Y mae Ffrainc yn gwrthod cyduniad milwyr Itali i ddarostwng y Gari- baldiaid. Dywed llywodraoth Ffrainc ei bod yn disgwyl gallu cyfyngu y rhyfelgyrch i laniad y mil- wyr yn Civita Vecchia. Dywedir fod y llynges wedi cael ei hattal gan ystorm, fel nad allwyd glanio hyd ddydd Mawrth. Daliad Tri Chant o Filwyr y Pab.-Cymraerodd Garibaldi dri chant yn garcharorion yn mrwydr Monte Rotondo. Cynnorthwy Prwssia i Itali.-Cyhoeclda y Globe, ac amryw newyddiaduron eraill, na bydd i Prwssia oddef i Ffrainc wneud rhyfel yn erbyn Itali, er y saif yn ganolog yn achos Rhufain. Arlywydd dyfodol America.-Y mae y Radicaliaid wedi cynnal amryw gyfarfodydd mawrion i bleidio y Cadfridog Grant, fel ymgeisydd am yr axly wyddiaeth, ac y mae tebygolrwydd mawr y bydd iddo gael ei ethol. Cyfraith Priodas yn Awstria.-Y mae y senedd wedi pasio trwy fwyafrif mawr, i wneud priodas yn bwnc-gwladol, fel y gall rhai o wahanol gredoau ymuno a'u gilydd; ac os gwrthoda yr offeiriad roi ei fendith ar yr undeb, gellir myned yn mlaen ar y cytundeb gwladol heb ei gymhorth. Dyma y toriad cyntaf ar y concordat, ac y mae yr adranau eraill yn sicr o ddilyn.
DRYLLIAD TAIR 0 LONGAU.
DRYLLIAD TAIR 0 LONGAU. Colliad 18 o Fywydau. Daeth y newydd i Liverpool nos Sadwrn, am ystorm ddychrynllyd yn St. George's Channel, rhyngom a'r Iwerddon, pryd y drylliwyd llawer o longau ar draethau Cymru. Derbyniwyd y newydd gyda'r pellebyr o Milford am lestr o'r enw Elizabeth Brown, yn rhwym o Glasgow am Buenos Ayres, wedi dod i mewn i'r porthladd yno wedi dryllio yn fawr, a chwe' troedfedd o ddwfr i mewn ynddi, ac wedi dyfod wrth darawiad a'r llestr arall tua allan i'r Smalls. Daeth newydd llawer mwy gofidus gyda'r pellebyr o Gaergybi, am y llestr The Earl of Chester, Capt. Nancollis, yr hon a hwyliodd o Liverpool dydd Iau diweddaf am Madras, ac a ddrylliwyd wrth greigiau Mon, o gylch dwy filldir o Ty Croes Station, ag y collwyd yr hollddwylaw ar y bwrdd, a dywedir fod o 14 i 18 o bersonau ami. Gyda thoriad y wawr boreu Sabboth, golchwyd corph benyw i'r lan, gwraig y Capten fel y tybir. Tuag amser drylhad y Hong, gwelwyd dwy neu dair o longau mawrioa eraill yn y cymydogaeth, ond tybir iddynt gael allan yn ddiogel. Bernir fod y brig Triumph, Capt Bray, a hwyliodd o Liverpool yr un dydd a'r Earl of Chester, wedi ei dryllio yn llwyr ar y traeth, heb fod yn mhell o Trevadog, ond achubwyd y dwylaw oil mewn cychod bychain. Ofnir y ceir clywed am lawer o ddrylliadau a cholledion yn ychwanegol.
[No title]
Cyrhaedda. y genedigaethau uwchlaw y marwolaeth- au yn Lloegr yn awr, dros fil y dydd. Dedfrydwyd merch ieuanc yn Allowa, i dair wythnos o garchar am gofrestru ei phlentyn fel un cyfreithlon, tra y gwyddai mai un anghyfreithlon ydoedd. Ganwyd mab i un Mrs Murphy, ar fwrdd yr agerlong St. Patrick, pan ar ei mordaith o Dublin 1 Liverpool, nos Sadwrn diweddaf. Y map y fam a r plentyn yn dod yn mlaen yn dda. Bwriada Mrs M. iyned 1 r America at ei gwr.