Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

TBETH Y OWN (

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TBETH Y OWN (<BG3 LICENSE'). Mri Golygw,-r,-Dymunaf gael cyfran o'ch new- yddiadnr clodwiw i gael dyweyd gair o herwydd yr annhegwch sydd yn y gyfraith hon, fel y mae yn bresenol. (Joron am bob ci oedd ei gofyniad, a di- rwy drotm ar bawb a esgeulusent dalu am y drvrydd- ed. (Gyda llaw, a'i chymmeiyd ya ystyr gyfyngaf y gair, gall fod gast yn ddidreth fel y wag' hwnw gynt yn y Meeting Appeal, pan ofynwyd iddo y rheswm oedd ganddo dros beidio talu am geffyl. 0,' ebe fe, nid wyf yn cadw yr un.' Beth ydych yn geisio yma, ynte t' I Gyda'ch cenad, foncclcdgion, chwi roddodd notice i mi wneud hyny,' oedd ei ateb parod. Walk out then, old man, you are free.' Gyda'r gair, yr oedd allan, ac yn falch fod ganddo gaseg i'w gario gartref.) Ond trwy ryw ddiofalwch, y mae llawer clust-drwm wedi cadw ei gymnaysg-gi diangenrhaid heb fod un goron yn llai yn ei goden, tra y map llawer cynnil-ddyn cul-damaid ar gwr y mynydd wedi gorfod crogi ei gorgi, am nad oedd ganddo goron i'w hebgor. Onid yw pethau fel hyn yn annheg ? Ac oni ddylid bod yn fwy llygad-graff i edrych ar fod pob ci wedi cael 4 goruchwyliaeth y gorden,' neu fod y goron wedi ei thalu am drwydded i'w gadw ? Camwedd yw fod rhai yn talu, tra y mae eraill yn cael cadw eu ewn yn ddisylw, a'r rhai hyn yn hollol ddieisiau yn cael eu gadael yn rhyw haner stray dogs i grwydro ar draws tai eymmydogion a-n ysglyfaeth. Ac yn wir, pe byddai perchenogioa y cyfryw gwn yn cael eu galw i gyfrif am na fuasent yn tala, fe a'tlai y byddent yn rhydd i wadu mai nid eu heiddo ydynt, neu fod ganddynt ryw scheme, fel yr hen ffarmwr cyfrwys hwnw gynt, a ddywedaimai pistolion oedd o yn gadw er gyru ei anifeiliaid; felly daeth yn rhydd o dalu treth y cwn, o herwydd ni wyddai y boneddigion mai pistolion oedd o yn galw ei gwn. Y mae cymmaint o anghyssondeb hefyd ynnhreth y ceffylau, os nid mwy, o herw; ad y mae llawer yn marchogaeth nad ydynt yn talu am geffyl i'r perwyl. Bu y si yn y wlad fod y gyfraith hon hefyd yn myned dan gyfnewidiad sef hyn a hyn am bob ceffyl, yr un fath a'r cwn. Diau, os gwneir cyfnewidiad, y bydd yn gyfnewidiad er gwell i'r gwvr mawr,' a'r gwan gweitbgar gael eu gorthryrma. Mae yn eithaf amlwg fod y cyfnewidiad a wnaed yn nhreth y cwn yn gaffaeliad iddynt, o herwydd y mae pum swllt yn llai as. deuddeg swllt yr un i dalu am haid o helgwn direidus. Ac yn lie hyn, mae y ffermwr gweithgar yn gorfod talu am ei gorgi angenrheidiol i wneud i fyny y cliffyg-I Trecha treised, gwana gwaedded.' Rhwng pob treth, ardreth, a'r gwahanol daliadau sydd ar y ffarmwr, os na ddaw rhywbeth, aiff yn gwla o geiniog i hebgor am newyddiadur. Castellnewydd Emlyn. SOBRIQUET.

NODIADAU HWNTFORAWL

---CARTREF DEDWYDD.

Y BALLOT.'

I YR HEN DEILIWR, .