Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
PWFFYDDIAETH.
PWFFYDDIAETH. LEWSY O'R HEWL, A IANTO'R GOP. lanto.-A. fyddi di yn darllen rhai o'r papurau newyddion yma, Lewsyn ? Lewbyn.—I darllen nhw, na fyddaf goeliai; a ddar- llenai tithau mo honynt Laet ti yn gwybod cymaint o'u hanes ag a wn i. Ond fu Mocyn y Crown yn yn briater, neu yn rhywbeth yn office y printer; ac mi clywais o yn dyeyd syt y bydda nhw yn gneyd. lanto. -Sut y bydda nhw yn gneyd beth. Wyt ti ddim yn ddigon dwl i feddwl eu bod yn gneyd newyddion, ond cael y newyddion maent oddiwrth bobl yn yr ardaloedd lie y byddo y peth wedi dig- wydd. 0 Lewsyn —Ai dyna wyddost ti etu, aie, lanto, wedi dy holl fwstwr yda. phapurau newyddion; na choeliai fawr, nid pobl yr ardaloedd sydd yn anfon y newyddion, ond pwffio eu hunain y mae y taclau lydclo yn actio mewn lleoedd fell). A wyt ti yn cofio hanes concert Rhydgoch yn y papur bach a'r gaumoliaeth fawr oedd yn cael ei rhoddi i Gutto'r Coed, a Betto'r Waun, am ganu Titw, titw." lanto.—Ydvv, o'r goreu; hanes da bur oedd hwnw hefyd. Lewayn.-Wel, Gutto ei hunan a yrodd y cwbl i'r pal.)iir,-GLitto oedd yn deyd fel yr oeddynt yn cheerio pan daeth Gutto i'r platform, a Gutto oedd yn deyd fe) yr oeddynt yn encorio Gutto ar ol iddo ganu ae fel y bu raid i Gutto a Be to ail ganu, a'r boll sebon oedd ar yr hanes. Gutto ei hun a'i hys- grifenedd hi bob darn am dano ei hun, a. fll. dim o'r fath beth yn y concert ? dim, ond pwffyddiaeth Gutto iddo ei hun oedd y cwbl, trash fel yna sydd yn y papurau. lanto. —Ie, ond un ydyw hwnyna, ac nid oes fawr 0 bethau fel yna yn cael myned i mewn. l,ewsyn. I)yn a dy helpio di lanto bach, fel yna mae y cwbl agos. Dyna 1 anes Darlith Will y iMioliwr oedd yn y papur wrth ddarllen yr hanes gallasai dyn feddwl fod yno lon'd yr ysgoldy o bobl, a'r rhai by in yn d&n wrth wrando, a pbawb yn deheu am y Rholiwr yno wedyn, ond dim o'r fath betb. Nid oedd yno ddim clau ddwsin o honom i gyd a Will y Rholiwr ei hun yKgrifvnodd yr banes a Dei Bach ni chopiodd 0 i'w anfon. N,d oes dim coel i'\v roi lanto ar hanesion y papurau yna. Pwff ydyw y cwbl. Bydd ambell i bregethwr pan y daw i gyfarJod yn rhwbio ac yn ffalsio i ryw hogyn ?ydd yn galw ai hun yn Ohebydd, er mwyn i hwnw roddi pwff iddo yn y papur yr wythnos wedi byny. Mi gymera fy llw i mi weled hanesion am gyfarfodydd mewn papurau na f uasai y bobl fu ynddynt byth yn eu nabod wrth weled yr hanes yn y papur gan mor anhebyg oeddynt. Dawn ni yn eael papur heb bvvffyddiaeth ynddo, mi cymerwn ef, ac mi darllen- Wn 0; a hyd hyny yr ydwyf wedi gwneyd llw yn eu herbyn, Ianto.-Wel, yn wir fyddwn ni yn cymeryd pob iane3 fel gwirionedd. Feddyliais i erioed y buasai neb yn anfon celwydd i brint. Mae tipyn o gelwydd gan of, neu grydd, neu deiliwr, yn oddefol, ond y nae cyhoedai celwydd mewn papur newyvld yn rhy rwg hefyd. Mi fyddaf linau ar fy watch mwy. Lewsyn.-fe, yn wir, lanto. Na choelia pob cleiriechyn A fyno fod yn fawr, Sy'n stwffio 'i drwyn drwy feapur, Gan geisio bod yn gawr Ithe strap ar gefh y pwffwyr, Sy'n 11awn mewn tref a gwlad A r man ohebwyr coegion. Sy'n r papurau rhad. ASTE-PWCT.
. TRO YN NGHAERLLEON.
TRO YN NGHAERLLEON. Cawsom yr hyfrydwch o fod yn y lie hynafol uchod y Sabbath cyn y diweddaf, Hydref 13. Y mae i'r lie hwn In o hynodion deniadol i'r hynafiaethydd ac y y mae ganddi ei hanes sydd yn llawn dyddordeb i bob Cymro gwladgarol. Nid y naill na'r llall o'r pethau yna gaiff ein sylw y tro hwn. Cynhaliodd yr Amnibynwyr gyfarfod pregethu-y Parchn. W. Rees, D.D., Liverpool, a T. Rees, D.D., Abertawe, yn gweinyddu. Gwelir fod yno wyr urddasol. Nid ar- ferwn hyfdra i geisio beirniadu y pregethwyr, na'r pregetbau, megys y mae arfer rhai; ie, ysywaeth, lawer yn ein dyddiau ni yn Nghymru. 4 Pa ham,' meddai y bobl ddysgedig hyn, na ellir beirniadu pregeth yn ogystal a rhyw ddernyn, neu gynnyrch arall Ilenycldol?' Gellir g'ofyn i'r doeth-ddysgedig- .ion hyn, Beth ydyw dyben pregethu yr efengyl? Ac ar ol iddynt gael atsbiad cywir a boddhaol, gofyn- em drachefn, Pwy sydd gymhwys i feirniadupregeth? Yn sicr, y mae y dosbarth hwn yn dal nes perthynas i'r un drwg' nag y mae llawer, fe allai, yn feddwl. Y maent drwy eu hymddygiadau yn amcanu troi min yr 6 arfau nad ydynt gnawdol,' yn atal grym ergydion y weinidogaeth iigyrhaedd calonau a chyd- wybodau dynion; a'r hyn sydd fwy ofnadwy yn eu perthynas a hwy, y maent yn codi gwrthglawdd rhwng dylanwad yr efengyl a'u calonau eu hunain. ac yn trysori iddynt eu hunain ddig-ofaint erbyn dydd digofaint.' Hyderwn nad ystyrir ni yn myned o'r ffordd wrth wneuthur y sylwadau hyn. Y mae y gwag a'r coeg feirniadu, fyth a hefyd, a welir, fel, llysnafedd budr, hyd wyneb ein papurau newyddion, yn galw am i rywun godi ei lef, a thystio yn ei erbyn. Dymunem ddyweyd ychydig mewn perthynas i eglwys Annibynol Caerlleon. Buom ynymddyddan a rhai o'r cyfeillion yno am dani a hyderwn nad annymunolfydd ryw fras hanes ohoni i ddarllenwyr y TYsT. Nid ydyw yn hen iawn—o ddeutu ugain oed. Y mae iddi, er hyny, hanes dyddorol, ped ym- gymmerai rhywun a'r gwaith o'i gasglu at ei gilydd. Dechreuodd ei gyrfa mewn lie bychan a diolwg, ac anghyfleus hefyd—Back Brook Street; a thrwy ffyddlondeb a diwydrwydd yehydig o gyfeillion, llwyddodd drwy lu o anfanteision ac y mae gan eglwysi trefydd LIoegr eu rhwystrau lia wyr eglwysi yn Nghymru ddim am danynt. Cymmaint o ddyfod- iaid a mynediaid, fel trai a llanw y mor ond o'r rhai hyn y mae rhai yn aros; a thrwy ofal a sel y rhai sefydlog, llwyddir i gael gan rai newyddion i ymaflyd yny gwaith, a chymmeryd dyddordeb ynddo yn lied fuan. Y mae yn wir ddarfod iddi gael ei blino a'i harcholli gan rai; ond y mae ganddi gof melus am lawer eraill a roddasant help llaw iddi ar y ffordd. Wedi bod yn Back Brook Street am amryw flyn- yddoedd, symmudoekl i Pepper Street-Ile llawer mwy cyfleus na'r llall; ond gofidus ydyw deall nad ydyw yn eiddo iddi ei hun—mai llogedig ydyw, a'i bod yn talu 20p. yn flynyddol am dano. Wedi bod yn y lie hwn am o ddeutu dwy flynedd, meddyliodd ei bod yn ddigon hen acyn ddigon cymhwys i briodi. A'r un y rhoddodd arno ei serch, fel y mae yn hysbys bellach i'r holl eglwysi, ydoedd y Parch. H. Rees, mab y Parch. W. Rees, D.D., Liverpool; ac fel y g-allem gasglu, bu yn briodas ddedwydd. Yn mhen ychydig fisoedd ar ol ei phriodi, daeth at ei chalon i ail ddodrefnu y ty-cael seti yn He meinciau ynddo, a chael organ i gynnorthwyo y canu. Costiodd y cyfnewidiad hwn iddi o gylch 120p.; ac os deallais yn iawn, y maent wedi eu talu. Yr oedd yn dda genym ddeall fod yn yr eglwys anesmwythder am gael capel newydd. Yr anbaws- der mawrydyw cael tir. Ond hyderwn y cant Ie yn fnan; ac os deallais yn iawn, y mae ganddynt le mewn golwg. Gobeithiwn y bydd iddynt ei gael, ac y bydd iddynt gyfodi addoldy teilwng o honynt eu hunain—o'r enwad Annibynol, ac o'r achosmawr a broffesant. Hyderwn na wna hi ddim cymmeryd yn angbaredig arnom am adrodd ei hanes fel hyn drwy y TYST. Treuliasom ddiwrnod wrth ein bodd yn Nghaer. Ymwelydd.
-----_-__----'----LLOFFION.
LLOFFION. Fjorgoldyn.—Digwyddodd i dipyn o ymrafael gymmeryd He flynyddoedd yn ol yn Bettws-y-coed, rhwng dau hen frodor gwreiddiol a adnabyddid gan eu cymmydogion wrth y llys-enwau-Robin Dene, ac Owen y Gof. Ac ar ol i'r ddau hen gyfaill dwymno yn iawn, a defnyddio eu holl ddoniau a'u geiriau mwyaf blaenllym-pan oedd y ffrae wedi cyrhaedd ei heithaf, gwaeddai Robin yn groch, gan daywe(lyd, I Ff)rgoldyn i ti, Owen y Gof.' Beth ydi hyny, dywed Robin ? gofynai Owen. Ystyr y gair ydi—Mi allaf fyw hebddot ti,' atebai Hobin. Wel gafr a'm yspio i, fforgoldyn i tithau,' ebai Owen. Ac felly terfynodd y ffrae, ac aeth pawb i'w fan. I Prydio-ndeb.-Dywedir fod Arglwydd Nelson yn cael dodrefn newyddion i'w gabn un tro, a dywedai wrth y gwr oedd yn eu gwerthu y byddai yn rhaid eu bod yn y fau a'r fan o'r hyn bellaf erbyn chwech o r gloch y boreu; ac atebodd hwnw yr an/'onai y cwbl erbyn chwech o'r gloch yn ddiffael. Na. e ebe Nelson, by tided eu bod yno ellwai-ter-eyl) chwech, o blegid i'r chwarter awr yn mlaen yr wyf fi yn ddyledus am bob baddugoliaeth a ennillais erioed.' Ffyiiaid ijn, dyfod 0 hyd i'w gilydd. -Gofynai un gwr yn ddifrifol iawn i'r diweddar Barch. Puchard Humphreys, o'r Dyffryn, A oedd ef yn meddwl fod rbyw bregethwr lied bobloga.dd wedi cael ei alw gan yr Arglwydd.' • O, nid oes dim dadl am hyn\ meddai Mr H., pa ham yr ydych chwi ya anmheu yn wahanol ?' 4 Wei, am ei fod ef yn dyweyd cym- maint o bethau gwirion,' meddai yntau. Wei, onid oes llawer o wrandawyr gwirion iawn,' meddai Mr H., ac y mae eisiau rhywrai i bregethn i'r rhai hyny a rhai gwirion yw y rhai goreu o ddigon am ddyfod o hyd i rai gwirion. Yr oedd dau fachgen gwirion yn Harlech, ac aeth un o honynt ar goll ryw ddiwrn- .d, a chododd holl drigolion y dref a'r gvmmvdo"- aefch allan i chwilio am dano. Ond er chwilio llawer. hwy a feihasant a'i gael. I'r diwedd, dywedodd y bachgen gwirion arall y medrai f ddyfod o hyd iddo. Ac ymaith ag ef fel gafr dros y clogwyni, ac ar hyd dannedd y creigiau gyda glan y mor I- ac wedi cyrhaedd at ymguddfa ei gydymaith, ele a alwai ai no. gan ddywedyd, Mi gwelai i di. Na weli di yn wir." meddai y llall. '• Gwela yn wir, tyr'd oddi yna," meddai yntau. Felly oafodd y nadl fachgen gwiriun hyd i'r llall, ar ol i holl o bobl gall y lie t'etliu; ac yr un modd y mae pawb yn dyfod o byd i'w (sydielyb. Ffyiiaid yw y rhai goreu am cldy- fod o hyd i ffyiiaid; a'r pregethwr gwirion ydyw y goreu am ddyt'od o hyd i'r gwrandawyr gwirion. Ac am fod y gwrandawyr gwirion ttior lliosog y mae y pregeth wyr gwirion mor boblogaidd. Y maent hwy yn sicr ofindio eu gilydd yn mhob man.' Ateb annisgwyliadwy.—Rhyw offeiriad oedd yn byw gryn lawer yn uwch na'i foddion, a ddywedodd wrth ei was un boreu >abbath am fyned at Dafydd y cigydd i geisio leg ofutton, fel y gallai y forwyu ei ehogiuio erbyn iddo ef ddyfado r eglwys. Ac,' ebe fe wrth y bachgen,' yna tyred dithau i'r gwasanaetli.' Aeth y bachgen i dy Dafydd y cigydd nerth ei draed, a dywedodd ei neges; ac wedi dychwelyd, aeth i'r eglwys, yn ol y gorchymyn. Erbyn hyn, yr oedd yr hen barchedig frawd wedi cymmeryd ei destyn yn hanes Dafydd a Goliath ac wrth fyned dros yr ym- ddyddan rhwng Dafydd a'r cawr, gofynodd y preg- ethwr mewn llais uchel a phendant, 4 A pha beth a ddywedodd Dafydd?' A'r gwas, gan feddwl mai iddo ef yr oedd yn gofyn, a atebodd, Efe a ddywedl odd na chaech chwi ddim cig i'ch cinio hyd oni thal- ech am y peth a gawsoch o'r blaen.' Gallid meddw- mai peth digon anhawdd oedd i'r hen frawd orphen ei bregeth ar ol y fath atebiad anghyfleus. 4 Diofal y cwsg potes maip.' Cael pryd o gawl erfin, heb neb yn fy ngofyn, Mi gysgwn yn sydyn, mor esmwyth ag undyn. Gwnelld ifyny yr amser. Murphy,' ebai meistr wrth un o'i weithwyr un boreu, lyr oeddech chwi yn ddiweddar heddyw—yr oedd y dynion eraill wrth en gwaith awr o'ch blaen.' Wel yn siwr, mi a fydd- af i fyny a nhw heno, ynte.' Pa fodd, Murphy ?' 'We], eich anrhydedd—mi a af i ffordd awr o'u blaenau nhw-yn ddigon siwr i chwi, mi af.' Sambo a'i Feistr.-I Sambo,' meddai caethfeistr wrth ei gaethwas, 4 yr wyf fi yn bwriadu dy anrhyd- eddu am dy wasanaeth ffyddIawn-yr wyf wedi gad- ael yn fy ewyllys dy fod i gael dy gladdu yn nghladd- fa ein teulu ni.' 'Ah meistr,' meddai Sambo, 'ni wna ddim lies i Sambo gael ei gladdu byddai yn well gan Sambo gael yr arian neu ei ryddid.' Ac heb law hyny, pe tae y diawl yn dyfod yn y tywyll- weh i edrych am fy meistr, hwyraeh y gwnai gam- gymmeryd, a chymmeryd y Negro tlawd yn lie y dyn gwyn.' Bywioliaeth fras.-Yr oedd yr hysbysiad canlytiol yn ffenestr ty teiliwr yn Manchester yn ddiweddar— Yn eisiau dau, brentis. Ymddygir atynt fel un o'r teulu.'
._-----HUNANLOFRUDDIAD DYCHRYNLLYD…
HUNANLOFRUDDIAD DYCHRYNLLYD G WALLGOFDD YN. Cymerodd un o'r hunanlofruddiaethau mwyaf dychrynllyd le yn Union Lewisham, nos Sadwrn., Hydref 20ed. Ymddengys fod dyn mawr, cryf, o'r enw William Hunt, brickmalcer wrth ei gelfyddycl, yn byw yn Holmesdale, Lewisham, yr hwn oedd wedi bod am gryn amser yn yfed, nes i hyny ei arwain j'r delirium tremens. Cymerwyd ef i Guy's Hospital, He y telid pob sylw iddo; ond ar ddydd Mercher, Hyd. 16eg, llwyddodd i ddianc allan ac wedi cyfarfod a chyfaill gyda throl yn y Borough aeth adref at ei wraig yn Lewisham. Danfonodd ei wraig druan yn ddioed am feddyg y plwyf, Mr. J. Duke, yr hwn a weinodd arno ddydd Iau a dydd Gwener ond wrth weled ei fod mewn cyflwr hollol beryglqs, rhoddodd orchymyn i'w dderbyn i mewu i'r Union. Gan ei fod yn ddyn cadarn, nerthol, penderfynodd awdurdodau yr Union sicrhau gwasan- aeth dau ddyn cryf o'i ddosbarth ef ei hun i ofalu am dano a chafwyd dau o'i gydweithwyr oeddynt yn arfer bod yn gydnerth iddo. Cymerwyd y trancedig i'r gweithdy nos Wener, ac arhosodd yno yn hollol dawel hyd nos Sadwrn; a'r ddau ddyn yn ei wylio. 0 gylch 6 o'r gloch nos Sadwrn, daeth un o wasanaethyddion y ty, a'u tea i'r tri, ac yr oedd y trancedig yn dawel a rhesymol yr olwg arno. Gofynai un o'r dynion iddo a gymerai efe toast gyda'i dea, ac atebodd y cymerai. Wrih hwylio at dori y bara i wneyd toast, gwelwyd nad oedd yno yr un gyllell, oblegid yr oedd pob arf felly wedi ei gy- meryd ymaith yn ofalus, rhag i'r gwallgofddyn wneyd niwed iddo ei hun. Gofynwyd i'r hwn a ddaethai a'r tea i mewn am gyllell, yr hwn a ddy- wedai y rhoddai fenthyg iddynt ei gyllell ei hun. Nid cynt y rhoddwyd y gyllell ar y bwrdd, nag y rhuthrodd y trancedig o'i wely, a chyn i neb gael amser i'w atal, cydiodd ynldi gan ei thynu ar draws ei wddf yn ol ac yn mlaen. Neidiodd un o'r dynion Charles Burch, ar ei gefn gyda bwriad i'w atal ond er fod hwnw yn ddyn mawr cryf, nid oedd ond fel plentyn yn ei law a chan ymafael ynddo taflodd et fel pel i'r pen arall i'r ystafe 1, lIe y gorweddai yn hollol ddigymorth. Cynygiodd y dyn arall hefyd, Stephen Floyd, rwystro y gwaligofddyn i wneyd niweid iddo ei hun; ond ymaflodd yn hwnw hefyd a tbaflodd ef i'r pen arall o'r ystafell wedi ei glwyfo yn dost. Cyn gynted ag y gwelodd y trancedig ei fod wedi cael gwared o'i geidwaid, ail ddechreuai lifio ei wddf a'i g,, Ilell. Gwaeddai y ddau ddyn Burch a Floyd, Mwrdwr" a'u hell nerth, ond Did oedd hyny ond ychydig yn awr. W rth eu clywed yn gwaeddi aeth y trancedig i'r drws sydd yn ar- wain i'r cwrt, ac yno safodd gan batban i dynu y gyllell trwy ei wddf nes yr oeld ei waed yn llifo o'r clwyf. Clywodd Mr. W. Want, meistr yr Union, y cri "mwrdwr," a daeth allan o'i swyddfa, yr hon oedd yr ochr arall i'r cwrt, a nesaodd at y fan lie yr oedd y trancedig ac fel yr oedd yn nesu, gwelai wrth lewyrch y goleuni yn yr ystafell, fod y tranc- edig yn tynu rhywbeth yn ol ac yn miaen ar draws eiwidf. Ar ddynesiad Mr. Want ciliodd y tranc- edig i'r ystafell, a gwelai Mr. Want ei fod yn orch- uddiedig a gwaed, ac yn parhau i dori ei wddf a'r gyllell. Cyn gy ted ag yr aeth Mr. Want i'r ystafell .,af,dd y trancedig rhyngdclo a'r drws, a dechreuodd yi- ymosodiad mwyaf ffyrnig arno a'r gyllell. Am- ddiffynodd ei hun gvda hunanfeddiant anghvffrsdin, a gofynai ei holl ddyfais a'i gyflymder i'w gadw ei hun rhag et ergydion; ond llwyddodd y gwallgof- ddyn i gael Mr. Wiint i'r gangl, a buasai wedi syrthio yn aberth i'w gynddaredd oni buasai i'r Porter ar y pryd ddyfod i'r drws. Tynwyd sylw y gwallgofddyn at hwnw, a gadawodd Mr. Want, ac ymlidiodd ar ol y Porter Cyn gynted ag y cafodd Mr. Want ei hun yn rhydd aeth i'r gegin, ac wedi cael gafael yn y poker, dychwelodd i'r cwrt lie y gwelodd y trancedig yn ymlid ar ol y Porter a'r gyllell yn ei law, a'i wddf wedi tori i'r fath raddau fel yr oedd ei ben yn bongian dros ei ysgwydd dde, a'r gwaed yn rhedeg fel pistyll o'i wddf. Cyn gynted ag y gwnaeth Mr. Want ei ymddangosiad yn y ewrt gadawodd y gwallgofddyn yr ymlid ar ol y Porter, ac ail ymosododd amo ef, a'r gyllell o hyd yn ei law. Rhoddodd Mr. Want iddo ergyd drom a'r poker yu ei fraich, ond nid effeithiorld ond i baii iddo ostwng ychydig arni. Ailgynddeiriogodd yn ei ymosodiad, a gorfododd Mr. Want i gilio i fynedfa oedd yn arwain i ardd y gegin. Yma daeth yr ym- drechfa i'w man gwaothaf. Llifai y gwaed fel ffrwd yr boll amser o wddf y trancedig. O'r diwedd gwyl- i'dd Mr. Want ei gyfle, a tharawodd y gyllell o'i law,-gollynodd y poker o'i law ei hun a nesaodd at v dyn truenus, ond yr oedd ei ddillad wedi eu mwydo a gwaed fel nas gallai ymafael ynddo. Syrthiodd y ddau ar y llawr, a bu ymdrechfa rhyngddynt nes j daeth help, pan y sicrhawyd y trancedig yr hwn oedd erbyn hyn wedi gwanychu trwy ymdrech a gwaed golliad. Symudwyd ef i'r ystafell lie y bu larw cyn pen tri munyd. Collodd y trancedig beth aruthrol o waed yn yr ystafell yn y cwrt, ac yn ei fynedfa i'r ardd; ond y peth hynotaf yn yr amgylch- iadau oedd, fod ei ben bron wedi ei dori oddiar ei gorff, ac yn hongian dros ei ysgwydd dde yr holl amser yma. Ar y trengholiad dychwelwyd rheithfam Hun- an! addiad mewn cyflwr o wallgofrwydd."
LLUNDAIN.
LLUNDAIN. Damwain alarus.-Dydd Mawrth, Hydref 22ain, yr oedd Evan Bowen, gwr ieuanc 23 mlwydd oed, genedigol o swydd Drefaldwyn, wedi myned at ei waith yn y boreu yn iach fel arferol. Saer coed oedd wrth ei alwedigaeth. Ond tua naw o'r gloch, trwy ryw anffawd, cwympodd oddi ar dop yr adeilad He y gweithiai, i lawr i'r gwaelod, uchder tua 50 troed- fedd, a chafodd gymmaint o niwed fel y bu yn sngell iddo. Cludwyd ef i'r clafdy yn ddioed, a chafodd bob tynerweh ac ymgeledd a allasai dynion roddi iddo. Bu am gryn amser heb wybod dim oddi wrtho ei hun, ac yn analluog i roddi dim cyfrif am dano ei hun, na pha le yr oedd yn byw. Ond daeth i fedd- ianu ei wybodaeth yn y prydnawn, a gallodd hysbysu yn mha le yr oedd yn llettya. Anfonwyd i'w letty yn dioed, ac aeth Mrs Morgans gyda'r hon y Iletty- ai ato yn y fan, a gwelodd ei fod ef yn wael iawn, ac yn anniis'byg o fyw ond ychydig. Dywedai ei fod mewn poen dirfawr, a'i fod yn ofni ei fod et yn marw ac estynodd ei allweddau iddi. Yr oedd yn analluog i ymddiddan ond ychydig iawn; ond bu fyw hyd o'r gloch boreu dydd Mercher, ac yna diangodd yspryd o'r babell oedd wedi myned yn rhy ddryllied- ig i'w gadw yn hwy. Yr oedd y brawd ienanc hwn i gael ei dderbyn yn aelod yn yr eglwys sydd yn cyf arfod yn Sloane St. noslaupe buasaibyw. Yroedd rhai o'r cyfeillion yno wedi bod yn ymddiddan ag nos Sabbath gyda golwg ar hyny, ac yr oedd wedi penderfynu dyfod yn mlaen nos Iau. Ond y newydd galarus a gafwyd yn y cyfarfod parotoad nos lau oedd ei fod ef wedi marw. Bu un o'r diaconiaid yn ei gymhell ef i gymmeryd ei dderbyn y mis o'r blaen, ond dywedai fod hyny yn beth pur bwysig, ac nad oedd yn earn gwneud dim yn (vrhwyll-y byddai yn well ganddo aros mis yn mhellach. Ond erbyn i'r adeg ddyfod, yr oedd yntau wedi myned yn rhy boll i ddyfod byth yn ol. Teimlai yr eglwys yn Moane St. yn alarus iawn yn herwydd y tro, a thystiai am ryw ei fod ef yn ddyn ieuanc o rodiad prydferth, fod yn ffyddlon iawn yn dilyn pob moddion yn capel ar y Sabbathau, a nosweithiau yr wythnos. Diau fod y tro hwn yn rhybudd neillduol i bobl ieu- ainc i beidio oedi cyflwyno eu hunain i'r Arglwydd ac i'w bobl y cyfle gyntaf a gaffont. 1 Am hyny, byddwch chwithau barod. Yiizzoelydd
AD-DALIAD HYNOD.
AD-DALIAD HYNOD. Derbyniais yr hanes a ganlyn oddiwrth hen wr gwraig oedranus, ac nid oes neb o'r cymmydogioa. I y yn ammeu eu cywirdeb ar unrhyw achos. Y mae yr hen wr yn bannwr wrth ei gelfyddyd, ac yr oedd yn trigo yr amser hwnw ar ochr y brif-ffordd sydd yn arwain o Aberystwyth i Ystradmeurig:— 0 gwmpas deuddeg mlynedd yn ol, galwodd dynes ieuanc Iandeg yr olwg arni yn lletty yr hen wr a nod w d ar doriad y dydd ar dywydd oer, a baban yn ei breichiau. Mynegai dd-irfod iddi gael Hetty gan amaethwr o'r gymmydogaeth, ac mai yn yr ysgn bar mewn gwellt y cafodd orphwys am y noson flaenorol ac iddi gael ei danfon ymaith heb forenfwyd. Tru garhaodd gwraig y pannwr wrthi, a rhoddodd foreu fwyd cyrurus iddi a dillad i'r baban, acwrthymadae rhoddodd swllt iddi er ei galluogi i fyned rhag blaen, ac addawodd y ferch ieuanc ei chofio os byth y byddai yn alluog. Aeth amser heibio heb fod gwraig y pannwr yn gwybod dim am helyntiou y ferch ieuanc. Nid oedd lletty gwraig y pannwr ond bwthyn cyffredin o'r hen ddull Cymreig, a tho gwellt yn ei orchuddio, a rhan o'r muriau o bridd, ac felly yn ddinod yr olwg arno, a'r trigianwyr yn ennill en bara drwy lafur eu dwylaw. A r foreuddydd hafaidd canfu yr hen wraig ddywededig gerbyd yn aros wrth ei drws ar yr heol, ac yn fuan wele wraig foneddig yn disgyn o hono ac yn myned i mewn I fwthyn y pannwr. gan gyfarch yr hen wraig wrth ei henw. Rhoddwyd cadair i'r foneddwraig i eistedd, ac yn fuan gofynodd i'r hen wraig os oedd yn cofio am ryw ferch ieuanc, ryw yspaid o flynyddau y ol, yn dyfod i'r ty hwnw ryw foreu a phlentyn bychan ganddi, ac i'r hen wraig roddi boreufwyd iddi a swllt wrth ymadael, &c. Dygodd hyn yr hen wraig i gofio am y dygwyddiad, ac i'r ferch ieuanc addaw ei chofio os deuai hi byth yn alluog a chyfleus. We],' meddai y foneddiges, 4myfi oedd hono! ae yn awr dyma i chwi ddeg penadur (sovereign), ac nid ar hyn y gadawaf chwi; gwnaf eto gofio am danoch tra byddoch byw.' Ac yna rhoddodd ei hanes yn fyr i'w hen gyfei,les, ddarfod iddi fyned oddiyno i'r Amwythig, lie bu ei phlentyn farw, a thrwy gyfar- wyddyd meddyg cymmerwyd hi yn famaeth i deulu anrhydeddus mewn tref yn Lloegr ac o herwydd ei hymddygiad hynaws a charedig yn y teulu hwnw, priododd y boneddwr a hi. Felly daeth yn wraig foneddig; ac wrth fyned i ymweled a'i pherthynasau yn ardal Tregaron y talodd y caredigrwydd a nod- wyd yma a'i hen gymwynasyddes. Nid oes amryw flynyddau er pan y derbyniodd yr ben wraig y deg punt, ond ni chlywais pa un a gafodd unrhyw an- rheg ychwanegol, gan eu bod gwedi ymfudo o'r ardal neu o'r gymmydogaeth lie yr oeddent ar y pryd hwnw. Eto y mae yr hyn a dalodd am y cared- igrwydd a dderbyniodd yn teilyng-u clod ac efel- ychiad, gan mai i'r gwrthwyneb y mae ymddyg- iad y rhan amlaf, sef gwadu eu tylwyth a'u gwlad os bydd iddynt ddygwydd cael dyrchafiad. MEURIG.
CASNEWYDD-AR-WYSG.
CASNEWYDD-AR-WYSG. Masnach.—Mae mynediad a dyfodiad llongati o'r porthladd hwy am yr wythnos ddiweddaf rhywbeth tebyg i'r wythnosau blaenorol, y mwyafrif o bonynt yn gofyn glo, yn enwedig y steam coal, house coal yn fwy marwaidd, ond cedwir y pris i fynu yn dda. Nid yw'r galwad am haiarn mor fywiog ag ocddym yn ei ddisgwyl. Y Bara. -Maa y dref hon fel pob tref arall braidd, wedi gwybod y ffordd i godi pris y bara. Mae y dorth pedwar pwys oedd yma bythefnos yn ol wedi myned o wyth i naw ceiniog, ac y maent yn bygwth y 1 ydd iddi fyned lawer yn ddrutach. Yn wir, erbyn yr ystyriom bobpeth, nid rhyfedd fod cym- maint o rfeniaid. Milwyr. Nid yw'r gweddill o'r 2-lain wedi ein cyrheadd eto. Mae disgwyliad am iddynt bob dydd lamo yn Aberdaugleddyf, o ba le y gwnaiff y ger- bydres eu cludo yma. Nifer y rhai sydd ai- eu taith yw 500, Y mae yma yn bresenol 31: yr oeddvnt un yn rhagor yn dyfod yma. Cafwyd ar nos yr 17eg cyf. fel y canlyn, tra yr oedd dau o'r sergeants ar y noswaith uchod yn myned tua'u harosfa, carlimodd un yo gynt na'r llall er cyrhaedd amser prydlawn ac wrth fod y naill c\ hyd heb wneud ei ymddangos- iad gwnaed ymchwiliad am dano beth bynag, caf- wyd ef yn hollol farw gerllaw y fan y gwelwyd ef ddiweddaf. Satan yn peri cost.—Aeth am y flwyddyn yn diweddu Hydref 15fed, X1988 128 10c, i dalu hedd- geidwaid y dref, cynnydd o £72 ar y flwyddyn flaenorol. Da genyf hysbysu fod hysbysleni'r DarllcniaJau Ceiniog yn dechreu harddu'r muriau. Pe buasai Darlleniadau Ceiniog a chyfarfodydd cyffelyb yu 'wy lluosog yn yr oes aeth heibio, yn rhoi sail gref i ni gredu, y gallesid gwario llawer o'r swm uchod at ysgolion a phethau mwy baddiol nag y maent yn eu gwario yu breaeRol.-G. G. Ma/an,
I YR HEN DEILIWR, .
-It pentref lie yr oeddwn yn trigo, pan oeddwn yn ys. grifenu fy llythyrau cyntaf; cefais gornel fechan o dir lie gallaf gadw buwch a mochyn, ac ychydig ieir; a hwy aid, yr byn a etyb i ni yn well na'r hen gffachen siop yn y pentref yr wyf yn disgwyl. Aethum tin diwrnod i lawr i'r llan a basgedaid o wyau ar fy mraieh, ar fedr pwrcasu lot o binau dur, a photelaid o inc, a stoc o bapur, ond fel bu'r anffawd, mi a syrthiais ar y ffordd a thorais yr wyau bob un, a bu raid i mi droi yn ol adref heb na phin na pha- pur. Gallaswn gael faint a fynaswn ar goel gan fy hen gyfaill sy'n cadw siop y llan, pe buaswn yn dewis, ond y mae yn bwne genyf fi bob amser erioed, i dalu ar law am bob peth fyddwn yn alw am dano, a pheidio a cheisio dim, beth bynag fyddai'r angen am os na fyddai genyf arian i dalu wrth ei geisio. Yr wyf yn sicr i hyn fy nghadw -rbal- llawer 0 helbul a phryder. Nid peth bychan, goeliaf fi, ydyw myned trwy'r byd, ac yn y diweddallan o'r byd, heb fod 'yn nyled neb o ddim,' os gellir fodd yn y byd; ae yr wyf yn bur sicr yn fy meddwl y gallai Uaweroedcl mwy nac y sydd fyned trwy'r byd, a myned o'r byd felly, pe y ceisieut roddi eu synwyr ar w,.ith i drefnu a dorbod eu hachosion a'u ham- gylchiadau gyda golwg ar hyny. Ond waeth tewi na siarad, pleser llawer 0 "bobl ydyw rhedegi ddyled, y mae fel pe byddai bod mewn dyledion yn beth hanfodol i gysur eu bywyd. Nid ydynt yn meddwl am dalu byth, wrth bryna addawaUt yn deg, a dyna' t- cwbl. Ni waeth ganddynt, ae ni waeth idd- ynt, faint o bris a geisia'r gwerthwr am y nwyf, gan nad ydynt yn gofalu dim oil yn nghylch y talu, os gallant gael ar goel. Wedi rhedeg mor bell i lyfrau un siop, hyd nes y gwrthoda iddynt ychwaneg ar goel, ac yr eir i wasgu yn galed am y tal, rhedant i siop arall. Trefn dda ar gyfer rhai o'r fath yma p oedd sefydlu Cwrt y man ddyledion; y mae y CWRT hwnw yn peri peth ofn ac arswyd ar lawer o honynt. Byddaf yn meddwl yn was tad mai gweis fuddiol iawn i' w dysgu i bobl ieuainc ydyw y pwys o ym- gadw rhag rhedeg i ddyled, dylai fod yn addysg yr aelwyd a'r ysgol, ac weithiau yn yr areithfa hefyd, canys y mae hi yn gangen o addysg y Bibl. Paid bytii a phrynu gwerth dimai o ddim os na fydd genyt ddimai i dalu am dario'fo,' ebai tad unwaith wrth ei fachgen, a phaid byth a phrynu dim na bydd arnat ei eisieu, pe b'ai genyt arian lon'd dy boced,' 'ie, pe b'ait yn ei gael 0 am ddim,? eb efe wedyn. 4 Wei. nhad,' ebe'r bachgen, nid prynu fyddai IJi, os cawn i am ddim, a mi fyddwn yn ffol i wrtliod y peth a gawn iam ei gymmeryd.' 'Na, na,' ebe y tad, mae llawer peth geir am ddim heb fod ei eis eu, yn cael ei brynu yn ddrud iawn wrth ei gymmeryd, gan fod tuedd ynddo i fagu ysfa dra- chwantus am bethau afreidiol yn y meddwl.' Yr wyf fi j n meddwl bod synwyr ac athrawiaeth dda yn nghyngor y tad hwnw. Ond i b'le yr wyf fi wedi myned? Ar fedr myn'd yn mken a hanes digwyddiadau boreu foes deilwr- aidd yr oeddwn pan yn ymaflyd yn y pin i gychwyn y llytby r hwn ond erbyn i mi edrych, clyma fi wedi bod wrthi yn adrodd fy hynt bresenol, a throi i gyngliori a dysgu pobl sut i fyw. Wn i ddim beth y galwech chwi ryw druth fel hyn. Ai tybed mai athroniaeth bywyd cyffredin ? Os felly dyma'r Teil- iwr wadi troi'n philosopher heb yn wybod iddo ei hun a 'does wybod yn y byd mawr beth fyddaf eto, os caf fyw dipyn. Teiliwr oeddwn yn nechreu fy mywyd beth bynag, ond pwy wyr na byddaf yn Bresident ar ryw wlad neu ynys, yn rbyw gwr o'r ddaear, cyn y diwedd. Beth bynag, y mae hi yn ben bryd i droi y pen a diwedd ar y llythyr hwn, a dyma fi'n gwneud. Yr eiddoch, &o., HEN DFILIIVR.