Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN GALAR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN GALAR. Gallwn feddwl na byddai allan o le i ddyweyd gair yn awr ac yn y man yn y TYST am gyfeillion anwyl ac hoff ag ydynt wedi ymadael a ni trwy angeu; ac i ddechreu, cawn fynegu ychydig o rinweddau MR DAVID THOMAS, MACHEN. Cafodd y brawd hwn ei eni a'i fagu yn agos l^Llan- ddowror, yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd ei dad a 1 fam yn grefyddol, un gyda'r Bedyddwyr, a'r llall gyda r Antubynwyr, ac felly cafodd y fraint o gael addysg grefyddol o'i febyd. Symudodd i Forganwg. Derbyn- iwyd ef yn aelod yn Bryn Sion, Dowlais, pan tuag 21 mlwydd oed. Priododd yn Dowlais, a bu yn addurn i grefydd tra bu yn aros yn y lie. Siaradir yn barchus am dano gan brif ddynion Bryn Sion hyd heddyw. Tuag wyth mlynedd yn ol, symudodd i'r lie hwn, a bu yn gweithio yma hyd o fewn blwyddyn a hanner yn ol, pan yr aeth i weithio i'r Black Viene Risca. Aeth 1'r gwaith fel arfer dydd Sadwrn, y 5ed cyfisol, a'i fab Madock gydag ef; ond ni bu yn hir yn y gwaith cyn i amryw dynelli o lo gwympo arno a'i ladd yn y fan. Dywedir ei fod yn fwy llawen nag arferol y boreu hwnw, a chanai bron bob cam wrth fyned. Pan ddaeth y newydd i'm clustiau gyntaf, nid oeddwn yn credu fod y peth yn wir; ond rhaid credu er mor anhawdd. Yr oedd D. Thomas yn ddyn cryf a gwrol, o synwyr cyffredin, a meddai ar berffaith hunanfeddiant. Ni welais neb erioed yn gryfach ei nerve i gyfarfod a phob amgylehiad. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf cyson yn moddion gras, er fod ei ffordd yn mhell. Yr oedd ei iechyd cyffredin a chryfder ei gyfansoddiad yn fanteis- iol i'w ffyddlondeb crefyddol; ond nid y rhai cryfaf eu hiechyd yw y rhai mwyaf ffyddlon yn amI. Yr oedd ef yn troi cryfder ac iechyd at wasanaeth ei Dduw. Yr oedd yn fyfyriwr mawr yn mhethau'r Beibl. Yr oedd yn ddigon hoff o lyfrau da eraill, ac yr oedd yn hoff iawn o gael golwg ar y TYST, a'r Byd cyn hyny; ond ei brif study ef oedd crefydd a'i phethau. Yr oedd hyn yn ei wneud yn ddyn defnyddiol iawn yn holl waith y Ty. Byddai ganddo rywbeth newydd yn gyffredin yn y cyfeillachau a'r cyfarfodydd gweddio, ac @s mai hen bethau fyddai ganddo, byddai gwedd newydd arnynt dan ei law ef. Teimlwn yn wastad fod D. Thomas yn gefn cryf iawn yn mhob cyfarfod. Teimlai interest yn llwyddiant yr eglwys yn Adullam. Buasai symud i fyw o ochr Cross Keys neu Risca yn llawer llai o drafferth a llafur corphorol; ond dywedai yn ami fod digon yn ymadael a'r lie heb iddo ef droi ei gefn hefyd. Gredwyf y dylai pob aelod crefyddol gym- meryd i'w ystyriaeth grefydd a'i hamgylchiadau yn gystal a'i amgylchiadau bydol. Os bydd dyn yn ddef- nyddiol mewn eglwys, ei le yw aros yno, os gall mewn rhyw ffordd. Yr ydym yn canmol y brawd D. Thomas am ei ymlyniad wrth eglwys Adullam mewn cyfnewid- iadau pwysig. Meddai ar gymeriad uwchlaw amheu- aeth, Ond er ei holl rinweddau yr ydym wedi ei golli. Colled fawr, fawr i'r teulu, y wraig a'r plant, ac i'r eglwys; ond i ni ar y ddaear y mae'r golled, ao nid iddo ef. Yr ydym yn galaru, ond nid fel rhai heb obaith. Daw eto foreu teg a hafaidd, pan gyferfydd holl blant Duw ar y bryniau gwyrddlas tragywyddol, lie na ddaw damwain i gyfarfod neb o'r teulu. Claddwyd ef dydd Mawrth, yr 8fed, ac nid wyf yn cofio i mi weled angladd mwy galarus erioed. Dygwyd ei gorph i vestry y capel, a phregethwyd yn y capel, ac yna claddwyd ef yn mynwent yr eglwys newydd. Ben- th y nef fyddo ar ei weddw a'i blant amddifaid. GLANCAFROS. Y DIWEDDAR MRS JONES, WYDDGRUG. Y nev yn dal am bob da mewn buchedd.' Catwg Ddoeth. Yn ngholofn y marwolaethau am yr wythnos hon ceir eofnodiad o farwolaeth y wraig dduwiol sydd a'i henw uchod. Geiriau diweddaf Selina, Iarlles Hunt, ingdon, oeddynt, Yr wyf wedi gorphen fy ngwaith, nid oes genyf yn awr ond myned at fy Nhad.' Nid an- mhriodol fuasai y geirian hyn i'r chwaer anwyl Mrs Jones. Yr oedd hithau wedi gorphen ei gwaith, a hyny fel mam ac aelod o Eglwys Dduw. Yr oedd ci 'myHych wendid,' er's cryn smser, wedi ei hanaddasu i wneud llawer dros ei Duw yn nglyn a'i achos. Daliodd hyd y diwedd; ond mwy na hyny, daliodd hyd y diwedd yn ffyddlawn, yn ystyr fanylaf y geiriau. Dywcdasom fod y wraig dda hon wedi gorphen ei gwaith. Mae y plant sydd wedi ei goroesi wedi tyfu i fynu, ac wedi ym- sefydlu yn y byd. Nid oes arnynt hwy mwyach eisiau gofal uniongyrchol mam; ac er y gofala y ferch am gysur yr hen dad sydd wedi ei adael yn weddw, eto bydd hiraeth a chwithdod ynddo yn hir ar ol ei gymares dirion. Trwm iawn yn wir i wr a gwraig sydd wedi cydfyned a chyd-deithio yr anial am lawer blwyddyn yw gorfod ffarwelio ar fin glyn cysgod angau.' Gorchwyl pruddaidd yw; ond amgylchiad ydyw sydd bob amser yn gwneud Cristion oedranus yn fwy addfed i ddilyn ar ol. Bu Mrs Jones yn cadw ty agored am flynyddau i weision Crist,' ac yr oedd ei thymer hynaws o'i chalon agored ac haelionus yn ei gwneud yn dra chymwys fel llettywraig. Ond yr oedd hi a'i phriod wedi myned er's rhai blynyddau i drigianu gyda'u merch, fel yr oedd cyfnod ei llettygarwch wedi dyfod i ben, eto mae yn dda genym ddyweyd fod y ferch a'i phriod yn cadw drws agored i bregethwyr y Gair. Yr oedd Mrs Jones yn briod i Mr Ellis Jones, yr hwn sydd ddiacon ffyddlawn iawn yn eglwys Bethel, Wydd- grug. Mae wedi gadael tri o blant ar o),—Mr R. Jones, L'erpwl, Mrs Pickering, Ty'nycaeau, a Mrs Thomas Lloyd, Wyddgrug. Bu Mrs Jones yn crefydda am tuag ugain mlynedd, ac amlwg ydoedd ei bod yn myned yn debycach, debycach i'w Blaenor bob blwyddyn. Wrth fanylu ar gymeriad y chwaer ymadawedig, yr ydym yn canfod yr hyn a ganlyn yn seirianu megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig- pan o dan belydrau haul:—Tymher dawel, teimlad tyner, calon haelionus, meddwl sefydlog, ffyddlondeb diball, ac un- plygrwydd dihoced. Pa mor gynhyrfus bynag oedd eraill, yr oedd Mrs Jones yn dawel a llonydd. Pwy bynag allai dremio ar offd gyda llygaid sychion, yr oedd ganddi hi ddagrau cydymdeimlad i'wtywallt. Os gwnai calonau eraill amgau mewn crintachrwydd, ymagorai calon Jane Jones mewn haelioni gwastadol. Yr oedd ei meddwl hi yn sefydlog fel y seren ogleddol—bob am- ser yn ei phwyll, pan byddai eraill yn ymollwng mewn digalondid. Er fod rhai i'w cael yma yn arfer 'esgeu- luso eu cyd-gynnulliad,' yr oedd y chwaer hon yn ffydd- lawn—un o breswylwyr y Ty; ac yr oedd yn Israeliad yn wir, yn yr hon nid oedd dwyll.' Yr ydym yn ys- grifenu yn gryf am ein bod yn edmygu cymeriad y chwaer hon mor fawr. Gwyn fyd na fyddai mwy yn debyg iddi. Bu farw fel y bu fyw, mewn tangnefedd. Dymunai ar y rhai a wylient yn drallodws wrth ei gor- weddfa, y noson olaf o'i bywyd, i fyned i orphwyso, er iddi gael llonyddwch a boa wrthi ei hun; a chlywid hi yn yngan drymder nos, Y gwaed, y gwaed.' Ac nid ydym yn amheu nad yw ein hanwyl fam a'n chwaer a hoffem mor fawr heddyw a'i gwisg mor wen a disglaer a'r eiddo yr ymwelyddion nefol a bedd Gwaredwr byd foreu y trydydd dydd. Mae eglwys hiraethus, priod galarus, a phlant trallodus, yn cydymgymysgu dagrau wrth aclgofio yr ymadawedig, Ond ust! bydded iddynt roddi clust o ymwrandawiad,—' Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd o hyn allan, medd. yr Yspryd, fel y gorphwysont oddiwrth eu llafur; a'u gweithredoedd sy yn eu canlyn hwynt.' Bu farw'r cyfoethog, fe'i claddwyd mewn gwychder, Ac arian a wariwyd er dangos du brudd-der; Bu farw credadyn, o'i ol mae lleferydcl, Gwyn fyd y rhai meirw sy'n marw'n yr Arglwydd.' Bu farw'r athronydd, y wasg sy mewn galar, Am un o gewr-feibion meddylgar y ddaear Bu farw hen Gristion, o'i ol mae lleferycld Gwyn fyd y rhai meirw sy'n marw'n yr Arglwydd.' Bu farw seneddwr, ei fuch-draith gyhoeddir, A'i ardeb yn mhobman yn eglur a welir; Bu farw crefyddwr, o'i ol mae lleferydd, Gwyn fyd y rhai meirw sy'n marw'n yr Arglwydd.' Bu farw tywysog, anfonwyd y newydd Ar aden v t,rvèh.n vn frrrarnrr ':¡":m-n' },tt;¡ rl Bu farw sant gwylaidd, o'i ol mae lleferydd, c Gwyn fyd y rhai meirw sy'n marw'n yr Arglwydd. Bu farw cadlywydd, ac iddo fe godir I Cofgolofn gadarnwych, a'i enw glodforir; Bu farw un uniawn, o'i ol mae lleferydd, Gwyn fyd y rhai meirw sy'n marw'n yr Arglwydd. Bu farw penadur yn nghanol rhialtwch, Ymgrymodd y deyrnas mewn rhith neu wir dristwch; Bu farw'n chwaer dduwiol, o'i hoi mae lleferydd, Gwyn fyd y rhai meirw sy'n marw'n yr Arglwydd. GWILYM GWENFFRWD.

DE A GOGLEDD UNOL DALEITHIAU,…

BLAENAU, FFESTINIOG.

MAN NEWYDDION.

I144irrunadot4d mr 4.fgtulloo.

MARCHNAD LLUNDAIN.

DrwEDD Y FARCHJSXD.

MARCHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD.

MARCHNAD LIVERPOOL.

MARCHNADOEDD CYMREIG.

Family Notices

[No title]