Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
PENMAENMAWR.I
PENMAENMAWR. Cyfarfod Salent.-Cynlaaliodd yr eglwys Annibyn- 01 yn Salem ei chyfarfod blynyddol, nos Fawrth a ,dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf. Y gweinid- ogion a weinyddasant oeddynt—Mri Roberts, Caer- ynarfon Stephen, Tanymarian Williams, Bethes- da; a Thomas, Bangor. Yr oedd y eynnulleidfaoedd yn lluosog-yn lluosocach ar hyd y cyfarfod nag y gwelwyd hwy o'r blaen a theimlid nerth a dylan- wad daionus yn y pregethau. Y mae yr eglwys hon yn gystal a'i pharchus weinidog yn deilwng o glod am eu hymdrech i leihau y ddyled sydd ar yr add- Oldy eang a pbrydferth. Gallant ddiolch i Dduw, a chymmeryd sur,' am fod y ddyled. yr hon oedd drom pan adeiladwyd y capel ychydig flynyddau yn ol, yn debyg o gael ei llwyr symmud cyn yr a Ond ychydig o fiynyddoedd eto heibio. Llenyddiaeth yr ardal.-Y mae yn hyfrydwch genym hysbysu fod gradd o ddeffroad yn ein plith gyda gohvg ar hyn. Ffurfiwyd cymdeithas Ienydd- ol yn addoldy Salem, a chynhaliwyd y cyntaf o'i chyfarfodydd nos Iau, yr wythnos ddiweddaf, o dan lywyddiaeth y Parch. E. Edmunds. Cymmerwyd rhan yn y gyfran gantorawl gan Mri H. Williams, W. Williams, Thomas Jones, William M'. Clement^ M. a W. Browne, &c.; y gyfran ddarlleniadol, Mri John Roberts a J. Jenes; y rhan adroddiadol a dadt- euol, Mri R. Jones, S. Williams' H. Edwards, R Jones, T. Eoberts; ac yn y rhan areithiawl gan Alri 0. Edwards, a R. Parry. Yr oedd y cyfarfod yn boblogaidd o ran y gynnulleidfa, ac yn fuddiol a dyddorol o ran ei ddygiad yn rnlaen. Bwriedir cyn- nal cyfarfod bob pythefnos, a hyderir, wrth ei ddwyn yn mlaeu yn gysson a chwaeth dda, y prof a yn dda- ionus i'r lluaws ienenctyd a phobl ieuaino yn yr ardal. Da genym ddeall fod symmudiad o natur gyfEel^b ar droed yn Horcb hefyd. Pwy a wyr pa ynnifer o blant athrylith sydd yn mysg y lluaws ienenctyd yn y lie, ac fe ddichon mai cyfarfodydd cynelyb i'r un dan sylw a ddwg yn awr i'r golwg.
MR HENRY RICHARD YN CEFN-COED-Y-CYMMER.
MR HENRY RICHARD YN CEFN-COED- Y-CYMMER. Y mae yn hysbys bellach drwy y wlad yn "vff- redinol fod ymneillduwyr Merthyr- wedi gwahodd Mr Henry Richard o Gaerludd, fel Cymro. aC wedi .ei brofi er ys blynvddan bellach yn amddiffynwr y gened! pan yn cael ei gwarthruddo gan awdwyr y Llyfrau Gleisiou (duon iawn oedd eu cynnwysiad) fel booeddwr cymhwys i safyll yn uehel lys St. gtephan, i osod etn cwynion ger hron, ac i ddadleu firos eiri Ilitwndera7i fel cehecll.- Ac fel!y daeth Mr Richard i Ferthyr, ac i'r Drill Hall hefyd, ei, ei foci yn ysgrifenydd y Gryuideithas Heddwch aeth fel gwion 1 r ystafeii sydd gwedi csel ei hadeilndti i'r dyben o ddysgu dynion i ladd eu gjlydd. an rofedd- n yn chsgwyl y buaeai peth o'r yspr) d i-hyfela yn yi ys ;!i e awrchyfleus hono o hyd ond er mawr yn oc m oedd yno gymmaint ac un gwrihwynebwr ILl I I"oso?,oe^ ^o. Yr wyf gwedi bod yu y it, am 0 8^^av:[p<lyd'rpol.itic'iidd er y flwysklyn toain'/n H a i cllJ]choedd ni welais i gyrn- S w f /sPryJ heddwch a thangnefedd erioed ac li Jf riylanwadyr Ysgrifenydd mor wefreidd'ol ya 5onnfmaU AC^gWedlb0dyn Merthyr, Aberdare, f. Ash,-a Dowlais, lie mae cymmaint o an- E Swahanol farnau beth fydd ei ddylan- P'-U yn ymgyfarfod a phrif ddoethion y deyrnas gyfunol, y rhai sydd gwedi eu coethi a phob man. teision dysgeidiaeth. A chan na allai Mr Richard fyned i bob cwr o'r Fwrdeisdref yn bersonol, teiml- odd ei gyfeillion yn y Cefn ei bod yn ddyledswydd ornynt ddangos eu hochr a phenderfynasant gael cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Ddirwesfcol, lie cymhwys a chyfleus iawn li'r perwyl, Cyhoeddwyd y cyfarfod, ac erbyn yr amser, sef saith o'r gloch nos Fawrth, yr oedd y Neuadd yn llawn, ac yn ol cynllun y Pwyllgor cymmerwyd y gadair gan y Parch. Samuel Jones (T), o'r lie, a dangosodd yn ei araeth agoriadol ei fod yn deall ffurf-lywodraeth y deyrnas a gwledydd Ewrop yn gyffredinol; ac fod y deyrnas hon yn rhagori i raddau yn gymmaint ac i fod yma dair sedd i osod ger eu hron bob cyfraith cyn y buasai mewn grym, ac i fod yn rhaid i'r tri gydsynio a'u gilydd, sef y Goron, Ty'r Argdwyddi, a Thy'r Cyjfredin, cyn y buasai o un gwetth a dang- osodd hefyd fod y diwygiad neu yntau helaethiad y bleidlais i'r bobl yn cynnyddu ac inai i ddosparth y deg punt a'r dreth yr oedd 'y fraint yn gorphwys hyd yn awr ond ei bod o hyn allan i bob dyn ac a fuasai yn cadw ty heb son am unrhyw swm o ardreth, ad felly ei bod o'r pwys mwyaf i bob un ac sydd yn dod i feddiant a'r hawlfraint i ystyried yn bwyllog a difrifol pa fodd y buasai yn ei defnyddio heb edrych i'w les personol yn unig, ohd lies cyffredinol y wlad, ac ac i'r dyben hyny i chwilio am y dyn mwyaf cymhwys i'w ddan,on i'r Senedd, ac mai dyben y cyfarfod oedd bwrw golwg am y cyfryw bersen, ac yna galwodd ar y Parch. R. Griffiths, Tabor, i gynayg y penderfyniad. Fod y cyfarfod hwn yn cyd-olygu a chyfarfodydd Merthyr, Aberdar, Mountain Ash, "a Dowlais, fod Mr Henry Richards yn berson cymhwys ac addas i gynnrychioli y fwrdeisdref yn y senedd, ac fel y cyf- ryw yr ydym yn penderfynu ei gynnorthwyo hyd eithaf ein gallu.' Dangosodd Mr Griffiths gymhwysderau Mr Rich- ards fel Cymro dysgedig, yn wybodus o arferion ac anghenion y Cymry, a'i gydymdeimlad dros y Cymry, pan yr ymosodwyd arnynt gan wyr y llyfrau gleision ac fel Ymneillduwr, yr oedd y dyn mwyaf cymhwys o bawb i fyned i'r senedd dros y fwrdeis- dref, yr hon sydd a'i thrigolion yn naw o bob deg yn Ymneillduwyr, ae am hyny yn galw ein sylw a'n cydweithrediad o'i blaid. Yna galwodd y cadeirydd ar y Parch. C. White (B.) i eilio y cynnygiad yn Saesneg, yr hwn yn ol ei arfer, a gefnogodd y cynnygiad mewn modd grymus trwy ddangos fod eisiau dynion o egwyddorion Mr. Rich- ards yn y senedd i amddifiyn iawnderau yr Iwerddon, yn gystal a Chymru fel Ymneillduwyr oddi wrth Eglwys Sefydledig y llywodraeth, ac i fod eisiau tori y briodas sydd rhwng yr Eglwys a'r wladwriaeth, cyn byth y buasai heddwch a chyfiawnder yn ffynu yn y deyrnas, ac hefyd fod eisiau lleihau y gwastraff anghydmarol sydd yn ein byddin a'n llynges, ac mai Mr Richards oedd y person cymhwysaf a allasai y cyfarfod gael i gyliawni ei ran fel cynnrychiolwr; o herwydd fod yr egwyddorion hyny yn agos at ei feddwl er ys blynyddoedd bellach. Mai dyn profedig oedd, ac wedi cael llawer iawn o wrthwynebiadau, ond ei fod yn parhau yn ffyddlon trwy bob tywydd, ae mai efe oedd y dyn iawn yn y lie iawn.' Yna galwodd y cadeirydd ar y Parch. Williams, Hen-dy-cwrdd, i gefnogi y cynnygiad, yr hyn a wnaeth yn alluog a deailadwy iawn. Anerchwyd y cyfarfod hefyd gan y Parch. Jones, o Bentyrch (B.), yr hwn a ddaeth ar ddamwain i'r lie y prydnawn hwnw. Synodd y cyfarfod a'i ym- adroddion dawnus, nes oedd pawb yn crechwenu. Yna galwodd y cadeirydd ar Doctor J. W. James, o Ferthyr, i anerch y cyfarfod, yr hyn a wnaeth yn ardderchog, trwy ddangos efieithiau y cyfreithiau unochrog ag sydd wedi eu gwneud gan y senedd wrth osod trethi trymion ac anhawdd eu dwyn ar ysgwyddau y dosparth gweithgar, trwy drethu pob nwyfau angenrheidiol er cynlialiaeth bywyd, ac yn cadw cyfraith anghyfiawn y cyntafanedig mewn grym, lies ydyw y rhan fwyaf o diroedd y Deyrnas Gyfunol wedi myned i ddwylaw rhyw ddeng mil ar hugain o bersonau; a chyn byth y gallasid cael diwygiad gwreiddiol yn y wlad, fod yn rhaid dileu y cyfryw gyfraith, a rhanu y tiroedd yn gyfartal rhwng yr holl blant, ac nid eu gyru oil ar gefn y wlad y cynfab-rhai i'r fyddin-rhai i'r llynges, neu i'r Eglwys, heb unrhyw gymhwysderau nddynt at y cyfryw swyddau ac hefyd fod y tiroedd trwy eu bod yn nwylaw cyn lleied o bersonau lawer iawn o honynt yn cael myned yn ddi-driniaeth, dim ond bwyd i'r game, ac y dylai y miloedd erwau segur hyn gael eu trin a'u dwyn i well dybenion, a'i fod ef o'r farn wedi clywed Mr. Richard yn traddodi ei olygiadau ar y pwnc, mai efe oedd y person addasaf a allasai y cyfarfod gael i'r pwrpas hyny. Ac yn ddiweddaf, galwodd y cadeirydd ar Mi Wm. Gould i anerch y cyfarfod ar bwnc y dydd, sef y bleidlais newydd, pa fodd i'w mwynhau, a gofyn- iadau y gyfraitti cyn ei pherchenogi, sef byw yn yr un ty am flwyddyn, a thai a y tal tlawd fel ei gelwir, yr hyn a fyddo yn ddyledus yn mis Ionawr nesaf ei dalu cyn Gorphenaf nesaf; ac oni tbal y pryd hyny cyll ei hawl am y flwyddyn ganlynol (er mai tipyn o wermod y w h« n yn ngwaelod y cwpan o eiddo y Tori). Dangosodd hefyd yr ang'enrheidrwydd i ni fel gweithwyr i ymgynghori llawer a'n gilydd, a goleuo y naill y ijalt am ac yn egwyddorion y wladwriaath, gan fod yr hawlfraint wedi dyfed i'n meddian, ei bod o'r pwys mwyaf pa fodd i'w hiawn ddefnyddio-edryoh ar egwyddor- ion, ac nid ar bersonau, mewn undeb a chydweitbiad gan ystyried ein hunain bob amser yn ddynion ac nid caethion i unrhyw fl) s na lles- iant petsonol yn unig, ac na chaiff yr hen slur byth ei gwireddu mai cwpanaid o ddiod fyddai yn ddigon ibryuu pleidlais llawer un, na, fechgyn Cymru, selwch lei dynion, nid yw y meistri fel y mae llawer yn dweyd eu bod ond os rho'wch chwi eich gyildtau dim draed, ainoch chwi y bydd y bai. Sef well fel un gwr a gwaeddwch am y Ballot, ac yna her i bob tressiwr. Yr oedd yn awr yn agos i ddeg o'r glocb, a'r cyfarfod n hvvylus dros ben. Rhoddodd y Cad- eirydd y cynhygiad i'r cyfarfod, ac arwyddodd pawb yn uufrydol dros Mr Richard heb gymmaint ac un eithriad. Yna cyuhygiodd y Parch. E. Morris. Carmel, ac eiliodd Mr T. Lewis, fod diolchgarwch y cyfarfod yii deilwng i'r parchus gadeirydd; pawb yn unfrydol. Galwyd y Pwyllgor yn nghyd a rhanwyd y lie yn ddosparthiadau i fyned o dy i dy i wel«d faint oedd o biaid Mr Richard, ac y mae y rhan arnlaf o lawer yn dweyd mai efe yw'r dyn. HKN WEEIDDIOLWB.
TAITH TRWY MALDWYN.
TAITH TRWY MALDWYN. (Parh-i.d o'r rliifyn diweddaf) Cychwynais o Llahialoes gyda'r gerbydres. am Drefnewydd. Rhedai y gledrftordd a'r albn braidd yn gyfochrog yr boll ffordd. Y mae aria, yw leoedd nodedig am eu henafiaethau yn tynu syiw yr ym- welydd ar y daith. Ar wastadedd teg, saif pentref o'r enw Llandiuam, o amgylch yr hwn y mae amrai olion a wersyllfanau (encampments) y Rhuteinia:d, y rhai a elwir (raer Fechan, a Rbos Ddiarbed. &c. Yn nes yn mlnen ar y flaw chwith saif un o'r gorsafoedd Rhufeinig bynaf yn y wlad, sef Caersws. Y mae yr elion henafol sydd o'i hamgylch yn pro ei bod gynt yn ddinas eaug a phoblogaidd. On erbyn heddyw y mae ei gogoniant wedi ymadael, a'i rhwysg wedi pallu, ac oni bai fod Natur ar ei goreu wedi gwisgo y lleoedd oddiamgylch iddi, gallesit ddweyd mai Drych o dristwch yw edrych drosto.' Cyn pen hir, wele y Drifnewydd yn ymddangos o fy miaen. Saif mewn dyffryn tlws ar ochr ddeheuol yr Hafren. Y mae lluaws o dai framework y dydd- iau gynt yn aros yma fel yn Llanidloes. Y mae rhai o'r ystrydoedd yn llydain, tra mae eraill yn gul dros ben. Harddir y lie a phont gadarn o wneuthuriad da. a chywrain dros yr Hafren. Y mae y dref hon yn nodedig er ys blynyddau am wneuthuriaid gwlaneni. Fel y mae Leeds i Lloegr, felly y mae Drefnewydd i Gymru. Prif ymffrost yr hawker Cymreig fyddai, fod ei ddefnyddiau wedi eu gwnauthur yn y lle hwn. Yn gwynebu un o'r prif heolydd gwelir siop fawr Pryce Jones, yr hon sydd yn un o brif firms y dref. Y mae y perchenog wedi enwogi ei hun trwy ei ddefnyddiau rhagorol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Er nad yw y dref ond bechan, eto ymddengys yn llawn bywyd drwyddi oil, a diau yn mhen ychydig flynyddau bydd yn dref fasnachol gyda'r pwysicaf yn y wlad. Bu y lie hwn yn safle y Coleg Anni- bynol am tua 18 mlynedd, sef o'r flwyddyn 1821 hyd y flwyddyn 1839, pryd ei symudwyd i Aber- honddu. Addysgwyd yma lu.ws o wyr cedyrn, y rhai fyddant a'u henwau yn pereiddio hanesyddiaeth grefyddol ein gwlad uchel freintiog. Y mae yr iaith Saesonaeg wedi enill tir i raddau helaeth iawn yma o fewn i'r blynyddoedd diweddaf. Canfyddir olion gwendid ar achosion Cymreig y lie, tra y mae y rhai Saesonaeg yn edrych yn gryf ac yn llawn bywyd. Yn ol agwedd presenol pethau yn y lie, diau bydd y Gymraeg yn fuan yn iaith estronol i'r preswylwyr. Tua pbedair milldir o'r dref ceir heddyw hen Gastell Dol y Forwyn, an: yr hwn y mae traddodiad hynod yn bodoli. Dywedir fod ei enw yn cyfeirio at Hafren, merch Locrinus. mab Brutus, o Essyllt, merch brenin Germany. Yr oedd Locrinus wedi addaw priodi Gwendolen, merch Corineus, cyfaill Brutus. Penderfynodd Corineus i'w ddyfetha os na phriodai ei ferch yn ol y cytundeb. Er osgoi y fath drychineb, parodd Locrinus i Essyllt ymguddio am gryn amser mewn lie unigol. Yn y cyfamser cyflawnodd ei addewid trwy briodi Gwendolen. Pan bu Corineus, ei thad farw, darfu i Lecrinus roddi Uythyr ysgar i Gwendolen; a gwnaeth Essyllt yn frenines. O'r diwedd bu farw Locrinus ei hun, ac enillodd Gwendolen ysedd lywodraethol, ac mewn dialedd parodd i Essyllt, ac Hafren ei mherch gael eu taflu i'r afon, a'u boddi. Dywedir mai oddiwrth yr amgylcbiad hwn y galwyd yr afon yn Hafren. Tua un filltir ar ddeg o Drefnewydd, saif tref fechan, hardd, a threfnus o'r enw Llanfaircaereinion. Llifa afon dlos y Fyrnwy heibio ei hochr. Y mae llinellau Goldsmith yn briodol iawn i sefyllfa y lie hwn:- The never failing brook, the busy mill, The decent church which tops the neighbour- ing hill.' Gallem feddwl i ddyfroedd arbhurol y diluw ddan- gos parch i'r lie hwn. Ni chlywir yma braidd ond swn murmur yr afon pan yr ymddolena trwy'r dyffryn, a miwsig y cor asgellog. Nid yw ei thrig- olion wedi eu blino hyd yn hyn gyda swn lleisiau croch y march tan. Gwelir yma amryw addoldai heirdd perthynol i'r Annibynwyr, Trefnyddion Calfinaidd, Wesleyaid, Bedyddwyr, &c. Y mae yr achos Annibynol sydd yma yn dal yn mlaen yn wrol a gweitligar. Hyderaf y cant un wrth fodd eu calon i'w llywodraethu, yr hyn fydd yn adgyfnerthiad i'r achos yn y lie. Y mae yma eglwys yn dwyn nodwedd yr hen ddull cyntefig oir adeiladaeth-y mae ei tho yn isel, a'i chlochdy yn fychan. Deallaf fod bwriad i adeiladu un newydd yn ei 11e, yr hon fydd yn deilwng o gelfyddydwaith y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Plas y Gorchest. (I'w barhau.) lOAN.
tW!J ttdhttt (f!;rt(y d4øt.
tW!J ttdhttt (f!;rt(y d4øt. Ci'MER.—Cynhaliwyd cyfarfod pregethu yn y capel nchod ar y 30ain a'r 31ain o Hydref, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn Mr Williams, Blaena Air Hughes, B.A., Tredegar; Mr Evans, Maendy; Mr Davies, Taibirion, a Mr Probert, Bodringallt. Cawsom aynulleidfa llnosog, pregetbau grymus a dylanwadol. Bendith y nefoedd a'u dilyno.-H enry Puntan. LLANFACHRAETH, MON. Nid peth cyffredin y blynyddoedd hyn ydyw gweled capelau heb ddyled- ion yn aros arnynt, felly capel yr Annibynwyr yn y lie uchod. Ryw bedwar mis yn ol, yr oedd yn aros ar y capel uchod ±50 o ddyled. Ond daeth yr aelodau yn nghyd, ac ewvllyswyr da yr achos, i'r penderfyniad o gael clirio y swm uchod, os oedd yn bosibl. Daethant i'r penderfyniad am i'r Parch J. Hughes, eu gwein dog, fyned ar daith, gan ddechreu I yn Mon, Arfon, Meirion, a Dinbych, er casglu rhyw gyfran fechan tuag at leihau y ddyled oedd yn aros. Maeyn llawenydd genyf ddweyd fod y Parchedig J. Hughes wedi cael casgliadau anrhydeddus mewn amryw leoedd yn nghorph y pyratheg wythnos o Iafur a diwydrwydd. Yr Arglwydd a dalo i'r cyfryw am eu rhoddion caredig. Yn awr, gellir dweyd. rhwng y casgliad teithiol ac ychvdig sydd mewn Haw yn barod, fod capel yr Annibynwyr yn y lie hwn yn glir oddiwrth ddyled. Dylaswn ddweyd fod y Parch Mr Hughes wedi dangos ei hun yn wr boneddig yn yr amcan crybwylledig, sef wedi rhoddi £ 4 ei hunan er cael y swm i fyny.— W. R. CASTELLNEDH. — Pen chwarter ysgolion yn Soar.- Yn ol eu ha, fer ar ben pob chwarter, eyf irfli ys- golion Melinorythan, Gimle, Penytwyn, Monaoh- log, a Soar, y Sabbath diweddaf, Tachwedd 3ydd, z, ui y capel uchod. Daethant yn nghyd yn gryf iawn o'r gwahanol fan an. Gwrandawodd y Parch J. Mathews arnynt yn astud iawn, a roddodd llawer o gynghorion ac anojaethau da iddynt tra yn myned yn y blaen a'r gwaith rhagoral o aclrodd y darnau o'r ysgrythyrau, a phethan moesol ac adeil- adol eraill. Can wyd amryw ddarnau yn fywiog a chwaehns gan y corau, teilwng o'n hoes. Rh&i hynod yw cor Melincrythan, ond rhaid i ni draethu ein bafn f d cor Soar wedi dangos mwy o ol Ilaft," I y a diwyJliantyn yst-od < chwarter diweddaf. Deall- wyf fod yuidreohion diflino Mr J. L. Mathews wedi cael tipyn o'r rwd oddiar y cantorion ieuainc yn Soar, a'u bod yn dechreu- disgleirio o dan ei drin- iaeth ddyfal a gofalus. Yn wir, y mae clod mawr yn .ddyledus i Mr Mathews am ei egni trwy y blynyddoedd iwella y canu cynulleidf.iol. Dealiwn fod ysgol er dysgu yr egw> ddor gauu ganddo wedi dechiHiu. Yn iechgyn a merched sydd yn rneddu tipyn o organ ganu yn gystal a Ilais da, peidiweh er dim a cholli y cyfle hwn. Y mae Mr Ma thews yn rhoi ei lafur a'i amser am ddim, ac y mae am i chwi ddysgu canu yn dda.—Ei yr Glan Llyfnwy.
curytt(nOU
curytt(nOU BETHSAIDA, BONTNEWYDD.-N os Sadwrn, Tach- wedd yr 2il, cynhaliwyd cyfarfod undebol y Band of Hope yn y lie uchod. Llywyddwyd gan Mr. Jones, a cbanwyd amryw ddarnau gan cor Moriah, Waun- fawr, cor Hermon, a chor Bethsaida. Er nad oedd y corau ond ieuanc, eto yr oedd y canu yn hynod o swynol ac effeithiol. Cafwyd amryw anerchiadau ac areithiau, a dadleuon gan y cyfeillion ieuainc. Gellir dweyd fod y cyfarfod trwyddo yn hynod o ddifyrus a tharawiadol. Ein dymuniad ydyw am i'r undeb fyned rhagddo, ac y cawn gyfarfod buan eto. Y mae dau beth mewn golwg er hyrwyddo y symudiad yn mlaen, sef magu y genedl sydd yn codi yn foesol, a chrefyddol, ac ymlid y gelyn din- ystriol—meddwdod—ymaith o'r tir, a gobeithio na bydd yn hir cyn cyrhaedd ei hamean, yw dymuniad, —Gwerfyl Owyrjai. GV/AENCAEGURWEN. Brawychwyd trigolioa cylchynol y tu yma nos ffair Llangadog, yr hon oedd yn digwydd yr wythnos aeth heibio, trwy i swn ddyfod allan fod dyn wedi cael ei frathu a chyllell gan un oedd yn ymrafaelio ag ef yn y Gwaencaegurwen Arms, yn y lie uchod. Aeth y peth allan megys tan gwylit trwy y gymydogaeth, a dynion yn rhedeg o bob cyfeiriad tua'r lie; ond yn ffodus, nid oedd y brathiad cynddrwg a;g y tybid, er bod y dioddefydd, meddir, yn barhaus mewn poenau dirfawr. PALAS GWYNFA, ABERDAB. —Prydnawn dydd Sadwrn, Hydref 2il, cynhaliwyd Eisteddfod yn y lie uchod. Llywyddwyd yn fedrus gan Mr Wm. Davies, Meirion Street. Beirniad y traethodau, Mr Jonak Thomas (Gwynfead); y farddoniaeth, Mr Eva. Jones (Hedydd Cynon); y gerddoriaeth, Mr John Griffiths (Eryr Glan Cynon); y gelfyddyd, Mri Griffiths, Trecynon. Cawsom Eisteddfod hwylus a dyddorol yn mhob ystyr. Pwy bynag a ddywedant yn erbyn eisteddfodau, y mae arwyddion o gynnydd a ffyddlondeb yn dilyn yr Eisteddfod ",on.-Un oedd yno. RHYMNEY.—Nos Fercher, Hydref y 30ain, cawsom yr hyfrydwch o glywed y Parch. Samuel Rcberts, gynt o Lanbrynmair, yn darlithio ar 'America' yn Aforiah,-y Parcb. E. C. Jenkins yn y gadair. Yr oedd y capel yn orlawn o wrandawyr astud. Cyn- nygiwyd diolchgarwch y cyfarfod i'r darlithydd gan W. P. Davies, ac eiliwyd ef gan D. Jones. Ymadaw- odd pawb wedi eu boddhau yn fawr. Tw 7it o'r Txvyn.
BACHGEN AR GOLL.
BACHGEN AR GOLL. Cymerodd digwyddiad lied hynod le yn Nolgellaa, nos Iau, y 24ain o'r mis diweddaf. Cyn y gellir rhoddi eglurhad cywir o'r amgylchiad, rhaid im* fyned ychydig yn gwmpasog, ond ceisiwn beidim myned yr un cam pellach nag sydd wir angenrheidiol er egluro'r mater. Y mae dyn o'r enw Dafydd Jones, yn byw yn agos i'r dref hon, mewn lie a elwir Penbryn-glas, a chan- ddo un plentyn (mab), yr hwn sydd oddeutu 11 mlwydd oed. Ychydig flynyddau yn ol, bu farw gwraig Dafydd Jones, gan ei adael yntau yn weddw. Pan gymerwyd ei wraig yn glaf, daeth ei mhamyno, i weini arni, ac i ymgeleddu'r teulu; ac o'r adeg hono hyd yn awr, y mae ei fam-ynghyfraith ya edrych ar ol ei dy, ac yn gofalu am ei unig blentyn. Ond un noson aeth y plentyn ar goll, ac Dis gallasai ei nain ddyfalu pa le'r oedd. Byddai ei dad yn arfer myned i'w wely yn lied gynnar, ac felly yr aeth y noson hono, heb feddwl fod dim allan o'i le mwy nag arfer ond arhosodd ei nain ar ei thraed, gan dybio y deuai adref o rywle cyn bo hir. Ond er disgwyl a disgwyl am hir amser, nid oedd yr un argoel fod y bachgen yn dod. Wedi iddi Synfytyrie am beth amser yn nghanol ofoau a phryder, meddyl- iodd y gallasai fod wedi myned i dy ei mham, (y mas mam nain y plentyn yn fyw), yr hon sydd yn byw dros filldir o'r dref; pa fodd bynnag, penderfynodd fyned yno i edrych cyn hysbysu y tad o'r peth. Felly, hi a aeth, ac erbyn iddi gyrhaedd yno, yr oedd. y ty wedi ei gloi i fyny, a'r hen wreigan yn ei gwely. Curodd y drws, a daeth yr hen wraig ati, agofynodd iddi beth oedd arni ei eisieu yr adeg hono o'r nos f (Yr oedd erbyn hyn tua deg o'r gloch.) Dywedodd hithau mai wedi colli y plentyn yr oedd, a gofynodd iddi a wyddai hi ddim o'i banes ? atebodd hithau na wyddai: ac erbyn hyny yr oedd eihofnau wedi mwy- hau yn ddirfawr, gan nas gwyddai yn y byd mawr pa le i fyned i 'chwilio am dano. Os oedd hi yn ddrwg cyn cychwyn, yr oedd hi yn llawer iawn gwaeth erbyn hyn. Gwisgodd yr hen wreigan am dani, a daeth gyda'i mherch i'r dref. Wedi iddynt gyrhaedd y ty, a chanfod nad oedd y plentyn wedi dychwelyd, darfu iddynt hysbysu y tad o'r peth. Cododd yntau drachefn yn ddychrynedig, a gofynodd i'w fam-ynghyfraith pa bryd y gwelodd hi ef ddi- weddaf. Dywedodd hithau mai rhywbryd yn yr h wyr, gyda phlant Owen Jones, y crydd. Cyn gynted ag y clywodd hyn, aeth allan ar frys, a chyfeiriodd tua thy Owen Jones. Wedi iddo gyrhaedd yno, a chael gan y teulu godi, holodd y plant yn ei gylch. Dywedasant eu bod wedi bod gydag ef y noson cynt, ac mai yn yr eglwys y gadawsant hwy ef ddiweddaf. Yr oedd yn dygwydd bod cyfarfod pregethu yn yr Eglwys y noson hono. Ar ol id.lo gael cymmaint a hyn o hysbysrwyddyn ei gyloh, ymadawodd oddiyno, ac aeth rhag ei flaen i ymgynghi)ri a Mr Williams, yr ysgolfeistr, yr hwn sydd hefyd yn dal y swydd glochyddol. Gurodd y drws, a dywedodd wrth bubl y ty ei neges. Co todd Mr Williams, yn nghyda gvrr y ty lie y mae yn lletya, ac aethaot ill dau gydag ef tua'r Eglwys. (Coiled y darllenydd ei bod yn awr oddeutu un o'r glo;h y boreu.) Yr oeddynt wedi gofa'u am fyned a lantern gyda hwynfc i oleuo y ffordd o'u blaen. Ar ol iddynt dclyfod yn a».>s i'r Eglwys, awgry modd Mr. Williams wrth Dafydd J • es y byddill yn welllddo ef. alw y bach wrth ei enw, yn hyfcrach na rhuthro i mewn yn ddisymwth, yr hyn a fuasu yn sicr o'i ddychrynu, os oedd yno. Cydsyni-dd yntau a r cais; ond er gwaeddi, md Ot:dd lief. na neb yn ateb.' Wedi iddynt gael eu siomi yn hyn, agorwyd y drws, a'r peth cyntaf a ymddaugos- odd iddynt ar eu myuediad i mewn ydoedd y bachgen gwrol, yn edrych yn dawel a digyfiVo mewn lie y buasai yn llawn digon o orchwyl i'r dyn cryfaf ei gyneddfau beidio ag ofni ac arswjdo. Pan ganfu ei dad ef, rhedodd ato fel dyn hauner gwallgof, gam ei gymmeryd yn ei freiclnau a'i gofleidio. Ceisied y darllenydd ddirnad faint all fod llawenydd tad o dan y cyfryw an.gylehiad. Efallai y bydd y darllenydd yn barod i oiyn heth oedd yr ashos na. buasai y plen- tyn hwn yn myned adref oddiyno gyda'r plant eradl, ar ol i'r gwasanaeth orphan. I hyn yr atebwn, iddo fod mor aniftdus a chysgu yno. ac ymailodd Mr. Cvvsg ynddo i'r fath raddaix fel na chlywodd ddim oddiwrth drwst y gynnulleidfa yu gwasgaru, a bll yn y sefyWà. hono hyd nes y deffrodd u bono ei hun, oddeutu naw o'r gloch. Mor fuan ag y dealiodd mai yn yr Eglwys yr oedd, neidiodd i fyru yn uniongyrehol, ac a"th cc rliyngddo a'r drws; ond erbyn iddo ei gyraedd, fyddodd er ei fawr ofid nad oedd yn ddiohoaud,vy iddo fyned ailan, ac felly nid oedd gauddo ddim i'w wneyd ond disgwyl yu amyneddgar srth ra.luniaeth am ymwared.
EBENEZER A'I HAMGYLCHOEDD.
un o'r arches yn yehwanegu llawer at ei phrydferth- wch. Yr oedd pawb wedi bod ar eu goreu yn goleuo y ffenestri, ac yn wir yr oeddynt yn ardderchog iawn. Yr oedd golwg gay y lie yn peri i ni amheu ai ar ftlir Foel Rhiwau yr oedd ein coelbren wedi syrthio y noson hono. Erbyn 7 o'r gloch, yr oedd canoedd lawer o bobl, o bob oed a rhyw, wedi ymgasglu yn nghyd, ac yn gwau yn hamddenol drwy eu gilydd ar hyd y brif heol, a phan wnaeth cerbyd y < par ieuanc' ei ymddangosiad, dyrchafodd y dorf fanllefau byddarol. Declirsuodd y brass band chwareu ei oreu glas, lluchid y tan gwyllt i fynu i'r eangder, a fflachiai y blue lights. Yr oedd y brwdfrydedd yn angerddol, ond aeth y cwbl drosodd mor rheolaidd ag y gellid, heb i neb dderbyn y niwaid lleiaf. Blaenorid y cerbyd gan y band o Ebenezer I r Ysgol- dy Cenedlaethol. Yr oedd yno swper mawreddog wedi ei darparu, a'r lie wedi ei wisgo yn ysblenydd. Anrhydeddodd Mr a Mrs Parry yr ystafell a'r cyn- Dulliad parchus a'u presenoldeb dros ychydig fynud- au. Wedi i ryw 300 eistedd wrth y bwrdd a gwneud cyfiawnder perffaith a'r danteithion blasus, codwyd y llieiniau, a chasglwyd y briwfwyd gweddill. Etholwyd i'r gadair y Parch. H. G. Edwards, Llan- dinorwic. Cantorion y cyfarfod oeddynt Mri J. Owen, Pantafon; Ffoulk Jones, Ebenezer; H. Jones, Albert House, a'i blant; Afaon Eryri, a'r brass band. Yr oedd y canu yn dda fel arfer. Cafwyd anerch- iadau byr, i'r pwrpas, a llawn o dan, gan y llywydd, Mri H. Jones, Corlanau; Owen, Siop y Chwarel; Williams, Vaynol House; Afaon Eryri (Englynion); Morris Jones, Deiniolen House; y Parch. Thomas Johns, Ebenezer, a'r Parch. Moses Thomas, curad Llanrug. Yn mhlith pethau eraill, condemniwyd mewn iaith eglur a chryf y glicyddiaeth a arferwyd efo y swper a treat y plant yr wythnos flaenorol. Ystyrid fod cysylltiad Mr Parry a'r ardal yn gofyn ar fod cyf- leusdra i bawb a ewyllysiai gael dangos arwydd o barch iddo ar adeg ei briodas. Yn y swper gyffi-ed. inol hon, a holl rhialtwch y noson, dangosai y BOBL lia chymerent eu cynrychioli gan ychydig bersonau hunanol, ond y mynent eu hunain ddangos parch i'r hwn yr ystyrient fod parch yn ddyledus. Dywedai arall fod pob arwydd o barch diffuant a wnaed ar yr aclilysui yn tueddu yn rymus i gryfhau serchiadau y goruchwyliwr a'r gweithwyr at eu gil- ydd, yn nghyd a phlanu meddyliau parchus yn y plant am Mr Parry. Gan na fu dim cyffelyb yn y gymydogaeth wedi adeg priodas Tywysog Cymru, ar oeddynt yn rhwym o feddwl fod Mr Parry o hono yntau yn un anghyffredin yu ngolwg y wlad. Hyd- erid y cadwai dros byth ei gymeriad presenol o ddyn tyner ac hynaws, a chefnogydd llenyddiaeth a phob achos teilwng. Yr oedd boneddiges graffus a welsai Mrs Parry y nos hono am y waith gyntaf wedi sicr- hau i un o'r siaradwyr fod digon o brains ganddi. Gobeithiem ainau yn ddiataw bach fod digon o galon -calon fawr, llawn o ddyngarwch—ganddi. Hyny gyda synwyr da, a rydd achos llawenychu i'r weddw a'r amddifad, a'r dosparth gweithiol yn gyffredin. Dymunid i'w hiliogaeth, fel dau Gymro glan ac urddasol, fod yn trige ac yn dal safle anrhydeddus yn y gymydogaeth tra byddai maen ar faen yn chwarel yr Eilidir Fawr. Wedi diolch i'r boneddig- eeau am waitio, i Mrs Williams, Dinorwic House, am fara bith, i bwyllgor y swper gyffredinol am eu fianturiaeth, i'r brass band am wasanaethu, ac i'r 4Dffeiriaid am lywyddu mor ada, rhoddwyd cheers calonog i deuluoedd BluePerris ag Hafotty, a gwas- .garodd y canoedd pobl a'u calonau yn llawn iawn, os oedd eu gwynebau yn ddangoseg cywir o'r dyn oddifewn, fel mae yn debyg eu bod. Rhoddwn ein Jiysgrifell heibio gyda dyweyd, llir oes, ac oes o adefnyddioldeb a dedwyddwch, i Mr Parry a'i briod wddgar. LLAIS O VOEL RHIWAN,