Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

MERTHYR TYDFIL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MERTHYR TYDFIL. Trysorfa Ymfudol. -Mown cyfarfod cyhoeddus yn yn y Neuadd Ddirwestol, nos Lun yr lleg cyfisol, gosodwyd y mater hwn ger bron y cyhoedd. Cymerwyd y gadair gan Mr D. T. Williams, (Tydfylyn). Anerchwyd y cyfarfod gan J. W. James, W. Gould, H. Thomas, J. Beynon, &c. Dadl- euai y gwahanol siaradwyr dros y priodoldeb o sef- ydlu trysorfa er cynorthwyo y teuluoedd a ewyllys- ient, ond ni allent o ddiffyg arum, i ymfudo i Amer- ica. Mai yr unig ffordd i godi y cyflogau oedd i luaws o'r gweithwyr i ymfudo, a thwy hyny gy- nyrchu prinder mewn llafur. Mae y lie goreu ar hyn o bryd i ymfudo iddo ydyw Missouri, lie y mae digon o dir i'w gael ar delerau rhad, ond fod y rhan- au gweithfaol o America yn yr un sefyllfa a ni yn I Nghymru. Ceir gweled yn ol Haw beth fydd y can- lyniadau. Rector Merthyr.—A dyweyd y lleiaf, rhyw ddyn rhyfedd, a phregethwr rhyfedd yw Rector Merthyr. Y mae rhyw allu neu wendid ynddo (y mae yn an- hawdd gwybod pa un) i draddodi pregeth ar nos Sul yn awr ac eilwaith a wna row ac a gyfyd ei enw i'r gwynt am bythefnos, neu feallai ychwaneg, ar ol hyny. Ni chlywsom ei fod erioed wedi pregethu pregeth nodedig o ragerol ar un o bynciau sylfaenol crefydd, neu ei fod ar ryw nos Sul wedi pregethu Crist mor effeithiol nes yr oedd y gynulleidfa wedi anghofio eu etiquette, ac ymollwng i felianu neu i foddfa o ddagrau. Nos Sabboth y lOfed cyfisol, cy- merodd yn destyn 1 Thes. v. 12. Y mater welodd ei lygaid treiddgar ef yn gorphwys yn ngwaelod y testyn oedd, yr Eglwys Wyddelig.' Gwahoddwyd ef i'r cyfarfod cyhoeddus gafwyd yn ddiweddar yn y Neuadd ar yr Eglwys Wyddelig. Ni welodd efe yn dda nac yn ddoeth i ddyfod i hwnw i draethu ei olygiadau, ond cymerodd y cyfleusdra hwn i fynegu ei fam ar y mater yn ei wahanol gysylltiadau i'w gynulleidfa ei hun gartref. Chwareu teg i'r Rector, y mae efe yn deall ac o ganlyniad yn teimlo, mae nid yr Eglwys yn yr Iwerddon yn unig sydd mewn golwg, ond yr Eglwys yn Lloegr hefyd,—mewn gair, dadgysylltiad a dadwaddoliad crefydd yn llwyr a hollol. Ar y tir hwn felly y mae efe wedi cymeryd ei satle, ac arno y mae wedi cyhoeddi yn ddigon eglur ei fod yn penderfynu ymladd hyd farw, ac y ca gelyn- ion yr Eglwys Sefydledig weled y medr yr offeiriaid frathu yn gystal a chyfarth, ac mai nid cwn mudion ydynt. 0 ran hyny, gwyr yr Ymneillduwyr yn eithaf da er's blynyddau bellach y medr yr offeiriaid frathu, a brathu heb gyfarth hefyd; ond tipyn 'o .y beth oedd clywed y Rector yn cyfaddef o hono ei hun ei fod ef a'i frodyr santaidd o rywogaeth y cwn, y rhai y mae gorchymyn ysbrydoledig am eu gochel. Druan o'r Rector, y mae arno ofn yn ei galon i'r Eglwys gael ei thynu yn rhydd oddiwrth y wladwr- iaeth, oblegid fod arno ofn mentro ar yr egwyddor J wirfoddol. Dygodol y mater adref yn ymarferol ato ef a'i deulu. Betb,' meddai, 'pe bawn i a'm teulu yn gorfod ymddibynu ar yr egwyddor wirfoddol am ein cynhaliaeth, dyna wledd gaem Ar ddydd Nadolig byddai ef a'i deulu yn gorfod myned at y mwyaf caredig yn y gynulleidfa, fel y caent un pryd da yn y flwyddyn beth bynag. Mewn difrif dylai dyn fel hwn gael teitl am ostyngeiddrwydd ac hun- anymwadiad, ac am ddiffyg ffydd yn nerth yr efengyl, ac yn nghrefydd ei gynulleidfa respectable. Dyma ddyn yn effeithiol yn cydnabod nad ydyw efe yn pregethu yn y fath fodd i'w gynulleidfa, y gallai ar dir teg ddisgwyl iddynt ei gynal yn respectable, ac mai newynu a wuai efe a'i deulu oni bai fod ei gyflog yn dod iddo heb ddiolch i'w gynulleidfa. Dyma ddyn yn proffesu ar gyhoedd nad yw efe yn credu yn ngallu yr efengyl i gynyrchu digon o haelioni mewn cynulleidfa gyfrifol a chyfoethog fel ei un ef, i gynal yn gysurus a respectable y dyn sydd yn eu bugeilio yn yr Arglwydd. Beth a ddywed am ei frodyr clerigawl. Y canlyniad fyddai hyn, y bydd- ai yr offeiriaid yn fuah yn fyddin druenus o dlodion.' Y r ydym yn credu y Rector ac yn cydweled ag ef yn hollol yn hyn am hyny yr ydym yn honi mai anghyfiawnder a'r wlad ydyw ei threthu i gadw mewn sefyllfaoedd cysurus ddynion nas gallant gadw eu hunain o'r tlotty, pe gosodid hwynt ar eu gwadn- au eu hunain fel dynion ereill. Ond gwaeth na'r cwbl, addefodd y Rector heb wrido nas gallai efe bregethu yr Efengyl yn oneSt ac ymddibynu ar yr egwyddor wirfoddol am ei gynhaliaeth. Sylwer ar eiriau fel hyn o enau dyn sydd yn cael ei dalu gan y llywodraeth am ofalu am eneidiau 53,000 o ddynion —' A fedrwn ni bregethu y gwir—y gwir noeth-a chael cynhaliaeth ?' Y mae ei ofyniad yn awgrymu yr atebiad oedd yn ei galon-Na fedrwn. Yn awr y mae ymadrodd felly o eiddo y Rector, naill ai yn gyfaddefiad gonest o'i eiddo éf, nad ydyw wedi ei feddianu a syniad ac a theimlad digon dwfn o bwys. igrwydd ei swydd yn ei chysylltiad a'r eneidiau a wrandawant arno, ac o'i gyfrifoldeb personol ef i Dduw, fel ag i bregethu y gwir, ie, y gwir fel y mae yn yr Iesu yn ddidderbyn wyneb; neu, nad oes ynddo ef ddigon o wroldeb moesol i wneud hyny, rhag drygu ei amgylchiadau. Clywsom lawer am ddysgyblion y torthau, ond ni chlywsom un o hon- ynt erioed mor onest yn cyfaddef ei berthynas a'r frawdoliaeth barchus. Nid ydym yn amheu nad oedd llawer o'r gynulleidfa yn gwrido pan ddywed- odd y geiriau a ganlyn ar ddiwedd ei bregeth (pe pregeth hefycl) Os bydd dynion am gael y gwir. ionedd wedi ei bregethu iddynt, yn bur a dihalog rhaid iddynt beidio a'i ddisgwyl dan yr eg- wycldor wirfoddol, oddiwrth yr hon, "Gwared ni Arglwydd daionus. Beth, a ydyw y Rector yn ddigon haerllug a digywilydd i haeru neu yn hytrach i gymeryd yn ganiataol fod holl weinidogion yr eg- lwysi dnvaddoledig yn trin Gair Duw yn dwyllodrus? Yr ydym gyda dirmyg yn taflu y cyhuddiad yn ol i fynwes ei dad. Onid oes yn Lloegr weinidogion Ymneillduol yn cael drwy roddion gwirfoddol eu heglwysi, gymaint arall o gyflog ag a ga y Rector gan y llywodraeth am wasanaethu yn Merthyr; ac ni byddai achos i neb ofni cydmaru y rhai hyny fel pregethwyr gonest, a'r Rector fel pregethwr gonest. Onid oes mwy o ddylanwad er dychafu crefydd bur wedi dyfod o'r pwlpudau Ymneillduol, nag a ddaetb erioed o bwlpudau yr Eglwys. Os felly, gwirionedd pur a dihalog sydd wedi ei bregethu ynddynt. Er nad oes un o weinidogion Merthyr yn byw mewn mansion fel Gwaelod y Garth, ac er eu bod yn ym- ddibynu ar roddion gwirfoddol y rhai y pregethant iddynt, a'r mwyafrif o'r rhai hyny yn weithwyr, eto medrant bregethu 'holl gynghor Duw,' medrant ym- ddiried yn haelfrydedd eu gwrandawyr hyd eithaf eu gallu, a chant eu parcnu gan eu heglwysi llawn cymaint beth bynag ag y perchir y Rector gan Eg- lwys St David's, nid am eu bod yn ymfoddloni ar gyflogau cymharol isel, ond am eu bod yn dysgii eu pobl yn ffordd iechydwriaeth. 'Ymddirieda y gwein- idogion yn eu pobl, a pharcha y bobl eu gweinidog- ion teilwng.

RHOSLAN A LLANYSTUMDWY.

CYFARFOD CHWARTEROL MON.

FFALDYBRENIN.

NODION A NID1AU.

Y GYMDE1THAS DDIWYGIADOL GYMREIG.

[No title]