Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

ANERCHIAD I'R 'TYST CYMREIG.'

YSGOLION SABBOTHOL ANNIBYNWYR…

AT DAEAREGYDD.

RHYBYDD I'R BEIRDD.

I: ! CYMMERIADAU.

ENNANTLLIW BACH, LLANTJWCHLLYN.

GEIRIAU YMADAWOL Y DDjWEDDAR…

Y DYN ANWADAL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DYN ANWADAL. BYD yw hwn dan greithiau marwol, Llawn o fodau cyfnewidiol, Wedi Adda'n Eden bechu, Anwadalweh lanwai'i deulu; Ond er colli ein cymeriad— 0 dan nod o gyfnewidiad, Nid yw pawb yn myd yr anial Yn dwyn nod y 'dyn anwadal.' ] Hynod amlwg yw'r nod yma, ■ Delw annwn a'i dilyna, y*'l Gwelir e'n ei holl agweddau ■ ?" Yn gerfiedig ar fywydau; Cafodd miloedd lawer drwyddo Yn y diwedd eu handwyo, Fe'u harweiniwyd ar eu hunion I dylodi a dyledion. Coegaidd wr, rhigymwr gwamal, Oer, a nwydog yw'r anwadal, Weithiau'n bobpeth-yn ddim wed'yn, Heddyw'n win, yforu'n wenwyn; Gallech feddwl ar rai troion Mai efe yw'r rhwydda'i galon, Ond pe baem yn ymddibynu Ar ei wen, fe wnaem newynu. Rhoddion hael i bawb ddigonedd A addawa yn ddiddiwedd, Ond yn adeg y cyflawni, Gwnaiff ystwr, a thrydd ei stori; Nid yw'n werth in' ddisgwyl wrtho Mewn un modd am ddim o'i eiddo, A phob tro yr ymddiriedir Yn y gwr, yn siwr fe'n siomir. Mae fel aelod o gymdeithas— Yn ddifudd ac anghyfaddas, Troir ei wen, ei wg, a'i agwedd, Yn wrthddrychau gwawd yn gydweddy Syrth pob gair a phob awgrymiad Ddel o'i enau'n ddiddylanwad, Nid oes bywyd yn y cyfryw, Am mai dyn anwadal ydyw. yn y Ilys, y wlad, a'r ardal, Fe gyfrifir yr anwadal' Megis ceiliog gwynt dry'n gyson Drwy reoliad yr awelon; Byth ni saif ar hin dymhestlog Am anadliad pi sefydlog, A phob doethwr a'i canfydda Yn y storom, ni thosturia. Pan yn Seion gyda'r brodyr, Dynanwastad yw 'mhob ystyr, Fe gyflawna'i ddyledswyddau Yn wr selog am rai Suliau, Ond yn fuan mae'n tramgwyddo, Yna gwelir e'n gwrthgilio, Ac Ow! trydd ei ddu gymeriad A'i wrthuni'n warth i'w enwad! Ni chroesawir y'mhyrth Seion Mwy ei farwol ymarferion, Gan y dylid dal deb wyro i .J Fel ei Brenin yn bur yno; Nid yw aberth neb ond dibwys E arogliad yn yr eglwys, Pin mae delw anwadalwch A y cyfan a wneir-cofiwch. Wern, PENRHYN FARDD.

Gynhygiad Arwyddocaol,

[No title]

LLYTHYRAU OYk. N NGHANAA-W.…