Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

EFfiNGYLWYlt TEITHIOL CYMRU.…

TAITH Y PERERIN.

LLANBRYNMAIR AC AMERICA.

BRYN, LLANELLI.

ARFON OGLEDDOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

ARFON OGLEDDOL. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn Peadref, Caernar- fon, Mai lleg a'r 12fed. Yr oedd pregethau yn cael eu traddodi nos Lun gan y Parchn D. Oliver, Llan- beris, ac R. Thomas, Bangor. Am 10 bore dydd Mawrth, dechreuwyd y gynadledd; Parch David Roberts, Pendref, yn y gadair. Yr oedd y brodyr can- lynol hefyd yn bresenol:—J. Roberts, Conwy; E. Stephen, Tan y Marian; T. Johns, Ebenezer; W. Griffith, Trefriw; D. Griffith, (henaf), Bethel; R. W. Griffith, Bethel; B. Evans, Caernarfon, a G. Thomas, Llanrug, ynghyd ag amryw bregethwyr a diaconiaid o wahanol eglwysi yr enwad yn y sie, ac eraill a deimlant ddyddordeb yn eu hegwyddoia(^ a'u hymdrechiadau. Cytunwyd ar y pethau canlynol Fod cais yn cael ei anfon eto at Lord Penrhyn am le i adeil- adu capel yn Chwarel Goch. Yr ysgrifenydd i roddi mwy o eglurhad i Lord Penrhyn ar yr amgylchiad- au; Mr Thomas, Bangor, Mr Stephen, Tan y Marian, a Mr Griffith, Amana, i ymgylighori a Mr Parry, a bod yr achos yn cael ei ymddiried iddynt hwy. 2. Fod penderfyniad yn cael ei anfon at Mr Glad- stone oddiwrth y cyfarfod hwn, wedi ei arwyddo gan y Cadeirydd, i ddatgan eu cydymdeimlad hollol a'i gynhygiadau i sefydlu rhyddid crefyddol yn Iw- erddon. 3. Fod y cyfarfod hwn yn rhoddi anogaeth gref i'r holl frodyr alw pwyllgor cyffredinol yn y gwahanol ardaloedd, gyda'r amcan o gael bam y gwahanol ar- dalwyr ar bwnc cau Tafarnau ar y Sabbath, a bod y canlyniad yn cael ei anfon i Bwyllgor Ty y Cyffredin, sydd yn awr yn eistedd gyda'r amcan o chwilio i mewn i'r pwnc hwn. 4. Ein bod i orphen talu am y tir a brynwyd yn Llanfairfechan i adeiladu capel arno, a bod y tir i gael ei drosglwyddo i ddwylaw ymddiriedolwyr; Mr Thomas, Mr Parry, a Mr Edmunds, i wneud yr hyn sydd yn angenrheidiol i gychwyn adeiladu y capel yno. 6. Fod y cyfarfod hwn yn cydymdeimlo a'iMawr- hydi yn ngwyneb yr ymdrech fradwrus a wnaed am fywyd ei mab, y Duke of Edinburgh, a bod pender- fyniad yn cael ei anfon oddiwrth y cyfarfod, yn dat- gan ein cydymdeimlad a hi yn yr amgylchiad. 6. Fod y cyfarfod chwarterol nesaf i gael ei gynal yn Trefriw, yr amser i'w hysbysu eto. 7. Fod Mr Roberts, Caernarfon, i bregethu ar y pwnc, sef'Canu Mawl.' Am 2 o'r gloch preg-ethodd y Parch W. Griffith, Trefriw, ar y pwnc gasodedig, a J. Roberts, COBWY, Ac am 7 yn yr hwyr, gan y Parch T. Johns, Eben- ezer, ac E. Stephen, Tan y Marian. Dygid yn mlaen holl orchwylion y cyfarfod yn dra boddhaol, a llongyfarchid y frawdoliaeth ar ragol- ygon gobeithiol yr achos mawr drwy yr lioll ddos- parth.

BRYNGWENITH, CEREDIGION.

SALEM, MEIDRYN.

BETHEL, VICTORIA.

CYFARFODYDD MAWRION MAI.

iNODION A NIDIAU.