Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Y OIEXYDDIAI) CYHOEDDUS OLAF.

TERFYNTAD Y SEFYLL ALLAN YN…

ITENIAETH: YN lDIERICA.

" Y GOHEBYDD " A SUSPENSORY…

•AMCAN Y < SUSPENSORY BILL'

PENTREFOELAS.I

LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD. CylFrous iawn ydyw amgylchiadau y byd yn y dydd- iau hyn, ac nid yw ein trefninau heb ei chynyrfkdau. Mae eifeithiau yr ystorm ofnadwy a wnaeth'yma yr wythnos ddiweddaf yn fwy nag a dybiwyd ar y dechreu. Mae y dynion hynaf a mwyaf craffus yn dyweyd na wnaeth fwy 0 ystorm o wlaw, a mellt, a tharanau yn nghof neb sydd yn fyw. Goleuai y mellt mor danbaid, a dilynent eu gilydd mor fynych, fel y gellid darllen y signs ac enwau yr ystrydoedd yn gystal ag wrth oleuni haul. Ysgubai y llifogydd bob peth o'u blaen, a thrugaredd fawr nad oedd y difrod- iadau yn llawer mwy pan gofiwn y fath dymhestl ofnadwy a fu. Cwynir yn fawr mor isel ac araf vw masnach y dref. Yehydig daro sydd am ddynion, ac nid yw y tal a roddir iddynt, er ei fod yn uchel mewn cydmax- iaeth i'r peth y gwelwyd ef, eto nid yw yn ateb i'r codiad sydd yn mhris angenrheidiau. Bu cyfarfod pregethu yn y Tabarnacle newydd N ethertield Road y Sabbath diweddaf. Pregethodd y Parchedigion :—E. Evans, Llangollen, J. Rowlands, Rhos, J. Roberts, Brymbo, a W. D. Williams, Deerfield, America. Cafwyd cyfarfod lluosog iawn, ac yr oedd y gweinidogion mewn hwyl dda. Casglwyd yn rhagorol pan gofiom nad oes ond ychydig fisoedd er cyfarfod yr agoriad, pan y casglwyd mor ar- dderchog. Daeth y Parch. W. D. Williams, Deer- field, oedd yn y cyfarfod, diosodd 0 America y dydd Iau blaenorol, yn y City of Boston. Bwriada aros yn y wlad hon am ychydig fisoedd, y rhai a dreulia i ymweled a gwahanol fanau lie y mae hen gyfeillion a chyduabod iddo. Er nad oes ond ychydig o honynt yn aros, oblegid y mae 36 0 flynyddoedd er y gadaw- odd Gymru, ac am yr ysbaid maith hwn y mae wedi llafurio yn mysg ein cydgenedl yn America, gyda chymeradwyaeth mawr. Daeth y Parch. Mr. Lewis Rhesycae, a Mr. John Griffith, Cincinatti (mab y diweddar Barch. S. Griffith, Horeb), a'r wraig, a niter eraill 0 gyfeillion gyda hwy drosodd yma. Cyfarfyddais a hwy ar eu glaniad, ac yr oeddynt oil yn edrych yn dda iawn. Ar yr un Sabbath yr oedd cyfarfod yn Nghapel Sion, Oliver Street, yn Birkenhead, pan y pregethodd: y Parchedigion: —N. Stephens, J. Rowlands, Rhos, J. Roberts, Brymbo, a Josuah Davies, Birkenhead. Y Sabbath diweddaf oedd yr olaf i Mr. Davies yn Birkenhead cyn ei ymadawiad i Lundain. Dymunaf iddo Iwyddiant mawr, ac yr wyf yn sicr mai dyna. deimlad pawb yma. ^ae Cymanfa Sulgwyn y Methodistiaid yma y Sabbath nesaf; a disgwilir nifer fawr 0 bregethwyr. Nid wyf wedi gweled y rhestr eto, ond nid llawer o'r hen ddwylaw yn ol y cywais sydd yn dyfod ond o retn hyny ychydig o'r hen weinidogion sydd i'w cael, maent gan mwyaf wedi myned, a llenwir pwlpudau pob enwad yn awr gan do newydd o bregethwyr. Ofer cwyno ar ol yr hen dadau; gwell ydyw vm- roddi i gynal breichiau y rhai sydd, Canys gwell yw ci TIYW na Hew MARW." Y society fawr ydyw grand show y gymdeithasfa. Os gallaf mewn un modd af iddi y waith hon, a chewch ei hanes vr wythnos nesaf. Dyfodiad "°^m Bright i Liverpool ydyw y di- gwyddlad mawr y sonia pawb yma am dano y dyddiau yn. ilodus iawn fu y gymdeithas i sicrhau ei bresenoldeb. Bychan feddyliais pan grybwyllwyd yn y Tyst ychydig fisoedd yn ol am sefydlu cym- duithas o'r fath, y deuai i'r fath gyhoeddusrwydd mar ,p Erthygl neu ddwy a ymddangosodd yn y 1 yst wedi eu hysgrifenu, fel y clywais gan Dr. Rees, oeda y symbyliad cyntaf yn er ei furfiad; wedi hyny galwodd y Parchedigion Thomas a Stephens ar Coun- cillor Williams i edrych beth a allesid wneyd; ac oddiyno y galwyd y cyfarfod cyntaf, at yr hwn y bu yn worth gan Disraeli gyfeirio yn y Senedd. Syn oedd genyi weled rhyw greadur eiddigus yn rhywle yn gofyn beth sydd a fyn gweinidogion a bod mor gyhoeddus yn nglyn a'r gymdeithas. Wel oni buasai i'r gweinidogion ymysgwyd a deehreu gweithio ni buasai genym gymdeithas 0 gwbl. Mae llawer yn barod i bob anrhydedd pan y mae unrhyw achos wedi dyfod i sylw, end rhaid i ryw rai weithio yn ddyfal yn y dirgel cyn y daw fi lly. Aeth CounciUor Williams yn ei unswydd i Lundain i gyfarfod a'r Parch. J. Thomas, yr hwn oedd eisioes yn y Brif Ddinas, ac aeth y ddau at Mr. Bright i lobby yr House of Commons, a'chawsant ganddo addewid i ddyfod i Liverpool. A nos Fercher nesaf yw y noson. Bydd cynhadledd am ddau o'r gloch yn Hope Hall, lie y disgwylir cefnogwyr blaenaf rhyddid a diwygiad, i ymgynghori pa beth i'w wneyd, a pha fodd i weithredu. O'r gynhadledd yr wyf yn dis- gwyl mwyaf 0 dda-oni parhaol mewn cynllunio at waith ond am y cyfarfod y nos yn yr Amphitheatre y mae y disgwyliad mawr. Bright fydd yr ha-il, ond bydd yno leuadau a ser o'i gylch. Sonir am gael Dr. Rees, Liverpool, a Dr. Edwards y Bala, i siarad yn Gymraeg, oblegid eyfarfod i'r Cymry ydyw, ac nid i'r Saeson. Mae cais hetyd wedi ei wneyd i gael Henry Richard a Watkin Williams i'r cyiarfod, Nid am y bydd amser iddynt i areithio yn faith, ond oblegid eu bod wedi eu derbyn yn ymgeiswyr am gynrych- iolaeth dwy fwrdeisdref bwysig, un yn y De ac un yn y Gogledd. Os myn rhyw rai fod yn y cyfarfod yr unig ffordd i gael hyny ydyw dyfod yn aelodau o'r gymdeithas, a gellir gwneyd hyny trwy ohebu a'r ysgrifenydd. Ni ollyngir neb i mewn ond aelodau- sefirat hyny. Cynllaliwydcyfêlrfoddydd Llun gan y rhyddfryd- wyr Seisonig, pan y darllenwyd llythyr oddiwrth J. O. Ewart, ysw., yn yr hwn yr ymwrthodai ddyfod yn m'aen eto fel cynrychioiydd seneddol dros y dref. Ni ddygwyd un enw arall ger bron, ond y mae dau enw ar dafod bron pawb, sef GLADSTONE. a RATHBONE. Y mae y cyntaf yn frawd i'r Soneddwr enwog o'r un enw, a'r olaf ynfab i'r Seneddwr Rathbone, yr hwn. oedd mewn parch a dylanwad mawr yn y dref.. Amser i weithio ydyw hi yn awr. Y mae Cymry Birkenhead yn effro. Furfiwyd yno Gan.qen o'r Gym- deithas llyd-dfrydig Gymreig nes Fawrth diweddaf. Dylid sefydlu cangen o'r fath yn mhob cymydogaeth. Gwneir ymholiad mawr am Docynau Cyfarfod Bright, ond dylid cofio nad oes neb i'w cael ond a enroliant eu hcnwau trwy dalu swllt ac uchod, fel aelodau blynyddol o'r Gymdeithas Ddiwygiadol; nid oes dim coel yn cael ei roi—felly anfoner yr arian yn ddioed. Na ddigied neb 0 Ryddfrydwvr Cymru wrth yr ysgrifenydd egniol am na fuasai yn eu gwahodd bob un i'r Cyfarfod Mawr. Rhoddir yn awr Wahoddiad i Bawb. arall ddyfod; gofaled pob cymydogaeth anfon rhyw rai i'w cyarychioli. >■

BRYMBO.

Advertising

HELAETHIAD Y ' TYST.'

AT EIN DOSBARTHWYR FFYDDLON.

Advertising

YR WYTHX08.

y CNYDAU.

YR ACHOS 'YSPRTDOL.'