Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

.CYNWYSIAD.

"CYKRHYCHIOLAETir A CHYNRHYCH-IOLWYR…

CYNDDAREDD YR ORANGEMEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNDDAREDD YR ORANGEMEN. Oddiwrth ystryw a chyrch y cythraul- gwared ni Arglwydd daionus Darfu i ymweliad John Bright a Liverpool daflu holl wersylloedd yr Orangemen yn y di-ef hono i ddychryn a braw ddydd Mawrth di- weddaf. Yr oedd Council y 'Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig' wedi gwneud eu dar- pariadau ar gyfer y cyfarfod mawr yn yr Amphitheatre nos Fercher trwy argraphu tocynau neillduol, a'u stampio a sel y Cwmni ond yn nghorph dydd Mawrth daeth y newydd o'r I ystryw' i glustiau Mr Lloyd Jones a Mr. Maurice Williams, aelodau o'r Council, fod tocynau wedi eu forgio yn cael eu gwerthu yn y dref. Aethant yn ddioed i Swyddfa yr Heddgeidwaid, a dodasant eu cwyn o flaen Mr Raffles, y prif Ynad, a gorchymynodd yntau ar fod gwasanaeth yr Inspector Horn i gael ei sicrhau. Ymwelwyd a swyddfa y Lithograph- ydd, a chafwyd ef yn y very act o forgio stamp y Gymdeithas. Cafwyd 250 o docynau. Wedi hyny aethpwyd i swyddfa argraphydd yn St. Anne Street, a chafwyd mil o docynau wedi eu forgio. Bwriedir cael summonses yn erbyn ypartion euog, ac yr ydym yn gobeithio y gellir cosbi y twyll hyd eithaf y gyfraitli. Dosbarth o bobl ydyw yr Orangemen a elwir ar ol William of Orange, yn or-ben- boeth yn erbyn y Pabyddion, a thros grefydd1 wladol. Ofnid y buasai John Bright yn siarad' yn groyw wirioneddau a ddisgynent fel gWTeichion tanllyd ar deimladau pleidwyr yr Eglwys Wyddelig, a gosod holl anghysonder- au a thwyll y grefydd wladol yn yr Iwerddon mewn goleu clir o flaen ei wrandawyr. Y mae ymddygiad yr Orangemen yn Liver- pool yn berffaith deilwng o ymddygiadiau pleidwyr crefydd wladol trwy y Dywysogaeth. Nis gallant ymddiried mewn rhesymau a flteith- iau fel attegion i'w heglwys, ond rhaid iddynt arfer dichellion a chynddaredd, ac ystryw pen- boethiaid ac ynfydion, a diau y dysgwylient fedru cynhyrfu y cyfarfod mawr yr Amphi- theatre nos Fercher, achreu cynhiv-rf a bloeddio, a gosod taw ar enau John Bright. Ondi yr oedd hyny yn orchwyl rhy fawr. Os na ellir cael rhyw ymddygiadlau mwy teilwng nag eiddo yr Orangemen yn Liverpool i amddiffyn ac i ddal i fyny hen sefydliad cregin yr Eglwys Wladol yn yr Iwerddon ac yn Nghymru oddi wrth ystryw a chyrch y cyth- rael -gwarocl ni, Arglwydd daioiuis Z!1

SEIAT FAWR SASSIWN LERPWL.

ERLYNIAD Y CYN-LYWYDD EYRH.

DYCHWELIAD Y FYDDIN.

RHAGOR 0 ARIAN I DYWYSOG CYMRU.