Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

YR HEN DEILIWR.

DIRWESTWYR A'R ETHOLIADAU.

CYMMEEIADAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMMEEIADAU. PEN. VI.-Y DYN DAU-DAFODOG. Mri. Gol.,—Brawd ydyw y Canaanead dienwaed- eclig hwn i'r dyn dau-wynebog, Y mae y ddau frawd yn hynod debyg i'w gilydd. Y mae family likeness yn amlwg iawn ynddynt. Efeilliaid ydynt, wedi eu magu ar yr un bronau, ac y maent bob am- ser, fel y bydd brodyr yn yr un teulu 311 gyffredin, yn ffyddlon iawn i gynnorthwyo y naill y llall mown trallodion a chyfyngderau. Y mae dau dafod yn beth hylaw iawn i'r dau-wynebog, a dau wvneb yn beth anhebgorol i'r dau-dafodog. Ni fed: y naill wneud fawr iawn o honi, yn eu dull hwy o fyw, heb y llall. Nid rhyw hapus iawn y bydd y ddau wyneb heb y ddau dafod, na'r ddau dafod heb y ddau wyneb. Y mae y naill wedi gwaredu y Hall lawer gwaith o gyfyngderau peryglus, ac y maent mewn dyled drom i'w gilydd a phe byddai y ddau wyneb 5-11 dywevd castiau y ddau dafod, a'r ddau dafod yn dyweyd castiau y ddau wyneb, byddai genym ddigon i lanw deg TYST CYMEEIG bob wytlmos,. Gwyn fycl nag elai hi yn ffrae iawn rhwng y ddau, fel y celai y byd ychydig o'u cyfrinach. Ond, y mae genyf ofn eu bod yn rhy gyfrwys i edliw. Fc-I hyn y mae Paul yn dyweyd wrtho,—' Nid yn ddau eiriog;' hyny ydyw-nid yn ddan-clafocl.og--yn ddyblyg- dafodog (non bilinques). Nid dyweyd'un peth yn ngwyneb y clyn, a dyweyd peth arall hollol wahanol yn ei gefn. Y mae dichcll a brad yn y fath ym- ddygiad. Nid diaconiaid yn unig ddylai fod yn un- dafodog, ond pob dyn yn mhob man. Y mae y dyn. hwn yn ceisio boddio pawb a chosi pob dyn, ac felly y y mac dyweyd llawer iawn nad ydyw yn ei feddwl, nac yn ei gredu a chan mai nid yr un peth sydd yn boddio pawb, y ddau dafod ydyw ei expediency ef. Y mae y dyn dau-dafodog yn nodedig am ganmol dynion yn eu gwynebau, a'u pardduo yn eu cefnau. Dywed wir am ddyn yn ei gefn, ond dywed anwir- edd yn ami am dano yn ei wyneb. Y mae mel gan- ddo ar un tafod i bawb, a cholynau marwol ganddo yn y tafod arall i fratliu agos pawb. Y mae yn or- mod o goward (llibyn) i ddyweyd y gwir wrth neb yn ei wyneb, ond gwenieitha i bawb er prynu eu ffafr. Ni chlywir byth mo hono yn ceryddu neb— hyny yw, yn ei wyneb, ond edrycliwch chwi ati yn eich cefnau. Nid ydyw erioed wedi gweled yr ad- nod hon, feddyliaf, ao os ydyw, nid ydyw yn ei chredu, a dyma hi,—' Y neb a geryddo ddyn, a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr na'r neb a draetho weniaith a'i dafod.' Nid ydyw efe erioed wedi medru credu yn dilcedd' y sonia yr adnod yna am dano. Y mae blys dyweyd mawr ar lawer o ddynion, a chyn y gallant foddio y blys mawr hwnw, y mae yn rhaid cael mwy nac un tafod. Y mae un, a dau yn ami iawn, yn rhy fychan. Y mae tafod y dyn hwn I yii fyd o anghyfiawnder,'—' tan ydyw,—' ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac wedi ei wneuthur yn fflarn gan uffern.' Y rhai y mae yn rhaid can eu safnau.' Byddai yn fendith i'r byd, gallem feddwl, pe buasai miloedd heb gael yr un tafod. Peth truenus yw gweled dynion mudion, ond peth an- nhraethol mwy truenus, a m wy peryglus, yw gweled tafod wedi ei wneuthur yn fflam gan tdfern yn gosod. tref, dinas, gwlad—b3>d, ar dan. Gellir bod yn bur sicr, os bydd dyn yn orbarod i ganmol yn y gwyneb, y bydd yr un mor barod i frathu a'r tafod arall yn y cefn. Yr wyf ii, Mri. Gol., wedi a chlywed rhai dynion fel yna yn union, ac mi waranta eich bod chwithau hefyd; ac mor wired a fy mod yn YfJ- grifenu ybenod yina, yr wyf wedi laru nes yr yel ivyf yn sal iawn, ar glywed dynion yn camnol eu gilydd, yn enwedig y dynion y gown yn eithaf da fedr gan- mol yn y gwyneb a cholynu yn ofnadwy yn y cefn. Wrth y dyn dau-dafodog- y dywedaf, Bydded dy ganmoliaeth gyda thi i ddistryw.' Nid yw ei gan- moliaeth ond hugan ffalster i guddio cas,—' Cuddia gas a gwefusau celwyddog.' Un tafod y mac yr Hollalluog yn roddi i bob clyn. RhydCL ddwy droed, dwy law, dwy ffroen, dwy glust, a dau lygad, onclun tafod, ac un genau. Porth i ollwng allan yw y genau. Ffenestri i dderbyn gwybodaeth a synwyr i mewn ydyv/ y ddau glust a'r ddau lygad, ac ymae hyn yn awgrymu, mi feddyliaf, y dylai pob dyn dderbyn i mewn trwy y ffenestri mwy o'r hanner nag y-mae yn ei ollwng allan a'i dafod trwy borth y genau. Gwyddai y Crewr doeth focl un tafod yn llawn ddigon i wasanaethu yr ynienydd-yr ymen- ydd mwyaf. Pe 11a roddid i'r tafod mwy o waith nag y mae yr ymenydd yn ei roddi iddo, diau na ddywedai gymaint o eiriau ofer, ac y celai ddigon o amser i orphwys yn dawel. Y mae pob call yn meddwl mwy nag y mae yn caniatau i'w dafod lef- aru, ond y mae tafod yr anghall yn cael llefaru llawer mwy nag y mae wedi ei feddwl. Y mae un tafod yn llawn ddigon i bob dyn, ac yn llawer gor- mod i filoedd. Byddai dau drwyn yn beth hyll iawn ar un wyneb, ond byddent yn llawer mwy diniwed na dau dafod yn yr un safn. Nid ydwyf yn hoff iawn o'r tafod hir, ond y mae yn llawer gwell genyf tin tafod hir na dau dafod byr. Hwyrach y dywed y tafod hir fwy na fyddai yn ddoeth ei ddyweyd weithiau, ond fe ddywed yr un fath yn y wyneb ac yn y cefn os bydd yn safn y dyn uil-dafodog-y gonest. Y mae tafod hir i ddyweyd y gwir, ac i gy- hoeddi twyll, ac i fynegu rhinweddau Duw a chref- ydd, yn dda ond y mae tafod hir i draethu anwir- eddau, ac i ymffrostio pethau mawrion, y felldith fwyaf all fod mewn tref a gwlad—ond un, a hyny ydyw, y dyn dau-hir-dafodog. Y mae dau dafocl byr yn yr un safn yn beth sobr o ddrwg, ond y mae dau /i/r-dafod yn yr un safn yn erchyll ofnadwy Lie y mae dau dafod, byr neu hir, yn yr un safn, tyner un-y gwaethaf, wrth gwrs, o'r gwraidd, ac os bydd y llall yn rhy hir, torer ef yn ei hanner. Y mae yna fur o esgyrn caled o gwmpas y tafod,-cacl-,A, ef yn ofalus o fewn y castell hwnw, ac na ad iddo byth fyned allan heb ffrwyn yn ei enau. Cofia mai drwg ac anllywodraethus ydyw.' Y mae un tafod yn beth nas dichon un dyn ei ddofi. Gwareder ni, ddarllenydd anwyl, rhag y dyn dau-dafodog. FoErEX.

LLYTIIYB II.

NODION A NIDIAU.

LLANGOLLEN.

LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN.