Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EEEXGYEWYE TEITHIOL CY3niu.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EEEXGYEWYE TEITHIOL CY3niu. RHYB DAFIS, NEU RHYS Y GLUN BREN. (Parhad o'r rhifyn diweddaf.) Y noson hono yn Nhanyrallt a thranoeth, cetais lawer iawn o ddifyrwch i glywed Rhvs Dafis yn adrodd digwyddiadau ei oes. Treul- icdd ilynyddoedd, pan yn ieuanc, yn cadw ysgol yn sir Drefaldwyn ac yn sir Ddinbych, a lleoedd ereili yn y Grogledd; ac nid oedd gwybodaeth o Udiuvyix y wlad y pryd hwnw ond i raddau bychan iawn. Credodcl y trigolion, memi lie yn agos i Ddinbych, lie yr arhosodd, y medrai gonsuiio. Nid oedd yn sicr beth a barodd lddynt^ feddwl hyny am dano. Digwyddodd un boreu foci yno yr o ddefaid yn cael eu dwyn i niynydd, i'w troi i gae yn ymyl y pentref lie y llettyai (Nantglyn, os wyf yn cono yn lawn), Yr oedd yn foreu iawn, a Rhys Dafis heb godi o'i wely. Clywai dwrw a gwaeddi o'r tu allan wrth geisio troi y defaid i'r cao. Cododd o'i wely, agorodd y ffenestr gyda tliipyn o drwst, fel y byddai yn arfer gwneud pob pctli. Yr oedd cap nos cocli am ei ben; a'r foment yr estynodd ei ben a'i gap coch allan trwy y ffenestr, trodd y defaid oil, ac fel defaid aethant yn ddistaAv i'w porfa; a byth ar ol hyny, yr oedd y gred yn mysg y trigolion y medrai gon- sxirio. Ofnid ef byth wed'yn, a chai lonydd i bregethu. Cynghorai maman en plant yn ddif- rifol i gymmeryd gofal i beidio dyweyd dim Willio rhag iddo en ■ivitchio a dywedai y bech- g.Yn 5* naill wrth y 'llall, "Paid gwneud dim iddo, neu hwyrach y troith o di yn gi." Bu ofergoeledd y bobl yn help i Rhys, both bynag, gael llonydd i bregethu. Pan yr oedd yn cadw ysgol yn rhywle tua chanol sir Drefaldwyn, o gymmydogaeth Cann Office i fynn, cymmerwyd gwraig i amaetlrwr yno yn glaf ar enedigaeth plentyn. Bu yn glaf iawn, ac anfonwyd am y meddyg; ond nid oedd y wraig yn cael ei rhyddhau. Anfonwyd am yr ysgolfeistr i weddio, yr hwn a ddaeth yn ebrwydd. Arhosodd yn y gegin, gan ddyweyd y gweddiai yn ddigon uchel i'r wraig ei glywod o'i hystafell wely. Gweddiai yn bennodol dros y wraig glaf, a gwaeddai yii nel-lel, "Dyro nerth i'th Imvforwyn i esgor." Ar hyny, liiydd- haAvyd hi ar fab. Daliai Rhys ati i weddio, Dyro nerth i'th lawforwyn i esgor, "heb wybod fod y baban wedi ei eni. Ar hyny, ganwyd plentyn arall. Dychrynwycl gwr y ty ar hyn, a gadawodd y wraig a'r plant, a daeth at y gweddiwr, a dywedodd, Codwch y dyn, dyna ddigon, onite chi lenwch y ty a phlant." Yr oedd llawer o ffraethineb yn Rhys Dafis, ond fod ei ffraethineb yn lied sarug a garw. Bwytewch, yn wir, Mr Dans," meddai gwraig wrtho unwaith, yr hon oedd yn nodedig am gymmliell ei tlirugareddau. iiii Nvilaf, os cai lonydd," oedd ei attebiad sychgras yn ol. Yr oedd ganddo olwg fawr ar y teuluoedd fyddai yn garedig iddo hefyd. Cofiai am danynt yn ei Avedcli deultiaidd, fel dy deulu duwiol, dy deulu anrhydeddus yma." Ni ddywedaf ei fod yn gwenieithio. Nis gallasai tymmher in or arw ac afrywiog a'r eiddo ef arfer gweniaith; ac eto cariai gryn lawer o sebon gydag of, ond yr oedd yn gofalu ar bwy i'w afradu. Pan yr oedd Mr. Williams o'r Worn ar daith trwy sir Aberteifi, tua chymmydogaeth y Dre- wen, trengodd ceffyl Mr. Williams. Yr oedd Mr. Williams wedi pregcthu y nos o'r blaen ar y wlad well, ac wedi tynu pi-yd- ferth o'r nefoedd; ac yn mysg ereill, cyfeiriai ati fel dinas a'i heolydd o aur pur." Y noson hono, yr oedd Rhys Dafis yn llettya yn yr untv a Mr. Williams. Deallwyd y nos o'r blaen fod ceffyl Mr. Williams yn glaf, ac yr oedd tipyn o bryder yn ei gylch ac erbyn y boreu, yr oedd wedi trengu. Ni wyddai y gwr yr oedd gofal yr anifail arno pa fodd i ddyweyd y nowydd g-ofidus yn ddigon esmwyth i Mr. Williams. Daeth i'r ystafell 11c yr oedd Mr. Williams, Mr. Michael Jones, Bala, a Rhys Dafis; a chan edrych yn orbryddaidd, dywedai mown llais cwynfanus, Mae'n ddrwg gen i weydwrthycli el-ii, Mr. Williams, mae'eh ceffyl chi wedi myn'd i dragywyddoldeb." Ho, felly," meddai Mr. Williams, yn humorous iawn, gobeithio nad aeth o ddim a'r ffrwyn a'r cyfrwy gydag o." "Ië," ebe Rhys DitnS, a gobeithio iddyn nhw dynu ei bedole, onto, os yw'ch pregeth chi, Mr. Williams, neithiwr yn wir, mae e yn cadw twrw ofnadwy ar y palmant aur." Grwnaeth y tri efengylwr yn ysgafn iawn o ddifrifwch y brawd o blegid marwolaeth yr anifail. Rhys glun bren y gelwid' ef gan lawer; ac y mae hanes a helbulon y glun bren yn anwahanol gyssylltiedig a hanes Rhys. Digwyddodd iddo, ar un o'i deithiau, gael niwed ar ei goes, yr hyn a barodd i'w droed chwyddo. Yn hytrach na rhwygo oi fostes (boot), gadawyd hi am y troed, mewn gobaith y byddai i'r chwydd gilio; ond yn lie hyny trodd yn ennyniad, a bn raid tori ymaith y glun yn y forddwyd. Nis gallasai yr hen frawd oddcf unrliyw gyfeiriad at y glun bren. Gofynai gwraig barchus a diniwed iddo, yn nhy yr hon y llettyai, pa fodd y digwydd- odd iddo y ddamwain i'w glun 2" "'Rwy'n credu y'cli bod chi mown mwy o bryder ynghylch fy nghlun i nag am eich cyflwr eich hun," ebe yntau yn swrth. Yr oedd yn anfodd- lon iawn i bob cyfeiriad a wneid at yr anaf. Byr, swrth, a sarug fyddai ei ateb i'r rhai a ofynent yn gynnil pa fodd y digwyddodd y ddamwain iddo. Yn mhen rhai blynyddoedd wedi ei gyfarfod yn Nhanyrallt, digwyddais ei gyfarfod ar un nos Sabbath, yn Nhreliwyd, preswylfa y diweddar Barch. J. Griffith, Ty- ddewi. Yr oedd yn digwydd bod yn noson oer, wlyb, yn y gauaf, a Mr. Griffith a minnauwedi gyru yn o gyfiym o Dyddewi i Dreliwyd, fel yr oedd Rhys Dafis a'i nay yn methu ein dilyn. Blin a chwerw oedd ei ysbryd pan y daeth i'r ty, er na ddywedodd fawr, ond rhyw rochian ynddo ei hun. Yn fuan daeth y forwyn a phar o slippers iddo, yn ol yr arfer. Gwelwn ei wyneb Jn cochi pan roddwyd hwy yn ei ymyl. Ciciai •xrri1 a throed y glun bren. Bu awydd o-wii 1 gymmeryd un yinaith, ond fod arnaf ofn y c^rw8' yn waeth. Deallodd Mr. David „f, mab, fodyr hen ddyn wedi ffromi; y HpnceseneSiU' a ehlywn ef yn dyweyd wrth n ei ^pd wedi insultio yr hen wr wrtn "h ^s-PPar iddo. "Be wyddwn i," ebe i .lldC oecld ise dwy slipper arno fo fel yn meddwl y basa 01^ un icl(io yn llawer mwy o insult we'vi -v 7Tedai wrth Mr. Griffith, o'r di- nn vA i ^.wynsynu atoch chi, Mr. Griffith, dysSu Swell manners i'ch mor- dim J Vnd 111(1 oecI(1 Mr. G. wedi sylwi fod SddWl° n WGdi bod' nac 3^ deaU mewn un fawr- n _fllasai f°d y tramgwydd. Ni chacd sh'nnp-'Q am° y noson hono—yr,oedd y par O* y Pvpf8n ar ei feddwl wedi myned i'r itoilofl^ y boreu, yr oedd wedi ei 'v. 1 wry cwbl, a gweddiai dros y "teulu du-wiol ac anrhydeddus" gyda'i wres arferol ar ol boreufwyd dranoeth. Llawer tro trwstan a ddigwyddodd ynglyn a'r glun bren. Yr oedd unwaith yn llettya, fel y digwyddai yn anil o ran hyny, yn y Forge, yn ymyl yr Hendy gwyn, gyda rhieni y ProffesAvr Morgan, o Gaerfyrddin. Hen letty croesawgar pregethwyr y dyddiau hyny, Yr oedd y plant L er yn fy chain wedi sylwi ar y glun bren, ac yn awyddus am wybod rhagor yn ei chylch. Yn foreu dranoeth, dacw ddau o'r plant, wrth weled drws ystafell wely Rhys yn gilagored, yn ysbio i mewn, a gwelent y glun bren a'r strapiau wrthi wrth erchwyn y gwely. Aeth un o honynt i mewn yn ddistaw, a chymmerasant hi oddi yno, er mwyn deall rhagor am ei dirgelwch. Cym- merasant hi allan, treiodd un o honynt roddi ei glun fechan ynddi, i weled pa fodd y gallasai wneyd a hi; a mawr y difyrweh a gawsant gyda chlun bren Rhys druan, Deffrodd yr hen frawd yn y gwely; a plian yn hwylio at godi, och! wele, nid oedd ei glun yno. Aeth i dymmher gynddeiriog, ond nid oedd ganddo ddim i'w wneud—nis gallasai synimud o'r fan. Gwelodd Mrs. Morgan y glun bren gan y plant o'r diwedd, ac nis gwyddai pa beth i'w ddyweyd na pha beth i'w wneyd. Digon hawdd oedd ceryddu y plant, ond tawolu Rhys Dafis oedd yn anhawdd ond trwy ei charedigrwydd a'i doothineb, hi wnaeth hyny hefyd, fel y daeth pob peth i'w le cyn diwedd y weddi douluaidd. Yr oedd y Forye yn Hetty rhy gysnrus i'w aberthu hyd yn oed am bechod mor fawr a halogi y glun bren. Bu y troseddwyr bycliain yn teimlo yn euog am fiynyddoedd ar ol hyny pan welent Rhys Dnns yn nesau at y ty. .¡";==Õf"¡;:r;¡<="rn"==.a;m-='

-------------_--CYFARFOD CHWARTEEOL…

""-..:nA.-n.-

TAN DYCHRYNLLYD YN LIVERPOOL.

[No title]