Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

--HELAETHIAD Y < TYST.'

Advertising

IAT EIN GOHEBWYR.

GLANIAD Y PARCH. D. PRICE,…

CYMANFA Y METHODISTIAID CALFINAIDD…

GWERTHFAWR L WYTHY LLONG GENHADOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWERTHFAWR L WYTHY LLONG GENHADOL. 'Deled dy deyrnas.' Rhan o Bryddest a anfonwyd i gystadleuaeth Lleyn Eifionydd, ac Ardudwy, a gynhaliwyd yn Mhorth- madoc y Pasc diweddaf, ac a farnwyd yn ail oreu. Pe byddai mynyddoedd yr Andes uchelfrig 'N aur melyn coethedig bob gronyn i gyd, Yn ymyl dy werthfawr, lan emau puredig, Diflanant o'r golwg fel sothach y byd Byr amser i feddu pob cyfoeth daearol, A'r cyfan ond benthyg am enyd i fyw; Ond yn y genhadlong mae trysor tragwyddol- Daw diwedd ar bob peth ond geiriau fy Nuw. Yn fuan ceir gweled holl wledydd hardd Asia, Goleuni gyrhaedda gyfandir Awstralia, Ymleda, cyrhaedda holl gyrau Amerig, A'i thrysor a leinw'r ynysoedd pellenig; Hi hwyliodd, do, lawer, i Twrci ac Ital, Er cymaint yr ymdrech a wnaethpwyd i'w hattal • Tir Groeg a fo'n gyfan mewn newyn a syched Am gael ei thrysorau-try iddi 'n ymwared; Cerubiaid, Seraphiaid y nef sy'n unfrydol 0 blaid y Genhadlong,—a'r Brenin tragwyddol ■ A throstynt y byddo 'n mhob stormydd ei aden,' Nes derbyn o'i pherlau gan bawb o blant Eden Prysured, prysured y dyddiau dedwyddion Y byddo'r holl ddaear dan nawdd Brenin Seion Ac at ei Harweinydd bydd pawb a'u golygon A'r lesu ga eistedd ar orsedd y galon. Talsarnau. DEWI EMOEL.

YR IAITH GYMRAEG.

ENGLYN I'R PRYF COPYN.

Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOl GYMREIG.

Y GYNHADLEDD.

Advertising

GOLLYNGIAD Y SENEDD.