Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y CYFARFOD HWYROL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CYFARFOD HWYROL. Saijth o'r gloch yr oedd y cyfarfod hwyrol i ddechreu, ond cyn pump o'r gloch yr oedd yr holl fynedfeydd at y Neuadd wedi eu gorlonwi a phobl. Yr oedd yno gyffro anrhaethol wrth fyned trwy'r drysau, ac nid heb lawer iawn o wthio, a llusgo, a bloeddio, a lluchio breichiau yn fygythiol, y llwydd- odd cad liosog o heddgeidwaid i gadw y bobl draw rhag cymmeryd meddiant blith draphlith o'r ysta- fell eang. Buwyd mewn egni caled i fyned i mewn hyd awr y cyfarfod, ac yn wir trwy ystod y cyfarfod. Yr oedd y crush yn ofnadwy. Dywedir fod yr ystafell yn dal rhwng tair a phedair mil o bobl-a phe buasai yn dal gymmaint arall, cawsid mwy na digon y noson hono i'w llenwi. Y mae ynddi dair gallery a llawr, ac yr oedd yr holl fangre—o'r gwaelod ymron at ytô-yn dyn o bobl- ac oil yn berwi o enthusiasm. Gall y darllenydd hwyrach l3d ddychmygu pa fath le oedd yno-yn nghanol y fath dorf enfawr—am ddwy awr o amser yn aros dyfodiad gwron mawr y cyfarfod. Yr oedd yno chwerthin, a bloeddio, ac oernadau rhyfedd. Ambell un yn gruddfan mewn gwasgfa— a phan glywid rhywun hynod drystfawr rhedai ato lifeiriant o -ymaclroddioii eyffelyb i hyn-I Turn him out!' 'Hold your noise,' &c. Er yr holl ofal a gym- merwyd, yr oedd llawer o Saeson cellweirus wedi gweithio eu hunain i'r cyfarfod. Ar y cyfan, fodd bynag, yr oedd ef yn un o'r cyfarfodydd mwyaf rheolaidd a fu yn Liverpool erioed. Un atalfa ddif- rifol a ddygwyddodd. Yr oedd hyny ar y llawr. Tybiwyd fod rhyw wr drwg yn y lie wedi pender- fynu cadw terfysg, a dechreuwyd ei godi gerfydd ei draed i'w daflu allan. Camgymmeriad oedd hyn fodd bynag. Yn union uwehben yr ystorm yr oedd Mr Francis, a Mr Rhydwen Jones, Rhyl; Mr. C. R. Jones, Llanfyllin, a Mr S. Jones, Bala. Amneidiai y gwyr hyn i ddangos fod y dyn yn cael cam. Grwaeddai Mr. Francis, They are friends!' (cyfeill- ion ydynt!) Deallwyd o'r diwedd mai dyn tew a thrwm anghyffredin oedd y creadur anffodus, yn cael ei wasgu ymron allan o anadl, a gwaeddai yn ei gyf- yngder, Ow ow! beth a wnaf! Police! Police Pan wnaeth Mr. Bright ei ymddanghosiad ar yr esgynlawr, am saith o'r gloch i'r funud, cododd y §yimulleidfa fawr i gyd fel un gwr, gan floeddio 'hwre!' a chwifio caelaohau poced, curo dwylaw a thraed, drachefn a thrachefn, am gryn bum munud o amser. Yr oedd y lie megys yn wenfflam o gyffro. Wedi cael distawrwydd, ^A-gorwyd y cyfarfod gan y llywydd, Mr Councillor Williams, un o'n cydwladwyr parchusaf yn Liver- dywedai (yn Saesneg)—Foneddigion a bon- ^igesau,—Y mae anrhydedd mawr iawn wedi ei roddi ary Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig trwy p^^yfaill Mr. Bright dderbyn gwahoddiad i fod yma a ni heno (clywch, clywch). Gwnaeth hyny ar aidd llawer o gysuron personol a theulu- aiusp enwedig pan y meddyliwn fod pob awr o'i phwv » m<^denol yn wir angenrheidiol i gael gor- clyv^.y.\a wrth ei lafur caled yn y senedd (clywch, CIY-WCII). y inae ein cyfaill Mr. Bright wedi llafurio ddynion deng mlynedd ar hugain dros ei gyd- mwv o gaU ^-dyn byw edrych yn ol gyda Jafur (banllefa^nalref' gT.da golw§' arTffrw^h 61 Scotland a'i b mae "^edi ffafrio Iwerddon a ion; a dyma r.ese?lnoldeb yn eu cyfarfodydd mawr- U^yddiant y Aei 1fod yn caru gellr ystvried T (banllefau). Ar lawer ystyr, (chwerthrn a bQ n6^001 prif ddinas Cymru tefyd ar L;l! ?efaU)- Y ^iae y cy|arfod "hwn, aetholnag-0 e-vfIT^I ° &yfarf°d cenhedl- keithiaf y r eo1 (cymmeradwyaeth). Go- nag erioed o blaid^iw^wi^ °l,heno fw^ y teimla w O+t, dylcdswyddau fel dinasyddion, ianwad y Gymdei^n gryf °ddi wrthddy- ^eddodd 3^^Will- •Ddiwygiadol Gymreig. (Di- ^?^dedd ma^l-ams Gymraeg' y* ngtano1 8eeS<"|Saiia gj^ygiodd y penderfyniad S «?wyddorion yn cymmeradwyo ^■-Uladstone (derbw^flg 711 ^enderfyniadau ^erbymwyd yr enw hwn gyda ban- llefau tanllyd), er dadwaddoli yr Eglwys Sefyclledig yn Iwerddon, ac yn ymrwymo i bleidio dychweliad Rhyddfrydwyr i'r senedd trwy bob parth o Gymru." Ar y cyntaf, ni roddid gwrandawiad i Mr Richard. Gweiddid )?aine 'Bright! Bright!' Ond wedi cael gwybod pwy oedd efe, cafodd lonyddwch ac nid hir y bu cyn ennill eyimneradwyaeth yr holl gynnulleidfa a'i hyawdledd a'i ffraethineb. Nis gwn, meddai, pa gynnifer o Saeson sydd yn y cyfar- fod. Teimlwyd gryn anhawsder, mae'n debyg, i'w cadw allan o gwbl, pan yr oedd yn eu hymyl gyfieus- dra i weled a chlywed yr areithiwr penaf, ac un o seneddwyr blaenaf yr oes a'r hyn oedd well fyth, un o'r dynion cywiraf, gwrolaf, ac ardderchocaf drwy holl diriogaethau Prydain Fawr (banllefau). Ond pa un bynag ai ychydig ai llawer o Saeson oedd yn bresennol, hyderai y goddefid iddo eu gadael hwy allan o bob ystyriaeth; o blegid cyfarfod y Gym- deithas Ddiwygiadol Gymreig oedd hwn-ac wrth Gymry yr oedclis i lefaru nid yn unig Cymry Liverpool, ond, os oedd yn bossibl, Cymry Mon, Ar- fon, Dinbych, Aberteifi, Caerfyrddin; mewn gair, holl drigolion hen wlad ein genedigaeth o Gaergybi i Gaerdydd (banllefau). Yna aethMr. Richardymlaen i sylwi mai un o amcanion mwyaf y Gymdeithas oedd cynhyrfu y Cymry i deimlo sel dros byngciau gwladol—i'w goleuo, i'w harwain, ac i'w cynnal yn y cyflawniad o'u dyledswyddau fel dinasyddion. Nis gallai neb, adnabyddus o'n cenedl ni, wadu fod cyn- rychiolaeth Cymru hyd yma wedi bod yn ffolineb, yn dwyn, ac yn fagl. Am y wyddai ef, gallai fod Sir Watkin yn batrwm o ddyn wedi ei addurno a'r holl rinweddau o dan y ncf, ac nis gwyddai ef nad oedd Mr Douglas Pennant a Mr David Jones yn Seneddwyr disglaer, ac yn areithwyr tanbaid, er, oblegid gwyleidd-dra neu rhyw achos arall, yr oecld- ynt hyd yn hyn wedi cuddio eu goleuni o dan lestr. (Chwerthin.) Ond gan nad beth oedd eu talentau a'u rhinweddau, dadleuai ef eu bod yn ddiffygiol yn yr un cymhwysder penaf er cynrychioli y Cymry, am nad oeddynt yn dal yr un golygiadau—nid oedd- ynt yn deall eu hegwyddorion, nac ychwaith yn cyd- ymdeimlo a'u teimladau a'u hamcanion. (Banllefau.) Yr oeddynt oil yn ddieithriad yn cam-gynryeliioli y Cymry yn erchyll. Yr oedd cyfan-gorph mawr y Cymry yn Ymneillduwyr, ac yn Rhyddfrydwyr trwyadl. Profai hyn trwy ystadegau. Ond, allan o 32 o aelodau dros Gymru, yr oedd 15 yn Doriaid o'r dosbarth chwerwaf, a'r 17 ereill yn Rhyddfrydwyr mewn enw, a llawer o honynt gyda chymmeriadau eithaf carpiog. (Chwerthin a banllefau.) Ofnai y gellid dangos fod y pleidleisiaix yn y senedd dros Gymru yn ystod y 30 neu 40 mlynedd sydd wedi myned heibio, agos ar bob cwestiwn mawr a phwysig, wedi bod ar y wrong side. Pan ddygodd Mr. Miall ymlaen ei ysgrif ar Bwngc yr Eglwys Wyddelig yn 1856, allan o'i 121 cefnogwyr nid oedd ond dau o Gymru J Pan, yr un fiwydclyn, y dygwyd ymlaen Ysgrif Ddiwygiadol Prif Ysgol Cambridge, i helaethu breintiau ysgolorion Cymreig, perthynol i Ymneillduwyr, pa sawl un o aelodau Cymru a'i cef- nogodd ? Dim ond un! Yr un peth ellid ddyweyd gyda golwg ar ddiddymiad y Dreth Eglwys. Ond, yr oedd ei benderfyniad ef yn cyfeirio at yr Eglwys Wyddelig, ac at yr etholiad sydd ger llaw. Fy ] nghydwladwyr, meddai, nid oes genyf iaith ddigon cref i ddatgan fy mhryder am i chwi weithio yn ogoneddus yn yr etholiad nesaf. Deuai yr adeg yn fuan pan y gelwid arnom i wneud i'n gwlad ein hunain yr hyn a ofynid i ni ei wneud i'r Iwerddon. Hyderai yr anfonid i'r senedd ddynion yn bleidwyr i Gladstone a Bright, ac nid i Disraeli a Hardy. (Banllefau taranllyd.) Yna cyfododd y Parch Dr Wm. Rees i anerch y cyfarfod yn Gymraeg, yn y modd canlynol:—Mr Cadeirydd,—Er ffurfiad y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig yn y dref hon, ychydig fisoedd yn ol, y mae y cwestiwn wedi cael ei ofyn yn fynych, Beth yw amcanion a dibenion sefydlwyr a phleidwyr y sefydliad hwn ? Beth ddymunech chwi vmeud P' Ymdrechaf yn bur fyr i gynhyg ychydig sylwadau mewn atebiad i'r ewestiwn hwn. (I Clywch,' achym- meradwyaeth.) Yn y He cyntaf, yr ydym am gael enw pob trigianydd Cymreig yn y dref hon sydd yn gwerthfawrogi egwyddorion rhyddid gwladol a chrefydclol (cymmeradwyaeth) wedi ei restru fel aelod o'r Gymdeithas. (' Clywch,' a chymmeradwy- aeth.) Yn y lie nesaf, dymuna y Gymdeithas hon trwy gydweithrediad yr holl aelodau sicrhau, mor bell ag y mae yn ddichonadwy, fod enw pob Cymro Rhyddfrydig yn Liverpool, ac yn y dywysogaeth, sydd wedi cael hawl i bleidleisio trwy y Bil Diwyg- iadol diweddar, gael ei gofrestru. (Cymmeradwy- aeth.) Yn mhellach, ymdrechai y Gymdeithas, trwy yr esgynlawr a'r wasg, i addysgu ein cydwladwyr yn ngwir egwyddorion rhyddid gwladol a chrefydd- ,,wy ol, (cymmeradwyaeth) ac yn eu dyledswydd i ddal a chefnogi yr egwyddorion hyny trwy eu pleidleisiau yn etholiad aelodau Seneddol, (cymmeradwyaeth ychwanegol) i argraphu ar feddwl a chydwybod pob etholwr y rhwymedigaethau difrifol oedd yr hawl i bleidleisio yn ei osod arno, i'w argyhoeddi nad oedd yr etholfraint yn dalent a allai guddio yn y ddaiar trwy esgeuluso gwneud defnydd o honi, heb dynu arno ei hun euogrwydd a chosp y gwas diog, mai nid peth i gellwair ag ef ydyw, i'wthaflu ymaith yn ddibris, neu i gael ei gwerthu i'r uchaf ei gynhyg, neu i gael ei dtfnyddio mewn un modd er mantais bersonol i'r pleidleisiwr,—fod yr hwn sydd yn euog o'r cyfryw ymddygiad ar unwaith yn lleidr ac ys- peilydd. (Clywch, clywch.) Yr ydym am greu cyd- wybod-cyclwybod oleuedig—mewn perthynas i clilvlpilRwvdclau srwleidvddol vr etholwyr, ac argraphu arnynt fod yr hawl i bleidleisio yn ymddiriedaeth bwysig, am yr ymarferiad o'r hon y mae pob pleid- leisiwr yn gyfrifol i'w Dduw a'i wlacl. Y mae y Gymdeithas yn awyddus i sicrhau cydweithrediad yr etholwyr Cymreig yn Liverpool, gyda ein cyfeill- ion Seisonig o'r blaid Ryddfrydig, i waredu cynryeh- ioliad y dref hon yn yr etholiad nesaf oddiwrth ei sefyllfa warthus bresenol. (Uchel gymmeradwyaeth.) Dymunai anfon gwaed newydd a redai trwy holl wythienau Cymry y dywysogaeth-i'w deffroi o'r naill ben i'r liall o'i chysgadrwydd gwleidyddol—i'w thueddu i ysgwyd i ff-wrd I a thaflu ymaith bwysau marwol yr aelodau hyny y rhai sydd yn camgyn- rychioli ei pbobl yn nghyngo" y wladwriaeth, g ac i osod yn eu He ddynion a gefnogant yn ffydd- Ion yn y Senedd yr egwyddorion y proffesir eu caru a'u coleddu gan y mwyafrif mawr o'r Cymry. (Cymmeradwyaeth hirfaith.) Mewn gair, i adferu i Gymry yr oes hon don ac yspryd uchelfrydig a gwrol fu yn cynhyrfu eu cyndadau mewn oesau a aethant heibio. (Cymmeradwyaeth uchel a hirfaith.) Y mae llawer o nodwedd y bobl i'w ddysgu oddiwrth eu gwirebau a'u diarhebion. Un wireb Gymreig oedd—'Trech Gwlad nag Arg- lwydd' Cymerwyd y wireb oddiwrth ffaith dra adnabyddus yn hanes yr amser-na feiddiai yr un arglwydd wrthwynebu ewyllys unedig y bobl. (Cym- meradwyaeth.) Edrychwch ar Gymru yn awr. fClvwch.) Y fath gyfnewidiad! I raddau helaeth Lwn y gwrthwyneb yw y gwir yn _awr. Y mae arglwydd yn drech na gwlad. Ewch l Sir Gaernar- fol-Ihwi a gemh argWd yn ac iaith yn ymarfer goruweh lywodraeth drosfeddyl- iau a chydwybodau bron yr holl dywysogaeth. Omd yw y dynion i'w beio yn fwy na r arglwy 0 chwychwi wyr Eryri ni ddylai y pethau hyn fod feUy. (Uchel gymmeradwyaeth.) Nid yw Sir Ddinbych nemawr well allan; a Sir Femonyddyn waeth fyth. Trwy etholwyr goleuedig a chydwybodol, yn cyflawni eu dyledswyddau yn ol eu hargyhoeddiadau gonest, yr ydym yn dymuno creu hefyd lywodraeth onest, gydwybodol, ac anrhydeddus. A oes genym ni lyw- odraeth felly yn awr mewn awdurdod, (clywch, clywch, a 'Nac oes'), mi ddymunwn ofyn yn ddifrif- olP Ateba llais y Ty Cyffredin, 'Nac oes.' 'Nac oes,' meddai llais y wasg gyhoeddus, a'r wlad. 'Nac oes genych,' meddai holl Ewrop er gwaeth i'ch gwlad. (Cymmeradwyaeth hirfaith.) 'Pan ddyrchafer y annuwiol, y chwilir am ddyn,' meddai y Gwr Doeth -i wrthwynebu yr annuwiol. Y mae yn amser i'r wlad hon i chwilio am y fath ddyn-dyn gonest, cydwybodol, ac anrhydeddus, i arwain y llywodraeth, ac yn ffodus ymae y dyn hwnw yn rhwydd i'w gael, y mae yn barod wrth law yn William Ewart Glad- stone, ac yn yr hwn sydd yn bresenol gyda ni ar yr esgynlawr heno-y gonest John Bright, (tarawai ei law yn serchog ar ei ysgwydd). Am gywirdeb a gonestrwydd y dynion hyn nid oes yr amheuaeth leiaf yn nghalon a chydwybod y wlad. (Uchel gym- meradwyaeth.) Gyda'r ychydig sylwadau hyn yr wyf yn dymuno cefnogi y penderfyniad sydd wedi ei gynhyg mewn araeth mor nerthol gan Mr Richards. Yna eisteddodd i lawr yn nghanol taranau o gym- meradwyaeth. (Yn ystod y rhan gyntaf o araeth y Dr yr oedd tipyn o gynhwrf mewn cwr o'r neuadd trwy dyndra y lie, ac anesmwythder rhai o'r Saeson difoes wrth wrando araeth Gymraeg. Modd bynag, pan y dechreuodd yr areithiwr dwymno, treiddiai ei lais trwy bob congl, nes gwefreiddio y Cymry, a synu y Saeson.) Galwodd y Cadeirydd ar Mr Bright i gefnogi y cynygiad, a phan safodd y seneddwr hyawdl ar yr esgynlawr cododd yr holl dorf ar eu traed, gan ei lawengyfarch a banllefau a siglent yr adeilad. Dywedai Mr Bright, Dysgasom pan yn blant yn yr ysgol ddyddiol, mai tref borthladdol yn swydd Lancaster oedd Liveryool, ond y Cadeirydd a ddy- wedodd heno mai Liverpool oedd prif-ddinas tywysogaoth Cymru, a phrin yr wyf yn meddwl fod y Cadeirydd yn camsyniad, pan gyfrifwyf fod yn Liverpool dros 60,000 o Gymry, ac nid wyf yn sicr y gcllir gael cynnifer o'r genedl o fewn terfynau un dref yn y Dywysogaeth. Hyspyswyd fi fod y Cymry yn dra difater am bethau gwladyddol; tra y maent wedi eu gwreiddio yn drwyadl mewn cwest- iynau crefyddol ac eglwysig. Mae eu llwyddiant mewn materion crefyddol yn ddigon o brawf eu bod yn alluog i wneud gorchestion mewn ystyr wlad- yddol. Yn awr yr wyf yn credu ei fod yn angen- rheidiol er gwir lwyddiant gwlad, i'r holl drigolion gymeryd dyddordeb yn amgylchiadau y deyrnas,-a phan y mae cwestiynau mawrion yn cael eu dadleu a'u penderfynu, y mae o bwys i bobl y man-bentrefi a'r wlad, yn gystal a phreswylwyr y dinasoedd mawrion, ddatgan eu barn am danynt, mewn trefn i ddyfod i benderfyniad diogel a doeth. Y mae cwestiwn mawr dan ein ystyriaeth y foment hon, (clywch, clywch)—ewestiwn na bu ei fath dan sylw pobl Lloegr er's llawer o flynyddoedd, (clywch, clywch)—ac yr wyf yn gobeithio mai un o ganlyn- iadau y cyfarfod hwn fydd peri i Grymru lefaru cyn y penderfynir y cwestiwn presenol. Y cwestiwn mawr ydyw parhad, neu symudiad yr Eglwys Bro- testanaidd Wyddelig. Gellid disgwyl i bob Cymro deimlo i'r byw ar y fath gwestiwn a hwn, canys y mae yn un neillduol o ddyddorol i genedl y Cymru, (clywch, clywch.) Yrydychmewnystyrddaiaryddoly rhai agosaf i'r Iwerddon (clywch, clywch, a cliwertliin) -yr agosaf or rhan ddeheuol o'r ynys hon a mwy na hyny, y mae genych bronad mewn materion cre- fyddol ac eglwysig, yr hwn sydd yn fwy nodedig, ac yn fwy trwyadl, nag eiddo un rhan arall o boblog- aeth Prydain Fawr. Afreidiol yw i mi eich hys- bysu, canys chwi a'i gwyddoch eisioes, fod yr Iwerddon wedi bod dan lywodraeth Lloegr am gan- rifoedd, ond ni bu erioed wir undeb rhwng Prydain Fawr a'r Iwerddon, ac yn wir, ni bu tan yn ddi- weddar ddim tebyg i lywodraeth dda yn yr Iwerdd- on. Am dri chan' mlynedd, llywodraethid y wlad hono gan Loegr, tan yn ddiweddar, trwy raglaw, a barnwyr, ac ynadon, a thirfeddianwyr,—yr oedd yn llywodraeth o uwchanaeth Brotestanaidd, yn erbyn yr hon y gwrthdystiai y Gwyddelod yn gyson. A chan fod y llywodraeth o'r fath yma, y mae y can- lyniadau wedi bod y fath a allesid ddisgwyl—tri chan' mlynedd o drueni, anfoddlonrwydd, cyclfrad- wriaeth, a therfysgoedd. Cyn y flwyddyn 1829, o'r 600,000 Paboddion oedd y pryd hwnw yn Mhrydain a'r Iwerddon, nid oedd dim un o honynt a hawl i eistedd yn Nhy y Cyffredin. Nid sefydliadau gwlad- ol o grefydd yw y pwnc wyf am ddadleu yn bresenol. Hwyrach fod hwnw yn ein haros yn y dyfodol, ac y bydd raid i ni ei benderfynu. Cwestiwn gwladydd- ol yw yr un y cyfeirir ato yn y penderfyniad. Chwi a wyddoch ein bod wedi dadleu y cwestiwn hwn yn Nhy y Cyffredin yn ystod y ddeufis diweddaf, ac i fwyafrif-mwyafrif nodedig—mwyafrif o 65—mwy- afrif o holl aelodau y Ty, ddatgan eu cefnogaeth i'r penderfyniad i ddatgysylltu yr Eglwys Brotestan- aidd yn yr Iwerddon. Yr oedd prif egwyddor ac amcan y penderfyniad hwnw yn wladyddol ac ym- erodraethol. Pa beth bynag yw barn dyn am sef- ydliadau gwladol o grefydd, mae cyfiawnder a'r genedl, a llesiant cyffredinol yr Ymerodraeth, yn ei rwymo i gondemnio yr Eglwys Sefydledig yn yr Iwerddon. Tybiwch ein bod yn awr am y waith gyntaf yn sefydlu Eglwys wladol yn yr Iwerddon, a oes rhywun y tu allan i'r gwallgofdy—(chwerthin) -yr wyf yn ameu a oes neb yn y gwallgofdy— (chwerthin mawr)—a gynygiai sefydlu Eglwys Bro- testanaidd yn y wlad hono ? (Clywch, clywch.) Tybiwch eich bod yn awr am y waith gyntaf yn ceisio sefydlu Eglwys wladol yn Scotland, a oes rhywun a feddyliai am sefydlu Eglwys Esgobol yno ? inid oes un gwladwr a chanddo ben i weled yr hyn sydd yn synwyrol, a chalon i deimlo yr hyn sydd yn gyfiawn, a feddyliai am foment am wneud peth morwrthun. Cynwysa yr Iwerddon rywbeth fel chwe' miliwn o drigolion—o'r chwe' miliwn hyn y pedair miliwn a hanner yn perthyn i'r Eglwys Babaidd, hanner mihwn yn perthyn i'r Eglwys Bro- testanaidd, a hanner miliwn yn perthyn i'r Preby- teriaid. Yn awr, pe buasem ni yn perthyn i'r pedair miliwn a hanner, ac yn gwybod fod yr Eglwys fech- an hon wedi ei gosod yn ein mysg gan orchfygwyr ein tadau, ac yn gwybod hefyd fod yr Eglwys hono mewn cyngrair a phob peth a fu yn elynol i'n bodd a'n llwyddiant cenedlaethol, a'r Eglwys hono yn difa 800,000p. yn flynyddol o'r eiddo sydd yn perthyn yn briodol i'r holl genedl, oni fuasem yn teimlo ein bod yn cael cam mawr, ac y dylai y camwri gael ei unioni yn ddioed ? A chaniatewch i mi ddwyn ar gof i chwi fod sefyllfa y Pabyddion yn yr Iwerddon yn wahanol i sefyllsa yr Anghydffurfwyr yn Lloegr a Chymru. Tan yn ddiweddar, yr oedd holl bobl Lloegr yn perthyn i'r un Eglwys. Nid oedd an- nghydffurfiant yn y wlad. Nid gan ein gorchfyg- wyr y sefydlwyd yr Eglwys yn ein mysg. Gadaw- odd ein tadau yr Ymneillduwyr yr Eglwys Wladol, fel y gallent fwynhau rhyddid crefyddol, gan ym- ofyn am yr hyn a gredent hwy oedd yn wirionedd Cristionogol. (Cymmeradwyaeth.) Yn y wlad hon nid yw yr Eglwys yn arwydd buddugoliaeth; ac er ein bod yn credu ei bod yn sefydliad anfuddiol i'r wlad, ac yn anfuddiol iawn i'r rhai sydd yn perthyn iddi, eto yr ydym yn teimlo y gallwn aros gan ddis- gwyl am y cyfnewidiad a wna amser o barth yr Eglwys hono-cyfnewidiadau a ddangosir gan gyn- nydd gwybodaeth a chrefydd yn mhlith y genedl y perthynwn iddi. Y mae rhai yn son am gwestiwn yr Eglwys Wyddelig fel un bychan a dibwys-fel cwestiwn rhwng pleidiau yn ymgystadlu am swyddi. Yr wyf fi yn ei ystyried yn bwnc ymerodraethol-yn bwmc o heddweh neu anghydfod, o nerth neu wen- idid yn y wladwriaeth; ac yr wyf yn credu fod y mwyafrif o bobl Lloegr, a phobl Cymru, a phobl Scotland, a phobl y byd gwareiddiedig yn con- demnio yr Eglwys Wyddelig. Pwy ynte, sydp yn ein lierbyn ? a phwy sydd am barhau yr Eglwys Syfydledig yn yr Iwerddon ? Rhaid i mi eu galw erbyn yr enw wrth yr hwn y.i adweinir hwy yn y wlad ac yn y senedd-y Blaid Doriaidd.—(Clywch, clywch). Y blaid sydd wedi arfer gwrthwynebu pob mesur cyfiawn a doeth yn ei berthynas a Lloegr yngystal a'r Iwerddon. Yn y flwycldyn 1833, dygwyd mesur ger bron y senedd gan y blaid Ryddfrydig, nid i ddadgysylltu yr eglwys Wyddelig, ond i leihau y treuliau. Nid oedd poblogaeth Brotestanaidd yr Iwerddon y pryd hwnw ond rhywbeth tebyg i boblogaeth Liverpool yn awr. Ond yr oedd 22 o esgobion yn perthyn i eglwys y boblogaeth hon, ac yn derbyn 130,000p. o gyflog yn flynyddol; ac yr oedd yno o 1,500 i 2,000 o offeiriaid. Pan gynygiwyd lleihau yr esgobion i 12, gwrthwynebwyd y cynllun yn mhob modd gan y blaid Doriaidd. Gwelwyd golygfa ryfedd yn ddiweddar yn Neuadd Sant lago. Yn Neuadd Sant lago ymgyfarfu arch-esgobion, ac esgobion, a phob math o urddasolion i amddiffyn nid yn unig yr eglwys sefydledig yn yr Iwerddon, ond sefydliadau gwladol o grefydd drwy yr holl fyd. Mor selog oedd y rhai hyn yn y cyfarfod hwnw, fel panddech- reuodd Deon Westminster drin y plvnc yn rhesymol a chymhedrol, hwtiwyd ef yn ddiseremoni, a bu raid iddo yn fuan dewi a son. Yn awr, pa beth oedd y cyfarfod hwnw ? Galwyd ef gan un yn gyf- arfod trades union—(chwerthin)—un arall ai galwai yn gyfarfod shareholders—concern ennihfawr-y rhai a ofnent i'w dividends gael eu hammharu.—(Chwer- thin). Ni chlywais i gynifer o'r gwyr urddasol hyn gyfarfod erioed a'u gilydd i ddadleu unrhyw bwnc o ddyddordeb cyhoeddus. Am y 200 mlynedd diweddaf, hyd ddiwedd y rhyfel â Ffrainc, yr oedd y wlad hon mewn rhyfel gwastadol. Ni chlywais i'r gwyr hyn ymgyfarfod a'u gilydd i wrthwynebu rhyfel, aphleidio hecldwch. Ni ddarfu iddynt ymuno er dileu caethfasnacli a chtethwasaliaeth ac ni welodd yr esgobion a'r arch-esgobion yn dda i dalu un sylw i'r symudiad er diddymu deddfau yr yd. Ni welais hwynt er'oed yn ymuno a'u gilydd i ys- tyried clioddefiadau ac ysgafnhau beichiau eu cyd- ddynion yn Lloegr nac yn yr Iwerddon. Ond yn aAvr, pan dybiant fod eu heglwys mewn perigl, gellid meddwl fod y wlad i gyd Christionogaeth ei hun yn myned i ddinystr. Yn awr, beth ydym yn fwriadu wneyd, oblegid mor bell ag y mae a fyno fii yn bersonol, byddai yn bur ddrwg genyf fi ymuno ag un blaid wieidyddol a fyddai yn debyg o wneyd anghynawnder neu niweid i un rhan o'r bobl. Yr ydyin ni yn cynhyg,—cyn- hygia Mr Gladstone yn ei benderfyniadau—(cym- meradwyaeth)—cynhygia Ty y Cyffredin trwy fwyafrif mawr, osod yr Eglwys Brotestanaidd Es- gobol yn yr Iwerddon mewn sefyllfa ag yr oedd y Cymru yn bur hysbys o honi, ac wedi cael profiad maith ynddi—yr un sefyllfa ag yr oedd y Wesleyaid ynddi, a'r Eglwys Rydd ynddi, ac yn yr un sefyllfa ag yr oedd yr holl Eglwysi Protestanaidc1 a'r Eglwys Esgobyddol yn eu mysg yn Canada, yn nhrefedig- aethau Awstralia, ac yn Unol Dalaethau America.— (CymmeradAvyaeth.)—Ond yr ydym yn cynhyg iddynt y fantais hon na chawsoch chwi erioed-i'w gadael mewn meddiant o'r holl eglwysi hyny lie y mae cynnulleidfaoedd i'w cadw mewn tretn-(chwer- thin)—o'r holl bersondai cysylltiedig a'r eglwysi hyny lie y mae cynnulleidfaoedd i gynal gAveinidog- ion. Yr ydych chwi yn Nghymru wedi gorfod adeiladu eich capelau ar ochr eich bryniau, ac yn ngwaelod eich dyffrynoedd, a welir mor ami wrth deithio trwy eich gwlad liyfryd-(clywch, clywch, a chymmeradwyaeth.) Yn Ysgotland; y mae eglwysi a thai gweinidogion yr Eglwys Rydd wedi cael eu codi yn ystod y 25 mlynedd diweddaf gan aelodau yr eglwysi hyny. Yn Lloegr, nid rhaid i mi ddywedyd wrthych fod haner y bobl hyny sydd yn myned i le o addoliad, yn myned i adeiladau sydd wedi eu codi a rlioddion g-wirfoddol yr addol- wyr hyny nad ydynt yn perthyn i'r Eglwys Sefydl- edig, ac os ewch chwi i'r Iwerddon chwi a gewch yno o bedair i bedair a haner o filiynau o Babyddion. Er nad ydynt yn perchenogi nemawr o'r tir, ac er eu bod yn dlaAvd, llwm, a gorthrymedig, eto y maent yn raddol wedi codi iddynt eu hunain eglwysi a thai i'w hoffeiriaid, ysbyttai ac ysgolion. (Clywch, clywch.) Wel, yr ydym yn bwriadu gwneyd fel hyn gyda'r Eglwys Sefydledig- yn yr Iwerddon. Llefai yr archesgobion a'r esgobion hyny a gyfarfyddasant yn ddiAveddar yn St. James' Hall, fel pe buasem ar g-yflawni y crculondeb mwyaf annioddefol a ddioddef- odd dyn erioed. Yn awr y mae dwy ffaith gysyllt- iedig a'r eglwys hono, ac y mae yn werth i chwi eu gwybod. Oddiwrth adroddiadau Seneddol ac ystad- egau eraill y gellir ymddibynu arnynt, ymddengys fod yn nghorff 30ain o flynyddoedd, o 1833 i 1862, oddeutu tair miliwn a haner o bunau wedi eu gwario yn yr Iwerddon gan y Dirprwywyr Egiwysig ar eg- lwysi a phersondai yr Eglwys Brotestanaidd Esgob- ol, Yn awr mewn tymhor ychydig yn hwy—cy- merweh o ddechreu y ganrif hon, y mae yr Eghvys Babyddol yn yr Iwerddon wedi gwario, o gyfraniad- au gwirfoddol, swm o ddim llai na phum miliwn o bunan. (Clywch, clywch.) Y mae un peth rhyfedd arall, nad oedd am driugain o flynyddoedd cyn y fhvyddyn 1833 wedi eu cyfranu trwy roddion person- ol gan yr Eglwys Brotestanaidd Esgobol ddim mwy na 170,000p, neu oddeutu 3000p y flwyddyn, a clired- ir yn awr, ac yr wyf yn meddwl y gellir profi hyny, fod y Padyddion yn yr lAverddon y blynyddoedd di- weddaf, yn casglu trwy roddion gwirfoddol, ddim llai na 200,000p yn flynyddol tuag at ddibenion crefydd- ol. (Clywch, clywch.) Ac yn awr gttll yr Eglwysi gwaddoledig wneyd cystal os nad gwell na hyn—os nad ydynt wedi myned yn rhy fethedig trwy eu cysylltiad a'r wladwriaeth. Yn awr os cai y bil oedd ger bron y senedd ei basio yn yr eisteddiad presenol neu y nesaf, beth a gymer le yn yr I werddon r Tybiai yr archesgobion a'r esgobion hyny y deua chaos eto. (Cymmeradwyaeth.) Dim o'r fath beth. Yr hyn a wneir yw hyn:—galwa yr Eglwys Esgobydd- ol Wyddelig yr hyn a alwa yr Americaniaid cyn- hadledd;' y mae ganddynt yn barod eu harchesgob- ion, a'u hesgobion, a'u hoffeiriaid, a'u cynnulleidfa- oedd, a gallant ddwyn yn nghyd i Dublin 1000, neu 500, neu ryw nifer lai o ddynion meddylgar a difrifol perthynol i'w heglwys i benderfynu ar y moddion i weithredu yn y dyfodol. Pan y deuant yn nghyd, gallant benderfynu bob peth ynglyn a chredo a disgyblaeth, a bydd raid iddynt, wrth gwrs, gy- chwyn yr hyn a alwant yn Ysgotland yn yr Eglwys Rydd yn Drysorfa Gynnortlrwyol'—hyny yw, try- sorfa tuag at gynnal gweinidogion mewn ardaloedd gweiniaid a gwledig analluog i wneud hyny eu hun- ain ac wrth gwrs, byddai cynnulleiclfaoedd yfoeth- og yn yr Iwerddon llaAvn mor abl i wneyd hyn ag yn Nghymru ac Ysgotland. (Clywch, clywch.) Ac yna, pan wneid hyny, byddai Eglwys Brotestanaidd Esgobol Rydd yn yr Iwerddon. (Cymmeradwyaeth.) A barnu wrth hyny y mae Eglwysi Protestanaidd Rhydd wedi ei wneud mewn manau ereill, nid rhaid i ni ofni y canlyniadau. Dywedais, flynyddau yn ol, y byddai diddymiad yr Eglwys Sefydledig yn yr Iwerddon ganiatau eto un cynnyg i'r grefydd Brot- estanaidd (CymmeradAvyaeth); ac y byddai iddi fyned allan gyda'i Beibl rhydd a'i gwirionedd (cymmerad- wyaeth), heb gael ei llwytho gan bwysau ei chys- sylltiad a'r llywoclraeth, i gynnyg ei gwirionedd mewn addfwynder a chariad Cristionogol i holl dri- golion y wlad hono. (Clywch, clywch, a chymmer- adwyaeth.) Symmudid hefyd trwy hyn hen ormes a hir deimlwyd. Byddai cyfiawnder yn egwyddor lywodraethol gwladweiniad yr Iwerddon. Gofynodd Mr. Richard a allai Cymru wneyd rhywbeth tuag at ddwyn hyn oddi amgylch ? Yr ydych yn Anghyd- ffurfwyr mewn crefydd, ac yn Rhyddfrydwyr mewn gwleidyddiaeth. Yr wyf yn adnabod aelodau dros Gymru yn Nhy y Cyflredin, y rhai sydd yn Rhydd- frydwyr, ac ereill nad ydynt yn Rhyddfrydwyr; ond yr wyf credu eu bod oil yn ddigon Bhyddfrydig i addef hyn am danoch. (Uchel gymmeradwyaeth.) Yr wyf yn cofio clywed un yn dyweyd nad ydyw yn eistedd ar yr un ochr i'r ty a mi, yn dyweyd wrthyf fi- 'yn gyffredin y mae y bobl yn Nghymru, yn gan- lynwyr i'ch cyfaill Mr. Cobden a chwithau.' (Cym- meradwyaeth uchel a hirfaith.) Yr ydych yn bob! alluog iawn i lywodraethu eich hunain, er y dywedir eich bod dipyn yn wyllt eich tymher. (Cliwerthin- iad, a chymmeradwyaeth.) Yr ydych yn bur ddi- wyd, yr ydych yn bur gynil, yr ydych yn bur hedd- yehol fel dinrawyr; ac nid oes gan y barnwyr, fel yr ant trwy Gymrn, bron ddim i'w Avneud. (Chwer- thin, ac uchel gymmeradwyaeth.) Yr oeddwn yn Nolgelley nid rhyw laAver o amser yn ol. Pan ddaeth cynrychiolydd ei Mawrhydi y barnwr i menvii, yr oedd yno, wrth gwrs, lawer o stwr. (Chwerthin). Yr oedd y sirydd a'i gyfeillion a'i ganlynwyr yno. Yr oedd y gwestty jai llaAvn; a dyna lie yr oedd y barnwyr, a'i osgordd a'i gogvdd. Nid wyf yn gwybod a ydyw yn wir; ond dywedodd Cymro wrthyf fod y barnwyr yn v,rastad yn dyfod a chogyddion gyda hwy. (Chwerthin.) Ond yr wyf yn meddwl nad oedd yno ond dau garcharor, a'r rhai hyny yn ddau dramp o Loeg-r. (Chwerthin a chymmeradAvyaeth. Os yw y Cymry yn feddianol ar y fath rinweedau— os ydynt yn alluog i wneud cymmaint mewn ystyr foesol a chrefyddol—yn sicr y maent yr un mor alluog i hynodi eu hunain ar faes gwleidyddiaeth— maes prin llai pwysig na'r maes crefyddol. Gwn beth ydyw gallu eich tirfeddianwyr. Y mae ef yn fawr ac yn uneclig. Yr oeddwn un dydd yn ym- ddyddan a ffarmwr Cymreig. Daliai oddeutu 200 erw o dir, ac yr oedd ef yn ddyn o garitor rhagorol. Pan y soniai am borchen ei ffann, dywedai am dano yn barhaus 'Fymeistr.' Credwyf nad oedd ef yn llai annibynol na ffermAvja- Cymreig eraill, ond tar- awai y frawddeg fi yn rhyfedd ac annymunol. Nis gwn a fedi-Avch, hyd oni chwec-h y ballot—(cymmer- adwyaeth)—hvyddo i wrthwynebu y gallu sydd vn pwyso arnoch. Ond eto, pan fcddyliwyf am v Rbrdd y lhvyddasocli yn erbyn gormos 150 o flynyddoedd yn ol, nid wyf yn iiieddwl ei bod yn anmhosibl i chwi orchfygu hyd yn oed y gallu hwn. (Banllefau.) Daw y dydd yn y man pan y bydd moesoldeb yn y pynciau hyn mor hollalluog fel y cyfrifid tirfeddian- ydd yn ddyn mor ddrwg am ladratta pleidlais ei dexi- ntiaid a phe gwnai ladratta unrhyw beth arall oddi- arno. (Banllefau.) Mae etholiad cyffredinol wrth law. Rhaid iddi ddyfod o hyn i MaAvrth; dichon y daw, y mae'n debyg y daw, o hyn i'r Nadolig. Wrth derfynu ei araeth, galwai Mr Bright ar y Cymry mewn iaith rymus i gefnogi dynion o'r iawll ryw i'w cynrychioli yn y Senedd. Yr oedd ei lais yn gryglyd, ac amlwg oedd ei fod yn llefaiu o dan lawer o au- fantais. Pan yr eisteddodd i lawr, byrstiocld y dorf i floeddio hwre, ac i roi pob math o arwyclclion o gymmeradwyaeth i'r areithhvr enwog. o Mr. Vernon Harcourt a ahvyd ar ol Mr. Bright. DywedAvyd wrthym mai y boneddwr hwn ydyw aw- dwr y llythyrau campus sy'n tynu y fath sylwyn tin o ncwyddiaduron penaf y deyrnas y dyddiau hyn, o dan yr enw Historicus.' Traddododd araeth hyawdl iawn, mewn Ilais cryf fel udgorn. Addefai, gyda balchder, ei fod yn aelod o'r Eglwys Sefydledig—o'i enedigaeth, o'i dt-imlad, ac o'i gydwybod. (Cym- meradwyaeth.) Ond, er hyny, yr oedd ef mor gryf a Mr. Bright yn erbyn cyssylitiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Am ei fod yn Eglwyswr selog, yn caru llwyddiant yr Eglwys, yr oedd ef yn pleidio o'i galon ddaddAAraddoliad yr Eglwys yn lAverddon. (Banllefan aruthrol.) Mr Geo. Osborne Morgan a gynhygiodd bender- fyniad i'r porwyl fod y cyfarfod yn ymrwymo i g'ef- nogi sefydliad cangen Gymdeithasau Diwyg-iadol yn mhob tref ac ardal yn y Dywysogaeth. Llefarodd yn gryf ar yr angenrb ei clrwy<i<i i gydweithredu a dirmygodd y bobl oedd yn arfer dyweyd Avrtl-. y tlawd, Dy vote neu golli dy fywiolaeth.' Ofnai y buasai y Reform Bill newydd yn rhoi mwy o allu i'r Toriaid i sgriwio' nag erioed ond galwai yn --a Ion- og ar bob Rhyddfrydwr annibynol i wneud ymdroch deg i arwain y dosbarth sy'it i-neddil'r etliolfrliilt o grafang-au eu gorthrymwyr i'r frwydr yn Avrol, a a allan o honi yn fuddugoliaethus. (Banllefau.) Eiliwyd y cynnygiad gan Mr. Morgan Lloyd. Nid oedd ef yn gweled llawer o rwystrau ar ffordu y Rhyddfryclwyr i gynimeryd meddiant o Gymru. Yr oeddynt wedi llwyddo yn y blynyddoedd a aethant heibio, ac yn penderfynu ll-\yyddo yn y dyfodol. Nid gwir oedd dyweyd fod holl dirfeddiaiinwyx Cymru yn Doriaid ac 3*11 ormeswyr; a chydag ychydig eto o ddyfalbarhad ac yni, nid oedd petrusder yn ei feddwl y torid gwddf pob Tori gormesol sydd eto yn bodoli yn y Dywysogaeth. (Banllefau.) Y cwestiwn yn yr etholiad nesaf oedd, A gedwid ncu yntc a dorid y cyssylltiad rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth yn Iwerddon ? Ar hyn yna y byddai y frwydr yn troi; ac ond i'w gydwladwyr gadw y pwngc yn y wedd yna o flaen eu llygaid, nid ofnai y canlyuiad. (Ban- llefau.) GAvyddai pobl Cymru beth allai yr egAvy- ddor wirfoddol gyfhiwni, ac mai ynfydrwydd oedd honi fod gAvneutliur cyfiawnder i Iwerddon yn niwed i Gristionogacth, neu fod dadwaddoli yr Eglwys yno yn ddinystr i Brotestaniaeth. (Banllefau.) Cariwyd y penderfyniadau yn ddiwrthwynebiad. Mr J olm Roberts, Hope street, a gymivgiodd ddi- olchgarwch i Mr. Bright am ei clclyfocliacl i Liver- pool, ac am yr araeth oclidog a draddododd. Dywcd- odd inai ofer fuasai unrhyw adolygiad ar lafur a gwasanaeth cyhoeddus y boneddwr anrhydeddus; ond y gallai sicrhau nad oedd y Cymry yn ol i neb yn. eu gwerthfawrogiad o onestrwvdd a dichvylledd Mr. Bright. (Uchel gymmeradwyaeth.) Cydnabyddai yr anrhydedd a osodasai ar y Cymry trwy ddyfod atynt, a'r help oedd y gymdeithas wedi ei gael trwy ei bresennoldeb. Dywedai y gallai y Cymry deimlo yn llawen o blegid iddynt ddarganfod, a datguddio, a dinystrio y cynnygiad gwaradwyddus i andwyo eu cyfarfod. (Cymmeradwyaeth uchel.) Edrychai ar y fuddugoliaeth oeddynt wedi ei hennill ar JT Orangt- men fel rhagarwydd o'u buddugoliaeth yn yr ym- gyrch ddyfodol. (U chol gymmoracl wyaeth.) Eiliwyd y cymiygiad o ddiolchgarAvch i 31 Bright gan Mr. R. G. Williams, bar-gyfreithiwr, a chariw3rd ef gyda theimladau tra gAvresog-. Diolchwjrd hefyd i Mr. Henry Richard^ Mr. Mor- gan Lloyd, Mr. Osborne Morgan, &c. Ymwahanodd y cyfarfod ychydig ar ol un-ar- ddeg o'r gloch,

....... BRECWEST CYHOEDDUS…

AM WEITHIO 0 DDIFRIF.

Y GYNHADLEDD.