Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

RHYL.

LLANDOVERY A'R SULGWYN.

PENTRAETH, MON.

PHILADELPHIA.

LLANDDAROG.

LLANYMDDYFRI A'I CHYLCHOEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANYMDDYFRI A'I CHYLCHOEDD. Wedi hir ddistawrwydd, ceisiwn yn awr goginio pwt o ohebiaeth o'r defnyddiau sydd genym i'r TYST o'r lie uchod. Y Central lFctles.-Y mae hon weithian wedi ei chwblhau, sef o Llanymddyfri i Lanwrtyd. Rhed y tren nwyddau ar ei hyd drwy'r wythnos, gan ddwyn beth miloedd o nwyddau o'r naill fan i'r Hall. Pas- iodd deugain o gerbydau llawnion o anifeiliaid o Gaerfyrddin y dydd o'r blaen. Y mae yn ymddang- os yn awr y try yr anturiaeih allan yn llwydcliannus, ac y bydd y shareholders yn ennillwyr. Dydd Llun nesaf yw dydd ei hagoriad yn ffurfiol felly. Ond odid na fydd yma gryn lawer o rialtwch. Y mae y llinell hon yn cyssylltu y Gogledd a'r De yn fwy un- iongyrchol a'u gilydd na'r un a wnaethpwyd hyd yn hyn yn y Dywysogaeth a thrwy hyny, ni a hyder- wn y gallwn ninnau cyn hir gael gwibdaith i weled y lleoedd mwyaf enwog yn y Gogledd. Acleiladu.-Y mae cryn lawer o ysbryd myn'd yn nhref yr hen ficar y dyddiau hyn, mwy na fu, fe ddichon, er's blynyddoedd, a chredwn y gall ddy- weyd yn bur hyderus—"mi welaf amser gwell eto." Adeiledir station newydd, a llawer o adeiladau ereill at wasanaeth y drafnidiaeth sydd i fod ar y llinell hon. Hefyd, y mae y suspension bridge yn myned dan lawer iawn o gyfnewidiad yn bresennol. Y mae llawer o bobl yn gweithio wrthi bob dydd. Teet Tarty.—Anrhegwyd deiliaid Ysgol Sabbothol Sardis a the Dydd Llun y Sulgwyn, gan y garedig a'r haelionus Mrs. Morgan, Nelson Cottage. Wedi i bawb fwynlxau te da o'r fath oreu, a phob peth arall yn ogystal, bid siwr, cawspm gyfarfod adrodd- iadol; ac yn wir, heb ddim lol, un da iawn ydoedd. Adroddai y plant yn dda, ynghyda dynion mewn oed, ddarnau o farddoniaeth, ac ambell i draethawd byr; a chafwyd anerchiad mydryddol gan Nathan Jones o'i waith ei hunan. Hefyd, yn ychwanegiad at ddyddordeb y cyfarfod, yr oedd Mr John Lewis, Llanymddyfri, gyda'i lais peraidd a chlir, yn canu nes oedd y wlad yn diaspedain. Anerchwyd y cyf- arfod gan y Parch W. Morgan. Diolchwn yn gyn- hes i Mrs. Morgan am ei charedigrwydd, a Mr Mor- gan am ei haelioni yn anrhegu y plant a llyfrau. Hir oes iddynt i wneuthur daioni, medd—Sylwedydd.

GRANGE TOWN, CAERDYDD.

TROEDRHIWDALAR.

KID WELI.

BANGOR.

RHUTHYN.

WYDDGRUG.

GLANDWR.

PISGAH.

MERTHYR TYDFIL.

PENMORFA, GER TREMADOC.

ABERSOCH A BWLCH TOCYN.