Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

RHYL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHYL. Cafwyd cyfarfod te a gwyl lenyddol ynglyn a'r Annibynwyr, ar Ddydd Llun y Sulgwyn. Mwyn- hawyd y te yn Ysgoldy yr Annibynwyr Saesneg yn Water street. Daeth lliaws ynghyd, wedi talu swllt am docynau. Rhoddwyd y danteithion yn rhad ac am ddim i'r eglwys gan lu o foneddigesau haelfrydig a phrydferth, er mwyn i'r elw fyned at leihau dyled yr addoldy. Tua saith yn yr hwyr, dechreuodd yr wyl lenyddol yn nghapel y Cymry yn Queen street. Yr oedd y lie yn llawn o bobl barchus, yn arddangos chwaeth at foes, rhinwedd, a da. Llywyddwya yn fywiog a doeth gan y Parch Robert Thomas, y gweinidog, ac amgylchynwyd ef fel mur o feini detholedig gan y brodyr canlynol:—Parch Samuel Roberts, gynt o Lanbrynmair; Parch A. Francis, Parch J. Roberts, Abergele, Parch John Williams, Rhyl, a Rhydderch o Fon. Wedi i'r cadeirydd dra- ddodi anerchiad agoriadol, aed trwy brogram cyn- nwysfawr a difyr. Canwyd amryw ddarnau yn bur felus gan gor bychan, o dan arweiniad Mr. Thomas Whitley. Gwnaeth y plant eu rhan yn dda odiaeth trwy ganu, darllen, ac adrodd, a chafodd yr anwyl- iaid arwyddion o gymmeradwyaeth serchog a brwd- frydig. Policy gqgoneddus ydyw dyrchafuy plant. Arnyrit hwy y inae llwydcliant gwlad, cymdeithas, ac eglwys yn dibynu. Areithiodd S. R. yn llithrig a swynol ar dipyn o bobpeth—yn neillduol ar yr iaith Gymraeg. Taniwyd y gynnulleidfa gan Mr John Williams, Sussex street, ag araeth synwyrlawn a ffraeth, ar y Wraig Rinweddol.' Gresyn na fuasai wedi rhoi llai o apology o blegid prinder amser yn y dechreu, a mwy o'i sylwadau gwerthfawr ar y pwngc. Pan byddo'r amser yn brin, ni ddylid colli amser i son am y prinder, ond disgyn yn hytrach ar y pwngc fel barcut ar ysglyfaeth-yu short and sweet. Ond haws dywcyd na gwneyd. Darllenwyd beirniadaethau gwir clcla ar draethod- au gan y Parch A. Francis, a'r Parch J. Roberts; ac ar farddoniaeth gan Rhydderch o Fon. Dyfamwyd y prif wobrwyon fel hyn:—1 Mr. Brace, myfyriwr o Goleg yr Annibynwyr, Bala, 10s am chwe' pheiLnill i'r diweddar John Whitley, Rhyl. 2 A. B. C., lp, am draethawd ar Gyflafan yr Offeiriaid-yn Nob. Ni chafwyd ei enw priodol, o ganlyniad orffetiodd y wobr. Ail oreu (os), Richard Jones, teiliwr, Mach- ynlleth, yr .hwn hefyd a ennillodd lp am y traethawd goreu ar Brawf yr Arglwydd Iesu ger bron Pilat; a rhoddwyd yr ail wobr ar y testyn yma (os) i Robert Williams, Tanygraig, Dwygyfylchi. [Cyhoeddir y beirniadaethau yn y TYST mor fuan ag y bydd cyf- leusdra. Gwelir un ar y farddoniaeth yn y rhifyn hwn.] Nid ydym yn cofnodi holl fanylipn y cyfar- fod, ond rhaid rhoi teyrnged o g-anmoliaeth i Mr David Davies, Foryd, a Mr Griip:tho;, saddler, am eu traddodiad campus o'r Ymgom rhwng' Simon Jones, y canwr, ae Ellis y saer. Cynhyrfa^ant deimladau crechwenllyd y bobl yn ami iawn. Cynnygiwyd diolchgarwch i'r beimiaid gaxi Mr. J. S. H. Evans, timber merchant, ac eiliwydei gan. Mr J.; Rhydwen-J ones, contractor. 'Diofehwyd hefyd i'r boiieadigQSE^u am efy(I it Gwn ;ed hjrn. trWy eilau Mr Jolm'Williaiiis, yr hwn* sy'n aelod hanfodol o bob cyfarfod cyhoeddus Cym- Kig yn Rhyl. j

LLANDOVERY A'R SULGWYN.

PENTRAETH, MON.

PHILADELPHIA.

LLANDDAROG.

LLANYMDDYFRI A'I CHYLCHOEDD.

GRANGE TOWN, CAERDYDD.

TROEDRHIWDALAR.

KID WELI.

BANGOR.

RHUTHYN.

WYDDGRUG.

GLANDWR.

PISGAH.

MERTHYR TYDFIL.

PENMORFA, GER TREMADOC.

ABERSOCH A BWLCH TOCYN.