Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

■CYMDEITHAS RHYDDHAD CREFYDD.

MOELTRYFAN.

LLANBEDROG, GER PWLLHELI.

BRYN, LLANELLI.

IPORTHMADOG.

GRYHHOBEB SEIfEBIJOL. I

EFENGYLWYP, TEITITIOL cymru.

MARWNAD I'R DIWEDDAR MR. JOIIINI…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWNAD I'R DIWEDDAR MR. JOIIINI WHITLEY. (UiI o Dcstynau Cyfarfod Llenyddol Rllyl, ])ydd Llun y Sulywyn, 1868.) Derbyniwyd 6 o g-yfansoddiadau ar y testyn hwn, sef eiddo 'L. M. N. O. P. 'GlanElwy,' 'Creigfardd,' 'Ifor Hael,' 'Arfonwyson,' ac 'Un a'i gwclodd yn oi gystudd.' Wrth ystyried maint y wobr mae yn syn gOlly-f weled cynifer wedi anfon i'r gystadleuaetli, a dan iieu dri o'r cyfansoddiadau yn well na'r cyffredin mewn cyfarfodydd o'r natur yma. 'Arfonwyson.' Mae ganddo 6 phennill cywir o ran y mesur, ac yn dyweyd yr hwn y mae yn ei ddy- weyd yn rheolaidd a naturiol, ond nid oes dim oud enw yr ymadawedig wrth ben y pennillion, yn gwneyd i mi feddwl mai marwnad i'r diweddar Mr John Whitley ydynt. Yn wir y mae yn ymddangos i mi nad oedd 'Arfonwyson' yn gwybocl fod J. W. yn medru cana o gwbl, neu o'r hyn lleiaf nid yw yn cyfeirio dim at hyny, a gwyr pawb a adwaenant J. W. mai byd bychan tlawd a diwerth fuasai y byd yma iddo ef pe na buasai ca>m yn rhan bwysig o'r gwaith ynddo. 'L. M. N. 0. P.' Nid yw yr ymgeisydd hwn wedi dysgu sillebu geiria-u mor syml a dywiol (duwiol), fyddigoliaeth (fuddugoliaetli), rhiw (rhyw), r/ioedd ('roedd),/yddlondeb (ffyddlondeb), &c. Y mae gan- ddo hefyd 12 llinell heb yr un odl ynddynt, sef Un a swyn,' 'swydd a tywydd,' a 'gwan a glan,' yn atteb i'w gilydd. Dyma y grisiau cyntaf i'whesgjai. yn ysgol uchel barddoniaeth, ac os methir yn ngwaelod yr ysgol beth wneir pan geisier esgyn y ris uchaf P Gobeithio y bydd 'L. M. N. 0. P.' yli foddlawn i fyned adref heb y wobr ar ol clywed am y gwallau a llochyyd. If or Hael.' Cadw y-ii bell oddiwrth ei destyn fel 'Arfonwyson' y n-iae 'Ifor Hael.' Mae ganddo fwy am y glaswelltyn yn gwywo,' a 'blodau y dolydd,' 'Yr Heulwen ddysglaer,' &o., nag sydd ganddo o J. W. Nid yw yn gywir dyweyd fod angau wedi gyru ei wenwyn marwol I dryivanii tyner dad.' Nid gwenwyn sy'n trywanu. Dyma'r pennill goreu sydd ganddo o ddigon:— I Bel,thynasau peidiwch wylo Seion paid a'th dristaidd lef, Y mae'n colled ni yn ennill Fawr dragwyddol iddo ef; Dysglaer yw ei goron euraidd Fel gorchfygwr yn y nef, Bythol mwy ei gun ddyrchafa Am y goncwest trwyddo ef.' 'Glan Elwy,' a 'Creigfardd.' Mae'r ddwy farw- nad yma yn llawer gwell na'r tair flaenorol. Ni fuaswn yn petruso rhoddi'r wobr i bob un o'r ddwy pe na buasai eu gwell yn y gystadleuaeth. Anaml y ceir pennill gwell na'r un canlynol gan 'Creig- fardd:'— 'Boed llewyrch o'r trigfanau fry Yn lloni ei weddw fwyn, Boed trugareddau'r nef wrth raid Yn lleddfu ei chlwyfus gwyn; Cyrhaedded cri'r amddifaid bach Sy'n wylo am eu tad, Nes ennill iddynt ffafr nef A nawdd eu nefol Dad.' Nid pob un a enillodd mown cystadleuaeth farddon- ol all gyfansoddi fel yna. 'Un a'i gwelodd ynei gystudd.' Dyma y farwnad oreu o lawer. Ni ddisgwyliais gael un gystal am y wobr a gynygiwyd, Mae'r iaith yn gywir, y mesur yn rheolaidd, y syniadau yn naturiol, a'r darlun mor debyg i'r gwrthrych fel na raid gofyn wrth edrych arno, fel y gofynir wrth edrych ar ambell habiting, 'darlun pwy yw hwnf' Marwnad i'r diweddar John Whitley ac nid neb arall ydyw. Mae yn hyf- rydwell genyf gael rhoddi y wobr i 1 Un a'i gwelodd yn ei gystudd.' RHYDDERCH 0 FON. [Gwelir y pennillion buddugol yn y golofn fardd- onol.—Gol.] j

ADOLYGIAD AR Y 'TYST.'.