Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
'I GORUCHWYLIWR YMFUDOL 'I GORUCHWYLIWR YMFUDOL TRWYDDEDIG GAN Y LLYWODRAETH. ROBERT TRAVIS, (CYMno 0 FANGOR), 3, Edmund Street, allan o Old Hall Street, (0 fewn gwaith pum munud o gerdded i'r Prince's Landing Stage, y Railway Station, a'r Dociau,) LIVERPOOL. ILETTY Cysurus i Deithwyr, heb neu gydag ym- J borth. Ystorfa dda i gadw Luggage. Annogir y sawl sydd yn bwriadu ymfudo i ysgrifenu at Robert Travis, (cyn gadael eu cartref,) trwy yr hwn y ceir bob hysbysrwydd gyda golwg ar reilffyrdd, agerlongau, a'r hwyl-longau, i bob parth o'r byd. Y mae'r boneddigion canlynol yn adnabod R. T., ac yn cymmeradwyo ei dy a'i gymmeriad:—■ Cadben Evans, Prince Arthur; Mr Price, Moorings, Menai Bridge; Cadben Williams, Caergybi; Cadben Hughes, Windsor, Bangor; Cadben Richard Williams, Liverpool; Cadben Johnson, Royal TVilliam; Mr John Williams, Llanfair, Sir Fon; Parch. Noah Stephens, a'r Parch. Jno. Thomas, Liverpool. [51—54. PELENI AC ENAINT HOLLOWAY.—Yr iachad mwyaf effeithiøl i'r gout a'r gewynwst (rheumatism). Achos mynych o'r cwynion hyn ydyw cyflwr poethlyd y gwaed, yr hyn a ddilynir a diffyg treuliad, blinder, a nychdod mawr, yn dangos fodangen am reoliad priod- ol, a bod gwaed anmhur yn mawr ffyrnigo yr anhwyl- derau yma. Y mae Peleni Holloway o natur mor bureiddiol fel y gwna ychydig doses o honynt wedi eu cymmeryd mewn pryd brofl yn rhwystr i'r gout a'r gewynwst, ond dylai pawb sy n dyoddef oddiwrthynt ddefnyddio Enaint Holloway hefyd rhinweddau grym- U3 yr hwn, mewn cyssylltiad ag effeithiau y Peleni, sy'n peri iachad sicr. Dylid rhwbio yr Enaint yn dda i'r mannau a boenir o leiaf ddwywaith yn y dydd, ar ol iddynt yn gyntaf gael eu golchi yn dyner a thxwyadl a. dwfr cynhes i agor y chwys-dyllau er mwyn rhwydd- hau y ffordd i'r Enaint gyrhaedd y chwareiiau. YMDDATTODIAD Y SENEDD.—Nid yw y Daily News yn meddwl y gall y Senedd fyned trwy eu gwaith yr eisteddiad yma, hyd yr ail wythnos yn Awst. HEN WRAIG 106 OED.-Dywed un o newyddiad- uron Caer fod hen ddynes yn byw yn Bollington Lane, Bollington, yn 105 mlwydd oed. Ei henw yw Ann Getliffe, gweddw Humphrey Getliffe. Ganwyd hi ar y 7fed o Fawrth, 1764, ac y mae ganddi bedwar o blant-George Getliffe, 80 mlwydd oed; Sarah Frogett, 70 mlwydd oed; Elizabeth Smith, 70 mlwydd oed; a Francis Collier, 66 mlwydd oed. AT EIN GOHEBWYR. Mae yr ysgrifau canlynol yn mysg llawer eraill yn y swyddfa, ac y mae eu hysgiifenwyr yn dymuno gwybod beth a ddaeth o honynt Syniadau Calvinaidd Cymedrol, gan Jeremoth.—Nid colofnau newyddiadur yw y lie i ddadl dduwmyddol. Rhagluniaeth, gan J. J.—Mae ein cyfaill hwn wedi bod ini yn ohebydd ffyddlon o'r dechreuad. Yn yr ysgrif hon y mae yntau hefyd j'll mjTied ormod i derfynau duwinyddiaeth. Anfonwn hi i le arall, a bydd yn dda genym glywed oddi- Witlio ar destynau yniarferol. Cristion o fewn ychydig, gan Silin Gwyllt.—Anerehiad bywiog a difrifol, ond nid yn hollol y peth y disgwylir ei gael mewn pai,)iu ne-wydd. Darllen Ffuglianesion.—Mae ambell un yn ysgrifenu nes peri 1 wirionedd ymddangos fel ffug, ac eraill yn gallu taflu cym- maint o fywyd i ffug nes peri iddo ymddangos fel gwirion- edd. Mae y niwed y cyfeiria ein gohebydd ato yn fawr, ni a wyddom; ac eto rhaid i, ddyriion gael snujfmewn ysgrifau, onide ddarllenir mo honynt. Mae Dyoddefwr yn ysgi-ifenu yn gryf am y gorthrwm a ddy- oddefa gweithwyr MjTiwy oddiwrth eu meistri. Yr ydym yn cydjindeimlo a Dyoddefwr, ac yn sicr nis gall dynion ddyoddef j'll hir clan y fath galedi heb wingo. Caradog.-Mae Caradog am gael ein barn ar ryw fater mewn dadl rhwng cantorion M-. Caradog anwyl, a oes dim pwys genych am ein bywyd pan y disgwyliwch i ni ei beryglu trwy roddi ein barn ar y fath achos ? Ar yr un pryd, byddai yn dda i grefyddwyr ystyried a phwy y maent yn ymgymysgu yn eu corau. Aeth gohebiaeth Profiadol, o America, ar goll, ao yr oedd yn rhy ddiweddar i'w chyhoeddi pan gawsom afael ynddi. Bydd yn dda genym glywed eto oddiwrth Profiadol. Anwybodus.-Ysgrifena fel hyn:—" Mri. Gol.Darllenais yn y TYST yr wythnos cyn y diweddaf hanes Creulonderau yn Nghymru.' Y fan a nodir lie y cyflawnwyd y creulondeb yw Blackburn. A fyddwch chwi, neu yr hwn a roddodd yr hanesyn, gystal a gwneud yn hysbys trwy gyfrwng y TYST pa le yn Nghymru ymae yfan hono ? Gall fod llawer fel finnau yn anwybodus. Felly rhoddech foddlonrwydd i lawer heb- law ii." Nid ydjTn ninnau 3-n gwybod a oes y fath le a Blackburn yn Kghymru. Gwall oedd y penawd Creulon- derau 3-n Nghymru.' Dylasai fod 'Creulonderau Rhieni yn nghyfraith.' Ar y d-l yr oedd y bai, ae yr ydym wedi ei ddwrdio am gamdystiolaeth. LTn o'r rhai sydd am gael gwybod.—Cyfeiria y gwr hwn y nodyn canlynol at y Parch Simon Evans, Hebron:—" Syr,— "VYrth eich atebiad yn y TYST diweddaf, deallaf mai yr un TTndeb a feddyliwch wrth Undeb Cerddorol Wliitland ag Undeb Cerddorol Henllan. Yn awr, anwyl Syr, carwn gael gair o eglurhad genych eto ar-Pa fodd y cafodd enw yr Undeb ei nein-id t Undeb Cerddorol Henllan y galwyd ef oddiar ei gych-wyniad hyd y tro diweddaf. Pa le y cyfarfu y P,yll,-or pan benderfynwyd hyny ? Gwn na wnaed hyny yn Llandisilio, oblegid yr oeddwn i yno yn y pwyllgor. Atebiad i'r ddau ofyniad ucliod a'm boddlona i." Ivor.-Drw, g genym fod prif ddalen y TYST yn rhy lawn i gan- iatau gofod i'r ddau englyn canlynol gan Ivor i'n eyfaill brwdfrydig yr Enwog Fardd Bro Gwalia :'— Bro Gwaha, un hynod yw ef, A'i enw'n aelwyd air trwy'r dref; Ei awen yn sirioli sy Yr hen ac ieuaingc yn mhob ty. Tref henafol Caerynarfon Fu fagwrfa i'n cj-faill lion; 0 dewch yn unfryd, Gymru mad, I dalu parch i Bro' eich gwlad. Bro Gwalia.-Yr ydym yn sier, wcdi gweled y compliment uchod, y goddefwch i ni osod eicli pennillion i Mrs W-, ar ol adferiad iechyd yn y pmdan am dymhor. Dychwel- ant ond odid heb dderbyn nemawr o niwed. Rhyddfrydwr Ieuane.-Yr ydym yn lloni wrth glywed fod cyfeillion rhyddid yn Nghaernarfon yn dyheu am wneyd rhywbeth erbyn yr etholiad nesaf,' ae yn dymuno cydweith- redu a'r Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig. Nis gwyddom eto pa mor fuan y danfonir Cynrychiolydd y Gyrndeithaa trwy'r wlad, ond collir gan lleied o amser ag y bydd modd. Yn y cyfamser, ffurflwch gangen gymdeithas yn ddioed, ae ymofynwch am y manylion a L. Williams, Ysw., yr ysgrifen- ydd, Canning Chambers, South John Street, Liverpool. Gweithiweh heb ddiffygio. Y mae'r fuddugoliaeth yn ymyl! Ieuan Mon.—Edrychwn dros eich pennillion pan y caffom amser. Crwydriad a Gwladgarwi'.—Rhaid ilch ysgrifau fyn'd i'r ffwrn o "dan brawf, cyn yr anturwn eu eyhoeddi. Byddwch pnarhous am ennyd. Adolygiadan.—Yr ydym newydd dderbjTi y rhifyn cyntaf o Rydd-weithiau Hiraethog." Caiff arolygiad arno ym- ddangos yn ein nesaf.
HEBRON.
HEBRON. Cynnaliwyd cymmanfa tair sirol yr Annibynwyr eleni yn Hebron, ar y 26ain a'r 27ain o Fai. Etholwyd y Parch J. Davies, Moriah, i'r gadair. Dechreuwyd y Gynhadledd trwy weddi gan y Pro- ffeswr Morgan, Caerfyrddin. Darllenwyd anerchiad agoriadol gan y Cadeirydd, yn yr hwn y cyfeiria at yr elfenau nerthol sydd yn gweithio yn y Dywysogaeth, er dwyn eyfnewidiad yn nghymmeriad, amgylchiadau, ac iaith y genedl, ynghyda'r ddyledswydd sydd yn gorphwys arnom i wneud rhagddarpariadau addas ac amserol ar gyfer y cyfnewidiad sydd yn ein haros. Golyga fod y genedl mewn 'sefyllfa newidianawl' (transition state.) PENDERFYNIADAU. 1. Fod dymuniad taer ac unfrydol ar Mr. Davies i wneuthur yr anerchiad galluog a ddarllenodd yn gyhoeddus trwy y wasg. 2. Ein bod yn cydymdeimlo a'r Parch D. Rees, Llanelli, yn ei gystudd presennol, ac yn galaru o herwydd ei anallu i fod yn ein mysg fel yr arferai fod; ac ar yr un pryd, yn gobeithio y bydd i'r Ar- glwydd adferu ei iechyd eto. 3. Fod y Gynhadledd, ar ol gwrando adroddiad o sefyllfa Trysorfa Colegdy Aberhonddu oddi wrth y trysorydd, gan y Parch T. Thomas, Glandwr, yn taer ddymuno ar holl weinidogion ac eglwysi y tair sir, sydd heb anfon eu casgliadau i mewn i'r cyfryw drysorfa, i wneud hyny gyda y brys mwyaf, gan fod angen mawr am arian. 4. Cydunwyd i anfon at yr Anrhydeddus W. E. Gladstone, A.S., amlygiad o gymmeradwyaeth wres- og o'i fesur i ddadgyssylltu yr Eglwys Wyddelig oddi wrth y Llywodraeth Wladol; ynghyda phen- derfyniad i gydweithredu yn egniol a chalonog tuag at ddwyn ei amcan goruchel i ben. Ni phenderfynwyd pa le y bydd i'r gymmanfa gael ei chynnal y fiwyddyn nesaf, o blegid nad oedd yno neb yn ei cheisio. Dymunwyd ar y Parch E. Jones, Crugybar, i edrych allan am eglwys yn sir Gaerfyrddin a fyddai yn foddlawn i'w derbyn. CYFARFOD CYHOEDDUS. Prydnhawn y dndd cyntaf, dechreuwyd ar y maes trwy weddi gan y Parch. A. Jenkins, Cana. Pre- gethodd y Parch T. Thomas, St. Clears, a'r Parch J. Williams, Castellnewydd. Am 6, pregethoid y Parchn. J. M. Evans, Caer- dydd, Davies, Blaenycoed, ac Evans, Penydre. De- chreuwyd trwy weddi gan y Parch W. Jenkins, Cid- welly. Pregethwyd hefyd mewn gwahanol fanau yn yr ardal ac addoldai cymmydogaethol. Am 7, Dydd Mercher, dechreuwyd gan y Parch B. James, Llandilo a phregethodd y Parchn T. Rees, Maenygroes, a T. Thomas, Glandwr. Am 10, dechreuwyd trwy weddi gan y Parch L. Jones, Ty'nycoed; aphregeehodd y Parchn T. Davies, Llanelli, D. Anthony, B.A., Tenby (yn Saesneg), a D. Roberts, Caernarfon. Prydnhawn, gweddiodd y Parch E. Jones, Ffyn- nonbedr. Pregethodd y Parchn T. Thomas, Bryn- main, a T. Matthews, Castellnedd. Am 6, gweddiodd Mr. Thomas, Tresimwn; a phregethodd y Parchn D. Henry, Penygroes, ac H. Davies, Bethania. Cafwyd Cymmanfa dda; ac yr ydym yn teimlo yn ddiolchgar am dani. Yr oedd y tywydd ar y cyfan yn ddymunol. Y pregethau yn rhagorol, y darpar- iadau yn drefnus ac uwchlaw y cwbl, arwyddion dymunol o bresennoldeb yr Arglwydd.-J. Lewis.
CYMMANFA GYMREIG GOGLEDD LLOEGR.
CYMMANFA GYMREIG GOGLEDD LLOEGR. Cynhaliwyd y Gymmanfa hon eleni yn Stockton- on-Tees, Dyddiau Sul a Llun y Sulgwyn. Y mae sefydliad y Gymmanfa Gymreig wedi bod yn dde- chreuad cyfnod newydd yn hanes y Cymry, ynghy la chrefydd y Cymry yn y wlad hon. Mae cael cyfar- fod a'n gilydd unwaith yn y flwyddyn i addoli Duw ein Tadau yn y wlad well hon yn foddion i ail enyn dawn Duw ynom. Hon oedd y seithfed Gymmanfa Gymreig yn Ngogledd Lloegr. Dechreuwyd ar waith y Gymmanfa nos Sadwrn brwy gynnal cynhadledd. Dechreuwyd y cyfarfod brwy weddi gan Mr B. Evans, Walker. Yna dewis- wyd y Parch J. H. Hughes, Newent, Gloucestershire, i'r gadair. Wedi cael ychydig o helynt y gwahanol eglwysi, jenderfynwyd,— 1. Fod y Gymmanfa nesaf i gael ei chynnal yn Walker ar Dyne. 2. Fod y Gymmanfa hon yn cydymdeimlo a'r gwahanol achosion gweinion sydd yn y wlad yma. :1 3. Fod y Gymmanfa yn awyddus am i bob enwad srefyddol yn y wlad i uno i gynnal Cymmanfa Gym- -eig; gan obeithio, trwy hyny, y bydd y weinidog- ieth 711 fwy effeithiol i gyrhaedd yr amcan—Gogon- + y arfxl -vr a lies rneidiau anfarwol. Boreu y Sabboth, am 7 o'r gloch, cynnaliwyd cyf- arfod gweddi. Am 10, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Bowen, Stockton (W.) a phregethodd y Parchn J. Davies, Witton Park, a J. H. Hughes, Newent. Am 2, dechreuwyd gan Mr D. Hughes, Five-house, (T.C.) a phregethodd y Parchn. Jones, Auckland (W.) ac E. Price, Branch-end. Am 6, dechreuwyd gan Mr T. Thomas, Middlesboro', a phregethodd y Parchn I. James, Walker, a J. H. Hughes, Newent. Am 7 o'r gloch boreu dydd Llun, cawsom Gynnad- ledd er trefnu pethau arianol. Etholwyd y Parch I. James, Walker i'r gadair, wedi i Mr J. John Witton ddechreu y cyfarfod trwy weddi. Am 10 yr un dydd, dechreuwyd trwy weddi gan y Parch J. Davies, Witton Park, a phregethodd y Parchn T. Jones, gynt o Middlesc-oro', a J. H. Hughes, New- ent. Am 2, dechreuwyd trwy weddi gan Mr O. Evans, Five-house, a phregethodd y Parchn T. J. Jones, (T.C.) Witton Park, ac O. G. Owens, (W.) o'r un lie. Am 6, dechreuwyd gan Mr O. G. Owens, a phregelhodd y Parchn I. James, Walker, a J. H. Hughes, Newent. Yr oedd pobl Stockton wedi dod allan y tro hwn mewn caredigrwydd yn deilwn o genedl y Cymry, ac hefyd yn deilwng o'r grefydd ogoneddus a bro- ffesir genym.—Canmoladwyiawn. Gallasemfeddwl fod pob un o honynt yn ddedwydd yn ei weithred.' Yr oedd y gwrandawiad yn astud a difrifol, a'r weinidogaeth fel 'gwlaw ar wellt a gwlith ar irwellt.' Boed bendith yr Arglwydd ar ei air, er cael cnwd tor ithLg ar y maes yn y dyfodol. Boed felly yw dymuniad hiraethlon-Gwyliwr o Walia.
LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.
LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD. Gwthiwyd fi allan yn lan o'r TYST yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd genyf finnau air i'w ddyweyd am SASSIWN LERPWL, ond tra y bum i yn ymdroi gwelaf rhyw Hen Wyl- iwT, wedi gwylio ei gyfle i redeg o'm blaen. Cofied ef mai myfi a bia cofnodi pob peth fel hyn am y dref hon yn y TYST, a chofiwch chwithau Barchus Olygwyr hyny hefyd. Os na ofelwch chwi am gadw fy nghap i yn gymwys, mae papurau eraill i'w cael, a chaiff ysgrifenydd doniol fel myfi groesaw yn mhob un o honynt; a 'does dim trust na chodai bapur newydd fy hun, ac os gwnaf, hwnw a'ch teifl chwi oil i'r cysgod. Ond maddeuaf i chwi a'r 'Hen Wyliwr' y waith hon, yn enwedig gan i chwi roddi hanes mor dda o'r Seiat fawr. CYFARFOD MAWE JOHN BRIGHT sydd wedi tyiiu sylw pawb yma. Dyna y siarad rhwng pob dau. Taflodd hyd yn nod y Sassiwn o'r golwg am y tro. Rhoddwyd adroddiad ardderchog yn y TYST di- weddaf a gaf finnau roddi fy impressions o fy stand point inau. Mae gan bob dyn ei ffordd i ddyweyd ei stori. Pali o gyfarfod oedd y cyfarfod yn yr Am- phitheatre. Glorious success,' meddai pawb. Codiad anrhydeddus i'r Cymry, a chyfle noble i roddi cy- hoeddusrwydd i'r Cyngrair Cymreig. Gwna les 'does dim dad], ac yr oedd yn werth yr holl draul, a'r llafur, ac nid ychydig fu hyny pe na buasai dim ond cael John Bright am unwaith i blith y Cymry. Am Bright yr oedd y disgwyliad mawr. Efe oedd haul y cyfarfod, ond y mae H. Richard, Mor- gan Lloyd, Osborne Morgan, ac R. G. Williams wedi rhoddi boddlonrwydd mawr i bawb. Dyma foneddigion y gellir edrych arnynt fel cynnrychiol- wyr Cymru yn y dyfodol. Cymry cynhes eu calonau a hollol ryddfrydig yn eu golygiadau. Siaradwr ardderchog ydyw Richard—cystal a Bright bob tipyn yn marn llawer. Am yr hen Hiraethog nid rhaid iddo ef wrth ganmoliaeth; yr oedd rhai o'r Saeson yn aflonydd pan ddechreuodd lefaru, ond ni bu y dorf fawr o dro cyn mynu tawelwch i'r hen wron. Creadur balch, liunanol, yw y Sais hefyd. Ni welais hyny mor eglur erioed ag yn y cyfarfod hwn. Er mai cyfarfod y Cymry ydoedd o'r braidd na fynasai y Sais gau y Cymro o'i gyfarfod ei hun. Cafwyd araeth ragorol gan ein cyd-drefwr Mr John Roberts, Hope Street. Ni Tphasiodd neb o'r dechreu i'r diwedd yn fwy cymmeradwy. Araeth fer, glir, gynhwysfawr, a'i thraddodiad yn hyglyw i'r holl dorf, ac yn eu cario gyda hi. Mae Mr Roberts yn un o'n gwyr ieuanc mwyaf addawus. Os ymrodda ati o dclifrif fel yr wyf yn credu y gwna gall ddyfod yn allu yn y dref; mae son eisioes am ei gael i'r Town Council, a chyn pen deng mlynedd fyned i'r Senedd dros ryw gwr o Gymru. Mae ganddo lawer iawn o fanteision i ddyfod yn mlaen. Mae ei gys- sylltiadau, ei amgylchiadau, a'i grefydd yn ei ffafr. Nid oes dim yn eisiau ond dyfal-bara. Yr oedd yn dda genyf ei weled mor glir ei olygiadau ar gwesti- ynau mawr y dydd. Llwyddiant iddo. Yr oedd y cyfarfod cyhoeddus yn bob peth a allesid ddymuno. Ni phasiodd dim erioed yn well. Wedi y fath wledd_ dda-ateithiol 'does bossibl nad yw pob un oedd yno yn barod" at waith bellach. Bendith ar ben pobl Lerpwl am roddi y fath treat i'w cydwladwyr. Yr wyf yn disgwyl rhywbeth pwysig oddiwrth Y GYNHADLEDD DDIWYGTADOL. Y pwnc-mawr yn y diwedd ydyw pa ddaioni par- haol wnaed ? Beth gynlluniwyd yno sydd yn debyg o wella cynnrychiolaeth Cymru ? Mae arnaf ofn yn fy nghalon i'r cwbl syrthio i'r gwellt. Byddai yn resyn i'r fath gyfarfod fyned heibio heb fod rhyw- beth yn cael ei wneud ar ei ol, fel y gellid edrych arno yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes hen Walia. Yr oedd yn y gynhadledd ddigon o allu gwyr lleyg a gwyr lien ond ei gyssylltu a pheiriant priodol i gynhyrfu y Dywysogaeth. Ni chafwyd y fath gyfle yn yr oes yma. A ddarfu ti, ddarllenydd, sylwi pwy oedd yno P Cymmer y gwyr lien i ddech- reu. Dyna Dr W. Rees a Dr Edwards.—Dau leader y ddau enwad cryfaf yn Nghymru. Yr oedd yn ddrwg genyf nad oedd yr Jhybarch Dr Pritchard, Llangollen, yno. Hen gyfaill calon pob diwygiad. Gwelais yno y Parchedigion O. Thomas, J. Thomas, Roger Edwards, J. Hughes, N. Stephens, Dr Emlyn Jones, W. Ambrose Porthmadog, H. E. Thomas, S. R. Dolgellau, R. Lumley, T. Gee (nis gwn pa un ai gyda'r lay neu'r clergy y gosodaf, gall fod gyda phob un o honynt, a gwna gymmaint ag un dau), D Rowlands, M.A., E. Evans Caernarvon, H. Rees Caer, Josiah Thomas, M.A., W. Roberts, G. Parry Llanrwst, a llawer eraill nas gallaf yn awr gofio eu henwau. Beth allai sefyll yn ffordd y cewri y-n-a, ond iddynt ddechreu gweithio, gyda chydweithrediad y llu mawr o leygwyr oedd yno o bob enwad. Chwilied y darllenydd am y TYST diweddaf a dar- llened y rhestr; ac er nad oes ynddi ond enwau nifer fechan o'r rhai oedd yno, eto fe wel fod yno ddigon fel y gellir disgwyl os oeddynt oil o ddifrif y daw rhywbeth gwerth ei gael o'r Gynhadledd. Lied anmharod oedd pawb yn ymddangos yno. Nid wyf am funyd yn beio pwyllgor Lerpwl am na buasai yno well trefniadau yn mlaen llaw. Yr wyf yn deall mai eu penderfyniad ydoedd gadael i'r Gyn- hadledd drefnu ei hun. Ond dylasai fod yno well dealldwriaeth. Er engraifft, ni wyddai y Cadeirydd hyd y funyd y galwyd arno mai efe a elwid i gynt meryd y gadair; ac hyd y deallais i ni wyddai net arall. Mae Mr Charles Hughes yn foneddwr hyll, aws, ao yn gyfaill brwdfrydig i Reform, ond os oedd i gymmeryd y gadair dylasai wybod yn mlaen llaw, a gwybod beth oedd y llinell oedd y rhai a alwodd y Gynhadledd yn fwriadu gymmeryd. Buasai Cyn' hadledd rydd i bawb ddyweyd y peth oedd ar ei feddwl yn burion pe buasid wedi trefnu ail gynhad- ledd i wneud y gwaith yn iawn, ond gan nad oedd ond rhyw ddwy awr am dani dylasai y rhai hynl gael eu cynilo yn y ffordd oreu. Ond nid teg ych' waith i mi feio dim ar bobl a wnaeth gymmaint, nil gwn am neb a wnaethai gystal ag y gwnaethant hwy. Siaradodd yno ddau frawd tanllyd, sef Simon Jones o'r Bala, a John Roberts o Bangor, yn danllyd iawn dros y Ballot. Wel, nid oes dim dadl nad 1 Ballot fyddai yn iachawdwriaeth wladol i Gymrtf ond pa ddyben siarad am beth na cheir eleni beth bynag. Ni cheir y Ballot heb gael Senedd llawer mwy rhyddfrydig na'r un sydd genym, ac ni cheir Senedd felly heb i'r siroedd. anfon gwell cyn- nrychiolwyr i'r Ty. Rhaid i ni wneud nid y peth 9 ddymunem ond y peth a allwn; ac fe ellir hyd yn oed dan yr arngylchiadau anfanteisiol y mae y wlad yndcli sicrhau gwell cynnrychiolaeth na'r un sydd ond cymmeryd mewn llaw y mesurau priodol. Nid oeddwn erioed wedi meddwl, a digon prin yr ydwyf eto wedi credu bod githwyr sir Gaernarfon yB gymaint o slafiaid ag ymynai John Roberts Bangol eu dangos. Beth ddywedodd o ? fod 3,000 o ddynioB dan yr un meistr, onide ? yn gweithio am bymthej swllt yr wythnos, a pha fodd y gallesid disgwyl i'r rhai hyny fod yn ddigon annibynol i bleidleisio yB groes i ewyllys y meistr gwaith. Tebygol mai at chwarelwyr Arglwydd .Penrhyn y cyfeiriai. Yr oeddwn inau bob amser wedi meddwl fod y chwarel- wyr y bobl fwyaf annibynol yn y wlad. Mae Lord Penrhyn yn llawn mor ddibynol arnynt hwy ag ydynt hwy ar Lord Penrhyn, ac y mae y Lord yn gwybod hyny. Ae nid pymtheg swllt yn yr wythnos yw eu cyflogau a'u cymmeryd at eu gilydd, na dim byd yn debyg. Os ydyw eu cyflwr y peth y darluniwyd hwy gan y brawd o Bradford House, goreu pa gyntaf y ffurfil cymdeithas i'w rhyddhau. Mae caethion pob gwlad wedi eu rhyddhau ond caethion Chwareli sir Gaer- narfon. Tebyg mai dyma y gwaith nesaf i ddyn- garwyr ymaflyd ynddo, ond nid ydym yn credu en bod mor isel ag y darluniwyd hwy. Pa ddyben i ddyn godi i fynu mewn cyfarfod yn unig i greU sensation trwy liwio pethau yn gryfach nag y maent mewn gwirionedd. Mae yn sir Gael-narfon heddytf ddigon o bobl annibynol i gario y sir i RyddfrydwT er gwaethaf holl feistri tir, a pherchenogion gweith- feydd y wlad ond iddynt uno a'u gilydd. Codi ys- pryd ac nid tori calon y bobl sydd eisiau. Galwed rhyw un nifer o brif Ryddfrydwyr sir Gaernarfon at eu gilydd, a phenderfyner ar y dyn priodol i sefyll am y sir yn yr etholiad nesaf. Gwneler yr un petb yn sir Feirionydd, a'r un peth yn sir Ddinbycb am y sir a'r bwrdeisdrefi. Ennill pedair eisteddle oddiar y Toriaid yn Ngogledd Cymru yn yt etholiad nesaf a fyddai yn rhywbeth gwerth son am dano. Gadawer sir Fon, a sir Fflint, a sit Drefaldwyn yn llonydd am y waith hon, a gos- oder holl allu y Rhyddfrydwyr ar waith i ddwyn siroedd Arfon, Meirion, a Dinbych, o grafangau y Toriaid. Ar ryw beth pendant fel yna y mae yB rhaid sefydlu ac wedi sefydlu arno penderfynu nil orphwysir nes ei gyrhaedd. Os na wneir rhywbetb fel .yna bydd yr holl dwrw a'r siarad yn waetb nag ofer; ac edrycha ein gwrthwynebwyr ar eio cyfarfodydd a'n cynhadleddau fel chwareu plant. Yr oedd Mr Richard a Mr Gee ac eraill fel practical men y Gynhadledd am wneud rhywbeth heblatf siarad. Yr wyf yn gweled fod I LIVERPOOL A'I CIIYNNITYCHIOLWYR ? yn barod. Glyna y Toriaid o bossibl wrth Meistri Horsfall a Graves er fofl rhyw sibrwd fod Mr Graves yn rhy ryddfrydig ganddynt. Daufoneddwr a satf yn uchel yn y dref ar gyfrif eu cymmeriad personol yw Horsfall a Graves ond nid pwnc o gymmeriad personol ydyw, ond pwnc o olygiadau gwleidyddoli ac nid y dynion goreu yn bersonol a gynnrychiolll oreu bob amser ein galygiadau gwladyddol. Mae Rhyddfrydwyr y dref wedi disgyn ar Mr WilliaB1 Rathbone a Mr Vemon Haycourt. Mr Robertson Gladstone a enwyd gyntaf gyda Mr Rathbone ond y mae ef yn gwrthod sefyll, ac y mae yn gwneud ylI gall iawn. Dyn galluog iawn yw Robertson Glad- stone, rhyddfrydwr trwyadl; ond-nid ydyw yn bob- logaidd yn y dref; ac y mae hyny o anfantais gall amryw o'r rhyddfrydwyr blaenaf yma nad ydyn1 yn ddynion a hoffir gan y lluaws. Mae teuln J Rathbones yn barchus iawn. Nid oes dim dadl tnJ feddyliwn am ddychweliad Mr Rathbone. DJJ: dyeithr yma yw Mr Haycourt; ac er y dywedir el fod yn alluog iawn mae ei ddyeithrwch yn rhwym 0 fod yn anfantais iddo. Rhyw local man, a hwnw yC Ship Owner, pe buasai fodd ei gael, a gymmerasal oreu yn Liverpool. Ond nija ymladdwn yn deg drol y ddau, ond yr ydym yn sicr o un. Mae yma ETHOLIAD YN EXCHANGE WARD i'r cynghor trefol. Mr J. J. Stitt yw yr ymgeisydd rhyddfrydig, ac y mae yn ddigon rhyddfrydig 8t bob mater. Nid rhyw lawer o bwys sydd i'r dref f* y rhan fwyaf .To engreifftiau pa un ai Rhyddfrydwyr ai Ceidwadwyr fyddo yr ymgeisyddion. Er eu bod yn ddwy blaid yn gyffredin, eto nid y rhyddfrydwy1 mewn proffes yw y rhai mwyaf rhyddfrydig yn ell mesurau bob amser. Bu Mr Stitt yn y cynghor o'< blaen dros Everton. Mae yn foneddwr galluog 4 yn siaradwr hyawdl. Mae yn ddiacon yn Eglwy8 Annibynol Norwood Grove yn y dref hon. cwynit gan rai ei fod yn uchelfrydig.; a gwnaeth ei hun J* anmhoblogaidd wrth bleidleisio ar y fainc dros gar iatau trwyddedau i dafarnwyr bron heb ddim atalfit, Anhawdd dyweyd eto pa fodd y try yr etholiad. Hysbyswyd yr wythnos ddiweddaf am laniad Y PARCH. D. PRICE. Pregethodd yma dair gwaith y Sabbath diweddaf yn Great Mersey Street y bore, yn Park Road 1 prydnawn, ac yn Grove Street yn yr hwyr. Mae pregethu yn union fel .cynt, ond ei fod yn wanad1, Yr un ffraethineb, a bywiogrwydd, a thlysni, ono nad oes ganddo y nerth i dywallt llifeiriant fel 1 byddai er's talm. Bydd yn dda gan filoedd ei wele" a'i glywed, ond rhaid iddo gymmeryd gofal rh9 gweithio yn rhy galed, ac i'w gyfeillion beidio yhOI gormod ar ei natur dda. Nos Lun, Mehefin 8, traddododd Ddarlith yn 1
Advertising
OXTON & Co. 's SEWING MACHINES, for DRESSMAKERS & TAILORS, with stand, ^5 5s OXTON'S REPAIRING MACHINES, for REPAIRING OLD BOOTS, £ io ios. complete. WILLCOX & GIBBS—NOISELESS FAMILY SEWING MACHINE from £ 8. It is the simplest; least liable to get out of order best made rims the stillest runs the easiest; runs the fastest; requires the least mechanical skill to use it has the best hem- mers and feller has no equal. OXTON & CO., 122, BOLD STREET, LIVERPOOL, Importers and Exporters of ALL KINDS OF SEWING MACHINES, NEEDLES, SPRINGS, THREADS, TO SUIT ALL MACHINES. MACHINES REPAIRED. AGENTS WANTED. (53
AT Y CYHOEDD.
AT Y CYHOEDD. DDARLLENWYR CRAFFTJS,—"Wele hanes rhyfeddol a theilwng, am Y PKOEEESWR JOSEPH THOMAS, (Joseplms Eryn), 33, CLARENCE STREET, MOUNT PLEASANT, LIVERPOOL. (Pro fessor of tl,,e Remedial Power of the Electric Fluid Mcdical Magnetism, and Galvanism, and Practical Phrenology), yn meddyginiaethu, trwy y Fywydol Elf en, wedi i bawb a phob peth fethu, yr hwn sydd er's blynyddoedd meithion ger bron y cyhoedd fel meddyg, a'r gwelliadau hynod a wnaeth wedi peri syndod i Gymry, Saeson, a lluaws o'r Cyfandir. Sylwer ar y llythyr awn sydd fel y canlyn:- Aethum at Proffeswr Thomas tan effeithiau anwyd trwm ar fy nglun. Yr oedd yn anesmwyth a phoenus angerddol am amser maith, nes yr oedd fy nghyfan- sodcliad drwyddo yn gwanhau. Gwnaethum brawf ar bob moddion i'w dadgloi, ac i liniaru y boen, cyn dyfod ato, megis ymdrochi yn y nior, mewn ffjmhonau, ac mewn bathau, &c., ond y cwbl yn hollol ofer. Nid oedd y nos yn dymhor gorphwys'i mi, na'r dydd yn adeg o lawenydd, gan mor fawr fy mhoen. Cefais ef yn hollol ddifost-Ctywec-lai fel dyn gonest y cymmerai dipyn o amser, fel ag yr oedd wedi cyhoeddi ugeiniau o weithiau fod pob hen anhwylder yn gofyn llawer o wythnosau o brawf, pan na bydd y rhai na fu cynddrwg a chyhyd yn yn gofyn cymmaint. Sicrhai y gwnai ei oreu i mi, a gwelais ei fod yn ddyn i'w air. Gwellhaoddfi yn hollol. Effeithiodd nid yn unig ar fy nglun, ond ar fy holl gyf- ansoddiad. Symraudodd boenau echryslon iawn, trwy foddion tyner iawn. Sylwer mai nid a'r peirianau y mae yn gwoithredu bob amser, fel y cyffredin, ond def- nyddia natur ei hun, sef yr elfen wefrol fywydol, er fod ganddo y peirianau goreu a ddyfeisiwyd erioed, pa rai a all gymhwyso at lygad plentyn, yn gystal ag at y cyf- ansodcliad mwyaf cawrfilaidd. Yn sier fe ddylai ei gymhwysderau gael eu cydnabod yn gyhoeddus. Gwir nad yw yn fyr o lythyrau can- moliaeth,"—buoni yn darllen canoedd o honynt, oddiwrth bersonau pwysfawr a geirwir, wedi derbyn gwelliadau hynod, rhai o honynt yn ail iwyrthiau, ac y mae croesaw i unrhyw mrgael eu gweled (gan eubod yn llaAver rhy luosog i'w cjdioeddi), a gwneud yr ym- chwiliad manylaf yn eu cylch. Y mae Proiieswr Thomas yn deall natur, ac yn medrn gwneud y defnydd goreu o honi. Y mae yn nodedig o fedrus, fel y mae canoedd yn dystion. Y mae yn myned ar gynydd yn barhaus. Trwy brofiad a myfyr- dod, y mao wedi cael amrai bethau newyddion allan yn ddiweddar, sydd yn sicr o fod yn wasanaethgar iawn. Dymunaf y llwycldiant mwyaf iddo i symmud ymaith wahanol boenau y ddynoliaeth. Sylwer, a dealler, y geill pawb weled fy enw i a ewyllysient, ond ymofyn gyda Proffeswr Thomas, a chael llwyr foddlondeb o barth gweled digonedd o dystiolaethau, ac em;, pob un yn gyflawn ac eglur, a'r cyfeiriad yn berffaith amlwg a didwyll. Mae nifer mawr o hysbysiadau y naill amser ar ol y llall yn y cyhoeddiadau er's llawer o flynyddoedd yn cynwys rhestr helaeth iawn o enwau rhai yn sicrhau gyda thystiolaethau, eu bod wedi cael eu meddyginiaethu trwy Ddymgyrchiad y corff dynol y wir Fywydol Elfen ganddo ef, er na Iwyddodd neb arall i wneud dim lies iddynt. Geill yr ymofynydd hefyd weled enwau nifer luosog iawn o bob dosparth o bobl, uchel ac isel radd, y rhai a lachaodd efe; y cyfryw o herwydd llawer o ystyriaethau, a phethau rhesymol gwir deilwng, ac esgusodol, a chwennychant fel fy hnn, yn hytrach i'r cleiflon ac eraill weled eu henwau gyda Proffeswr Thomas ei hun, nag yn gyhoeddus. Dymunwyf iddo bob llwyddiant i iachau y cleifion. GOHEBYDD." (Gwelsom enw y 'Gohebydd' ac enwan llawer- oedd eraill. Gallwn yn hawdd ddeall fod personau yn teimlo anfoddlonrwydd i gyhoeddi eu henwau trwy y Wasg, eto nid yw y iLcirhiau yn llai gwir.— Fn o'r GolygwyrJ.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. YMWELIAD DIWEDDAR MR. BRIGHT A LIVERPOOL. Yr ydym yn llawen-gyfarch holl aelodau Cymdeithas Ddiwygiadol Gymreig Liverpool. Nis gall eu gwrthwynebwyr lai nag addef fod y cyfarfod mawr yn yr Amthitheatre yn success hollol. Uniawn y dywedai Mr Bright, fod yr hyn y mae y Cymry wedi ei wneud mewn ystyr grefyddol yn warantiad y gallant wneud pethau mawrion mewn ystyr wleidyddol. Yr oedd pob peth ynglyn a chyfarfod mawr yr Amphi- theatre yn arwyddocau fod y Cymry yn Liver- pool wedi dechreu o ddifrif ar eu gwaith fel gwladyddion. Gallasai yneb sydd yn gyfar- wydd a chyfarfodydd gwladyddol mawrion ddeall fod llawer o barotoadau wedi eu gwneud cyn nos Fercher. Bu rhywrai, yn ddiau, yn llafurio mewn amser, ac allan o amser; ond yr oedd y success yn ddigon, a mwy na digon, o dal am eu holl bryder, a'u llafur, a'u trafferth. Gwelsom lawer o gyfarfodydd gwladyddol yn Liverpool, a threfi mawrion Lloegr; ond yr oedd y cyfarfod hwn yn tra rhagori arnynt mewn dau beth o leiaf-unoliae-th barn, a gwedd daclus y gwyddfodolion. Mae clod diderfyn yn ddyledus i swyddogion y Gymdeithas Gymreig; oblegid hwy Iwyddodd gyntaf i gadw allan af- lonyddwyr o Gyfarfod Gwladyddol yn Liver- pool. Ni welsom erioed o'r blaen mewn cyfar- fod gwladyddol gynnifer o weithwyr mor barchus eu hymddangosiad. Y mae yn dda genym fod hyn wedi cael sylw y newyddiaduron Seisonig; ie, newyddiaduron Seisonig Toryaidd. Mae y Gymdeithas, bellach, wedi cael eithaf cychwyn. Y peth nesaf. ydyw gweithio- gweithio yn unol ac egniol. Yn y rhifyn di- weddaf o'r Porcupine-newyddiaclur o dalent a gyhoeddir yn Liverpool i feirniadu pawb a phobpeth yn ddidrugaredd-yn y rhifyn di- weddaf o'r newyddiadur uchod, telir gwarog- aeth uchel i'r Cymry, ac i'r Gymdeithas Ddi- wygiadol Gymreig. Mae Porcupine yn cym- haru y Cymry a'r Saeson ar y Sulgwyn diweddaf —y Cymry yn treulio eu gwyliau mewn cyfar- fodydd crefyddol a gwladyddol, a'r Saeson yn y wakes a'r tafarndai. Mae Mr. Porcupine yn tynu ei hat i'r hen genedl, ac yr ydym ninnau yn dy- muno dychwelyd ein moesgyfarchiad. Marwaidd ac aflwyddiannus y mae Diwygwyr Liverpool—Diwygwyr Seisonig Liverpool—wedi bod er's blynyddoedd. Gobeithir y bydd iddynt gyfranogi o'r sel Gymreig a amlygwyd yr wythnos ddiweddaf. Mae o bwys i'r Cymry a'r Saeson gydweithredu, heb hyny nis gallant gyrhaedd eu hamcanion. Nid yw y Gymdeithas Gymreig yn chwenychu bod yn ben, ond y niSg I yn rby liosog, yn rhy ddylanwadol, ac yn rhy I annibynol i fod yn gynffon i'r Gymdeithas Ddi-I wygiadol Seisonig yn y dref. Mae y Gym- deithas Gymreig yn Liverpool yn awyddus i -yc gydweithredu a chymdeithasau cyffelyb yn y Dywysogaeth, ac yn barod i ystyried unrhyw awgrymiadau a wneir gan gyfeillion rhyddid a diwygiad yn Nghymru. ARGOELION RHYFEL YN EWROP. Mae newyddiaduron y cyfandir yn darogan fod rhyfel mawr ac ofnadwy ar y cyfandir, megis wrth y drws. Nid oes neb yn ddigon doeth i ddyfalu yr achos. Yn unig hysbysir ni mai Ffrainc sydd i ymosod, ac mai Prwsia yw y gelyn, ac y dechreuir ymladd yn mhen rhyw ddeufis eto, ar ol i Napoleon ddiogelu y benthyg y mae yn awr yn ofyn, ac ar ol i ddinasyddion Paris a phobl Ffrainc fwynhau pleserau priodol y tymor yma o'r fiwyddyn. YR HEN SENEDD A Iit SENEDD NEWYDD. Yn araf, araf, y mae y gwaith yn myned yn y blaen yn Nhy y Cyffredin, a chan fod llawer o waith eto i'w wneud, nis gellir disgvvyl goll- yngiad buan. Yn ol yr argoelion presenol, prin y gellir gobeithio y bydd i'r Senedd newydd ymgyfarfod cyn y Nadolig. Mae Mr Disraeli a'i Doriaidd frodyr yn penderfynu glynu wrth eu swyddau cyhyd ag y gallant. Y CYHIJDDIAD YN ERBYN MR. EYRE, DIWEDDAR LYWODRAETHWR JAMAICA. Gwrthododd y Grand Jury ddwyn true bill yn erbyn Mr Eyre. Dyna y diwedd wedi yr holl draul a'r drafferth i gael y dyn hwn i brawf teg am ei oruchwyliaeth ryfedd yn Jamaica. Yn Llys y Frenhines, dydd Llun diweddaf, gwnaeth yr Arglwydd Brif Ynad Cockburn gyf- eiriadau at y cyngaws a ddygasid yn mlaen yn ddiweddar yn erbyn Mr Eyre, a dywedai ei fod ef yn anghytuno a'r syniadau a ddatganwyd gan Mr Ynad Blackburn. Barnai swyddog uwchaf Llys y Frenhines fod seiliau digonol i brofi y cyhuddiad.