Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

20 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD CHWARTEROL YR ANNIBYNWYR…

Y CYFARFOD DIWYGIADOL YN LIVERPOOL.

BLAENAU FFESTINIOG,

MANION 0 FYNWY.

MARCHNADOEDD YR WYTRNOS.

MASNACH MARCIINADOETfD CYMREIG.

EJHYD-XBONT.

BLAENBLODAU, NEW INT.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gwnaeth yr ardrefnwyr adroddiad maith gan erfyn ar i'r ty orfodi Mr Charles Woolley i roddi ei dystiolaeth. Difyna yr adroddiad yma hefyd dyst- iolaeth Thurlow Weed, yr hon a addefai fod y Sen- eddwyr wedi cael eu tueddu i bleidleisio dros rydd- had trwy lwgrwobr. Caed allan y brad yma trwy gymmeryd meddiant o holl hysbysiadau pellebrol y Western Union a Swyddfa Washington. Gwneid hawliad pellach, ond gwrthwynebid ef gan y pwyll- gor. Ymddistoyddiad Mr Stanton.—Rhoddodd Mr Stan- ton ei swydd i fyny fel Ysgrifenydd Rhyfel ar y 26ain o'r mis diweddaf, a chyflwynodd hi i ofal y Cadfridog Townsend, ac mewn llythyr ffurfiol gwnaeth y peth yn adnabyddus i'r Arlywydd, ac wrth arwyddo y llythyr dynoda ei htm, Ygrifenycll Rhyfel.' Yn ddiweddarach yn y dydd, ymgymmer- odd y Cadfridog Thomas a'r swydd oddiar y Cad- fridog Townsend. Is-Lyivydd yr Uiiol -Dalaetliati.-Ymgyfarfu cyfeill- ion Mr Charles Francis Adams, cyn-weinidog America yn llys Lloegr, yn New York, y 23ain o'r mis diweddaf, er cefnogi ei bennodiad ef fel y person cymhwysaf i'r is-lywyddiaeth. Yr oedd y cyfarfod yn un o'r rhai mwyaf brwdfrydig. Y Rhyfel Abyssiniaidd. Cafodd Syr Stafford Northcote, y telegram canlynol oddiwrth y Prif- gadfridog yn Abyssinia :— Suez, Mehefin 6. 'Nudul Wells, Mai 30.—Yr wyf yn gobeithio gallu cario yr adran olaf o'r milwyr yn ddiogel trwy dramwyfa Sooroo, a chyrhaedd i Zoulla ar y laf o Fehefin. Ffarweliais a Kassa yn Senafe ddoe. Byddai yn well peidio anfon llythyrglud neillduol i Abyssinia eto. Byddwch cystal a hysbysu awdur- dodau y llythyrdy am y symmudiadau. Anfoner fy llythyrau personol i, a llythyrau fy swydd, i Suez.' Daeth y newydd canlynol gyda telegraph Malta ac Alexandria:— Suez, Mehefin 6. Y mae deg o swyddogion, a 154 o fibvyr y 3rd Dragoons wedi cyrhaedd yma o Abyssinia, ac ant ymaith ar fwrdd y Crocodile. Arosodd y Consul Cameron yn Annesley, oherwydd afiechyd. Cynhadledd Heddweh Cydgenedlaetlwl. Y mae y gynhadledd hon yn ei heis-teddiad yr wythnos di- weddaf yn Berne, wedi penderfynu ar fesurau grymus tuag at ledaenu egwyddorion heddwch rhwng gwahanol wledydd. Llwgrwobrivyo er rhyddhau yr Arly wydd Johnson.- Yn union ar ryddhad yr Arlywydd, mynodd yr ar- drefnwyr dros y ty, fynu dal Mr Woolley o Cincin- mo nati, goruchwyliwr Democrataidd, a thyst ar y prawf, ar y cyhuddiad o lwgrwobrwyo Seneddwyr i bleidleisio dros ryddhad, ac am gydgastro ag ysgrif- enydd yr Arlywydd. Gwrthododd Mr Woolley dystiolaethu, ac erys yn ngharchar. Taith y Tywysog Napoleo)i.-Y mae y Tywysog hwn wedi cyrhaedd i Vienna ar ei ffordd i Constan- tinople, a bwriada newid ei gynllun o deithio trwy aros yn y ddinas hon wythnos yn mhellach. Ca ei groesawu yn gyhoeddus.

ABERYSTWYTH.

CAERFYRDDIN.

Advertising

PORT TENNANT, ABERTAWY.i

YSTALYFERA.

BRYSTE.

WYDDFAI.

ROE WEN.

Family Notices

ABERSYOHAN.

LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.