Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR 0 AMERICA.

T-DIRWESTWYR A ll ETIIOLIADAU.…

Y PARCH. W. D. WILLIAMS, DEER…

GWEITHWYR SIR GAERNARFON YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWEITHWYR SIR GAERNARFON YN SLAFIAID! Mri. Gol.,—Ymdclangosodd ysgrif o nodwedd ol- ygyddol yn eich papyr am y 18eg cyfisol yn dwyn y teitl o Liverpool a'r Cylchoedd,' o'r hyn lleiaf nid oes un enw wrthi, ac ynddi y mae'r ysgrifenydd yn gwneud defnydd o fy enw i ac yn camddar- lunio dywediadau o'r eiddof yn y conference yn Hope Hall, Liverpool, y 10 cyfisol. Dywed fel hyn, Nid oeddwn erioed wedi meddwl, a digon prin yr ydwyf eto yn credu fod gweithwyr sir Gaernarfon yn gymmaint o slafiaxd ag y mynai John Roberts Bangor eu :dallgos. Beth a ddywedodcl 0 r fod 3000 o ddynion dan yr un meistr onide ? yn gweithio am bymtheg swllt yr wythnos, a, pha fodd y gallesic1 9 disgwyl i'r rhai hyny fod yn ddigon annibynol i bleidleisio yn groes i ewyllys y meistr gwaith.' Nid oes yr un gair o wirionecld yn y dyfyniad yna, ac y mae ym syn genyf fod yr un dyn wedi gwneud cyrri- maint o gamddefiiydd o'i lygaid neu o'u glustiau. Dywedyd a ddarfu i mi fod yn hawdd i bobl fel ag oedd yno siarad am anfon boneddigion i lys y public opinion, neu i lys barn i'w cospi am fygythiad, &c., pan nad oedd y fath beth a bygythiad mewn bod ond yn unig gofyn yn garedig am eu pleidlais, (gwel y North Wales Chronicle gan yr hwn neAvyddiadur yr oedd reporter o Gymro ag oedd yn gallu deall y peth a ddywedais.) Gyda golwg ar y registro, gofynais pa beth a wnaem ni yn sir Gaernarfon gan fod yma o drichant i 3000 o bobl, llawer o ba rai nad oeddynt yn derbyn dros bymtheg i ddeunatv swllt yn yr wyth- nos, a rhai yn meddu 4 neu 6 o blant a gwraig- i'w cynhal, ac o dan y Reform Bill newydd ychwanegid cannoedd o'r cyfryw ar y eofrestiad, a phan y deuai y stiwart neu y meistr atynt i ofyn yn garedig am eu vote, pa beth a wnaent;- Dywedais a dywedaf eto mai rhoddi eu votes a wnant i'r cyfryw heb amddiff- yniad; ac mai'r nllig amddiffyniad i'r cyfryw oedd y Ballot, a'r Ballot yn ullig: Syhver, ni soniais air am y chwarelwyr ni ehyf- eiriais oil at Arglwydd Penrhyn na'i chwarelAvyr; cofier fod dynion eraill yn cyflogi cannoedd o bobl yn sir Gaernarfon, ie un arall yn ymyl Bangor yn cadw dros dair mil o weithwyr heblaw Arghvydd Penrhyn a phaham y rhaid i ddynion dieithr gym- meryd ei enw ef P a'i ddynion ef ? a dywedyd fod hwn a'r llall yn eyfeirio ato ef pan y dywedaut eu meddyliau ar achosion fel hyn. Ni ddywedais i erioed mai pymtheg swllt yn yr wythnos y mae y ohwarehvyr yn ei g-ael o gyfiog, sef y 3000, gwn beth arall am lawer o honynt, ond nid yr oil. A oedd unrhyw ddyn yn meddwl fod gan y chwarelwyr oil wraig a 4 neu 6 o blant 'i am i mi ddywedyd y deuai cannoedd o'r cyfryw amgylch- iadau ar y rhestr o dan y reform newydd nes gwneud fod yn y Bwrdeisdrefi dclau yn erbyn am bob un o blaid y Rhyddfrydwyr trwy ddylanwad y stiAvard- iaid a'r meistriaid, &c. Cofied yr ysgrifenydd hwn am fod yn ofalus beth a ysgrifena fel dywediadau personau l'hag y bydd galw arno i bron ei eiriau mewn llys heblaw Ilys y wasg a'r cyhoedd. Yr wyf yn dymuno hysbysu y g'wr hwn a'r cyhoedd nad oeddwn yn eyfeirio at Arglwydd Penrhyn na'i chwar- ch': yr pan y dywedai" am bobi yn eaol pymtheg swllt i ddemaw yn yr wythnos a ddeuai ar y rhestr new- ydd yn Mwrdeisdreii Arfon, canys gwyddwn ar y pryd na ddeuai chwarelwyr Arglwydd Penrhyn ar y cyfryw gan nad ydynt yn byw mewn Bwrdeisdref. Ac os oes rhyw un yn aninheu fy haeriad deued i Fangor a dangosaf iddo bersonau yn derbyn nid 15s na deimaw swllt yn yr wythnos, ond 12s a 13s, ie gannoedd o honynt a ddeuant ar y rhestr lwb foel yn chwarelwyr, eto ydynt yn dibynu ar y cyflog hwnw, neu eu tai, neu eu galwedigaethau, ar bersonau ag y bydd i gannoedd o honynt ymostwng i'w rhoddi iddynt yn ol eu cais er fod eu barn yn erbyn, am yr ystyrient fod bara eu plant mewn perygl. Os gwnaed felly gan rai mwy annibynol ? ai nid teg yw casglu y gwna y cyfryw a nodais eu cyffelyb ? Os oedd gair y stiwardiaid yn Llanberis yn dylan- wadu mor fawr ar Ffermwyr y Vaynol a'i gweith- wyr yn amser y cais i gael Railway o Bangor i Llanberis, yn lie o Gaernarfon yno, nes gwneud i amaethwyr oedd wedi bod yn gadeirwyr ac yn siar- adwyr o blaid y cyfryw droi yn ei erbyn, ie Diacon- iaid Eglwysig areithio yn erbyn yr hyn a gefnogas- ant yn gyhoeddus gynt, ie er gwybod mai yr un o Bangor fuasai yr oreu iddynt hwy a'r ardaloedd. Eto ardystiodd yk',bobl hyn au ]law yn erbyn Railway Bangor ac o blaid Caernarfon. Pa reswm oedd dros hyny? ond fod stiwardiaid chwarel Mr Smith yn gofyn hyny, yn nghyda stiwardiaid eraill yr estate. Pa ham y dygir enw Arghvydd Penrhyn a'i chwarel- wyr ef fel engraifftiau o ormeswr, a bodau gormes- edig ? Y gwir am Arglwydd Penrhyn yw hyn, mai efe yw un o'r boneddigion mwyaf haelionus ac an- rhydeddusaf a fedd Cymru ac mai ei chwarehvyr ef yw y dosparth mwyaf annibynol o holl chwarel- wyr sir Gaernarfon; profasant hyny nes mynu eu hawliau dan arweiniad Mr Robert Parry, &c. Na cyfeirio yr oeddAvn i at drigolion y trefydd yn Arfon, cannoedd o ba rai sydd yn gweithio am gyflogau bychain, ac fel 3000 o weithwyr cyfeirio yr oeddwn at weithwyr ac amaethwyr Llanddeiniolen, &c., pa rai a wnant unrhyw beth er plesio eu stiwardiaid a'u meistriaid, hyd yn oed myned yn orymdeithiau i Gaernarfon fel special constables' i gefnogi Toriaid a gormeswyr, ac a gauent eu llygaid a'u genaudros eu Ileshad tymhorol a chym'dogaethol os cais y stiw- ardiaid ganddynt hyny. Yr wyf yn hysbysu paAA^b a fynaut wybod nad oedd genyf gyfeiriad oil at Arglwydd Penrhyn, na'i chwarelwyr annibynol; felly, er mwyn tegweh a mi, ei arglwyddiaeth, a'r chwarelwyr, gadawer i mi le i'm hamddiffyniad. Yr wyf yn barod i brofi pob peth a ddywedais yn Hope Hall os bydd eisiau. Yr eiddoeh, &c., Bangor. JOHN ROBEETS.

CYMRY LIVERPOOL.

LLYTHYRAU CYMRAES YN NGHANAAN.

LLITH 0 GRUGIAU EDRYD.