Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

COLEGDY NEWYDD ABERHONDDU.

I COLEG NEWYDD YR ANNIBYNWYR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I COLEG NEWYDD YR ANNIBYNWYR YN ABERHONDDU. .I Llw-yddwyd i gael clernyn yn nhwr tref Aber- honddu, ac ar un o'r llanerchau tlysaf o fewn Cym- ru. Gosodwyd y gareg sylfaen tua blwyddyn yn ol. Aethum i fyny i Aberhonudu ddeufls yn ol; ac os addefaf y gwirionedd syml i ti, ddarllenydd, pan ddaethum gyntaf i olwg yr adeilad, prin y gallwn ddwyn fy hun i goelio fy llygaid. Rywsut, drwy fod cymmaint o siarad, ac o groes-ddadleu, a chroes- esbonio, ac o annibendod, ac o ditty-dallying wedi bod, a thros gyhyd o amser yn nghylch y gwrthddrych, er fy mod, pan tua Gwlad y Gorllewin, wedi darllen gydag awch adroddiad o'r grand ceremony, a'r great flourish of trumpets ar aclilysur sylfaeniad y Colegdy newydd—rywsut, yn fy myw y gallwn berswadio fy hun nad breuddwycl oedd y cyfan—chwedl, myth, castell yn yr awyr. Neu, os oeddid wedi gosod careg sylfaen o gwbl, mai rhy brin y gwelai neb o bobl yr oes hon yr adeilad wedi ei orphen; ac os gwelem ef, mai rhyw frit' o beth a fyddai yn y diwedd! Ao yr wyf yn bur sicr fy mod yn hyn yn union o'r un deimlad a miloedd ereill. A dyna yn union y rheswm oedd genyf, fel yr awgrymais yn y dechreu, o fynii photog)-aph i'w gerflo o'r adeilad yn union fel yr oedd y diwrnod hwnw. Pe bawn yn myned i'r drafferth o geisio rhoddi dis- grifiad o'r adeilad, prin y llwyddid i gario argy- hoeddiad i feddyliau llawer. Ond meddwn 'wrthyf fy hun, mi af at y photographer i gael pictiwr o hono, o blegid fe goeliant yr haul. Ddywed ef ddim celwydd. Ond fel yr awgrymais, prin yr oedd yr archgynllun- ydd yn hollol foddlawn i gyhoeddi darlun o hono felly, heb hanner wisgo am dano, heb gael cot am ei gefn, coler a napkin am ei wddf, a het am ei ben. Dyna i ti, gan hyny, ddarllenydd, ddarlun o hono fel y bydd pan wedi ei gwblhau. Ond y pwngc mawr nesaf ydyw TALU AM DANO. Costia, rhwng y tir, a phob peth, tua deng mil o bunnau. Ychydig gyda phedair mil sydd wedi clyfod i law hyd yma; ac o hyny, fil o bunnau wedi eu derbyn oddi wrth Mr Samuel Morley. Mewn pwyllgor a gynnaliwyd yn Nghastell Nedd, yn Mawi-th y flwyddyn o'r blaen, rhanwyrd y swm angenrheidiol, hyn a hyn ar gyfer pob sir; ac o hyny, rhyw CHWL-I CHANT 0 BUNNAU ydyw y cyfan a ofynir ac a ddisgwylir o chwe sir y Gogledd. Dim ond chwe chant o bunnau! Ond nid oes o hyny etto ond deg punt ar hugain a phedwar swllt ar bymtheg a thair ceiniog wedi ei dderbyn hyd yma gan y trysorydd. Ond mewn sobrwydd, gobeithio y tarawir ati o ddifrif, a'u casglu bob ceiniog goch o hyn i ddiwedd y flwyclclyn yma, fel caffer hwn bellach, oddiar y ffordd i fyned at ryw- beth arall. Y mae yn bryd, rhag cywilydd, cael terfyn ar hwn, sydd wedi bod fel drychiolaeth yn swneyd ei ymddangosiad yn mhob cymmanfa a Jhwrdd chwarter ers chwe blynecld. Gadewch i ni šael ei roddi i lawr yn ystod y misoedd nesaf, i gael lonydd ganddo; a chyn y daw yr ail argraffiad o'r 'lyfr y cyfeiriai ein hen gyfaill, Simon Jones ato, mide, yn ddigon sicr, i 'ddosbarth y g-\vaed oer' y ■hoi'r ni o'r Gogledd yma, ac yno yr haeddem gael ayned. 'Da chwi' ebai'r trysorydd pan yn anfon attebion ychydig gwestiynau a ofynaswn iddo YNGHYLCII SEFYLLFA Y DRYSORP, 'Da chwi,' meddai, 'rhorltJwch dipin o • yn y yfeillion i gael y casgliarlait i law morftjan l'th "g I byddo modd.' Y stir goreu o gwbl fy<" -o n rma rhyw h-nn' )rffi,-yrau. Cyst yr ad-ilad. 1 y crybwyllw^c wyth mil a dau cant a hanner. Anfonais i ofyn :— 1. Pa faint sydd wedi ei dalu eisoes i'r contractorsP Ateb, Tair mil, a chant a hanner. 2. A oes instalment yn bresenol yn ddyledus P Oes, o fewn wythnos neu naw diwrnod, instalment o tua saith cant o bunnau. 3. A oee rhywfaint mewn llaw, a pha faint ? Ateb. Tuag wyth cant a hanner; ond bydd y deed of conveyance am y tir yn barod o hyn i ben y py- thefnos. Can punt dalwyd i lawr o bris y tir, ond bydd yr wyth cant a hanner gweddill i'w talu y pryd hwnw, a dim ar eu cyfer heb law cant a hanner. A'r apel mwyaf effeithiol a fedraf wneud, ydyw cyflwyno y ffigyra-Liyna i sylw difrifolaf y neb y perthyn iddynt.'

Y DIWEDDAR DR. VAUGHAN.

CLICYDDIAETH.

[No title]