Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

EFEXGYLWYR TEITHIOL CYIRU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EFEXGYLWYR TEITHIOL CYIRU. RICHARD JONES, LLWYNGWRIL. Dyma enw sydd mor adnabyddus drwy holl Gymru ag ydoedd enw Samuel y proffwyd felly yn Israel o Dan i Beerseba. Ni wybuasai ond ychydig fod lie o'r enw Llwyngwril yn y byd oni buasai cyhoeddusrwydd enw Richard Jones. Pentref bychan ydoedd ar lan y mor yn nghy- ffiniau deheuol Sir Feirionycld, cynnwysedig o deios tlodion a llwydaidd, ynghyd a thri o addol- dai ymneillduol heb fod nemawr well yr olwg srnynt na hwythau. Ceid: yno hefyd felin a phandy, a gefail gof, dau neu dri o weithdai cryddion, a siop a tliafarn fechan, a'r cwbl yn deilwng o'r pentref. Un o'r pethau mwyaf neillduol efallai a dynai sylw ymdeithydd y pryd hwnw a elai drwyddo ar ei hynt, fyddai haner dwsin o ferched yn nrysau eu tai yn plethu gwellt gwenith i wneuthur hetiau o hono. Ond beth bynag am waelecld ymddangosiadol pen- tref Llwyngwril yn yr hen amser gynt, safai y pentref hwnw ar lanerchyn tirion ac iachus, o'r hwn y canfyddid golygfeydd am ugeiniau o filldiroedd o gylch, yn enwedig oddiar y bryn tu ol iddo. Ar ddiwrnod clir yn yr haf gwelid draw, draw, Ynys Enlli,—ardaloedd Lleyn ac Eifionydd,-cymydogaethau Porthmadoc, Har- lech a Dyffryn Ardudwy, ac Abermaw a'i chreig- iau serth. Ac erbyn hyn y mae cyfnewidiadau mawrion wecli cymcvyd lie yn amgylchiadau Llwyngwril,—yn awr y mae y rheilffordd yn t, rhedeg trwyddo;—yno y gwelir ei Station, y clywir ei chwibanogl a'i chloch, a'i swyddog yn bloeddio—Llwyngwril, Llwyngwril, Llwyn- gwril! ac ambell Sais, druan, yn estyn ei ben allan o'r cerbyd gan lygadrythu at y gair mawr Llwyngwril, yr hwn nis gwyr pa fodd i'w seinio yn briodol, na pha beth yw ei ystyr, oddieithr i ryw Gymro ei gyfarwyddo. Erbyn hyn y mae yno dai newyddion prydferth a lluosog, ac addoldai wedi eu hadnewyddu, fel y mae y lie yn ymddangos yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd gynt. Mewn ffarmdy o'r enw Tydu, yn ymyl y pen- tref uchod y ganwyd ac y magwyd Richard Jones. Enw ei rieni oeddynt John a Gaynor William, y rhai oeddynt mewn amgylchiadau bydol lied gysurus fel amaethwyr cyffredin, Ychydig o fanteision dysgeidiaeth oedd y pryd hwnw yn y gymydogaeth na'r wlad oddiam- gylch; ond cafodd Richard gyfranogi o'r man- teision oedd o fewn ei gyrhaedd o'r fath ag oeddynt, a'r cwbl a ddysgodd oedd darllen yr iaith Gymraeg: am rifo ac ysgrifenu ni fedrodd fawr ar hyny drwy ei oes, yr hyn a fu yn golled ddirfawr iddo. Amlygai er yn fachgen fod ganddo feddwl cryf a bywiog, ond nid cymaint oedd ei awydd i ymaflyd mewn unrhyw alwedigaeth ag a ddy- lasai fod; a phan yr ymaflai mewn rhyw orch- wyl, yr oedd ei ddull anneheuig yn ei gyflawni yn destyn chwerthiniad gan y rhai a'i gwelent, fel y gorphwysai ei achos yn drwm ar feddwl ei rieni. Dywedai ei dad mewn gofid a soriant,- 'Ni wn i yn y byd beth i wneud o Die yma; a wyddost ti, Gaynor? 'Rwy'n meddwl y byddai yn well i ni ei roi yn grydd gyda Wil ei frawd, hwyrach y daw o yn grydd go lew.' At William yr aeth, ac yno y bu yn ceisio trin y gwrychyn a'r mynawyd; ondyr oedd yn fwy aflerw yn hyny drachefn na neb, fel yr oedd yn ddifyrwch gan segurwyr i gyrchu i siop Wil Sion i edrych ar Die yn gweithio. Modd bynag, glynodd yn y grefft hon am amser maith, nes myned o'r diwedd yn feistr ei hunan. Cymerodd ei dad dy iddo yn y pentref. A chan fod Richard yn hoff o' fyned yn hwyr i gysgu gan ei awydd i ddarllen, ac o aros yn lied hir yn ei orweddfa y boreu, llwyddodd gyda'i dad i gael gwely yn nghwr ei weithdy, fel y caffai fwynhau ei gwsg gyda mwy o lonyddwch a thangnefedd nag a gawsai yn nhy ei rieni. Yn ei gaban ei hun y rhan amlaf y bwyttai ei luniaeth; ac yno y gwel- id yn y naill gwr gelfi a defnyddiau y grydd- iaeth, ac yn y cwr arall tua'r aelwyd y gwelid y ford, yr hon a ddaliai y dorth a'r ymenyn, a hen lyfrau, gyda chymysgedd o lwch nid ychydig. Dilynodd ei alwedigaeth am rai blynyddau, gan deithio i ffeiriau a marchnadoedd a gynhelid mewn amryw o'r trefydd cyfagos; ond yr oedd ei waith yn ddiarhebol o loael. Clywais wraig yn crybwyll ei bod hi yn cofio Richard Jones o Lwyngwril yn clyfod a phar o esgidiau newydd- ion iddi pan oedd yn eneth, ac i'w thad ei han- fon y boreu hwnw gyda rhywrai i gyrchu y ceffylau o'r ffridd fel y cychwynai y teulu i sasiwn y Bala. Hi aeth ar redeg yn yr esgidiau newyddion trwy y gwlith, ac erbyn iddi ddy- :chwelyd i'r ty, yr oedd ei thraed wedi myned trwyddynt! Gellir ychwanegu un engraifft eto o'i anneheudra a'i aflerweh. Pan oedd efe gyda'r Melisia, dygwyddodd i'r milwyr newyddion ddyfod i'w gymydogaeth i dderbyli hyffordcl- iant i drin en harfau, ac i ymarfer a'r hyn a berthynai i'w swydd, yn enwedig i drin y (Jryll; gosodent fare i annelu ato am y goreu, ac wele, daeth tro Richard Jones i gynyg. Crynai drwy- ddo wrth barottoi ei ddryll, a chynhygiai ollwng yr ergyd, ond methai gan ofn. Er nad oedd ar y rhai oedd yn agos iddo fawr lai nag arswyd am eu heinioes, eto nis gallent ymattal rhag chwerthin am ei ben. O'r diwedd, gollyngodd yr ergyd al'an, ac i ba le yr aeth ond i'r ddaear ychydig latheni oddiwrtho! Dro arall, rhoes dclefnydd uwj ergyd ar unwaith yn ei offeryn, ac wrth ollwng hyny allan, gwrthdarawyd ef gan ei ddryll nes oedd ofe yn ymestyn ar wastacl ci gefn—ac yn ei fawr ddychryn efe a waeddai yn groch—'Na na'n widdionedd i, thaetha i ergyd byth ond hyny-na na'n widdionedd i.' Mae'r amgylchiad hwn hefyd yn dangos mai nid ceisio bod yn anhylaw yr ydoedd. Mae'n gyf- iawnder a'r oes iddi gael gwybod am ryw gy- maint o ddiffygion y sawl a gofientir cyn gystal ag am eu rhinweddau; felly hefyd nid hawdd yw rhoddi darluniad teg o'r brawd Richard In Jones, heb wneud felly ag yntau. Nid oes genym hysbysrwydd helaeth am ei ymgyflwyniad yn aelod eglwysig, ond ym- ddengys mai gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yr ymunodd gyntaf yn moreuddydd ei oes, ac iddo dreulio amrai flynyddoedd gyda hwynt. Yr oedd ei frawd William hefyd yn aelod gyda'r cyfryw enwad. Aeth eu mam i'r gyfeillach grefyddol gyda hwynt; a beth a ddygwyddodd fod yno y tro hwnw ond rhyw bregethwr yn trin cyflwr William, ac yn ei holi yn lied drwm; ac ar ddiwedd yr ymdriniad, dywedai y gwr fod eisiau ei 'ail bobi' ef. Tramgwyddodd yr hen fam YIl ddirfawr yn wyneb hyny, a dywedai mewn soriant wrth yr athraw, ei bod hi wedi pobi digon ar Wil; ac felly hi ganodd yn iach iddynt, ac ni ddaeth yno byth mwyach, ond gwerthfawrogodd ei chyfleusderau i fyned i'r man lie y trinid cyflyrau dynion yn ysgafnach. Ymadawodd Richard Jones a'r Trefnyddion tua'r flwyddyn 1804. Beth fu'r achlysur pen- nodol o hyn nis gwyddom gydag eithaf mynyl- wch. Dywed yr oedranus a'r hybarch Mr Lewis Morris, yr hwn a fagwyd yn yr un gymydog- aeth acef, fel hyn:—'Nid oes genyf i'w ddweyd am Richard Jones amgen na da, hyd y gwelais i. Bu gyda'r Trefnyddion amryw flyiiyddau,- pa faint nis gwn. Gwnaeth ei frawd William, yr hwn hefyd oedd yn aelod gyda ni, rywbeth ag oedd yn galw am gerydd eglwysig; ac yn hytrach nag ymostwng dan y cerydd, efe a ym- adawodd a ni; ac yn yr amser hwnw, ymadaw- odd Richard hefyd, ond yn gwbl ddigerydd a didramgwydd.' Yn ei ymadawiad a'r Trefnyddion, erfyniai ar y Parch. Hugh Pugh, o'r Brithdir, ddyfod i bregethu i Lwyngwril, a'r hyn y cydsyniodd y gwr enwog hwnw; ac yn ddioed ymunodd Richard Jones a phump neu chwech ereill yn eglwys. Dyma ddechreuad yr achos Annibyn- ol yn y parth hwn o'r wlad. Nis gallwn ym- helaethu ar hyn o bryd ar helyntion a chynydd yr achos hwn gwedi hyny. Canfyddwyd fod Richard Jones yn feddianol ar wybodaeth a doniau helaethach na'i gyfeill- ion, ac oblegyd hyny, annogwyd ef i esbonio yr ysgrythyrau, a chynghori yn y cyfarfodydd gweddio. Arferodd ei ddoniau felly am lawer o flynyddoedd gyda chymeradwyaeth a defnydd- ioldeb mawr. Yr oedd yn dra nodedig yn nghryfder ei gof, cyflymdra a threiddgarwch ei ddeall, a helaethrwydd ei wybodaeth grefyddol, yr hyn a gyrhaeddodd trwy ei ddiwydrwydd mewn darllen, myfyrio, ymresymu, a holi. Yr oedd son am gof Die Tydu trwy yr ardaloedd, a hyny yn mhell cyn bod son am dano fel pre- gethwr. Dywedai yr hen Robert Roberts, Tyddyn y felin, Llanuwchllyn, mewn ymddydd- an a rhai o'i gymydogion ynghylch pregethwyr mawr,—'Pe ceid tri pheth i ymgyfarfod yn yr un dyn, sef gwybodaeth Thomas Davies, Dol- gellau, cof Die Tydu, a thafod William, Cwm- heisiau, byddai hwnw yn sicr o fod y pregethwr mwyaf yn y byd, a byddai bron yn fwy na dyn.' Ni byddai raid i'r gwrandawr anghofus ond rhedeg i'r gweithdy at Die Sion na chai hyd i'r bregeth a'i chynhwysiad yn y fan; ac yr oedd mor hyddysg yn yr Ysgrythyrau fel yr ystyrid ef fel concordance yr ardal. Y fath oedd ei sych- ed am wybodaeth dduwinyddol fel yr oedd yn hynod o ddarllengar. Arhosai ar ei draed yn hwyr i ddarllen, ac ni ofalai pa bryd yr elai i'w wely, a dweyd y gwir i gyd, ni ofalai ychwaith pa bryd y cyfodai o hono. Rhai o'i brif awdwyr oeddynt Doddridge (Dodrieth, fel y dywedai yn- tau), a Watts. Darllenai lawer ar 'Ddechreuad a chynydd crefydd yr enaid,' Gurnal ar 'y Crist- ion mewn cyflawn arfogaeth.' Crybwyllai yn fynych ddrychfeddyliau yr hen Gurnal wrth ymdrin a phrofladitu y saint mewn cyfeillachau eglwysig. 'Galwad difrifol' Roberts o Lan- brynmair oedd un o'i brif lyfrau. Mae'r olygfa a gafodd yr ysgrifenydd arno newydd i'r llyfr hwnw ddyfod o'r wasg, yn ymrithio y munud hwn i'w feddwl. Dyma fo yn ei hen arffedog ledr, a'r llyfr glas yn ei law, a'r bibell yn ei enau, ac a'i fys bach yn chwalu y lludw o honi yn gawod am ben y cwbl, a'i weithdy yn mygu fel odyn. 'Dyma fo'n widdionedd i,' eb efe, gan wenu o fodd ei galon uwchben y pwnc yn y llyfr glas, 'mae o'n deyd yn ddaaflawan, ydi'n widd- ionedd ina: mi dyffeia nhw byth i ateb hwn.' Yr oedd Henry mewn bri mawr ganddo (yn Gymraeg, cofiwch) ac yr oedd gryn feddwl gan- ddo o Esboniad Phillips ar y Testament Newydd, er yr achwynai yn dost arno weithiau, am na buasai yr hen ddoctor wedi bod yn fanylch ar rai pethau. Mae gan yr hen Phil ethboniad ar ambell adnod,' ebe fe, 'gwell na chan neb a welais i erioed.' Yr oedd yn ddarllenwr cyson ar y Dysgedydd hefyd er ei ddechreuad, yn en- wedig pan fyddai dadl ar droed; a pharhaodd felly hyd ddiwedd ei oes. (I'w barhau.J

BETH WELAIS I YN LLUNDAIN.

CWYN ZACHARIAH TRIAGL YN ERBYN…

PLAS MARL, GER ABERTAWY.