Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EFEXGYLWYR TEITHIOL CYMRU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EFEXGYLWYR TEITHIOL CYMRU. RICHARD JONES, LLWYNGWRIL. ke (Parhad o'r rhifyn diweddaf.) Un hynod oedd Richard Jones am gadw cyf- eillachau eglwysig hefycl. Ni cheid ei well i ddyddanu y gwan eu meddwl, ac i fagu ei gyf- ddyddanu y gwan eu meddwl, ac i fagu ei gyf- eillion mewn athrawiaeth, a'u- meithrin mewn mewn profiad ysgrythyrol. Yr oedd chwaer hynaf yr ysgrifenydd yn un o'r rhai hyn. Dywed fel h3-n, Ni chlywais neb gwell mewn society erioed na Jiichard J ones. Burn yn cerdded, sef o'r Bwlchgwyn i Lwyngwril i'r society, gan- oedd o weithiau. Fe allai mai haner dwsin a fyddai wedi ymgasglu yn nghyd; ond byddai yr hen sant mor wresog ac mor nefolaidd fel y byddwn yn myned adref dan ganu, wedi cael eithaf tal am fy siwrnai.' Llawer a allem ei fynegu am dano yn hyn, ond nid ymhelaethwn yma oddieithr dweyd ei fod yn bur hynod weith- iau yn ei weddiau yn y cyfryw gyfarfodydd. Ambell waith efe a grybwyllai am rai o'r cyf- eillion wrth eu henwau yn ei weddi, mewn rhyw amgylchiadau neillduol. Uu tro pan oedd gwr o'r enw Morgan Morris naill a'i newydd ddyfod i'r gyfeillach eglwysig, neu ynte pan oedd yn cael ei dderbyn yn gyflawn aelod, yr oedd yr hen frawd mewn hwyl ragorol yn niwedd y cyfarfod wrth. weddio dros y frawdoliaeth feehan; ac yn mhlith yr amryw fendithion a ddeisyfai gan yr Arglwydd, dywedai—' Yngiafal —yngiafal a'r pethau hyn y b'om ni, a Modd- gian gyda ni.' Dychymyged y rhai sydd ad- nabyddus a hwyl Richard Jones, pa fodd y lleis- iai efe yr ymadrodd, a Moddgian gyda ni,' yn enwedig pan oedd efe mewn teimladau dwys- ion trosto ef. Ni ddywedai hyn yn fyr ac yn sychlyd, ond efe a chwyddai ei lais, ac a roddai sain effeithiol iddo—'a Moddgian gyda ni.' Mae eilswn yn nghlustiau rhai o'i hen gyfeillion hyd heddyw, yn enwedig wrth ddarllen yr ad- tn gofion hyn -am dano. Ar ol arfer ei ddoniau am dymor maith yn y cylch hwn, o'r diwedd tua'r flwyddyn 1822, annogwyd ef i bregethu. Dywedid mai yr C, Ivy achos iddynt ei gadw mor faith cyn ei annog ef i hyn oedd eu bod yn ofni y collent ei gymdeith- as a'i wasanaethgarwch i raddau mawr yn eu plith fel brawdoliaeth fechan; ac ni buont yn hir cyn cael profiad o hyny. Nid oedd ar ei gychwyniad fel pregethwr ond canolig iawn mewn cydmariaeth i'r peth y daeth yn mhen ychydig fiynyddoedd wedi hyny, yn enwedig yn ei ddull yn trin ei faterion: ond derbyniai gyngor yn garedig gan bawb a'i rhoddai. Pan oedd yn dechreu dweyd ychydig dan y pulpud, dywedai rhyw wraig wrth ei chymydogion wrth fyned adref o'r addoldy, 'Wel, y mae hi wedi darfod ar Die yn lan, rhaid iddo ymroi ati, neu ei rhoi i fynu.' Pan fynegwyd hyn iddo, aeth fel saeth i'w galon, a dywedodd, 'Wei, yn widd- iaiedd i, os yw Neli William Sion yn deud felly tiui danaf, y mae wedi myn'd yn wan ofnadwy arnaf.' Ond yn hytrach na ffyrnigo wrthi, a < £ igaloni, efe a ymroddodd a'i holl egni i ddi- ivygio a chynyddu. Arol myned yn bregethwr cyhoeddus, arferai ambell air neu frawcldeg gymysgedig o Gymraeg a Saesoneg, ac weithiau air Saesoneg pur, pan ar yr un pryd na wyddai beth oedd eu hystyr. Wrth son am brofedig- aeth Daniel yn cael ei daflu i ffau y llewod am ei ddiysgogrwydd yn ei grefydd, efe a ddarlun- iai y llewod yn ei gyfarfod dan ei foesgyfarch ef fel hyn—'How cli clib, thyr; a hen lew arall yn deyd wrtho gan estyn ei bawan, How di dw, how ch did, Printh o Wetth ?' Dywedodd yr ys- grifenydd wrtho wrth fyned adref o'r capel, Richard Jones, rhaid i chwi ofalu am iaith well wrth bregethu onide chwi ewch yn wrthrych sport i'r rhai a garant ddal ar feiau pregethwyr.' 'Wel,:beth yw'I"mater.' Mater yn wir, dy wed- asoch fad un o'r llewod yn galw Daniel yn Prince of Wales. A wyddoch chwi beth yw hyny, Richard Jones ?' Wel, beth yw o dwad.' 8 Tywysog Cymru ydyw ystyr yr enw; ac ni bu Daniel erioed yn Dywysog Cymru.' Taw iachgian, a,i dyna ydi o ?' Ie, yn siwr.' Wei, Viel,' ebe yntau ni thonia i byth ond hyny am ei enw.' Derbyniodd y sylw yn garedig. Hawdd fyddai ganddo weithiau wrth ymdrin a rhyw bwnc o ddadl, grybwyll syniadau hen awdwyr enwog, gan ddywedyd, I Wel hyn y mae Doctodd Dodrieth yn golygu, ac wel hyn y mae Doctodd Owen yn deyd, ac y mae Henddy yn deyd wel hyn, a Doctodd Watts yr un fath; ond wel yma yr wyf fi'n deyd.' Mecldylicl y gwnaethai gam a'i fraich gan mor angerddol y byddai yn dwGycl-I ond wel yma yr wyf fi'n deyd.' Dywedodd tad yr ysgrifenydd wrtho ryw &-o-Richard, y mae eich dull yn son am farn awdwyr, a'ch barn eich hun, yn ymddangos yn lied hunanol. Beth ydych chwi o ddyn wrth Henry, Doddridge, Owen, a Watts, dynion mawrion mewn dysg a gwybodaeth ? Pan son- ioch fod eich barn chwi yn wahanol i'r eiddynt hwy, dywedwch hyny bob amser yn fwy gos- tyngedig.' Derbyniodd y cyngor mewn siriol- deb, a diwygiodd yn y peth hwnw, er y glynai rhyw gymaint o'i weddillion wrtho drwy ei oes, oblegyd arferai ddweyd wrth grybwyll ei farn ar ambell bwnc—' 'Wy i yn ffyddaeo a nhw yn y fan yma,—'wy i yn ffyddaeo a'r gwyr da ar y pwnc yma.' Ond daeth yn mlaen o radd i radd nes y cyrhaeddodd enwognvydd mawr ac ystyr- ied ei anfanteision. Bellach ni a'i dilynwn ef am ychydig fel PRE- GETHWR TEITHIOL. Cyn cychwyn i'w daith, efe a ofalai yn eithaf prydlawn am bob angen- rheidiau iddi, Astudiai a chyfansoddai nifer digonol o bregethau, gan eu trysori yn dda yn t, z;1 ei gof mawr, ac yn gyffredin traddodai hwynt yn gyntaf tua chartref. Gofalai am wisg addas erbyn diwrnod y cychwyn, yr hon ni pharhaai ond dros ychydig yn ei harddweh. Ar y dydd pennodol, dacw ef yn cychwyn i'w ffordd, a'i got fawr dan ei gesail, a'i ffon yn ei law, a chan sythed a phe buasai wedi bod yn sawdwr am ugain mlynedd, ac mor heinif ar ei clroed a llanc. Nid oedd ganddo na gwraig na phlant i ysbio yn hiraethlon ar ei ol, nac un achos bydol i'w gyflwyno i ofal neb. Ni chyhuddid ef un amser o fod yn hwyr yn dyfod at ei gyhoeddiad. Ar ol cael tamaid o luniaeth, eisteddai yn nghongl yr aelwyd gyda'r fath sirioldeb a bodd- lonrwydd meddwl fel pe na wybuasai am ddim gofid yn ei oes, oddieithr efallai y buasai wedi bod yn rhedeg y diwrnod hwnw am ei fywyd rhag ryw fuwch neu eidion gan dybied mai tarw ydoedd. Mynai gael sicrwydd am yr amser y cyhoeddid fod y moddion i ddechreu; a phan y deuai'r amser i gychwyn, dyna ef ar ei draed, ac ymaith ag ef. Aroswch, Richard Jones, ar- oswch dipyn eto, eisteddwch, y mae'n ddigon buan; ni ddaw yno ddim pobol yr hawg eto.' 'Dyma fi yn myn'd,' ebe yntau, I dewch chi amther a fynoehchi, dechreu 'naf fi yn yr amther.' Ofer fyddai ceisio ei berswadio i aros wrth un- dyn-ffwrdd ag ef yn ddiymdroi. Ar ol myned i'r addoldy, eisteddai ronyn bach i gael ei anadl, canys yr oedd yn wr tew a chorphol. Codai ei olwg ar yr areithfa, ac os dygwyddai fod hono yn lied uchel, dywedai, 'Wfft iddyn' nhw yn gwneyd pwlpudau wel hyn! Mae dynion yn gwiddioni wrth wneyd capeli. Daf fi ddim yna,—mae fy mhen i yn troi mewn pwlpudau uchel. Tyr'd fachgian, ceisia y blocyn yna i mi dan fy nhraed.' 'Dyna fo, Richard Jones.' Yna efe a safai arno, a'r Beibl o'i flaen ar y bwrdd. Darllenai ryw Salm neu bennod, gan ei hesponio wrth fyned yn mlaen. DarHenwr go anghelfydd ydoedd, fel y gwelid bechgyn ieuainc weithiau yn cilwenu ar eu gilydd wrth glywed ei seiniau: gwyddai ef hyn yn dda, a bu yn brofedigaeth iddo ambell dro, megis pan y dygwyddodd iddo ddarllen y rhan olaf yn y bedwaredd adnod ar hugain yn Matt, xii., fel hyn, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond trwy Beelthab, penaeth y cythreuliaid,' efe a ddeallodd fod rhai yn y gynnulleidfa yn gwawd-wenu. Aeth yn mlaen drachefn hyd at y 27 adnod, pan welai ei hun yn y brofedigaeth eto; dechreuodd ei darllen dan ryw led-bysychu —'Ac oth trwy—ac oth trwy— Yna lled- besychai fel pe buasai am gael ei beirianan llafar yn eithaf clir i seinio y gair nesaf yn ddigon croyw a nerthol, bob llythyren o hono, a chyn- hygiai drachefn,—' Ac oth trwy Beelthab'— gwenai y bobl y tro hwn yn fwy nag o'r blaen. Dwy i,' ebe efe, ddim yn hidio llawedd am enwi y gwr yna.' Yna elai yn mlaen yn galon- og. Ond os nad oedd yn gampus am ddarllen, edryched pawb ati pan elai i esponio; a buan yr anghofid ei ffaeleddau fel darllenwr. Os na ddigwyddai fod y canwr yno, hwyliai ef y mesur ei hunan; yna ar ol y mawl—' Yrwan,' ebe efe, ni awn ychydig at Wrandawr gweddi.' Gwedd- iai yn ddifrifol, cynnwysfawr, gwresog, ac yn fyr-eiriog. Byddai ganddo ryw fater neillduol bob amser ynddi, a byddai yn hynod yn ei sylw o ryw amgylchiadau pwysicach na chyffredin yn ngoruchwyliaethau Duw at y byd a'r eglwys. Hysbysai a darllenai ei destyn, gan ddangos ei gysylltiadau a'i egluro i'r gynnulleidfa. Yr oedd yn gampus am hyn. Crybwyllai y mater- ion a gynhwysid ynddo mewn modd eglur, di- rodres, a naturiol iawn. Ei raniadau ar ei destyn oeddynt yn gyffredin yn dlysion a tharawiadol. Yr oedd ganddo ddull priodol iddo ei hun yn yr oil a wnelai, ac ni bu erioed yn amcanu at ddyn- warediad o neb mewn dim. Wrth ddibenu ei bregeth, dywedai, gan symud y Bibl a'i ddodi ar y fainc o'r tu ol iddo, Yrwan, ni nawn ychydig gathgliadau,' y rhai bob amser a fydd- ent yn naturiol ac i bwrpas. Edryched y canwr ato ei hun, oherwydd gyda'i fod yn dweyd y gair olaf yn ei bregeth, dyma'r pennill allan yn brysur a disaid- Mi redais tua'r fflamia 'Doedd neb yn mron o'm mlaen; Rhyfeddu grath 'rwyf heddyw Na buathwn yn y tan,' &c. Ar ol diweddu y cwbl o'r gwasanaeth trwy weddi, edrychai am ei hot a'i ffon, ae wedi byr ymgyfarch ag ychydig gyfeillion, hwyliai tua'i letty. Os dygwyddai y noson hono fod yn dywyll, ni syflai gam heb ryw arweinydd gonest a gofalus i'w dywys yno. Yn rhywle ar ol myned trwy ryw goedwig fechan, dywedai ei arweinydd wrtho, Dyma ni yrwan, Richard Jones, yn ymyl y bont bren hono, os ydych yn ei chofio. Mae'n siwr ei bod yn lied dywyll heno, ond mi gymeraf ddigon o ofal am danoch chwi, gwnaf yn wir; ymaflaf yn eich braich, ac ni awn trosto yn araf bach, ae yn ddyogel.' 'Naddo i yn widdioneddi ddim dros dy bompren di heno.' 'Dewch, dewch, Richard Jones, mi gymeraf fi ddigon o ofal efo chwi, mi wn i am bob modfedd o honi, ac mi gewch chwithau gymeryd eich amser: yrwan, Richard Jones.' 'Gollwng fymyddaich, fachgian, gollwng fi, mi af fi ffordd arall.' Dyn a'n cato ni, mae gryn filldir o gwmpas i fyn'd y ffordd hono, 'rwy'u siwr y munud yma. A fedrweh chwi ddim ymddiried cymaint a hyn yn ngofal Rhag- luniaeth, i groesi rhyw afon fach fel hon Taw a chadw thwn, mae Rhagluniaeth wedi rhoddi peth wel hyn i'n gofal ni ein-hunaiii; tyr'd oddiyma yn y f Lu-i-Lid, ni awn ffordd arall, gwell gen i fyn'd ddwy filldir o gwmpath na thori fy ethgym mown rhyw le ofnadwy fel yna.' Yna o dosturi at ei ofnusrwydd, arwein- iodd ei gyfaill ef yn ddyogel i'w letty. (III) barhau.J

CYFARFOD CHWARTEROL YR ANNIBYNWYR…

ETHOLIAD BRISTOL.

[No title]

BETH AM Y RHIFYN DIWEDDAF?