Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EFEXGYLWYR TEITHIOL CYMRU.

CYFARFOD CHWARTEROL YR ANNIBYNWYR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CHWARTEROL YR ANNI- BYNWYR YN SIR FAESYFED. > GAN KILSBY. 'f:il (jPar had o'i- rhifyn diweddaf.) Mae enw Iesu yn cael yr un effaith ar feddwl Sami ag arferai wneud ar galon Teimoth y gaib,' yr hwn oedd yn aelod yn Nghrugj-bar, yn mhen uchaf sir Gaerfyrddin. Mewn ystyr ddciiarol rhagorai niferi ar Deimoth, ond yr oedd efe yn 'ddoeth i iachawdriaeth,' a bu farw o farwolaeth fuddugoliaethus. Bendig- edig f'o ei enw e' byth ac yn dragywydd,' oedd y geiriau a ddefnyddiai yr- hen Gristion pan deimlai ei galon yn cynnesu at y Gwaredwr. Dygwyddodd rhyw Sais bregethu mewn cym- manfa pan yr oedd Teimoth yn bresenol, ac jn hollol ddirybudd dyma y dystawrwydd a deyrn- asai dan bregeth hwnw yn cael ei dori gan y geiriau uchod o eiddo gwr y gaib. Ar ddiwedd y gwasanaeth, gofynodd rhyw un a safai ger llaw iddo ar y pryd, a'r hwn oedd yn eithaf cyfarwydd ag ef, paham y darfu iddo waeddi fel y gwnaeth, ac yntau heb fod yn gwybod un gair o Saisoneg. Yr oedd ateb yr hen greadur duwiol yn ddigon nodweddiadol. Mi glywais i,' ebe Teimoth, y peth tebyca' a glywais i erioed i Iesu Grist (Jesus Christ, onide P) a mi glywais (sic-felly) nghalon yn twymo tuag ato.' Druan o Deimoth y gaib! Mae e' gyda phrif wrthrych ei serch er ys llawer blwyddyn. Gwledd berffaith i Sam Maddy ydoedd clyw- ed canu cynnifer o hymnau i lesu Grist, a gwnaethom ninnau ganu cymaint nes oeddym ar fin crygu, gan ystyried taw oedfa olaf y cyf- arfod chwarterol oeddym yn gadw yn llety Sam, druan. Wedi canu, darllenodd Mr Griffiths amryw ranau pwrpasol iawn o eiriau Crist allan o efengyl loan, gan eu hegluro er adeiladaeth a chysur i feddwl ei brif wrandawr. Y fynud y gwelodd Sam ei athraw crefyddol yn ymaflyd yn y Bibl, dyna fe yn diosg ei hat gyda pharch- edig ofn, ac yn ymddwyn mewn modd teilwng o efelychiad miloedd pan ddarllenir Gair Duw yn eu clywedigaeth. Gorphenwyd yr oedfa trwy weddio-ganu yr hen hymn Saisonig o eiddo Pantycelyn,— Guide me, 0 Thou great J ehofah, &c.' Yn ol athrawiaeth y penglogyddwyr ystyriwn fod gan Sam ben da o ran ei ffurf, ond nis medr siarad, er y dichon wneud amryw fathau o swn, ac arwyddion y rhai ydynt yn gwasanaethu fel cyfryngau ymddiddan rhyngddo ef a'r hen wreigan sydd yn gofalu am dano. Y dirgelwch yw sut y gwnaed y creadur digymhorth hwn yn grefyddol, oblegyd nid yw ei geidwades, mwy na?i mam o'i blaen, yr hon a ddug Sam i fynu pan yn faban, yn ol Jtystiolaeth Mr Griffiths, yn gwybod dim yn brofiadol am grefydd. Rhaid yw fod yspryd yr Argiwydd wedi dysgu Sam, a hyny trwy gyfrwng emynau efengylaidd syml, a darlleniad y Gair, i garu Ceidwad pech- aduriaid. Ychydig iawn o weithiau yn ei oes y gallodd fyned i'r llan, ac y mae Capeli Mr Griffiths yn llawer rhy bell i greadur methedig fel ef i fyned iddynt. Er mwyn profi gwirion- eddoldeb crefydd Sam ceisiodd Mr G. gan ei frawd-ynghyfraith, yr hwn sydd gantor da dros ben, i fyned gydag ef i'w weled, a gofyn- odd iddo ganu rhyw gan heb fod yn un gref- yddol, a chan mai un o'r fath ydoedd hi ni wnai hi ddim o'r tro, a rhoddodd Sami arwyddion o'r fath amlycaf o'i anghymmeradwyaeth, ac o'r dydd hwnw hyd yn awr nid yw yn dda ganddo am y gwr hwnw er cystled cantor ydyw, ac er can hoffed yw yntau ei hun o ganu. Wedi rhoddi ychydig bres i Sam i brynu pinafore newydd, cyfodasom i ffarwelio ag ef, ond yr oedd yn anhawdd ganddo adael i ni fyned, ac awgrymodd i'w geidwades ei ddymuniad i ni fwyta tamaid o fara a chaws, ond nid oedd arnom eisiau, a phe buasai, torth Sam fuasai yr olaf y boddlon'sem gymmeryd y mymryn lleiaf o honi. Yn y mudan digymhorth hwn cawsom un o foneddigion natur, ac un o etifeddion y nefoedd. Y mae'r gemau. a'r perlan puraf Goreu 'u lliwiuu is y llo'r, Dan y tonau'n gudd rhwng creigiau, Yn nyfnderoedd mawr y mor, Ac mac'r blodau tecca'u lliwiau, Lie nas gwelir byth mo'u gwawr! Ae yn taenii'u perarogl,,iu, Lie na sylwa neb mo'u sawr.' Buom bron anghofio adrodd tystiolaeth ceid- wades Sam mewn perthynas i'w arferiad o weddio yn ei ffonld ef—annealladwy i ddynion, ond dealladwy ddigon i ddarllenwr y galon- ganol nos pan fetha a chysgu, ac am ei Tbryder ynghylch ei bod hithau yn dweyd ei ph rayers foreu a hwyr. Mae clybod Sami yn berffaith, a medr ddeall pethau ysprydol er na fedr dori geiriau. Teimla fod ei enaid a'i galon mewn carchar, ac ammhosibl oedd ymatal rhag wylo wrth ganfod dagrau gloewon Sam yn rhedeg dros ei ruddiau pan y soniai Mr Griffiths wrth esponio gair Crist am yr adgyfodiad pan y bydd ganddo gorph gogoneddus, a synwyrau ufudd at ei wasanaeth. Nid oes genym un-ammheuaeth ynghylch diogelwch cyflwr Sami, ac os yw yn ddistacll yn awr, bydd yn ddysglaer a gogon- eddus yn y man. Moddion gras i ni oedd ein hymweliad a Sami, ac nid oes un perygl y gwnawn ni esgeuluso un cyfle yn ein gallu i ymweled ag ef drachefn. Ymadawsom a'r Parch John Griffiths gyda theimladau o barch, edmygedd, a chariad. Er ei fod o ran teimlad a thymher yn Gymro byw- iog, tanllyd, eto, oherwydd ei gwbl anwybod- aeth o'r iaith Gymreig, gorfodir ef i dreulio ei fywyd fel meudwy l'hwng mynyddau Maesyfed. Nid yw yn adwaen, heblaw yr Athrawon yn Aberhonddu, ond rhyw did o weinidogion Anni- bynol Cymru. Trig ar ei ben ei hun, ac yn ab- senoldeb pob math :o symbylau (bydol efallai) gwna waith efengylwr i bwrpas. Mae efe yn wir ganlynwr i'r apostolion. Nid yn ddiog mewn diwydrwydd—gwresog yn yr yspryd, ac yn iawn gyfranu gair y bywyd i bobl ei ofal.— Mae ei wisg yn lan-ei fywyd yn ddiargyhoedd, a rhyngddo ef a'i Feistr mawr mae running ac- count, ac nid oes dim perygl na dderbynia oddiar ei law wobrwy gwas da a ffyddlon.' Gofala' efe am roddi tamaid yn ei bryd i Sami, am yr hwn.ni ofala y gwr eglwysig, yr hwn sydd yn derbyn tri chant o bunalt am fugeilio wyth o ddefaid yn y gorlan gerllaw..Efe ydyw yr unig isfugail sydd gan y Penbugail yn yr ardal dywell (hyd yn ddiweddar) hon. Duw yn rhad iddo, a dyweded pob darllenydd ystYT- iol Amen. Yr oedd un cymeriad gwreiddiol arall ond gwahanol iawn oddiwrth Sami, yn byw yn y plwyf cymydogaethol, a bwriadem ar amser ein hymadawiad o dy Mr Griffiths i alw heibio iddo ar ein ffordd adref; ond parhaodd yr oedfa yn hwy yn lletty Sam nac y dysgwyliasom, ac felly bu gorfod amom adael yr ardal heb weled yr edition hynod hwn o'r natur ddynol. Rhaid i ni yn lie adrodd yr hyn a wehom, ysgrifenu yr hyn a ylywsom am dano. Person y plwyf ydyw, a hen lane eccentric, pruddglwyfus, tlawd neu gybyddlyd, neu gyfanwaith o'r elfenau hyn mown cyfartaledd nas medrwn benderfynu. Y tro diweddaf y gwelodd ein hysbysydd ef, dyma yr olwg oedd arno, os oes rhyw un am osod ei photograph yn ei album. Ar ei ben, fel y dylas- ai fod, yr oedd hat, ac ar hono holl liwiau yr enfys. Yr oedd yn gnycau a phentydd, a phe buasid ond cynyg cadair Eisteddfod am y bwbach mwyaf effeithiol i darfu brain, ni fuasai gwiw i un hen hat arall gystadlu a hi, ac ni chlywsid byth air o gwyn oddiwrth un o'i chydgystadleuyddion eu bod wedi cael cam. Yr oedd am dano grys, ond mor negroaidd ei gomplexion fel mai gorchwyl anhawdd fuasai i un Committee benderfynu yn mha flwyddyn o deyrnasiad ein grasusaf Frenines y buasai ddi- weddaf yn y golch. Ac yr oedd y negroyn allan drwy ei drawsis in search of fresh air, ac hefyd er mwyn cyhoeddi ei fod wedi ei hir droi allan o seiat dwr a sebon. Yr oedd ei wyneb a'i ddwylaw yn bygddu gan faw ei hosanau allan trwy ei esgidiau yn yr awyr agored, a chan 17, t, ddilyn eu hesianipl fradychus yr oedd eithafion ei glai allan hwythau trwy yr hosanau yn yr awyr agored. Buasai ei barchedigaeth yn niedru gwneud ceiniog dda o hono ei him mewn amryw o siroedd amaethyddol Lloegr ar rai tymhorau, trwy hurio ei hun allan fel bwbach brain teithiol.' Un ymweliad a chymydogaeth, a dyna'r brain wedi ymfudo yn finteioedd i bellafoedd y ddaiar. Mae yn byw wrtho ei hun, ond unwaith yr wythnos (dydd Sadwrn yn debygol), pan yr ymwelir ag ef gan ryw hen ddynes er mwyn ei rwystro i Hottentoteiddio ei hun yn gyfangwbl. Rhyw dy segur, heb fod y rhent ond rhyw drifle, mae ef yn hoffi oreu. Yn bresenol mae yn dodi fynu mewn adeilad ag oedd llynedd yn feudy. Galwodd ein hysbys- ydd a chyfaill iddo unwaith arno, a chafodd nad oedd ond un ystol yn ei fwthyn, ac eis- teddodd un o'r ymwelwyr ar hono, tra y gosodai y Hall a'i barchedigaeth eu pwys lawr ar astell y ffenestr. Yr oedd ganddo un ford fach gron, ac ar hono depot, a chwpan, a disgl. Ni wel- wyd un math o wely, ac ni wyddai'r ymwelwyr yn mha le, ys dywed bechgyn y calch yn Sir Aberteifi, yr oedd yn tynu lawr y nos. Mae yr eglwys lie y dywed ei bader ar y Sul mewn cyflwr ag sydd yn anrhydedd mawr i'r blaid grefyddol oludocaf yn y deyrnas. Nid oes yn aros ar ben ei thraed o'r hen eglwys ond y gangell, lie yr ymgyferfydd rhyw dri neu bedwar o eneidiau ar y Sabbath. Mae un pen i'r gangell yn safn- rwth agored i'r awyr, ac yr oedd y ventilation yn y gauaf dipyn yn rhy berffaith, a deuwyd i'r penderfyniad o osod green baize dros ei gen- au, a digon tebygol fod hen garthen nithio fel math o linings i hwnw, a thystiolaeth y person mewn perthynas i'w synagog ddigymhar yw- It is very comfortable, now,'—ie, wedi leino y brethyn gwyrdd blewog a'r hen garthen Ysgrifenwyd hanes llawer cwrdd cwarter i gyhoeddiadau a newyddiaduron y dywysog- aeth, ond dim cyffelyb i hanes cyfarfod chwar- terol yr Annibynwyr yn Sir Faesyfed yn mis Mai, 1868, ac etto ni ysgrifenasom ddim ond yr hyn a welsom, a glywsom, ac a deimlasom. Ymhelaethu rhyw fymryn bach ddarfu i ni, onide ? ddarllenwyr anwyl. Da b'och a di- bechod.

ETHOLIAD BRISTOL.

[No title]

BETH AM Y RHIFYN DIWEDDAF?