Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
H ~D OYAL MERSEY" PERMANENT BUILDING SOCIETY. PRESIDENT: Henry Jones, Esq., 20, South Castle Street. TRUSTEES: Samuel Baker, Esq., India Buildings M. Woodward, Esq., Princes Park S. Altree, Esq., Liscard Jno. Scott, Esq., 91, Pitt Street R. Douglas, Esq., 15, Mill Street. SOLICITOR: Jno. Hindle, Esq., 41, Lord Street. SECRETARY: Mr. Edw. Taylor, 36, Chapel Walks. The Monthly Meeting for the Payment of Subscrip- tions, will be held the Second Wednesday in every Month, from Seven to Eight o'clock p.m., at the Secretary's Office, 36, Chapel Walks. C. H. CHADBURN & SON, OPTICIANS, & INSTRUMENT MAKERS To H.R.H. the late Prince Consort, The New Buildings, 11 & 73, LORD STREET, LIVERPOOL. 1851-HONORABLE MENTION—1862, FOR GOOD AND CHEAP INSTRUMENTS C. H. C. & Son have the pleasure to announce that they have opened their new Shop and Show-rooms, where they exhibit the largest stock of OPTICAL, MATHEMATICAL, and PHILOSOPHICAL INSTRUMENTS in the Provinces^and where they sell retail every descrip- tion of SPECTACLES, TELESCOPES, MICROSCOPES, OPERA & FIELD GLASSES, BAROMETERS, SURVEYING INSTRUMENTS, &c. AIS AR WERTH. DYMUNWYF hysbysu Adeiladwyr, Masnach- wyr, ae eraill, a ddefnyddiant Ais, fod genyf yn wastad Stock dda ar law yn un o'r lleoedd mwyaf cyfleus at Stations y Rheilffyrdd, i'w hanfon i bob man. Pris rhai 4 troedfedd 13s. y fiL Eto 3 eto us. y fil. Cyfeirier at DAVID ROBERTS, 14, Victoria Road, Trarmere Park, Birkenhead. (Gynt o 41 Great Howard St., Liverpool.) YN EISIAU, YN gwasanaeth y Gymdeithas Ddiwygiadol Gym- reig—GORUCHWYLIWR A CHASGLYDD TANYSGRIFIADAU.—Mae gwybodaeth o'r Iaith Gymraeg yn hanfodol. Cyflog nid i fod yn fwy na 30s. yr wythnos. Ymofyner mewn ysgrifen gyda chymsradwyaeth cyn neu ar foreu Gwener nesaf, gyda Mr. W. WILLIAMS, Minerva Buildings, Key Street. Y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig. MAE yn llawen gan gyngor y Gymdeithas Ddiwyg- iadol Gymreig ddeall fod llawer o fanau yn Nghymru yn deffroi i ffurfio cangen gymdeithasau.- Mae y Cyngor wedi apwyntio dirprwywyr i ymweled a'r gwahanol Siroedd, i gynorthwyo eu cyfeillion yn yr fl.mp.nn Ceir pob hysbysiaeth ond anfon at yr Ysgrif- enydd, L. Williams, Esq., 2, Canning Chambers, South John Street, Liverpool. O.Y.—Mae anerchiad y Gymdeithas wedi ei anfon allan, a dymunir ar bwy bynag y delo sypyn ohonynt i'w law, eu gwasgaru i'r rhai fyddo debycaf o wneyd defnydd ohono. AT EIN GOHEBWYR. Amicus—addymuna gael gwybod gan Ysgiifenydd yrEistedd- fod G-enedlaethol pa le y gellir cael 'Festa's Village Black- smith.' un o'r 'Solos' y mae cydymgais i fod arno yn I-r Eisteddfod nesaf. 8ir Daeth y list yn dangos ffrwyth y canvass gyda golwg ar fau tafarnau ar y Sabbath i law yn rhy ddiweddar i'r rhifyn wn; bydd genym air i'w ddyweyd ar y mater yn ein rhifyn nesaf. Oen I Jo is—a ddymtma gael gwybod A oes awdurdod gan swyddogion y plwyf i osod papurau ar ddrysau Addoldai yr Oen Liais-a ddymtma gael gwybod 'A oes awdurdod gan swyddogion y plwyf i osod papurau ar ddrysau Addoldai yr Annibynwyr?' Yrydym yn meddwl fod ganddynt hawl; pa fodd Dynag y mae yn gaffaeliad i'r Ymneillduwyr gael yr hysbysiadau hyn ar ddrysau eu Capeli. Derbyniwyd Yr Hen Deilrwr, Dirwestwr o'i febyd, Ieuan Mor- ganwg, Gwilym Gwent, &c. Cyfeirier y Gohebiaethau oil—To the Editors of the TYST CYM- REIG, 19, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. ETHOLIAD BRISTOL. Da iawn! anffawd dost oedd methu dychwel- yd Mr Samuel Morley, y boneddwr ag y mae ei fuchedd a'i haelioni yn esiampl i gyfoethogion yr holl fyd. Tro gwaradwyddus oedd caniatau i Dori fyned i'r senedd dros ddinas henafol a rhyddfrydig Bristol pan oedd dadl fawr cyd- raddoldeb crefyddol megys ar ei haner yn nhy y Cyflredin. Drwg digymysg oedd yr annud- oniaeth a'r llwgrwobrwyaeth a arferwyd yno yn yr etholiad diweddar. Ond, gan fod y drwg wedi ei wneud, da iawn i Bristol, a da iawn i'r wlad yn gyffredinol oedd cael y drwg i'r amlwg. Pan ddychwelwyd Mr Miles, gorfoleddai y Tori- aid, ac ymffrostient yn y fuddugoliaeth fel ernes o rai cyffelyb yn ystod yr etholiad cyffredinol; a chyfeirient at Bristol fel arwydd digamsyniol fod barn a theimlad y wlad yn troi yn erbyn Mr Gladstone, ac o blaid Mr Disraeli a thoriaeth. Ond bellach y mae y dirgelwch wedi ei ddat- guddio, y Tori wedi ei ddanfon adref, a'r ffordd yn rhydd i etholwyr Bristol i symud ymaith y gwarth sydd yn gorchuddio yr hen ddinas, trwy ddychwelyd Mr Morley yn yr etholiad nesaf. Y GWAELODION. Mae cynydd Prydain yn ystod y deugain mlynedd diweddaf yn amlwg i bawb. Mae y wlad wedi cynyddu mewn diwydrwydd, wedi cynyddu mewn gwybodaeth, wedi- cynyddu mewn cyfoeth, ac wedi cynyddu mewn rhyddid. Ond eto y mae tlodi a throseddau wedi amlhau yn aruthrol o flwyddyn i flwyddyn. Mete y drygau hyn wedi tyfu i faintioli anferth yn y trefi mawrion, ac y mae ein dynion mwyaf meddylgar yn edrych arnynt gyda phryder mawr. Teimlir yn anesmwyth mewn gwahanol gyfeiriadau, a ehredir fod yn rhaid gwneyd vJiywbeth er atal y drwg, ond pa beth sydd i'w wneud, nis gwyddis. Cynaliwyd cynadledd yn ddiweddar yn Llundain i ystyried y cwestiwn. Yr oedd yn nghyd nifer o wyr nodedig ar gyfrif eu doethineb a'u dyngarwch. Yr oedd gan bob un agos, gynllun i wellhau a dyrchafu gwaelocl- ion cymdeithas. Yr oedd Mr Sally dros barotoi gwaith, udlfyrwch, ac addysg i'r dosbarth hwn, Credai Esgob Llundain, fod yr eglwys plwyf yn ddigonol i arwain y defaid duon yn ol i'r gorlan, ond cymeryd y ffordd briodol i hyny. Yr oedd Mr Baker dros gosbi y troseddwyr'yn drymach. Dadleuai y Dr. Wood, o Edinburgh, dros ofal a chynildeb helaethach yn nhrefniad ein sefydliadau diwygiadol ae elusenol. Dadl- euai yr Archesgob Manning dros dalu mwy o sylw i arferion a chysuron cartrefol y dospeirth isaf. Gwrthdystiai y Dr. Guy yn erbyn rhoddi cardod.' Canmolai Mr Webster drefn America o gynnorthwyo y tlodion. Dywedai Mr Tallark mai yr unig feddyginiaeth anffaeledig oedd, rhoddi digon o waith i'r trueiniaid, a dygodd ar gof ddywediad synwyrol John Howard- Gwnewch ddynion yn ddiwyd, a hwy a fydd- ant ynonest.' Gwelir ar un waith fod yno aml- der golygiadau, a hyny yn cael ei achosi yn benaf gan fawredd y gwaith, a'r anhawsder sydd i'w gwblhau. Os nad ellir gwneud llawer i'r rhai sydd wedi arfer gwneuthur drwg,' y mae dyogelwch cymdeithas yn galw yn uehel arnom i wneud pob peth a ellir i ragflaenu af- lwydd yr ieuenctyd a'r plant bychain. Yn Liverpool, yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, yn 01 adroddiad Major Greig, yprif heddgeidwaid, bu 1500 o blant dan chwech oed yn llaw y police. Yn ystod yr un flwyddyn, bwriwyd 46,0000 roughs Llundain i garchar, a chostiodd cynaliant pob un o'r rhai hyn—at eu gilydd- dros 34p. Buasai yn rhatach o lawer, heb son am ystyriaethau mwy pwysig, i bobl onest Llundain i addysgu y rhai hyn pan oeddynt ieuainc, na'u cynal mewn carcharau wedi iddynt dyfu i faintioli dynion, Y TAIR DEISEB. Yn ysted yr wythnosau a'r misoedd diwedd- af, anfonwyd i'r Senedd ddeisebau yn ddirifedi o blaid ac yn erbyn ysgrif Mr Gladstone o barth yr Eglwys Wyddelig. Ond y mae tair deiseb yn yr achos hwn yn rhai tra nodedig, ac yn galw am sylw. Y gyntaf, gan foneddigesau, nid at y Senedd, ond at y foneddiges uwchaf yn y deyrnas, at ei Mawrhydi y Frenhines, wedi ei arwyddo gan 145,000 o Wyddelesau, yn erfyn ar ei Mawrhydi i gadw yr Eglwys Wyddelig yn ddyogel yn wyneb yr ymosodiadau a wneir arni gan Dy y Cyffredin. Dywed y Gwyddelesau hyn eu bod mewn cystudd dwfn,'—eu bod yn Ilefaru, nid yn unig drostynt eu hunain, ond yn enw eu gwyr a'u brodyr, a'u bod yn mawr ofni, os dadgyssylltir yr Eglwys yn yr Iwerddon, y bydd eu plant heb addysg Brotestanaidd. Beth! ai dyma nerth Protestaniaeth yr Iwerdd- on ? Yr oeddym eisoes yn gwybod nad oedd yr Eglwys Brotestanaidd wedi gwneud dim o'i hoi ar Babyddion y wlad hono, ond yr oeddym yn meddwl fod hyny i'w briodoli mewn rhan i gyndynrwydd y Pabyddion i gymmeryd eu troi. Dywedir i ni fod 94 yn y cant o holl dir yr Ynys Werdd yn eiddo i'r Protestaniaid; ond sicrheir ni gan 145,000 o Wyddelesau I eystudd- iedig' nad oes digon o yni, a sel, a bywyd, a gofal am y gwirionedd yn yr Eglwys Brotes- tanaidd hon i ofalu am addysg Brotestanaidd ei phlant ei hun, heb waddol a nawdd y llyw- odraeth. Mae y ddeiseb hon yn un o'r pethau mwyaf anffyddol a welsom erioed. Yr ail ddeiseb y soniwn am dani yw yr un a gyflwyn- wyd gan Arglwydd Enniskillen i'r Prif Wein- idog. Prin y gellir galw deiseb ar yr ysgrif hon, canys yr oedd yn fwy o fynegiad na dim arall-mynegiad yr Orangemen i Mr Disraeli nas gellir caniatau ychwaneg i'r Pabyddion. Derbyniai Mr Disraeli yr awgrym gyda ei ddiolchgarwch goreu.' Bwriadai Mr Disraeli, yn ol mynegiad ei weinidog Arglwydd Mayo, yn Nhy y Cyffredin, sefydlu Prif Ysgol Bab- yddol a Cholegau Pabyddol yn yr Iwerddon, a dyrchafu safle yr offeiriaid Pabyddion. Dywed- ai Arglwydd Enniskillen yn hyf, yn ei enw ei hun, ac yn enw yr Orangemen, o'r mwyaf hyd y lleiaf o honynt, nas gellir caniatau dim yn ychwaneg i'r Pabyddion. Diolchai Mr Disraeli yn gynes! Mae yn iechyd i'n calon i droi at y drydedd ddeiseb—y ddeiseb a gyflwynwyd i Dy yr Arglwyddi gan Arglwydd Lyttleton, wedi ei harwyddo gan 261 o glerigwyr dysgedig perth- ynol i Eglwys Loegr, dros ddadgyssylltu yr Eglwys Wyddelig. Yr oedd hon wedi ei har- wyddo gan Ddeoniaid Canterbury a Bristol (Dr. Alford a Dr. Elliot); Canon Lyttleton; Dr. Butler, Prif Athraw Ysgol Harrow; Dr. Temple, Prif Athraw Ysgol Rugby; y Proffes- wr Kingsley, Proffeswr Maurice, Proffeswr Iowett, a'r Proffeswr Plumtre, yn nghyda llu o ddysgedigion adnabyddus.
LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.
LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD. Y digwyddiad pwysicaf a fu yma yn nghorph yr wythnos ddiweddaf oedd CYFARFOD MAWR Y RHYDDFEYDWYE yn yr Amphitheatre nos Wener. Yr oedd y lie yn llawn, a'r cyfarfod drwyddo yn un brwdfrydig iawn. Galwyd y cyfarfod o bwrpas er rhoddi cyfle i'r ddau ymgeisydd- W. Rathbone, Ysw., a'r Anrhydeddus W. N. Massey, i draethu eu golygiadau o flaen yr etholwyr, ac i'r etholwyr i roddi eu barn arnynt. J. C. Ewart, Ysw., oedd yn y gadair, un a fu am flynyddoedd yn aelod dros Liverpool. Efe yw llyw- ydd Gymdeithas Ddiwygiadol y Saeson. Bu y Tori- aid yn ddigon moesgar i gadw o'r cyfarfod y tro yma. Mae yn ymddangos eu bod bob yn yohydig yn dysgu moesau da. Mr Rathbone oedd y cyntaf i siarad. Cafodd dderbyniad gwresog dros ben. Mae y teulu yn barchus yn y dref fel dinasAvyr. Yr unig draw bach gyda golwg arnynt ynmam a theimlad llawer ydyw mai Undodiaid ydynt.- Er nad oes dim a fynom ni a golygiadau dmvinyddol ein haelodau seneddol, ond a'u credo wladyddol, eto y mae rhagfarnau pobl weiniaid mor gryf fel y mae aniyiit ofn am dynged y g-winonedd 08 gollyngir Undodiaid i'r Senedd. Mae Mr Rathbone o ran ei ffydd boliticaidd yn bob eth a allai y blaid ryddfrydig ei ddymuno; ac yn ychwanegol at hyny, y mae ei gysylltiad a'r dref, a'r profiad helaeth y mae wedi gael yn nglyn a mas- nach arforol y lie, yn ei wneud yn gymhwys iawn i fod yn un o gynrychiolwyr Liverpool yn y Senedd. Nid yw yn areithiwr hyawdl, ond y mae ganddo ddigon o fedr i ddyweyd ei feddwl yn eglur ac ar- gyhoeddiadol ar bob peth y llefara arno. Mae agos yn sicr y dychwelir ef i'r Senedd. Os na ellir dychwelyd ond un Rhyddfrydwr, IVIR Rathbone yn sicr a fydd hwnw. Mae Mr Massey yn rhagorach fel siaradwr, ac wedi cael profiad helaeth ar.fywyd cyhoeddus. Bu yn y Senedd o'r blaen, a bu yn gweithredu fel Cadeirydd y Ty. Rhoddodd ei le i fynu pan y der- byniodd benodiad o dan y llywodraeth i fyned i India. Yr oedd ei araeth yn gref ac ymresymiadol -hollol parliamentary yn ei style. Siaradodd am yn agos i awr a hanner. Os oedd rhyw fai ar ei araeth, dyna oedd-rhy hir a chymmeraidrafferth fawr i brofi pethau ag y buasai datganiad o'i olygiadau arnynt yn ddigon. Pasiodd yn boblogaidd iawn, er fod ei ddyeithrwch yn anfantais iddo; ond fel y daw yr etholwyr i'w adnabod yn well, deuent hefyd i'w hoffi yn fwy. Pasiwyd penderfyniad unfrydol hollol, heb un llaw yn erbyn, i dderbyn y ddau fel ymgeiswyr yn yr etholiad nesaf, ac ymrwymodd pawb i wneud eu goreu, trwy bob moddion teg a chyfreithlon, i sicrhau eu dychweliad. Yn awr, hai ati o ddifrif, heb golli dim amser. Daw yr etholiad ar ein gwarthaf yn union bellach. Mae y Toriaid yma wedi eu taflu i dipyn o gyfEroad gan YMDDEOLIAD MR HORSFALL, ar ol bod yn cynrychioli y dref am bymtheg mlyn- edd. Yn ei gymmeriad personol, y mae Mr Hors- fall yn gymmeradwy iawn gan bawb, ac yn uchel iawn fel cynrychiolydd yn ngolwg ei blaid. Hys- byswyd am ei fwriad i roddi i fynu mewn cyfarfod o'r Toriaid ddydd Llun. Nid yw ei iechyd yn gyf- ryw ag y gall ddal llafur seneddol yn hwy. Pasiwyd yno yn unol benderfyniad o ddiolchgarwch iddo am ei wasanaeth hirfaith. Enwyd Viscount Sandon i fod yn olynydd iddo—enw sydd a llawer o swyn ganddo ar Doriaid Liverpool. Bydd yr ymdrechfa yn un galed iawn ond bydd enciliad Mr Horsfall yn hytrach er mantais i'r Rhyddfrydwyr. Mae YSGOLION SABBOTHOL y dref hon yn arfer cael darn o ddiwrnod bob blwyddyn i fyned gyda'u gilydd i rywle i ymddi- fyru. Nid yr holl ysgolion yr un pryd gyda'u gil- ydd a feddyliwyf. 0 na, er cystal ydym, nid oes cymaint a hyny o frawdgarwch rhyngom ychwaith a byddai i holl ysgolion Sabbothol Cymreig pob enwad yn y dref i fyned gyda'u gilydd i'r un lie yr un diwrnod, yn gwneud y cynnulliad yn rhy fawr i fod yn bleserus. Mae pob ysgol yn gallu mwynhau yn well wrth fod ar ei phen ei huu. Dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf, yr oedd ysgolion yr Annibynwyr a'r Methodistiaid yn Neth- erneld Road wedi myned drosodd i New Ferry. Cymmerodd ysgol y Methodistiaid steamer iddynt eu hunain am y prydnawn, ac wedi mordwyo ar yr afon buont yn gwledda y plant. Aeth ysgol yr An- nibynwyr drosodd gyda steamer y Ferry, a threulias- ant bump neu chwech o oriau yn ddifyr iawn. Rhoddwyd buns a llaeth i'r plant, a chyflawnder o de, a phob angenrheidiau gydag ef, i'r bobl mewn oed. Ddoe (ddydd Mawrth) aeth ysgol Sabbothol y Bedyddwyr yn Great Crosshall Street drosodd i Eastham i fwynhau eu hunain. Mae yr excursions hyn yn rhoddi i'r bobl ieuainc gyfle i gyfarfod a'u gilydd yn ddifyr a llawen am ddarn diwrnod, ac y mae y plant yn edrych yn mlaen ato fel diwrnod mawr y flwyddyn. Ni chlywais fod dim anweddus wedi digwydd yn nglyn-ag un o'r ymweliadau hyn, ond aeth pawb adref yn brydlon ac amserol. Mae eglwys y Bedyddwyr yn GREAT CROSSHALL STREET wedi dechreu ar eu capel newydd yn Everton Vil- lage, rhwng Everton road a phen Netherfield road. Nid yw y sylfaen eto wedi ei gosod, ond y mae y tir yn cael ei glirio, a bydd yr adeilad yn cael ei chy- chwyn yn ddioed. Mr Richard Owen, Breck road, yw yr architect. Bydd yn gapel hardd iawn-pur debyg yn ei drefniadau mewnol i gapel newydd Netherfield road. Bydd y pedwar capel mor agos fel y gallai dyn ond sefyll yn eu canol glywed gwaeddwyr go dda o bregethwyr o bob un o'r pedwar ar unwaith; hyny yw, ag i chwi allu llonyddu y twrf oddi allan. Mae Mr Parry yn gymmeradwy iawn, ac wedi bod hyd yma yn llwyddiannus iawn; ac y mae yn sicr genyf y bydd yn fwy felly wedi symmud i le mwy cyfleus. Clywais un o aelodau y Tabernacle, Nether- field road, a ddylai wybod, yn dyweyd eu bod hwy yno wedi derbyn mwy o aelodau newyddion, o'r ne- wydd a thrwy lythyrau, yn yr ychydig fisoedd y maent wedi bod yno nag a dderbyniasant yn yr hen Dabernacle am y ddwy flynedd ddiweddaf y buont yno. Dyna brawf iddynt wneyd yn iawn wrth symmud. Ac yr wyf yn credu y caiff Mr Parry a'i bobl weled cyfnewidiad cyffelyb.
CLYDACH, GER TREFORRIS.
CLYDACH, GER TREFORRIS. Daeth excursion train o'r lie yma Lanwrtyd (Llan- wrth-y-rhyd), dydd Sadwrn diweddaf, ac yr oedd nifer y gwibdeithwyr yn agos i chwech cant, ac yr ydym yn deall y cyfansoddai y mwyafrif o honynt gynulleidfa y Parch. E. Owen, gweinidog yr Anni- bynwyr yn y dreflan uchod. Yr oedd y rhan luosoc- af o herchenogion y gwaith alcan yn mha un y gweithia yr ymwelwyr wedi dyfod gyda hwynt, yn gystal a'u meddyg, Dr. Broome, a'u gweinidog y Parch. E. Owen. Ni fuasem yn ei ystyried yn werth cofnodi amgylchiad mor ddibwys a chyffredin yn y dyddiau presenol oni buasai ein bod am gyhoeddi yr hyn oedd ganmoladwy yn ymddangosiad ac ymddyg- iad y bobl yma yn ystod eu harosiad yn nghwm Irvon (Hirafon). Yr oedd gawb wedi ymwisgo yn drwsiadus, ac yr ydym yn ystyried hyn yn anrhyd- edd ac yn ogoniant i weithwyr. Mae rhyw awdwyr Saesonig wedi dweud 'nas gall un dyn fod yn flagarcl yn ei ddillad parch.' Mae peth gwir yn ddiau yn yr haeriad. Ond yr hyn sydd gan mil mwy pwysig na gwisgoedd, darfu i'r chwe chant pobl hyn ymddwyn mewn modd ag sydd yn glod iddynt eu hunain, eu | meistri, a'u liyfforddwr crefyddol. Mae yn llawen-1 ydd nid bychan genym i allu danfon i'r cyhoedd | banes mor hyfryd am ein diweddar ymwelwyr. 1 meistri, a'u liyfforddwr crefyddol. Mae yn llawen-1 ydd nid bychan genym i allu danfon i'r cyhoedd | banes mor hyfryd am ein diweddar ymwelwyr. 1 Canniol pobl ydyw ein hoffwaith: beio ydyw y gorca- a wyl mwyaf anghydweddol a'n natur. | TALATHKW. I Ystlys Orllewinol y Garn Dwad, 1 Mai-liaf-hin 29, 1868..
Y PARCH. DAVID JONES, ICAERNARFON.I…
Y PARCH. DAVID JONES, CAERNARFON. Y diweddar David Jones bellach! Taenwyd y gair ychydig amser yn ol ei fod wedi marw; ac er mai camhysbysiad oedd y pryd hwnw, eto yr oedd yn rhagarwydd nad oedd angau yn mhell; ac erbyn hyn y mae yn ffaith, canys lefe a fit fane' yn Llanfair- fechan nos Fawrth Mehefin 23ain, yn 62 oed. Dyma un eto o hoff bregethwyr y genedl wedi syrthio. Tywysog o ddyn o ran corff a meddwl. Da yr ydym yn cofio yr olwg gyntaf erioed a gawsom arno bellach er's mwy na phymtheng mlynedd ar hugain. Yr oedd yn wr ieuanc llathraidd, llyfndew, iachus yr olwg arno, a mawr y son oedd am dano fel yr ieuengaf o lanciau Dolyddelen. 0 Dan-y-castell y dechreuodd pregethwyr ddyfod yn drioedd o deulu- oedd. John Jones roddodd enw i'r teulu. Efe a wnaeth y marc dyfnaf ar ei oes a'i genedl. Ond yr oedd David Jones yn deilwng o'i frawd, ac yn an- rhydedd i'r cyff o'r hwn yr hanodd. Ac nid rhaid i'w deulu na'i enwad gywilyddio o William Jones, y trydydd o'r tbulu er hwyrach nad yw yn meddu ar athrylith ei frodyr. Nid oedd David Jones yn meddu ar nerth aruthrol ei frawd hynaf; ond yr oedd yn nodedig am dlysni, a phrydferthwch, ac effeithiolaeth; ac ar rai adegau clywsom ef yn ofnadwy mewn nerth. Cofiwn byth am bregeth a glywsom ganddo unwaith ar y geiriau 'A bery dy galon, a gryfha dy ddwylaw y dydd y bydd i mi a wnelwyf a thi?' Yr oedd ei ddifrifoldeb yn annyoddefol i gnawd. Ond nid dyna nodwedd gyffredin ei weinidogaeth; tawel, hamddenol, siriol, a chysurol oedd ei bregethau yn gyffredin, yn en- wedig yn y blynyddoedd olaf o'i oes. Afon fawr ddofn, lydan, yn llawn hyd y glanau oedd ei ddon- iau ef—a'i hymylau yn addurnedig a'r coed pryd- ferthaf yn plygu dan byngau mawrion o flodeu am- ryliw ac aeron addfed. Nid oedd yn ei gwely greig- iau mawrion i dori ar ei hunffurfiaeth, na disgyniad- au serth i beri rhaiadrau trystfawr ac ewynog, Yn hyny yr oedd gwahaniaeth rhyngddo a'i frawd John Jones. Afon fawr, ddofn, lydan, oedd yntau hefyd; yn llawn hyd yr ymylon yn gyffredin; ac yn ami iawn yn llifo dros yr ymylon nes gorchuddio yr holl faesydd o'r ddau tu iddi; ac yn fynych iawn byddai nerth y llif wrth godi yn ysgythru ymaith rai o'r coedydd heirdd a addurnent ei glanau. Ysgubid y prydferthwch gan rym y llif. Yr oedd darnau mawr- ion o greigiau daneddog wedi myned i ganol yr afon fel yn bwrpasol i geisio atal ei rhediad; ac i ymddi- fyru wrth ei weled yn curo yn eu herbyn; ond rhuthrai yn mlaen nes peri twrf fel swn llawer o ddyfroedd;' a disgynai i lawr dros ymylon y creig- iau serth i'r cymydd dyfnion yn rhaiadrau gan ys- gubo pob peth o'i blaen. Natur yn ei gwylltedd a'i rhamantwch oedd John Jones, yn ddeddf iddo ei hun; ond yr oedd David Jones yn fwy coeth a dysgybl- edig, ac wedi ei ddarostwng dan ddeddfau cyffredin fel dynion cyffredin. Anaml y bu yr un pregethwr erioed yn fwy llwyddianus na David Jones i gadw ei holl wrandawyr mewn tymer dda. Yr oedd rhyw- beth yn ei ddawn yn lleddfu, ac yn goglais, ac yn lliniaru, ac yn nawseiddio pob teimlad, a nwyd, a chyneddf. Yr oedd ei wyneb hawddgar, ei lais tyner, ei acQeniad esmwyth, ei barabliad llyfn, ei iaith goeth, ei gydmariaethau tlysion, ei syniadau efengylaidd, a'i deimladau crefyddol, yn rhoddi iddo yn dawel a dirwgnach fynediad helaeth' i fynwesau a chalonau ei wrandawyr. Yr unig beth yr achwyn- id arno gan gynnulleidfaoedd mawrion oedd ei fod yn dyweyd yn rhy ddistaw; ac yr oedd yr anfodd- lonrwydd yn fwy am y tybient y gallasai dyn o'i faintioli ef ddyweyd yn ddigon uchel fel y gallasai unrhyw gynnulleidfa ei glywed. Hwyrach y gall- asai ddyweyd yn uwch ped arferasai mewn pryd; a phe buasai wedi mabwysiadu dull gwahanol o lefaru. Ond nid oedd mor gryf ac y gallasem farnu wrth yr olwg arno oddiallan. Mae fod cynifer o'r teulu yn syrthio yn gydmarol ieuanc yn dangos nad oes yma gymaint o nerth ag a dybid ar yr olwg gyntaf. Nid y rhai cryfaf yr olwg arnynt yn allanol yw y cryfaf mewn gwirionedd yn fynych. Y mae yn ammheus genym a ydyw y dull o lefarn sydd wedi bod yn bur boblogaidd yn Nghymru; dull oedd yn nodweddiad arbenig teulu Dolyddelen y mwyaf ffafriol i'r cyfansoddiad. Mae rhyw beth yn y dull dwfn, bass, o siarad yn y gwddf yn ym- ddangos yn treulio y rhanau mewnol. Beth bynag, yr ydym wedi sylwi yn fanwl er's blynyddoedd fod y rhai sydd yn arfer y dull yma yn treulio allan yn gynt na'r rhai sydd yn llefaru allan o'r genau yn ysgafn a naturiol. Beth bynag, yr oedd David Jones yn un o etholedigion cynulleidfaoedd Cymru ae yr oedd ei yspryd rhydd yn ei wneud yn gym- meradwy gan bawb; ac wedi y deuai ef i'r cyfarfod gwneid yn o dda. Yr oedd yn llawn iawn o humour ac arabedd. Nid oedd terfyn ar ei fan chwedlau difyr am hen gymmeriadau ei fro enedigol, a'r hen bregethwyr y daeth i gyffyrddiad a hwy. Cadwai bawb a ddeuai i'w gwmni yn ddifyr bob amser,ac ar yr un pryd nid oedd dim yn ei ymddiddanion yn cyfranogi o'r athrod, a'r absen, a glywir, ysywaeth, yn rhy fynych hyd yn oed gan wyr o urddau. Nid oedd na gwenwyn na chenfigen yn ei yspryd ac yr oedd y man bethau sydd yn blino dynionach bychain islaw ei sylw ef. Bydd yn chwithdod mawr ar ei ol. Yr oedd yn un o'r dynion yr oedd gweled ei wyneb yn achlysurol yn gwneud lies i ddyn. Wedi ei golli o un lie pan yma ceid ef mewn lie arall. Wedi gadael Caernarfon lie y bu y rhan fwyaf o'i oes; a Ie y dylasai fod hyd ddiwedd ei oes ond nid aeth yn mhell iawn, yr oedd i'w gael yn Treborth. Wedi symmud o Treborth yr oedd i'w;] gael yn Llanfair- fechan-ond bellach yn mhob un o honynt y mae I Ile Dafydd yn wag.' A'i le nid edwyn ddim o liono ef mwy.' Boed heddweh i'w lwch yn mynwent Llaiibeblig; boed amddiffyn y nefoedd ar ei blant I ei lafur a'i weinidogaeth ddilyn ei ffydd, ac ystyried I amddifaid; a boed i'r Eglwysi a'r Enwad fwynhaodd | diwedd ei ymarweddiad.' H Y Cynhebrwng (gan Ohebydd).-Claddwyd heddyw 1 (dydd Llun) un o gedyrn Israel, yn hen fynwent 1 Llanbeblig, Caernarfon. Ymgasolodd ei gydwlad- I wyr o bob ardal ac enwad crefyddol yn un llu mawr, 1 i'w hebrwng yr holl ffordd o Lanfairfechan, drwy 1 Fangor, i dy ei hir gartref yn Llanbeblig, lie y I gorwedd ei briod hoff er's llawer o fiynyddoedd. I Sicr yw na welwyd y fath gynhebrwng yn Nghaer- I narfon os yn Nghymru o'r blaen. Yr oedd y dyrfa 1 yn filoedd lawer. Yr oedd yno dros gant o weinid- ogioll a phregethwyr; ac yn eu plith, gwelais Dr. I r Edwards, y Parchedigion Henry Rees, Owen Tho- mas, John Hughes, a R. Lumley, Liverpool, R. 1 I Thomas, Bangor, Roberts ac Evans, Caernarfon, yn | nghyda lliaws na oddef amser i mi i'w henwi. Dangoswydy parch mwyaf oedd yn ddichonadwy gan holl fasnachwyr y trefydd drwy ba rai y gorym: deithiai y dorf alarus. Llwyr gauwyd y masnach* dai, ac ymgasglai y miloedd i' r prif heolydd i gael yi: 'olwg olaf ar y cerbyd a gludai weddillion marwol ufl a fu yn cyhoeddi I Ceidwad i fyd, colledig' yn. ef clywedigaeth gannoedd o weithiau. Eisteddai dif. rifwch ar bob wyneb. Colled dromyw colli pregeth-, wr 0 alluoedd cawraidd yr ymadawedig; ond gor* phenodd ei yrfa yn anrhydeddus. Aeth adref at ei wobr. Cychwynodd yn fychan rli-w-ng brynip Dolyddelen; ond cynnyddodd mewn nerth a dylan- wad nes ymgolli fel yr afon fawr yn y mor tragwy*: ddol, a safodd y rhan yma o'r byd megis am enyd mewn galar a syndod, wrth ei weled yn ymgolli o'» gwydd. Nid oes dim ond eymmeriad disglaer a def- nyddioldeb mawr gyda chrefydd a hawlia hyn oddi ar y byd. Nid oes amser i ymhelaethu y tro hwn.- Un o'i wrandawyr.
BANGOR. ---
BANGOR. DR. REES versus ARGLWYDD PENRHYN. r,! :1 ''j At 01 ygwyr y Tyst Cymreig..4 Foneddigion,—Y mae'n debyg na fu pobl erioed yn talu sylw dyfalach i'w hachosion lleol na phobl Bangor; o leiaf, y maent wedi bod yn enwog ryf- eddol yn yr ystyr yma yn ystod yr ychydig flyn- yddau diweddaf hyn. Llwythir colofnau ein new yddiaduron lleol (Seisnig) y naill wythnos ar ol y Hall gan hanesion cyfarfodydd cyffrous y Bwrdd Iechyd, y Gwarcheidwaid, &c., i'r fath raddau,fel y gellid tybio fod ein helyntion a'n hymrafaelion din- asol, weithiau, yn hysbys nid yn unig i Gymry a Saeson gwareiddiedig, ond hefyd i Hindwaid a Channibaliaid ysgymun llym-diroedd diffaeth Pata. gonia, a phreswylwyr diniwed glanau halenaidd y Chupat! Yr ydym er's blynyddau bellach yn arfer anfon y North Wales Chronicle a'r Carnarvon Herald yn wyth- nosol i gyfaill deallus o'r eiddom ag sydd yn pres» • wylio mewn parth pellenig o Ysgotland, yr hwn, wrth weled pa mor lwyr y cymmerir gofod y papnr. au hyn i fynu gan ein materion lleol ni, a ysgrifenai atom i awgrymu y priodoldeb i'.i? naill a'r Hall 0 honynt newid eu henwau, a chael eu galw o hyn allan rywbeth yn debyg i hyn:—' The Bangor Local Affairs Reporters.' Ond er meithed yr adroddiadau hyn, eto cymmaint oedd y dyddordeb a deimlai y Bangoriaid yn eu local affairs hyd yn ddiweddar, fel y cwynant yn fynych na fuasai y reports yn helaeth- ach! Nid oedd dim a wnai y tro ar bentan yr efail, yn nghegin y dafarn, na bar yr Hotel, ond son am ystyfnigrwydd Cwmni y Dwr, dyledswydd y Bwrdd Iechyd i'w gorfodi i roddi i ni gyflenwad parhaus o'r, gwlybwr gwerthfawr hwnw am ein harian, yn ol telerau eu hact seneddol hwy eu hunain; ymclrech- ion dihafal y Board of Control, a'r aelodau newydd- ion a etholwyd i'r Bwrdd Iechyd (Thomas Lewis a Morgrugyn Machno), trwy ddylanwad y Board of Control hwn, a phengaledwch T. Lewis, Palestina, Meshach Roberts, a George Simpson, yn gwrthod cydweithredu a'r aelodau newyddion, mewn trefn i fuddugoliaethu yn hollol ar foneddigion gwrthnysig y Water Coi)tpanyl-nid oedd dim, meddwn, ond y pethau hyn a'u cyffelyb a gai wrandawiad na sylw mewn unrhyw gymdeithas yn ein tref, i lawr oddi wrth Gweirydd ap Rhys a'i gyfeillion clasurol, hyd at faldojddwyr segur penau'r heolydd. OndO! y fath gyfnewidiad sydd wedi cymmeryd lie er yr adeg fythgofiadwy hono pryd yllefarodd y Dr. Reefl y geiriau treiddgar a gwirioneddol hyny am Arg- lwydd Penrhyn yn yr Amphitheatre. Er fod ein local affairs yn gwisgo agwedd mor ddyryslyd a phwysig yn awr ag erioed, eto nid oes neb yn prisio brwynen ynddynt ar hyn o bryd. Gwrthdystiad dynol a Christionogol Mr Rees yn erbyn dylanwad anmhriodol yr Arglwydd estronol hwn ar farnau a chydwybodau llanciau 'Ryri, ydyw testyn ymddidd. anion a myfyrdodau pobl Bangor byth hyd yr awr hon. Y mae gan y gwladgarwr o fynydd Hiraethog, gan hyny, achos cyfiawn i ymlawenhau yn ei Iwydd- iant, pe na buasai hyny yn ddim mwy na thynu meddyliau pobl Bangor oddiar fan ymrafaelion Heol, a'u dwyn i ystyried yr egwyddor oruchel o hawl dyn i weithredu yn ol tuedd ei farn a'i gydwybod, yn annibynol ar ewyllys daeog pob lordyn hunanol, a phob stiwardyn gorthrymus dan haul cred. Mawr, ie, mawr iawn, ydyw effaith gwirionedd pan ddywedir ef mewn lie ac ar adeg briodol. Pe buasai llawer dyn mewn llawer lie yn dyweyd yr un peth yn union ag a ddywedodd y Dr. Rees yn yr Amphitheatre, ni chawsai fwy o sylw na Defnyn o'r cwmwl wrth ddisgyn i'r mor;' ond y mae'r ffaith fod y geiriau hyn wedi eu llefaru mewn cyfar- j fod ag yr oedd Mr Bright, y dyn mwyaf poblogaidd j yn y deyrnas, yn cymmeryd rhan ynddo, a chan y llefarwr cyhoeddus mwyaf poblogaidd a fedd Cymru, wedi rhoddi pwysigrwydd a grym anwrthwynebol iddynt. Y maent fel picellau tanllyd yn mynwesau holl orthrymwyr Toriaidd ein gwlad, ac y maent fel cerrig llyfnion Dafydd yn nwylaw cyfeillion rhyddid. Ond megis y llabyddiwyd Stephan o herwydd gair y gwirionedd, felly hefyd y mynai rhyw niter fechan o gynffonwyr dirmygedig, sydd a'u bryd gwastadol ar lyfu y llaid oddiwrth wadnau y mawrion, labyddio cymmeriad a dylanwad y Dr. Rees, pe gallent. Nid ydyw hyn ond y peth a allesid ddisgwyl. Ni bu ? erioed unrhyw achos na chymmeriad, pa mor ddrwg bynag, na byddai rhyw ddyhirod yn barod i'w am- ddiffyn, er iddynt wybod yn eithaf da ar y pryd eu bod trwy hyny yn troseddu deddfau mwyaf cys- segredig moesoldeb a chrefydd. Dallir y creadur- iaid hyn i'r fath raddau gan obaith ffafrau darfod- edig arglwyddi a phendefigion y ddaear, a gwobrau halogedig budr-elw, fel y maent yn myned yn ddigon rhyfygus i anturio i'r gwddf a'r gwirionedd < ei hun. 'I Ond, foneddigion, tra na ddisgwyliem i'r clepgwn cyflogedig hyny a adnabyddir fel jackf/lk, ilieolaidd y I ilewod Toriaidd fod yn ddistaw a pheidio cyfarth ein gwron Hiraethog ar yr achlysur presenoL 3 Rhaid i ni erfyn eich caniatad i ddatgan ein syn- dod at ymddygiad gwasaidd dau neu dri o ddynion 3 cyfrifol a broffesent bob amser eu bod yn mhlith arweinwyr dewraf y blaid Ryddfryclig yn ein Ainas. I Y mae ymddygiad rhyfedd ac anesboniadwy y bon- eddigion hyn yn gyfryw, fel y mae yn hen bryd bellach i rywun siarad a hwy yn blaen a diamwys. Y mae yr ymdrech feiddgar a wnaethant, trwy gyf- 3 rwng y newyddiaduron Seisnig a Chymraeg, o daii 3 eu henwau priodol ac hefyd o dan gochl ffugenwau, i gyfiawnhau troseddau politicaidd anfad Arglwydd ( Penrhyn, ac i warthruddo ei gyhuddwr gonest 0 ( Liverpool, yn galw yn uchel am iddynt gael eu dwyn t at hen far parchus anffaoledig public opinion, modd y 5 | gwypo'r cenedloedd pa un ai gwir ai gau eu tyst- I iolaetli. Y mae'r ffaith fod tri o Ryddfiydwyr ad- c I nabyddus dinas Bangor yndwyn'tystiolaeth i union- 11 1 deb a thegwch arch-Dori ein Sir, ac yn condemnio