Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Bit AEDEEXIIXAD XMWXAL.

OERDDOBIAETH YN POENI ElsEIDIAI'!

WYDDGRUG.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WYDDGRUG. Brwd, brwd, a sych, sych, y parha y tywydd yn y cymmydogaethau hyn. Ni chlywais erioed gym- maint o son am yi hin-wydr a'r wythnosau diweddaf. Y gwyn o hyd yw i fynu mae'r Glass yn myn'd,' ac os ceir ychydig gymmylau yn croni gan arwyddo gwlaw, gair penderfynyl pobl y Glass yw,—' Ni chawn fawr wlaw i fynu mae'r Glass o hyd.' Byddai llawer yn barod ar ol y fath sychder, i ymgymmeryc1 a chawod mor drom ag a sonir am dani yn rhamant Iarlles y Ffynon' yn yr hen Fabinogi Gymreig. Ond rhaid tawelu i'r Hwn a wnaeth ddeddf i'r gwlaw.' Ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi'r gwlaw* cynnar a'r diweddar yn ei amser.' Yr oedd dydd lau diweddaf yn ddiwrnod hynod yn ein tref, ddirn llai na dydd CLWB Y LADIS.' Nid wyf yn gwybod paham y gelwir y gymdeitlias ddarbodol lion i'r rhyw arall wrtli yr enw hwn. Pa un ai am fod ychydig o fenywod arianog yn aelodau anrhydeddus o liono, ynte oherwydd y gall yr ael- odau fod dijiyn yn annibynol yn eu hamgylehiadau pan nWW11 Ralweh, gan y cynhelir hwy o drysorfa y gymdeithas. Gwell genyf fi yr ystyr ddiweddaf. Wei, mae y Mold Ladies' Club,' wedi ei ffurfio er's llawer blwyddyn bellaeh, ac y mae mewn sefyllfa lewyrchus iawn. Mae disgwyl mawr am 'ddydd 1,1 y Gymdeithas hon yn mhlith y bobl ieuainc —yu aelodau ac heb fod yn aelodau,—a gellir dyfod i'r easglad naturiol, fod j Mantua a'r Dress* maker mewn galwad mawr am ddyddiau cyn y dydd pwysig; a gwae y maelwyr os na fydd ganddynt ddigon o gyflenwad o ribanan, artificials, a'r nifer faith na wiw i mi feddwl eu henwi, a ystyrir yn an- hebgorion 'turn out' iawn. Ac nid digon hyn eto, oblegid teneuir dewisol flodau y gerddi amgylch- ogylch y dref, er cael blodeuglym i'w gosod ar beny gwialenau (wands) ydynt yn cael eu cario gan bob un. A dyweyd y gwir, golygfa brydferth ydpv yr orymdaith hir o'r ystlen deg wedi eu gwisgo yn uchder y fashion, a sypynau o flodau teg natur uwch y pen. Wrth edrych i fynu at y rheng, gellir tybio fod llwyn symmudol o flodau o flaen y llygaid: yr hyn a arweinia un i feddwl am goedwig Bimam yn symmud i Dunsinawl,' yn 'J\Iaebeth' Shakspeare. Blaenorid yr orymdaith eleni gan seingor y cartreflu, ae ar en hoi hwy yr oedd y Parch. Jenkin Dayies, vicar y plwyf, ei gurad, Mr James, ac eraill. Yr arferiad ydyw myned i Eglwys y plwyf, i gael pregeth, yr hon a draddodid eleni gan y Parch. R. J. James, yrhon a ganmolir gwelaf gan Chronicle' Caer. Ar ol vbregeth eir i Neuadd fawr Marehnad y Groes, lie y ceir cyflawnder o de a bara da, dar- paredig dan olygiaeth Mrs Roberts, gwraig ysgrif- enydd medrus y Gj-mdeithas. Ar ol yr ysgaf'n-bryd hwn, a y rhan ieuanc o'r aelodau i ddawu^io ar garped gwyrdd yr hen Feili. Mae rhyddid i'r cy- hoedd i fyned yno ac i'r te deallwn am yr hyn y telir swllt, a cheir tocyn. Dywedwyd wrthyf fod 34p. wedi eu derbyn am docpiau "eleni. Tery y band i fynu y tonau dawnsio, a bydd yn synimiidfa hynod yn y fan. Mae l'hai hen bobl yn dwrdio y dawaisio yma yn erwin ar ol y bregeth, a dywedai un hen wreigan eleni ddiwrnod cyn yr wyl,—' Mae yn siwr o lawio fory welwch cliwi, i gospi y merched yna sydd yn myned i ddawnsio ar ol bod yn yr Eglwys,' ac yn sicr pe buasai gwlaw wedi dyfod y dawnsio fuasai wedi ei ddwyn i lawr. Nid oedd logic y chwaer yn dda iawn. Gwneud drwg er cael da fuasai hyny. Ofnwyf fod y bobl ieuanc yn myned yn rhy bell, ac nid ydyw y grechwen, vr yfed, a'r ysgafnder, mewn un modd yn gydweddol a' Uawen- ydd yr efengyl. Ni allaf fi ^eled wrth ddarllen fy Meibl fod y fath gynnulliad ag a geir ar ben v Beili bob blwyddyn mewn un modd, yn gosod allan amcan dawnsio—amlygu llawenydd am fenditli— newydd da—gwaredigaeth—ac yn mlaen. Nid oes llawer o hyn yn nawnsfanau yr oes hon. Ond heb son am hyn y mae canlyniadau y fath gynnulliadau i yn fynych mor ofidus a diraddiol fel y mae sail gref 1 i ammheu cyfreithlondeb Dawnsiau cylioeddus. Am ] Glwb y Ladies,' pa fodd bpiag, mae yn haeddu j pob cefnogaeth. Talodd t Y PARCH. DAVID PEIC H, J gynt o Ddinbych, ymweliad a'n tref ddydd Gwenev, ] braidd yn amiisgwyliadwy. Ymddengys fod llythvr wedi dyfod i'r dref ryw bryd cyn y Sabbath am ei < ddyfodiad, ac anfonwyd y cyhoeddiad' i gapeli'r ) dref 'rwy'n deall i ddyweyd y byddai yr hen Gymro 1 twym-galon yn traddodi darlith ynghapel yr Auni- bynwyr, nos Wener, ar Abraham Lincoln.' Yr J oedd yn dda gan lawer glywed y newydd yn ddiau, ] a daethant yno yn brydlawn. Dywedai hen cliwaer yn perthyn i'r Methodistiaicl wrtnyl « 0 gobeithio y ca'i fod yn ddigon cryf i ddwad i wrando Mr Price, Penybont, nos yfory, un o'r wlad acw ydio welwch chwi, 0, mae yn dda geni am dano.' Ac felly mae gyda phawb rywfodd am y dyn yma. Oni j allai roddi receipt pa fodd i fod yn gynimaint o far- ourite. Mae rhywun yn y TYST, 0 wythnos i wyth- nos, yu addaw dyweyd How to gain the afections,' am ddeuddeg llythyr-nod. Fe fyddai yn well genyf ymddiried i gyfferi yr Hen Brice nag i eiddo D.' y TYST. Yr oedd yn dda genyf gael Mr Price yn edrych yn well, nag yr arweiniwyd fi i feddwl gan adroddiadau. Gwir ei fod wedi tori Ilawer, ond ni welwn lawer o arwyddion henaint. Rhaid, pa fodd bynag, i mi gyfaddef na chefais gyfleusdra teg i gael golwg ar ei lawn wynebpryd o herwydd y spectols' mawr, i'm meddwl i, a wiagai yn ystod traddodiad ei ddarlith. Yr oedd y ddarlith pi ddifyrus ac addysgiadol, er ymddengys mai ryw ran a gawsom, ond yr oedd yn ddigon i wr sydd pi llafurio mor galed dan radd o wendid ar noson mor [Ilos yn mis Gorphenaf. Hyderaf y bydd ei ymweliad a gwlad ei dadau' yn adgyfnerthiad iddo. A fyddwch chwi cystal ag anfon fy niolch i NID NOMIVAGUS-I)UW CWSG,' am anfon gyda'r wires am gyflenwad o Hottentotiaid i edrych ar ol aflonyddwyr ar heddweh cymmanfa- oedd a sassiynau. Bydd hyn yn llai costus i'r wlad na'u hanfon i Africa i ddysgu moesgarweh.

DIAL AB FFENESTE.

SOAR, LLANTRISANT.

Y NAILL BETH A'R LLALL.

[No title]

Cyfarfod Etholiadol yn Harlech.

Family Notices

[No title]

Y FASNACH YD.

ANIFEILIAID.

MARCIJNADOEDD SEISONIG.

MASNACH MARCHNADOEDD CYMREIG.

[No title]

ARGLWTDD PENRHYN A'l YMOSODWYB-