Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
YR HEN DEILIWR.
YR HEN DEILIWR. 4 LLYTITYIt XXVIII. Storm yn y Plus, Wedi i Robin y Glep fyned ymaith gyda'r llythyr dododd morwynion y Plas eu penau yn nghyd i ddyfalu ynghylch tebygolrwydd gwir- ionedd y stori fod eu meistr ieuanc ar fyned i briodi. Pwy allasai yr un ddedwydd fod ? rhyw foneddiges o waed uchel a chyfoeth mawr yn ddiau. Nid oedd un yn y wlad hono, nac yn Nghymru chwaith, yn deilwng o hono yn eu bryd hwy. Ar ganol eu cynghor daeth gwraig cllawd o'r gymmydogaeth a fyddai yn arfer gwneud negeseuau dros y ty, i mewn atynt. Holodd y merched hono, a glywsai hi ddim son bod eu meistr ar fyned i briodi ? Mi glywais fod Robin y Glep, byddant yn ei alw fo, yn dweyd rhywbeth felly,' eb y wraig. Oedd o'n dweyd pwy ydi hi?' gofynent. Miss Evans yr Hafod Ganol, meddai Robin,' ebe hi. Cod- odd y merched eu dwylaw mewn syndod, 'Miss Evans!' meddai un, Mary Evan meddai y Hall. Hono !'meddai y drydedd, Nonsense,' meddai un arall. 'Robin sy'n dweyd,' meddai'r wraig, a does fawr o goel arno fo wyddoch.' I Be naeth i Robin feddwl erioed am y fath beth ?' gofynai un o honynt. Dyna'r sail oedd ganddo,' atebai'r wraig, bod y gwr bon- eddig yn arfer galw yno dair gwaith neu bedair bob -,Nytlinos,-meddai fo.' Pwy ddigwyddodd fod yn clywed yr holl ymddyddan o'r tu ol i dclrws y gegin, ond yr hen wraig foneddig ei hun. Cythruddodd yn ddirfawr, ond ciliodd yn ei hoi i'r parlwr yn ddistaw a chadwodd y cwbl iddi ei hun. Is it possible meddai ynddi ei bun. No, it can't be,-but I must make inquir- ies. Surely, it can never come to that.' Cyfeiriodd Robin tua'r Plas y bore dranoeth gyda'r llythyr oddiwrth y gwr boneddig yn y dref. Archodd y foneddiges am i Robin ddyfod ati i'w hystafell; parodd iddo eistedd i lawr; ac wedi derbyn a darllen y llythyr, :trodd at Robin gydag edrychiacl digofus, a gofynai, Pe chi'n deyd am y mab fi, hyd y glad yma ?' Y fi'n ddweyd am y gwr boneddig ebe Robin, ddweydes i ddim 'rioed amgenach na da am dano fo, na'i achos chwaith: mae pobol yn meddwl y gallan nhw ddeyd y peth fynon am dana i!' Chi cymyd gofal chi deyd y gwir wrtha i, Robert,' ebai hithau Taru chi dim deyd bod Edward (ei mab) yn myn'd i priodi lodes yr Hafod Canol?' I Na ddeydis i 'rioed y fath beth, mi na lw,' ebe Robin. Wel, taru chi dim deyd bod o'n galw ono tair ne peder cwaith pob wthnos 'nte ?' I Wel, hwyrach i mi ddweyd cymmaint a hyny, ond doeddwn i'n meddwl dim drwg o hono fo, ac yn wir,' eb efe drachefn, yr oeddwn i meddwl un- waith am ddweyd hyny wrthych chwi eich hun, ond mi feddyliais wed'yn nad oedd o ddim o musnes i.' Tim o'ch bisness chi deyd o wrth neb arall, siwr, mae o'n bisness i mi. A chi'n deyd fod Mistar Edward yn calw yn'r Hafod tair ne peder cwaith yn 'rwthnos ?' Mae hyny yn peth mae pawb yn y wlad yma'n ei wybod ac yn ei ddweyd cystal a minau, Madam,' ebai Robin, ond toes neb yn meddwl, am a wn i, dydw' i ddim beth bynag yn meddwl, bod gan y gwr boneddig feddwl yn y byd o'r lodes, ond dall o alw yn y fan fyno fo, ran hyny.' Yd- ach chi siwr bod o'n galw ono felly, dyna'r cwbwl sy arna i eiso cwbod gyno chi. Wel, ydw, Madam, yn ddigon siwr o hyny, mi gwel- ais o myn'd ac yn dwad ono laweroedd o weith- iau a'm llygaid fy hun.' O'r gore, toes arna i eiso dim chwaneg.' gynoch chi, dyma i chi han- ner coron am fyn'd trosta i'r tre doe.' Wedi i Robin fyned ymaith, galwodd y lady holl ferched y ty ger ei bron, a holodd hwynt mor fanwl ac yr holodd Herod y doethion gynt, yn nghylch y stori am eu meistr, ond nid oedd ganddynt ddim rhagor i'w ddywedyd nag a n glywsai hi ei hun y wraig hono yn ddweyd wrthynt, pan oedd hi'n gwrando o'r tu cefn i'r drws, ond sicrhaent iddi nad oedd dim yn y stori, na buasai ei meistr byth yn edrych ar eneth fel Mary Evans. Yr oedd yr eneth yn burion,' meddent, ond ddim yn amgenach na rhyw eneth arall, o'i sefyllfa; ac am ei theulu, pobl wladaidd gyffredin iawn oeddynt, ond mai dynes erwin oedd eimam, &c.' Yr oedd y boneddwr ieuanc oddicai-tref er's deuddydd neu dri, ond yr oedd i ddychwelyd y diwrnod hwnw. Yr oedd ei fam yn parotoi ar ei gyfer,—yn hogi ei chleddyf, ac yn trefnu ei pheirianau i ymosod arno. Daeth adref yn yr hwyr, a gwelodd yn union fod arwyddion storm i'w canfod ar aeliau ac wynebpryd, a llygaid ei fam. Amheuodd beth oedd yr achos. Gan gynted ac y cafodd hi yr ystafell heb neb ond hwy eu dau ynddi, dechreuodd ymosod arno, gan dywallt ei theimladau digofus yn 0 gawodydd am ei ben. Troai yntau y cwbl yn gellwair. Chwarddai yn ei hwyneb, yr hyn a'i cynhyrfai hithau yn waeth. Yr oedd yn gyw- ilydd ganddi hi feddwl fod ei mab hi yn gwneyd son am dano drwy sylwi ar lances wleclig, vulgar, ignorant, fel merch yr Hafod; pan y gallasai gael merch un o bendefigion y deyrnas yn wraig. Yr oedd yn beth annioddefol iddi hi i feddwl fod i waed eu teulu anrhydeddus hwy gael ei halogi elrwy ei gymysgu a gwaed pobl gyffredin.' Methodd yntau a llywodraethu ei dymer yn y man: a dywedodd na wrandawai ddim chwaneg arni yn difrio Miss Evans. Y mae hi yn gyslal lady a chwithau bob dydd,' meddai, a medr actio y lady yn well nag y meclrech chwi erioed. A waeth i mi ddweyd y cwbl i chwi ar unwaith i gael pen ar y mater,' ebe efe, gan gau ei ddwrn, a rhoddi dyrnod ar y bwrdd nes oedd aelodau hwnw pi gwegian dan ei bwys, Mi fynaf gael Miss Evans, cost ied a gostio. Ni phrioda i byth, os na phrioda i hi, cymerwch y ngair i ar y mater,' ac ymaith ag ef. Bu yr hen lady o'r naill fit i'r llall, i'r hysterics trwy y nos hono. A mawr oedd helynt y gweinidogion yn feibion a merched gyda hi hyd y bore. Ymneillduasai Mr. Edward i'w lyfrgell ar ol y ffrwgwd gyda'i fam; aeth un o'r gweision ato, i ofyn ai ni fuasai yn well anfon brys genhadwr i'r dref i ymofyn y meddyg? 'Na, gadewch iddi,' ebe efe, 'hi a ddaw ati ei hun erbyn y bore.' A rhoddodd gyfarwyddiad- au iddynt i weinyddu ami. Deallasai y gwein- idogion beth oedd y mater, a chydymresymu y buant arno bob hamdden a gaffent y noson hono. Yr oedd Robin yn ei le wedi'r cwbl,' meddent. 'Ond pwy fuasai'n meddwl? pwy allasai goelio ? Beth sydd wedi ymwel'd ag ef ? Y fo briodi merch yr ^Hafod! A fu 'rioed fath beth o'r blaen, es pan mae'r byd yn fyd!' Os daw hi yma, ni arosa i ddim yma i fod dani hi am fynyd,' meddai un; Na finau,' meddai un arall, Na finau chwaith,' meddai y drydedd; Ni arosai neb yn ei sens,' meddai y bedwaredd Mi aroswn i'n wir,' ebai y burned, Mi fyddai'n dda gen fy nghalon i pe tae Meistr yn priod Miss Evans, chaiff o byth well gwraig, ac ni chawn ninau byth well meistres.' Bu rywyr i hono druan hel ei charnau a dianc- ymaith, yr oedd y merched ereill am ei llarpio. Yr oedd y meibion yn edrych yn fwy pwyllog ac athron- yddol ar y cwestiwn, na'r merched. Yr oedd y peth yn ymddangos yn chwithig iawn yn eu golwg hwythau; ond caniataent ei bod yn iawn a rhesymol i'w meistr, fel dyn arall, gael ei ryddid i briodi y neb a fynai, mai ei fisnes ef oedd hyny, &c. Wel, y mae yn iawn, ac yn bryd i minau derfynu y llythyr hwn bellach. HEN DEILIWIL
BETH WELAIS I YN LLUNDAIN.
BETH WELAIS I YN LLUNDAIN. fParhad o'r rhifyn dkceddaf.) Wedi gweled a chlywed y prynu a'r gwerthu, y pregethu a'r areithio yn y New Cut, cyfeiriasom ein camrau tua chapel mawr Mr. Spurgeon. Gan ein bod yn myned heibio eglwys gadeiriol y Pabyddion, ac nad oeddem erioed wedi gweled un mor fawr a hono, troesom i fyned i mewn: ond gyda ein bod wrth y drws, dyma ddau offeii-iad mewn gwisgoedd swyddogol, a math o gawg neu fowlen anffurfiol yn eu dwylaw, yn sefyll un o bob ochr i'r drws ac yn ein hanerch, 'High Mass to-day.-Three pence each gentlemen, for going in.' Gan i ni sefyll am foment i syllu arnynt, ail gymellwyd ni i dalu y tair ceiniog, mewn ton dra thebyg i'r hyn a glywir gan feddian- wyr peeping show ar ddiwrnod ffair. Gwr go ffraeth oedd fy arweinydd, a themtiwyd ef i atteb mewn ymadroddion lied ddiseremoni, tra y cymellid ni i dalu y tair ceiniog—'Yes, and three pence more, and up goes the donkey. Synwyd yr offeiriaid gan y fath anfoesoldeb; ae aethom ninau i'n ffordd gan sibrwd wrth ein gilydd, 'dyna ffurf o Gristionogaeth sydd yn gwneud crefydd yn wawd a dirmyg i'r byd digrefydd.' Pan gyrhaeddasom Y Tabernacl, yr oedd yr oedfa wedi dechreu, a chawsom y drysau yn gauedig- Ymddengys ei bod yn arferiad yma i gau y drysau tra y byddis yn darllen ac yn gweddio, felly rhaid i'r rhai a ddeuant yn ddiweddar aros oddi allan hyd ddiwedd y weddi. Cynllun rhagorol ydyw hwn. Dylid gwneud hyn yn holl gapelau Cymru. Teiml- ais lawer gwaith pan yn ceisio darllen a gweddio yn nghanol swn a chyffro dynion yn dyfod i mewn i'r capel, nad oedd y darllen a'r gweddio, er ei fod y rhan bwysicaf o'r addoliad, mewn gwirionedd ddim gwell na gwatwar y Creawdwr. Dylid cael diwyg- iad yn hyn. Pe digwyddasai i mi fod yn weinidog yn Nghymru buaswn yn sicr o wneud un o ddau beth-naill ai can y drysau fel Mr. Spurgeon, neu ynte, bregetliu yn gyntaf a diweddu trwy ddarllen a gweddio. Nid rhaid i mi ddesgrifio capel Mr. Spurgeon, na'r pregethwr, na'r gynulleidfa; digon yw dywedyd ei fod yn orlawn o bobl yn gwrandaw yn y dull mwyaf astud. Cawsom bregeth addysgiadol a nerthol. Teimlem yn well ar ol bod yno. Dyna agwedd o Gristionogaeth tra gwahanol i'r agwedd Babyddol. NidpecjJing show i ddifyru plant, a gwneuthur arian o honi, ond cyfundrefn. syml o foddion i oleuo deall a deffroi a phuro cydwybodau dynion. Ymddengys crefydd yn ogoneddus yn ei symledd, ond yn ddir- mygedig pan wedi ei gorchuddio a defodau i ddifyru a boddhau llygaid a chlustiau, a swyno teimladau moesol dyn nes ei ddallu. Yn y prydiiawn aethom i wrando dwy bregeth Gymreig; ni ddyweclaf ddim am y rhai hyn. Wrth ddychwelyd i Holborn i de, gwelem dorf o bobl yn sefyll bob ochr i'r heol yn agos i eglwys St. Andrew. Cofiais yn y fan weled hysbysiad ar y inuriau fod Esgob Llundain yn rhoddi bedydd esgob (co)ifii-iiia- tionj yno ydiwmod hwnw. Wedi sefyll am ychydig fynudau, gwelem gryn nifer o ferched ieuainc mewn gwisgoedd gwynion, yn dyfod allan o'r eglwys mewn ffurf o orymdaith, a chan bob un o honynt orchudd gwyn drosti, o'i phen i'w thraed. Yr oedd- ynt oil wedi cael bedydd esgob. Cyhoeddwyd yn ddifrifol gan brif weinidog yr eglwys sefydledig yn Llundain, uwch ben pob un o honynt, eiriau yn gosod allan ei fod yn cyfranu iddynt yr Ysbryd Glan. Derbynid hwy gan eu cyfeillion, a gosodwyd y rhan fwyaf o honynt mewn cerbydau i fyned adref. Gyda hwy hefyd gwelsom gryn nifer o offeiriaid yr eglwys, oil yn eu gwisgoedd swyddogol, ac yn ymddangos "0 11 mewn rhwysg mawr. Dyna agwedd arall ar Grist- jonogaeth.—Agwedd swyddogol a rhodresgar. Ac wrth edrych ar yr olygfa nis gallaswn lai na dywed- yd wrth fy iighyfaill na buasai dim yn fwy tebyg o wneuthur anffyddiwr o honwyf, pe na buaswn yn hyddysg yn ngwirioneddau yr Efengyl, na gweled arcldangosiadau fel hyn o grefydd y Gwaredwr. Nis gallaf synu fod cymaint o'r dosbarth gweithiol ag ydynt yn bamu crefydd wrth yrhyn a welant fel hyn, yn dysgu gwawdio yn hytrach na chredu yr Efengyl. Nid rhodres, a rhwysg, a swyddogaeth sydd ar ddynion eisiau, ond gwirionedd syml, mewn geiriau a gweithrecloedd. Y Phariseaid oedd yn caru rhwysg; symledd oedd nodwedd Crist a'i ddis. gyblion. A mwy o hyn sydd eisiau eto. Ar ol te aethom i Field Lane Ragged Sohool. Nid ydyw hon yn mhell o Holborn, yn nghanol poblog- aeth luosog, hynod am eu tylodi, anwybodaeth, a'u llygredigaeth. Gan y bwriadwyf ddywedyd gair am yr ysgol ryw dro arall, ni wnaf yn awr ond cryb- wyll yr hyn a welais mewn un ystafell, er gosod allan agwedd arall o Gristionogaeth. Y mae yr adeilad yn bur eang; gall tua mil o bobl eistedd yn gysurus yn yr ystafell uwchaf ynddo. Adeg yr ysgol oedd pan aethum yno, ac nid oedd yr ystafell yn llawn fel y gwelais hi ar adeg arall. Yr oedd yno modd bynag rai cannoedd o blant a phobl mewn oed. Tynwyd fy sylw yn neillduol at dri dosbarth o ddynion: yr oedd o ddeg i bymtheg yn mhob un o honynt. Edrychai y rhan luosocaf o honynt yn hagr ac anifeilaidd. Yr oedd nid yn unig tlodi wedi eu darostwng, ond llygredigaeth hefyd wedi eu lian- urddo i raddau pell iawn. Wedi iddynt ymffurfio yn ddosbarthiadau, ymgymerodd tair dynes ieuanc, parchus a boneddigaidd yr olwg arnynt, a'r gwaith o'u dysgu. Syllais a gwrandewais arnynt am beth amser er gweled pa fodd y llwyddent. Buan y gwelais eu bod yn berffaith gymwys i'r gwaith. Tra y darllenent ac yr esbonient yr ysgrythyrau, gwrandawai y dynion carpiog, hagr, ac afrywiog hyny fel pe buasai pob gair yn berl. Dyma Grist- ionogaeth yn ei gogoniant yn y fan hon. Yr oedd gweled y tair boneddiges ieuanc hyny yn nghanol y fath bobl, ac yn dysgu iddynt ffordd iachawdwriaeth mewn dull mor syml yn rhagorach na dim welais yn Llundain. Edrychent fel angylion yn treio arwain dynion o'u trueni. Gwyn fyd na welid mwy o'r agwedd hon o Gristionogaeth trwy y byd. Gadawaf y darllenydd i dynu ei gasgliadau a'i wersi oddiwrth y golygfeydd hyn. Cydmared Gristionogaeth yn y gwahanol agweddau a grybwyllwyd, a diau genyf y gwel mai pan yn syml a dirodres, yn ymgais am wneuthur daioni, ac i symud anwybodaeth a thrueni dyn, yr ymddengys iddo ef, fel i minau, yn fwyaf tebyg i'r Hwn a aeth oddiamgylch gan wneuthur daioni.. J.
BETH AM Y RHIFYN DIWEDDAF…
BETH AM Y RHIFYN DIWEDDAF ? Y mae hyn i'w ddyweyd am dano, fy mod i wedi ei ddarllen drwyddo, ac wedi rhyfeddu eich bod chwi a'ch gohebwyr yn cael hwyl i ysgrifenu mor dda ar y tywydd poeth yma. Cymmerwch galon. Tra y dalioch chwi i roddi enaid a chorph mor dda i'r TYST, ni chollwch eich gwobr. Y mae llythyr Dr Rees at Mr Gladstone yn fwy dywedol na nemawr un o'i flaen-redyddion, ac y mae yn ddrwg genyf weled y gyfres attyniadol yn terfynu. Dywedai llu ar y dechreu fod y Dr o flaen ei adeg wrth gyhoeddi y llythyrau hyn, ac y bydd rhywun yn y Senedd yn gwneud defnydd o'u cyn- rhywun yn y Senedd yn gwneud defnydd o'u cyn- nwysiad. Yr oedd yr awdwr talentog yn rhy hunan- ymwadol i addaw y fath anrhydedd iddo ei hun wrth eu hysgrifenu. Y mae Dr Rees yn cael ei gyfrif yn awdurdod yn mysg ein gelynion; nid rhyfedd fod ei eiriau yn creu y fath gyffro yn eu plith. Y maent yn clywed swn ei gamrau yn nesu i Feirion y dydd- iau nesaf, ac yn teimlo yn bryderus am y canlyniad- au. Buasai yn dda genyf pe buasai y cysodydd o fewn cyrhaeddiad fy nwrn pan yn gosod y llythyr- enau hyn yn nghyd,—' I was not so vain as to think that I could say anything new on the subject to YOlt who is so well versed,' &e. One, ac nid 'you' yn ddiau a ysgrifenodd yr awdwr. Mi glywais fod pobl Sir Ddinbych yn"mwy na hanner bwriadu dyfod a'r Doctor allan fel ymgeisydd yn erbyn Syr Watcyn! GOGONEDDUS Byddai mor debyg i enill yr eisteddle ag un dyn yn y byd. Pa sut y daliai efe y dyrchaf- iad ? Y mae gohebydd 'Liverpool a'r Cylchoedd' mewn hwyl well nag arferol. Ni feddyliais erioed y gallai efe ffraeo mor ddoniol! Y mae John Roberts, Brad- ford House, fel llygoden dan balfau y gath yn nwy- law eich gohebydd. Pa beth yw eich gohebydd o Bryste ? Y mae yn gydnabyddus a 'Milton a beirdd'a llenorion enwog Seisnig eraill.' Nid rhyfedd gan hyny ei fed yn ergydio crachfeirdd y dywysogaeth pan yn cys- tadlu mewn eisteddfodau,' a'r I Jacks er ys talwm.' Y mae defnyddiau gohebydd da yn y brawd hwn. Y mae pbbl y gweithfaoedd yn cymmeryd gryn lawer o ddyddordeb yn Bryste. Hi yw eu Lerpwl hwy. Diolch yn fawr i Mr Evans, o Langollen, am ein dwyn wyneb yn wyneb a'r hen Richard Jones, Llwyngwril. Y mae yr hen frawd yn nghyd a'r urdd neillduol i ba un y perthynai wedi myned! Disgwylid am ei ymweliadau fel tymorau y flwydd- yn. Ni welais ddyn erioed mor awyddus ag ef i ddeall y Beibl. A oes gan rywun ddarlun o hono ? Anfoned ef i Thomas' Cambrian Gallery, St. Anne- street, Liverpool. Y mae yr erthygl a gyfieithwyd o'r London Review yn ddyddorol yn ei ffurf gyntefig i'r Saeson o waed uchel a gwybodus.' Yr ydym ni yn hen gydna- byddus' a defnyddiau yr ysgrif, ac nid yw yn ddrwg genym weled gwasg y Saeson yn en cymmeryd i fynu gyda dyddordeb. Buasai mwy o gydnabydd- iaeth a Chymru, Cymry, a Chymraeg yn rhoddi mwy o fin ar rai o?r sylwadau. Beth am Gwynn Vaughan P Y mae y dull hwn o ysgrifenu yn cymmeryd yn dda gyda dosbarth o ddarllenwyr. Y mae dau beth yn hanfodol i gadw dyddordeb mewn erthyglau o'r cymmeriad hwn, sef talent ddisglaer, a gochelgarwch rhag gormod o'r ,a personol. Y mae yr awdwr yn werth cadw llygad arno. Y mae beirniadaethau Gwilym Gwent a John Jones, Llangiwc, yn ddyddorol i'r ymgeiswyr. Un golofn yn ddigon at wasanaeth beirniadaeth ar gyf- ansoddiadau man gyrddau lleol. Y mae y Newyddion Cymreig cystal a'r hyn a geir yn gyffredin mewn newyddiaduron. Bydd yn dda gan filoedd o'ch darllenwyr dclarllen hanes y cyfarfod diwygiadol yn Nghaernarfon. Y mae y drychfeddwl fod gobaith am ymgeisydd rhyddfrydol i sefyll dros y sir yn rhoddi ysbryd newydd yn yr Arfoniaid. Y mae dylanwad y Penrhyn, a'r tir- feddianwyr Toryaidd, wedi cael ei gyfrif yn rhy hir fel peth anorchfygol, ond yr ydym yn deall nad yw sefyllfa achos Rhyddid islaw rhoddi gobaith am fuddugoliaeth yn yr ymdrechfa agoshaol. Y mae anerchiad Henry Richard at etholwyr Merthyr, &c., yn profi tu hwnt i ddadl mai efe yw y dyn i fyned drostynt i lys St. Stephan. Bydd yn warth annileadwy ar Ymneillduwyr lluosog y lie hwnw os na ddychwelir Mr Richard gyda mwyafrif mawr ar ddydd yr etholiad. Pa fodd y gall un Anghydffurfiwr cydwybodol atal ei gefnogaeth i'r fath ymgeisydd ? Y mae Arglwydd Penrhyn, Thomas Lewis, Fron- deg, a John Roberts, Bradford House, yn cymmeryd i fynu ran fawr o'ch rhifyn. Y mae llythyr Mr Roberts, Caernarfon, yn foddhaol, ac yn wers i J. R. ac eraill rhag gwneud awgrymiadau anfoesgar a di- sail. Y mae yn dda genym weled fod y gynau yn distewi yn magnelfau gwaseidd-dra. Da chwi, frodyr, peidiwch ag ymrafaelio tra y mae y gelynion yn cymmeryd mantais ar eich ymraniadaul Ym- roddwch ag un galon ac un ysgwydd i barotoi erbyn yr etholiad nesaf. Sefwch fel dynion dros eich hegwyddorion. Y mae llythyrau eich gohebwyr ar y cyfan yn dda. Y mae y chwaer Gymreig sydd yn ysgrifenu o wlad yr addewid yn teilyngu darlleniad. Y mae eu llythyrau yn arwyddo talent a chrefyddolder. Yr wyf yn rhoddi heibio fy ysgrif-bin rhag blino eich darllenwyr a meithder. Yr wyf yn llawenhau yn eich llwyddiant. Ewch rhagoch at berffeith- rwydd. CEAFFWE.
. EISTEDDFOD GWEPvNOGLE. --
EISTEDDFOD GWEPvNOGLE. BEIRNIADAETH AR Y TESTUNAU BARDD- ONOL, GAN ERYR GLYN COTHI. 1 Englyrdon er cof am y diweddar Evan Beynon, Capel-Sant-Silyn, Gtvernogle Derbyniwyd pedwar cyfansoddiad ar y testun hwn, yn dwyn y ffugenwau-Hiraetlilawn, Llwydfardd, Powys Fardd, a Plorator. Hiraethlawn.—Englynion gwael iawn, a rhai llinellau yn cynwys hen gynghaneddion; mae ynddynt feiau Cerdd-dafod, heb son am wendid rhai llinellau, yn nghyda thwyll-odlau. Er engraifft:— Diniwaid a llawn daioui—addfwyn Oedd Evan anwylgai; A'i feddwl'n ymfoddlo/- I drefniad ein Ceidwad cu.' Dealled Hiraethlawn nad yw 'anwyl^?«' a 'dai- 0ni' yn odli mewn Englyn. Darllened ychwanegar y Drych Barddonol, ac efallai y daw i gerdded yn hualau D. Ap Edmwnt gyda mwy o rwyddineb erbyn y tro nesaf. Llwydfardd.—Englynion uwch mewn teilyngdod, yn dangos llawer o fedr a thalent yn yr awdwr; er eu bod yn cynwys rhai llinellau gweiniaid. Ceir y cynghaneddion yn gywir yn yr oil o honynt; ond nid ydym yn deall meddwl yr awdwr yn esgyll yr Englyn olaf Gyda'r llu a gwyd o'r llwch, I frodyr teg hy fry dwell.' Pe buasai llai o nifwl a chaddug- o amgylch y medd- wl yn ei linell olaf, cawsai Llwydfardd yr ail wobr, am hyny, rhaid iddo ymfoddloni hebddi y tro hwn, yn unig o ddiffyg eglurder. Powys Fardd.—Englynion da iawn ar y cyfan, hollol reolaidd mewn cynghanedd ac odl; wedi eu sillebu yn gywir, gyda'r eithriad o un gair; nid wyf yn ystyried er hyny eu bod yn rhagori dim ar eiddo Llwydfardd (os nad yr un ydynt), ond eu bod yn fwy eglur a dealladwy. Ymrodded Powys ati gydag egni; gall ddyfod yn Englynwr galluog os oes bywyd ac iechyd iddo.—Efe bia yr ail wobr. Polator.—Dyma yr Englynwr, ffraethlym a med- rus, cyfarwydd mewn teithi, iaith, a granunadeg; ac nid ymddengys ei fod yn teimlo un anhwylusdod oddiwrth y gynghanedd na'r odl; rhodia a rheda yn rhydd; heb mi arwydd 0 Hinder na chloffni. Dywed— 'O'i benyd yr aeth lieyuon,— Er gloes hir i Eglwys lox.' Eto, wrth ddarlunio Evan Beynon yn ei farwolaeth, dywed:— 'Ei enaid ro'i naid i'r nen—i lanau Ardal lonydd Awen.' Os ieuanc yw yr awdwr, prophwydem iddo gyfnod heulog yn y dyfodol fel Englynwr. Eiddo Plorator yw y wobr fiaenaf. liraivdgarivch.' Cyfansoddodd wyth ar y testun hwn, ac wrth olygu teilyngdod cymhariaethol y cyfansoddiadau, yr wyf wedi dyfod i'r penderfyniad i'wrhanu yn dri dosbarth. Yn nosbarth y trydydd rhoddir Dewi Rhagfyr, Glan Menog, ac Ap Brawdol. Dewi Rhagfyr.-Rhaid i mi gyfaddef nad yw hon ond rhigymau sychion ac anfarddonol. Canfyddir yn eglur oddiwrth y llinell flaenaf nad gwiw disgwyl pethau gwychion oddiwrth feddwl mor anaeddfed ac anhyddysg mewn teithi barddonol. JRhagfyr oer yw hi ar awen yr awdwr hwn, a phan daw y gwan- wyn, gellir disgwyl iddo ddeffro mewn llawn gwres a bywiawgrwydd; a chymdeithased yntau ddigon ag anian yn amrywiaeth ei golygfeydd, ac ar ol hyny efallai y ceir gwell ffrwyth ganddo y tro nesaf. Glan Menog.—Can ddigon cyffredin, heb ond ychydig os dim barddoniaeth o'i mhewn. Dywed am Frawdgarwch,— Brawdgarwch ywceubren y grefydd Grist'nogol, Mae'n dal yr hll ddynol mewn undeb rliagorol.' Buom bron credu ar y cyntaf mai cambren oedd yn ei feddwl, ond deallasom yn well ar ol hyny. Ap Brawdol.—Saif yn uwch mewn teilyndod na'r ddwy arall, ond nid yw hwn eto yn cael gafael yn y crebwyll a'r darfelydd bywiog wrth ganu ar destun mor ddymunol. Mae ei syniadau am Frawdgarwch yn grefyddol iawn, a chadwa ei olwg' ar y testun o'r dechreu i'r diwedd. Dosbarth yr Ail.—Llawdden ac Alexander. Llawdden.—-Gofaled hwn beidio defnyddio ffug- enw bardd a lienor o saile Mr Howells (Llawdden) y tro nesaf. Mae ei awen yn debyg iawn i adenydd yr estrys-nid yw yn ei godi na'i ollwng i lawr. Arwynebol yw ei gyfansoddiad, er ei fod yn sillebwr da, ac ysgrifenydd medrus. Ei brif feiau yw gwneud gormod o ddefnydd o ansoddeiriau hirwyntog, a chymysgu y lluosog a'r unigol mewn rhai manau. Priodola hefyd berarogl ffroenau i felusder gwin, yr hyn sydd yn wrthun i'r eithaf, ac yn ymylu ar an- syberwyd. Alexander.—Tebyg iawn i eiddo Llawdden mewn mesur a chynllun; ei linellau fynychaf yn ystwyth, gyda'r eithriad o dor mesur unwaith. Priodola yn- tau rinweddau anmherthynasol i Frawdgarwch ar brydiau. Llinell ryfedd iawn yw- I Y serch wiw rin-weddol ac ofangylei(ldiol., Cymmered hamdden i edrrh drosti; medr wneud can wech o hon os dewisa. Y dosbarth cyntaf.—Ap Daniel, Brawdg-arwr, a Pythias. I:> Ap Daniel.—Canig felus, mewn iaith gyffredin, heb fod yn rhy goeth na rhy isel i'w awen, sydd gan yr awdwr hwn. Peth gwrthun yw gweled drych- feddyliau barddonol mewn gwisg garpiog, a gwrthun hefyd yw meddyliau eiddilaidd mewn iaith dlos, a gwyddai awen Ap Daniel hyny ddigon da, ac ym- lwybrodd yn y canol rhwng y ddau eithafoedd; ond methodd enill y gamp y tro hwn, er ei fod yn ber- ffaith mewn odl a mesur, ac yn meddu ar lawer o ystwythder meddyliol. Brawdgarwr.—Gresyn fod un o dalent ac athry- lith hwn wedi gollwng cymaint o wallau pwysig i'w gan, yn unig o ddiffyg gofal! Ceir Frawgarwch dair gwaith ganddo mewn pedwar penill. Llinell drwsgwl i'r eithaf yw hon,— I Frawgarwch anwylaid! mae swyn yn dy enw •' J]rawdgarwch yw ei feddwl efallai, a dylasai ddyweyd hyny yn eglur. Ond er yr holl ddiffygion a nodwyd, mae cyfiawnder yn galw amom i ddyweyd fod yn y gan hon lawer llinell dlos a barddonol, J rhai a gymmerant eu darllen fwy nag unwaith he golli eu bias. Rhodder yr ail wobr iddo. Pythias.—Dyma ni yn awr yn awyrgylch rliyff fyd newydd, j-n cael ein hysbrydoli gan iaith 3 barddoniaeth fyw! Cyfyd awen hwn ei hesgyll uwch i uchelion y nef farddonol na'r un .o'i geiswyr. Yr ydym yn colli golwg ar y ddaear wrw1 ddarllen rhai llinellau yn y gan dlos hon! Dengf y lhnell gyntaf fod gan ei hawdwr lygad i wel^ anian, calon i deimlo anian, a glewder a faidd fyned ag anian.' Dywed ef am Frawdgarwch,— Ca(^H Ilhyw elf en bur o'r "Wynfa gain, | Cartrefle engyl llawn o swyn.' -t A diwedda gyda'r pedair llinell dlos,— I ■1 Beth yw Brawdgarweh ? Teimlad byw I VW7 Mewn brawd at frawd fo'n dlawd ei lun; Yr anian blanwyd gan ei Dduw Yn mronau'r engyl bob yr un.' Nid son am y dymunoldeb o gael brawdgarW mewn cymmydogaeth, yn yr Ysgol Sabbothol, ac Jf yr Eglwys wna ef, ond darlunio beth yw g^ frawdgarwch ynddo ei hun. Y mae yn arddango; meddwl cyfoethog, awen goeth, wedi ei dysgyblu1 raddau pell iawn. Gollyngodd yntau un gwall i'*4 gan er cystal ydyw, sef ysgrifenu garedigrwydd f garedrwydd.' Er hyny efe sydd yn hawlio y wo^ fiaenaf o ddigon. rr w barliau. J j ca c
Y PABCHEDIG DA YID PRICE YN…
Y PABCHEDIG DA YID PRICE YN Slg ac GAERNARFON. inui Mawr yw yr ymholi pa bryd y disgwylir Mr PriJ h1 i'r sir uchod. Da genym fod ein hen gyfaill yn lla'fl11 fwriadu dyfod. Y mae y trefniadau canlynol eisoef ro^H wedi eu gwneyd :—■ Gorph. 26, Mercher, Talysam—Cymanfa y sir. |1^H Awst 2, Sabbath, Caernarfon—Cyfarfod. „ 4, Mawrth, Llanberis. „ 6, Iau, Ebenezer. „ 9, Sabbath, Port Dinorwig—Cyfarfod. 11, Mawrth, Bethel—Cyfarfod. Caiff cyfarisoddwr y farddoniaeth doddedig hon Nis gallaf anghoflo Dinorwig yn Arfon, y Yr ardal lie sugnais y ltiui gvnta 'rioed, Iach lwybrau Llaniolen, a'r Wyddfa uchelfawr, Fu ganwaith yn gynhes dan wadn fy nhroed; Fel ewig y dringwn y moelydd i fyny, Yn iachus fy ngniddiau, yn wridog fy ngwedd Canu 'n iach a hotf froydd a bryniau hardd Cj-niru Sy'n anliawdd iawn imi, ar fin fy oer fedd. gan Wyr yr Eryri dderLyriiad ty wysogaidd, a chyf* ryw ag y bydd yn anhawddach ganddo ganu'11 iad> a ni yr ail waith hon nag ydoedd y tro cyntaf. Bydded yr ymweliad a hoff froydd a brynia« }n^H heirdd Cymru' yn foddion cryfhad i'w gorph ac ad* loniant i'w ysbiyd ef ei hun, ac yn fendith i eneidia11 llaweragdd o wrandawyr.—11. TV. Griffith, Bethel. ac
YMADAWIAI) Y PARCH. T. C.…
YMADAWIAI) Y PARCH. T. C. JONES b A MIDDLESBRO'. 1 Î{ Urddwyd y Parch. T. C. Jones, o Goleg AnnibynOl ca y Bala, yn weinidog ar eglwys School-Croft, yn )' dref hon, tua deng mlynedd yn ol. Yr oedd y achos yn hynod wanaidd ac mewn gwir angen aJ11 10 fugail y pryd hwnw. Ymafaelodd Mr Jones yn ei waith o ddifrif, a choronwyd ei ymdrechion a llwydd* 1) iant helaeth. Cafodd y fraint o roddi deheidatf w cymdeithas i lawer yn ystod ei arhosiad yma. Idd° ef hefyd yn benaf yr j'dym yn ddyledus am y cy»' ydd erfawr yn Stockton. Nid oedd yno ond rhytf 0 ddau neu dri yn cynnal cyfarfodydd gweddi yt1 y achlysurol mewn anedd-dai, ond erbyn heddyw, ceil" fe yno tua thri-ugain o aelodau, a chapel hardd i a a ymgynnull iddo. Ar ymadawiad Mr Jones oddi wrthym tua dett- i naw mis yn ol, gwnaed yindrech galed i gael tystel1 m deilwng iddo cyn ei fyned. Ond gan i ni gael ei*1 al^l goddiweddyd gan y strike hix-faeth hono, barnWJ'^ yn well ei gohirio nes y gellid cyfranu yn fwy teil' wng ati, a gwahodd Mr Jones yn ol i'w derbyn Ý pryd hwnw.—Ac wele ef wedi dyfod,—pawb yn ei g dderbyn yn roesawgar, ac yn ymfalchio wrth ddeal h^H fod 'awyr bur hwyr aboreu' yn Ngheredigion wed' ei adferu i'w iechyd a'i nerth cyntefig. a Nos Fawrth, Gorphenaf 7fed, ymgasglwyd School-Croft, er cyflwyno y dysteb i Mr JoneS- Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr W. Rheidol 81 Pierce (T.C.), yr hwn sydd ddyn ieuanc gobeithiol. Cafwyd annerchiadau gan Meistri Thomas Thomas, North Ormesby; David Davies (Dewi Alaw); Rhyi a Etna Jones; T. Thomas (Gwernllwynfab); WilliaB1 Griffiths; a George Griffiths. Siaradent oil yn uchel t iawn am Mr Jones,caninolent ei ymlyniad diysgog fel cyfaill, ei rodiad gweddus fel Cristion, a'i weith' garwch fel gweinidog. Darllenwyd llythyr oddiwrth Ib Mr J. Clarke, yn dadgan ei ofid am nas gallai fod b yn bresennol; dywedai nad oedd ond cystudd nett angeu allasai ei gadw i ffwrdd. Canmolai yntatf I- a gymmeriad Mr Jones yn mhob rhyw fodd. Canwyd y amryw alawon yn dra swynol gan Meistri T. Tlioral as (Gwernllwynfab), a David HowelLs, a'r gyimull' eidfa yn uno yn y cydganau. Ar gyflwyniad Y dysteb, cafwyd yr annerchiadau barddonol cti" lynol:— Anadlwn ddymuniadau, Bob un o lwythog fron; t- I'n hanwyl Jones wrth 'madael A'r drei boblogaidd hon. Mae'n anhawdd iawn ffanvelio, A chyfaill o'r iawn ryw, Anhawddach fyth ffarwelio Ag un o weision Duw. Fel arwydd o'n parch iddo, A'i lafur yn y dref, .i CyfiwjTiwn deyrnged heno O'n calon iddo ef; y Os ])yclian ydyw'r anrheg, t Rhodd serch a chariad yw, Boclcllollecl ar liyn yiia, ( Caiff goron gan ei Dduw. e Rhwydd hynt i 'wlad y bryniau," 3' Ehagluniaeth ddoeth y iief, A daeno ei haclenvdd e Yn dirion drosto ef; J, A hendith Duw gorono Ei i-iiidi-ecli gyda'r gwaith, i A huned yn yr Iesu, 'Xol cyrhaedd pen y daith. W. EHEIDOL PIERCE. CH Onid teilwng ydyw talu—gwir glod I'r gwr glew—mae'n haeddu; j Addas ei ani-hydeddu, | A bri yn Hon gerbron llu. 1 BHYS ETXA JONES 1 Cafwyd Englynion gwych hefyd gan Dewi Alatf fl ond gan iddo fyned allan cyn diwedd y cyfarfod- V methasom a chael copi o honynt. Yn nesaf cafwy araeth gyimwysfawr gan Mr Jones, yn dadgan et deimladau cynnes tuag at, a'i ddiolchgarwch i" '(H luosog gyfeillion am y parch mawr oeddent wedi ei ddangos tuag atto. Wedi talu diolehgarwch S Llywycld, a chanu, terfynwyd y cyfarfod trwy wed<# gan Mr Jones. Boreu dydd Gwener canlynol, daetll amryw i'r orsaf i weled Mr Jones i ffwrdd. D}'111' nnwn idclo hir oes ac iechyd. Duw a'i gwnelo ef YI, fendith yn mhlith ei bobl, ydyw gweddi lJN O'E DYSGYBLXON. H