Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
BANGOR.
BANGOR. PARLAMENT NEWYDD. wae n ymddangos i mi fod pobol wedi myn'd y b" 1 °n<^ ° ^adw Parlament yn y dyddiau yma, fel d P&rlament yn fuan, nid yn unig ymhob Tre, •\i hefyd. Dyna bobol Oaergybi, trwy ^»i°gaeth y 'Twrch' a'r 'Rhen Ddyrnwr,' wedi w Parlament mawr yno, er mwyu cael Richard D avies, Ysgweier, o Benarth, yn Eulod Seneddol "Wed' ^0n' y11 SYr Richard, Barn Hul, sydd .r^0^ e* swydd i fynu, o achos nad ydi o ddim ei°io representio pob rapscaliwns yn y senedd cr^dd*^1' Richard representio teilwriaid, allan 0>ri' co^eria*d, (y mae gwyhyddion wedi myn'd 0 ffasiwn ars pen roes Gweirydd ei wennol ys^Wm)> a man ffarmwrs, yn talu dim ond bvtT deg' PUIlt 0 rent—na neiff Syr Richard bai rePreseriti° rhyw bryfetach felly! a does dim a"10 f° chwaith, gin i fod o'n leicio. Yn wir, yn -'y^ 11 ineddAvl i fod o'n gneud tro call iawn, cany 10 ° r maes o01'0n chwigyddol areiben; chwi ^ekar<l) yn sicr, wedi bod yn ao a a ffyddlon o'r en ysgol, am hir flynyddau, mae' e^^ni8' 0 barch dauddyblyg am hyny etto y eWv ddiammeu na wnai'r tro i representio r^d Vsyol newydel; ac yr wdw i yn i gam- gwele^1 ai"W iaWn am fod mor %gadog a roi 1]^ • ac ymgilio o'r maes yn anrhyeddus, i e i un 0'r [l0iJ0[ representio. ft'ly^aiRe^r ?ar^amenj: .pwysig hefyd, os gwir a Ricbava' -klangefni, i'r hwn y gwahoddwyd Syr ais f0ci 1 q io dyn y bobol, sef Mr. Dafis; a chlyw- clyri T J byr wedi tirion gydsynio a'u cais. Wei ain iangefniaid! a dwbwl wel dyn Syr Richard! Os oedd^ caredig, dynol, a boneddigaidd. Pan vn u°ddwr yma yn hoff a chymmeradwy ■Eon m~ syy.dd< member Parlament d os wlad y Wdd |ia 8'0rc)n, os pery o i ymddwyn fel hyn, CKnxr°-n y feRy Pan 0 swydd. yvnnll aiS ^ffyd f°<i Parlament mawr wedi cael ei ^Vasana Jll wrnaresj i ddiolch i Syr Ricdard am ei sej>. a 8'wortiifawr i'r wlad dros gyhyd o am- aros yn ei swydd rhag llaw. Ilich'a^W^ tee 1 bobo1 Blwmar0H' y mae Syr ac vr (i 6 y11 bur iddyn nhw bob amser; h yx. i yn haeddu cael gwneuthur hyn iddo. liiexvn X' J11 credu y bydd Parlament Caergybi hwn^r C- hlr "an bob61 Mon: Aoes y Parlament :U' dd SlarnP? dda '-1' genedl, trwy roddi eu bys 11 dvn ^ia fedr eu rePrOHentio mewn gwirionedd: ac ^edi gweled y byd o'i gynffon i'w gorn, siararl aeithio °'i sowdwl i'w goryn; dyn a fedr ^ymraeg lan loyw efo ffarmwrs uniaith Rhos S b^r.a T,howyi] Trewan, Mynydd a Rhosydd New- iarlm, a a iedr draethu en cwynion a'u dymnn- ^vwilir^- T mewn Saesneg na raid iddo Jng n°wydd Bl'eit, Grlaston, a ,1 S"61: Ie°¥yn }lo^> ymleddwch drosto hyd y V ^driwfr'Vh1°11 ^enedl fod yr hen wlad rt ilam Gymry? ° n eitl maweadog, sef 'Mon 11 1 J7,0! d7n ^e^P° fe fu agos i mi dreulio'r holl Ioa> chwedl y dysgedigion, cyn dweyd gair ar y [- „ PARLAMENT NEWYDD! pr iddo' mi dreia ddynwared Sam Ty Mawr 10 aiiadJvr?uVef <d^y4 tipin yn fyr ac yn ots ° ddy- Pariam n y Bntis Hotel yr ymgynullodd y 9fedV ncy.ydd> neithiwr ddyweutha (nos Iau'r 9 peidied y Titotaliaid a clychryn dim: yr 11 y Iteiol /-) mor ddu^estol yno a phy dasen nhw yn ir i'eddwnl •>' ddaeth yno ddim dropyn o ddiod j ar hue- -1 r Wrdd> °'r dechreu i'r diwedd. Tua deg adnabv^i1 °edd Tlifer yr aelodau: y gwyr mwyaf ArniiK^ 8 J"110 oedd ^r- Tomos, gweiitidog yr l* iaid "M'r' Ffowcs, Gweinidog y Methodist- ^alaidd ^Ar a.^r- Prcis, Atliraw'r Coleg Xor- » -lliaid QPfla a etholwyd yn spicer. Liber- i dyfod i'j_. aelodau bob un. Yr oedd gair wedi i, gael ei *'od Parlament mawr o Liberaliaid i fon, Ue uos. Wener y lOfed, yng Ngharnar- eraill i dl8gwylid cynddrychiolwyr o Forwchau ^ymmervd ld pa lwybr a fyddai ddoethaf i'w I' hau Libni- 8'01W8" ai* J Lecsiwn nesaf, er sicr- l' tua aineni- a^d i representio'r Sir a'r Borwchan. Yr •Hotel- oedd i'n Parlament ninnau yn y Britis i ar y aiaf ° amryw siarad llawer o betliau gwych ^Jgocld ivr Gweirydd ap Rhys, a chefn- Bin r' ^ones' Upper Bangor, S^eier, Mangor yn cynnyg' W. Bwcle Huws, Ys- [. ^"n .V seriPfi^ Coch, i representio Borwehau Sir Gaernarfon, erai]j ej dymuniad ar Iioll Liberaliaid y Borwehau ? "svneirl^Vyd llawer wedi hyn gyda golwg ar pa beth i^yd a °s?-a ddGuai Mr. B. Huws ym mlaen; ason- 1 ^eil^j, ddau ncu dri o foneddigion eraill, fel rhai 1 dim U cefn0o'i- Dywedodd Gweirydd nad oedd YN cnTi 1 fod YNOhylch- Mir. B. HUWS, gan ei fod ef OS (Ifi f ei fod yn benderfynol o ddyfod ym mlaen 1 a thaflodd lythyr i'r spicer a dder- Wai odd-iwrth Mr. B. H. ar y mater. Pa fodd y gaJai3^-08riiai yn Para i siarad ar y tebygrwydd i Y PWVSO^RF" beidio dyfod ym mlaen, &C., pan §*er b Gweirydd ar y spicer i roddi ei gynnyg y T-wrn011 yna cyimygi°dd Mr. Llwyd Jones C^forwY., 6' a ohefnogodd Mr. Morgan Richards, grugyu Machno) Qaevnnv?1 yn dewis enwi neb i representio Borwehau narfon 1. «>n, nes i'n cynddrycliiolwjT ddychwelyd o Gaer- n' glywed Ilais y Borweh,,tu eraih.' ym rhywun y buasai efe yn cynnyg i ni d6rf ng°r ymrwymo i fotio dros bwy bynag y pen- l)y^refi y Borwehau eraill ei ddwyn ym mlaen. thy ,jei d Gweirydd ei fod ef yn gweled hyny yn y 1 s°riw) ac nas addawai efe byth wneud yr anif>r,?i a P^lwysodd eilwaith ar y spicer i roddi Ty ar lament l fynu, fel y gallai yntau gael barn y aoiendm gyiiny.?iad gwreiddiol. Yna rhoddwyd yr y °efno ger bron' 01ld ni cllododd neb ei law ond 0 flaen Wedi hyn7 rlloddwyd J cynnyg cyntaf ^ygiwr I lJr'Pan y cododd pawb eu llaw ond cyn- ydym °hefnogwr yr amendment. Gan hyny, yr rheol Mangor, wedi cynnyg Mr. B. H. yn Gj-0j representio Borwehau Sir Gaernarfon. dim y spicer, yn awr, i Mr. Tomos (A.), a oedd ef gail ar ei feddwl ef, yr hwn a ddywedodd ei fod Yii barn, fod yu anhawdcl iawii cael gwell aelod, ^ymro + ° na Mr. B. H.: ei fod nid yn unig yn ei fod ac y11 medra siarad Cymraeg, ond y ^enedd %d<llawn fel aelod seneddol: ei fod yn ^astafj ar bob achos pwysig, a'i fod yn fotio'n Mad J11 UU0^ a barn ei etb°lwyr; heb law ei fod eelog a chymmwynasgar. dyiai'r Jywedodd un aelod ei fod ef yn barnu y cystal s ^e:i"aliaid edrych dros registro foters y Sir Borwehau, gan ei fod ef yn llwyr ■Jjberald ^ddai llawn cystal siawns, os nad gwell, i tfddai JMB y Sir' yn er^yn Major Pennant, ag a -,id oedd V i' yn erbyn Tori dros y Borwehau. vnt braidd yn cydsynio a'r 'aelod anrhyd- dda"' 0 be^b > ond pasiwyd yn unfryd y bydd- VaeHiarfa n °ynddrycbiolwyr ni alw sylw Parlament °ters v o?1 y priodoldeb o edrych dros registro y drani11*' ,bod yma yn addaw talu ein rhan Gllti° • _Weithian, etholwyd tri aelod i'n repres- aelori ,™Jament Caernarfon nos dranoeth; ac §>ybod r, Ty hwn ymgyfarfod etto nos Llun er 1 ■3rfodod|enmrfyniadau Parlament Caernarfon; a rN'Vi) y y 0 fewn lmm munud i ddeg, cryn -Llllll,l gynnaracli nag yr arfer aelodau Parlament £ °s ^V"eu 8^odi* 0s pasia Parlament Caernarfon >^hau VG|' a Pharlament Bangor nos Llun ryw ddisg^ y bydd o les i'r wlad eu gwybod, gellwch gau- etto oddi wrth—Clustfeiuiwr.
ABERDAR.
ABERDAR. Joke Magistrate.—Yr wythnos ddiweddaf, mewn capel nid can milldir o Aberdar, y dygwyddodd yr hyn a ganlyn. Yr oedd gwr enwog—un o brif ddynion Cymru, yu darlithio ar un o'r characters hynotaf a mwyaf disglaer yr oes hon. Cyn dechreu cynneuwyd y gas, ac yr oedd pawb yn canfod gwyneb ei gymmydyg, a'r oil yn gweled yn eglur wynebpryd serchus y darlithydd yn tynu tua'r climax; yn ddisymwth dyma dywyllwch Aiphtaidd yn ein gorddiwes oil; tarawyd pawb a syndod; ys- grechodd rhai, chwerthinodd eraill, a chludwyd rhyw hanner dwsin allan mewn llewygon, ond daliodd y darlithydd modrus ati, ni wnaeth y tyw- yllwch effaith ar ei nerves cryf ef, a darlithiodd hyd yr ail oleuwyd y capel, ond yn awr gan gan- wyllau, Erbyn chwilio i'r achos o hyncafwyd allan fod y magistrate hwn yn dra anfoddlon i'r darlithydd gael cymmaint dylanwad ar y gynnulleidfa, nes hoelio eu meddyliau, a'u cadw mor hwyr yn y capel. Penderfynodd ei servo talodd ymwel- iad a tharddle holl oleuni y dref (y gasomcter) trodd ymaith y gas, ac mewn tarawiad amrant amddifad- odd nid yn unig y capel, ond yr holl dref o'r elfen danol. Mae yn deg beth bynag hysbysu nad oedd y mag- istrate wedi btoriadu troi y dydd yn nos ond yn unig yn y capel, ond rhyw fodd (ac ni fedra ef ddyfalu hyd yn hyn pa sut), fe drodd y jolco allan yn dra serious. Mae rhagolygon rhai magistrates [fel dynion eraill yn hynod o fyr. Darlithiau■.—Traddododd y Parch. J. Thomas, Liverpool, dair o ddarlithiau yr wythnos hon yn y lie hwn. Y flaenaf nos Lun, Gor. 13, yn Elim, Cwmdar, ar I America.' Yr ail Gor. 14, yn Ebenez- er, Trecynon, ar Richard Cobden.' A'r drydydd Gor. 15, yn Nebo, Hirwaun, ar yr un testun. Yr elw oddiwrth y tair at dynu i lawr y ddyled ar Elim, Cwmdar. Yr oedd Mr Thomas yn ei hwyliau goreu yn darlithio. Ni chlywsom. ef erioed yn agos mor nerthol. Mae ei ddarlith ar Cobden yn un o'r pethau goreu a wrandawsom erioed. Ac yn wir mae hi yn hynod o amserol. Mae gwyr Trecynon a Hirwaun yn fyw am i eglwysi Tref Aberdar, Aber- aman, a Mountain Ash, i anfon am Mr Thomas yn ddioedi i draddodi y dclarlith ar Cobden yn y naill fan a'r llall. I'n bryd ni gwnelai les dirfawr ar yr adeg bresenol. Rhyw ddyn rhyfedd oedd Cobden. Dyn ag oedd yn gorphoriaeth byw o'r egwyddorion a ddylai lywodraethu pobl Merthyr ac Aberdar yn newisiad yr aelodau Seneddol dros y Bwrdeisdaefi. O'r tri sydd ar y maes nid oes yn cynnrychioli ys- pryd ac egwyddorion Cobden yn debyg i Henry Richard. Dyn ;y gweithwyr oedd Cobden, Dyn y gweithwyr yw Henry Richard. (Clywch clywch !) YR ETHOLIAD. Gwyr Aberdar—at bawb yn mhob man y perthyn iddynt wybod—yn anfon aiinerch.- Wel, y mae hi yn ferw byw gwyllt greision yma. Yr Etholiad, yr etholiad, a dim ond yr Etholiad sydd yn myned a hall frycl pobl y lie hwn yr wythnos hon. Mae y lIe ar dan gwyllt. Mae y byddinoedd ar y maes. Mae swn rhyfel i'w glywed o bell. Hwra! Hwra! meddai y miloedd, Henry Richard for ever. Efe yw dyn y gweithwyr. Efe yw dyn yr Ymneilldu- wyr. Mae o yn ddyn i'r dim. Y right man in the right place, and for the right people. Mae y bobl yn y lie eisoes fel y mor yn dygyfor. Mae gweithwyr Merthyr wedi tori y garw trwy gychwyn cyfarfod- ydd Mae gwyr Aberdar a Dowlais yn eu dilyn yr wythnos nesaf. Myn y bobl eu hiawnderau. Heriant y scriw. Chwarddant am ben y bygythion. Nid oes troi yn ol i fod bellach. Rhaid cael Richard,—ydyw y swn i'w glywed ar bob llaw. Dygwyddodd i ni yn ddamweiniol y prydnhawn hwn ddyfod ar draws hen wr dall yn ymbalfalu gyda ei ddwy fron-a chyda llaw hen weithiwr dros ddeg a phedwar ugain oed. Ac o gywreinrwydd gofynem iddo, wel hwn a hwn, beth meddwch chwi am yr Election yma. Pwy yw eich dyn chwi P Beth y'ch chwi yn chwalu wr, meddai yr hen dad cu, yn mrwdfrydedd ei sel,—ond y dyn yna beth 'chi yn ei alw fe-y dyn Richard yna. Dyna y dyn w'i drosto fe: a thyna y dyn yr w'i yn clywed pawb drosto fe. Ond Ow! Ow Mae y gwr rhyfedd hwnw o Lun- clain-hen proprietor y Prineipatity-y dyn Dafydd Evans hwnw, y dyn siomedig—y dyn na chredodd neb yn Nghymru erioed fod dim ynddo ond ei hunan -y dyn oherwydd i Gymru Ynmeillduol wrthod ei gymmeryd ef yn (arweinydd a lanwyd a bustl ac a chwerwder yn erbyn Henry Richard, yn dyweyd nad oes dim yn Henry Richard. A rhyw Jewet o Sais, o Dreforis, yn selio ei ddywediad ag Amen. Beth,Dafydd Evans y Principality yn dyweyd nad oes dim ynddo! Wel, dyna y rheswm goreu oddi- wrth Dafydd Evans fod rhywbeth ynddo.—Weith- wyr Merthyr ac Aberdar a wyddoch chwi mai Turn- coat yw Dafydd Evans sydd yn gollwng eifustl ar eich dyn ? Os na wyddech o'r blaen dyma Jfi yn dyweyd i chwi; mab i hen weinidog parchus yw efe. Felly gwnewch ag ef fel yr arferwch wneud a phob Turncoat arall. Ond ni raid dyweyd wrthych o ran hyny. Gwn y gwnewch hyny. Wel, Mr TYST, y mae fy llith yn myned yn faith. Gwyddoch nad ydwyf Ohebydd, felly chwi faddeuwch hyd a lied am y waith gyntaf erioed i mi fel hyn eich blino.— Yr oedd ar fy meddwl bethau eraill i'w dyweyd; dichon y dywedaf hwynt ryw dro arall. Mae fy nhestun yn un da, a minnau i'r earn dros Henry Richard. Dyna y rheswm i mi anghofio pawb a phob peth arall. Cyn rhoi i fyny dywedaf un gair eto. Clywais fod un o honoch chwi y Tystion, sef y Parch. John Thomas, wedi bod yn y lie yn dyweyd yn ardderchog dros Henry Richard. Bendith ar ei ben os gwnaeth ef hyny.-Goliebydd.
BETHLEHEM, LLANHARAN.
BETHLEHEM, LLANHARAN. Mae yn dda genym ddeall fod yr Eglwys Anni- bynol uchod wedi rhoddi galwad unfrydol i Mr. J. W. Morris, o Normal College Abertawe, i ddyfod yn weinidog arnynt, ac y mae yntau wedi ateb yr alwad yn gadarnhaol. Mae Mr Morris yn ddyn ieuanc galluog, yn bregethwr da, ac yn meddu ar gym- hwysder mawr i ymgymmeryd a gwaith y weinidog- aeth. Gobeithio y bydd iddo gael hir oes i wneud da lawer yn ngwasanaeth ei Arglwydd, ac i lanw lie yr enwog a'r diweddar Barch. Mr. Griffiths.
MANION 0 FYNWY.
MANION 0 FYNWY. Dylasai hanes Cyfarfod Misol Cwm, Rhymney, fod wedi ymddangos yn gynt, ond gwell hwyr na hwyrach. Cynnaliwyd ef y tro diweddaf yn Salem, Hirgwm, ar y 7fed cyfisol. Am 2, dechreuwyd gan y Parch. D. Jones, New Tredegar, a phregethwyd gan y Parchn. T. L. Jones, Machno, a W. Griffiths, Rhymney. Am 6t, dechreuwyd gan y Parch. W. Griffiths, a phregethwyd gan y Parchn. J. Farr, Croesoswallt, ac E. Hughes, Penmaen. Cafwyd cyfarfod da iawn a phur luosog, yn enwedig yn yr hwyr. Bydd y nesaf yn NEW TBEDEGAB, ar y dydd Mawrth cyntaf yn mis Awst. Dydd Llun, y 13eg cyfisol, cafwyd Tea Party ar- dderchog iawn yn RISCA. Yr oedd ysgol Cross Keys wedi cyfarfod ag ysgol Risca am y tro, a buwyd yn cerdded trwy y gym- mydogaeth ac heibio dai y gwyr mawr dan ganu, nes tynu sylw y gymmydogaeth. Tua 3 o'r gloch, dechreuwyd ar y te, ac erbyn tua 7 yn yr hwyr yr oedd tua 400 wedi cael eu gwala, ac eto yr oedd yno weddill. Dyma'r turn out goreu fu yn Risca eto, yn gyssylltiedig a'r Annibynwyr beth bynnag. Tua 7 J, cymmerwyd y gadair gan C. Lewis, Ysw. Newport, yr hwn a wnaeth araeth ragorol ar yr Ysgol Sabbothol. Wedi hyn, siaradodd y Parch. W. Edwards, Newport, yn dda iawn. Yna galwyd ar y Parch. T. M. Prentice, o wlad yr haf.-Nid Sais ac nid Cymro yw y brawd hwn, ond Gwyddel,—ond Gwyddel pur dda, a gelyn hollol i Ffeniaith a Phab- yddiaeth.Wedi hyn, ciliodd Mr Lewis o'r gadair, a chymmerwyd hi yn ei le gan y Parch. D. Davies; a chafwyd dau ddarn o gyd-siarad gan bobl ieuainc ylle; yr oedd y ddau yn interestiny iawn. Canodd cor Risca a chor y Primitive Methodists yn dda dros ben. Da oedd genym weled y ferch a'r fam, sef Cross Keys a Risca yn edrych mor iachus a chryf. Llwyddiant mawr fyddo i'r ddwy Ysgol a'r ddwy Eglwys, a Mr Davies fel eu blaenor. Mae'n wir dda genyf hysbysu ddarllenwyr y TYST fody LIBERALS yn dechreu gweithio o ddifrif yn Sir Fynwy. Cyn- naliwyd cyfarfod yn y Town Hall, yn Newport, nos Fawrth, y 14eg cyfisol; a phenderfynwyd fod angen mawr am gyfnewidiad. Yr oedd y siaradwyr yn llawn sel, ac nid gwan oedd eu gobaith 'chwaith am gael LIBERAL I REPRESENTIO Y BOROUGII. Mae cais wedi ei anfon at Sir John Ramsden, yr hwn sydd wedi bod yn M. P. dros y West Riding of Yorkshire; a disgwylir y bydd yn Newport tua nos Lun neu nos Fawrth nesaf, yn adrodd ei syniadau gwladyddol wrth yr etholwyr. Mae Sir John yn Liberal cydwybodol, olid nid wyf yn gwybod pa beth yw ei farn ar yr Eglwys Wyddelig; ond gall ben- derfynu na chaiff gefnogaeth os nad yw yn bleidiwr i Mr Gladstone. Nid oes dadl na charia y Liberals y dydd o ddigon, os na fydd y scriw yn caeleiddefn- yddio. Cewch wybod ychwaneg yr wythnos nesaf. BODDIAD. Boddodd bachgen bychan yn Pontywaun dydd Llun diweddaf. Mab ydoedd i Mr. Woodley, o'r lie uchod. Ni fu ond saith munyd o'r ty, ond pan gafwyd ef yr oedd yn hollol farw.—Gohebydd.
PFNFRO.
PFNFRO. Gorphenaf 13eg a 14eg, cafwyd cyfarfodydd agor- iadol y Tabernacl, Penfro. Am hanner awr wedi 6 nos Lun, dechreuodd y Parch. J. Griffiths, St. Flor- ence,'trwy weddi—y gyntaf yn y ty newydd-y cyf- lwyniad cynnwysfawr a threfnus o'r lie i'r Duw yr adeiladwyd ef at ei wasanaeth. Pregethodd Jones, Narberth, oddiar 2 Tim. i. 9 ac Evans, Hebron, oddiar Ezeciel xxxiv. 26. Dydd Mawrth, am 10, gweddiodd y gweinidog-y Parch. D. Salmon. Pregethodd Dr Spencer ar Col. i. 18, ar Benogaeth Crist. Ar ol ciniaw, clywsom hanes y gwaith gan Mr Trewart, y trysorydd, y Parch. T. Thomas, Landore, yr adeiladydd, &c. Y mae wedi costio, rhwng y ty, 2,400p. Yr oedd yn aros cyn dechreu yr agoriad 900p., a chasglwyd yn yr agoriad 230p., rhwng lOOp. a dderbyniwyd y dydd hwnw oddi wrth Mr Titus Salt. Am 2, gweddiodd Mr Jones, o Hwlffordd. Pre- gethodd Davies, Godolming, Surrey, oddiar Eph. i. 19, 20, 21. Am 6, pregethodd Dr Spencer, oddiar Matthew xi. 11. Yr oedd y capel yn llawn, a'r bobl wrth eu bodd. Yr wythnos o'r blaen, agorwyd capel newydd Sa- lem, ger Sandersport, gan Dr Thomas, Stockwell, a'i fab y Parch. Unigot Thomas, Bristol, mab ac wyr i'r hen wr y Parch. W. Thomas, a fu yn hir fugeilio yr eglwys yn Sardis. Awst 6, agorir capel newydd yn Tenby—yn mhen blwyddyn ar ol rhoddiad i lawr y gareg sylfaen—pan y disgwylir y Parch Enoch Mellor i bregethu. Y mae y Parch. J. M. Jones yn bwriadu symmud o Narberth i Blackheath, Llundain, yn mis Medi nesaf.
PWLLHELI.
PWLLHELI. Boreu dydd Mawrth, y 14eg cyfisol, rhoddodd E. Thomas, Coach-driver o Pwllheli i Portmadoc, der- fyn ar ei fywyd trwy ymgrogi. FOUR CROSSES, GER PWLLHELI.-Fel yr oedd plen- tyn bychan i Capt. Henry Thomas, Caernarfon, yn chwareu a'i gyfoedion ieuainc, syrthiodd tros yrayl craig oddeutu pedair Hath o uchder. Bu y truan farw yn mhen ychydig amser; a chladdwyd ef yn monwent Abererch, dydd Llun cliweddaf. SUN-STROKE.—Dydd Mawrth, y lofed cyfisol, fel yr oedd dyn o'r enw 0. Williams yn dilyn eiorchwyl ar ffarm Pensyflog, ger Portmadoc, cafodd Sun- Stroke, fel y bu farw yn mhen ychydig amser. Gadawodd weddw a tri o blant i alaru eu colled ar ei ol.
PORTHMADOG.
PORTHMADOG. Gwaredigaeth.—Ddydd Iau diweddaf, yr oedd merch Cadben Dedwith, o'r Borth, yn ymdrochi gyda llu o'i chyfoedion. Cariwyd hi gan y tide, ond y 17, drwy ymdrech cymmydog,yr hwn a ganfu ei sefyllfa beryglus, dygwyd hi i'r lan. Tybiwyd nad oedd gwreichionen bywyd wedi llwyr ddiffodd. Rhedodd Mr Jones, yr ysgolfeistr, i ymofyn meddyg, a daeth Dr Roberts yno mor fuan ag y medrai y march ei gludo, ac er llawenydd i bawb, llwyddodd i'w gwa- redu rhag marwolaeth. Yr Ysgol Frytanaidd.-Y mae yma ddeffroad mawr yn mysg cyfeillion addysg rydd i godi Ysgoldy newydd. Yr oedd yr hen adeilad mewn man ang- hyfleus. Y mae hwnw wedi ei werthu. Derbyniodd y Trysorydd lythyr dienw yn cynwys papur 5p. at yr adeilad newydd.
RHYL.
RHYL. Etholiad Commissioners.—Soniasom yn y TYST di- weddaf fod yr etholiad i gymmeryd lie, nad oedd dim son yn ei gylch y fiwyddyn hon, ac fod yr etholiad hwn yn debyg o fod yr un mwyaf disylw am fiynyddoedd lawer a basiodd. Trodd allan yn debyg i hyn. Nid oes yr un amheuaeth na ddarfu i main-spring (Mr Healing) symmudiadau pethau o'r fath, ymysgwyd ychydig ar yr etholwyr,—iddynt edrych pa ddynion yr oeddynt yn rhoi eu votes iddynt. Ar y parwydydd o amgylch ein tref, gwel- som placards, ac arnynt rhywbeth fel y canlyn:— 'THE ELECTION- OF COMMISSIONERS.—Fellow Townsmen,— Tomorrow you will be called upon to give your vote in favour of men to represent you in your Local Parliament. Vote for clear headed men I-The Gas and Water questions will be matters of discussion in our next Commissioners Meeting. Your Townsman, THOMAS HEALING.' Gwelir oddiwrth yr uchod fod y main-spring wedi ccisio creu ychydig fywyd yn yr etholwyr. Dig-on da-y mae eisiau ychydig ddynion o'r stamp yma weithiau, ac yn enwedig y dyddiau hyn, pan y mae adeg yr etholiad gyfiredinol yn agoshau. Byddai yn dda genym glywed mwy o son am y Gymdeithas yn dda genym glywed mwy o son am y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig a gychwynwyd yn ein tref nag y sydd; ond gobeithio fod y rhaifu yn offerynol i'w chychwyn, megys y Parch. A. Francis, Mr J. S. H. Evans, &c., yn parotoi ar gyfer rhoi shock go dda un o'r dyddiau nesaf yma i Ymneillduwyr ein tref, fel y deuant allan megys un gwr i enrolio eu hunain yn aelodau. Darfu i'r rhai; a ail-gynnygiasant eu hunain yn Commissioners am y tymor nesaf gael eu hethol. Gobeithio y dangosent eu hunain yn weith- wyr ffyddlon o hyn allan eto. Trip i Bettios-y-Coed.—Y mae excursion o'n tref i'r lie uchod yn fuan. Os ceir tywydd ffafriol, bydd yn bleser nid bychan i wyr y siopau, &c., sydd yn cael eu cadw mor confined am oriau lawer bob dydd. Mewn cysylltiad ag Eglwys St. Thomas y mae yr uchod, er ceisio codi fund er imvyn cael organ at wasanaeth yr Eglwys.—Deheuwr.
ODDIWRTH EIN GOHEBYDD 0 CEREDIGION.
ODDIWRTH EIN GOHEBYDD 0 CERED- IGION. Tro Oalaethus.—Nos Iau, y 9fed o'r mis hwn, coil- odd Mr Amphlet, Llandyssil, Ceredigion, ei fywyd trwy ergyd o'i saeth-ddryll ei hun. Yr oedd ganddo Needle-Oun gwerthfawr. Wedi iddo fyned i'r gwely cofiodd ei fod wedi ei adael mewn ystafell arall, ac ergyd ynddo. Mae y math hwnw o ddrylliau yn rhwydd i danio. Tybir iddo ofni y buasai perygl o'i adael felly; cyfododd, ac wedi goleuo canwyll, aeth i'r ystafell hono, ac yn bur fuan clywodd ei wraig swn yr ergyd. Cafwyd y truan yn farw ar y llawr; aeth yr ergyd i'w benglog oddeutu modfedd y to. ol i'w gulust, a chafwyd beth o'i ymenydd yn glynu wrth nenfwd yr ystafell. Sut y bu yr anfliawd, nid oes neb byw wyr. Barn y rheithwyr ar y treng- holiad ydoedd 'Marwolaeth Ddamweiniol.' Brodor o Loegr ydoedd. Ymsefydlodd yn Llan- dyssil fiynyddoedd yn ol. Dyn hynaws, parchus, a chyfoethog ydoedd. Ymserchodd mewn geneth dlawd yn ei Bentref mabwysiedig, a phriododd hi yn anrhydeddus. Preswyliai yn y ty y bu y Parch. J. Thomas, gweinidog yr Undodiaid, Llandyssil, ynddo am lawer o flynyddau, lie y cadwai ei ysgol flodeuog, am yr hon y mae gan ugeiniau o ddarllenwyr rwym- au mawr i fod yn ddiolchgar. Mae Mrs Amphlet wedi ei gadael a'i phedwar plentyn, yn ddisymwth, i deimlo colled fawr ar ol priod a thad tvner, caredig, a gofalus. Llanfair-Orllwyn.—Plwyf o faintioli canolig ydyw hwn, ar lan Teifi, rhwng Castellnewydd-yn-Emlyn a Llandyssil. Y periglor ydyw y Parch. T. Lloyd, Gilfacheu, yr hwn sydd yn briod a chwaer Dr Lle- welyn, Llanbedr, ac wyres i'r doniol Barch. David J ones, Llangan. Er cyn cof arferid gwneud treth eglwys yn y plwyf; ond yn y gwanwyn diweddaf, cododd y plwvfolion, y rhai ydynt gan hiwyaf oil yn Ymneillduwyi-, yn ei herbyn, a' llwyddasant i osod terfyn arni. Byth er hyny. mae yr ychydig Eglwys- terfyn ami. Byth er hyny. mae yr ychydig Eglwys- wyr y plwyf yn y tymmerau mwyaf nwydwyllt tuag at wrthwynebwyr y dreth. Cynnygia yr Offeiriad yn awr godi tal am ddodi cerryg coffadwriaeth ar y beddau, yr hyn na wnawd yno erioed o'r blaen. Cafodd crydd o'r plwyf fil o bum SAvllt am garreg ar fedd ei wraig; mae yn gwrthod talu, a bygythir cyfreith arno am hyny,-olid penderfyna ei gwrth- sefyll; ac y mae degau o'r plwyfolion yn barod i'w gynnorthwyo, os bydd raid. Ond gan na arferwyd talu cyn hyn, ni fedr yr Offeiriad godi tal yn awr. Tebyg y gochela fyned i ymladd dan y fath allfan- tais, a rhedeg i draul cyfraith, a thynu gwarth ychwanegol at yr hyn gafodd pan gollodd y dreth. Y diweddar Barch. S. Griffiths, lloicb.—Mac yn hysbys fod gwobr o 15p. yn cael ei chynyg am y Bryddest oreu i'r hen weinidog enwog llchod, yn Eisteddfod Genhedlaethol Ruthin eleni. Mae ei hen eglwysi, Horeb, Carmel, a Bwlchygroes, yn casglu i wneyd y lop. i fyny. Pwy a'u hennilla yw'r pwnc pryderus.—S. R. yw y beirillad,-eithaf cymwys at y gwaith; ond os bydd 12 yn cynyg am y wobr, ar ol y feirniadaeth bydd 11 yn barnu yn isel am ei gymwysder._ Peth digon dielw a diglod yw beirn- iadu y dyddiau hyn. Mae y gwrthddrych yn deil- wng i-,twn.-Os ydyw bywyd maith a dychlynaidd, os ydyw pregethu da a llafurus, os ydyw cadw eglwysi mewn llewyrch a thangnefedd, os ydyw cyf- ryngu mewn anghydfod eglwysig, os ydyw codi deuddeg o blant ar lai na haner cyfiog glowr yn Morganwg a Mynwy, os ydyw gorphen gyrfa mewn anrhydedd, os ydyw hyn oil, meddaf, yn teilyngu cotfadAvriaeth yn eglwysi Cristionogol Cymru, haedda gael Pryddest orchestol gan ein Prif feirdd. Go- beithio yr etyl S. R. y wobr os na fydd y Bryddest orau o deilyngdod uchod.—Mae gormod o gadeirio a gwobrwyo ylas-dwr wedi bod yn nglyn ag Eistedd- fodau Cymru.
TREFFYNHON.
TREFFYNHON. Bu y Parch. D. Price, America, yn pregethu i gyn- nulleidfaoedd Uuosog yn y dref hon, Sabbath, Gorph. 12. Llonid calon ei hen gyfeillion wrth weled ei wyneb hawddgar yn y pulpud. Er nad ydoedd mor gryf ag yr oeid ugain mlynedd yn ol, eto da genym ddeall ei fod yn cryfhau er pan ymwelodd a'r Hen Wlad. Nos drannoeth, traddododd ddarlith yn yr un lie, ar 'Abraham Lincoln.' Rhoddoddfoddlondeb mawr- Yr oedd yn neillduol addysgiadol a difyrus. Cym- merwyd y gadair gan P. M. Evans, Ysw., ac yr oedd yn bresenol y Parchn. A. Francis, Rhyl; H. E. Thomas, Birkenhead; Mawddwy Jones, Bagillt; J. Jones, Sion; a D. Evans, (M.C.) Treffynhon. Teim- lad cyffrerlin y wlad yma ydyw awydd cadw Mr Price am flwyddyn eto heb ddychwelyd i'r America, er mwyn iddo lwyr gryfhau, ond ofmvn nas gellir ei berswadio i hyny, gan mor hoff ydyw o'i gartref mabwysiedig.
SION, GER TREFFYNHON.
SION, GER TREFFYNHON. CynhaliAvyd cyfarfod blynyddol y He hwn ddydd Mawrth, Gorphenaf 14. Rhoddwyd yr oedfa y nos flaenorol i fyny, er mwyn myned i wrando ar Mr Price yn darlithio. Pregethwyd gan y Parchn. D. Price; H. E. Thomas, Birkenhead; a J. Rowlands, Rhos. Dechreuwyd g-an J. Hopkins, (B.) Bagillt; J. Lewis, Rhesycae, ac R. Mawddwy Jones, Bagillt. Yr oedd amryw bregethwyr eraill yn bresenol. Aeth y cyfarfod heibio yn foddhaol iawn. Deallwn fod y Parch. J. Jones, gweinidog y lie, yn bwriadu myned gyda'r Parch. D. Price, i'r America. Dyma un o hen efrydwyr Aberhonddu eto yn meddwl croesi y mor. Hyderwn y caiff faes i fod yn ddef- nyddiol iawn yn mysg ei gydgenedl yn Ngwlad y Gorllewin. Y mae yn ddynieuangc pur a chrefyddol iawn. Hir oes a Uwyddiant iddo. Y mae rhyw swyn yn Mr Price, os deil yn hir yn y wlad hon, ofnwn y cwyd awydd amryw weinidogion i ymfudo. Gan fod cynifer o gannoedd o aelodau a gwran- dawyr yn ymfudo, Did oes dim rhyfedd gweled y bugeiliaid yn myned ar eu holau, ac y mae sefydliadau yr America yn hynod gydnaws ag yspryd llawer o weinidogion goleuedig a rhyddfrydig yr Annibyn- wyr. Ni ryfeddem na chlywem am ragor am fyned o hyn i galanmai nesaf.
SIR GAERFYRDDIN.
SIR GAERFYRDDIN. Nid oes genym ond ychydig i chwanegu at yr hyn ddarfu i ni hysbysu yr wythnos ddiweddaf. Nid oes yr un pryder na fydd i'r Tori bychan D. Jones roddi ei gynnrychiolaeth i fyny a dychwelyd i fwyn- hau awyr iachus ei Balasdy yn Llanfynydd, lie gall ddweyd am y plwyf hwn:— I am a monarch on all I survey.' Bid sicr i chwi dyna ddigon o dal iddo yn He yr holl flynyddau y bu mor ostyngedig a rhedeg fel gwas 9 bach ar droad bys i'r lobby. Mr Puxley yw'r ym- geisydd am sedd wag y Tori bach uchod. Ac yr ydym yn clywed o wahanol ranau y sir fod yr ym- geisydd hwn yn cael ei dderbyn yn foddhaol. Ac yn bresenol y mae ei ddychweliad yn ymddangos yn sicr. Dywedir hefyd mai un Mr Sartoris sydd yn meddwl cynhyg ei hun dros y Rhyddfrydwyr. Dy- wedir ei fod yn bur anadnabyddus yn y sir,er yn dra adnabyddus yn Llanelli, ac am beth amser yn gefn- ogwr a gwelliantAvr mawr yn y dref uchod. Dy- wedir ei fod yn berchen ar etifeddiaeth helaeth yn Llangenech. Dywedir fod Mr Pugh yn ceisio am ail etholiad. Nid oes yr un nodiad wedi ei wneud yr wythnos hon am Viscount Emlyn, ac yn absenol- deb yr unrhyw [fynegiad pendant daroganir na fydd iddo ddyfod allan. CAERFYRDDIN. Nid oes dim wedi ei wneucl yn mwrdeisdrefi Caer- fyrddin. Y mae dau o gyfarfodydd wedi eu cynhal -un yn Caerfyrddin a'r Hall yn Llanelli—i ystyried y I sefyllfa boliticaidd.' A siarada newyddiaduron Toriaidd y dref yn bur wawdus a chynhyrfus am danynt, eu bod yn synu fod Caerfyrddin a Llanelli yn goddef i'r Gymdeithas Ryddfrydol i gymmeryd y cynrychiad rhwng eu dwylaw. A phaham na fyddai i'r etholwyr ystyried yn gyhoeddus a dewis ymgeis- ydd heb yr un o'r cyfarfodydd tAvllog a choinelog hyn.' Gan bwyll y Toriaid y mae y werin yn dyfod i deimlo mwy mewn achosion fel hyn nad ydych yn feddAvl. Os bydd i'r Boundary and Jtegitsration Bill gael cymmradwyaeth ein grasusaf Frenhines cewch weled a theimlo hyny tua mis Tachwedd nesaf. Mae yn achos o wir ofid i ni ac i bawb sydd yn caru cy- wirdeb mewn aelod i glywed am ymneillduad Mr I Morris o gynnrychiolaeth Caerfyrddin a Llanelli. Cant golled, ni chant ei well, a phur anhawdd fydd cael ei gystal. Y mae tri ymg<?isydd wedi eu henwi 1-001. Stepney, Mr Lewis Morris (ieu.), a Titus Lewis, Ysw. Dywedwn am yr olaf yn un o linellau Williams, Pantycelyn:— Deg bendith ar ei ben.' Dyma Gyniro a Rhyddfrydwr, ac yn meddu teim- ladau pob un o'r uchod, ac yn barod i bleidio pob mesur Rhyddfrydig mewn GAvleidvddiaeth a Chref- ydd. Tref Llanelli a wnewch chwi wrthod un o'cll plant, yr hwn ddarfu chwi eni a magu r Bydd yn gywilydd i chwi os gwhewch, ac yn anrhydedd os na wnewch. 'Nawr fechgyn Llanelli I all hands at work.' Dygwyddiad.—Yr wythnos ddiweddaf, fel yr oedd cart yn myned trwy Heol Awst yn llawn o ddynion, cynhygiodd Mr W. Thomas, Heol y Gwyddau, i eistedd ar un o'r shafts ond methodd a gwneud ei le, a syrthiodd ar ei wyneb ar y llaAvr ac aeth yr olwyn trosto. Yr hyn sydd ryfeddaf o'r cwbl ni chafodd unrhyw niwed. Bernir fod yn agos i dunnell yn y cart ar y pryd. A cherddodd adref heb fod lawer yn waeth o'r ddamwain. Y mae y porthladd hwn yn llawn yn awr nac y gwelwyd ef er ys amryw flynyddau. Y maent wedi dyfod ac wmbredd o fasnaehaeth gyffredin o bob rhan o'r byd iddo. Mae yma lawer o ymwelwyr yn dyfod i weled y llongau gorcqfygol a'u banerau yn chwyfian yn entrych y nen. Capel Heol Prior.—Cynhaliwyd gwasanaeth neill- duol yn y capel hwn y Sabbath diweddaf. Pregeth- wyd yn y boreu a'r hwyr gan y Parch. J. R. Williams, Ystrad Rhondda, am ddau, yn Seisnia*, gan y Parch. T. Burdett, M.A., Tenby. Yr oedd y cynnulleidfaoedd yn anarferol o fawr, ni fu cymaint yn y capel hwn er ys amryw flynyddau. Gwnaed casgliad ar ddiwedd bob oedfa er talu am baentlo y capel. Casglwyd yn anrhydeddus-y SWIn o 7 Op. 14s. otc. Ail-agoriad F.ghcys Llannathen.—Dydd Mawrth diweddaf, ail-agorAvyd Eglwys Llangathen gan Esgob Tyddewi, a chysegrwyd y tir a roddAvyd gan Iarll Cawdor at y Fynvrent. Darllenwyd gwasan- aeth y bore gan Williams, Llwynhelyg, pregethAAryd gan yr Esgob. Am ddau, cynhaliwyd gwasanaeth arall, darllenAvyd gan y Parch. L. Morgan, B.D., Llangadoch, pregethwyd gan Hughes, B.D., Llan- dovery. Am cliiveeli, darllenAvyd gan Williams, Llanfynydd, pregethwyd gan y Parch. H. S. Green, M.A., Llanstadwell. GAViiawd casgliad o lop. Llmsawcl.—Gorphenaf 16eg, cynhaliAvyd ffair yn y lie hwn. Yr oedd yr anifeiliaid yn gwerthii yn hynod isel.—Crwydryn.
LLANGEFNI.
LLANGEFNI. Bu Mr Robert Parry (Robin Ddu) yma yn ar- eithio nos Ian, wythnos i'r diweddaf. GAvnaeth y gwr parchus uchod syhvadau pAvysig gyda golAVg ar sefyllfa y wlad, yn enwedig yr angen rheidrAvydd am i ni gael RhyddfrydAvr i'n cynrhychioli yn y senedd y tyminor nesaf etto. Bu Mr Parry yma amryw weithiau o'r blaen ond ymddengys ei fod yn fwy poblogaidd y tro hwn nag erioed, a chanmolir yn fawr y pethau oedd ganddo dan sylw.—Gohehydd.
MANCHESTER.
MANCHESTER. Meistri Gol.—Bum yn meddwl lawer gwaith beth allai fod yr achos na byddai gohebydd cysson i'ch papnr rhagorol yn y ddinas boblogaidd hon. Nid oes braidd wythnos yn myned heibio nad oes rhyw ddigwyddiad yn cymmeryd lie ag y byddai cofnodiad o hono yn eich papur yn peri dyddordeb i'r darllen- ydd. Ar y 2Cain, y 27ain, a'r 28ain o'r mis diweddaf, cynhaliodd yr Annibynwyr CjTnreig eu cymmanfa flynyddol yn Gartside street, pryd y gwasallaethwyd gan y Parchedigion D. Jones, B.A., Merthyr, a W. Rees, D.D., Liverpool. Nos Wener, am hanner awr wedi 7, pregethodd y Parch. D. Jones. Nos Sadwrn, y Parch. W. Rees. Am 10 o'r gloch boreu Ddydd Sabbath, y Parch. W. Rees. Am 2, y Parch. D. Jones. Am 6 yn yr hwyr, y Parchn. D. Jones a W. Rees. Yr oedd y cynnulleidfaoedd, yn eirwedig yn oed- faeon y Sabbath, yn hynod o liosog. Yr oedd y gweinidogion yn eu hwyliau goreu, a phawb o honom yn mwynhau y gAvirioneddau gwerthfawr a leferid ganddynt. Nos Fercher, y lofed o'r mis hwn, traddododd y Parch. Mr Williams, Pwllheli, ei ddarlith ragorol ar Seryddiaeth y Beibl, yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Oak Street. Yr oedd y mynediad i mewn yn rhad. Prof odd gyda'r rhwyddineb mwy- af, a hyny o'r Beibl, fod Abraham, Job, a Dafydd yn seryddwyr da; ac fod y telescope yn cael ei ddef- nyddio mor foreu ag amser y Caldeaid, ac mai nid darganfyddiad diweddar ydyw. Cynghorem bawb i fynu clywed y ddarlith wir addysgiadol hon. Os bydd yr ychydig uchod yn dderbyniol, cewch glywed oddi wrthyf yn fuan etto.— W. [Yn dra derbyniol.-GOL.]
RHOSLLA-INTERCHRUGOG.
RHOSLLA-INTERCHRUGOG. Y TRUCK SYSTEM.—Nos Fawrth, y 14eg or mis hwn, cynhaliwyd cyfarfod yn ysgoldy genhedlaethol y lie uchod, ar y 'Truck System.' Cymmerwyd rhan ynddo gan y boneddigion canlynol:—Cadeirydd —J. Lloyd, Y sw., Bodlwyd. AreithAvyr—Mr Pule- stone, Rhosymedre; Mri. Evan Hughes, R. Bowen, Cefn, a William Griffiths, Rhos. Y mae cymdeithas wedi ei ffurfio rhwng Rhosymedre, Ruabon, a Rhos- llanerchrugog, dan yr enw The Anti Truck Associa- tion,' a'r cyfarfod crybwylledig oedd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf a gynhaliwyd yn y lie hwn. Cafwyd areithiau gwir dda ar y pwnc, yn dangos tu hwnt i ddadl i bob meddwl diduedd yr effeithiau drwg y mae y Truck System' yn ei gael ar ein gwlad, yn foesol ac yn gymdeithasol. Dangosodd Mr Pulestone yr effeithiau y mae y System yn ei gael mewn ystyr gymdeithasol, a Mr Evan Hughes, mewn araeth wir feistrolgar, a ddangosodd y niweidiau moesol. Nid oedd cymmaint wedi dyfod ynghyd ag yr oeddem yn ddisgwyl, a'r rhesAvm oedd nad dfedd 0 y cyfarfod wedi ei wneyd yn ddigon hysbys, ond yr ydym yn gobeithio pan y caAvn gyfarfod eto, y bydd cynnulliad mawr. Yn wir yr ydym yn disgwyl y bydd i'r holl wlad ddyfod allan fel un gwr, i wneyd ei goreu er mwyn symmud ymaith y gorthrwm hwn. Mae y gymdeithas yn casglu trysorfa o arian, er mwyn hyrwyddo ei hamcanion, a chasglwyd nieAvm commit- tee, y Nos Iau dilynol, y swm (rhwng. taliadau ac addewidion) o £12. CYMDEITHAS DDIWYGIADOL.—Mae yn llawenydd gennym eich hysbysu fod cangen o'r Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig wedi ei ffurfio er ys U'o yn y lie hwn. Llywydd y gangen hon ydyw Mr B. Davies, Pant; ysgrifenydd, Mr J. Owen, British Schools; trysorydd, Mr R. Roberts, Ponkeyj a'r hyn sydd gysurus ydyw fod y gangen hon wedi gwneyd llawer iawn o waith mewn ychydig o amser. Y maent wedi cael gafael ar 56 o enwau newyddion i'w rhoddi ar y list of voters, o ryddfrydwyr trwj'adl. Gofynwyd a gofynir, beth a Avnacth y Gpudeithas Ddiwyg- iadol Gymreig ? gan ami i un. Gallwn ateb ei bod wedi gwneuthur gwaith mawr yn y lie uchod yn barod—gwaith a fuasai heb ei wneyd oni bai i bobl Nerpwl' yna gynliyrfu a deffro y wlad o'i chysgad- rwydd politicaiacL Y TYWYDD. Cawsom gawodydd hyfryd o wlaw yn nghorph yr wythnos hon, pa rai a wnaeth "11 calonau lawenychu a'r ddaear i wenu. Dylem fel gwlad ddiolch o galon am y fendith wir angenrheidiol ac amserol hon.—Llanerchrugogolyn. [:'Bydd dda gennym gyhoeddi y rheolau, ond i chwi eu crynhoi i le mor fychan ag y byado n bosibl.—Gol.]