Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

AT Y CYHOEDD. BIBAELLEITWYR CitAFFus,-Wele hanes rhyfeddol a thefiwng, am Y PROFFESWR JOSEPH THOMAS, (Josephus Eryri), 33, CLARENCE STREET, MOUNT PLEASANT, LIVERPOOL. (Professor of the Remedial Power of the Electric Fluid Medical Magnetism, and Galvanism, and Practical Phrenology), yn meddyginiaethu, trwy y Fywydol Elf en, wedi i bawb a phob peth fethu, yr hwn sydd er's blynyddoedd meithion ger bron y cyhoedd fel meddyg, a'r gwelliadau hynod a wnaeth wedi peri syndod i Gymry, Saeson, a lluaws o'r Cyfandir. Sylwer ar y llythyr hwn sydd fel y canlyn:— Aethum at Proffeswr Thomas tan effeithiau anwyd trwm ar fy nglun. Yr oedd yn anesmwyth a phoenus angerddol am amser maith, nes yr oedd fy nghyfan- soddiad drwyddo yn gwanhau. Gwnaethum brawf ar bob moddion i'w dadgloi, ac i liniaru y boen, cyn dyfod ato, megis ymdrochi yn y mor, mewn ffynhonau, ac mewn bathau, &c., ond y cwbl yn hollol ofer. Nid oedd y nos yn dymhor gorphwys i mi, na'r dydd yn adeg o lawenydd, gan mor fawr fy mhoen. Cefais ef yn hollol ddifost-dywedai fel dyn gonest y cymmerai dipyn o amser, fel ag yr oedd wedi cyhoeddi ugeiniau o weithiau fod pob hen anhwylder yn gofyn llawer o wythnosau o brawf, pan na bydd y rhai na fu cynddrwg a chyhyd yn yn gofyn cymmaint. Sierhai y gwnai ei oreu i mi, a gwelais ei fod yn ddyn i'w air. Gtcellhaodd fl yn hollol. Effeithiodd nid yn unig ar fy nglun, ond ar fy holl gyf- ansoddiad. Symmudodd boenau echryslon iawn, trwy foddion tyner iawn. Sylwer mai nid &'r peirianau, y mae yn gweithredu bob amser, fel y cyffredin, ond def- nyddia natur ei hun, sef yr elfen wefrol fywydol, er fod ganddo y peirianau goreu a ddyfeisiwyd erioed, pa rai a all gymhwyso at lygad plentyn, yn gystal ag at y cyf- ansoddiad mwyaf cawrfilaidd. Yn sicr fe ddylai ei gymhwysderau gael eu cydnabod yn gyhoeddus. Gwir nad yw yn fyr o lythyrau can- moliaeth,"—buom yn darllen canoedd o honynt, oddiwrth bersonau pwysfawr a geirwir, wedi derbyn gwelliadau hynod, rhai o honynt yn ail iwyrthi au, ac y mae croesaw i unrhyw un gael eu gweled (gan eu bod yn llawer rhy luosog i'w cyhoeddi), a gwneud yr ym- chwiliad manylaf yn eu cylch. Y mae Proffeswr Thomas yn deall natur, ac yn medru gwneud y defnydd goreu o honi. Y mae yn nodedig o fedrus, fel y mae canoedd yn dystion. Y mae yn myned ar gynydd yn barhaus. Trwy brofiad a myfyr- dod, y mae wedi cael amrai bethau newyddion allan yn ddiweddar, sydd yn sicr o fod yn wasanaethgar iawn. Dymunaf y llwyddiant mwyaf iddo i symmud ymaith wahanol boenau y ddynoliaeth. Sylwer, a dealler, y geill pawb weled fy enw i a ewyllysient, ond ymofyn gyda Proffeswr Thomas, a chael llwyr foddlondeb o barth gweled digonedd o dystiolaethau, ac enw pob un yn gyflawn ac eglur, a'r cyfeiriad yn berffaith amlwg a didwyll. Mae nifer mawr o hysbysiadau y naill amser ar ol y llall yn y cyhoeddiadau er's llawer o flynyddoedd yn cynwys rhestr helaeth iawn o enwau rhai yn sicrhau gyaa thystiolaethau, eu bod wedi cael eu meddyginiaethu trwy Ddymgyrchiad y corff dynol y wir Fywydol Elfen ganddo ef, er na lwyddodd neb arall i wneud dim lies iddynt. Geill yr ymofynydd hefyd weled enwau nifer luosog iawn o bob dosparth o bobl, uchel ac isel radd, y rhai a iachaodd efe; y cyfryw o herwydd llawer o ystyriaethau, a phethau rhesymol gwir deilwng, ac esgusodol, a chwennychant fel fy hun, yn hytrach i'r cleifion ac eraill weled eu henwau gyda Proffeswr Thomas ei hun,' nag yn gyhoeddus. Dymunwyf iddo bob llwyddiant i iachau y cleifion. GOHEBYDD." (Gwelsom enw y Gohebydd' ac enwau llawer- oedd eraill. Gallwn yn hawdd ddeall fod personau yn teimlo anfoddlonrwydd i gyhoeddi eu henwau trwy y Wasg, eto nid yw y ffeithiau yn llai gwir.— Un o'r Golygwyr). AIS AR WERTH. DYMUNWYF hysbysu Adeiladwyr, Masnach- wyr, ae eraill, a ddefnyddiant Ais, fod genyf yn wastad Stock dda ar law yn un o'r lleoedd mwyaf cyfleus at Stations y Rheilffyrdd, i'w hanfon i bob man. Pris rhai 4 troedfedd 135. y fiL Eto 3 eto I Is. y fil. Cyfeirier at DAVID ROBERTS, 14, Victoria Road, Tranmere Park, Birkenhead. (Gynt o 41 Great Howard St., Liverpool.)

AT ETHOLWYR MERTHYR, VAYNOR,…

AT ETHOLWYR BWRDEISDREFI SIR…

AT ETHOLWYR MON.

SOAR, LLANTRISANT, A CASTELLAU…

AT EIN GOHEBWYR.

YR WYTHNOS.

Sir Gaernarfon a'r Etholiad.

Cynnrychiolaeth Ynys Mon.