Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

BANGOR.

SIR GAERFYRDDIN.

BRO MORGANWG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BRO MORGANWG. Dydd Iau a Gwener, Gorphenaf 30 a'r 31, bu cyfarfodydd urddiad y Parch. W. C. Davies, o Ath- rofa Aberhonddu, yn Zoar, Llantrisant, a Chastellau. Hyn fu trefn y gwasanaeth urddol:— Areithwyd ar Natur Eglwys gan Proff. Roberts, Aberhonddu; holodd y Parch. J. B. Jones, B.A., Penybont, y gof- yniadau i'r gweinidog ieuane;. ceiswd yr arwydd o ddewisiad yr eglwys, a derbyniad. y gweinidog gan y Parch. J. Davies, Taihirion; gweddiodd y Parch. J. Thomas, Aberdare; pregethodd y Parch. J. Williams, Castellnewydd, ar Ddyledswydd y Gwein- idog, ac ar Ddyledswydd yr Eglwys yn Zoar; y Parchn. J. Davies, Caerdydd, a J. Evans, Maendy, yn Nghastellau: Heblaw hyny, pregethodd y Parchn. L. Probert, Bodrugallt; J. Edwards, Pont- ygof; D. Thomas, Abercanaid; J. B. Jones, ao eraill. Mae gan Mr Davies gylch dymunol iawn. Boed ei oes yn faith, eilafur yn fawr, a'i lwyddiant yn amlwg. Adeiladwyd y Castellau gan fmieddwr' egltvysig yn yr ardal, a rhoddodd ef yn anrheg, flynyddau yn ol, i ychydig o aelodau o eglwys Annibynol Cymar. Addoldy bychan prydferth dros ben ydyw. Yn ddi- weddar, bu yr eglwys yn Nghastellau dan ofal y Parch. D. Stephen, Glantaf (gynt), a H. Oliver, Pontypridd (y pryd hwnw). Amlhaer eu rhif yn fuan dan- y weininogaeth. Yn. ETHOLIAD.—Mae yn dwrw a berw mawr yma yn nghylch yr etholiad dyfodol. Ceisio gwthio Mr Giffard (seinied darllenwyr y TYST yr enw fel pe wedi ei ysgrifenu Jiffard), Tory rhonc o'r, fath roncaf, i mewn i'r senedd, 3m lie Col. Stewart, aelod Rhyddfrydig dros bwrdeisdrefi deheuol MOrganwg. Ond dilys na fyn yr etholwyr mo hono. Er hyny, peidier cysgu mewn tawelwch. Nid oes un cast yn rhy frwnt a chnafaidd na chyflawna pleidwyr trais a gormes er ennill sedd seneddol o afael y Rhyddfryd- wyr. Defnyddient gyfoeth a seriw yn ddiarbed y tro hwn, canys eu cyfle diweddaf ydyw. Cofier hyny, a pharatoer yn gyfatebol ar gyfer yr ymdrech fawr sydd wrth y drws. Mae egwyddorion rhyddid wedi ennill tir annisgwyliadwy yn y tair blynedd diwedd- af. Mae rhyddid gwladol bron yn berffaith'; un gwth dda eto gyda'n gilydd, a chawn ryddid cref- yddolhefydifuddugoliaeth.Golieby(ldyl;i,o.

CLYDACH, DYFFRYN TAWE.

..LLANNON.I

LLANYMDDYFRI.

SIOls, GER TREFFYNNON.

BETHLEHEM, LLANHARAN.

BLAENAU FFESTINIOG.

CANOLBARTH PENFRO.

CARMEL, FOCHRIW. I

,DOWLAIS.

_';./: ■ TOWYN. ' ' ■

YSTRYDGYNLAIS. r,"