Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
AT Y CYHOEDD. I CRAFFUS,—"Wele hanes rliyfeddol a Y PROFFESWR JOSEPH THOMAS, (Josephus EryriJ, 33, CLAEENCE STKEET, MOUNT PLEASANT, FP LTVERPOOL. f llediclSTbr °f Remedial Power of the Electric Fluid I &hreni "9netism, and Galvanism, and P?-aetical I -Elfen °^a- y*1 meddyginiaethu, trwy y Fywydol bl-cTiJfi/T j l bawb a phob peth fethu, yrhwn sydd er's a>r nL2?"-d meithion ger "bron y cyhoedd f el meddyg, Gvrm^,oa^au hynod a wnaeth. wedi peri syndod i ^7 Saeson, a lluaws o'r Cyfandir. « a .?r ar y ^ythyr hwn sydd fel y canlyn:— j trwm a ff1 Thomas tan effeithiau anwyd { angerd^ y nS^un- Yr oedd yn anesmwyth a phoenus Sodding *7 8111 amser maith, nes yr oedd fy nghyfan- b°b yn gwanhau. Gwnaethum brawf ar ato, me n *'W ^a<^Sl°i) ac i liniaru y Tboen, cyn dyfod Hiewn ymdrochi yn y mor, mewn ffynhonau, ac f y n0a VT)avlai^' &c-> ond y cwbl yn hollol ofer. Nid oedd lawenwi,!11^05" gorphwys i mi, na'r dydd yn adeg o ^an IrJ01' fawr fy mhoen. Cefais ef yn hollol !amser f] g°nest y cymmerai dipyn o fed pA ? 7r oedd wedi cyhoeddi ugeiniau o weithiau bra^f 11 anhwylder yn gofyn llawer o wythnosau o rhai na fu cynddrwg a chyhyd yn S^elais •cJBlraaillt- iS'icrhai y gwnai ei oreu i mi, a ^eithioXi0<^ ^yn i'w aii'. Gwellhaoddfi yn hollol. "^oddiad 511 unig ar fy nSlun> ond ar h hoU gyf" focldion t "^nroudodd boenau echryslon iawn, trwy Ittae vn -1' *awn. Sylwer mai nid a'r peirianau y tiyd(j'ia ^Weithredu bob amser, fel y cyifredin, ond def- gaaddo v .e! huil> s«-;f yr elfen wefrol fywydol, er fod a all P^rianau goreu a ddyfeisiwyd erioed, pa rai ^oddrVJi^0 at lygad plentyn, yn gystal ag at y cyf YnS'^wyaf cawrfilaidd. yn gybopfl j6 ddylai gymhwysderau gael eu cydnabod ttt°ljaet}, ,^s- Gwir nad yw yn fyr o lythyrau can- oddiWrti'r~ouom yn darllen canoedd o honynt, RwelIiak bersonau pwysfawr a geirwir, wedi derbyn y mae au hynod, rhai o honynt yn ail iwyrthiau, ac yn Ua^e?e?''w' unrhyw un gael eu gweled (gan eu bod drv?inn,ir luosogi'w cyhoeddi), a gwneud yr ym- V— vn eu cvloh. gW5eil(j roffeswr Thomas yn deall natur, ac yn medru fedrns lldefnYdd goreu o honi. Y mae yn nodedig o ^yued'n mae canoedd yn dystion. Y mae yn dod, y ar Synydd yn barhaus. Trwy brofiad a myfyr- ^^edd G We^ cael amrai bethau newyddion allan yn sydd yn sicr o fod yn wasanaethgar iawn. ^wy<ldiant mwyaf iddo i symmud ymaith y ddynoliaeth. ewyilv ■ a dealler, y geill pawb weled fy enw i a chael ii ond ym°fyn gyda Proffeswr Thomas, a f°(Mlondeb o barth gweled digonedd o 'Wein U' AC ENW P°B un yn gyflawn ac egiur, a'r tOa^j. a<i yn borffaith amlwg a didwylJ. Mae nifer cyk0 ^hysbysiadau y naill amser ar ol y Hall yn y r^ggj ^dau er's llawer o flynyddoedd yn cynwys thysti ,^aeth iawn o enwau rhai yn sicrhau gyda ttw. ^ethau, eu bod wedi cael eu meddyginiaethu ^y^gyrchiad y corff dynol y wir Fywydol Elfen Iddw e7, e.r na Iwyddodd neb arall i wneud dim lies fooso»'i yr ymofynydd hefyd weled enwau nifer y*hai na-W1l0 dosparth o bobl, uchel ac isel radd, ^8%iiaet^ 6^e' y eyfryw 0 berwydd llawer o esSUsodrO au' a P^ethau rhesymol gwir deilwng, ac <fefion a a enwennychant fel fy hun, yn hytrach i'r rf 1era^ weled eu henwau gyda Proffeswr HPb cyn> .*}ag yn gyhoeddus. Dymunwyf iddo (Gwelsom iachau y cleifion. GOHEBYDD." eraill <°he^y<i<i' ac enwau llawer- Ja teimlo anf n y11 ddeall fod personau W v Wa« ^°nrwydd i gyhoeddi eu henwau oV Golygwy^j yW ifeithiau yn llai gwir.—
AGORIAD CANTON, CAERDYDD.
AGORIAD CANTON, CAERDYDD. Hydref 5ed, 6ed, a'r 7fed, agorwyd capel newydd hardd gan yr Annibynwyr yn Canton, Caerdydd. Nos Lun pregethwyd gan y Parchn. D. Davies, New Inn, a D. Williams, Troedrhiwdalar. Nos Fawrth pregethodd y Parchn. W. J. Morris, Ponty- pridd, a T. Thomas, Glandwr. Dydd Iau, am 10, pregethodd y Parchn. J. Thomas a W. Rees, D.D., Liverpool. An 2 y Parchn. D. Jones, B.A., Mer- thyr, a D. Williams, Troedrhiwdalar. Am 6 y Parchn. J. Thomas a W. Rees, D.D. Yr oedd yno yn bresenol nifer lluosog iawn o weinidogion eraill o wahanol enwadau o'r dref a'r cylchoedd. Mae yma un o'r capeli harddaf yn y sir, ac y mae yn addurn i'r lie y mae. Mae yr eglwys fechan yn y lie a'r gweinidog ieuanc wedi gweithio yn ganmol- adwy, ac y mae yr eglwysi yn Nghaerdydd a'u o^veinidogion wedi rhoddi iddynt bob cefnogaeth. Yr oedd cyfarfodydd yr agoriad yn wir barchus.
BWLCH NEWYDD, GER CAERFYRDDIN.
BWLCH NEWYDD, GER CAERFYRDDIN. Nos Fawrth, Medi 29ain, traddododd y Parch. J. Thomas Liverpool, ddarlithynylleuchodar "Richard OobdenHawliauyBobl. Yroeddyno gynulleidfaluo- sog ynne-hyd.achafodd pawbeullwyr foddhau. Lly- wyddwyd gan y Parch. Mr Thomas, gweinidog- y lie. Cyflwynwyd diolchgarwch i'r darlithydd ar gynygiad y Parch. T. Job, a chefnogiad y Parch. A. Evans, Carmel. Canodd y cor yn ardderchog, dan lywyddiaeth y gweinidog. Yr oedd elw y ddariitn at orphen talu am gapel bychan sydd wedi ei godi gan gangen o eglwys Bwlch Newydd, ar dir Panty- kenedy. Pregethodd y Parch. J. Thomas boreu dranoeth, yn y capel newydd, i gynulleidfa luosog a ddaeth yn nghyd erbyn naw o'r gloch. Yr oedd yn lion gan y gymydogaeth oil weled Mr Thomas yn talu ymweliad a'r hen ardallie y dechreuodd ei yrfa weinidogaethol er's yn agos i 27 mlynedd yn ol.— Un oedd yno.
SIR GAERFYRDDIN.
SIR GAERFYRDDIN. (Oddiar aden Crwydryn). Y mae agents y Toryaid fel tramps yn mhob twll a chornel trwy y sir. Os bu un sir mewn angen o'r ballot, bid sicr fod sir Gaerfyrddin yn un o honynt. Y mae dylanwad y scriw yn cael ei deimlo yn gyff- redinol drwy y sir. LLANGADOCK. Dywedir fod offeiriad Llandilo wedi dyweyd yr hyn a ganlyn mewn pregeth yn ddiweddar yn y lie uchod:—' Pa ham, bobl (yr oedd yn bresennol lawer o Annibynwyr), yr ydyeh yn codi yn erbyn yr Eg- lwys ? Cofiwch mai hi yw eich mam chwi. Pa ham yr ydych yn poeri yn ei gwyneb ? Pa ham yr ydych yn cicio ei chrymogau ac yn gwasgu ar ei gwynt P &c., &c. Ond dyna, er gwaethaf pobpeth, y mae hi yn eithaf diogel. Mae hi wedi ei sylfaenu ar y graig, a phyrth Gladstone nis gorchfygant hi.' Hynod boliticaidd onid e ? Pregeth noble, wir. LLANDILO. Yn Llys yr Ynadon, o flaen Peel, Du Bensson Thomas, Ysw., a'r Parch. Mr Williams, cyhuddwyd D. Thomas, amaethwr, Llwyddu, Llandybre, am gadw dau gi a dim ond un drwydded. Dirwywyd ef i lp. 5s. Hefyd, dirwywyd Jenkins, Heol Ddu, Llandybre, am gadw ci heb drwydded. Cafodd dalu yr un faint a'i ragflaenydd. Cyfaddefodd Mr Prothero Lewis, dros Mr Moir, Ysw., Cottage, Abergorlech, ei fod yn euog o dro- seddu ar dir herwriaethol Pantglas, Llanfynydd. Dirwywyd ef i ddeg swllt a'r costau. TYBIAETH 0 FWRDEAD PLENTYN. 0 flaen Mr Protheroe, cyhuddwyd un Elizabeth Evans, Dolaugleision, ger Llandilo, o fwrdro ei phlentyn. Tebyg i hyn y mae'r ffeithiau hyd yn hyn :-0 ddeutu tri mis yn ol, rhoddodd y ferch uchod enedigaeth i blentyn; ac yn mhen pythefnos aeth a'r plentyn i fammaeth i'w fagu, fel y tebygid. Ond drwgdybiwyd yn mhen ychydig amser yn her- wydd ei gweled yn teimlo cyn lleied o ofal yn mag- wraeth yr un bach. Ac yr oedd rhai o'r pysgotwyr wedi cael gafael mewn dillad plentyn bach ar lan yr afon; ac o herwydd hyny, cymmerwyd hi mewn dalfa. Yr hyn oil a hysbysai ydoedd fod tad y plentyn wedi ei gymmeryd at fammaeth, ac nas gwyddai ragor am dano. Ofnir fod y bychan wedi ei fwrdro, a cafodd y druanes fyned i garchar nes cael rhagor o ffeithiau. Codwyd terfysg enbyd o herwydd ymddwyn mor anweddus tuag ati ar ei symmudiad. Cafodd tramp ei gyflwyno i garchar ar yr un diwrnod o herwydd darnio ei ddillad yn y Workhouse, a chafodd y ferch dlawd uchod ei hand- cuffio wrth y tramp anifeilaidd hwn, yr hwn oedd yn edrych yn bur ysmala wedi ei orchuddio a hen sach. Collai ddagrau ddigon i beri Calon craig i wylo;' Ond ni leshai hyny ddim ami. Darfu i'r dull ani- feilaidd y triniwyd hi godi teimlad drwy y dref, a dywedir na ddarfydda ar hyny. Ceir clywed etto. LLANFYNYDD. Y PERIGLOEDY.—Y mae yr adeilad prydferth hwn yn prysur gynnyddu. Bydd pob peth gylch o gylch iddo pan ei gorphenir yn tynu ar fil o bunnau. Y mae un ystafell danddaearol sydd ynddo wedi taflu trigolion a phriodorwyr y He i ddyryswch mawr. Dywed rhai mai cyffes gell ydyw, eraill mai lie at gadw diodydd a gwirodydd poethion. Os yr olaf, ceir gweled yn y man waggon drwm-lwythog Norton & Co., a barilau XXX ar eu talcenau, fe allai, yn dyfod ac yn eu harllwys i'r ystafell hon. CAERFYRDDIN. LLYS YR YNADON.—O flaen D. Davies, y maer, Bagnall, a Dr Lewis, dydd Llun diweddaf, cyhudd- wyd un D. Davies am fod yn feddw, a chynnal stwr, a churo yr heddgeidwad Griffiths tra ar ei ddyledswydd. Dirwywyd ef i 10s., a 5s. 6c. o gost- au, neu bedwar diwrnod ar ddeg o garchar. Cyhuddwyd J. Davies, Bull lane, am iselhau Thomas Grey. Ni ymddangosodd y cyhuddedig. Bu bron myned a bys yr achwynydd i ffwrdd. Ym- ddengys fod rhyw archwaeth ganddo at fysedd. Cafodd ei ddirwyo am yruntrosedd o'r blaen. Tyng- wyd gwarrant i'w ddal. Y DAELLENIADAU CEINIOG.—Yr ydym yn falch o glywed ac i gael ar ddeall fod y Literary and Sci- entific Institution wedi bod yn cyfarfod ar yr achos hwn. Bydd attractive programme allan yn y man. Bydd elw y cyfarfodydd hyn i fyned at glafdy y dref fel arferol.
Family Notices
Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau. GENEDIGAETHAU. Medi 21, priod Mr D. Griffiths, Great Western Rail- way, Cwmbach, Aberdar, ar fab. Medi 27, priod Mr Griffith Williams, Pantygroes, Trewyddel, Penfro, ar ferch. Hydref 2, priod Mr John Griffiths, Aberclydach, DyfEryn Tawe, ar fab ac etifedd. Etifedd Aberclydach A dyfo'n ddyn enwocach Nag un o'i gyfoed yn y wlad Am hyn ei dad ni rwgnach.—BBYTIIONFRYN. Hydref 9, anwyl briod Mr Jenkin Thomas, Llyfr- werthwr, Rhymney, ar ferch. Hydref 10, yn Wallbottle Cottage, Dinbych, priod Mr T. J. Roberts, ar fab. PRIODASAU. Hydref 3, yn Elim, Mynydd Cynffig, gan y Parch. G. Jones, Cefncribwr, Mr David Rees, Bryncethin, a Miss Mary Anne Harding, o'r lie hwn, Hydref 8, yn y Cathedral, Manchester, gan y Parch. J. M. Elvy, M.A., Mr John Nettle, Gampton Devon, a Sarah Ann, merch ieuengaf Mr John Roberts, Booth Street West, Chorlton-on-Medlock, Manchester. Hydref 8, yn Carmel, capel yr Annibynwyr, Cendl, Brycheiniog, gan y Parch R. Hughes, John Rhys, unig fab Mr Richard Phillips, a Sarah, merch ieuengaf Mr W. Brewer, y ddau o'r un He. MARWOLAETHAU. Medi 21, yn 18 mlwydd oed, Miss Charlotte Bethel, merch Mr John Bethel, Spinemor, swydd Durham, (Treffynon, gynt). Bu Charlotte yn aelod nyddlon gyda'r Wesleyaid er pan yn blentyn. Ac yr oedd fel ei mam gynt, yr hon a fu farw yn ddedwydd yn yr Arglwydd oddeutu tair blynedd yn ol, yn eneth ddis- taw, dirion a chymmwynasgar, ac yn meddu ar obaith da trwy ras. O! 'r fath loes a chroes hefyd,-rhoi Charlotte Yn isel dir gweryd; Ond cofiwn, Duw a'i cyfyd, Ilr Nef wen uwch ben byd. MORGRUGYN CALLESTR. Hydref 2, bu farw o'r Typhus Fever, yn 29 mlwydd oed, Mr James Evans, Victoria Street, Dowlais, gan adael gwraig ac un plentyn i alaru ar ei ol. Y dydd Mawrth canlynol, ymgasglodd tyrfa luosog i wneuthur y gymmwynas olaf a'u hanwyl frawd, sef cludo y rhan farwol o hono i dy ei hir gartref, yn y gladdfa newydd perthynol i'r lie hwn, sef mynwent newydd Pont Cad- Ivor. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. LI Hughes, Gwernllwyn, eglwys yr hwn yr ydoedd wedi bod yn aelod o honi am. amryw flynyddau. Brodor vdoedd o sir Aberteifi. Cafodd ei dderbyn yn aelod pan yn ieuanc gyda'r Annibynwyr yn Brynmair, ger Aberporth, a symmudodd i Dowlais er s agos i saith mlynedd yn 01. Yr oedd bob amser yn y rhes flaenaf yn y cyfarfod gweddi, y gyfeillach grefyddol, ar Ysgol Sabbathol, a theimlir colled dwys ar ei ol. Boed hedd- wch i'w lwch hyd udganiad yr udgorn diweddaf. Hydref 3, yn ei. 16eg mlwydd, Ruth, merch Mr Robert Williams, Lower Mersey View, Bootie.
CYFARFOD CENHADOL CYFUNDEB…
CYFARFOD CENHADOL CYFUNDEB CYM- REIG SIR BENFRO. Cynhaliwyd y cyfyrfod uchod yn Mhenygroes, Hydref 6ed a'r 7fed, 1868. Boreu dydd Mawrth yr oedd yn wlawog iawn, ac ni chyrhaeddodd ond saith o weinidogion i'r gyn- hadledd. Daeth naw eraill atynt i'r cyfarfodydd cyhoeddus. Wrth ddynesu i'r lie, gwelem fod cof- golofn hardd newydd ei dodi i fynu yn y fynwent ar fedd yr enwog a'r anwyl Barch. Caleb Morris, yn deilwng o safle uchel a chymmeriad teilwng y gwr- thrych a gofnoda. Dechreuodd y gynhadledd am 11, dydd Mawrth, pan etholwyd y Parch. R. Perkins vn Gadeirydd, ac y gweddiodd y Parch. E. Griffiths," Tredeml. Mat- terion dan sylw:— 1. Adnewyddiad cyfarfod unol i'r Cymry a'r Saeson unwaith yn y flwyddyn.-Teimlid awydd am dano, a chedwid ef yn rhwydd pe byddai i chwech eglwys yn y Goror-tair o bob cyfundeb ei gynhal yn eu tro. Amlygodd y Parch. D. Jones, Ford, ei foddlonrwydd, fel yr unig weinidog presenol o'r Goror, i gael y cyfarfod i'r Ford. Rhoddir gwyb- odaeth o hyn i'r Saeson. 2. Y Colegdy Newydd.—Derbyniwyd yn y cyfar- fod yn agos i 60 punt, fel y mae yn awr rywle tua 200 punt wedi eu talu at y Cologdy o'r undeb hwn. Y mae arnom eto dros 100 punt yn ol yr amcaniaeth a wnaed o'r hyn a ddisgwylid oddiwrthym yn Nghastellnedd. Gwnaethom ninauranu 300 rhwng yr eglwysi oreu y medrem. Y mae rhai wedi talu yr oil, a rhai fwy na roddwyd arnynt, eraill wedi dechreu. Taerddymunwn ar yr holl eglwysi i gyd- uno, a rhwydd y gallem fod wedi cwblhau ein rhan o fewn y dyddiad presenol. Yna cyhoeddir yr hyn a wnaedyn y sir at Weyland a'r Colegdy, fel y gweler ar un olwg beth a wnaethom ar ran y mudiad dau ean' mlwyddol. 3. Capel Ramah, Llandderfel,-A ystyrid yn achos teilwng o gydymdeimlad a chymhorth cyfeillion rhyddid gwladol a chrefyddol. 4. Cyfarfod Cenhadol 1869 i gael ei gynhal yn Nhrefdraeth. Wedi cydymddiddan pellach am bethau lleol, ter- fynodd y Parch. B. James, Llandilo, trwy weddi.
Y CYFARFOD CYHOEDDTJSJJ
Y CYFARFOD CYHOEDDTJSJJ A gynhaliwyd prydnawn dydd Mawrth, dan lyw- yddiaeth J. Colby, Yswain, Pantyderi. Darllenodd y Parch. D. Bateman yr adroddiad yn yr hwn y dangoswyd fod cyfraniadau y cyfundeb at y Genhadaeth y llynedd yn ymylu ar 200 punt. 1. Penderfynwyd, ar gynhygiad y Parch. W. Thomas, Whitland, 'Fod y cyfarfod yn dymuno datgan y cydymdeimlad mwyaf didwyll a'r Pagan- iaid, y rhai ydynt yn aros mewn tywyllwch a chys- god angeu, ac yn dymuno datgan penderfyniad i ffyddlon gydweithio a'r Gymdeithas Genhadol, yr hon sydd a'i hamcan i ledaenu yr efengyl fel y llew- yrcho goleuni arnynt.' 2. Ar gynhygiad y Parch. D. Johns, Berea,—'Fod y cyfarfod yn dymuno datgan ei ddiolchgarwch i Dduw am y llwyddiant mawr sydd wedi dilyn gweithrediadau y Gymdeithas y flwyddyn diweddaf, yn ngwahanol barthau y byd, yn enwedig yn Mada- gascar.' 3. Ar gynhygiad y Parch. J. G. Morris, Tref- draeth, Fod y cyfarfod yn mawr gymmeradwyo y gwelliantau sydd wedi eu gwneud gan swyddogion a chyfarwyddwyr y Gymdeithas yn ei chysylltiadau arianol, ac yn llawenhau yn symmudiad y ddyled drom fu yn pwyso arnynt, gan ddymuno iddynt bob dwyfol gyfarwyddyd yn y dyfodol. 4. Ar gynhygiad y Parch. D. Jones, Ford,—' Gan fod y cynhauaf yn wir yn fawr yr ydym fel cyfarfod yn dymuno anog y naill y Hall rhag anghofio gweddio am nodded Duw i'r cenhadau sydd eisoes ar y maes, ac eifod eto yn codi gweithwyr lawer i'w hanfon i'r cynhauaf.' Am 6, gweddiodd y Parch. W. Griffiths, Bethel, pregethodd y Parch. J. R. Thomas, Bethesda, ar Esaiah liii. 10, a'r Parch. B. James, Llandeilo, ar Esaiah lii. 3. 'Dydd Mercher, am 9J, gweddiodd y Parch. J. Davies, Gedeon, pregethodd y Parch. D. Baiemau, ar Heb. xii. 27, a'r Parch. J. Davies, Moriah, ar loan xiv. 2. Yna cydgyfranogwyd o Swper yr Ar- glwydd gan bawb ewyllysgar i uno fel yn caru Crist yn fwy na sect. Am 2, gweddiodd y Parch. G. Williams, Tre- wyddel, pregethodd y Parch. J. M. Davies, Tyrhos, ar Rhuf. viii. 8, 4, a'r Parch. S. Thomas, Bethlehem, ar Heb. vi. 17. Am 6, gweddiodd Mr W. Evans, Trefdraeth, pre- gethodd y Parch. D. S. Thomas, Glandwr, ar Mat. xvi. 18., a'r Parch. E. Griffiths, Treddeiniol, ar Dat. xi. 15. Casglwyd y Sul blaenorol gp. 4s., ac yn y cyfar- fodydd 6p. Os. 2c., yr oil yn 15p. 4s. 2c. Terfynodd yr ysgrifenydd trwy weddi, a theimlem fod ysbryd cenhadol yn parhau yn rymus yn ein plith.. SIMON EVANS, Ysgrifenydd.
Y FASNACH YD.
Y FASNACH YD. LLUNDAIN, Dydd Llun diweddaf.—Yr oedd v fasnach mewn gwenith yn farwaidd, a gostyngodd y prisiau 0 un i ddau swlit y chwarter. LrYERPoor., Dyd Mawrlh.Y mae y farchnad wenith -VTQ /«-rW £ U<^ anarferol, a'r prisiau wedi tueddu i w ™ we,<^1 ymgaledu ychydig mewn pris. Y mae I ™ Ti ■} egld Prmder a galwad da am dano, wedi gweUa l r gradd o Is 6c y chwarter. Yr oedd y farchnad heddyw yn lied fywipg, a gwer galwad am wenith am bris- lau dydd Mawrth diweddaf Yr oedd blawd yn sefydlog. Nid oedd unrhyw gyfnewi^ad o bwys mewn ceirch a blawd ceirch. Yr oedd fla yn 6c l 9c yn ddrutach. Yr oedd gTawn yr India Is 6c i is 9d y chwarter yn well, ond darfu i'r estvn- iad braidd attal y gofyniad.
ANIFEILIAID.
ANIFEILIAID. LLUNDAIN, Dydd Llun. Nifer yr holl anifeiliaid tramor a ddaeth i Lundain yn ystod yr wythnos ddiweddaf oedd 8,617. Gwartheg.—Yr oedd y fasnach yn lied fywiog, a chedwid at brisiau dydd Llun. Defaid.—Y fasnach ar y cyfan yn sefydlog, ond y prisiau heb newid. = Lloi.- Y lloi bychain da mewn galw am lawn brisiau, ond y mathau eraill yn farwaidd am brisiau blaenorol. Moch. Yr oedd y fasnach yn sefydlog, ond heb fod iylt medrol & 1 lawn brisiau. Y cyflenwad yn gym- LIVERPOOL BCydref 12.-—Yr oedd y cyflenwad o wartheg a defaid yn llai na dydd Llun diweddaf. Yr oedd v fas- nach yn lywiog, a'r prisiau braidd yn well. Yr oe'dd y cyflenwad yn cynnwys :-3,034 o wartheg; a 11,721 o ddefaid.
MASNACH METTELOEDD, &c.
MASNACH METTELOEDD, &c. PLWM. English Pig, 19p 0c i 19p 10s Oc y dynell. Spanish r>i& lftr> 15s i 19p 03. Plwm coch, o 21p 0s i 21p 0s plwm £ >-wvn otK Os Oc i 2Sp Os Oc y dynell. s CYMREIO.—Bails, 5p 10s Oc i 5p 15s Oc y dynell yn y gweith- iau; Common bars, 5p 15s Oc i 6p Os Oe. °
MARCHNADOEDD SEISONIG.
MARCHNADOEDD SEISONIG. MANCHESTER, Hydref 8.—Daeth llawer yn nghyd i'r farch- nad heddyw. Masnach araf a wnaed mewn gwenith, a ched- wid at y prisiau am y cartrefol, tra yr oedd y coch tramor yn 3c y canpwys yn rhatach. Araf oedd y fasnach mewn blawd, a gostyngodd pob math, oddieithr y mathau goreu, 6c y sach. Y ceirch a'r blawd ceireh yn cadw at a prisiau, ac ychydig fas- nach a wnaed. Cododd ffa a grawn India o 6e i Is y chwar- ter. DERBY, Hydref 7.-Gyda chyflenwad helaeth o wenith, yr oedd y prisiau tua Is y chwarter yn uwch. Tueddai eeirelt a fla at ychydig godiad. BIRMINGHAM, Hydref S.—Y cyflenwad o wenith yn fychan yr hwn a werthid yn rhwydd am brisiau yr wythnos. Ceirch yn tueddu i ostwng. Cedwid at y prisiau am bys. HULL, Hydref 6.-Cynnygiwyd ychydig o wenith ar werth, ond masnach araf a wnaed am brisiau yr wythnos. Haidd yn cadw at brisiau diweddar. CAERLLEON, Hydref lo.-Daeth llawer ynghyd lieddyw. Yr oedd y eyflenwad o yd yn gymmedrol. Cedwid at brisiau yr wythnos am wenith. Ceireh a ffa yn sefydlog yn y prisiau. Grawn India braidd yn is. GLASGOW, Hydref 9.—Y fasnach yn dawel iawn. Yr oedd prisiau gwenith a blawd yn cael eu cadw. LINCOLN, Hydref 2.—Arafaidd oedd y fasnaeh mewn gwen- ith, a braidd yr oedd y prisiau mor uchel a'r wythnos ddi- weddaf. Cedwid at y prisiau am haidd. NEWCASTLE, Hydref 10.Yr oedd y eyflenwad o wenith ar werth yn helaeth, yr hwn a werthid am brisiau y dydd Sadwm blaenorol. Y ceirch, ffa, a phys, yn gwerthu yn araf- aidd am y prisiau blaenorol. NORWICH, Hydref 10.—Yr oedd cyflenwad da o wenith ar werth, a gwnaed masnach fywiog. Yr oedd y prisiau yn debyg i'r wythnos ddiweddaf. Cododd haidd at fragu 6c. MALTON, Hydref 10.—Yr oedd y cyflenwad o yd yn fyehan, ond heb un cyfnewidiad o bwys yn y prisiau. Haidd yn cadw at lawn brisiau. Ceirch yn sefydlog. YORK, Hydref lo.-Masnach araf a wnaed luewn gwenith, a braidd y cedwid at brisiau yr wythnos. Ni chymerodd un cyfnewidiad le yn mhrisiau blawd. WAKEFIELD, Hydref 9.—Y fasnach mewn gwenith yn farw- aidd, a braidd y cedwid at brisiau ddydd Gwener. Haidd da yn ddrutach braidd. NOTTINGHAM, Hydref 10.—Yr oedd gwenith mewn galw am brisiau yr wythnos. Haidd yn sefydlog. PBESTON, Hydref 3.—Cynnygiwyd cyflenwad da o wenith newydd ar werth, yr hwn a werthid yn fywiog am godiad 0 3c. Blawd 6e yn is. Cedwid at y llawn brisiau am ffa, ceirch, a blawd ceirch.
MASNACH MARCHNADOEDD CYMREIG.
MASNACH MARCHNADOEDD CYMREIG. ABERGELE, Hydref 10.-Gwenith, 17s Oc i 18.3 Oc yr hob; haidd, 12s 6c i 14s Oc yr hob; ceirch, 7s Oc i 9s yr hob; ffa, 17s 6e i 18s 3c yr hob; blawd ceirch, 39s Oc i 41s Oc y 240 pwys. BALA, Hydref 10.—Gwenith, 3Ss Oc i 40s Oc y pwn; blawd ceirch, 40s i 42s Oc y pwri haidd, 12s Oc i 14s Oc yr hob; ceirch, o 9s Oc i 10s 6e yr hob. Cig eidion, o 6c i 7e y pwys; cig dafad, 63c i 8c y pwys; ymenyn fEres, 14e i 15c y pwys ymenyn llestri, 00c i 00c y pwys. BANGOR, Hydref 9.—Gwenith, o 50s Oc i 53s Oc y chwarter; haidd, 35s Oc i 37s 6c; ceirch, 22s Oc 1 24s Oe; blawd ceirch, 38s i 39s y 240 pwys. ymenyn ffres, 18c i 19c y pwys; cig eidion, 6c i 90 y pwys cig dafad, 7c i 9c y pwys; hwyaid, 3s 9c l 4s Ocy cwpl; cywionieir, o 2s 6c i 2s 8c y ewpl; wyau, 7 am 6c. CASTELL NEWYDD EMLYN, Hydref 9.—Gwenith, 8s Oc i 8s 6c y bwsel 64 pwys; haidd, 5s Oc i 5s 6c y bwsel o 54 pwys; ceirch, 2s 9c i 3s Be y bwsel o 40 pwys; ymenyn ffres, 10c i 12c y pwys llestri, 10c i lO^c y pwys; caws, 2c i 2c y pwys; cig eidion, 6c i 7hc cig dafad, 7c i 7e y pwys; cig 110, o 5c i 7o y pwys; cig oen 6c i 7c y pwys; moch mawr, 8s i 8s 3c y 20 pwys; gwlan, o Is Ie i Is 6c y pwys; pytatws, o 2s 6c i 3s Oc y bwsel. CAERFYRDDIN, Hydref 10.—Gwenith, o 6s 6c i 7s Oc y bwsel; haidd, 4s 9c i 5s 6c y bwsel; ceirch, 2s 4c i 3s Oc y bwsel o 40 pwys; blawd, 37s i 50s y sach o 280 pwys. CAERNARFON, Hydref 10.—Gwenith, o 52s i 53s y chwarter; haidd, 35s Oc i 378 Oe chwarter; ceirch, o 22s 6c i 25s Oc y chwarter; blawd ceirch, o 37s Oc i 39s Oc y 240 pwys. CONWY, Hydref 10.—Gwenith, 16s Oc i 18s Oc yr hob haidd 12s 6c i 13s 6c yr hob ceirch, 8s Oc i 9s Oc yr hob blawd ceirch, o 38s Oci 39s Oc y 240 pwys. CORWEN, Hydref 9.—Gwenith, 35s 0c i 37s 0 y pwn; haidd, 12s 0c i 13s 0c yr hob ceirch, 8s 0 i 9s yr hob; blawd ceirch, 40s 0c i 42s y pwn; cig eidion, 6sc I 75c pwys; cig dafad, 7c i 8ic y pwys; cig llo, Oc l Oc; ymenyn ffres, o 14c i 15e y pwys; ymenyn llestri, OOc i OOc y pwys. CROESOSWALLT, Hydref 7 .-Gwenith, 8s Oc i 8s 6c; haidd at fragu, 6s 6c i 7s 0c; etto, at falu, 6s Oc 16s 3c; ceirch, 5s Oc i 5s 6c. DINBYCH, Hydref 7.—Gwenith, o 19s 6c i 20s 0c yr hob; haidd, 15s 0c i 16s 0c yr hob ceirch, 9s 0c i 10s 0c yr hob: ymenyn ffres, o 16c I 18c y pwys; yr ymenyn llestri, 14e i 15c y pwys. GWBECSAM, Hydref 8.—Gwenith gwyn, 8s 6c i 9s Oc y bwsel coch, 8s 5c i 8s 9c.; haidd, 6s 6c i 7s Oc.; ceirch 4s 6e i 5s0c.; ymenyn ffres, o 17c i 18c y pwys; cig eidion, o 7ci 90 y pwys; cig dafad, o 7c i 8c cig llo, 7c i 8c y pwys; pytatws, 4s 4c i 4s 6c y mesur; hwyaid, 4s 6c i 5s 0c. LLANERCHYMEDD, Hydref 7.-Gwenith, 51s Oc i 54s Oc y chwarter haidd, o 27s Oc i 29s Oc y chwarter; ceirch, o 21s Oci 23s Ocy chwarter; pytatws, Is Oc y 17 pwys ymenyn ffres, 00c i OOe y pwys cig eidion, o 6c i 80 y pwys cig dafad, 6c i 7c y pwys; cig llo, o 4c i 6c y pwys; cig moch (hams) 10c i lIe y pwys. LLANGEFNI, Hydref 8.—Gwenith, 50s i 52s Oc y chwarter; haidd, 348 i 36s Oc ceirch newydd, 21s Oc i 23s Oc; ymenyn ffres, 000 i 00c y pwys; hallt, 00c y pwys cig eidion, o 6ci 8c y pwvs cig dafad, 6c i 8c cig llo, 5c i 6e y pwys; pytatws Is Oe y 19 pwys. MACHYNLLETH, Hyd. 7.—Gwenith, o 32s Oc i 33s Oc y pwn.; haidd, 5s Oc i 5s 6e y Winchester; ceirch, 3s 6c i 4s Oc y Win- chester; blawd ceirch, o 38s 0c i 40s Oc y 240 pwys; pytatws, lc pwys ymenyn ffres, 15c i 15c y pwyf 13. i 13c y pwys; cig eidion, 6jc i 7c y pwys, cig dafad, 7c i 0c gwer, 4|c i 5c y pwys. RUTHIN, Hydref 12.-Gweni.tb, 0 18s i 19s Oc yrhob; haidd, 15s Oc i 16s 0c; ceirch, o 10s 1 ius oc yr nob; ymenyn ffres, 15e i ooe y pwys; llestri, 00c y pwys. TREFFYNON, Hydref 9.—Gwenith, 18s i 19s yr hob; haidd, 14s i 14s yr hob ceirch, 8s 6c11 9s yr hob pytatws, 1c i 1c y pwys; ymenyn ffres, o 18c 1 lbc y pwys; ymenyn llestri, 15e i 16c y pwys; cig eidion, so 1 9c y pwys; cig dafad, 7c i 8c y pwys; cig 11 o, 7c i 72c y pwys; wyau 7 am 6c. WYDDGF-UG, Hyd. 7 .—Gwenith, o 18s 0c i 19s 6c yr hob; haidd, o 13s Oc i 13s- 6c; ceirch, 8s 0c i 9s 6c; pytatws, o 0s i Os; ymenyn 0 17c 118c y pwys. PWLLHELI, Hyd. 7.—Haidd, 36s Oc i 37s Oc y chwarter; ceirch, 24s i 25s.; ymenyn ffres, 16c i 17c y pwys; ymenyn llestri, 14c i OOc y pwy:
EJN GOIIEBWYR A'N daellenwye.
EJN GOIIEBWYR A'N daellenwye. Rhymrxey-Anneauad^r- Glowyr Cymru; Pregethwyr a Thy- amryw 0 newyddion i law, ond bu raid i ni eu "an o herwydd diffyg lie. „ J/ *-™hebiaethau oil—To the Editors of the TYST CYM- ha-pel Walks, South Oastle Street, Liverpool.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. b yjj ^"euodd Mr. Grladstone yr yxngyrch o adifrif 311 -Me Orllewinol o Swydd Lancaster, yn j xnae n» nos Lun diweddaf. Y treuliau afradus y 'I'oriaid yn euog o honynt oedd baich ei 'reo Dygodd y cyhuddiad o'r blaen yn erbyn y 0 jj la°tli bresenol, o daflu y wlad i dair miliwn jH0r ychwanegol. A ehyda'r dewrder sydd dacth yn mlaen y tro hwn i gadarn- ^aeriad a wnaeth. Ac nid yn unig profodd yjj bod suddo y wlad i ddyled; ond profodd a4 blaena ebol mai y blaid Doriaidd, a rhai o ^eng.ai1 ^aeuaf y Weinyddiaeth sydd wedi bod er y 1 ^edd diweddaf yn gwrthwynebu pob cynyg ^reu^iau y llywodraeth. Nis gallwn ddych- y mac gan y Toriaid wyneb yn blaj^ ffeithiau i gyhuddo Mr. Gladstone a'r taj. ^"ifrydig o suddo y wlad i ddyled.—Ond o i •* y niae gancldynt ddigon o haerllugrwydd y mae Mr. Grladstone wedi S^vneyd dynoethiad arnynt, ac ni rydd i Q eu tangos j peth ydynt ger bron y wlad. ?tg0s 11 cyfarfodydd etholiadol yn y parthau hyn 1108 yr "wythnos hon. Bu un trystiog iawn ^y4dfrr°riald -^ver^on nos Lun. Cafodd y Jn j>. ^"w-yr a'r Toriaid un lluosog iawn bob un a ]if„ nos Fawrth. Y mae Meistri Rathbone ■^■assev ymweliad a'r gwahanol wards ar a c^'w^'iasant a chyng-hor y Gym- 11vJ7giadol Gymreig prydnawn dydd Iau. 3^ cJ^arfod pwysicaf oedd yr un a gynhaliwyd etJl°liad^InpllitllCatre' nos Fercher, yn nglyn ag ynesaf ^a<lstone a Grenfell. Ceir y manylion yn XT ri °ynal n Cynnulleidfaol Lloegr a Chymru yn .lite 'Yfarfocl Hydrefol y dyddiau hyn yn Leeds. ^Uey ^'egeth arweiniol gan y Parch. T. Cad pregethwyr Lloegr. Dr. Raleigh Jn ll7(ld yr XJndeb eleni. Mae y cyfarfodydd ^?aabrWdfrydig iawn. Yr oedd areithiau ^Os ji arr 18011 > Dale, a Parker yn y cyfarfod mawr Yj. y11 gwefroiddio yr lioll gynnulleidfa. yr oedd cyfarfod undeb y Bcdydd- ttf od e1 gynhal yn Bristol, ac yr oedd y cyf- Yj, drivyddynt yn llawn angerddoldeb. ,"niQs ^0n hefyd yr oedd cyfarfod blynyddol ■^ancj(es^' y IJeymys Gyfunol yn cael ei gynhal yn ^^adol6r' °6^ yno gynnulliad lluosog a dy- V«eitls a thcimlai cyfeillion y Cyngrair yn fwy °edd ° erioed yn Hwyddiant eu hegwyddorion. y °yfarfod hwyrol yn y Free Trade Hall yn bob peth y gallasai cyfeillion gwresocaf y symudiad ei ddymuno. Cyfeiriodd Mr Watkin Williams, mewn cyfarfod etholiadol yn Dinbych, at ymddygiad y Parch. James James, periglor Llanfwrog, Rhuthyn, yn troi Uafur- wr o'r enw Gabriel Roberts o'iwasanaeth am addaw pleidleisio iddo ef (Mr Williams), ac anfonodd y Parch. J. Jones lythyr i'r Carnarvon Herald i wadu hyn; end y mae Gabriel Roberts yn datgan yn y modd mwyaf clir yr holl amgylchiadau, fel nad oes un gronyn o ammheuaeth nad yw y cyhuddiad yn wir yn erbyn y periglor. Dyma y sgriw i'r golwg —dynoether hi trwy y wlad. Y mae y ddau Breaksmen wedi cael eu traddodi i gael eu profi yn y frawdlys nesaf am ddynladdiad y trueiniaid ger Abergele. Taflwyd ymaith y cy- huddiad yn erbyn Mr Davies, Cyfreithiwr, Tre- ffynnon.
CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH.…
CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH. D. PRICE, AMERICA. Nos Lun nesaf, Hydref 19eg, am saith o'r gloch, y-n Nghapel Grove-street, bydd cyfarfod ymadawol Y Parch. D. Price. Gan y bydd yn cychwyn i lfwrdd dranoeth i'w wlad fabwysiedig, diau y bydd rn. dda gan ganoedd o'r Cymry gael cyfle i glywed 3i Ffarwel olaf am byth." Nid rhyw rwystrau )ychain gaiff atal neb rhag dod i glywed un sydd nor adnabyddus, ac mor anwyl yn y weinidogaeth irys deugain mlynedd, y noson y bydd ei lais swynol m tewi i ni yr ochr hyn i'r mor. Heblaw gweini- logion y dref, disgwylir amryw eraill i fod yn bre- ienol. Os bydd rhyw rai heb gael cyfle i roi dim at )i Dysteb, gellir dangos teimlad da tuag ato wrth rsgwyd llaw y noson hono.
Y OHWYLDROAD YN YR YSBAEN.
Y OHWYLDROAD YN YR YSBAEN. Y mae y ffurf newydd o Lywodraeth yn yr Ysbaen, yn myned yn mlaen yn ardderchog o drefnus a heddychol hyd yn hyn. Gafodd y Cadfridog Prim y derbyniad mwyaf brwdfrydig, ar ei fynediad i Madrid—yr oedd y fath ruthro i gael golwg arno gan y miloedd, fel y gwasgwyd rhai i farwolaeth, ac anafwyd amryw eraill yn dost. Y mae ffurfiad y Weinyddiaeth newydd yn awr yn orphenol. Ser- rano sydd i fod yn Llywydd; cymer Prim y swydd- fa rhyfel; Topete sydd i fod yn weinidog y llynges; edrycha Eignerola ar ol y cyllid; a gofala Loron- gand ar ol y swyddfa dramor. Gosodir Llywyddion ffafriol i'r Llywodraeth newydd yn y gwahanol dalaetha-q, Ychydig iawn o ymosodiadau gwaedlyd a wnaed er pan y torodd y chwyldroad allan, ond yr oedd teimlad y bobl wedi ffyrnigo at ysgrifenydd y cyn-Brifweinidog, fel yr archollwyd efryw ddiwrnod ar yr heol yn drwm iawn. Oondemniwyd y weith- red yn ddiatreg gan y Cadfridog Prim, a chyhoedd- odd y Llywodraeth ddatganiad yn erbyn pob ymos- odiad annghyfreithlon o'r fath. Yr oedd Llysoedd priodol i ddwyn pob achosion anghyiiawn iddynt, heb i neb gymeryd y gyfraith yn ei law ei hun. Llosgodd torf awyddus i ddangos eu digasedd tuag at yr hen ormes offeiriadol, y Concordat o flaen palas llysgenad y Pab. Gofynodd negesydd Ffrainc am eglurhad ar hyn, ac os gallai cynrychiolwyr y gwled- ydd Tramor ymddibynu am ddiogelwch i'w bywyd- au. Atebodd Serrano yn union yn gadamhaol; a chynhygiodd osod gwarchlu i wylio eu trigfanau, ar yr un pryd sicrhai y negesydd mai amcan yr ar- ddangosiad oedd dangos teimlad ffafriol i ryddid crefyddol. Dechreuir cynhyrfu gan rai dros wneud Prim yn Benrheolwr, ac y mae rhyw sibrwd ei fod am ddat- gan ei hun yn Frenhin. Pan yr oedd yn myned trwy yr heolydd ryw ddiwrnod, derbynid ef gyda bloeddiadau o Hwre i'r Ymerawdwr.' Gwrthwynebiad i Gristionogaeth yn China a Japan.- Gwnaed ymosodiadau ar Genhadon yn Wuchang, sydd yn galw am ymyriad uniongyrchol y Llywod- raeth Brydeinig. Gosodir ar byrth y dref yn Japan, waharddiad ymerodrol i Gristionogaeth. Arswyd yn Rhufain.-Y mae llwyddiant y chwyl- droad yn yr Ysbaen wedi achosi cryn ddychryn trwy Rufain yn mysg yr offeiriaid a phleidwyr y Babaeth, ond y mae y rhyddfrydwyr yn llawen iawn. Y cynhygiad i fradlofruddio Rhaglaw yr Aipht.- Cyflwynodd y gwahanol gonswliaid yn Alexandria anerchiad i'r Rhaglaw yn ei longyfarch ar y wared- igaeth a gafodd yn ddiweddar rhag cael ei fradlof- ruddio. Mewn atebiad, dywedai y Rhaglaw ei fod yn awyddus nodedig i ddyrchafu ei bobl, ac nad oedd yr ymgais diweddaf wedi oeri dim ar ei awydd, na newid dim ar ei egwyddorion. Y Dynion duon a gwynion yn America.-Parhau yn derfysglyd y mae hi rhwng y negroaid a'r dynion gwynion yn y Talaethau Deheuol, ac ymofynir oddi- ar yr Arlywydd o wahanol fanau, am filwyr i gadw trefn. Nid yw yn gwbl dawel yn y Talaethau Go- gleddol. Ymosodwyd ar orymdaith o Radicaliaid gan fintai o Ddemocratiaid yn Pennsylvania. Y Daeargrynfau yn Neheudir America.—Y mae y newyddion sydd wedi ein cyraedd ddiweddaf o Dde- heudir America, yn rhoi darluniad o sefyllfa druenus miloedd o'r trigolion mewn canlyniad i'r difrod ofn- adwy a wnaeth y daeargrynfau. Estynir cymhorth yn weddol rwydd i'r rhai sydd ar y glanau, ond y mae y rhai sydd yn nghanol y wlad yn dioddef yn ddirfawr. Teimlwyd amryw gryniadau er y daear- gryn mawr. Y mae rhestr y lladdedigion yn Ecuador yn awr meddir yn 40,000. Gorweddai y meirw, lawer o honynt, o dan adfeilion y tai yn Peru, ac yr oedd yr arogl ddrwg yn llygru yr awyr, nes yr ofnid y byddai i glefydau dori allan. Yr oedd haid o ladron yn crwydo trwy y dadfeilion gan yspeilio pawb oedd ganddynt rywbeth wedi ei adael. Cyn- haliodd trigolion San-Francisco gyfarfod er dyfeisio rhyw foddion i godi trysorfa i gynhorthwyo y tru- einiaid sydd yn dioddef.
LLANDUDNO.
LLANDUDNO. YR ETHOLIAD,-Y mae yn agos i 300 o etholwyr yn y dref hon a'i chymydogaeth wedi addaw eu pleidleisiau dros Love Parry. Yn y cyfarfod mawr cyhoeddus a cynaliwyd yn St. George's Hall, o blaid y gwron o Fadryn yr wythnos diweddaf, adroddwyd y farddoniaeth ganlynol:— Gan Gwalchmai: Bu Arfon yn gynffon gaeth, Ar droion drwy Doryaeth, Ond yn awr, mae gwawr er gwell Yn hapus, nid yw nepell, Ar dori drwy'n bro dirion Ddeil i hawdd oleuo hon; Llafar dwys fydd llifo'r did At roddi breintiau rhyddid Ag arwain hyd eu gorawr, Bobi a fu yn Babel fawr: Ein Por yw Cadben Parri, Wr o nerth i'n harwain ni, Gwr y wlad sy' gawr o Leyn, Gwir fedrus gawr o Fadryn, Ac ar air llanciau'r 'Byri, Rhodda help i'n rbyddhau ni. Nid erys neb yn Dori Trwy y nos yn ein tref ni; Daw'r dynion dewrion i'r dydd 0 galon gyda'u gilydd; Elphin fydd brenin y bryniau-y gwr Gariwn ar ysgwyddau I'r Senedd, a mawr seiniau Hwrê brwd i hir barhau. Gan Tudno Jones Heddyw i'n tir ddaw un Tori—yn gydbwys A'n dewr Gadben Parry 1- Arwrol feib Eryri, A'u gwyn gyll a'i hennill hi! Bloedd gyrch y bobloedd i gad—geir heddyw'n Cyrhaeddyd drwy'r hollfyd; Cawn Arfon mewn cynhyrflad, T. D. Love fydd tad y wlad. YE ANEHYDEDDUS G. DOUGLAS PENNANT. Yr oedd yr ymgeisydd Toryaidd uchod ynghyd a pher- son y plwyf hwn-Parch. J. Morgan, a Meistri Jas. Williams, Eden Cottages; Dr. J. R. Ellis, Tudno House Thomas Atkinson, Bryn Teg; B. R. Davies; Jchn William Hughes, Ysw., Twrnei, Bangor; ac amryw eraill, yn brysur yn myned oddiamgyleh i chwilio am addewidion mewn pleidleisiau; mae yn debyg mai pur ychydig a ddarfu iddynt ennill o bobl Ryddfrydig Llandudno i adclaw eu pleidleisiau a thra yr oedd yr ymgeisydd yn gofyn i ryddfrydwr trwyadl am addewid o'i bleidlais, gofynodd y rhydd- frydwr iddo,—' A oedd ef am ddadwaddoli a dad- gysylltu yr Eglwys Wyddelig?' Yr ateb oedd,— No.' Ar ol hyn dyma tua ddau gant o bobl yn gwaeddi nerth eu penau—' Love Parry am byth,' ac II lawr a'r Eglwys Wyddelig.' Daliwyd i waeddi am beth amser, hyd nes y digalonodd yr ymgeisydd, ac aeth yn bur fuan tua'r station