Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
BLWYDDYN NEWYDD DDA.
BLWYDDYN NEWYDD DDA. 'Ie, Ddarllenwyr hoff-Blwyddyn newydd i dda i chwi oil. Mae llawer clust y disgynodd cyfarchiad yma yn dyner ami y Calan di- ^e^daf, erbyn liyn yn fyddar yn y bedd. Mor gyflyrn yr a ein blynyddoedd heibio Esgor- 7 flwyddyn sydd wedi ein gadael ar gan- ^iadau pwysig. Blwyddyn ryfedd fu yn ysg blynyddoedd y ganrif hon. Yr oedd y ydd a gafwyd yn ei gwahanol dymhorau Yn Wahanol i flynyddoedd cyffredin. Daeth i !neWJ1 gydag ystormydd a rhuthrwyntoedd a i Ysgubent bob peth o'u blaen. Parodd gwres a ^^dcr ei haf brinder yn nghnydau y ddaear, fet yr ofnid am ddefnydd cynhaliaeth dyn ac | azifail; ond daeth ei hydref a'i gauaf i mewn raor dyner fel y gwnaed y naill beth ar gyfer Uall, ac y mae y rhagolygon yn llawer gwell J1a.g yr ofnid. Yr oedd ystormydd aruthrol 1 0 ddyddiau diweddaf yr hen flwyddyn ein ^adgofio am dymhestloedd y gwanwyn; 9-C y yn fwy na thebyg yr ychwanegant i" at nifer y bywydau gwerthfawr a goll- ^isoedd eraill y flwyddyn. Nid ydym i m^ned a<iolygu yr ystormydd gwleid- 1868 a y ^enedd> ac yn y wlad. Bydd yn flwyddyn nodedig i'w chofio yn wlad- I gyj^6^0^' "^d a yr etholiad cyffredinol a ynddi yn anghof gan y genedl- » 011' °nd yr y^ym ar An pethan mawrion '$Pethau mwy hwyrach nag a ddychmyg- £ eiQ eal°n. Mae y frwydr wedi ei hymladd "Wlad, yn y Senedd y bydd yr ymladdfa ^wyddyn nesaf; ac yr ydym yn gob- v 0 bydd yn ngwir ystyr y gair ynflwydd- ) ne?oydd dda. t y mae ein dymuniadau goreu i'n holl r tw^6llwyr yn bresenol am iddynt ei chael yn ^yn newydd dda. Blwyddyn o ieehyd °^w7ddiant tymhorol helaeth—o ddiogel- croesan trymion yn ffordd rhaglun- ) ~ac yn benaf oil o adnewyddiad a chyn- jj ^n crefydd i bob un sydd yn ei meddu; • «Wga?lfodHeb o'n darllenwyr yn amddifad I Dl) gwir ewyllys ein ealon a'n gweddi ar K fobs y cyfryw sydd er iechawdwriaeth.' ei^ a y peth penaf o'rcwbl; ac yn nghanol ea Ypeth penaf o'rcwbl; ac yn nghanol rYder a'n gofal am bethau eraill ni ddylai "yth gael ei anghofio. < llawer iawn ar ein llaw ni i'w wneyd, >» C^jj, trefn i gael y flwyddyn yn un dda. o >uP Uawer 0 ildynion yn gwneyd eu goreu i d Sr amser presenol yn anghysurus trwy lt 01, a hiraethu am ryw amser da a welsant Ny gynt. Hen ofyniad tuchanwyr erioed f ^eU ,^a^am y bu y dyddiau o'r blaen yn 111 r dydd^au hyn ?'. Nid ein hamcan yn penderfynu pa un ai yr amser gynt sieainSer Presenol yw y goreu, ond yr ydym art/ ° cwyno y11 ddiddiwedd ar ol V°r fwyaf effeithiol i ang- 4 amser presenol. Mae gan sirioldeb, i' w dlonrwydd, a chydymdeimlad lawer iawn ,eyd er cael y flwydddyn newydd yn jj' -'n newydd dda. Ceir ambell ddyn yn t y 8Waeyd pawb o'i amgylch yn hapus, $^ yn cario gyda sarugrwydd ei UC aflTwioSrwydd dymher cymdeithas yr el iddi. Mae ^m^er hapus, a siriol yn un cynorthwy qqa .1lo at wneyd y flwyddyn newydd yn un k, Wil (3in hunainac i bàwb o'n cylch. Os wyd Nflj flwYddynnewydd dda, rhaid i ni ym- 1It l 11 hall egni i wneyd daioni. Yn nesaf ° dda yn bersonol, dylem amcanu bod ^vir a011! Synideithas. Nis gall neb wneyd (f Hn arlaa°l ddaioni i eraill heb eifod felly ac nis gall unrhyw un barhau yn hir h 6 u^01 ^ddo wasgar daioni i eraill. i Hdrl ^1 i'r dyn segur, ond y mae £ i °e d y, dyn gweithgar yn myned ■f r°n yn wybod iddo. AYrth wneyd §v ^ac yn dorbjTi daioni. Mae gan bob V^Wysder i wneyd rhyw beth er lies ac nid oes neb nad oes ganddo &tioc>d. (I-rail ond iddo wylio amynt; ac ni bu Vil f Un oes o'r byd fwy o fanteision yn sv.-i\ dosbarth i wasanaethu eu gilydd YI1' Yll Y dyddiau hyn. ^wyddyn hon eto yn fuan wedi I maith nid a heibio heb hebrwng miloedd i dragywyddoldeb. Gwelir hi ar gau ad llawer arch, a gall fod y llais yn dyweyd wrth ryw ddarllenydd y disgyna ei lygad ar y llinellau hyn 0 fewn y flwyddyn hon y byddi farw!' Dichon y bydd y Haw sydd yn ysgrifenu y geiriau hyh wedi gwywo yn angau; neu yllygaid craff sydd yn eu dar- llen wedi sefyll yn eu pyllau. Felly y bu i filoedd ddechreuodd y flwyddyn ddiweddaf yn llawn mor hyderus a neb o honom am weled ei diwedd. Nid oes genym gan hyny well dy- muniad i'w roddi yn galenig i'n holl ddarllen- wyr yn nechreu 1869 na dymuno iddynt oil o galon onest Flwyddyn NEWYDD DDA.
Y DIWEDDAR BARCH. H. PUGH,…
Y DIWEDDAR BARCH. H. PUGH, MOSTYN. 0 mor chwith, mor ofidus, yw genym ys- grifenu y gair Y di-weddar yn ei gysylltiad a'r enw uchod Ond, Efe a fu farw; do, do, efe a fu farw, yr olaf un yn mron o gyfeillion ieuenctyd ysgrifenydd y llinellau hyn, yn gystal ag un o'r rhai penaf o honynt. Deugain mlynedd i ddiwedd y flwyddyn hon y gwelsom wynebau ein gilydd gyntaf erioed. Y maflodd serchiadau y naill yn y llall y tro cyntaf hwnw, a thynhaodd y gafaelion hyny bob tro y cyfarfyddem drachefn, onid aeth yn gyfeill- garwch nad allasai dim ond angau ei dori; ond, ni allodd yntau chwaith, canys er iddo allu tori y gyfeillach, ni thorodd y cyfeillgarwch. Nid dyn cyffredin yn mysg dynion, nac un cyffredin yn mysg ei frodyr, ydoedd ein han- wyl gyfaill ymadawedig. Yr oedd cyflawnder nerth synwyr wedi ei gynnysgaethu ynddo, cyflymder a chraffder meddwl a dealltwriaeth, ynghydag arabedd dihefelydd yn mron, chwaeth bur a choethus, gallu i grynhoi, a gosod ei feddwl allan yn y modd mwyaf pri- odol a destlus. Uefarodd ddiarhebion lawer yn ei ddydd, y rhai pe cesglid hwynt a'u cy- hoeddi a fyddent yn drysorau gwerthfawr o addysg i genhedlaethau addel. Pe buasai ein cyfaill wedi ymroddi i efrydu y gyfraith, ni phetrusem ddywedyd y buasai yn sicr o fod yn un o'r rhai blaenaf yn ei oes fel bar-gyfreith- iwr; cychwynodd yrfa ei fywyd yn y tuedd- nod hwnw, canys bu am ryw gymmaint o amser yn ysgrifenydd yn swyddfa cyfreithiwr. Ond ymaflodd gras yn ei galon, ac ymaflodd rhagluniaeth yn ei law, ac arweiniodd ef o lys cyfraith y wlad, a chyflwynodd ef a'i alluoedd a'i dalentau at wasanaeth efengyl Grist. Yr oedd ef a'r Parch. E. Evans, Llangollen, yn gyfoedion o'r un ardal; bu y ddau yn gweini yn swyddfa cyfreithwyr; aeth y ddau at gref- ydd tua'r un pryd; dechreuasant bregethu tua'r un amser; ordeiniwyd hwy i'r wenidog- aeth, un yn Abermaw, a'r llall yn Llandrillo, yn agos i'r un amser, a threuliodd y ddau lawn deugain mlynedd yn anrhydeddus yn y wein- idogaeth. -Ond yn awr y mae yr anwyl frawd o Langollen wedi ei adael yn -unig heb ei gymhar. Un o'r ychydig hyny y digwydda eu geni o flaen eu hoes ydoedd Mr. Pugh. Cymmerodd safle iddo ei hun yn nechreu tymhor ei weini- dogaeth, pan nad [oedd eto end bachgenyn ieuanc. Efurfiodd Gymdeithas Bhyddhad Crefydd oddiwrth rwymau yr awdurdod wlad- ol, yn Penllyn ac Edeyrnion, lawer o flynydd- au cyn bod enw Edward Miall yn adnabyddus. Cynhelid cyfarfodydd gandde ar gylch, weith- iau i egwyddori, ac weithiau i areithio, ac weithiau i ymresymu ar y pwnc. Cyhoeddodd ei draethawd ar I Hatvl a chymhwysder pob dyn i farnu drosto ei huit,' a Chatecismyr Ymneill- duwyr,' a thraethodion eraill ar y pwnc, yn y tymhor hwn. Yr oedd y pethau hyn yn bethau dieithr iawn i glustiau dynion yn y dyddiau hyny. Edrychid ar Pugh fel bachgen rhyfygus, a pheryglus yn y wlad. Gosodid ef allan fel gelyn y llywodraeth, cablwr urddas, a therfysgwr cymdeithas; taenid pob drygair am dano; a phesid penderfyniadau cymanfaol cryf- ion unwaith o leiaf, i osod crefyddwyr beth by nag, areu gocheliad, i ymgadw rhag 'ymyryd a'r rhaianwastady ac anesmivyth, gyda golwg ar ordeiniadau llywodraeth y iloladl a hyny gyda golwg neillduol arno ef, a'r symudiad yr oedd efe yn arweinyddiddo. Yn nyddiau yr erled- igaeth hono, dywedai y diweddar ffraethbert Dafydd Rowland, o'r Bala, Hugh Pugh sy'n dweyd y gwir, ond gwell gen i iddo fo'i ddweyd o na fi.' Cafodd ein hanwyl gyfaill fyw i weled barn egwyddor fawr y dadleuasai, ac y dioddefasai trosti, wedi ei gweithio allan i lawn fuddugoliaeth yn yr Etholiad diweddar, ac i weled lluaws o'r rhai a'i cablent ef o'i phlegid, wedi dyfod yn bleidwyr llawn mor selog iddi ag ef ei hun: a bu farw fel Nelson, yn mreichiau buddugoliaeth. Anaml y gellid cyfarfod a. chymmeriad mor hawddgarol ag oedd Mr. Pugh yn mhob ystyr. Yr oedd yn feddianol ar y teimladau mwyaf tyner, ni allai edrych ar drueni ac angeu, heb i'w galon doddi mewn teimlad tros y truan, rhanasai ei damaid olaf a'r anghenus a ddeuai ato, pwy bynag fuasai hwnw. Er nad oedd ei gyflog gweinidogaethol ond bychan iawn, pan yr oedd ei deulu yn gynhyddol, ni chlyw- odd yr un o'i gyfeillion mynwesol mo hono yn cwyno gair erioed o'r achos. Yr oedd bob amser, dan bob amgylchiadau, mor siriol a'r brithyll. Cadwai ei sirioldeb a'i arabedd hyd yn nod dan arteithiau dirgnoawl y droedwst, oddiwrth yr hwn y dioddefodd lawer iawn drwy ystod llawer o flynyddau olaf ei oes. Yr oedd yn nodedig o ddihunangais, hwyr- ach yn ormodol felly. Hid oedd, ac ni allasai fod, yn anymwybodol o'i alluoedd a'i gym- hwysderau, rhaid y gwyddai ef ei hun, yn gystal a hwythau, ei fod yn dywysog yn mysg ei frodyr, yn oracl mewn cyngor a barn, ond ni cheisiai ddangos ei hun ar un amgylchiad. Ni chlywyd Mr. Pugh unwaith erioed yn ud- ganu mewn udgom, i alw sylw y bobl ato ei hun, megis y mae arfer rhai,' aic nid oedd dim a ffiieiddiai ac a ddirmygai ei enaid ef yn fwy na pheth felly. Cymerodd rhagluniaeth dirion y Kef ofal tyner iawn am dano; os oedd ef yn gofalu nemawr drosto ei hun, ragor na chael anheb- gorion bywyd iddo ei hun a'i deulu, a thalu ei ffordd trwy'r byd, darparodd hi ar ei gyfer; rhoddodd gryn gyfoeth i hen fodryb iddo, a threfnodd na byddai i hono na mab nac etifedd, fel y delai yr oil a feddai hi yn eiddo iddo i'w gynnal a'i godi uwchlaw pob gofalon bydol yn ei hen ddyddiau. Y tro diweddaf y bu yn Liverpool oedd yn nghyfarfod ymadawol ei hen gyfaill a'i gyd- lafurwr, y Parch. D. Price, gynt o Ddinbych, yn awr o Newark, Ohio. Cyfeiriodd yn effeith- iol iawn yn y cyfarfod hwnw, at Mr. Price, a chyfaill arall iddo, oedd yn bresenol, fel y bu- asai yn cydgyfeillachu, ac yn cydlafurio llawer a hwy: bod y dyddiau hyny wedi myned heibio, a'u bod yn awr ar ymadael ag un, Mr. Price, am y tro olaf byth ar y ddaear; ac ych- wanegai, fod yr argraff yn ddwys ar ei feddwl ef, mai efe ei hun a ymadawai a'r byd hwn yn gyntaf o'r tri; ac meddai drachefn, I Ni hoffwn fyw dim wedi i mi fethu pregethu, carwn farw yn yr harness-myned o'r pwlpud i'r bedd.' Ychydig a feddyliem fod yr amser mor agos, tua deufis ar ol hyny, cyflawnwyd y geiriau i'r llythyren.—Aeth i'r piolpud wythnos i nos Sabbotti diweddaf, pregethodd yn dra effeith- iol ar y geiriau-' Gwyn eu byd y gweision hyny, y rhai a gaiff eu Harglwydd pan ddel yn gwneuthur felly, &c.' Aeth i lawr o'r pwlpud, ac i lawr i'r bedd, cyn y Sabboth di- weddaf. Bu ein hanwyl gyfaill farw fel y buasai fyw, yn mynwes ei deulu, yn mynwes yr eglwys, ac yn mynwes ei frodyr yn y weinidogaeth, y rhai a gydalai-ent ac a gydwylent yn ei ang- ladd; dichon nad oes weinidog yn Nghymru nac un wlad arall, yr eneinid ei gorff marw a mwy o ddagrau ei braidd a'i gyfeillion nag efe. Cafodd y lluaws brodyr oedd ynghyd ar yr achlysur gyfleusdra da i weled y gwerth an- mhrisiadwy o fod yn anwyl a chymeradwy gan y frawdoliaeth; yn nesaf at gymeradwyaeth y z,Y Pen mawr ei Hun, y mae cymeradwyaeth ei weision a'i bobl yn ddiau i'w werthfawrogi; 91; ac o'r tu arall, nid oes dim yn fwy trueni i feddwl am dano, na bod gweinidog yr efengyl yn syrthio i'r bedd heb neb o'i frodyr yn gallu galaru na chwyno y golled ar ei ol—rhag y gyfryw dynged arswydlawn, gwareder ni! Safai lluaws mawr o frodyr a chyfeillion uwch ben bedd Mr. Pugh, a gallasai pob un ddyweyd, Gofid sydd arnaf am danat ti, cu iawn fuost genyf fi!' 'Noswaith dda it, Anwyl Gyfaill^ a bore da i ail gyfarfod na bydd raid ymadael mwy!' Boed y Nefoedd yn dirion wrth ei amddifaid —bendithied y weinidogaeth chwerw iddynt er eu dwyn oil i adnabod a gwasanaethu Duw eu tadau. Gofaled am yr eglwys garedig, ond galarus yn awr, gan roddi iddi fugail o'r cyff- elyb feddwl a'r hwn sydd wedi ei gadael yn yr anialwch, wedi bod o hono yn ei bugeilio yn ffyddlon am yr ysbaid maith o un mlynedd ar ddeg ar hugain. Dylai coflant da am Mr. Pugh gael ei gasglu a'i gyhoeddi—a beth bynag dylai ei weithiau llenyddol gwerthfawr gael eu crynhoi a'u cy- hoeddi, i fod yn goffadwriaethau am dano ef, ac yn addysg a budd i'r darllenwyr. Unwaith eto-, ond ni allwn ddwyn allan y gair.
MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH…
MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y PARCH. H. PUGH, MOSTYN. Bu farw y gweinidog synwyrol, ffraethbert, a pharchus hwn yn dra disymmwth, oddeutu naw o'r gloch boreu Mercher, Hhagfyr 53ain, pan yn gyru ar ei 67 mlwydd oed. Yr oedd wedi pregethu y boreu a'r nos Sabbath cyn hyny—rhan yn Saesneg, a rhan yn Gymraeg—yn ei fywiogrwydd arferol; ond yr oedd rhywbeth nodedig o arwyddocaol yn ei destynau. Ei destyn y boreu oedd Disgwyl wrth yr Arglwydd,' &c.; a'r nos, < Gwyn eu byd y gweis- ion hyny, y rhai a gaiff eu Harglwydd, pan ddel, yn effro,' &c. Aeth i'w wely nos Fawrth rhywbeth yn debyg i arfer; ond boreu dranoeth, clywodd ei fab hynaf ef yn ocheneidio yn drwm, ac aeth ato, ond ni allai ddyweyd gair, a bu farw yn mhen ugain munud ar ol cael ei daro gan apoplectic fit. Ganol dydd Sadwrn canlynol, yxngasglodd tyrfa fawr at Y Cyssegr,' Mostyn, i'w anfon o'i hen drigfan i dy ei hir gartref' yn mynwent Sion, lle y claddwyd ei anwyl briod flynyddoedd yn ol. Er fod y Sadwrn ar ol y Nadolig yn adeg pur anfanteisiol, a'r tywydd yn wlyb ac oer, daeth lliaws o'i frodyr yn y weinidogaeth i'w hebrwng i'r bedd; ac yn eu mysg yr oedd y Parchn. W. Rees, D.D., J. Thomas, N. Stephens, Liverpool; H. E. Thomas, Birken- head; D. Roberts, Caemarfon; M. D. Jones, Bala; H. Ellis, Llandrillo; A. Francis, ac R. Thomas, Rhyl; T. Roberts, Llanrwst; E. T. Davies, Aber- gele J. Roberts, Brymbo; H. Rees, Caer; R. W. Roberts, Pentrefoelas; J. Jones, Wrexham; D. Evans, Rhosymedre; R. Evans, Maesglas; R. M. Jones, Bagillt; J. Foulkes (T. C.), Saron; a W. Evans (T. C.), Mostyn; W. Powell, Nantglyn (gynt), J. Rowlands, Rhos, &c., &c. Ac yn mysg y dorf, gwelsom y diaconiaid a'r cy- feillion adnabyddus canlynol :-Meistri N. Roberts, E. Thomas, J. Walters, Dinbych; E. Jones, Rhu- thin; M. Ellis, T. Williams, T. Humphreys, W. Evans, N. G. Evans, Johnson, Caer, ac amryw swyddogion o'r eglwysi cylchynol. Edrychai y ty yn wag ryfeddol heb y cyn-drig- iannydd diddan. Yn ymyl y plant galarus, gwelem yr hen bregethwi, derbyniol Ellis EUis yn wylo: I Dyma Pugh wedi rayn,cl,, meddai, 'buonyncyd- weithio am 30ain o flynyddoedd heb yr un gair croee -y fo yn gwneud ei waith, a finnau yn gwneud fy ngwaith, a dyna hi.' 0 ddeutu un o'r gloch, wedi i'r Parch. D. Roberts, Caernarfon, draddodt anerchiad byr, a gweddio wrth y ty, eychwynwyd yn orymdaith brudd, a'r gweini- dogion bob yn ddau o flaen yr elorgerbyd, yna cer- byd y teulu galarus-tri o feibion ac un ferch. Wedi hyny, saith neu wyth o gerbydau, ac ugeiniau yn dilyn ar draed. Cenid tonau cymmhwys ar hyd y ffordd. Wedi cyrhaedd i addoldy Sion, rhoddwyd yr hen emyn adnabyddus hwnw allan gan y Parch. H. E. Thomas, Birkenhead— Mae fy mrodyr wedi myned, Draw yn lluoedd o fy mlaen,' &-e., a darllenwyd rhanau cymhwys neillduol o'r Ys- grythyrau; a gweddiwyd yn nodedig o effeithiol dros y plant amddifaid gan y Parch. J. Thomas, Liverpool. Wedi hyny, traddodwyd anerchiadau byrioa gan amryw o'r brodyr. Dr. W. Rees a ddywedai-Y mae tywysog a gwr mawr yn Israel wedi cwympo—yr oedd ynddo fawr- edd tywysogaidd na welodd llawer mo hono. Pe buasai wedi troi ei feddwl at y bar, buasai wedi en- nill enwogrwydd iddo ei hun a'i wlad yn y" ffordd hono. Ond dylem fod yn ddiolchgar i Dduw du- eddu ei feddwl i'w wasanaethu yn efengyl ei Fab. Yr oedd wedi bod yn wasanaethgar iawn i grefydd, nid yn unig yn mysg ei enwad ei hun, ond i'r gen- edl yn gyffredinol, trwy y pwlpud a'r wasg. Dyma ef wedi gorphen ei daith, a chafodd orphen fel* yr oedd yn dymuno yn nghyfarfod ymadawol y Pareh. D. Price—myn'd o'r pwlpud i'r bedd. Yr oedd yn y pwlpud nos Sabbath, a dyma ef heddyw yn myn'd i'r bedd. Y mae yn chwith iawn genyf am dano, canys yr oedd yn un o gyfeillion penaf fy mywyd. Y Parch. M. D. Jones, Bala.—Ganwyd ein tad, Mr Pugh, yn Sir Feirionydd, ac acw y dechreuodd ei weinidogaeth. Yr wyf yn ei alw yn dad, am fy mod i, ac amryw ereill o'r parthau acw, yn fwy dy- ledus i Mr P. am ein hyfforddi yn dda mewn eg- wyddorion gwladol a chrefyddol nad oedd nemawr yn eugweled y pryd hyny, ond sydd wedi dod yn bobl- ogaidd erbyn hyn. Dywedai un amaethwr yn Sir Feirionydd, wrth son am Mr Pugh, mewn dullwedd amaethyddol cyfaddas iddo ei hun, Ceiliog yncanu cyn y dydd ydoedd'—yr oedd ef yn gweled y dydd yn do'd pan nad oedd ereill. Teimla, nid yn unig ein henwad ni, ond enwadau ereill, oddi wrth ei addysg. Er fod gwendidau yn perthyn iddo ef, fel oedd i ddynion mawr y Beibl o ran hyny, etto yr oedd a fyno gras ag ef. Byddaf yn edrych ar Ddrycli y Cymmunwr,' gyhoeddwyd ganddo flyn- yddoedd yn ol, fel un o'r llyfrau mwyaf gwreiddiol, coeth, a clirefyddol yn ein hiaith. Dyma ei ddydd ef drosodd, ac y mae yn myned i'r bedel a'i goron heb ei llychwino. Y Parch. E. T. Davies, Abergele.—Tad Mr Jones, a Mr Pugh, a arweiniodd fy meddwl at bethau mawrion crefydd, fel yr wyf yn ddyledus iawn iddynt. Cefais lawer iawn o gwmniaeth Mr Pugh. Er i ni gael ein chwalu o Sir Feirionydd, arweiniodd Rhagluniaeth ni yn agos at ein gilydd drachefn. Dysgodd lawer arnaf, a chredaf ei fod wedi gweddio llawer droswyf, fel yr oeddwn yn edrych arno fel tad i mi. Y mae yn golled fawr genyf am dano, as y mae yn golled i'r enwad, ac i'r oes, ar ei ol. Y Parch. T. Roberts, Llanrwst.—Nid aeth yr un dyn mwy gwreiddiol, eglur, a choeth ei feddwl, i'r bedd, na Mr Pugh. Meddyliai i bwrpas, a medrai draethu ei feddwl i bwrpas. Fel eyfaill yr oedd yn wr o gyngor, a llawn o synwyr a didwylledd. Yr oedd yn un difyrus iawn yn ei gwmniaeth. Rheolai ein golygiadau a'n hymddygiadau yn ei gyfeillach. Ni chawn ni yr un Pugh etto. Gellwch chwi fet eglwya gael gweinidog, ond ni chawn ni yr un Pugh. Yr oedd yn gristion didwyll, ac yn ddyn caredig. Nid anghofiaf byth y caredigrwydd a ddangosodd i mi pan oeddwn yn yr ysgol yn Nhreffynnon. Yr wyf yn cofio yn dda iddo fod yn glaf iawn y pryd hyny, oddeutu 30 mlynedd yn ol, ac i'r doctor ddyweyd wrtho y noson o'r blaen, y gallasai na byddai byw hyd y boreu, Os felly y bydd,' medd- ai, I yr wyf yn credu y byddaf ar fynydd Seion." Bu fyw o'r clefyd hwnw, ond dyma ef heddyw wedi »arw,|ac yr ydym yn credu ei fod 'ar fynydd Seion.' Y Parch. A. Francis, Rhyl.—Yr wyf yn cofio Mr Pugh er pan yn hogyn. Gwrandewais lawer amo. Cymhwysiad ei holl bregethau wedi eu symio i fynu, pe rhoddem ein clust ar gauad ei arch, yw, 'Dos dithau,' &c. Dyna a ddywed wrth bob brawd heddyw, Dos dithau.' Cafodd wybod am ystorm- ydd garw y byd, ond y mae wedi cael hyd i orphwys- fa. Ni waeth i ni heb geisio gorphwysfa yma, mwy nag ar lan y mor-rhyw donau yn curo o hyd, ond y mae Pugh yn yr orphwysfa. Enw anwyl iawn a roddodd lesu Grist ar y nefoedd wrth gysuro ei ddisgyblion pan ar ymadael a hwynt-I Ty fy Nhad.' Yr ydym ni o dan yr un to, ac nid oes ond y pared pridd rhyngom a'r brawd Pugh-y mae efe yn y room oreu gyda'r Brawd Hynaf. Dyma ni ar ymylon blwyddyn newydd—with y rhiniog. Methodd Mr Pugh a myned dros y rhiniog. Efaltii na chroeswn ninau i gyd. Pob peth yn dda, os cyrhaeddwn yr orphwysfa. Diolchwn am ddylanwad gras i wrth- weithio dylanwad pechod. t:> Wedi i'r Parch. H. ElliE, Llandrillo, weddio yn fyr a theimladwy, aed a'r corph i'r bedd, a chan fod yr hin mor arw, ni wnaed dim yn y gladdfa ond yn unig i Dr Rees ddyweyd ychydig eiriau mewn ffordd 0 ffarwel, 'Noswaith dda IT, anwvl gyfaxll, a^boke DA I AIL GYFABFOD NA BYDD RAID YMADAEL MWY.' Pregethwyd yn y Cyssegr' y Sabbath diweddaf, gan y Parch. M. D. Jones, Bala; a thraddodir y bregeth angladdol yno y Sabbath nesaf, yn Saesneg, am ddau o'r gloch, gan y Parch. E. T. Davies, Abergele; a'r nos, yn Gymraeg, gan y Parch. W. Rees, D.D.