Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
26 erthygl ar y dudalen hon
LLANELWY.
LLANELWY. Cynhaliwyd cyfarfod yr Annibynwyr yn y lie uchod, fel arferol, y Calan. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. E. Evans, Caernarfon; Dr. W. Rees, Liverpool; a John Williams, Maentwrog. Dechreuwyd y gwahanol oedfaeon gan y gweinid- ogion canlynol, John Williams, Maentwrog; E. Evans, Caernarfon; D. Williams, Rhuddlan; ac R. Lumley. Yr oedd y ddwy oedfa olaf yn nghapel y Methodistiaid, ac yr oedd yr addoldy mawr yn or- lawn y nos. Cafwyd cyfarfod da; yr oedd y gwrandawyr yn lluosog, y pregethau yn nerthol iawn, a'r gwrandawiad yn astud. Nid oes neb yma yn cofio cyfarfod gwell, a'n gweddi yw ar i lafur y Gweinidogion gael ei goroni a llwyddiant mawr. —Gwrandawyr.
JERUSALEM, GER WYDDGRUG.
JERUSALEM, GER WYDDGRUG. Rhoddodd y cyfeillion a gyferfydd i addoli yn y lie hwn galenig o de da, gyda bara gwyn a brith, i aelodau yr Ysgol Sul yn y lie, ddydd Gwener di- weddaf (dydd Calan). Ar ol te, cynhaliwyd cyfar- fod adlonol, drwy ganu, adrodd, ac areithio. Yr oedd y capel yn orlawn, a bu pawb wrth eu bodd hyd hanner awr wedi naw o'r gloch. Llywyddid y cwrdd gan Gwilym Gwenffrwd. Rhan bwysig yn y cyfarfod oedd y canu gwir ragorol gan gor Rhosesmor, ar drefn y Tonic-Solfa, dan arweiniad medrus dyn ieuangc hollol ddiym- hongar o'r enw Peter Welsh. Derbyniai y canu fawr gymmeradwyaeth, a dywedai un oedd yn bres- ennol, ar ol idynt ganu Cwymp Babilyn Mintai eres 0 Rhosesmor-swyna A'u seiniau sy'n ddidor; A'u lion gan, y llawengor, Gurai'n ddiau bob goror.' Cafwyd adroddiadau addysgiadol gan Meistri Robert Jones, William Jones, Wm. Powell, Miss Blackwell, ac ereill. Diweddwyd y cyfarfod difyrus hwn drwy i'r cor ganu 'The Comrade's song of hope.'
PENCLAWDD.
PENCLAWDD. Cynhaliwyd Eisteddfod yn y lie uchod, am y waith gyntaf er's llawer o flynyddau, ar ddydd Na- dolig, 1868. Cafwyd Eisteddfod hynod lewyrchus ar y cyfan, ac ystyried fod yr hin mor arw a'r Eis- teddfodau mor lluosog. Yr oedd y lie yn orlawn o wrandawyr drwy y dydd, a'r cystadlu yn lied fyw- iog ar y rhan fwyaf o bethau. Peidiwch a meddwl Mr Gol. fy mod yn myn'd i ddyweyd am bob un dderbyniodd hanner coron o wobr yno, nid wyf fi yn meddwl dyweyd dim ond fod y wobr am y prif draethawd, sef 'Hanes Gower,' wedi cael ei hattal am nad oedd neb yn deilwng o'r wobr. Rhoddwyd y brif wobr, sef 5p., am ganu 'We never will bow down,' rhwng Cor Penclawdd a Chor y Crwys, pa rai, yn ol y feirniadaeth, a ganasant yn dda iawn ac ystyried fod y darn yn bur anhawdd i Gorau gwledig o un gynnulleidfa. Y Beirniaid oeddynt:—Canu, Mr. T. H. Davies, Swansea. Barddoniaeth, Rhyddiaith, ac Adrodd, Brythonfryn. Yn absenoldeb Brythonfryn beirn- iadwyd yr Adrodd gan M. Davies, yn cael ei gyn- northwyo gan Mr Lewis, Penclawdd British School. Rhoddodd y Beirniaid foddlonrwydd neillduol trwy y dydd, ni clywsom neb yn achwyn, ac y mae gallu dyweyd hyna yn ddyweyd mawr ar ol Eis- teddfod. Ond y mae y ddau Feirniad yn hen gyf- arwydd a'r gwaith erbyn hyn gan eu bod yn barnu yn ami iawn mewnrhyw fan neu gilydd. Yr oedd Brythonfryn yn barnu yn Ystalyfera ar yr un dydd. -Coekseii.
LLANSAWEL.
LLANSAWEL. Cafodd ysgolheigion ysgol Ll&nsawel eu arholi ar y 24ain o Ragfyr, gan Lady Onimmond, o Edwins- ford, Syr James Onimmond, Miss Onimmond, Mr H. Onimmond, Parch. H. J. Davies, Parch. J. M. Jones, a Mr Allen Knox, yn y pethau canlynol:- English grammar, reading, dictation, spelling, Scrip- ture history (Pentateuch and Gospels), geography, common arithmetic, and mensuration. Y mae yn dda genym hysbysu i'r ysgolheigion roddi boddlon- rwydd cyflawn i'r arholwyr yn y gwahanol bethau, a dangos cynnydd neillduol oddi ar yr arholiad o'r blaen, yr hyn sydd yn dwyn anrhydedd mawr i'r athraw, Mr J. Evans, ac iddynt eu hunain. Y mae clod mawr yn deilwng i Lady Onimmond am ei hymdrech diflino o blaid addysg yn y lie. Y mae hi yn ami yn ymweled a'r ysgol, ac yn arholi yr ysgol- heigion yn fanwl, ac yn rhoddi anrhegion gwerth- fawr yn wobrau i'r rhai mwyaf teilwng. Cynhaliodd y Trefnyddion Calfinaidd, yn y lie uchod, eu cyfarfod Nadolig blynyddol, pryd y llyw- yddwyd gan y Parchedigion T. Job, Conwil, ac R. Salmon, gweinidog y He. Ar ol cyflawni y gwasan- aeth arferol, aethpwyd yn mlaen gyda gweithred- iadau y dydd. Erfod yr hin yn hynod o anffafriol, etto breintiwyd ni a thorf o bobl foneddigaidd a moesgar, yr hyn oedd yn hynod ddymunol yn y fath le. Adroddwyd darnau godidog, a chanwyd yn swynol dros ben, o dan arweiniad Meistri T. Davies, Glanmelinddwr, a T. Williams, Pengelly. Hefyd bu yn gystadlu brwd mewn darllen difyfyr. Yr ym- geiswyr oeddynt fechgyn a genethod o dan bymtheg oed. Rhagorwyd gan Miss Sarah Jones, Tr £ helig. Y mae yni y rhian fechan hon yn deilwng o edmyg- iad ei chydgyfoedion yn Llansawel. Cyfarfod ydoedd hwn yn benaf i'r plant a'r bobl ieuaingc, a chredwn mai dyma y cynllun goreu i ddadblygu eu galluoedd meddyliol, a dwyn allan eu hymadferthoedd mewn llenyddiaeth bur. Cawsom araeth gampus gan Mr Job, yn yr hon yr annogai yr ieuengctyd i ddarllen llawer, a phenderfynu dyfod yn ddynion mewn gwybodaeth. Yr oedd ef yr un farn a'r gwr hwnw a cl(iywedai-I The mind is the standard of the man.' Bu rhai o gymmwynaswyr y fro mor garedig a darparu te ardderchog, yr hwn a fwynhawyd gan ddeiliaid ysgol Sabbothol y dref hon, yn nghyd a'r gangen berthynol iddi. Mor ddifyr ydoedd clywed y plant yn ymgomio a'u gilydd am byngciau y dydd, wrth fwynhau eu Christmas feast. Gweinyddwyd arnom gyda sirioldeb gan wragedd parchus a rhianod prydferth yr ardal. Nid oes genym wrth derfynu ond dymuno hir oes iddynt, a gwenau'r nef.-Saiv- elian, PortA Factory.
CONWY.
CONWY. Nos Fercher, yr wythnos ddiweddaf, cynnaliwyd cyngherdd yn nghapel yr Annibynwyr, Conwy, gan gor y lie, yn cael eu harwain gan eu blaenor ieuanc chwaethus a galluog, Mr. Joseph Jones. Rhy faith fyddai i ni nodi y lluaws darnau a ganwyd mor ragorol gan y gwahanol gantorion. Yn mysg y darnau a dynodd fwyaf o sylw yr oedd, "I'm a Sl-iepherclo of the Valley," yr hon a ganwyd gan ddwy eneth fach o'r enwau E. J. Jones a C. Jones. Llywyddwyd gan y Parch. J. Roberts.
HENRYD.
HENRYD. Prydnawn dydd Calan, ymgynullodd deiliaid yr Ysgol Sabbathol yn y lie hwn, yn gystal ag eraill, i gyfranogi o de a bara brith a ddarparasid erbyn yr achlysur. Yn yr hwyr traddododd y Parch. J. Rowlands, Rhos, cyn-weinidog y He, ddarlith ddydd- orol ar y Cymry a'u Crefydd." Y Parch. L. Ed- munds, Dwygyfylchi, yn llywydd. Yr oedd y cyn- ulliad yn lluosog, a boddhawyd pawb yn y ddarlith. Elai y cynyrch at leihau y ddyled.
CAERLLEON.
CAERLLEON. Cynhaliwyd cyfarfod llenyddol, fel arferolt ar nos Nadolig, ac ymgasglodd nifer lluosog iawn o gyf- eillion Cymreig y ddinas yn nghyd. Da genyf ddwyn tystiolaeth i ragoroldeb y cyfarfod—y dat- ganu yn gampus, y traethodau (medd y beirniaid), yn rhagorol, a'r darlleniadau yn gyfryw ag oedd yn rhoddi boddhad mawr i hyd yn nod archddarllen- ydd Cymru, sef yr hen batriarch o Langollen; ond am yr adroddiadau, er fod rhai o honynt yn wir dda, yn neillduol felly Penderfyniad," Y Train, a Sioncyn y Gwair," priii yr oeddynt yn dyfod i'm dysgwyliad.—Cydivybod.
LLANBEDR (SIR ABERTEIFI).
LLANBEDR (SIR ABERTEIFI). Dydd Nadolig, am 2 o'r gloch, anrhegwyd plant ysgol Sabbathol Zoar a the a bara brith—digonedd o hono-a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y bon- eddigesau canlynol :—Mrs Thomas, Llanddulas; Miss M. Rees, Miss Davies, Blacksmith Arms Miss Jones, Lamb; Miss Jones, White Lion;.Miss M. Owens, ac eraill, y rhai fu yn gynorthwyol iawn, yn neillduol Mrs Davies. Am 6 yn yr hwyr cynhal- iwyd cyfarfod llenyddol dyddorol iawn, trwy ddar- llen, adrodd, a chanu. Nid ami y cafwyd gwell cyfarfod gan un enwad yn y dref, nac ychwaith mor luosog. Mr Davies yn y gadair.—J). Davies.
CEFN MAWR.
CEFN MAWR. Cynnaliodd y brodyr y Bedyddwyr eu gwyl len- yddol nos lau a dydd Nadolig, yn nghapel Seion. Llywyddwyd y gwahanol gyfarfodydd gan y Parch. Joshua Thomas (B), Mr Edward Davies, adeiladydd, Cefn, a Mr Williams (B), Garth, yr hyn a wnaeth- ant gyda medrusrwydd. Ennillwyd y prif wobrau gan ypersonau canlynol:-Am y traethawd goreu ar 'Beth yw Gwrboneddig, a pha fodd y dylai gael ei dderbyn;' daeth un ar ddeg o draethodau i law. Dyfarnwyd y wobr i Addison, sef Mr Owen, brawd y Parch. R. Llugwy Owen, Acrfair, ydoedd. Hefyd am y traethawd goreu ar hanes Luc. Dyfarnwyd y wobr i loan Ddu, o Goedllai. Hefyd am y brydd- est oreu ar 'Fachludiad haul' i loan Ddu. Beirn- iaid y traethodau ydoedd y Parch. H. Gwerfyl James (B), Wyddgrug. Yn y canu ennillwyd y prif ddarnau gan gor Seion, Cefn Mawr, o dan arweiniad Samuel Pritchard. Beirniaid y eanu yd- o jdd Gwilym Gwent ac Ab Alaw. Yr oedd yn golled i'r eisteddfod nad oedd y Beirniaid oil yn bresenol. Nid oedd yno ond Gwilym Gwent. Cynnaliodd y Wesleyaid eu cyfarfod pregethu nos lau a clycld Nadoli-, pryd ypregethwydgan Mr Hugh Hughes, Cefn Mawr, a Mr Pugh, Coed Llai, ger Wyddgrug. Cafwyd cynnulleidfaoedd da iawn, a phregethau grymus a dylanwadol iawn.- Cymro Bach.
ST. CLEARS:"
ST. CLEARS: Y NADOLIG.-Boreu dydd Nadolig cychwynasom o gartref, ac aethom tua chapel y Methodistiaid, Llanfihangel, pryd yr oedd dwy ysgol Sabbathol, sef ysgol y Ileac ysgol Llanddowror, wedi ym- gasglu yn nghyd i adrodd gwirioneddau a chanu mawl i Dduw. Yn y gyntaf cafwyd adroddiad o ran o air Duw gan ddwy ferch ieuanc; ac wedi canu a gweddio cafwyd adroddiad boddhaol o'r bennod gyntaf o'r Holiedydd Bach" (T. Levi), gan blant ysgol y lie. Ar ol cael ton gan y plant, caf- wyd adroddiad o'r chweched bennod o'r Hyffordd- wr" (gan y Parch. T. Charles) gan y plant, yn cael eu holi gan y Parch. J. Clark, Llanddowror. Yna cafwyd adroddiad o'r 13eg o Luc gan ysgol Llan- ddowror, yn cael eu holi gan yr un. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu y don Tu draw i'r afon" (gan yr un ysgol), gyda chwaeth a swyn anarferol. Caw- som ein boddloni yn neillduol yn y cyfarfod hwn- yr oedd yr holwr yn holi yn ddoeth, medrus, a bywiog, a'r atebion yr un modd yn lied barod ac i'r pwrpas. Dymunem wir lwyddiant iddynt fyned yn mlaen mewn pethau da. Yn y prydnawn caw- som gyfarfod o natur arall. Aethom tua 2 o'r gloch i'r ysgoldy Brytanaidd, lleyr oedd lluaws o fon- eddigesau a boneddigion o'r gymydogaeth wedi ymgasglu yn nghyd er mwyn cael clywed nifer o ymgeiswyr yn myned drwy eu arholiad, er cyrhaedd certificates yn y Tonic Sol-fa. Yr arholydd oedd Mr. James Davies, St. Clears, yr hwn sydd bellach yn lied adnabyddus yn y cymydogaethau hyn o herwydd ei ymdrechion mewn perthynas i'r Tonic Sol-fa. Bu y personau canlynol yn llwyddianus i gymeryd yr intermediate certificate, yn nghyd a'r old notation-.—Mr J. Williams, Mr J. T. Williams, Mr W. Williams, a Miss B. Williams, Grove; Mr G. Thomas a Mr J. Nicholas, Llanddowror; Mr H. Phillipps, Moore; Mr D. Saer, Blewgyd; Mr T. D. Rees, Bishop's Court; Mr B. John, Clynmarch; Mr B. Davies a Mr J. Davies, Graigwen; Mr D. John, Mr L. John, a Mr S. John, Llwyncrwn Mr W. Evans, Manarddwylan; Mr D. Evans, Lleiny- bach. A chymerodd y personau canlynol yr elemen- tary certificate :—Miss M. Rogers, Miss Anne Rogers, Miss Amelia Rogers, Miss Eliza Rogers, a Mr J. Rogers, Hendre. Terfynwyd y cyfarfod hwn drwy ganu amryw ddarnau yn dra medrus gan yr ym- geiswyr. Yn yr hwyr cynnaliwyd cyfarfodllen- yddol yn capel Sion (perthynol i'r Bedyddwyr), lie- yr adroddwyd amryw ddarnau addysgiadol a dydd- orol iawn, a chanwyd amryw ddarnau cerddorol gan gan y cor gyda chwaeth a medrusrwydd. Yna yr ymadawodd pawb, wedi cael eu llwyr foddloni. Y prydnawn dydd Llun canlynol, yn yr Ysgoldy Brytanaidd (gan Mr J. Davies), arholwyd Miss E. E. Evans a Mr J. Evans, Clogyfran, a buont yn llwyddianus i gymeryd' yr intermediate certificate. Yn hwyr yr un dydd arholwyd (gan yr un) Miss E. Rogers a Mr L. Rogers, Hendre (yn eu han- neddle) hefyd, yn yr un lie, Mr J. Williams, Pen- tre, St. Clears, a buont oil yn Ilwyddianus i gymeryd yr elementary certificate.-Gobebydi.
WYDDGRUG.-
WYDDGRUG. BAZAAR A PHREN NADOLIG.—Agorwyd nodachfa a dangoswyd pren Nadolig yn ystafell fechan Marehnad y Groes, ddydd Mercher diweddaf, yn gyssylltiedig a'r Eglwys Rydd. Yr oedd yno bedair ystol yn llawn o nwyddau. Yr oedd y pren wedi ei addurno yn brydferth iawn, a goleuwyd ef chwech o'r gloch. Gwnaeth y brodyr gynhauaf lied dda. GWALL.—Yn y crybwylliad a wnaethum am gyf- arfod llenyddol y brodyr y Methodistiaid Calfinaidd, yn y rhifyn diweddaf, dylaswn ddyweyd fod yr elw oddiwrth y cyfarfodydd dros ddeugain punt.-Al). 11.
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. Claddwyd o ardal Trefor, yr wythnos ddiweddaf, yn mynwent y plwyf uchod, hen wr 77 mlwydd oed; ac ni offrymwyd dim i'r parson yn y gladdedigaeth. Pan aeth drwy y gwasanaeth yn yr Eglwys, eistedd- odd i lawr i edrych pwy oedd yn offrwm; ac er ei ofid gwelai y bobl yn codi, ac yn myned a'r corff yn bur ddiseremoni allan at y bedd, heb ei gydnabod ef. Yn mhen enyd daeth allan, a gwnaeth I fil yn gofyn pum swllt am y bedd, a thalu am dorri y bedd heb- law hyny.' Ac yn awr, bydd llawer heblaw fy hunan yn ddiolchgar am eglurhad ar-A oes gan- ddynt hawl i godi tal am fedd yn mynwent y plwyf ? A beth yw eu cyfreithiau mewn cyssylltiad a gwas- anaeth y parson wrth gladdu ? Bravo y Treforiaid am ddechrete: bydded i lawer ddilyn eu esampl.— Joscphus.
CEFN MAWR.
CEFN MAWR. Yn y TYST am y 18fed o'r mis diweddaf, y mae rhyw un wedi anfon hanes y dyn a gollwyd ar ddydd Etholiad y sir yma, ac wedi gwneud camgymmeriad yn enw y person hwnw. Ei enw ydoedd Edward Roberts, saer, o Cefn Bychan. Da genyf hysbysu iddynt ei gael, ddydd Sul, yr 20fed o'r mis diweddaf, yn afon Dyfrdwy, wrth pont Overton, wedi bod ar goll an 22 o ddyddiau. Y mae ei berthynasau mewn tristwch mawr ar ei ol. Claddwyd ef yn mynwent Cefn Bychan, ddydd Mercher, y 23ain, pryd yr oedd lluaws mawr o'i gyfeillion wedi dod yn nghyd i dalu y gymmwynas olaf iddo. Yn y trengholiad a gyn- haliwyd ar y corph, yn Ruabon, yr wythnos ddi- weddaf, o flaen B. H. Thelwall, Ysw., trengholydd, dywedodd Mr Burton, meddyg, yr hwn oedd wedi gwneud ymchwiliad ar y corph, fod llawer o archoll- ion a briwiadau arno; ond y rhai y gallasai ei fod wedi eu derbyn ar ol iddo soddi. Yr oedd ef (Mr Burton) yn barnu fod marwolaeth wedi ei achosi trwy foddi. Wedi cymjrieryd rhai tystiolaethau yn mhellach, dychwelwyd y rheithfarn ganlynol—' Fod y trangcedig wedi ei gael yn farw yn yr afon Dyfr- dwy, gydag arwyddlon o ymdriniaeth lem ar ei gorph; ond beth a achosodd ei farwolaeth, nid oedd y dystiolaeth yn ddigonol i ddangos.'
ZOAR, LLANTRISANT.
ZOAR, LLANTRISANT. Prydnawn Nadolig, cafodd plant ysgol Sabbothol y lie uchod, wledd o de a theisen. Nifer y rhai fu yn gwledda ar ffrwyth y ddalen estronol oedd oddeutu cant. Yr oedd y te a'r deisen yn neillduol yn deilwng o wragedd Morganwg, a phobl garedig a medrus Llantrisant, y rhai sydd yn hynod am eu medrusrwydd i wneud y bara brith. Am chwech, cafwyd cyfarfod cystadleuol, pryd y cymmerwyd y gadair gan y Parch. W. C. Davies, gweinidog y lie. Cafwyd annerchiad medrus, pwrpasol, a difyr dros ben gan y cadeirydd, Wrth agor y cyfarfod, yr hyn a barodd fywyd yn yr holl gynnulleidfa. Beirniadwyd y cyfansoddiadau, y canu, yr adrodd, y darllen, &c., gan y Parch. H. Davies, Llanelli, Brycheiniog. Danghosodd y Beirniad wybodaeth, medrusrwydd, a chwaeth uchel wrth feirniadu y cyfan, a chredwn yn gydwybodol ei fod yd onest ac yn hollol ddiduedd wrth gyflawni ei swydd bwysig. Rhoddodd gan- moliaeth uchel iawn am y chwaeth a ddangoswyd yn newisiad y testunau, yn gystal a'r darnau a gan- wyd ac a adroddwyd; hefyd am y llafur a ddangos- wyd gan yr ymgeiswyr. Da genym weled pobl Zoar mor fywiog a gweithgar. Maent yn dwyn nodau eglur mai pobl sydd yn myned yn mlaen gyda yr oes ydynt. Wedi cael dros dair awr o gyfarfod, ymadawodd pawb, ar ol cyflawni y seremoniau ar- ferol, wedi eu llwyr foddloni.— U1 o'r lie.
PENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. EISTEDDFOD.—Cynnaliwyd yr eisteddfod hon nos Sadwrn y 17eg o Ragfyr. Cynnaliwyd gorsedd ger yr Ysgol Frytanaidd am oddeutu haner awr wedi pedwar, ond gan ei bod mewn rhan yn un afreolaidd, ni urddwyd neb. Ond cyhoeddwyd yn rheolaidd o'r Orsedd gan Clwydfardd, bod eisteddfod i'w chynnal wrth Hafodyllyn, ger Maentwrog a Llanfrothen, ddiwedd Mehefin nesaf, pryd y cynnelir gwledd arwest, ac yr urddir Beirdd ae Ofyddion yn y lie. Oddeutu haner awr wedi pump, ymgynnullwyd yn yr Assembly Room, yr hon sydd yn gyfleus ar y cyfan, ond gresyn ei bod mor gul, gan ei bod eisioes yn rhy fach i unrhyw gynjfulliad lluosog o'r trigol- ion. Y mae y mynedfeydd ati mewn sefyllfa an- nhrefnus a pheryglus iawn, gan ei bod yn anorphen- edig, ond daw yn well. Nid ydym eto yn deall pa fodd y trodd yr anturiaeth allan; ond da genym hysbysu fod y cyia-rfod wedi troi yn llwyddiant mewn cynnulliad, ac yn un hynod o'r difyrus. Y cyfeisteddfod gweithiol oeddynt Mri. T. Williams, J. Davies, H. W. Hughes, J. Davies Jones, W. R. Williams, Gwilym Iclris, Ysgrifenydd, &c.; arwein- ydd, Clwydfardd. Yr oedd yno amryw lenorion yn cymmeryd rhan yn y cyfarfod, megis Alltud Eifion, Dewi Mawrth, Dewi Emoel, loan Deudraeth, Eos Teewyn, &c.; hefycl yr oedd yno Brass Band. Ar gynygiad Clwydfardd, wedi ei eilio gan Gwilym Idris, cymerwyd y gadaiir gan A. 0. Williams, Yaw. Yna chwareuwyd ton gan y Band. Wedi hyny caed 'Hen Wlad fy Nhadau' gan Mr J. Owen, Doly- ddelen, yn dda. Ac wedi hyny anerchiad gan y llywydd yn Gymraeg. Yn nesaf, cafwyd anerchiad- au barddonol gan y beirdd, sef Dewi Mawrth, Dewi Emoel, Ieuan Hengel, a loan Madog. Can gan Eos Tecwyn, 'Pictiwr fy Mam.' Cystadleuaeth mewn adrodd 'Eiriol am barclwn;' dau ymgeisydd, gereu, W. Humphreys; ail, W. Parry, a chyfarchwyd hwy ag englyn gan I. Glan Barog. Yna ton gan y Sein- dorf, a chan gan Mr J. Owen. Yna caed cydymgais mewn areithio ar y 'Diog;' tri o ymgeiswyr, goreu, J. Davies; ail, leuan Hengel. Yn nesaf, deuawd, 'All's Well,' gan Mri. Roberts a Williams. Darllen Gorphenw.yf-' goreu, Llew Deudraeth; ail, John Davies. Can 'Nelly Grey,' gan y Misses Williams, Capel Gwyn, yn odidog. Yn nesaf, beirniadaeth Clwydfardd ar y 'Beddargraff er cof am D. G. Wil- liams, CSfetell;' goreu, W. Williams; ail, E. Evans. Can, Etholiad Meirion,' gwaith Gwilym Idris, gan Mr J. Owen. Deisyfir i'r awdwr ei hanfon i'r TYST. Wedi hyny caed beirniadaeth Prysor Dolyddelen ar y Geirdreigliad; goreu, John Davies, crydd; ail, E. Evans. Can gan Eos Tecwyn. Yn nesaf, beirniad- aeth Gwilym Idris ar Gynnildeb;' goreu, Mr Jones, fferyllydd; ail, Hen Lane. Can gan Mr J. Jones (EosDyvi). Ai-aeth ddilyr ar y 'Mul;' goreu, Llew Deudraeth; ail, I. Llech. Can gan Mr J. Owen. Anerchiad gan Clwydfardd; a chyfansoddwyd englynion i'r bardd gan Gwilym Idris. Ton gan Gor yr Aelwyd (plant Thomas Humphreys). Yn nesaf, beirniadaeth Gwilym Idris ar y penillion i'r 'Teulu Dedwydd;' goreu, Dewi Emoel; ail, Meir- ionfab. Ton gynnulleidfaol; goreu, W. Jones, Ffestiniog; ail, Eos Brothen. Can ar yr 'laith Gymraeg,' gan yr unrhyw. Beirniadaeth Clwyd- fardd ar y traethodau ar 'Gyfiawnder;' goreu loan Gybi; ail, Dewi Ddn. Can gan Mr R. Roberts, Talysarn. Diweddwyd trwy i'r Seindorf chwareu 'Duw gadwo'r Frenhines.' Teg yw dyweyd fod yr ysgrifenydd wedi gwneyd pob ymdrech yn ei allu er cael yr eisteddfod yn un ddyddorol, ond ein hofn- au yw y bydd yr antariaeth iddo yn golled; ond hyderu yr ydym y bydd i lawer wneyd pob ym- drech i'w ddigolledu. Ati o ddifri frodyr llenyddol a barddonol os bydd gofyn am hyny.Reporter oedd yno.
NEW TREDEGAR.
NEW TREDEGAR. YR EISTEDDFOD UXDEBOL.—Dydd Llun, Rhagfyr 21ain, 1868, cynhaliwyd eisteddfod lewyrchus, dan nawdd Ysgolion Sabbathol y lie, vn y pentref bychan a rhamantus hwn. Yr oedd yr eisteddfod yn bob- peth a allesid ddisgwyl, er fod yr hin yn wlyb, ac felly yn hynod anffafriol i ddynion ddyfod o bell. Beirniad y canu ydoedd Mr Rees Lewis (Eos Eb- rill), Caerdydd. Beirniad y traethodau, y farddon- iaeth, a'r adroddiadau, ydoedd y Parch. John Emlyn Jones, M. A. Ll. D., Merthyr. Buddugol ar y prif destun mewn traethodau oedd Mr David Lloyd, o'r lie hwn. Y buddugol ar y prif destyn mewn barddoniaeth ydoedd Athan Fardd, Casnewydd; ond am nad oedd yn bresennol, yn unol a rheolau y program, ni chaf- odd y wobr. Llywydd y cyfarfod dau o'r gloch ydoedd y Parch D. Jones (A.). Llywydd y cyfarfod 6 o'r gloch oedd y Parch. J. Seth Jones (B.).-Ioan Ddeicr, Ys- grifenydd.
BEAUMARIS.
BEAUMARIS. GOSOD Y TOELBYRTII (Turnpike). lau, Rhag. 24ain, 1868, ydoedd y dydd i Xs uchod am y flwyddvn bresenol. Wrth vdmJjr rnae yn cael ei osod, a Mr Dew, Bangor, raid •» arwerthwr, yr hwn a hysbysodd y byddai o lie 11 ^y^hygydd godi 5p. ar ol pasio lOOp. Ond °dwv(^+' *.ryw dd.Yn godi 2p. ar ol 180p. Ni os- af e? l diwrnod hwnw er i'r cynhygydd diwedd- lvnfol j>an^eer ystyried a godai ef i 185p.; a'r can- ^neud wrthod codi. Wei, nid oedd dim i'w j 00 bellach ond chwilio am yr hwn a gynhygiodd 8efvli'.aC> erb3rn e* gael yr oedd hwnw yn nacau Jo&e canlyniad fu ei osod am I75p. i Meistri Werthiar^t k"1' 7p. yn is na'r cynhygiad yn yr ar- \T "WATCHNIGHT. jVi ^au diweddaf, cynhaliwyd Watchnight yn "°ed<i 8 J P^wyf. Peth pur ddieithr i ni yma yd- yn yr Eglwys, ac am ei fod felly fcoh ^,yno' n*d am ein hod yn hoffi myned ar ol peth dieithr chwaith. Erbyn i ni gyrhaedd ei lii^i0 yr hen Eglwys braidd yn llawn, ac wedi shairw lf110 d bytholwyrdd, celyn, blodau, a adro^^ u' ac oes genyiti ond defnyddio ym- vn oi defnyddiodd Syr R. Bulkeley flwyddyn &ari' ian e* gwelodd, It was more like a Theatre can-wvi^i101186 of God-' Darllenwyd y gweddiau, gan v y^aswn ddyweyd, neu hanner o bob un, Tho y periglor. Pregethwyd gan y Parch. M. allan aS' Oaernarfon. Ni welais neb yn cychwyn dda i' C^a *'r gwasanaeth derfynu: dyma esiampl r iirmeillduwyr. Q CYFARFOD PREGETHU. l d y Bedyddwyr eu cyfarfod pregethu °eddv f nos ^au a dydd Calan. Y gweinidogion Oefj^ yn gwasanaethu oedd y Parchn. Morris, 8yntaf^W^r^r ^wn a ae^h oddi yma ar ol y noswaith ^yd i o^ies> Pensarn; a Roberts, Rhos. Caf- «apej cyf^rfodydd da a lluosog; ac oherwydd fod gapei ^dyddwyr mor llawn ddau o'r gloch awd i S^ah e^pdistiaid. Da iawn oedd genyf weled ^Ueli an° Weinidogion ein tref yn rhoddi eu presen- 0 yn y cyfarfodydd. —Gohebydd.
NADOLIG YN LLANGWM.
NADOLIG YN LLANGWM. ^°^oVhf cynnal y Nadolig trwy wneud cyfleth y hen "p i n» ac am 4 o'r gloch y boreu myned i'r °ddivr5 Wladol i'r blygain. "Wedi dyfod allan Plant ° yinranai y dyrfa yn ddau ddosbarth:—y at v rU* leuenctyd at y bel droed, a'r rhai hynach §Wao- feddwol, felly y treulid y dydd mewn yrw°h. y d ^ychydig flynyddau cynnelid cyfarfod canuar yddol l\c^lod> ond eleni daeth y Gymdeithas Len- Wrl^ ar^er cyfarfod yn y Cefn i'r pender- ? ^0d angen am gyfarfod i oleuo y wlad yn koeid ^y^i^ Gwladol a Chrefyddol.' Cy- yn J gwahanol gapelydd y byddai y j/ cael ei gynnal nos Nadolig. Sben JW gadair yn mhob ystyr o'r gair gan. Mr yn fedru168' 9e^n Nannau. Anerchwyd y cyfarfod °1MM -2le^s^rolgar, &c., gan y personau canlyn- rygy Drln J' J" Ellis' Tyddyn Eli R. Jones, Cer- ^yd-dr7r^ n' -0- ^ones, Ty Gwyn; T. Jones, afon • > pen; Derfel Meirion; J. Jones, Glan-yr- Cvfo Ji' j r Pa^ch. E. Jones. Canwyd yn ystod y gan y Cor~wfrch ^.gan' gan y Cor; Yr Hydref' Pi A e lr Cryd; gan R. Jones, New cyn v f a ne a'i wyr>ganyCor; Enyd fechan tref ,>arwydf' g"an D. Roberts, Penhwylfa a Char- n 188 Williams, Ty'n-y-pistyll, yn swynol v ^wedd> cyflwynwyd desk yn anrheg oddi- aia ef Lenyddol i'rTarch.Evan Jones, "j^dlondeb yn ein blaenori. Darllenwyd Ifety yn nghyda chyflwyno gan Mr R. Jones, fc Y^^ynwyd fod cyfarfod o'r un natur i'w gynal Jsgoldy Rhydd y Llan yn fuan. YIf liyfrydwch genyf ddeall fod y Nadolig ^ivn St? ^yda y cymmeriad o dafarn wag a chapel arfryn..
TABERNACL, AMWYTHIG.
TABERNACL, AMWYTHIG. ^-d°lig> cynhaliodd cynnulleidfa y lie °?fts eU~n 6 ^>ar^ blynyddol, yn y Lion Assembly He iiv. Daeth nifer lluosog yn nghyd. Yr oedd y plida, I "I addurno yn brydferth ag arwyddeiriau gyfer y dydd. Wedi i bawb gael eu di- •, r P^thau da oedd wedi ei darparu, traddod- ^SW^« gaii T- Davies> M-A-» Ph.D., Ross. Jit atl.r ^uod(iau meddwl,' yr hwn a driniwyd ^nyddoX a meistrolgar, ac ar yr un pryd,: ^dd Poblogaidd. Yr oedd y ddarlith yn nres°ea#8v?^0^ ac am^y§'id J gymmeradwyaeth Vsan^, ld-di ga.n y gynnulleidfa wrth ei gwrando. y Coj. aniryw Anthemau yn ystod y cyfarfod gan J-ilywyddwyd gan J. Bratton, Ysw., Cyn- 1^clje. aeth y Parch. R. Davies, (M.C.), gynyg ;i(j £ ar^c^ y cyfarfod i Dr. Daviee, am ei ddar- S a^Uo§' a dyddorol. Eiliwyd gan G. Davies, U^ori- Cynhygiwyd diolchgarwch i'r Cad- vH /ri ddull deheuig yn llywyddu, gan y jj. avies, Tabernacl, ae eiliwyd gian R. Owen, ^ddfmton- Diolchwyd yn wresog hefyd i'r g-6?au» &c., am weini with y .byrddau. Da H Uilgp'76 ed cymmaint o yspryd gweithio a myned liy^j^yn yr Eglwys a'r gynnulleidfa. lOalan, anrhegwyd plant Ysgol Sul y Tab- I "41 Til,, &c., ac a gwobrau oddiar y Christmas I? yr >11 hwyr, cynhaliwyd cyfarfod cyhceddus aVje8 ^8'0ldy. Llywyddwyd gan y Parch. J. j~ygwyd y cyfarfod yn mlaen trwy adrodd, ^y^r 0?arUen' yn nghydag anerchion pwrpasol gan ao ade^^j^011' ^awsom gyfarfod gwir fudd-
>. t CAERGYBI.
>. t CAERGYBI. CYFARFOD Y CALAN. O cyfarfod ar y noswaith ddi- flwyddyn a'r dydd cyntaf o'r newydd. 5' yd gan y Parchn. R. Parry, Llandudno; y. Bstngor; E. Evans, Lllangollen, iac E. » Syntiii11 a.nymarian • Y ddwy noswaith, rhanwyd w^ydd rhwng y Tabernacl a'r Tabernacl a, da ° -dd hyn, mewn rhyw ystyr, i gael ■wPeli r anghysurdeb sydd bob amser yn dilyn y^Unol g°rlanw. Er hyny rhyw olygfa te^Gar-l' v yfryd a gogoneddus ydyw gweled y ^aeth wedi ei lenwi a chynnulleidf a a gymi. °yntaf yn ein bywyd, cawsom • yr YJ, 0 glywed y Parch. E. Evans, Llan- j?"Oo't jPregethu ao yn darllen. Clywsom son am lh^eddaf a i11 ^awer pryd, yn enwedig yn y character wl ^ai'Uen darJenwr; ac yn wir rhaid dyweyd Vw* allav, °'r radd oreu ydyw. Rhodda y syn- !t ^ysbr ddarUen, ac nid rhyw dori geiriau ei" ■arl]p ac yn anghyfatebol i'r hyn a ddarllen- -^r Evans yn berffaith naturiol. Mae ^dd^11 a'^ d"n yn hynod felly: ac mewn a '^yna secret darllen yn gywir,—dilyn ^nasai pob siaradwr yn ymdrechu e(jfeSeth-vyy'r'1btlasai genym well darllenwyr a >H„ VTI I' syda yn fwy sychlyd na chlyw- pennod o'r Ysgrythyr ar ei hyd qw v hirlais, farwaidd, ac aneffeith- n am Reform. Credwn mai gwas- ei x,w wlad wnai Mr Evans trwy ail gy- >D °edd r bnddiol ar Ddarllen.' iafl ^^arfod a^od calan hwn, fel y rhai o'i flaen, ynddo t^ adol, ac felly gwnaethpwyd casgl- ^iria^ ei a^ y genhadaeth; ac yn ol yr hyn V Wn-w= y^ed, mae yr hyn a wnaed yn y cyf- °edd dS Saumoladwy- S.Rav./11 y (kt j, r gweinidogion a enwyd uchod yn V ^ynoSE1ddydd Llun diweddaf, a |wasanaeth- 3srG" loyd v 0no .yn nghyfarfod sefydliad y Parch. m^„ £ inidog ar eglwys y Tabernacl ^Qohebyjtf U ^anes y cyfarfod hwn yn ein
.I CAERNARFON.I
CAERNARFON. Cynhaliodd cynulleidfa Pendref ei chyfarfod pre- gethu blynyddol ar ddydd Nadolig, fel arferol. Gweinyddwyd gan y Peirch. Williams, Castell- newydd; Roberts, Tanygrisiau Ambrose, Porth- madog a James, Llanaelhaiarn.
TRELYN.
TRELYN. DYDD NADouG.-o'o/jlwyn£aàïysteb i J1£r. Thomas P. Tlwmas.-Cyfarfu lliaws o gyfeillion y gwr ieu- angc uchod ar hwyr y Nadolig, yn long room y Plough and Harrows Inn, Pen-pedair-heol, er cyfiwyno or- iawr a chadwyn aur ysblenydd, a phwrs a'i gyn- nwysiad, ynghyda modrwy aur berlog i Mrs Tho- mas. Cydnabyddir y gwr ieuangc hwn gan bawb yn y cylchoedd hyn fel un synwyrol, pwyllog, a difalch yn ei holl ymdrafodaeth. Cychwynwyd y dysteb gan gyfrinfa Iforaidd y Plough, yn yr hon y mae yn ysgrifenydd ffyddlawn a chymmeradwy ond meth- wyd a chadw y tanysgrifiau o fewn cylch y gyfrinfa yn unig, a phenderfynwyd rhoddi cyfle i bawb roddi at y dysteb, a dangoswyd ei deilyngdod cyn bo hir trwy res o enwau boneddigion ar lyfrau'r tanysgrif- wyr. Llanwyd cadair y cyfarfod gan Samuel Leigh, Ysw., Cascade, a'r Is-gadair gan Mr Edward Davies. Cyflwynwyd yr oriawr a'r gadwyn gan Mr Ed- ward Davies, a'r pwrs a'i gynnwysiad gan Mr J. Hughes, a'r fodrwy gan Mr David Thomas i Mrs Hughes: a chafwyd cyfarfod dyddorol dros ben, trwy areithio, barddoni, a chanu swynol. Dymunem bob llwyddiant, a hir oes ac iechyd i'r par parchus.—N. O. P.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. Cynhaliodd Annibynwyr y lie uchod eu gwyl flynyddol ar ddydd Nadolig. Gweinyddwyd gan y gweinidogion canlynol:—-Parchn. Samuel Roberts, R. Ellis (Brithdir), J. Peters (Bala), a Mr. Williams, o athrofa y Bala. Cawsom gyfarfod da. Yr oedd y gynulleidfa yn teimlo yn ddwys o dan y pre- gethau yn gyffredinol.-Brodor o Ardudwy.
RHOSYMEBRE.
RHOSYMEBRE. Nos lau, Rhag. 27ain, pregethodd y Parch. D. Evans, bregeth angladdol i'r Parch. H. Pugh, Mostyn, yn nghapel yr Annibynwyr, Rhosymedre. Ei destyn oedd 2 Sanluel iii. 30, 'Syrthiodd tywysog a gwr mawr yn Israel.' Cafwyd pregeth ddylanwadol iawn. Sylwodd ar Mr Pugh fel dyn ac hefyd fel Cristion. Yr oedd y gynnulleidfa yn teimlo o dan ddylanwad y bregeth.-Cyinro Bach.
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. DYDD NADOLIG.—Cafwyd Eisteddfod ragorol yma ar y dydd uchod. Yr oedd y cystadleuwyr yn lli- osog. Yr oedd saith o gorau yn tynu am y dorch ar y prif destynau cerddorol; a chafodd y beirniaid, sef Dewi Alaw ac Eos Rhondda, ddigon o waith drwy y dydd i fesur a phwyso y cantorion. Aeth Cor y Ddinas a'r brif wobr, ac ennillodd Cor y Graig, Pontypridd, ar un o'r darnau ac aeth gwobrwyoni logellau Tafanwy, D. John, Thomas Jones, B. Evans, ac amryw gyfeillion ereill. Gwnaeth y beirniaid cerddorol eu gwaith erbodd- lonrwydd. Felly hefyd Llyfnwy, beirniad y traeth- odau a'r farddoniaeth. Aeth y brif wobr farddonol i logell Cynddelw. A nos Fercher wedi'r Nadolig, bu cyfarfod gan Ysgol Sabbathol Coedpenmain, er anrhegu Mrs Ro- berts, ar ei hymadawiad i Portdinorwig, a Beibl a Llyfr Hymnau heirdd, fel arwydd o serch yr ysgol yn y lie tuag ati. Siaradodd y Parch. J. W. Morris, E. Ashton, S. Thomas, D. Davies, John Lewis, D. Lewis, J. James, T. Davies, a Mr Jones yn barchus am Mrs Roberts; a chafwyd anerchiadau barddonol gan Mr Edwin Phillips, a Dewi Alaw. Canodd y cor amryw donau rhwng yr areithiau. Yr oedd yn gyfarfod hiraethlon ac nid rhyfedd, oblegid gellir dyweyd fod Mr Roberts, yr hwn sydd yn ysgolfeistr parchus yn Portdinorwig, wedi ys- beilio un o'r athrawesau ffyddlonaf, ac un o'r merch- ed prydferthaf a mwyaf rhinweddol yn Pontypridd. -Goliebydd..
CAPEL ISAAC.
CAPEL ISAAC. Treuliwyd y Nadolig yn y lie uchod yn dra bodd- haus a dyddorol, trwy gael cyfarfodydd cystadleuol llenyddol, cyfyngedig i'r Eglwys a'r gwahanol Ys- golion Sabbathol a berthynent iddi. Gwedi dyfod y dydd nodedig, dangosodd ei weithrediadau fod y rhan fwyaf o'r cystadleuwyr wedi bod yn drachtio yn helaeth o ffrydiau iachusol diwydrwydd ac ym- drech ac er na chafodd pawb eu harwisgo a'r bags tlysion oedd wedi eu darparu gan y gwragedd da a charedig Mrs Jones, Pantarfon, Mrs Reece, Llwynpatridge, Mrs Jones, Llwyngwyn, a Miss M. Thomas, Pantawel, er dal a throsglwyddo mewn ffordd foneddigaidd yr ychydig wobrwyon i'r budd- ugwyr-etto gallai pob un deimlo yn dra chalonog ei fod wedi cael gwobr fawr ac helaeth iddo ei hun trwy'r llesiant a dderbyniodd oddi wrth y zel a'r egni a ddangosodd pan yn myned trwy y canghenau a hoffai. Y beirniaid oeddynt Mri. J. Pugh, Athraw Ysgol Rammadegol Llandilo, a G. Jones, Argraphydd; a phriodol yw dyweyd ddarfod iddynt gyflawni eu gwaith i foddlonrwydd y rhan iwyaf yn deilwng o'u hurddas arferol. Llonid y cyfarfodydd yn awr ac eilwaith trwy gael ton gan y Gobeithlu,' yn cael eu harwain yn ddeheuig gan Mr W. Emsall, yr Ysgolfeistr. Testynau a threfn y cyfarfodydd oeddynt fel y canlyn:— Y Cyfarfod 10 o'r gloch. 1, Araeth agoriadol bwrpasol i'r amgylchiad gan y Llywydd, y Parch W. Gibbon, gweinidog y lie. 2, Yehydig o bennillion anerchiadol tarawiadol iawn gan Mr T. Thomas, Pantawel. 3, Ton gan y Go- beithlu. 4, Adrodd y 63 Esaiah gan unrhyw wryw. Dau yn cystadlu; goreu, W. Williams, Panteg. 5, Adrodd yn Saesneg Love of God,' gan blant dan 10 oed. Saith yn cystadlu; rhanwyd y wobr rhwng B. A. Jones, Pantarfon, ac M. Davies, Pantyffynon. 6, Beirniadaeth ar yr ysgrifeniad goreu o'r 117 Salm, gan fechgyn a merched o dan 15. Rhanwyd, o ochr y bechgyn, rhwng E. Jones, Glansychnant, a D. Lewis, Tynewydd; o ochr y merched, rhwng A. Williams, Ffynnon wen, ac E. Jones, Llwyngwyn. 7, Adrodd yn Saesneg, Jesus with us in trouble,* gan ferched o dan 15. Chwech yn cystadlu; goreu, A. Williams, Ffynnon wen. 8, Canu Tamworth.' Pedwar cor yn cystadlu; goreu, Cwmcyfyng; ail oreu, y capel. 9, Darllen Diar. xxx. 24, 28, gan ferched. Tair yn cystadlu; goreu, M. Williams, Ffynnon wen. 10, Beirniadaeth ar y traethodau ar Werthfawrogrwydd Addysg.' Pedwar wedi eu derbyn; goreu, W. Jones, Pantarfon; ail oieu, T. Thomas, Pantawel. 11, Solo, Ty fy nhad.' Ped- war yn cystadlu; goreu, J. Evans, Ffynnon wen. 12, Darllen darn a roddid ar y pryd. Naw yn cys- tadlu; goreu, D. Lewis, Ty newydd. 13, Ton gan y Gobeithlu. 14, Beirniadaeth ar y pennillion ar Ostyngeiddrwydd.' Pedwar o gyfansoddiadau wedi dyfod i law; goreu, J. Evans, Ffynnon wen; ail oreu, J. Thomas, Pantawel. 15, Canu I Oysur,' gan unrhyw bed war. Rhanwyd rhwng pari W. Jones, Crachty isaf, a W. Evans, Panteg. 16, Adrodd, A chan sefyll o'i du 01 Ef ac wylo,' gan ferched o dan 15. Saith yn cystadlu; goreu, L. Jones, Cwm- cragen. 17, Ton gan y Gobeithlu. 18, Adrodd darn o Ddrylliad y Rothsay Castle,' gan unrhyw wrryw. Deuddeg yn cystadlu; goreu, Wm. Harries, Cwmcrwth ail oreu, J. Evans, Ffynnon wen. 19, I ddiweddu cyfarfod y boreu, Tamworth,' gan y pedwar cor, o dan arweiniad y beirniad, Mr G, Jones. Y Cyfarfod 2J. 1, Ton gan y Gobeithlu. 2, Adrodd 2 Sam. i., o'r 17 adnod hyd ddiwedd y bennod. Chwech yn cys- cystadlu; goreu, M. Williams, Ffynnon wen. í3 Adrodd yn Saesneg, Alone with Jesus,' gan fech- gyn dan 15. Saith yn cystadlu; goreu, J. Breece, Llwynpatridge. 4, Beirniadaeth ar y traethodau ax Weddeidd-dra yn Nhy Dduw.' Dau gyfansoddiad ddaeth i law; goreu, W^ Jones, Pantarfon; ail oreu, T. Thomas, Pantawel. 5, Canu 'St. Barnabas. Pedwar cor yn cystadlu; goreu, y capel; ail oren, Glanddu. Adrodd 103 Hymn, allan o S. R. goreu, M. Edwards, Rhiwdorth. 7, Ton gan y Gobeithlu. 8, Adrodd y Farn,' gan fechgyn dan 15. Saith yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng D. Lewis a J. Reece; 9, Can gan dri chyfaill. 10, Canu deuawd, Fy anwyl fam fy hunan.' Tri pharti yn cystadlu; goreu, J. a D. Thomas, Pentwyn. 11, Darllen y rhan gyntaf o 1 Cor. xiii. Pymtheg yn cystadlu; goreu, W. Evans, Panteg. 12, Beirniadaeth ar y penDillion ar Frawdgarwch.' Naw o gyfansodd- iadau wedi eu derbyn; goreu, J. Evans, Ffynnon wen ail oreu, H. Thomas, Pantawel. 13, Ton gan y Gobeithlu. 14, Adrodd I Gorphenwyd,' allan o Hymnau S. R. Chwech yn cystadlu; goreu, M. Williams, Ffynnon wen; ail oreu, Mary Edwards, Glanddu. 15, Canwyd yn swynol gan W. Jones, Crachty isaf, a J. Thomas, Crosshands. 16, Di- weddwyd trwy gael ychydig eiriau mewn ffordd o adolygiaeth a chyfarwyddyd gan y ddau feirniad, a. bydded iddynt gael hir oes ill da. i wneud llawer o ddaioni, trwy feirniadu mewn cyfarfodydd o'r fath, a,c i'r cystadleuwyr yn mhob man eu llanw a zel a theimladau da.