Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR WYTHNOS. Beth am ragolygon y flwyddyn newydd? Blynyddoedd o galedi, a thlodi, a chyfyngder oedd y ddwy flynedd ddiweddaf i flloedd lawer yn ein gwlad. Yr oedd y gwaith yn brin, yr ymborth yn ddrud, masnach yn farwaidd, a'r trethi yn drymion. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf ychwanegwyd 30,000 at rifedi tlod- ion dinas Liuiidain. Deng mil arhugain—pobl- ogaeth tref go fawr,-yn ychwanegol at y rhai a dderbynient help o'r blaen oddiwrth y plwyf A'r cynydd dirfawr hwnw wedi cymeryd lIeyn y Brif ddinas yn unig! Ac yr oedd hyn yn ddangoseg lied gywir o sefyllfa masnach a llafur drwy yr holl deyrnas. Y mae yn llawen genym aRu datgan. gobaith cryf fod y flwyddyn 1869 wedi dechreu gyda gwell rhagolygon na'r flwyddyn flaenorol. Mae y pani-c mawr, yr hwn a achosodd y marweidd-dra yn 1867, ac a barhaodd i effeithio yn gyffelyb ar hyd y flwydd- yn 1868, wedi myned heibio i ryw raddau, a dywedyd y lleiaf. Mae pob cangen o fasnach yn bresenol o fewn terfynau cymmedrol, ac y mae rhyw argoelion yn ymddangos fod ymddiried masnachol ar gynydd. Mae yr arian yn rhad, pris yr ym- borth yn gymraedrol, a heddwch y Cyfandir, ar y cyfan, yn ymddangos yn addawus. Digon gwir y gall rhywbetii ddigwydd yn hollol an- nisgwyliadwy, i aflonyddu yr heddwch sydd yn bresenol yn ffynu cydrhwng galluoedd mawrion Ewrop ac America, ond, a barnu yr hyn a fydd yn ol yr hyn a fu, yr ydym yn teimlo yn hyderus y bydd y flwyddyn hon yn flwyddyn o heddwch rhwng prif lywodraethau y ddau gyfandir. Cynnelir cynnadledd yn faan yn Paris, er ter- fynu yn heddychol, y cweryl rhwng Groeg a Twrci. Pa beth bynag ydyw y teimlad gyda golwg ar Y Cwestiwn Dwyreiniol,' yr ydym yn hollol benderfynol, nad oes awydd yn un o brif Alluoedd Ewrop ar hyn o bryd i fyned i ryfel yn nghylch eiddo I y gwr claf o Gaercys- tenyn. Digon gwir, fod cwestiwn yr Alabama heb ei benderfynu yn ffurfiol. Ond y mae llywodraeth Lloegr a llywodraeth America wedi dyfod i'r fath gyd-ddealldwriaeth eisoes, fel nad oes achos ofni y bydd i ryfel dori allan rhwng y ddwy wlad. Ac os edrychwn ar gyfandir Ewrop, y mae yr argoelion yn fwy heddychlon nag oeddynt er's blwyddyn yn ol. Nid ydyw Germany am ryfel, ac nid ydyw yn debygol y bydd i lywod- raeth Ffrainc feiddio aflonyddu ar heddwch y byd yn ystod y lfwyddyn hon. Mae yn ddigon gwir fod perchenogion llaw- weithfaoeddcotwmswydd Lancaster wedi pen- derfynu gweithio amser byr' yn ystod Ionawr a Clrvsefror; ond y mae hyny yn cael ei achosi gan bris y cotwm. Ymddengys fod Thyw an- sicrwydd am helaethdor y cyflenwad. Daw y dirgelwch i'r golwg yn fuan. Os oes digon o gyflenwad o gotwm yn America a lleoedd eraill, y mae y pris yn sicr o ddisgyn yn fuan. Os ydyw y eyflenwad yn brin, bydd rhaid talu uwch pris am ddillad cotwm. Mae y dirprwywyr a neillduwyd L wneyd ymchwiliadau yn nghylch Undebau y crefftwyr newydd fod yn cydeistedd, er parotoi eu had- roddiad, yr hwn yn fuan a gaiff ei gyflwyno i i sylw ySenèdd. Dywedir y bydd yr adroddiad yn cymmeradwyo ar fod i'r Undebau gael eu cydnabod gan y gyfraith; nad oes neb od aelodau o'r Undebau i fod yn ddarostyngedig- Tv i'wrheolau a bod unrhyw gynyg i ddwyn n rhyw weithwyr dan reolau yr Undebau yn gro i'w hewyllys, i gael ei gosbi; fod llafur i fod jf hollol rydd yn mhob crefft; fod yr arian er cynorthwyo y cleifion i gael eu suddo Or wahan oddiwrth yr arian a danysgrifir i aiocaI1 ion eraill. i Yr olaf o'r pethau hyn sydd debycaf 0 986 ei wrthwynebu yn egniol gan beirianwyr, seirI meini, seiri coed, &c., ar y tir, fod gaIlddt I I hawl i ddefnyddio yr arian a danysgrifir^ ganddynt hwy eu hunain, fel y byddo da golwg, ac nad oes gan neb hawl i'w gyfrif -:i-v Ymddengys fod y defodwyr'yn gwingo erbyn barn y Cyngor Dirgel yn achos Alban. Y mae y dosbarth mwyaf eithafol tystio yn erbyn dedryd Arglwydd Cairns, ac bygwth encilio o'r Eglwys Sefydledig- Parch. Edward Husband, offeiriad AtherstoBj a ddywedai yn ystod ei bregeth y Sul diwedw84' Yr wyf i fel un yn gobeithio yn ddwys ac wresog y bydd i fyddin fawr y CathoHci81 trwy y tir ddiystyru y ddedryd yn hollol, go adael y canlyniadau yn llaw yr unig-ddo^ Dduw. Os-bydd i ni gael ein troi aUa11 Ð: Eglwys, fel Sefydliad, Duw a adeilada i Eglwys Rydd Gatholig.' Pethhynod fy clywed y defodwyr yn dyrchafu eu llais do ryddhad crefydd oddiwrth y wladwriaeth. gallant ddisgwyl nawdd a ffafr neillduol y wiad,, wriaeth, a bod yn rhydd o gaethiwed E: Sefydledig.

Family Notices

Advertising

TYSTEB MR GLADSTONE-'

NODION A NIDIAU.