Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
- OILTOWM.
OILTOWM. «i^ll?a^odd Gtyrndeithas Amaethyddol y lie hwn cydymgeisiol ar aredig, ganol Rhagfyr iw»»f Pryd yr enillwyd y prif -wobr wy on gan y Ca nau canlynol:—Yn y dosbarth blaenaf, sef y ^j^j)yyr'-yr hwn oedd yn agored i undeb Llanym- Vtato' e"ydd 7 wobr oedd Mr D. Price, Rhyd- w • yr ail ddosbarth, yr enillydd oedd Mr Jones, a chafodd Mr J. Davies, Erryd, y v »i Wobr. Ac yn y trydydd dosbarth, enillydd yjpjj flasnaf oedd Mr E. Powell. Y beirniaid aP-Mri. James, Llwyn Jack; "Williams, Cwm, Cefntrenfa. Hwn oedd yr ail gyfarfod o'r <jyv ^ma a gynnaliwyd yn yxnyl pentref tawel jcwm, yn y cyfnod presenol. HAELIONI. wrg* Nadolig cyfranodd mab a merch ieuanc ^elacytti mPhell Davies, Ysw., Neuaddfawr, swm cynes a gwasanaethgar i dlodion &c • rl"18 hwn, sef peisiau, blangcedi, crysau, ac •aU bydd i'r cyfryw weithredoedd enyn parch «.tvT>4- my&edd cyffredinol yr ardal a'r wlad tuag jut—
PENLLYN.
PENLLYN. y 111 if llawer o bobl yn gwybod, a dichon fod Jlyn eto heb wybod, mae plwyi'au yn Mhen- rhai canlynol, y rhai a elwir yn Bum' goxppv tenllyn,' nid amgen Llanuwchllyn, Llan- ^lanycil, Llanfor, a Llandderfel. Ymwel- hardrr", anau 0 Penllyn y dyddiau diweddaf gan y a a r areithydd w ROBIN DDU ERYRI, ftos V?' yr y*g°ldy Brytanaidd, Llandderfel, aa £ }ivffe^' 18ed, a draddododd araeth dnj] yflredin o dda, yn llawn o wybodaeth, ar y jji1113,6 Eglwys Loegr yn dwyn ei gwasanaeth aenv ae ar y dull y mae Ymneillduwyr yn SiOrth yny i danghosai Ysgry thyroldeb un; a Oed<j rw.^ri a thrais ac anghyfiawnder y llall. Yr -JA a ^awni a phawb hyd heddyw yn can- gaej ^arlitb; y fath wybodaeth oeddynt wedi ei bla^11 oeddynt wedi meddwl dim am dano o'r ^ai'e>K^UOe^' y 19eg, yr oedd yn nghapel Bethel, a'u hn ai* kywodraeth.au Gwladol,' eu tegwch, ^ith ?^WC^' Sabboth, am 10 o'r gloch, gan s?°dVn nghapel Soar, sef y capel a werthwyd yu si/n ^7n yn sir Feirionydd, fel capel Soar ynjjj, ~:refaldwyn). Ac am 2 o'r gloch, areithiodd aioni. y1>vor 11 01l> pwnc y ddwy araeth oedd, gwixeyd b°}j J 5^ oedd llawer o'r sylwadau yn newyddion 0^diar°' Ala °'r gloch, pregethodd yn Bethel, areith Jr-> 111 a^r cyntaf yn 1 Cor. v. 4. Er fod yr a.i ydd wedi. yraweled a'r lleoedd uchod lawer y tro i ° r b^aen> e^P J siarad cyffredinol ydyw fod Ha>r "Wn o'i eiddo, yn fwy grymus a dylanwadol e^diliJ1 °'r ^loeau blaenorol, ac fel y mae ef yn hen- y ttiae yn myned yn well yn lie yn waeth. ^ladol iddo i oleuo y byd mewn gwleidyddiaeth anog i fod yn sobr, ac i ar hvfrvrl,11 ^ra°hefn, Rhag. 2lain, cafwyd y pleser yuwcli o weled a chlvwed y J -■ PLANT YR YSGOL FEYTANAIDD. Jt yn cae^ eu holi gan Mr G. Williams, bpresenol, a chan yr hen athraw, Mr John y T.Q iwn yn awr sydd ynfyfyriwr ynngholeg <5ed(j y Bala. Rhwng rhieni plant ac eraill yr ^^liarl ^s?°^y heno yn llawn, a pharhaodd yr ^y'vved •0f-freiltvi awr, ac nid oedd neb yn blino. to^o fai, r Ilobert Thomas, lly wydd am y noson ^6^yrch yn ymddangos mewn cyflwr ve(W Pwnc ai'ianol, fod pawb yn ym- i111 el a* i chynal hi i fynu yn y mater yna. ^hau ,e^"iad i'r. gynnlleidfa dywedai Mr Davies fiejjj b -J. Wng i blant a rhieni i' w coflo anogai i IS S»!!J10 a °hadw eu plant gartref i wneyd rhyw ^0n}i u' on<^ eu hanfon hwy i'r ysgol,—a'u ^a^wriHryvyno yn ^yson'ac y11 brydlon tefyd; a'r yso-n] heb fod yn gyson ac yn brydlon yn dod %s°j^ y tebyg ydyw (meddai) y byddant yn ang- yn atlmhrydlon ar ol gaaael yr ysgol gyda'u heth bynag fyddant. Yr ydym U bydd rhieni plant yn gwrandaw ar y yn gwneyd yr ymdrech inwyaf i anfon Yt44, 1 r ysgol yn gyson, acyn brydlon. Hefyd, r Williams wedi bod yn llafurus i ddyegu ^y fiy^ y misoedd a aethant heibio, fel y gwel- p>, y08°n. heno, ac fel y tystiai pawb o'r edrych- uOsog. J yn canu yn dda, a dosbarth lied rv^yddo 0r'ynt 3rn ™yned yn mlaen mewn dysgu ^odd vnon cerddoriaetli yn y nodiant newydd. plifj goreuon yn mhob dosbarth o'r plant eu £ -yJ'i' am eu cysondeb yn yr ysgol, ac am eu beti ysg*i, a the, y dydd Mercher canlynol, yr y ^ae y plant fel eraill yn ei fwynhau yn aDi las o'r gloch, dydd Mawrth, Rhagfyr nghapel y Methodistiaid, Llandderfel, gc ^JJndeb Cerddorol yr Annibyhwyr yn Pen- (i-pT yrni°n' eu cyfarfod blynyddol, o ganu li ^lea eidfa°l- cadeirydd oedd y Parch. M. W -rweinydd y canu oedd Mr B. M. Wil- 0 CUthy»- i^hwng y ddau gyfarfod, canwyd y cwbl o'r'Llyfr Tonau ac Emynau' !\o Stephen a J. D. Jones. Rhoddwyd y pen- oan gau y Parch. J. Lewis, Corwen. Nid ty, -clod y,^ yehydig o fisoedd er pan y mae yllyfr wasg, a llainahyny sydd er pan dde- ^tifsp v^nau i'w canu o hono ac wrth ystyried §i}^io^r yr a ga^yd i ddysgu y tonau, ac na bu m 0. y 8"wahanol gapelydd yn canu gyda'u %fr hwn o'r blaen, a'r arweinydd yn C^deb iddynt hefyd, ac wrth ystyried y (wTOfol etholiad a phob peth, cafwyd canu ° yr oedd rhai tonau yn canu yn Vt^W8' a° yn cai'i° dylanwad mawr, yn enwedig A ■Perillyn, Mount of Olives, Beddgelert, J. }*^anyrafon, Siloah, Innocent, a Dies Irse. yj y g"5Pa?natl caf"wyd anerchiadau ar gerddoriaeth i i^y gantorion ac eraill, y rhai y byddai 11Y 6U ^ierLTV^ na rhoddi dim o'u hareithiau "w °'r r „0edd y cwbl yn falch o'r Undeb, yn tonCytarfod' ac yn °'r Uyfr o ba un yr fo<jyn c&el eu canu. Gweddus yw cyd- Uua-ws o gantorion o'r gwahanol gapel- ^yfarf1 cryn ffyddlondeb i fod yn bresenol h y fel yr oedd y capel yn y nos yn llawn ^lo^l^kriaid a phobl gartref. Terfynwyd CLn y ^allai cantorion Llanuwchllyn a'r &c., fyned adref gyda y gerbydres. tod r Jones, un o awdwr y llyfr, wedi bresen°l 3'n y cyfarfod, a'r Gohebydd ybod yn bresenol os byddai efe yn rhywle YOgaethau. Derbyniodd yr ysgrifenydd y ddai,> yn hysbysu fod yn wir Cfo| jnddynt iias gallasent fod yn bresenol yn y J-'}*1 °edd y cyntaf yn wael ei iechyd, a'r Nd?ie>' i dr)\a cbacd ei draed yn rhydd o swj-ddfa J'11 "Wir jfd ^'r cyfarfod mewn dim pryd. Yr %iAl y tiaili 8"an y pwyllgor a'r cyfarfod na f j r lla11 yn gallu bod yn bresenol, ond !V, 0 tonn aiKgylchiadau yn cyfarfod yn ami a 3] Ty1' yn lluddias i ni fyned i bob man y AM eu r° wyd 1 arweinyddion y canu ac ^1 'drcch yn dysgu y tonau erbyn y Hpi £ y cafwyd canu gwell nag oeddid yn I i^vLac Sin en^yd rr ]1ywydd am gymcryd y ^dierl j ar°drwydd bob amser i hyrwyddo l?ai0Wls yn ei flaen. Diolchwyd i Mr ^ydpr, ^'ain y canu mor dda, ac mornatur- a bydd ef a Mri. J. D. Jones a'r fNkl11- c la°h> ac y deuant i gyfarfod Llan- A a y^vd 2, Pwy1]8'or cysylltiedig a'r cyfarfod, tanpr neJn P^'n.g°r yn nghapel newydd y k> Inn pnnip nos Fawrth y 19eg ^1] aifod. a/Wl) 1 ^dewis tonau a phethau eraill yr a-rv?eEa yr bwn a gynnelir yn Llan- Ber i w benderfynu eto.—
HANLEY.
HANLEY. Nos Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod yn yr ysgoldy Cymreig, dan lywyddiaeth Mr R. Jones, i ddarllen y cyfansoddiadau buddugol yn ein gwyl lenyddol y Nadolig. Y buddugwyr yn yr Olympa lenyddol eleni ar y prif destynau oeddynt R. Gough, John Anwyl, a Hugh Jones. Yr oedd y cyfansoddiadau yn dangos ol llafur nid bychan, yn glod i'r awdwyr, ac yn deilwng o lafur ac ymdrechion y pwyllgor. Rhoddwyd cymmerad- wyaeth wresog iddynt, a hyderwn y cyhoeddir hwy yn fuan.
DAMWAIN YN CHWAREL LLANBERIS.
DAMWAIN YN CHWAREL LLANBERIS. Cymmerodd damwain ofidus le yn y chwarel uchod ddvdd Llun, y 4ydd cvfisol, yr hon a brofodd yn angeuol i John, mab John Owen, gynt o Ty'ny- mynydd, Waenfawr. Fel yr oedd ef a'i frawd, a dyn arall, yn sefyll gyda'u gilydd ar step o'r clog- wyn, yn mhen Diffwys Fawr, syrthiodd darnau o'r graig ar John Owen, gan ei ddryllio yn arswydus. Drylliodd ei goes, a thorodd fysedd ei law. Aed ag ef i glafdy y gwaith, ac anfonwyd am Dr. W. Ro- berts i Gaernarfon i gynnorthwyo Mr Rees. Barn- odd y meddygon nas gallai fyw ond ychydig, felly ni chyffyrddasant ynddo. Bu ijarw o'r niweidiau un-ar-ddeg o'r gloch nos Lun. Gadawodd wraig ieuangc, ac un bychan tua thair wythnos oed, a chylch eang o berthynasau, i alaru ar ei ol. Am hyny byddwch chwithau barod,' &c. Dyna lais amgylchiadau difrifol fel hyn wrth y chwarelwr anturiaethus, yn ngwyneb eu sefyllfa beryglus.— Gohebydd.
TREVOR, CLYNNOG.
TREVOR, CLYNNOG. MARWOLAETH.-Y dydd cyntaf o'r flwyddyn hon, bu farw Mrs Lee, anwyl briod T. Lee, Ysw., Elern- ion. Bydd yn golled fawr i ni fel cymmydogaeth ar ei hoi. Heblaw ei bod yn wraig heddychlawu ac elusengar, yr oedd hi yn hynod o grefyddol. Y CHWAREL SETS.—Mae hon er's misoedd yn dra llewyrchus a llwyddiannus. Hi yw ffynnon bywyd masnach ein cymmydogaeth. Er nad yw y gweith- wyr yn llawn mor ymchwilgar am wybodaeth ag y buasai yn ddymunol iddynt fod, etto maent yn gan- moladwy am sobrwydd a diwydrwydd, ac oil yn Rhyddfrydwyr o'r iawn ryw. Da genyf allu dy- weyd fod yspryd darllen wedi cynnyddu Ilawer yn eu mysg yn ddiweddar. Dosberthir mwy na chym- maint ddengwaith o'r TYST yn eu mysg ddechreu y flwyddyn hon ag a wneid ddechreu y flwyddyn ddi- weddaf. GYNDDBLW A'R TAELWEIAID.—Dymunwn i'r hen frawd donioledig hwn fod yn dra gochelgar beth a ddywed am deilwriaid. Gwell iddo dreio cadw'r ddysgl yn wastad, onite gwae fo wirionedd i. Sobr o beth fyddai i nifer o honynt ei ddal ar un o heol- ydd Caerynarfon, a phlanu eu colynau dur yn ei gorpws pwyntus. Tyned ef y teilwriaid yn ei ben, nis gall ddisgwyl un ffafr oddiar law y drapers, dim gwen ar wynebau y gwniadwragedd, nac un gym- mwynas ddirwgnach oddi wrth y cryddion chwaith, oblegid 'dau gyfaill crydd a theiliwr.' Gan hyny, cofied Cynddelw mai gwaith pwysig a manwl yw ysgrifenu am deilwriaid, a hyny gan leban na wyr am labwst.— G. Mgion.
HENLLAN AMGOED.
HENLLAN AMGOED. Cynhaliwyd arholiad blynyddol yr Ysgol Frytan- aidd yn y lie uchod, dydd Llun, Ionawr 4ydd, pryd yr arholwyd yn agos i 100 o blant mewn darllen, ysgrifenu, rhifyddiaeth, hanesiaeth, daeareg, daear- yddiaeth, sillebiaeth, mesuriaeth, a grammadeg. Y mae yn dda genym allu dweyd fod y plant wedi myned trwy eu gwaith tuhwnt i ddisgwyliadau y gwyddfodolion a'r arholwyr, yr hyn sydd yn siarad yn uchel iawn am yr athraw, Mr D. James. Y prif arholydd eleni oedd D. Williams, Ysw., Llanelli. Ar ol i'r arholiad fyned drosodd gosodwyd pethau yn gyfleus er mwyn lloni y plant a the a bara brith. Yn y prydnawn, wedi gosod pethau yn gyfleus, ym- gasglwyd i'r ysgoldy er cael cyfarfod o natur arall. Wedi ethol y Parch. J. Lewis, gweinidog, yn llyw- ydd, arholwyd dau o'r plant mewn canu, ac y mae- yn dda genym eu bod wedi pasio yn llwyddianus ac wedi enill yr Elementary Certificate yn y Tonic Sol-Fa, er mai rhai ieuaino ydynt, sef David Thom- as, Clyn, 12 oed, a David Davies, Pantyblodau, 16 oed. Dangosant eu bod yn eithaf cyfarwydd a'r gwaith. Yna cafwyd Ton, Here in Cool Grote, gan y Cor, o dan arweiniad Mr E. D. Thomas, Ap Mair. Araeth gan y Parch. R. Jones, Llangan: dyma beth newydd a da iawn genym ei weled, sef cael offeiriad dyfod i'r arholiad, ac yn siarad yn ein cyfarfod yn nghylch addysg. Ton, Gipsy Chorus, gan y Cor. Araeth gan Mr R. Howells, Gellidogyn, yn rhagorol dda, amser a balla yn bresenol i nodi dim o honi. Ton, Mai, gan y Cor. Araeth gan Golyddan ar Ddiwydrwydd. Ton, Tra-la-la, gan Gor yr Aelwyd. Yna siaradodd Mr Williams, ar Addysg. Ton, O'er my mother's grave, gan Gor yr Aelwyd. Siaradodd y Parch. J. Lewis. Ton, Hail smiling morn, gan Gor yr Aelwyd. Yna talwyd diolchgarwch y cyf- arfod i Mr Williams, Parch. R. Jones, a Mr Thomas am eu caredigrwydd yn dyfod i'r arholiad, ac am eu gwasanaeth. Ymadawodd pawb wedi cael diwrnod o wledda yn llawen ar wahanol bethau.—
WREXHAM.
WREXHAM. Ionawr laf, 1869, cafodd Annibynwyr Queenstreet eu gwyl flynyddol. Am 4 o'r gloch, cynhaliwyd cyfarfod te, mewn ystafell yn agos i'r capel, pryd yr eisteddodd nifer liosog i de, a gweinyddwyd wrth y byrddau gan amryw foneddigesau perthynol i'r capel. Am 7 o'r gloch, cynhaliwyd cyfarfodllenyddol yn y capel. Dyma "y cyfarfod goreu er ei sefydliad. Er nad oedd y gynnulleidfa yn gymmaint ag y bu- asem ynhoffi, cawsom gyfarfod llewyrchus a llwydd- iannus dros ben. Y llywydd ydoedd y Parch. J. Morlais Jones, gweinidog y lie, yr hwn yn ei anerchiad a wnaeth sylwadau rhagorol mewn ffordd o gynghorion i'r bobl ieuanc a llenorion y capel; ac y mae yn resyn na argreffir hi i fod ar gof a chadw. Yr oedd ei ffraethinebtrwy y cyfarfod ynsiarad yn uchel am dano fel cadeirydd. Y beirniaid oeddynt y Parchn. S. Evans, Llan- degla, a D. Evans, Rhosymedre. Yr oedd eu beirn- iadaeth ar y traethodau a'r cyfieithiadau yn ddy- ddorol a barddonol. Fel y canlyn yr awd trwy y cyfarfod :— 1, Ton gynnulleidfaol. 2, Anerchiad gan y llyw- ydd. 3, Cystadlu mewn darllen gan y plant-4 ym- geisydd; goreu, Hanah Bellis ail, J. Phillips. 4, Ton, Boddlondeb, gan y cor. 5, Darllen y feirniad- aeth ar y cyfieithiadau o The Value of Time;' goreu, W. Hughes; ail, B. Phillips. 6, Canu Llwyn Onn' gan bedwar o'r cor. 7, Darllen gan y merched, Job xli. 1-11; goreu, H. Pkillips; ail, M. Evans. 8, Ton, Ymdaith y Mwnc,' gan y cor. 9, Cystadlu mewn adrodd gan y meibion. Pedwar ymgeisydd; goreu, James Price; ail, B. Phillips. 10, Canu Christmas Bells' gan wyth o'r cor. 11, Darllen y feirniadaeth ar y traethodau, Gwerth Cymmeriad Da;' goreu, W. Hughes ail, J. Price. 12, Canu 'Fair Flora Decks' gan dri allan o'r cor. 13, Darllen difyfyr; goreu, B. Phillips; ail, Jane Edwards. 14, Ton, Dychweliad y Morwr,' gan y cor. 15, Berniadaeth ar yr englynion i'r Ganwyll; goreu, B. Phillips; ail, W. Hughes. 16, Ton gan S. Jones. 17, Beirniadaeth Mr Evans, Llandegla, ar y prif draethawd, sef Dyledswydd pob dyn i farnu drosto ei hun.' Pedwar ymgeisydd; goreu, Jane Edwards; ail, Benj. Phillips. 18, Adroddiad, Yr Iaith Gymraeg,' gan Jane Edwards. Wedi talu y diolchgarwch arferol i weinyddwyr y te, y cadeirydd, y beirniaid, &c., terfynwyd trwy ganu.ion gynn-tffleidfaol.- Maelor.
EISTEDDFOD GLYNARTHEN, GER…
EISTEDDFOD GLYNARTHEN, GER CASTELL NEWYDD EMLYN. Cynhaliwyd eisteddfod lewyrchus iawn yn y lie uchod ddydd Calan diweddaf. Y llywyddioB. oedd ynt, Dr Thomas, Castellnewydd-Emlyn, ac S. Davies, Ysw., Cilfallen. Y blaenaf oedd y llywydd am 2 o'r gloch prydnawn, a'r olaf am 6 o'r gloch. Y beirn- iaid oeddynt y Parch. T. S. Jones, Trewen, ger Castellnewydd-Emlyn, a Mr David Lewis, Llan- rhystid. Beirniadwyd y traethodau a'r farddon- iaeth gan y boneddwr blaenaf, a'r gerddoriaeth gan y olaf. Yr ydym yn credu fod yr ymgeiswyr ar y traethodau a'r farddoniaeth wedi cael eu llwyr fodd- loni yn y feirniadaeth. Dyma'r waith gyntaf y bu Mr Jones yn beirniadu mewn eisteddfod, ond y mae yn feistr ar y gwaith. Gellid darllen ar ei wyneb siriol a'i lygaid treiddgar mai ei arwyddair ydoedd, Cyfiawnder. Pobl Trewen a'r cylchoedd, ymfalchi- wch fod gench y fath fugail ac esgob. Y mae yn anrhydedd i'ch eglwys ac yn glod i'r enwad y per- thyna iddo.- Verus Amicus.
ABERCARN, SWYDD FYNWY.
ABERCARN, SWYDD FYNWY. Yn y cwm bychan, prydferth uchod, cynhaliwyd. cyfarfod llenyddol nos Galan o nodwedd hollol Gymreig, o dan nawdd Arglwyddes Llanover, y Parch. D. Saunders yn y gadair. Hwn oedd y cyntaf o'r cyfryw gyfarfodydd a gynhaliwyd yn y lie, ond trodd allan yn llwyddiant tu hwnt i ddis- gwyliad y pwyllgor. Yr oedd yr ystafell lawer yn rhy fechan, a choethder y gerddoriaeth yn gwneud i fynu am nodwedd fabanaidd ond addawol y cyfan- soddiadau ar y testynau eraill. Gwnaeth y cadeir- ydd parchedig sylwadau teilwng o hono ei hun. Datganodd ei anghymeradwyaeth o'r sefydliad a gamenwir yn Eisteddfod Genedlaethol Gymreig, y sydd mewn gwirionedd yn gwario arian y Dywys- ogaeth i gefnogi pob peth ond Cymry a Chymraeg yn dwyn dieithriaid a cherddoriaeth ddieithr, yrhon mid ydym hyd yn nod yn ei deall, i fewn. Beth feddyliai y Saeson, tybed, pe cynygid iddynt hwy y fath sarhad ? Os Eisteddfod Genedlaethol Gymreig, gwnaed ei goreu i ddeffro ac i feithrin athrylith sydd yn gorwedd rhwng bryniau Cymru, a doed a hi o flaen y byd yn ei harddull benodol ei hunan. Chwareuodd Mr Gruflydd, telynor Arglwyddes Llanover, amryw o'r hen alawon Cymreig yn ei ddull meistrolgar ei hunan. Teimlai pob calon yn ddiolchgar i'r foneddiges urddasol am ei charedigrwydd i'r cyfarfod, am an- fon ei thelyn a'i thelynor yno, acam roddi y rhan fwyaf o'r gwobrwyon, yn nghyd ag addaw gwob- rwyon ar gyfer y cyfarfod a fwriedir ei gynal yn yr haf nesaf.— Oioen.
BRO MORGANWG.
BRO MORGANWG. BODDIAD DAMWEINIOL. Yr wythnos ddiweddaf, yr oedd mam a'i merah fechan, 12 oed, o'r enw Ann Cross, y ddwy o Beny- bont-ar-ogwy, yn croesi pont yn [rnhlwyf Llansant- ffraid a elwir Pontycwrdy. Cerddai y ferch ychydig ar ol ei mam, a rhyw sut llithrodd a syrthiodd i'r afon. Yr oedd, yr afon yn fawr iawn o herwydd y gwlawogydd trymion. Clywodd yJam hi yn myned i'r afon, ac ymdrechodd hi a rhyw ddyn oedd gerllaw ei hachub ond methasant, a .buont bron colli eu bywydau eu hunain yn eu hymdrech. Ni chafwyd y corph hyd y dydd canlynol. Yr oedd wedi myned gyda'r afon am oddeutu milltir a haner nes cyrhaedd pwll dwfn gerllaw y gwallgofdy, He yr arosodd yn y gwaelod. MABQTJIS OF BUTE YN BABYDD. Cofia y darllenydd iddo ddyfod i'w oed mis Medi diweddaf. Yn fuan, aeth y si allan ei fod wedi troi at Babyddiaeth, ond gwadodd ef y pryd hyny. Yn awr, y mae tceii troi, a chymuno gyda y Pabyddion yn yr Eidal. Mae rhai Eglwyswyr mewn gofid blin oherwydd ei droedigaeth. Dywedir fod ambell offeiriad yn Nghaerdydd yn mron wylo allan yn yr areithfa y Sul diweddaf o achos hyn. Nid rhyfedd, canys y maent yn dibynu am gymhorth y mawrion am barhad yr Eglwys Wladol; ac y mae enciliad y mawrion at Babyddiaeth yn ergyd dwfn ami. Y gwir yw, nad oes fawr yn cadw lluoedd o'n cyfoeth- ogion eglwysig rhag myned yn Babyddion. Pan ddadgysylltir yr Eglwys a'r Llywodraétb. y mae cannoedd o deuluoedd cyfoethog y deyrnas yn sicr o uno a Phabyddiaeth. Dengys hyn beth yw addysg ac yspryd yr Eglwys Sefydledig Esgobyddol yn y deyrnas hon. Bydd yn rhaid i ganlynwyr y Testa- ment Newydd wedi hyny gael ail ddiwygiadProtes- tanaidd yn y wlad hon. Dengys hyn mai goreu po gyntaf y rhyddheir yr Eglwys yn Mhrydain, canys fel y mae yn awr nid yw ond nythle i Eglwys Rhufain. Ychydig o weinidogion nac aelodau Ym- neillduol aeth erioed yma at Babyddiaeth; ond y mae ugeiniau lawer o offeiriaid wedi troi yn Bab- yddion yn y deng mlynedd diweddaf, a myned o hyd y maent, a pheth gwaeth na hyny ceisiant lechu yn yr Eglwys Wladol ao arfer ynddi gredoau a defodau Pabyddol. DAU HEDDGEIDWAD MEWN DYRYSWCH. Yn ddiweddar, yr oedd ffermwr yn cerddedgodrau cae llethrog, gerllaw Mynydd Cynffig, yn mrig y nos, a gwelai ddau heddgeidwad yn ymyl y berth ar war y cae, yn sefyll fel pe yn gwylio rhywbeth. Aeth atynt, ac amneidient arno fod yn ddistaw. Yr ochr arall i'r berth yr oedd dyn ieuanc yn cerdded yn ol ac yn mlaen, ac yn taflu ei freichiau, a gwneud ei ddyrnau, acyn llefaru yn uchel, ac yn rhoddi ambell floedd gynhyrfus. 'He has been there a long while,' ebai'r heddgeidwaid, 'we can't make out what is to do with him. He must be mad. Perhaps he is an escaped lunatic from the Ogmore Asylum. Let us go and take him.' No, let him alone,' ebai'r ffermwr, come away quietly. He will do no harm, but he is trying to learn to do good.' Dyn ieuanc ydoedd yn ceisio dysgu ei bregeth, ac yn arfer tipyn ar ei ddawn wrtho ei hun, cyn sefyll o flaen y gynnulleidfa. Tynwn ddau gasgliad yn y fan hyn, fel yr arfera y pregethwyr Gwclwn yn laf.—Y dylid cael heddgeidwaid yn deall Cymraeg i ofalu am y Cymry. Ni ddylem oddef i Saeson lanw y swyddi hyn. Ni oddefid i Gymro heb fedru Saesneg fod yn heddgeidwad yn nghanol Lloegr. Yr un esgus dros yr arferiad yn Nghymru ag a allaf fi roddi drosto yw, mai Saeson ydyw y dynion sydd amlaf yn ngafael yr heddgeid- waid. Hir y parhao felly. Gwelwn yn 2il.—Y dylai pregethwyr ieuinc ofalu pwy fydd yn eu clywed pan yn arfer eu doniau. Y mae clustiau gan gloddiau, a llygaid gan geryg. Peth sobr fyddai i globyn o heddgeidwad Seisnig ymaflyd yn ei war ar ganol ei bregeth. Byddai hyny yn ddigon i yru rhyngddo a'r bregeth am byth. Byddai perygl iddo wrth ei thraddodi gofio y man yr oedd arni pan gydiodd yr heddgeidwad ynddo, a rhedeg allan o'r pwlpud nerth ei draed. Fy nghyngor i wrth y pregethwyr yw, gwyliweh. HEN GABNO-ES YN Y FAGL. Yn y flwyddyn 1865, yr oedd gwraig o Maesteg, o'r enw Mary Davies, yu nyled cigydd o Benybont o 20p. Gwrthododd ei dalu. Gan y gwyddid fod ganddi arian, taflwyd hi i garchar am fis. Pan ddaeth allan, dygodd y cigydd gwyn drachefn yn ei herbyn; gwrthododd dalu eilwaith, a chymmerwyd hi i'r carchar am fis. Felly y bu hyd yr wythnos hon. Gan na thalai, a chan na chredai y Barnwr nad oedd ganddi arian, treuliodd un mis o bob tri yn y carchar. Y tro diweddaf, wrth fyned i mewn i'r garchar, chwiliwyd ei dillad a chafwyd 430p. wedi eu gwnio yn ei dillad isaf. Yr oedd yr 20p. wedi myned dros 65p. erbyn hyn. Cadwyd hyny i dalu gofyn y cigydd, a'i thraul hithau yn y carchar, a dychwelwyd y gweddill iddi hithau, a gollyngwyd hi adref. Felly treuliodd flwyddyn i gyd i geisio osgoi talu ei dyled, ond daliwyd hi o'r diwedd.— Gohebydd y Fro.
DINAS MAWDDWY.
DINAS MAWDDWY. Yr ydym yn deall fod Mr Thomas Walter Evans, diweddar o Yspytty Guy, Llundain, a mab y Parch. D. Silvan Evans, B.D., Periglor Llanymawddwy, Meirion, wedi ei benodi yn Llawfeddyg i'r South Dispensary yn y dref hon.
CARMEL, RACHUB.
CARMEL, RACHUB. Nos Fercher, Rhagfyr 30ain, cynhaliodd yr An- nibynwyr yn y lie nchod eu cyfarfod llenyddol, dan arweiniad y Parch. E. Stephens, gweixddog y lie. Y beirniad oeddynt E. Stephens, Griffith Rowlands, William J. Parry, a William Hughes, Penybryn. Caed cyfarfod da ac adeiladol iawn.—
TREFFYNON.
TREFFYNON. EISTEDDFOD GYSTADLEUOL. Cynhaliwyd yr eisteddfod uchod yn ngha,pel yr Annibynwyr, Heol y Capel, y 5ed cyfisol, mewn cys- sylltiad a'r Ysgol Sabbathol. Yr oedd y gystad- leuaeth yn agored i'r lleoedd canlynol:—Bagillt, Maesglas, Pen-y-pylle, Sion, a Heol y Capel. Lly- wyddwyd y cyfarfod gan Mr W. Williams, yn cael ei gynorthwyo gan yr enwogion canlynol:—Y Parch. R. T. Evans, Maesglas; Mawddwy Jones, Bagillt; Pedr Mostyn Williams (Ysgrifenydd yr Eisteddfod Genedlaethol); Mynyddwr, Mr Brittain, ac eraill. Wedi ychydig sylwadau rhagarweiniol gan y llywydd, aed yn mlaen yn y drefn ganlynol:—An- erchiad gwir dda gan Pedr Mostyn ar Fanteision ac anfanteision cystadleuaeth." Cystadleuaeth mewn darllen rhan 0" Ddameg yr hauwr." Oddeutu 15 yn cystadlu. Goreu, J. E. Williams, Sion. Adrodd, Pwy welaf o Edom yn dod." Goreu, Edward Thomas, Sion, a Joseph Roberts, Bagillt. Beirniad- aeth Trogwy a Mawddwy ar y traethodau, I I Ie-u- engctyd y Bibl." Goreu, W. Williams ac E. Wil- liams. Ail anerchiad gan Pedr Mostyn. Dygodd i sylw y waith hon bwnc yr Eisteddfod, a rhoddodd ger ein bron ddarlun clir o'r cynllun eisteddfodol— cynllun, os dygir ef i weithrediad, a gwyd yr hen Eisteddfod yn sefydliad o fudd cyffredinol-cyd- weddol ag ysbryd ac anghenion yr oes. Diwedd- odd ei anerchiad gan apelio yn hyawdl at y dorf am ei chynorthwy a'i chydweithrediad i ddwyn yr amcan i ben, ac eisteddodd yn nghanol taranau o gymeradwyaeth. Cystadleuaeth mewn canu Nefol I Wlad;" corau o dri llais. Goreu, cor Heol y Capel, sef W. A. Evans, Thomas Jones, a J. Hughes; ail, cor Bagillt. Am yr araeth fyrfyfyr oreu ar y Wenol." Goreu, Edward Thomas, Sion. Beirn- iadaeth Trogwy a Mawddwy ar y traethodau, Man- teision i ferehed fod yn aelodau o'r ysgol Sul," cyf- yngedig i fetched. Goreu, Euodias," sef Miss Hannah Hughes; ail oreu, Gwenfryn, sef Miss Williams, merch y llywydd. Canmolid y traethodau hyn fel cynyrchion o radd uchel iawn, coeth a diwylliedig, ac yn amlygu. gallu meddyliol nid bychan. Yn olaf, y feirniadaeth ar y prif destyn, Yr Apostol Paul." Daeth 9 o gyfansoddiadau i law ar y testyn hwn, amryw o'r traethodau o radd uchel. Goren," Ymgeisydd," sef J. E. Jones, gro- cer, ysgrifenydd y cyfarfod. Gwnaeth pawb ei ran yn ganmoladwy, y beirn- iaid yn cyflawni eu gwaith yn onest, manwl, a di- dderbynwyneb, ond yn unig fod Mawddwy yn taftu: ambell sen at y pwyllgor. Ac o'n rhan ni, efallai mai doethineb yn y brawd fuasai peidio, ac y buasai yn fwy dymunol iddo gadw yn fwy llwyr o fewn terfyngylch ei swyddogaeth, gyda hyn o eithriad, aeth y cyfarfod heibio gan adael argraff foddhaol yn ddiamheu a.r feddwl pawb o'r dorf fawr (800) oedd yn bresenol. Goddefer i mi grybwyll, wrth derfynu, fod gwawr wedi torri ar Heol y Capel yn ddiweddar—llwydd- iant wedi ei argraffu ar ei holl gysylltiadau—yr eglwys, y gynnlleidfa, a'r ysgol Sabbathol agos wedi dyblu mewn rhifedi. Parhaed brawdgarwch yn y lie hwn, a bydded i ysbryd cariacl a chydweith- rediad deyrnasu yn ei holl symudiadau, a bydd llwyddiant mawr yn sicr o ddilyn.—
CYMRY GOGLEDD LLOEGR.
CYMRY GOGLEDD LLOEGR. Cynhaliwyd eisteddfod flynyddol y Cymry uchod eleni yn Neuadd y dref, Middlesbro-on-Tees, ddydd Nadolig diweddaf, mewn tri chyfarfod yn dechreu am ddeg, dau, a ohwech O'T gloch. Yn ychwanegol at Gymry Middlesbro daeth lluoedd i lawr o Stockton, Witton Park, Berry Edge, a Walker; ac yr oedd y lie yn orlawn trwy y dydd. Yr oedd y beirniad, Mr Peter Mostyn Williams, yno i draethu ei feirniad- aethau ar y traethodau a'r farddoniaeth; a Mr John Jones, o Aberaeron, i farnu rhwng y cantorion. Bernid yr adroddiadau, a'r darlleniadau, a'r areith- iau difyfyr a byrfyfyr, gan y Parch. W. Rheidiol Pierce, a Mr O. M. Davies (Eos Afan). 'Llywycldwyd y cyfarfod cyntaf gan Mr John Clarke, a phenodwyd Mr R. J. Roberts (R. Pryser) yn arweinydd. Cafwyd annerchiadau synwyrol gan y cadeirydd a'r arweinydd, ac annerchiadau brwd- frydig gan y beirdd. Rhoddwyd y wobr am y ddau englyn goreu ar Edward Williams, Ysw., i Mr Thomas Williams (Asaph Glyn Ebbwy). Dyma hwy:— Ein Williams gwnawn anwylo,-gwr hynaws A gwir enwog Gymro: Gwr elus, ac wyr Iolo Morganwg syw, ydyw o. Yr wych haelddyn o uchelddysg-addfed Yn neddfau haiarnddysg, Mae addef 'does mwy hyddysg Na hwn am waith yn ein mysg. Rhanwyd y wobr am y pennilion goreu i'r Awel,' rhwng y Parch. W. Rheidiol Pierce a Mr John Hop- kins (loan Glan Tees). Ennillodd Mr J. H. Davies (Ceiliog), am y solo goreu 'Hen Feibl mawr fy mam;' a Miss Howells, am ganu 'Arglwyddes Owen.' Am ddau, y Parch. D. G. Owen oedd y cadeirydd, a'r Parch. J. Davies, Witton Park, yn arweinydd. Dechreuwyd trwy anerchiadau rhyddieithol a bardd- onol fel o'r blaen. Dyfarnwyd y wobr am y traeth- awd goreu ar Nodweddion y prophwyd Daniel,' i Mr Mr John Evans, Stockton. Pennillion i Mr Davies, Mr John Hopkins, Stockten. Y ddau englyn i I Albert Park,' Mr Rhys Etna Jones. Am y deuawd goreu, i Mr J. H. Davies a Miss Howells. Am y canu corawl goreu I Y Gloria,' cor Middlesbro dan arweiniad J. H. Davies, a Mai' cor Am chwech, llywyddwyd gan Mr Davies, o Glyn- nedd, ac arweiniwyd gan Mr Thomas Thomas. Wedi cael yr annerchiadau arferol, rhoddwyd allan chwech o Ofyniadau o'r Brteth ar y mynydd, y rhai a atteb- wyd gan y gwahanol gystadleuwyr trwy ysgrifenu yn dra boddhaol. Rhoddwyd y wobr i Mr John Hopkins am y llinellau goreu ar y Gwrthdarawiad ger Abergele.' Rhanwyd y wobr am y bryddest oreu ar Hiraeth,' rhwng Mr R. P., Roberts (R. Prysor) a Mr Rhys Etna Jones. Ni ddaeth neb i hawlio y wobr am y traethawd ar Elfenau llwydd- iant.' Cafwyd difyrwch mawr gyd ag areithiau di- fyfyr ar y Ddanodd,' ac areithiau byrfyfyr ar y pwnc A ydyw gweinyddiaeth Gladstone yn deilwng o ymddiriedaeth y wlad ?' Yr oedd y canu corawl yn ardderchog. Hynododd Miss Howells ei hun fel cantores, a hyderwn y gellir yn fuan ei dwyn allan dan nawdd yr Eisteddfod Genedlaethol i dywynu fel seren' o'r maintioli mwyaf. Ennillodd ereill gan- moliaeth uchel am gauu solos a duetts, &c. Yr oedd yr adroddiadau a'r darlleniadau yn dda iawn ar y cyfan. Yn nghyfarfod y prydnawn cynhygiodd Pedr Mostyn mewn araeth lied faith fod cymdeithasau i gael eu ffurfio mewn gwahanol ranau o Ogledd Lloegr dan nawdd yr Eisteddfod. Derbyniwyd y cynhygiad gyda chymmeradwyaeth unfrydol. De- wiswyd dynion cymhwys o Middlesbro, Stockton, Witton Park, Berry Edge a Walker, yn aelodau o'r pwyllgor cyffredinol. Dechreuant gasglu ar un- waith tuag at dynu i lawr y ddyled, ac y mae amryw symiau wedi eu haddaw yn barod. Yn yr hwyr, traddododd Pedr Mostyn araeth ar yr un pwnc yn yr iaith Saesoneg, yn nghanol y gymmeradwyaeth mwyaf brwdfeydig.
CAPEL ERW, CELLAN, CEREDIGION.
CAPEL ERW, CELLAN, CEREDIGION. Cynhaliwyd cyfarfod llenyddol yn y capel uchod nos Nadolig diweddaf, pryd y cymmerwyd y gadair gany Parch T. Thomas, gweinidog y lie. Yr oedd gweithrediadau y cyfarfod fel y canlyn 1, Anerchiad gan y Cadeirydd. 2, Chorus, Cod- iad yr Haul. 3, Araeth ar Feddwdod. 4, Quartette, Dyffryn Clwyd. 5, Dadl rhwng gwraig y dafarn a gwraig y meddwyn. 6, Solo, Cwymp Llywelyn. 7, Araeth ar Heddwch Teuluaidd. 8, Solo & Chorus, Y Dderwen. 9, Adrodd, Un goeg oedd y gneuen. 10, Chorus, Dychweliad y Morwr. 11, Dadl y Mab Afradlon. 15. Solo, Ymweliad y Bardd. 13, Araeth ar Wraig Gweithiwr. 14, Quartette, 0 dowch i'r Mynyddoedd. 15, Cystadlu ton ddifyfyr yn y Tonic Sol-Fa. 16, Duett, 0 na chawn farw yn yr haf. 17, Dadl, Y Ddylluan a'r Golomen. 18, Solo & Chorus, Dewch adref fy nhad. 19, Adrodd, Twr Babel. 20, Chorus, Mai. 21, Dadl ar Arferion Llygredig yr Oes. 22, Solo, Bugail Aberdyfi. 23, Quartette, Canig y Goedwig. 24, Halleluia Chorus. Yr oedd yn un o'r cyfarfodydd llenyddol goreu y bum ynddo erioed; ac er fod yr hin yn hynod ystormllyd, yr oedd y capel yn orlawn o wrandawyr, a phawb wrth eu bodd, ac yn hiraethu am gael cyf- arfod o'r fath etto yn fuan.—
MANCHESTER.
MANCHESTER. Y CYMRU A'R GWYLIAU. Dull cyffredin y gwahanol gynnulleidfaoedd Cymreig yn y ddinas yma o'u treulio yw cyfarfod a'u gilydd i yfed te. Ar ol te, rhoddwyd gwledd i'r meddwl, a'r cyfan am y nominal price of one shilling.' Cynhaliwyd chwech o gyfarfodydd o'r fath yma yn ystod y Nadolig a'r Calan diweddaf. Methais a bod yn bresennol ond mewn un o honynt-y Tem- perance Hall-am fy mod ar ymweliad a hen wlad fy nhadau y Nadolig. Clywais eu bod un ac oil yn success. Gyda golwg ar yr un y bum i ynddo, yr wyf yn credu ei fod yn deilwng o gael ei restru yn mhlith y cyfarfodydd ag y mae y gwahanol enwadau wedi eu cynnal yn ystod y pedair neu y pum mlynedd di- weddaf. Yr oedd y danteithion yn well up to the mark,' a'r boneddigesau ag oeddynt yn gweini yn ymddangos yn fwy swynol nag erioed. Yr oedd edrych arnynt yn peri i ni ryfeddu fod hen langc- yddiaeth yn bodoli o gwbl. Hefyd, yr oedd amrywiaeth braidd diderfyn ar y programme—dim llai na deugain o wahanol des- tynau-fel yr oedd yn ammhossibl braidd i'r mwy- yaf fastidious beidio cael rhywbeth i atteb i'w chwaeth. Gwneid ef i fyny o anthemau, glees, songs, solos (vocal and instrumental), adroddiadau, cystadleuaeth (llythyr caru interesting ac adeiladol), darlleniadau, a dialogues. Bill of fare reit dda, ynte. Diammheu fod y brodyr ag sydd a gofal gwneud y programme i fyny yn cael eu gosod mewn sefyllfa ddigon profedigaethus, ond dylent gofio fod y fath beth yn bod a gormod o bwdin. Yn awr, wedi cael oddeutu wythnos o amser i feddwl am y peth, yr wyf yn credu yn gryf fod eis- ieu codi y safon-gosod y marc yn uwch. Mae comedy o fath Who would be a bachelor'—pob parch i'r brodyr a gymmerasant ran ynddo-yn an- heilwng o gyfarfod mewn cyssylltiad a chrefydd I- ac mae dyweyd fod rhaid cael adroddiadau o'r un dosparth a I MocJxyb Modlan'-heddwch i'w llwch -er gwneud y cyfarfodydd yn boblogaidd yn insult ar ben a chalon ein cydgenedl.— BOCHDALE ROAD. Yr oedd yn gymmundeb yn yr Eglwys hon y Sab- bath diweddaf, ac eisteddodd deg ar hugain o aelod- au wrth fwrdd yr Arglwydd.
IWYDDGRUG.
WYDDGRUG. LLYS CHWAETEEOL Y SIR. Agorwyd y Ilys hwn ddydd Mercher diweddaf yn Neuadd y Sir, pan yr eisteddai llawer o'r ynadon heblaw y Cadeirydd—J. S. Bankes, Ysw. Ar y dydd hwn y mae yr ynadon yn arfer trafod holl fat- erion arianol y sir, a phethau eraill amgylchiadol. Yr oedd dau beth neillduol i ddyfod dan sylw y chwarter hwn, sef ystyried pwnc mabwysiad Act newydd y Ffordd Fawr, 25ain a'r 26ain Vic., pen. 61, yn y sir hon. Cadben Cooke ydyw y prif sym- mudydd am y mabwysiad, ac y mae yn dal yn dra selog, yn wyneb llawer o wrthwynebiadau, dros ei gynhygion. Y mae y sir yn gyffredinol yn erbyn yr Act, ac yr oedd dros hanner cant o gofebau wedi eu hanfon yn dymuno ar i'r llys beidio ei mabwysiadu; ac ymddangosai llawer o arolygwyr ffyrdd tre ddeg- ymau i wrthdystio yn erbyn cynhygiad Mr. Cooke. Rhoddwyd cynhygiad i lais y cyfarfod, fod y mater yn cael ei ohirio am chwe mis, ond rhoddwyd gwell- iant, eithr cariwyd y cynhygiad gwreiddiol gan fwyafrif o ddau. Mae yn dra thebyg y llwydda Mr Cooke i gario ei gynhygiad yn y diwedd. Nid oes ammheuaeth ar fy meddwl na wna y llywodraeth cyn hir orfodi pob sir i fabwysiadu yr Act, megis ag y gwnaed gydag Act y diweddar Syr Robert Peel yn trefnu apwyntiad Police. Mater arall ddaeth dan sylw oedd pwy i apwyntio yn Is-gadeirydd y sir, gan fodtebygolrwydd y bydd i Mr Bankes gael ei osod yn Uchel Sirydd am y flwyddyn nesaf, ac ni all Sirydd weithredu fel ynad heddwch. Dewiswyd William Keates, Ysw., i'r swydd, ac ar y cyfan y mae Mr Keatas mor gym- hwys ag un, gan ei fod yn hen foneddwr synwyrol, ac eithaf crafE, yn medru gwneud ei hunan yn ddealladwy mewn ychydig eiriau, yr hyn sydd gym- hwysder angenrheidol iawn i bob cadeirydd. Agorwyd y llys i wrandaw achosion troseddol o flaen Mr Bankes, boreu dydd Iau, am hanner awr wedi deg, ac wedi anerch yr uchel reithwyr ar fater- ion cyhoeddus y dydd o natur wleldyddol, ac adoly- gu y rhestr o droseddau i'w profl, gollyngodd hwy at eu gorchwyl i dderbyn y cyhuddgwyn (Indict- ments J. Derbyniodd Thomas Hughes a Cornelius Roberts, llafurwyr, dri mis o garchar bob un, am ladratta pedair iar a hwyaden, yn Rhuddlan, ar y Slain o Hydref diweddaf, oddiar Mr John Jones. Dedfrydwyd David Owen i saith mlynedd o lafur penydiawl, am dori ty yn Whitford, ar yr lleg o Dachwedd diweddaf, eiddo Robert Williams, a llad- ratta deunaw punt. Hwn oedd y pedwerydd tro iddo ei gael yn euog o ladratta. Derbyniodd Thomas Burke, Gwvddel, o Fflint, fis o garcxiar am ladratta clrwe swllt oddiar hen Wydd- eles o'r enw Hannah Gordon. Anfonwyd Dennis Rouen i garchar am fis, am ymosod ar y Ceisbwl John Adams, yn Fflint, ar y loeg o Ragfyr diweddaf. A dyfarnwyd Richard Davies i garchar am bed- war mis, am ladratta ieir, o eiddo Randle Tomlinson a Thomas Evans, o Bwcle, ar y 4ydd o'r mis hwn. Diweddodd hyn orchwylion y llys am y chwarter hwn. Yr oedd y Bar-gyfreithwyr a ganlyn yn bre- senol :-Meistri Swetenham, Ignatius Williams, Hilton, a Lloyd Roberts. CYFABFODYDD UNDEB. Yn ol awgrymiad 'Y Cyngrair Efengylaidd,' o flwyddyn i flwyddyn, penderfynodd yr enwadau vn y dref hon (Wyddgrug) i gynnal cyfarfodydd undeb yr wythnos hon, yr hyn a wnaed yn hysbys o'r pwl- pudau y nos Sabbath blaenorol. Cynhaliwyd y cyf- arfodydd yn y wedd ganlynol:—cyfarfod gweddi nos Fawrth yn addoldy y Wesleyaid, nos Fercher yn addoldy y Methodistiaid Calfinaidd, a cliyfeillach gyffredinol nos Iau yn addoldy yr Annibynwyr. Yr oedd y gwaelod yn llawn. Dewiswyd y Parch. Roger Edwards i'r gadair, ac wedi anerchiad gwres- og ganddo siaradodd amryw frodyr yn fuddiol iawn. Yr oedd yn un o'r cyfeillachau goreu a gafwyd er's llawer dydd. Hyderaf y gwna les i ddwyn y gwir saint yn y dref yn nes at eu gilydd.- ab II.