Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
23 erthygl ar y dudalen hon
BEDYDDWYR LERPWL.
BEDYDDWYR LERPWL. G,I.Gan nad yw hen lenor y Corfandy < llawer am ddechreuad y Bedyddwyr fo^ yn Llynlleifiad, gadewch i mi frasad- rhyw ychydig o'u hanes. Dechreuodd 0 j411 Cefnmawr pryd hwnw, Wedi liyny 1&05 n' brege^u y11 Aywle yn Lerpwl yn a'^u'r ychydig Fedyddwyr Cymreig oedd 0 yn gengen o eglwys y Cefnmawr hyd 1808. cyntaf a fu 3™°' hyd ag y gwn i, enwog J. P. Davies, wedi hyny o Dre- 1 oe<^ e^e yno y11 1811. Dyn cryf, ol o gorph a gwrol o feddwl, oedd Evan ond bu mewn perygl umvaith ° gael Bid ^^h gan y press gang. Yr oedd ^ar(l Evans, hen ddiacon y Cefnmawr, wrth 5 yn dygwydd bod gydag ef. IJn o'r dynion a chryfaf yn yr holl wlad oedd Edward Ond un hynod o lonydd a thangnef- eddus. Eto pan welod ef y press gang yn llusgo ^gwebudog ymaith, cynhyrfodd ei holl enaid, eliphant cynddeiriog, a gorfu ar y gang ddianc fel meibion Scefa yn archoll- g. ^J^aeth y Parch. Daniel Jones yn weinidog i tua 1818, a bu yno tua 25 mlynedd. J^hreuwyd achos Stanhope Street tua 1830-2. °*&as Rhys Davies oedd y gweinidog cyntaf, anaser y adeiladwyd y capel. "Wedi y bu James Davies o Bantycelyn yma, ac ar ^Ua 1836 neu ddechreu 1837, fydlodd Nefydd yno. Yr oedd Williams o'r yn y Tabernacle yn mlynyddau cyntaf ^dogaeth Nefydd yno, a chlywais ef droion 4j> 0<^(i amryw o bethau am dano, nad ydynt /<' yrafFedig, am a wn i,-pethau a ddangosant a hwnw mewn goleuni pur ddysglaer vU 0% s # syssylltiad hyd y nod a gweiiiidogion ainc enwadau eraill. 11 id yw hyn ond rhyw friwsion oedd ar fy J dichon nad wyf gywir yn y dyddiadau; 11is gwn am helynt yr enwad o ymadawiad Navies hyd sefydliad Daniel Jones. Ond yj ,attXa,i(3. byr yn well ond odid mewn new- i llag ysgrif feithach. Sut bynag am )'ny, Baae y gwair rhaffau' wedi darfod. CYNDDELW.
TERFYSG YN ITALI. —————
TERFYSG YN ITALI. ————— ty; 1Ilae codiad treth maliad wedi achosi cryn der- eyt, trwy barthau o Itali, ac y mae gostegiad y yj wedi ei ymddiried i'r Cadfridog Cadorna, 1 Wn sydd wedi anfon allan genadwri i dalaethau L,Rtao Parma, a Regio, yn mha un y mae yn hys- t). Y trigolion y bydd raid iddynt gymmeryd y y^ad os parhant i derfysgu. Yn ol newyddiad- ^°gol Jtali, ni chymmerodd terfysg ychwan- %dd Sadwrn, ond liysbysa telegram o Flo- 0 j terfysg ychwanegol wedi cymmeryd lie cjna hyny yn Bologna a Ferrara. Dywed ",IV 0 newyddiaduron Itali fod llawer o felinau cau 3m hytrach nag ymostwng i'r dreth. Kt j v. 1X11 gyttimydogaeth aeth, 500 0 wladwyr arfog Wa, yr hwn oedd wedi cau ei felin, a mynent ° ^ne<^ y11 mlaen gyia ei waith, a phan yr He Jddf°d y gyfraith yn ei atal, torasant i mewn ^itbiasant y lie.
X GROEG A TWRCI. ____
X GROEG A TWRCI. Y GYNHADLEDD. Y(I y gynhadledd yn Paris prydnawn ddydd diweddaf, pryd yr oedd y llysgenhadon yn bresenol:—Arglwydd Lyons, dros ^Vwysog Metternicli, dros Austria larll drog priissia; larll Stackelberg, dros Russia; Vei. Nigra, dros Itali; Djemil Pacha, dros Un a° ■^anSa^e> (lr0M Q-roeg. Ni fydd gan tttfd 114f bleidlais. Ar derfyniad y cyfarfod cyn- .e r ^<J(l telegrams wedi eu hanfon i Twrci a Lt g, 1 erfyn arnynt gadw pob peth yn eu sefyllfa 01, tra y bydd y Gynhadledd yn eistedd. Ym- Y 8^^ Y 11ysgenhadon mewn ffordd answyddogol er Par°toi erbyn yr eisteddiad nesaf ^awrth. allQ ltl!teillduodd llysgenad Groeg o eisteddiad dydd 1 am na chai bleidleisio ar yr un tir a Twrci, i gael anfon am gyfarwyddyd pellach at y Llywod- raeth. Derbyniodd. atebiad yn hysbysu nad allai Groeg oddef i'w chynnrychiolydd gymmeryd safle mor israddol yn y gynhadledd. Ymgyfarfu y gyn- hadledd ddydd Mawrth heb lysgenad Groeg, a dat- gana newyddiaduron Paris hyder cryf y deuir i benderfyniad heddychol er y cwbl. Ymddiriedir i lysgenad Ffrainc yn Athen i esbonio mai y rheswm fod Groeg yn cael ei chadw allan yw, am nad oes neb ond y rhai oeddynt wedi arwyddo eytundeb Paris a hawl i gymmeryd rhan yn y gynhadledd.
YR YSBAEN.
YR YSBAEN. YR ETHOLIAD DYNESOL. Cyhoedda y Pueblo ddatganiad sydd wedi cael ei dynu allan gan y blaid werinol, gogyfer a'r ethol- iadau sydd yn ymyl. Swm y cyngor a roddir i'r etholwyr yw, ar iddynt wrthod pob ymgeisydd am- heus, ac aberthu pob gwrthymgeisiaeth ac uchelgais personol, er mwyn dwyn allan holl ymadferthoedd y blaid. Edrychir yn fanwl -ar ol yr etholiadau, a gwylir yn fanwl na fydd dim dylanwadau anghyf- reithlon yn cael eu defnyddio. Anogir gwneud def- nydd 0 bob moddion cyfreithlon-y wasg, cyfarfod- ydd cyhoeddus, a chyd-drefniadau politicaidd. Dat- genir hyder cryf y bydd y blaid hon yn fuddugol- iaethus ac y llwyr symmudir yr olion diweddaf o'r hen deyrnach.
HIRWAUN.
HIRWAUN. Cynhaliwyd Cyngherdd ardderchog yn yr Ysgol- dy Brytanaidd, ar y 6ed o'r mis hwn. Gwasanaeth- wyd ar yr achlysur gan yr 'Hirwaun Glee Party,' dan arweiniad Mr Richard Morris. Canwyd amryw ddarnau yn wir alluog, megis Rhosyn yr Haf,' a'r Don o flaen y gwyntoedd.' Gorfu iddynt ail ganu amryw o'r darnau. Cawsom hefyd amryw Solos. Duetts, Trios, gan wahanol bersonau. Canodd Mr T. Richards y British Lion' yn feistrolgar iawn, fel y gorfu arno ail ganu. Canodd Mr Samuel Jones (Conorydd) Nedi Jones,' a gorfu iddo hefyd ail ganu. Difyrwyd y cyfarfod gan Mr a Mrs Thomas trwy iddynt ganu amryw ddarnau difyr. Chwareuwyd ar yr Harmonium gan Miss Williams, London House. Cawsom gan hefyd gan Mr Williams, London House. Llywyddwyd ar yr ach- lysur gan D. E. Williams, Ysw.- Cwerchir.
BEAUMARIS.
BEAUMARIS. Cynnaliwyd Brawdlys Chwarterol sir Fon yn y lie uchod, dyddiau Mawrth a Mercher y 5ed a'r 6ed cyfisol, o flaen yr ynadon canlynol:—J. Williams, Ysw., cadeirydd; Parch. Williams, Llanfair J. Jones, Ysw., Treana; G. Higgins, Ysw., Rallt Goch; H. O. Williams, Ysw., Trecastell; Major Pierce, Bryncelyn, &c. Nid oedd ond dau garcharor i'w profi; un o Gaergybi, am ddwyn cnap o lo yn pwyso 20 pwys, gwerth dwy geiniog, ond methwyd ei gael yn euog. A'r llall o Amlwch, am ddwyn par 0 esgidiau; bu cryn ddifyrwch yn y llys gydag un o'r tystion yn yr achos hwn, trwy iddo wrthod myned ar ei lw o flaen y Grand Jury, yr esgus oedd ganddo oedd, nad oedd yr achos (case) yn ddigon pwysig, nad ai ef ar ei lw ond mewn achos bywyd.' Fe fu yr ynadon a'r twrneuod am awr gron yn chwilio y llyfr yma a'r llyfr arall mewn perthynas i fyned ar y llw, a'r canlyniad fu, i'r cadeirydd ofyn iddo a le ef ar ei lw ar ol clywed beth oedd wedi bod yn ei wrando, neu ddyoddef y canlyniad; dywedodd yntau y gwnai os oeddynt hwy am wneyd iddo fyn'd. Dywedodd y Cadeirydd fod yn rhaid iddo fyn'd, ac yna fe aeth. Wedi holi dau dyst arall, cafwyd y carcharor yn euog, a dedfrydwyd ef i dri mis o garchar gyda llafur caled. PLWYF CAEBOYBI, &C., YN EBBYN Y L. & N.W. RAILWAY CO. Mr Morgan Lloyd oedd dros yr erlynwyr, a Mr Preston dros yr addiffynwyr, Cynghaws oedd hwn gan blwyf Caergybi a dau o blwyfi eraill, yn erbyn y cwmni uchod, eisiau trethu gwaith dwfr oedd gan y Cwmpeini yn y plwyfi. Yr oedd Mr Preston yn dadleu fod mwy o gost i gael y dwfr nag oedd y budd i'r Cwmpeini oddiwrtho; neu mewn ffordd arall, y gallasai y Cwmpeini gael dwfr yn rhatach gan Gwmniai dwfr nag oeddynt yn dalu o gostau i gael y'dwfr o'r plwyfi. Ond pa fodd bynag, enillodd Mr Lloyd i'w trethu. Y pwnc nesaf oedd pa faint oedd y dreth i fod; bu cryn ddadleu o bob tu ar y pen hwn, a holi a choesholi tystion ar hyd.ddydd Mercher; ond y plwyfi enillodd ar y pen hwn hefyd, sef i'w trethu i'r swm gofynol gan y plwyfi ar y dechreu, a bu raid i Gwmni y Rheilffordd dalu yr holl gostau.-
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. DARLITHIATJ BHAD. Y mae y drydedd gyfres 0 Ddarlithiau Rhad gau- afol wedi dechreu er's tair wythnos. Traddodwyd y gyntaf gan y Parch. J. G. Davies, Penywern, ar I Seryddiaeth.' Dangosodd wybodaeth eang, a medr neillduol i osod allan bethau dieithr i'r cyffredin, mewn iaith syml, gyffredin, a chydmariaethau car- trefol. Gall Mr. Davies dd'od yn ddarlithiwr med- rus iawn ond iddo gredu hyny. Traddodwyd yr ail nos Fercher diweddaf, gan y Parch. J. R. Thomas, Llandysilio, ar Y Llyfr, a'i Hanes.' Cafwyd dar- lith ardderchog yn dangos flrwyth llafur caled ac ymchwiliad eang i hanes Y Llyfr, a'r cwbl yn cael ei osod ger bron y gwrandawyr mewn modd swynol iawn. DYN YN YB AFON. Boreu dydd Gwener diweddaf, canfyddwyd corph dyn yn yr afon ar gyfer capel yr Ynysgau. Gan fod y dwfr yn gryf cafwyd gryn dipyn o drafferth i'w gael i'r lan. Ni wyddai neb ddim yn ei gylch. Yr oedd dyn rhwng 50 a 60 oed wedi gadael ei gar- tref y Sabbath cyn hyny ac heb ddychwelyd hyd ddydd Gwener. Yr oedd yn byw yn Dowlais. Pan gyrhaeddodd y gair yno, aeth y ferch yn union i Merthyr i edrych y corph, a chanfyddodd mai ei thad ydoedd. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi bod yn y dwfr am ddyddiau; ond hyd yn nyn nid oes gwybodaeth pa bryd, pa le, neu pa fodd yr aeth yno. YB OKFEIRIAD PABAIDD WEDI DIGIO. Y mae yr offeiriad pabaidd wedi ei feddianu a rhyw ysbryd yr Apostolion. Ychydig ddyddiau cyn y Nadolig gofynodd ganiatad gan feistr yr TJrIon Mass yn y ty i'r tlodion Pabyddion bereu y Nadolig. Nis gallai y meistr roddi caniatad. Yna ysgrifen- odd at Gadeirydd y Board of Guardians-Mr. Clark. Atebodd yntau nas gallai ymgymmeryd a'r fath gyfrifoldeb heb ymgynghori a'r Guardians, ac na chawsai eu cyfarfod hyd ddydd Sadwrn, tranoethi'r Nadolig. Felly methodd yr offeiriad yn ei amcan. Gosododd y Cadeirydd y mater o flaen y Guardians ddydd Sadwrn, a gwnaeth rhai o honynt sylwadau i'r perwyl fod y Pabyddion yn cael 11awn cymmaint o ryddid yn y ty a phob enwad arall, &c. Yn ngwyneb hyn teimlodd yr offeirizcd yn siomedig iawn, a'r wythnos ddiweddaf anfonodd lythyr i'r wasg leol sydd yn hollol gydweddu ag ysbryd y teirw (Biells) Pabaidd. Y mae yn beio a baeddu, difrio a sarhau, yn chwythu celanedd a bygythion, a bum agos a dyweyd, yn rhegu a chablu. Pe y bu- asai un o'i braidd ef wedi myned i'r fath ysbryd drwg diau y buasai yn rhaid iddo wneud cyffesiad o'i bechod a thalu yn dda am faddeuant 0 hono. Os ydyw yn credu mewn cyffesu a phrynu maddeuant, cynghorem ef i wneud hyny gyda brys, ac i fyned at ryw exorcist i fwrw allanyr ysbryd afian sydd wedi ei feddianu.
CARMEL, TRESIMWN.
CARMEL, TRESIMWN. Dydd Nadolig diweddaf, rhoddodd y Parch. J. Thomas, gweinidog y.lle, wledd o de a bara brith i holl blant Ysgol Sul y lie, fel y cymmerodd oddeutu triugain a deg o blant ran o'r wledd oedd ar y bwrdd. Rhoddodd Mr Thomas y Te a'r Siwgr i gyd ei hunan, a chafodd ei gynnorthwyo a'r bara brith a'r bara ymenyn gan Mrs Smith, o'r Wallace Newydd; Mrs Powell, Old Post; Mrs Sarah Mor- gan Mrs Margaret Morgan, Llantryddyd ac eraill o ewyllyswyr da yr Ysgol. Wedi gorphen y Te, aeth Mr Thomas allan i'r cae, a'r plant gydag ef, er cael tipyn o ddifyrwch, a rhyfedd mor ystwyth yr ydoedd yr hen lane yn troi yn mhlith y plant. Ac awd yn ol i'r capel i ganu, ac adrodd :darnau add- ysgiadol, fel y treuliwyd y dydd yn hynod gysurus. Un dau.
RHYL.
RHYL. HYN A'R LLALL.—Dydd Iau a dydd Gwener yr wythnos diweddaf, cynhaliodd yr Hen Gorph gyf- arfod misol. Ymgasglodd tyrfa o bregethwyr a diaconiaid ynghyd i gadw gwyl. Yr oedd trin ar- winol ar Ddyddiaduron ymhob twll a chongl-ac hyd yn oed ar yr heolydd. Rhywbeth digrifol iawn i'r Philistiaid ydyw hyn-a chynghorem y brodyr anwyl i ddileu yr arferiad. o sicrhau cyhoeddiadau ar ben stryt.' Cafwyd pregethau effeithiol-a phregeth nodedig o dda nos olaf y cyfarfod gan Mr Roberts, Prion.—Mae son fod Cwmni y Railway yn bwrirdu sefydlu gweithfa fawr yn rhywle tua'r Foryd i wneud cerbydau at leu gwasanaeth.. Os gwir hyn, bydd yn fendith werthfawr i Rhyl. Rhoddai waith i ugeiniau, ac ysgogiad newydd i lwyddiant y dref. M.
FESTINIOG.
FESTINIOG. Cynhaliodd y Wesleyaid gyfarfod diwygiadol yn yr ardal hon yr wythnos ddiweddaf. Pregethwyd y Sabbath, a'r nos Lun canlynol, gan y Parch. R. Jones, y gweinidog ac o hyny hyd nos Wener, gan y Parch. Edward Humphreys, gweinidog ieuanc yn nghyldaith Llanrwst. Cynhaliodd y cyfeillion yn y Capel Gwyn, gyfar- fodydd i weddio am i'r Arglwydd foodithio y cyfar- fod hwn er iachawdwriaeth pechai. uriaid. Ac ni bu iddynt gael eu siomi; er na chlywsom am ddim ond dau wedi dychwelyd i arddel crefydd yn gyhoeddus, un o ba rai oedd yn wrandawr gyda'r Annibynwyr yn Saron, ac a ddymunodd gael ei le gyda y brodyr yno (Saron), a'r Hall yn perthyn i gynnulleidfa y Wesleyaid. Ond credwn fod y cyfarfod wedi bod yn fendithiol i grefyddwyr yr ardal yn gyffredinol. Dymunem lwyddiant i'r eglwys fechan hon, yn ei gweithgarwch presenol, o eigion ein calon. MEDDWDOD. Y mae yn ddrwg genym ddyweyd fod yr arferiad bechadurus o yfed y diodydd meddwol yn ffynu yn arswydus yn yr ardal hon eto. Y mae yma rieni a pherthynasau yn cael gwaedu eu teimladau wrth weled eu bechgyn ieuainc yn cael eu llusgo i ddin- ystr a cholledigaeth. Y mae yma gyfleusderau ychwanegol wedi eu darparu at werthu y diodydd meddwol. Ac nid oes yn y cyfryw dai unrhyw ym- geledd gymhwys, na llety noson, i'w gael i na dyn nac anifail. Dichon fod distawrwydd Dirwestwyr yr ardal yn un rheswm dros fod y gelyn yn myned yn mlaen mor hyf yma. Ein tadau Dirwestol, pa le y maent hwy ? Llywyddion ac aelodau y Gymdeithas Ddi- wygiadol, pa le yr ydych chwithau ? A ydych chwi wedi myned i'r Ogof ? Os felly, deuwch allan, pa beth a wnewch chwi yno. Ymfyddinweh, ymwrol- wch, a gosodwch eich wyneb fel callestr yn erbyn y gelyn, ac ymlidiwch ef allan o'r tir, a bydd yn dda genyf gael eich cynnorthwyo.— 0 Ardudwy.
SIR DREFALDWYN.
SIR DREFALDWYN. Deallwn fod y Rhyddfrydwyr yn dechreu ymysg- wyd, a pharotoi ar gyfer y dyfodol, yn y sir hon. Cynhaliwyd cyfarfod brwdfrydig yn y Public Rooms yny Drefnewydd, ddydd Gwener diweddaf, yr 8fed cyfisol er ffurfio Registration Society mewn cysylltiad a'r Rhyddfrydwyr. Cychwynodd y peth yn Llan- fyllin, ac ysgrifenodd Mr J. Jones, yr hwn sydd wedi bod bob amser yn ffyddlon ac ymdrechgar fel Rhyddfrydwr egwyddorol, at amryw o gyfeillioR yn ngwahanol ranau y sir, gan eu hanog i gyfarfod a'u gilydd yn y Drefnewydd y diwrnod uchod. Ac erbyn i'r diwrnod hwnw ddyfod, yr oedd yno rai o brif Ryddfrydwyr y sir wedi dyfod yn nghyd :— Mri J. Jones, C. R. Jones, J. G. Jones, o Lanfyllin; Cleaton a Rees, o Lanidloes Meredith, o Machyn- Ileth; Powell, Davies, a Morris, o'r Trallwm; Davies, o'r Cemaes; Cadben Crew Reed, o Llandin- am a lluaws mawr o'r Drefnewydd, a manau eraill. Yr oedd amryw o lythyrau wedi eu derbyn oddiwrth rai o brif foneddigion .Rhyddfrydig y sir. Ym- ffurfiwyd yn bwyllgor ar unwaith, Cadben Crew Reed yn y gadair. A phasiwyd amryw benderfyn- iadau a rheolau i weithredu arnynt, fel y gellir dy- weyd fod Liberal Registration Society yn awr wedi ei ffurfio yn y sir, o dan lywyddiaeth Cadben Crew Reed, gyda lluaws o foneddigion dylanwadol fel is- lywyddion. Ffurfir adranau o'r gymdeithas yn mhob district trwy y sir. Yr oedd yn dda genym ddeall fod y cyfarfod yn frwdfrydig a chalonog dros ben. Yr oedd gan y bobl oil galon i weithio, ac yr oedd pawb yn hyderus yn eu llwyddiant. Nid oes ond eisiau undeb a chydweithrediad, ac yn yr etholiad nesaf fe welir cwymp gwyn Dories y sir am byth. Up and doing, a dyddiau Toriaeth a rifwyd yn Maldwyn hefyd.
CAERGYBI.
CAERGYBI. CYFARFOD SEYDLIAD Y PARCH. W. LLOYD. Nos Lun, y 4ydd, cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod i gydnabod Mr Lloyd yli weinidog ar eglwys y Tab- ernacl Newydd. Y gweinidogion dieithr oeddynt y Parchn. R. Parry, Llandudno; E. Evans, Llan- gollen, a J. Owen, Llangefni. Yn y Tabernacl Newydd y cynhaliwyd y cyfarfod, a daeth tyrfa luosog yno yn nghyd. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio, gan y Parch. J. Owen; yna traddododd y Parch. R. Parry yn ardderchog ar Natur Eglwys.' Ar ol eisteddiad Mr Parry i lawr, cododd y Parch. W. Griffith i ofyn am arwydd yr eglwys, yr hyn a roddwyd. Yna gofyniad am gydsyniad ar ran Mr Lloyd, yr hwn a ddywedodd ei fod yn gwerthfawrogi arwydd yr eglwys, a phe buasai amser yn caniattau buasai yn dda ganddo roddi iddynt grynhodeb o'i olygiadau ar yr athrawiaethau hyny a fwriadai bregethu iddynt o bryd i bryd. Llongyfarchai y Parch. W. Griffith Mr Lloyd ar yr amgylchiadau cysurlawn cysylltiol a'i sefydliad. Yr oedd yno gapel hardd ac eglwys gref-ond pan urddwyd ef (Mr G.) saith mlynedd a deugain yn ol, nid oedd ganddo yr un lie i gynal cyfarfod ei urdd- iad, ond capel benthyg. Erbyn hyn yr oedd am- gylchiadau wedi newid o fod yn anffafriol yn ffafriol. Llongyfarchai yr eglwys ar yr arwydd unfrydol a roddwyd ganddi, ac yr oedd yn awyddus i longyf- arch ei hunan am gael byw i weled yr hyn a welai. Yr oedd sylwadau Mr Griffith yn touching dros ben, a dilynwyd eu traddodiad a'u gwrandawiad gydag arwyddion o deimlad byw. Yna siaradodd y Parch. E. Evans, Llangollen, yn hynod bwrpasol; a diweddwyd y cyfarfod ardderch- og hwn trwy i'r Parch. W. Griffith weddio. Y BEDYDDWYR, Methasom gael hamdden hyd yn awr i nodi yn y TYST, fod y Bedyddwyr wedi cynnal cyfarfod ar- dderchog, a da odiaeth, fel arferol ar ddydd Nadolig. Cyfarfod perthynol i'r ysgol Sabbothol ydoedd-y plant yn cael eu cynorthwyo gan bobl mewn oed, yn adrodd ac yn canu yn wir dda. Y gresyn oedd fod eisiau 6c i fyned i mewn yno. Nid oes genym ddim i ddweyd nad oedd yn werth 6c, ond gwell fuasai er mwyn cyfnerthu, i'r mynediad i mewn fod yn is. Felly y bo y tro nesaf gobeithiwn.-
LIVERPOOL.
LIVERPOOL. Nos Fawrth diweddaf, cynhaliwyd Te Parti blyn- yddol ysgolion Sabbothol Chatham-street, Smith- down-lane a Kent-street, yn ysgoldy capel Chatham- street. Nid oedd y cwrdd eleni yn llawn mor luosog a llynedd, er hyny cafwyd cyfarfod da o'r dechreu i'r diwedd. Ar ol i yfwyr y te wneud cyfiawnder a'r danteithion a osodwyd ger eu bron, awd i'r capel, pryd y cafwyd eyfarfod cyhoeddus dan lywyddiaeth yr Hybarch Henry Rees. Y peth cyntaf a gyflawn- wj-d ydoedd darllen adroddiadau am ansawdd yr ys- golion uchod; a dyledswydd ydyw sylwi fod cynydd ysgol Kent-street yn rhagori arnynt i gyd, er ei bod yn ieuengach na hwynt oil. Ar ol yr adroddiadau, cafwyd ychydig o eiriau gan y Parch. T. C. Edwards, M.A., ac yn ol ei ddoethineb arferol rhoddodd ei le i fyny i'r Parch. D. Charles, B.A.. Aberystwyth, ys- grifenydd Ysgol Genedlaethol Cymru. Traddod- odd y gwr enwog hwn araeth wresog a dyddorol o blaid y Brif Ysgol, yr hon yn bresenol sydd yn bod megis trwy ffydd, ond a fydd yn fuan, yn ol pob tebyg, yn ffaith. Ar ol i Mr Charles eistedd i lawr, cododd y Parch. Owen Jones, Bootle, a thraddododd araeth ddifyrus ac athronyddol iawn. Ar ol cael sylwadau gwerthfawr oddiwrth y Parchedigion O. Thomas, a J. Hughes, Everton, cododd Tywysogy Te Parties' i fyny, sef y Parch. Joseph Williams, a gallaf sicrhau i holl ddarllenwyr y TYST, iddo y tro hwn etto brofi ei fod y Right man in the right place. ab ISafw.
I SIR GAERFYRDDIN.
SIR GAERFYRDDIN. (Oddiar aden Crwydryn.—Parhad 0 tudalen 2.) LLANYMDDYFRI. Dydd Calan.—Ar y dydd uchod dylifodd lluoedd yma hefo'r tren o bob cyfeiriad. Rhai er ymweled a'u perthynasau, eraill am ddigrifwch a phleser- daith. Erbyn y prydnawn yr oedd yr ystrydoedd yn llawnion o ddieithriaid, ac yn gwau tryphlith traphlith trwy eu gilydd, a phob un yn ymddangos fel yn meindio ei fusnes ei hun. Hefyd yr oedd y dref dlws yn dwyn arwyddion hollol o ddydd gwyl. Aethom gyda'r llu yn yr hwyr i ryw Popular Enter- tainment yn y British School, a rhyfedd y drafferth gawsom yn myned i fewn yn herwydd sarugrwydd ceidwadwyr y drysau am y pres, ac yr oeddynt trwy hyny yn methu a gollwng pawb cyn gynted ag y dymunent i fewn. Trefn y cyfarfod oedd fel y canlyn Anerchiad gan y Llywydd, Mr Thomas. Duett, Misses Hugh- es. Glee, Cor Ebenezer, a mawr yr ystumiau cor- phorol a wnai yr arweinydd druan. Darlleniad, Mr J. Prytherch. Solo Yr Hen Delynwr Dall,' Mr J. Thomas-hero'r cyfarfod o ddigon. Twr Babel, Mr James. Dadl I Ffydd, Gobaith, a Chariad,' Meistri Edwards, a'i gyf. Glee Boddlondeb Vicar Prit- chard,' gan y Cor. Y Tren,' Mr Stephens (encore). Glee, Meistri Richards, a'i gyf. Anerchiad gan Mr Morgans: bu y gwr gwyllt parchedig hwn yn hir iawn yn methu a chofio ei anerchiad, a gwaeddai am hir amser nes iddo gael gafael ami' Blwyddyn new- ydd dda i chwi.' Duet Sol-fa,' Mr Evans a Miss Agnes. Ymgom y Teulu, gan rywrai. Glee, gan Gor Ebenezer. Y bobl drws nesaf, Mr D. Jones, Miss Nicholas, a Miss Jonathan. Duet Pianoforte, gan ryw rai dieithr: syndod fel y chwareuent eu bysedd fel cathod bychain yn chwareu hefo pytaten. Duet' Love and Pride,' Misses Agnes ac Evans. Glee 4 Keeping Step,' Cor Vicar Pritchard: myfyr- ied yr arweinydd hwn fwy ar harmoni, disgynai cordiau y don hon ar ein clustiau fel trwst taranau. Gwelsom ar yr esgynlawr y Parchedigion Thomas, Morgans, Phillips, Evans, &c. Talwyd y diolchiad- au arferol i'r Cadeirydd a'r gynnulleidfa, a chanodd Miss Agnes Solo God Bless the Prince of Wales,' a'r dorf yn uno yn y cydgan, a gwasgarwyd wedi ein mawr foddhau. Y PARCH. MB. THOMAS, BWLCHNEWYDD. Y Tonic Sol-Ea.-Y mae y gyfundrefn hon yn enill tir yn y sir hon, er oymaint ei gelynion; ond pwy na chwrddodd a gwrthwynebiadau wrth geisio gwneud daioni. Y mae Mr Thomas wrthi yn wyth- nosol, braidd yn mhob man, fel arholydd. Yr wyth- nos ddiweddaf, clywsom ei fod yn darlithio ac yn arholi yn y lleoedd canlynol, a'r rhifedi canlynol wedi llwyddo i gael yr 'Intermediate Certificates:'— Cwmdu, 2; Nebo, 21; Llanarthney, 19. Diamheu na theimla pob cynnulleidfa nerth y cantorion hyn yn ol Ilaw. LLANFYNYDD. Gwnetoch ereill yn ddedwydd.—Beunydd yr ym- boena rhai am y ffordd i ddedwyddwch, a rhyfedd y gwahanol ffyrdd a gymmera rhai ond bid sicr i chwi y mae un ffordd i'w chael a hono yn un sicr, sef trwy ymorchestu ac ewyllysio i wneud ereill yn ddedwydd. A thyma arferiad sydd er ys blynyddau bellach yn mhalasdy Pantglas, sedd y diweddar A.S. -D. Jones, Ysw., a chyflawnwyd y caredrvydd ar- ferol eleni drachefn i dlodion y plwyf, a llawenych- odd llawer calon am yr elusengarweh. 'Does dim a ga effaith fwy dwfn a pharhaol ar y galon ddynol na gwir haelionusrwydd. Fethodd ddim o'r gwr hwnw a welwyd yn ymorchestu i wneud ereill yn ddedwydd i beidio gwneud ei hun felly. Ond y mae genym air i'w ddyweyd eto, dangosodd y boneddig- esau ychydig bach o'u dwldod eleni trwy arwyddion colour eu tad, sef dangos eu bod yn Doriaid gwreidd- iol ar bob peth a gyfranent, ond Heb ei fai heb ei eni.'
[No title]
EISTEDDLE I MR. BRUCE.-Dywedir fod yr Ys- grifenydd Cartrefol, Mr Bruce, yn debyg o gael eis- teddle dros swydd Renfrew, yn Ysgotland. Mae y Milwriad Muir, yr hwn a ddaeth i'r maes fel ym- geisydd Rhyddfrydig, wedi cilio yn ol. Disgwylir na bydd un gwrthwynebiad i ddychweliad Mr Bruce. Y TYWYDD.—le, yr ydym yn gofyn yn eofn pwy sylwodd ar y flwyddyn aeth heibio. Y sawl na sylwodd ar 1868, cymmered y pleser o gofnodi am y flwyddyn 1869. Rhywbeth fel hyn ydoedd tywydd 1868 :-Ionawr, 15 niwrnod o wlaw, 6 rhewog, 6 tirion, a 2 sych ac oer. Chwefror, 10 gwlawog, 12 tirion, a 7 sych-oer. Mawrth, 12 gwlawog, 18 tir- ion, ao 1 sych-oer. Ebrill, 10 gwlawog, 20 teg. Mai, 4 gwlawog, 27 teg. Mehefin, 2 gwlawog, 28 twym. Gorphenaf, 7 gwlawog, 24 twym. Awst, 6 gwlawog, 25 twym. Medi, 8 gwlawog, 22 twym. Hydref, 21 gwlawog, 10 teg. Tachwedd, 13 gwlaw- og, 9 tirion, 7 rhewog, ac 1 diwrnod yn bwrw eira. Rhagfyr, 26 gwlawog, 4 tirion, ac 1 sych-oer. Dywed y Publishers' Circular fod 4,581 o lyfrau newyddion ac argraffiadau newyddion wedi eu cy- hoeddi yn Mhrydain Fawr yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Wrth ddosbarthu y cyfanswm yma, ceir fodybedwaredd ran o'r cyfan yn weithiau duwinydd- ol, sef 984; ar addysg, ieitheg, a ieithyddiaeth glasurol, 446; llyfrau i blant, 524; nofelau, 480 y gyfraith, 340 ar y gwyddorau a chelfyddydau, 429 ar fasnach a thrafnidiaeth, 397 ar ymdeithio ac ymchwiliadau daearyddol, 238 ar hanesiaeth a bywgraffiadau, 273; barddoniaeth, 217; blwydd- lyfrau, 225; physigwriaeth, 193; amrywiol des- tynau, 418.
Advertising
THE MANUFACTURE or WATCHES AND CLOCKS.—A most in- teresting and instructive little work, describing briefly, but with great clearness, the rise and progress of watch and clock making, has just been published by Mr. J. W. Benson, of 25, Old Bond Street, 99, Westbourne Grove, and the City Steam Factory, 58 and 60, Ludgate Hill. The book, which is pro- fusely illustrated, gives a full description of the various kinds of watches and clocks, with their prices, and no one should make a purchase without visiting the above establishments or consulting this truly valuable work. By its aid persons resid- ing in any part of the United Kingdom, India, or the Colon- ies, are enabled to select for themselves the watch best adapt- ed for their use, and have it sent to them with perfect safety. Mr. Benson, who holds the appointment to the Prince of Wales, sends this pamphlet to any address on receipt of two postage stamps, and we cannot too strongly recommend it to the notice of the intending purchaser.
Family Notices
Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau. PRIODASAU. Ionawr 8fed, yn Nghapel Great Crosshall-street, yn mhresenoldeb y cofrestrydd, drwy drwydded, gan y Parch. A. J. Parry, y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. W. Roberts, Rhos, Mr. W. Williams, coal merchant, Croesyswallt, gyda Mrs. Williams Coedllai. MARWOLAETHAU. Ionawr 6ed, wedi hir gystudd, Mrs Rachel Alban, Pencerrig, plwyf Llanpumpsaint, yn 85 mlwydd oed. Y dydd Gwener canlynol, ymgasglodd tyrfa'luosog i hebrwng ei rhan farwol i fynwent Peniel, ger Caer- fyrddin, lie y bu yn aelod ffyddlon am oddeutu pum mlynedd a deugain. Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parch. S. Davies, gweinidog y lie.
I ADOLYGIAD AR Y FASNACH YD.
ADOLYGIAD AR Y FASNACH YD. Dywed y Mark Lane Express fod y ffa a'r efrau o dyfiant an- arferol, ond fod y gwlybaniaeth gormodol yn eu bon yn eu peryglu oddi wrth rew disymmwth. Mae hyd yn oed y gwe- nith sydd ar dir sydd yn codi yn pydru, ond y mae pob tebyg- rwydd y bydd i'r planhigion sy'n tyfu ar dir isel bydru. Mae y porfeyid yn arddangos gwyrddlesni rhyfeddol, ond ychydig o faeth sydd gan dyfiant gauafol y grlaswellt, ac y mae eisieu tywydd sychach i anifeiliaid a defaid. Mae yr un fath tywydd wedi bod yn Belgium a Germany, yr hyn sydd yn peri anes- mwythder mawr yn meddyliau y bobl, gan y gall hyd yn oed syrthiant yr eira dori y bon i fiVrdd. Mae y prisiau trwy'r wlad yn parhau i godiad o Is i 2s y chwarter ar gyfartaledd. LLUNDAIN, Dydd Llun.—Ychydig oedd y galwad am wenith Seisnig, ond llawn cymmaint a'r gofyn. Anwadal oedd yr haidd, ond ni chymmerodd un newidiad o bwys le yn y pris- iau. Yr oedd y fasnach mewn brag yn araf am y prisiau blaenorol. Yr oedd galwad da am geiich, a'r yd ychydig yn ddrutach. Ychydig oedd y galwad am bys a fla, gyda gos- tyngiad. Ychydig oedd y fasnach mewn hadau, heb gyfnew- idiad. Yr oedd cyflenwad da o flawd, heb gyfnewidiad o bwys.
ANIFEILIAID.
ANIFEILIAID. LLUNDAIN, DYDD LLuN. Yr oedd y farchnad heddyw yn araf anarferol, yr eidion a'r cig dafad yn unig a gyrhaeddodd y pris uwchaf. Yr oedd galwad hefyd am gig llo. Nifer yr anifeiliaid ydoedd 3,620, a 19,150 o ddefaid, 36 o loi, a 270 o foch. LIVERPOOL, DYDD LLUN. Yr oedd eynnulliad da iawn yn y farchnad heddyw, ag ys- tyried yr adeg ar y flwyddyn, sef 3,023 o anifeiliaid, a 11,300 o ddefaid. Yr oedd y cyflenwad hefyd o ansawdd da iawn. Yr oedd y prisiau am anifeiliaid a defaid yn ffafr y prynwyr. Gorfu troi allan amryw heb eu gwerthu.
MASNACH METTELOEDD,&o.
MASNACH METTELOEDD,&o. PLWM. English Pig, 19p OsOc i 19p Os Oc y dynell. Spanish pig, 18p 15s i 19p Os. Plwm coch, o 21p Os i 21p 0s plwm gwyn, 27p Os Oc i 28p Os Oc y dynell. CYMRKKJ.—Bails, 5p 10s Oc i 5p 15s Oc y dynell yn y gweith- iau; Common bars, 5p 15s Oc i 6p Os Oc.
MASNACH MARCHNADOEDD CYMREIG.
MASNACH MARCHNADOEDD CYMREIG. ABERGELE, Ionawr 9.-Gwenith, 17s Oc i 18.3 Oe yr hob haidd, 12s 6c i 14s Oc yr hob; ceirch, 8s Oc i 9s Oc yr hob; ffa, 17s 6c i 188 Oc yr hob; blawd ceirch, 38s Oc i 40s Oc y 240 pwys. BALA, Ionawr 9.-Gwenith, 30s Oc i 30s Oc y pwn; blawd ceirch, 408 i 40s Oc y pwn haidd, 153 Oc i 16s Oc yr hob; ceirch, o 9s Oc i 10s Oc yr hob. Cig eidion, o 6c i 7jc y pwys; cig dafad, 6gC i 8c y pwys ymenyn ffres, 16e i 16àc y pwys ymenyn llestri, Oc i Oc y vwys. BANGOR, Ionawr 8.—Gwenith, o 49s Oc i 52s Oc y chwarter; haidd, 35s 6c i 37s 6c; ceirch, 24s 6c i 27s Oc; blawd ceirch, 37s 1 38s y 240 pwys.; ymenyn lfres, 19c i 20c y pwys; cig eidion, 6c i 8c y pwys cig dafad, ,7c i 8c y pwys; hwyaid, 3s 0c i 3s 4c y cwpl; cywion ieir, o 2s 6c i 3s Oc Y cwpl; wyau, 0 am Os. CAERFYRDDIN, Ionawr 9.-Gwenith, o 6s Oc i & 6c y bwsel; haidd, 4s 5c i 4s 8c y bwsel; ceirch, 2s 6c i 3s Oc y bwsel o 40 pwys; blawd, 32s i 45s y sach o 280 pwys. CAERNARVON, Ionawr 9.—Gwenith, o 50s i 53s y chwartei; haidd, 36s Oc i 38s 0c chwarter; ceirch, o 25s Oc i 27s Oc y chwarter; blawd ceirch, o 37s 0c i 39s 0c y 240 pwys. COHWY, lonawr 9.—Gwenith, 15s Oc i 17a 3c yr hob haidd 12s Oc i 13s 6c yr hob ceirch, 8s 6c i 9s 6 c yr hob blawd ceirch, o 38s Oci 40s Oc y 240 pwys. CORWEN, lonawr 8.—Gwenith, 30s Oc i 30s 0 y pwn; haidd, 15s Oc i 16s Oc yr hob ceirch, 9s i 10s yr hob; blawd ceirch, 40s 6c i 40s y pwn; cig eidion, 6gC i 7gC pwys; cig dafad, 7c i e y pwys cig llo, Oc i Oc; ymenyn ffres, o 16c i 1621c y pwys; ymenyn llestri, 00c i 00c y pwys. CROESOSWALLT, Ionawr 6.—Gwenith, 7s 6c i 8s 3c; haidd at fragu, 6s Oc i 6s 6c; etto, at falu, 6s Oc i 6s 6c; ceirch, 4s Oc i 5s Oc. DINBYCH, Ionawr 6.—Gwenith, 0 188 Oc i 198 Oc yr hob; haidd, 15s Oc i 16s Oc yr hob ceirch, 9s Oc i 10s Oc yr hob; ymenyn ffres, o 19c i 21c y pwys; yr ymenyn llestri, 15ic i 16e y pwys. GWRKCSAM, Ionawr 7.-Gwenith gwyn, 8s 60 i 8s 9c y bwsel; coch, 8s Oc i 8s 6c.; haidd, 7s Oc i 7s 2c.; ceirch 4s Oc i 4s 6c.; ymenyn ffres, o 18c i 20c y pwys; cig eidion, o 7ci 8c y pwys; cig dafad, o 7c i 8c cig llo, 7c i 8c y pwys; pytatws, 2s 6c i 3s Oc y mesur; hwyaid, 4s 9c i 5s Oc. LLANERCHYMEDD, lonawr 6.—Gwenith, 50s Oc i 51s Oc y chwarter haidd, o 33s Oc i 36s Oc y chwarter; ceirch, o 21a Oc i 22s Oc y chwarter; pytatws, 4s Oc y 100 pwys ymenyn ffres, 18c i 18c y pwys eig eidion, o 6e i 8c y pwys; cig dafad, 6c i 9c y pwys; cig llo, o 6c i 7c y pwys; cig moch (hams) 00c i Oc y pwys. LLANGEFNI, Ionawr"6.—Gwenith, 48s i 51s Oc y chwarter; haidd, 35s i 37s Oc ceirch newydd, 24s Oc i 26s Oc; ymenyn ffres, c i c y pwys; hallt, 00c y pwys cig eidion, o 6c 1 9c y pwvs; cig dafad, 6c i 10c cig llo, 0c i 0c y pwys; pytatws 4s Oc y 100 pwys. MACHYNLLETH, lonawr 6.-Gwenith, o 29s Oc i 30s Oc y pwn; haidd, 5s 0c i 5s 6c y Winchester; ceirch, 3s 6c i 4s Oc y Win- chester; blawd ceirch, o 36s Oc i 37s Oc y 240 pwys; pytatws, 6c y 10 pwys ymenyn ffres, 15c i 15c y pwys ymenyn Uestri, 13c i 14c y pwys; cig eidion, 6^c i 7c y pwys; cig dafad, 5gC i 6c grwer, 4|c i 5c y pwys. PWLLHELI, Ionawr 6.—Haidd, 52s Oc i 52s Oc y chwarter ceirch, 23s i 24s.; ymenyn ffres, 16c i 17c y pwys; ymenyn llestri, 15c i 15c y pwys. RUTHIN, Ion. 11.—Gwenith, o 19s 0c i 19s Oc yr hob; haidd, 15s Oc i 16s 0c; ceirch, o 10s i 10s 6c yr hob ymenyn ffres, 20c i 20c y pwys; llestri, 15c i 16c y pwys. TREFFYNON, lonawr 8.—Gwenith, 18s i 19s yr holi; haidd, 14s i 16s yr hob ceirch, 8s 6c i 9s yr hob pytatws, 60 y 10 pwys; ymenyn ffres, o 18c i 18c y pwys; ymenyn llestri, 16c i 17c y pwys; cig eidion, 7c i 7jc y pwys; cig dafad, 6c i 6^c y pwys; cig llo, 6 £ c l 8c y pwys wyau 6 am 6c. WYDDGRUG, Ionawr 6.—Gwenith, o 18s Oc i 18s 6c yr hob; haidd, o 15s Oc 116s Oc eeirch, 9 s Oc i 10s oc pytatws, o Os i Os; ymenyn rs 18c i 18c y pwys.
Advertising
PILS HOLLOW AT.—Oyfamoddiadav lach.—PAN byddo^T corph wedi ei wanychu trwy fod yn rhy agored rr tywYa<i» anghymedroldeb neu esgenlustra, fe wna'r pills yma ddileu r drw-g. Os cymmerir hwynt ynol y cyfarwyddiadau mewnoCo gylch pob box, rhoddant adnewyddiad nerth yn o wendid gewynol, trwy yr hyn y nychir yr holl tywy amy rhwystrir rhyddrediad y gwLd" Y maent ^^anjx archwaeth a'r treuliad, yn rheoleiddio yr afn. yn esmwyth ar y cylla. Y mae'r pils 5??^ iibawb o bob oedran ac arferion. Y mae un dyoddefydd yn ysgnfenu. •Nid oes eisieu ond gwybod ani eich piischm iddynt gael eu ewerthfawroei Chwiliais yn ofer am wellhad am lawer a flynyddoedd^ac yr oeddwn yn myn'd yn waelach bob dydd, adferwyd fi yn fuan wedi defnyddio eich pils chwi. THE MANUFACTURE OF JEWELLERY.—The striking develop- ment of Fine Art productions m this branch of the industrial trades since the period of the great Exhibition is admirably exemplified in a most interesting little work just published by Mr. J. W. Benscm, who holds the appointment to H.E.H. the Prince of Wales, and H.H. the Maharajah of Burdwan, of 25, Old Bond Street; 99, "Westbourne Grove; and the City Steam Factory, 58 and 60, Ludgate Hill. It isprcfuselv illus- trated with the most beautiful designs of Bracelets, Brooches, Earrings, Lockets, &c., &c., in every conceivaMftj&tyle, with'prices attached; and thus the intending purchaser » enabled to make a selection suited to his taste, and haveit forwarded to any part of the United Kingdom, India, or the Colonies. The price of this most useful guide is Twopence, for which it is forwarded post free, and to any one who con- templates a purchase, either for personal wear or for a,"sve_ar dmg, birth-day, Christmas, or other present, it will BE KHW of the very greatest- service.
YR WYTHNOS.
œo y mae pethau ychydig yn fwy gobeithiol nag flwyddyn yn ol. Ufa j, cryn lawer o son wedi bod am gael Banquet ^°dau Rhyddfrydig Cymreig. Tr oedd pawb y11 awyddus am ei gael; ond nad oedd yn gwybod pwy oedd i gymeryd y flaenoriaeth Yn y peth. Daeth Y Gohebydd i Liverpool i alw ilw y gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig, gan mai T yr unig gorfforiaeth cyffredinol oedd genym. elmlai Cyngor y Gymdeithas radd o betrusder i'w eryd mewn Haw, gan y bernid yn lied gyffredin- Qitti T l j • -Liiundain fuasai y lie goreu i'w gynal. An- Tvi Q_ -Prwyaeth i Lundain i ymgynghori a'r mwyaf adnabyddus yno ar y mater, ac y ej genym ddeall eu bod wedi penderfynu yn Llundain, prydnawn dydd Mercher, ^efror 24ain; ac y mae pwyllgor a swyddogion fill n • nocu i wneyd y parotoadau. Ac yr ydym j ^°^eithio y gwneir ef yn rhywbeth heblaw cyfle a a llawenhau, gan mai trefnu ein byddin- Oedd ar gyfer y dyfodol ydyw y gwaith mawr sydd Pw gyfiawni.