Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
[Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein Grotebwyr; ac nid yw eu cyhoeddiad yn ein colofnau yn ddigon i brofi ein bod yn eu cymmeradwyo. Nis gallwn eu call allan heb gael ein cyhuddo o geisio cyfyngu ar ryddid y wasg.—Y GOLYGWYE.]
ADGOFION AM HEN GENEDL CYMRY…
ADGOFION AM HEN GENEDL CYMRY LIVERPOOL. LLYTHYR VIII. Er pan ymddangosodd fy llythyr olaf, buom yn Liverpool yn treulio y gwyliau Nadolig, gyda rhai o'm hen gymdeithion, ac i yinweled a rhai o'r lle- oedd hynotaf yn hanes yr hen genedl, a hyny er mwyn hogi fy meddwl yn hyn. Un o'r lleoedd hyny sydd dra hynod yn mhlith y Trefnyddion yw ty William Llwyd, yn Pitt Street, He y dechreuodd yr achos Cymreig cyntaf. Clywais fod Mr Eliezer Pugh, blaenor yn Chatham Street, yn ymholi yn mha le y safai y ty-y byddai yn dda cael gwybod, ao y byddai codi rhyw fath o goffhad am y fan trwy godi capel neu ysgol fcchan yno yn werth yr ymgais. Pan y clywais hyny, gwyddwn yn dda ddigon am y gwv haelionus, boneddig, a pharchus hwnw, mai nid gwynt a gwegi yw eifedd-1 yliau a'i eiriau ef pan yn son am beth o'r fath, ond sylwedd, fel y tystia yr achos y mae efe yn ei gynal ax ei gost ei hnn yn yr un gymmydogaeth. Gan y gwyddwn am y ty a'r cwrt, aethuin yno i edrych a oedd yr hen dy cysegredig gynt yn sefyll: ond Ow! fel llawer o bethau eraill nid oedd mwyach. Cefais ef wedi ei dynu i lawr, a siop wedi ei ehodi yn ei le. Eel y g-wypo pawb am y He rhif y siop yw 38, Pitt Street, a'r drws nesaf i gapel y Wesleyaid wrtli fyned i fynu yr heol. L
,YR EGLWYS SEEYDLEDICR.
YR EGLWYS SEEYDLEDICR. Sefydlwyd yr achos hwn yn y flwyddyn 1793, yn eglwysi St. Paxil a St. Nicholas. Caniataodd Esgob Caer i wasanaeth gael ei chyflawni yn y ddwy eglwys uchod yn Gymraeg, er mwyn y Cymry nad oeddynt yn deall yr iaith Seisnig. Yr oedd hyn yn hollol angenrheidiol y pryd hwnw, nid yn unig i'r rhai a ddewisent y drefn hono i addoli, ond yr oedd felly i lawer nad oeddynt yn ei ddewis. Un peth, yr oedd y Cymry y pryd hyny yn cam ac yn priodi, lawerocdd o honynt cyn dysgu llefaru a deall yr iaith Seisnig; felly, teg oedd iddynt gael eu priodi yn Gymraeg. Dealled y darllenydd nad oedd yr un briodas yn gyfreithlon yr amser hyny ond yn unig y rhai a gyflawnid yn ol ffurf a defod Eglwys Loegr. Ystyrid plant y rhai hyny na pluiodent yn ol y drefn hono megis bastarddiaid; .ac nid oedd certifi- cate am enedigaeth a bedvdd neb yn werth dim mewn llys gwladol i broli unrhyw hawl mewn d ivecldianau, ond y rhai a gofrestrid yn yr Eglwys. .t, Ac felly, gorfodid pawb a ewyllysient ymuno mewn glan briodas fynsd i'r Eglwys i'r porwyl hyny. I St. Nicholas y byddai y Cymry yn myned gan mai yno yr oedd Curad yn gallii, ac yn eu priodi hwynt yn G-ymraeg. Enw y curad oedd Lewis Pugh, enw digon CymreigaidJ, onide ? A'i enw ef sydd wrth llawer o briodasau, a bedyddiadau, y Cymry, yn y hon a hwnw sydd wrth ysgrif- rly- dyst priodas fy nhad a'm inam. Hen Gymro trwv- adl i'r pen ydoedd efe, a boneddwr i'r dim, ac yn hoffi ei genedl. Adwaeiiwn ef yn dda, gan y byddai cfe yn 'bugeilio ci br!.1idJ yn mhlith y Cymry yn gyson, i'w hyfforddi a'u dysgu pan yn iaoh, ac yn eu cysuro pan mewn goiid a thristwoh. Pa hyd y bu ef yn gwasanaetliu felly nid wyf yn cofio, ond yn unig i mi ei glywed rhywbryd tua'r flwyddyu 1814 neu 1816 yn pregethu yn Eglwys St. Paul, a'r lie yn orlawn o wrandawyr. Dylaswn son yn flaenorol yr adwaenwn lawer o bobl y geiniog, er iddynt fod yn gyflawn aelodau gyda'r Ymneillduwyr, ac yn rhai selog dros eu plaid; eto, o herwydd fod ganddynt ddisgwyliad am ychwaneg o geiniogau ar ol eu perthynasau hwy a aberthent eu plaid ar allor y geiniog, -on am dadau a mamau bedydd fel y gallent fodyddio eu plant yn ol trefn yr Eghvys.
CYMDETFHASATT CIiECFIOJT.
CYMDETFHASATT CIiECFIOJT. Sefydlwyd amryw o gymdeithasau gan y Cymry tuag at gynnorthwyo eu gilydd mewn afiechyd. Y rhai penaf o honynt oedd y Cambrian, y Druid, a'r Ancient Briton a sefydlwyd gan yr Eglwyswyr yn nechreu y ganrif hon. Nid oedd yr Ymneillduwyr yn eu hoffi, gan y cedwid hwy mewn tafarndai lie y byddai yn rhaid iddynt yfed diod feddwol pan gyf- arfyddent, a bod hyny lawer tro yn arwain i feddw- dod, ac yn tynu gwarth ar grefydd, yn enwedig ar ddydd gwyl Dewi, pryd y byddai yr holl Gymdeith- asau Cymrefg yn cydgerdded mewn gorymdeithiau ar hyd beolydd y dref gyda'u banerau, a gwisgai pob Cyra.ro -ar ei het neu got y geninen y diwrnod hwnw, gan ymlaAvenhau yn eu Sant Cenedlaethol. Byddai y Saeson, y Grwyddelod, a'r Scotiaid, yr un modd yn eadw eu dyddgwyl; ond nid oedd yr un o honynt mor hardd ei ymddgiad a'i ymdciangosiad yn eu gorymdeithiau a'r Cymry. Un peth nodedig a wnaeth brodyr Eglwys Loegr oedd sefydlu ac adeiladu ysgoldy, a chynnal hyd y dydd hwn ysgol i'r Cymry, sef y WELSH CHARITY SCHOOL. Sefydlwyd yr ysgol hon yn y flwyddyn 1804, ac o hyny hyd yn awr eynhelir hi mewn adeilad i'r per- wyl yn Russell Street, gan yr Eglwyswyr yn benaf. Yr ydwyf yn cofio yr ysgol hon pryd yr.oedd yn un o'r ysgolion rhad goreu yn y dref, a phawb yn gwneuthur ymdrech i gael eu plant iddi i'w dysgu a'u hyfforddi; a llawer bachgen talentog a ddaeth o honi. Yn ol yr adroddiad am y flwyddyn. yn di- weddu Mawrth laf, 1867, yr hwn sydd genyf o'm blaen, y mae yr ysgol yn parhau yn IIewyrchus ac yn llwyddianus; canys fe ddywed y Parch. C. F. Johnson, Arolygwr ei Mawrhydi, wedi iddo arholi yr ysg-olion ar y oed o Orphenaf, 188Gf am ysgol y bechgyTT,—' The attainments here continue to deserve praise.' Ac am ysgol y merched, dywed,— r^"ie„ Department also continue in a very satisfactory condition.' JNiier twyaf ar y Uyfrau. Cyfartaledd wythnosol. Bechgyn 23& 161 Merched 189 94 Plant bach.. 143 Ysgol nos 240 i2i 808 4.A7 Y mae cyfeisteddwyr yr ysgol hefyd yn dyweyd fod yr ysgol mewn llawn hwyl yn gWeithio, a bod v meistr a r leistres, y bechgyn a'r lodesi, yn teilyngii y clod rnwyaf, ynghyd a'r ddwy fei3tres sydd lir ysgoly babanod. Y mae yr ysgol hon dan nodded ei Mawrhydi y Erenines Victoria, & -il.ywJrsog' a Thy-wygoges Cymru, ac y mae Syr Watkin yn anfon yn ilynyddol ei ddeg piint tuag at ei chynnal. Hefyd y mae llawer o'r Cymry-Eglwyswyr-Yll cyfranu y swm lllp. 14s. 6c. rhyngddynt tuag at.^yr un dyben. Mawr lwyddiant iddynt yn eu gwaith. Wrth hyn gwelir yn amlv/g", er fod nifer aelodau yr Eglwys Gymraeg yn ychydig ae heb gynhyddu dim 0 r: am- ser y dechreuodd ond hytrach lleihau yn y dref gan nad oes iddynt ond un lie o addoliad tu fewn i'r dref, ac fe allai mai yn hono y ceir y gynnulleidfa leiaf o Gymry, eto, y ma.ent wedi gwneuthur mwy nag un gynnulleidfa arall o Gymry tuag at roddi addysg ddyddiol i'w chydgenedl. G-welais weal ei gyhoeddi inewn papur yn ddiweddar, a chlywais lawer un yn gwawdio ac yn chwerthin am ben nifer feciian cjnnulleidfa Eglwvs Gymreig St. X)a^"ids, Liverpool, ond y mae yn llawn bryd erbyn hyn crio cywilydd ar y brodyr Ymneillduol, y rhai sydd ganddynt dros ugain o leoedd addoliad o fewn ac yn nghyffiniau y dref, ac eto, heb yr un ysgol ddyddiol yn per-thyn^iddynt,,o'r amse-r y dechreuasant yn y flwyddyn 1/87, namyn un, yr hon a godwyd gan y Trefnyddion Cftlfinaidd, tua 25 mlynedd yn ol, vn Prince Edwin Street, end y mae hono wedi marw" o nychdod er's rhai blynyddau bellach, fel nad oes y dydd hwn yr un ysgol yn perthyn i'r Ymneillduwyr yn Liverpool. Wel, chwareu teg eto i gynnulleidfa fechan yr Eglwys Sefydledig am godi a chynnal ysgol mor fawr a llwyddianus am dros 64 mlynedd. Tebygol yw y cyfyd yn meddwl llawer o ddar- llenwyr craffns y cwestiwn hwn,—Pa le y mae plant tlodion yr Ymneillduwyr yn cael eu dysgu ? Afcebaf, Yn amser fy nyddiau ysgol i nid oedd ysgolion rhad ond Moorflelds "neu ysgol yr Hen Eglwys, ysgol Hunter Street, St. James Road, ac ysgol y Cymry yn Russell Street. Ac yr oedd yn perthyn i'r Eg- lwys, ac i'r Eglwys y byddai'r ysgoleigion yn myned ar y Sabbath hyny fyddai telerau yr ysgolion hyn. Gwir i lawer Ymneillduwyr rwgnach yn dost yn erbyn hyny; ond yr wyf yn honi nad oedd ganddynt le na hawl i hyny, gan mai Eglwyswyr oedd yn eu cynnal yn ddidreth i'r trigolion. Hefyd os oeddynt hwy yn ymddiried addysg eu plant am chwe diwr- nod, pa reswm sydd nad allent eu hymddiried ar y Sabbath '< Yr oedd hefyd ysgol yn Byrom Street yn perthyn i'r Bedyddwyr, a byddai raid i'r plant fyned i'r capel hwnw ar y Sabbath. Ysgol hynod o lewyrchus oedd hon, ac yn cael edrych drosti yn fanwl gan Mr Samuel Hope, y Bancer, tra y bu efe byw. Hefyd, ysgol capel yr Unitariaid, Paradise Street, yr hon oedd y tu cefn i'r capel yn Manesty Lane, a'r hon yn awr yw y Colloseum. Ystyrid yr ysgol hon yr amser hyny yr oreu oil o'r ysgolion rhad, a llawer Cymro a gafodd ei ddysgeidiaeth yn- ddi. Gweinidog y lie oedd y Parch. John Yates, gwr dysgedig, acun hynod o haelfrydig yn enwedig i'r Cymru, ac un o'r pleidwyr cryfaf am addysg i'r werin. Yn wir, felly y mae braidd holl Unitariaid a Chwaceriaid Liverpool. Tad ydoedd y Parch. John Yates i Mr Yates a wnaeth Princes Park, ac a rocldodd ddigon o dir i Dr. McNeile i adeiladu yr Eglwys yn y Park, lie y bu y Dr. yn gweinidogaethu, am gymmaint o llyn- yddau. Meibion iddo efe oedd Mri J. B. Yates a J. A. Yates, y rhai oeddynt bleidwyr da i addysg y werin yn enwedig. Mab' arall iddo ydoedd James Yates, M.A., yr hwn sydd yn rhoddi dau gant o bunnau i unrhyw fachgen o ysgol y Liverpool In- stitute (Mechanic, gynt) a wna raddio yn Master of Arts' yn y London University. Bachgen o Gymro, aelod eglwysig ac o Ysgol Sabbathol Rose Place, oedd y cyntaf i enill y wobr. Aeth i'r Insti- tution yn naw oed, y dydd cyntaf yr agorwyd ef, a dechreuodd yn yr ysgol isaf, ac yn mhen tair blyn- edd efe oedd yr ysgolhaig goreu yn yr ysgol, yr hyn sydd yn rhoddi hawl i hwnw fyned i'r ysgol uchaf fel gwobr, am yr un bris a'r ysgol uchaf. A chyn pen y flwyddyn aeth yn ben yn hono, a derbyniodd wobrwyon yn mhob dosparth a ddysgir yno. Aeth oddiyno i University College, Llundain, ac yno der- byniodd 16 o wobrwyon; ac yn y flwyddyn 1848, grarldi-ocld yn B.A. yn y dosparth uchaf, ac hefyd yn yr arholiad Ysgrythyrol, yr hyn a ofynai iddo fod yn hyfedrus yn yr iaith Hebraeg, Paley's I Evi- dences,' a hanes Ysgrythyrol, heblaw yr hyn a ofynir i raddio yn B.A. Wedi hyny graddiodd yn M.A., ac o hyny hyd yn awr parhau y mae efe i fyned rhagddo i gynnyddu; a barn gyffredin, y Saeson a'i hadwaenant, yn ol fel y clywais gandclynt yw, y bydd efe cyn hir, os caiff hoedl a iechyd, nid yn unig yn un o enwogion bechgyn Cymry Liver- pool, ond hefyd yn un o enwogion y deyrnas. Ydwyf, Foneddigion, Yr eiddoch yn gywir, ROBT. HERBERT WILLIAMS. Corfandy, Pont Menai, Tach. 7, 1868,
YR YMWELIAD A CHYMRU.
YR YMWELIAD A CHYMRU. LLYTHYR II. At Olygwyr y TYST CYMEBIG. Foneddigion,—Y mae adferiad cysuron wedi un- waith eu colli, neu wedi bod am amser mewn ymddi- fadrwydd o honynt, yn dwyn mwy o gysur sylwedd- ol i'r galon, na mwynhad gwastadol a difwlch o honynt. Y mae llawenydd a chysur y morwr, yr hwn a fu am fisoedd yn ymladd yn erbyn ystormydd mawrion, yn llawer mwy wedi cael yr hen ddaear gadarn o dan ei droed, na'r dyn na symudodd gam -erioecloddiardirgwla(leienedi(ra,eth. Y mae teiml- ad y dyn a adferwyd i iechyd, a'r hwn y bu ei feddygon yn ofnus am dano, yn llawer mwy ded- wydd na'r hwn a fwynhaodd iechyd gwastadol ar hyd ei oes. Yr oedd gorfoledd mwy yn y teulu pan ddaeth yr afradlon adref, am yr hwn y meddyliwyd ei fod wedi marw er's amser maith, na dim a deiml- wyd yn nghymdeithas y mab hynaf yr hwn a fu yn wastadol yn nhy ei dad. Ac y mae y sylw hwn yn eithaf prioclol am deimlad y dyn a yinweload a gwlad ei enedigaeth wedi bod yn alltud absenol o honi am yn agos i ddeuddeg mlynedd. Y mae yr ymweliad iddo ef fel adferiad iechyd wedi cystudd maith, ydyw, y mae yn ail i adgyfodiad oddiwrth y meirw. Teimlad ydyw hwn sydd hawddach i'w ddychmygu na'i ddisgrifio, ac nis dichon neb ei ddychmygu ychwaith, ond y pronadol, a gwir garwr ei iaith, ei genedl, a'i wlad. Yr oedd y teimlad hwn yn fyw a theimladwy yn fy mynwes yn fy ymweliad a hen wlad fy ngenedig- aeth. Gwlad beddrod fy hynafiaid, a gwlad ym clymwyd wrthi a mwy na deng mil o gadwynau, y rhai nas gellir eu datod yn y byd hwn, nac yn yr hwn a ddaw. Yr oedd y cyfueividiadau a gymerodclle yn y wlad yn destyn syndod i Nid ydyw y sawl sydd yn nghanol y cyfnewidiadau, yn eu canfod mor amlwg, am eu bod yn dyiod yn mlaen yn raddol, ac megys yn ddi- arwybod iddo, ond i'r ymwelydd, y maent yn eyd- ymddangos i'w olwg ef meg-ys ar unwaith, nes y mae yn gorfod dywedyd mewn syndod Yr hen beth- au a aet/urnt keildio, qvele, pob peth 0'1' newydd.' Yr ydwyf yn cofio Cymru yn dda er's mwy na deugain mlynedd, ond nid y Cymru oedd y sydd yn awr, y mae yn wir fod ei mynyddoedd uchelfrig, ei moelydd gwelltog a'i dyffrynoedd pryd- ferth, yn nghyda'i hafonydd grisialaidd yn debyg fel cynt, ond am orchestion ei chelfyddydau, a sefyll- fa ei phreswylwyr y maent bron i gyd yn newydd, a chynulleidfaoedd newydd. Y mae yn Liverpool bedwar o acldolotai newydd gan yr enwad cynulleid- faol, ac un arall cyfleus a helaeth yn Birkenhead dan ofal y Parch. H. E. Thonas. Ymddengys fod yr hen Dabernacl yn cael ei aflonyddu gan swn olwynion cerbydau a chynwrf masnach, ond yn ben- af gan aflonyddwcli y GwyddelodPabaidd oedd wedi ei amgylcbu o bob cwr, ond adeiladwyd addoldy arddercliog yn ei le, ac yn mhell oddiwrtho, sef yn Netherfield Road, dan ofal y Parch. J. Thomas. Yn lie Salem, yr hwn oedd yn gyfyng i'r gynulleidfa, adeiladwyd addoldy ardderchog yn Grove Street, dan ofal y Dr. William Rses. Symudodd yr eglwys yn Bethel i'w haddoldy mawr a threfnus yn Park Road, dan ofal ei gweinidog y Parch. N. Stephens. Ac y mae addoldy newydd hefyd yn Great Mersey Street, dan efal y Parch. W. Roberts, yr hwn sydd mor gyfleus a hardd, er nad mor helaeth, a'r un yn y ddinas. Yr oedd gweled y fath gynydd a symud- ladau er gwell yn destyn syndoi a llawenydd mawr 1 HU" i.. •1?aci em cenedl a'n henwad yn cynhyddu mewn rhifedi, cyfoeth a liaelioni. Giwelais olwg wahanol arnynt yr amser yr adnabyddais hwynt gyntaf. Pregethais yn y Tabernacl yn achlysurol am flynyddau yn amser gweiniaogaeth y Parch. J. Breeze, ac yr oeddwr yno hefyd yn ei gyfarfod ym- adawol. Cofus genyf am hen gapel Greenland Street, dan ofal y diweddar Barch. J. Jones, riiag*- fiaenydd fy mrawd anwyl a hoff y Parch. T. Pierce. Y maent hwy wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, ac eraill a ddaethant i'w gwaith a'u llafur hwynt. Y mae y cynulleidfaoedd hefyd wedi newid. Nid oedd yno ond ambell un a adawyd i adrodd banes ymadawiad y rhai a aethent yn mlaen. Yr rdwyf yn credu y gellir priodoli llwyddiant a chyn- ydd yr eglwysi Cynulleidfaol yn Liverpool, yn benaf i haelioni, doethineb, a Ifyddlondeb y diaconiaid sydd yno. Y maent yn esiampl mewn gweithgar- wch, i holl swyddogion yr eglwysi yn Nghymru ac America. Gallwn eu henwi, ond rhag ofn yr ang- hofiaf ryw un o honynt, gwell genyf ymatal. Gwyn yn fyd yr eglwysi a'r gweinidogion a gant ddiaconiaid fel y rhai hyn, a gwyn eu byd hwythau pan y gelwir y gweision adref ac y rhoddir iddynt eu cyflog. Wedi treilio un Sabboth, a thraddodi darlith nos Lun, ar Fywyd ac Amserau Abraham Lincoln, aeth- ym drosodd i Gymanfa swyddi Dinbych a Eflint, yr hon a gynaliwyd yn addoldy y Coed Poeth ger Gwrecsam. Cefais dderbyniad croesawgar yno gan y Gynadledd. Nid anghofiaf byth y teimladau cynes a ddangoswyd tuag ataf. Ceisiais bregethu yno dan radd o wendid corfforol, a chollais y rhan fwyaf o'r odfeuon o dan effeithiau y cryd. Yr oedd y gwein- idogion yno yn eu llawn hwyliau, a dylanwad nefol yn clilyn nerth y weinidogaeth. Yr oedd yno bre- gethau gwerth myned o bellafoedd gv/lad y gorllew- in i'w gwrando. Nid yclyw y weinidogaeth yn Nghymru wedi colli dim o'i nerth, ac o bob man o dan dywyniad haul, Cymru am bregethwyr, ond mentraf grybwyll gyda llaw mai y perygl mwyaf i'r weinidogaeth yw, codi mwy o bregethwyr nag sydd o leoedd iddynt i w-einidogaethu. Y maeInwy o bregethwyr yn cael eu codi nag sydd o faesydd iddynt lafurio. Y mae llawer mwy yn gwregysu yr arfau nag sydd yn eu diosg. Mwy yn dechreu byw yn y weinidogaeth nag sydd yn marw ynddi. Y perygl yw i'r blwydd ladd y ddwyflwydd. Y fedd- yginiaeth rhag hyn fyddai codi llai o rifedi o bre- gethwyr a rhoi gwell manteision dysgeidiaeth i'r sawl a godir, neu yn hytrach deucd y sawl sydd alluog ac awyddus i bregethu drosodd i America. Y lnae yma ddigon o golegau parod i'w derbyn, a. digon o ddynion cyfoethog a galluog parod i'w cy- northwvo. Byddai yn drugaredd anfeidrol i'r Saes- on a'r Americaniaid gael Bechgyn Cymru, wedi eu haddasu mewn dysg, ac yn llawn o deimlad Cvmro a chynesrwydd calon Cristion i dori iddynt o fara'r bywyd. Mi gymeraf fi fy llw na chlywodd eu clustiau erioed yfath efengyl. Bum yn Ninbych fwy nag unwaith ar fy ymwcl- iad. Treuliais ddau Sabboth yno, a phregethais yn yr hen areithfa lie y treuliais y pedair blynedd ar ddeg- dedwyddaf yn fy mywyd. Cefais bob serch- ogrwydd a charedigrwydd yno. Y mffurfiocld pwyll- gor yno i gynorthwyo y Dysteb a wneir i mi yma yn America. Yr ydwyf yn wir ddiolchgar i'r trysor- ydd Mr J. Robinson, a'r ysgrifenydd Mr Evan Thomas, yn nghyd a'r pwyllgor gweithredol am ou ffyddlondeb yn yr achos., Gwnaethant yr oil a all- asent wneuthur o dan yr amgylchiaclall: Yr aohos penaf na buasai yr anturiaeth yn fwy llwyddianus oedd am nas gallaswn hebgor yr hyn a dderbyniwn am fy llafur gan yr eglwysi tuag at y Dysteb, oblegid fod treuliadau teithiau y fi a'm mab mor fawr ar dir a mor. Yr oeddwn hefyd yn gorfod cynal fy nheulu gartref, am fod fy nghyflog yno yn myn'd i dalu cyflog y gweinidog- a fu yn pregethu yma yn fyabsenoldeb. Yr ydwyf yn cldiolchgar i bawb a ddangosasant gydymdeimlad i mi yn mhob ystyr a man. Y mae rhai o ffyddloniaid Dinbych eto yn fyw ond y rhan fwyaf yn y bedd. Caraswn weled agwedd crefydd yn rhagorach yma nag ydyw. Y maent yn amddifaid o fugail, ond gan eu bod mor alluog i-gynal gweinidoga'r un eglwys ynNgogledd Cymru, dymunaf iddynt gael bugail yn fuan wrth fodd calon y Pen Bugail mawr. Gan fod fy llythyr wedi myned yn faith, a bod genyf ^ychwaneg i'w ddywedyd am Dinbych, dech- reuaf fy llythyr nesaf cyn ymadael oddiyno. Ohio. DAVID PRICE.
' ABEEDAE.
ABEEDAE. DR. PRICE AR YR ETHOLIAD DIWEDDAE; At Olygwyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,—Beth tybed y mae y Dr. yn fwriadu enill wrth gyhoeddi yr un pethau drosodd athrosodd yn y Sereu o barthed Yr Etholiad yn Llanwonno.' Naill a'i y mae yn hard up arno am ddefnyddiau, neu ynte y mae yn eeisio siwgro ei g-ydwybod. Un peth sydd yn ddigon eglur, y mae yn gwneud ym- drech galed i gamarwain darllenwyr y Seren. Ond nid oes y perygl lleiaf iddo wneud hyny a neb o'r etholwyr. Y mae pawb o honynt wedi gwneud eu meddyliau i fyny, a gormod gorchwyl iddo gyfnewid y farn hono. Prif amcan y Dr. ac eraill a anfonwyd i Mountain Ash dros Mr Fothergill, oedd edrych 'nad oedd y gofres yncynwys meirwon a paupers; Yr ydym yn gofyn pa angen oedd cyflogi tri o gyfreithwyr heb- law y Dr. Price at hyn o orchwyl ? Nid gwiw eeisio gwadunad person cyflogedig gan Mr Fothergill ydoedd y eyfreithiwr hwnw o Gastell- nedd, gan ei fod ef a'r Dr., yn nghyda'r frawdol- iaeth gyflogedig yn chwareu yr un tant. Ac nid gwell na thaflu llwch i lygaid y werinos ydyw dy- weyd fod cyfreithiwr yn myned o Gastellnedd i Mountain Ash, a threulio diwrnod neu ddau o flaen y Revising Barrister, ar ei draul ei hun! Gwyr pawb o honom nad ydyw cyfreithwyr yn arferol o. wasanaethu pobl eraill yn rhad mwy na Dr. Price, Aberdar. Ai nid gorchwyl perthynol i'r Overseer, a'r Relieving Officer, ydoedd symud enwau y 'meirwon a'r paupers' o'r gofres P Sut oedd yn ddichonadwy 1 r cyfreithwyr a r Dr. wybod am 'feirwon a paupers' Llanwonno P Rhaid fod darllenwyr Seren Oymrii yn fwy delphaidd na'r mwyafrif o blant Adda, yn ol barn y Dr. Price cyn ei fod yn beiddio cynyg y fath ftiloreg iddynt, fel eglurha'd, ac esgusawd am ei ym- ddygiad bawaidd yn Mountain Ash—-sef difreinio mil o etholwyr, am eu bod wedi addaw eu pleidleis- iau i'r Mri. Richard a Bruce—gan wrthod yn ben- dant wneud dim dros ddewis ddyn y Dr. Price. Saif busnes Mountain Ash yn ysmotyn cluannilcadwy ar gymeriad pawb fu a llaw yn y weithred iselwael hono. Sonia y Dr. fod gweinidogion yr Independiaid yn dial eu llid arno am ei bechodau hen a diweddar.' Yma cawn ef yn gwneud addefiad cyhoeddus, ond yn y man ceir ef yn amddiffyn yn bybyr yr hyn a eilw 'ei bechodau hen a diweddar.' 'Yr hwn a gy- facldefo ei bechodau ac a'u gadawo a gaiff dru- garedd.' Nid gweinidogion yr Independiaid sydd yn ym- osod arno, ond ei frodyr ei hun, a hyn sydd yn peri fod y Dr. yn teimlo mor ddwys yn y mater. Can belled ag wyf wedi cael allan nicl yclyw gweinidog- ion yr Annibynwyr yn gwneud y sylw lleiaf o hono, gan yr ystyrient ei achos yn uncurable. Y mae rhai gweinidogion y Bedyddwyr yn gorfod bod yn ddistaw pan fydd y Dr. yn codi ei Yais, a hyny am fod y deeds wedi eu tynu yn y fath fodd fel y mae yn anhawdd iddynt symmud rhyw lawer heb gapio cryn dipyn i'r Dr. Y mae y ffaith hon yn es- boniad fod rhai or brodyr yn ymlynu wrth y Dr. yn yr etholiad diweddaf. Y mae pawb yn eu tro yn dyfod o dan ddyrnod golygydd hynaws, caredig, diniwed, a duwiolfrydig Seren Cymru. I hyn yma y gellir priodoli bodolaeth Seren oleulawn Caerfyrddin :—' Am ryw ddynion cynhenllyd fel perchenogion a golygwyr y TYST,' ebe fe, bydded iddynt gablu fel (I or blaen-ni fydd hyny ond taflu halen ar gnawd iach.' Yn ofer y disgwylir wrth y Dr. Price, Aberdar, am gasau ei gnawd ei-hun. Mae y Dr., fel arfer, pan yn crybwyll am Mr Bruce, yn seboni Deheufardd, gohebydd parcnus, profedig, cymmeradwy, galluog, a geirwir y Faner. Gwell i'r gohebydd hwn edrych ar fod ganddo yntau lith ddoniol o ganmoliaeth i'r Dr Price yn fuan, onide, yn wir, y mae perygl iddo yntau syrthio yn ysglyf- aeth rhwng palfau y new o Rose Cottage. Mae v seboni mwyaf didor wedi cymmeryd lie rhwng- y ddau frawd yna dros amryw flynyddau, ac y mae y Dr. mewn angen gwyngalch a gwybydded Mr D. Bowen, os gwna oedi llawer yn hwy, nad oes yn ei aros ond cyllyll blaenllym golygydd y Seren yn ei gnawd o herwydd nid ydyw ei lygaid yn tosturio wrth neb ond ar yr ammpd eu bod 'nawrac eilwaith yn plygu glin o flaen ei fawrhydi, a gwaeddi Abrec, Abrec. Mewn attebiad i un o'i ohebwyr g-wellt o'r enw William Morgan,' gwna y Dr. Price y nodiadau graslawn a ganlyn: -I Nid gohebydd parchus y Faner a Dr. Price a fu yn achos o gadw Mr Bruce allan. Mae hyn i'w briodoli yn gyntaf oil, ac yn benaf, i Mr Bruce ei hun; ac yn ail, i'w gyfeillion projfescdig, yn mhlith y rhai y nodwn Mr Clarke, Dowlais, Mr Charles James, Merthyr, Mr Davis, illaesyffynoii, -,t Mr T. Williams, Penydarren. Dymay dynion a fu yn foddion i droi Mr Bruce allan ac i hyn, cawsant lawer o wasanaeth y Merthyr Express, y TYST, a'r IJydd, y rhai, wrth draethu celwyddar Mr Fothergill, a ladclasant Mr Bruce. Na, na, mae i Mr Bruce i ddiolch iddo ei hun, ac i'w gyfeillionpro- ffesedig, am ei safle yn yr etholiad. Ni fu neb yn fwy gonest ato na Dr. Price. Dywedodd y gwir wrtho yn y cyntaf, a daeth i ben arno fel y dywed- wyd.' Ni chawn ddyweyd dim yn bresennol am y gonest- riuydd y sonia y Dr. am dano. Bydd eich miloedd darllenwyr yn alluog i ffurflo barn am natur a rhyw- ogaeth y gonestrwydd mor fuan ag y cyhoeddir ei lythyrau cyfrinachol at Mr Bruce. Os gwrthoda y Dr. i Mr Bruce eu cyhoeddi, gall y darllenydd gasglu y paham. Cyfeillion proffesedig Mr Bruce wedi ei droi allan, aie yn wir! Nid ydym yn petruso dyweyd wrth olygydd Seren Cymru na luniodd y gelynddyn ei hun anwiredd mwy beiddgar, brwnt, enllibus, a disail na'r uchod. Prif achos aflwyddiant Mr Bruce oedd y chwedl ddisail ei fod yn bleidiol i'r double shift system, ac ni fu yr un person yn fwy diwydyntaenu yr anwiredd hwn yn mhlith glowyr y fwrdeisdref na Dr. Price ei hun 0 barthed y boneddigion uchod saif yr achos fel y canlyn. Ocldiar y cychwyn yr oedd Mr James, Merthyr, yn bleidiol i'r Mri Richard a Bruce, a gwnaeth hyn yn hysbys drwy y wasg ac ar yr es- gynlawr. Efe oedd cadeirydd pwyllgor Mr Richard yn Merthyr, yr oedd hefyd yn bresenol ac yn cym- meryd rhau yn nghyfarfodydd cyhoeddus Mr Bruce. Y sgrifenodd amryw lythyrau meistrolgar i'r wasg yn profi anghymhwysder Mr Fothergill i fod yn aelod Seneddol. Gwir iddo ddwyn i eglurder amryw ffeithiau pwysig mewn cysylltiad a'r truck shops, a phwy mor gymhwys at y gorchwyl a Mr James, gan mai efe oedd y Cyfreithiwr a gyflogwyd gan y Dr. Price ac eraill i gosbi Mr Fothergill am gadw y siopau hyn. Trodd y Dr. cyson ei gefn yn nydd y frwydr, a pharhaodd Mr Fothergill hyd o fewn mis i'r Etbol- iad, i fasnachu mewn te, a siwgr, halen, a hoelion, ac yn y blaen. Am Mr Clarke, Dowlais, nid oedd sicrwydd paun ai Fothergill ai Richard a fwriadai gefnogi, hyd o fewn dau fis i'r Etholiad, pan y datganodd ei farn yn un o'r llythyrau galluocaf a ymddangosodd oddi ar y cychwyn. Wedi traethu yn helaeth ar gym- hwysderau cymharol y Mri Richard a Fothergill, dywedai fod ei gydwybod yn gogwyddo at y blaenaf, a'i fod o angenrheidrwydd yn rhwym o'i gefnogi. Y mae achosion Mr Davies, Maosyffynnon, a Mr Thomas Williams, Penydarren, dipyn yn wahanol i'r boneddigion uchod. Ni ddarfu i Mr Davies na Mr Williams gymmeryd rhan yn un o gyfarfodydd Mr Bruce,—darfu iddynt trwy gyfyngu eu hunain yn gwbl i Mr Richard—cael Mr Richard i mewn yd- oedd eu prif bwnc hwy, ond darfu iddynt hwy yn ogystal a'r ddau foneddwr arall roddi eu pleidlais dros Mr Bruce. Pa unai yboneddigianhynwrthroddi eu pleidleisiau i Mr Bruce, neu y Dr. Price wrth ei hatal oddiwrtho, a fu yn offerynol i daflu Mr Bruce allan ? Beth feddylia y darllenydd 0 logic y Doctor mawr 0 Aberdar, a Golygydd galluog Seren Cymru—Onid ydyw fel efe ei hun ? Yr eiddoch, CYDWYBOD EI-TRO.
GYFARFOD CHWARTEROL MYNWY.
GYFARFOD CHWARTEROL MYNWY. At Olygwyr y TYST CYMREIG. ci Foneddigion,- Y n eich rhifyn o'r TYST am lonawr 15fed, 1869, gwelaf, er fy llawenydd, fod cyfarfod chwarterol Mynwy wedi cyduno ar y penderfyniad canlynol:—- Ein bod o'r fam y dylid cael cyfnewidiad yn nghyfraith y priodi, fel ag i ganiatau i weinidogion Ymneillduol i weinyddu priodasau heb gymhorth y cofrestrydd, ac fod deisebau i gymhell hyn ar y Senedd i gael eu hanfon i ofal Mr Henry Richard, A.S." Nid wyf yn tybied fod angen. o gwbl am ddef- nycldio unrhyw resymau dros briodoldeb anfoniad deisebau o'r fath. Y mae yr insult parhaus deflir ar weinidogion Ymneillduol, trwy beidio a'u hawdur- dodi i gofrestru priodasau, yr hon awdurdod roddir i weinidogion yr Eglwys Sefydledig, ynddo ei hun yn ddigon i gynhyrfu pob Ymneillduwr i ddal ar y cvfleusdra cyntaf o gyfarfyddiad y Senedd newydd i ddwyn ger ei bron yr angen cyffredinol a deimlir gan bob enwad Ymneillduol am symmudiad yr hen grievance hwn. Gan hyderu y cymmerir y mater i fyny yn nghol- ofnau y TYST, a lliaws newyddiadur Cymru a Lloegr, er symbylu yr holl wlad i anfon deisebau i Dy y Cyfrredan, nes yn y diwedd lwyddo i gael gweini- dogion Ymneillduol yn registrars priodasau, y ter- fynaf. v Yr eiddoch, &c., J. FARR. Croesoswallt, lonawr lleg, 1869.
TALYBONT, GER CONWY.
TALYBONT, GER CONWY. At •Olygwyr y TYST CYMREIG. Meistri Gol.,—Mae llawer 0 ddynion yn y byd yma yn cael mwy o sylw nag a haeddant, ereill yn cael llai nag a ddylent. Yr wyf yn gweled llawer iawn o betha u ac eisieu eu diwygio ond nid wyf yn gallu gwneud ond ychydig at hyny. to Digwyddodd i'm llygaid ddisgyn yn fy nhro, a chanfyddais ryw air neu ddau o ddechreu ymgec- raeth, am wn i, mai peth felly. Codi rhyw gyf- reithiwr o Conwy, a threio darostwng J. R.—nad oedd wedi gwneud dim yn yr etholiad diweddar (sef J. R) ac mai Mr Cyfreithiwr, allaswn dybio, oedd wedi gwneud y cwbL Ond iawn bwyll, Mri. Gol., dyma ffeithiau ddaw allan yn a.vr. Awd o'r ddau blwyf yma, Llanbedr a Chaerhun, dros 80 o etholwyr, a hyny yn benaf trwy weithgarwch Mr Pritchard, New Castle, a bu J. R. gydag ef yn gweithio ei oreu, ac mewnmanau ereill yn gystal ag yma. Fe allai fod gan y cyfreith- wyr o Conwy ddylanwad ar rai o'r etholwyr. a'r rhai hyny,afe allai, o'r dosbarth helwriaethol. Ond y gwir yw, a'r ifaith fawr yv., mai i Mr. P. mewn rhan helaeth, a helaethach na neb arall, y mae yr oruchaflaeth yr ochr hon i'w phriodoli, a hyny am ddim. Gweithiodd yn egniol ar air a gweithred, heb dderbyn dimai o dal gan neb. Nid ai i ymhelaethu, ac i organmol neb dyn. Y mae y dyn hwn yn haeddol felly namyn neb yn yr ardaloedd. Bu bedair neu bum gwaith ar ei draul ei hun—tair gwaith yn Maenan, pellder o 9 milldir o'r lie mae yn byw—yn Trefriw, Roewen, a manau ereill rhy faith i'w henwi. Ond yn wir, mae yr ardal wedi talu teyrnged o barch iddo, trwy fyny ei gario, a chanu iddo, fel y medrai ein beirdd ni yma. Gan hyny, Mri. Gol., dyna ddigon ar hyn o bryd Cewch ragor y'tro nesaf. Ydwyf, Htrw MADOG.
Advertising
HUYTON PARK CO L LEGE H FOR LADIES. ESTABLISHED 15 YEARS. Mrs. BAILEY, of London, and Mad'lle DACKICOURT, diplomee de rumYersite France (successors to the late Mrs. Williams-) Will RE-OPEN the Establishment on the 29th Pupils are prepared to pass the Examinations ot University of Cambridge and the Royal College 01 certors.-Prospectuses on application. CLWYD BANK ACADEMY, RUTfiX^- HEAD MASTER—MR. J. D. JONES, A. E, C. P- RESIDENT ASSISTANT- ,■ MR. G. MACDONALD WILLIAMS, M. A. Music—MR. W. IGXATIUS ARGENT, Prof- PUPILS thoroughly qualified for Commercial persuits, for Matriculation at the London Umve sity, or for the Government Examinations. iqS9. The next School Session begins January 27_th, 1 ,.g Terms, References, &c., to be had on application to Head Master. LLYFRAU, &c.-BOOlrS,&C. I'W GAEL YN SWYDDFA "Y TYST," 19, 22, 23, Chapel Walks, South Castle St. LIVERPOOL. LLYTHYRAU CYMMERADWYAETH LWYSIG.—Cant o Lythyrau mewn un Llpr ffurf Cheque-Boole. ArgreffLr enw pob Eglwys bob Llythyr yr anfonir am un ac uchod o'r Llpr hyn. LLYFRAU YR YSGOL SABBATHOL. LLYFRAU A. B. C. ar Bapur glas cryf Pris |-C- J1 un. LLYER CYNTAE I DDYSGU SILLEBU A DART^ Pris lc. yr un, neu 8s. y cant.. Llyfr yr ail r ddysgu Sillebu a Darllen Pris y c'ant, plyg mwy 128. y cant. f Llyfr y trydydd i ddysgu Sillebu a Darli j Pris 8s. y cant, plyg mwy 12s y cant. DUWINYDDIAETH: Yn cynwys Traethodau ar Wybodaeth Dduwinyad- ol, Rhagluniaeth, a Gwaith yr Ysbryd Glan, o .g y Parch. N. STEPHENS, Liverpool. Rhan I., P 6ch. Y LLENOR: Sef Traethawd ar Gymru a'r Cymdeithasau yddol. Pris Is. THE CKUECH OF ENGLAND IN WALES: In Seven Letters, addressed to the Right Hon- E. GLADSTfNE, M.P., by the Rev. W. REES, Liverpool. Also a Letter, on the same subj addressed to the Editor of the Morning Star, J H. Richard, Esq., M.P. Price 4d. C0FIANT, PEEGETHATT, A NODIADAU y Parch. W. THOMAS, Beaumaris, yn nghy Darlun. Pris 2s.nifl TEAETHODAU, PEEGETHATT, AC EGLUEIAP* YSGRYTHYROL, gan y Parch. J. THOMAS, LI^6 pool. Pris 4s. 6ch. NOTICE TO ADVERTISERS. "Y TYST CYMREIG," (THE WELSH WITNESS) A GENERAL NEWSPAPER & ADVERTISl^ MEDIUM FOR NORTH AND SOUTH WAL^ Published every Friday Morning, And widely circulated in every part of the pality, and among the Welsh inhabitants of L1 pool, Birkenhead, Chester, Manchester, Shrew stu Birmingham, Bristol, London, &c. It is THE ONLY WELSH NEWSPAPER PUBLISH*# ENGLAND. There is a population of about 70,000 WELSH DENTS IN LIVERPOOL. SCALE OF CHARGES:— Parliamentary Notices, Election Addresses, Companies, Law Notices, Auctions, and laneous, 3d. per line. Six insertions of ditto, i third off; twelve ditto, one half off. Co-atinill Advertisements subject to special contract. ■■ N.B.—ADVERTISEMENTS RECEIVED AFTER O'CLOCK ON WEDNESDAY, CANNOT APPEAR IN THE ISSUE. Advertisements may appear in TVelsh or Enghs/lr, desired, at the same rate. ORDERS FOR PRINTING BOOKS, PLACA#^ HAND-BILLS, CARDS, &C., IN WELSH OR ENG^ PROMPTLY ATTENDED TO. Offices: 19, 22, & 23, Chapel Walks, sout) Castle-street, Liverpool. "Y TYST CYMREIG" IS the best advertising medium for BOOKS. At Seven Hundred Ministers, Preachers, and dents, and Several Thousand Deacons and Su°. School Teachers, are among its constant readers. Y TYST CYMREIG" TTTILL be found most useful to advertise W ING SOCIETIES, LIEE AND EIRE SURANCES. The Welsh are noted for their fra and provident habits. "Y TYST CYMREIG" CANNOT be surpassed for advertising EMIG TION COMPANIES and AGENTS, as thousands lea,ve Wales annually for America, ralia, and other foreign countries; and it is ? tile lated that there are 400,000 Welsh residents 111 peif United States, many of whom pay a visit to mother country every year. "Y TYST CYMREIG" T Si* 11 IfUST be the best organ to advertise for ol IVI HOUSE SERVANTS, either from direct from the country. There are no «jr- 2000 Welsh House Servants in Liverpool and kenhead. i d# Also, WELSH HOUSE SERVANTS coiU«■ no better than advertise for situations in this P as it is taken by the best Welsh families. "Y TYST CYMREIG" TS the BE ST WELSH P-A-PERtoldv 1 Agricultural Implements, House Furniture, Drapery and Grocery Goods, Sales and Auctions, Houses to be Let or Sold, Schools and Public Institutions. And all other things useful to be made pu Offices: 19, 22, & 23, Chapel Walks, » Castle-street, Liverpool.