Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
PA FODD Y BU?
PA FODD Y BU? »/t^rtnn<jra'som olwg yn un o'n rhifynau di- VR, al ar y PETH a fu—y peth a wnaed yn Vmi, .ru yu yr etholiad diweddar, priodol p. et°> pa fodd y bu, pa fodd y gwnaed y T mae ateb yr ymofyniad yna angenrheidiol nag ydoedd y k'WriW' oherwydd Jbod gan ymhonwyr ys • Ql^nc(^ allan i'r byd wedi yr amser yr loll a!Tyd Jr Crthygl h?n°'. 1 goeghawlio yr y am y gwaith iddynt eu hunain, l nad oedd ganddynt y sail leiaf, mewn onedd, i adciladu eu twr o hunan-glod rth cldarllen y rhifyn diweddaf o'r ^wi1wJ 7 Liberator, teimlem yspryd Jonathan, mab Saul, pan e-y?ena(lur anynad a sarhaus-frwnt hwnw %dr11 t^Wr(^° yn atgas un diwrnod, am ei 'AJ °U<^e^ ar(^dercliog yn amddiffyn Dafydd. ^than aeth allan mewn digter llidiog,' t, 61 dd yr banes; ac nid ymddengys y tywysog 0 yieddug hwnw yn fwy tywysogaidd ac ytr^ ^niun ^gylohiad o'ihanes nag yn D* Canys drwg oedd ganddo tros ^th 'i, mec^ yr ysgrifenydd Sanetaidd. I 4yn 1 0(1(^vyd y gallu i yirddigio yn natur kJ 08 ymddigia yn wyneb trahausder ^edrK ,tac°0gaidcL Hona Golygydd y Cy- §oc • Seisnig a nodwyd, mai y Liberation a wnaeth yr holl waith yn ac mai iddo ef, y Golygydd, Caryel ^dd mewn gwirionedd y mae'r holl glod f^e<^US l^yw bapur ar Gynnrychiol- ^niru a gyfansoddodd ac a ddarllenodd rbynv gyfarfod, ryw bryd, mewn a waaet^ y gwaith. Yr oedd yn 'Na Cymry yn salcd yn y ?aPur }iwnw> 0j am adael eu cynnrychiolaeth Senedd- jjjj y cyfhvr yr oedd hi ynddo. Dywed 1>r Cymry oedd yn bresenol yn y cyf- }>ej. ^wnw, chwarae teg iddynt hwythau ^dd a y driniaeth chwerw a ye iddynt, yn bur ddiddig; ac iddi yn •^niad gad ei heffeithiau priodol arnynt, YDia o hyny oedd y ffrwyth a ddyg- Petl' etholiad diweddaf. Wrth ddarllen y N u hyn yn y coeg ymhomvr dirmygus, yr Cy^ Yu rhwydd i addef ddarfod i ni gael ein (}¡ I ddigter llidiog mewn gwirionedd, yn M {ellJ nes y taflcm y corgi- gyhoedd- (i°11 Haw mewn dirmyg. Gwnawn ni Y peth a fynom, rhaid i'r Sais gael ein :11, an dirmygu, fel y mae wedi bod wrthi ob achlysur, mewn gwahanol bapurau, yqe4 y blynyddau diweddaf. Edliwid i ni r th De .[ein cynnrychiolaeth Seneddol gyda I 'Ld dirmygus yn wastad ganddynt; ac an3Ser gwaethaf ami, yr oedd yn llawn stal ) yn ol cyfartaledd, ag ydoedd cynnrych- dw Lloegv. Yr oedd mwy na hanner y cui°lwyr Cymru yn lihyddfrydwyr yn etledd o'r blaen, nid oedd Lloegr un mym- O^Yi in • • • • II blaen yn hyn. Edliwiai ein har- Seisnig i ni, ein bod yn rhy ddistaw, hjjyg ddioddefgar, &c., ond pan y dechreuem d^o^yd a llefaru, dwrdient ni i dewi. Pan ft j, e^°dd y llythyrau at Mr. Gladstone ar W "Wladol yn Nghymru ymddangos 0 gwgai ein meistriaid arnom, amryw a'r dynsawd Carvel yn eu mysg, i ^Wf 311 a bod yn ddistaw, ac ymddengys t^Udrlv icldynt fFromi yn aruthr, na buasid yn de|j .au i'w hewyllys Ni ddylai y Cymro, 5^ i, symmud na bys na llaw, na throed 0 bQ^°^' ond fel yr archo ei Sais-feistr iddo f re^ur 0 hilgerdd Adda, y Sais yw y llH ^aerlhig ac annioddefol; ac nid yw yn ei enw yn gas gan bob cenedl y daeth efe erioed i gyffyrddiad a hi. y tt 80111 ^cnhadwr o India yn dyweyd, mai y i <1Wsedd a'r haerllugrwydd Seisnig tuag at Z, 0llon yn°, ydoedd yr achos gwreiddiol, y^0 yr unig achos o'r gwrthryfel ofnadwy ol ei fod, mewn gwirionedd, yn annioddef- a ^Wacd' ac felly y mae e^e yn m^ic,b fG e^°' hyd on^ chyfoder yn ei erbyn, C^1 f. 3X0 yn ddannedd, cyn y gellir kyd arno. Y mae y Gwyddel C«tc{0 hyny er's talm, ac y mae yntau yn 20 ') ilt Q 1 l' Gwyddcl yn awr fe wna bob peth el> ac i'w wlad, wedi iddo weled na 111 ir efe mo'i sathru ganddo tan ei draed. Yr ydym ni, y Cymry, wedi iddo ein sarhau a'n dirmygu, yn cymeryd y cwbl yn ddistaw, ac y mae hyny yn peri iddo yntau fyned rhagddo waeth-waeth. Y mae yr elfen Seisnig hon yn gref yn llywodraeth ein gwlad, ni fyn hi symmud un gorthrwm nac anghyfiawnder, nes y cynhyrfo y bobl hyd at fin gwrthryfel. Ni chlywsid eto air o son am ddadgysylltu a dadwaddoli yr Eglwys yn Iwerddon, mwy nac yn Nghymru, oni buasai i Iwerddon derfysgu a bygwth gwrthryfel; o herwydd bod Cymru yn dawel dan yr un trawsedd yn hollbl ac yr oedd yr Iwerddon, ni sonir byth air am ym- wared iddi hi. Y mae hi'n dawel, gadawer iddi. Y gwir yw, nid yw Mr. Gladstone ei hun, wedi codi yn uwch yn ei syniad na hyn eto, fel y profai ei araeth yn Ormskirk yn ddi- weddar. Y mae amser tewi Cymru wedi myned heibio bellach; y mae hithau wedi dechreu llefaru yn groch hefyd, a hi a lefara yn uwch eto; y mae ganddi dafodau a allant lefaru yn groew trostiyn y Senedd yn awr. Ewyllysiem roddi ar ddeall i'r Liberator a'i Olygydd, y buasai cynnrychiolaeth Cymru y peth ydyw heddyw, pe na ddodasai y Libera- tion Society, a Carvel Williams, wadn eu troed ar ei daear hi erioed. Yr oedd meddwl a chydwybod Ymneillduwyr y Dywysogaeth yn oleuedig ac arg'oeddedig ar bwnc y dadgysyll- 0 ny tiad o'r blaen ac yr oedd egwyddorion y pwnc hwnw wedi eu dadleu a'u taenu yn ein mysg i raddau helaeth, cyn i'r byd erioed wybod am enw Edward Miall. Yr oedd meddwl y werin yn barod ond eisiau amser cyfaddas oedd arno. Yr oedd y pwnc o ddadgysylltu a dadwaddoli yr Eglwys yn Iwerddon, yn bwnc a darawodd galon Cymro, nes ci gwefreiddio trwyddi, yn fwy felly nag y gwnaethai un pwnc gwlad- yddol arall, ac heblaw hyny, cafodd allan ddynion wrth fodd ei chalon, o honi hi ei hun, i ddyfod allan yn ymgciswyr am ei chynnrych- iolaeth yn y Senedd, a'r ddau beth hyn J n nghyd a'i cododd allan fel un gwr yn mron o Gaergybi i Gaerdydd, ac nid eisteddodd i lawr nes sicrhau buddugoliaeth ei dynion. Dyna'r C, y fel, a'r modd y bu, ac y gwnaed, yr hyn a wnaed yn Nghymru, gwaith a fuasai wedi ei wneud yr un mor effeithiol, pe na buasai yr un Carvel Williams wedi ei eni i'r byd erioed. Ni raid i'r gwr hwn ond edrych gartref na wel pa mor agos yw tewi at ei enau. Paham na buasai ef a'r Liberator wedi goleuo ac ar- gyhoeddi sir Lancaster, ie, a phob sir arall yn Lloegr yn mron, sydd yn yr un cyflwr a hi ? Onid yw siroedd Lloegr yn gyffredin yn Dory- aeth trwyddynt, ac yn mhell, yn ddirfawr ar ol i Gymru mewn gwybodaeth a barn ar bwnc mawr gwladyddol y dydd! Methodd y Lib- eration Society yn Lloegr, er cynnyg lawer gwaith, a gwthio eu harwr anrhydeddus, Ed- ward Miall, (pob parch iddo ef,) i mewn i'r Senedd ac nid ymddengys yn debygol y gall hi wneud hyny yn fuanchwaith; ac ni ryf- eddem na raid i ryw bartho Gymru gymmer- yd y gorchwyl o'i ethol yn gynnrychiolwr iddi mewn Haw, a llawen fyddai genym weled hyny, canys mewn gwirionedd, y mae ei eisiau ef yn y Senedd. Gadawn y Sais a'r Saeson ar hynyna yn awr; gyda llawen gydnabod bod eithriadau anrhydeddus i'w cael yn eu plith, i'r yspryd a'r cymmeriad yr achwynem arnynt.
Y BALLOT.
Y BALLOT. Nyni a gawn y Ballot o'r diwedd, ac y mae yn ymddangos ar hyn o bryd y ceir ef yn gynt nag yr oedd llawer yn gobeithio ei gael. Y mae eisoes wedi dyfod yn gwestiwn y dydd yn Lloegr, a bydd yn fuan yn brif bwnc y Sen- edd. Y mae mwyafrif mawr o'r aelodau Rhyddfrydig wedi ymrwymo i roddi eu llais dros y Ballot; a phe byddai i'r Toriaid un ac oil ei wrthwynebu, bydd nifer y Rhyddfryd- wyr o'i llaid, yn fuan yn fwyafrif o holl ael- odau y Ty, os nad ydynt felly yn bresenol. Ni a wyddom fod haner aelodau y cyfringyngor, a dyweyd y lleiaf, dros y Ballot. Y mae yr Aiglwydd Ganghellydd, a Llywydd y Cyngor, yn mysg y rhai a'i pleidiant yn Nhy yr Ar- glwyddi. Y mae Mr. Bruce, o'r diwedd, ar ol cloffi yn hir rhwng dau feddwl, wedi troi o Z3 blaid y Ballot. Cafodd Merthyr a Chymru eu beio yn dost am droi Mr. Bruce allan. Dy- wedai y Daily News fod yn rhaid fod y Cymry yn bobl anwybodus, pan wnaent y fath weith- red annheilwng. Y mae ein dwylaw ni yn Ian oddiwrth aflwyddiant Mr. Bruce, yn Mer- thyr. Pleidiasom ef yn gyson a gonest trwy ystod y gystadleuaeth. Pe buasai Mr. Bruce yn addaw pleidio y Ballot flwyddyn yn gynt, mentrwn ddyweyd y cawsai gannoedd lawer yn ychwaneg o bleidleisiau yn etholiad di- weddaf Merthyr ac Aberdare; ac anturiwn feddwl, y buasai yn cael ei ddychwelyd. Yr un peth yw y Ballot yn awr a'r pryd hwnw. Y mae yn llawen genym feddwl ei fod wedi gwneud. Nid oeddym yn ameu ei onestrwydd o'r blaen, a chredwn ei fod yn hollol onest yn ei ddätganiad o blaid y Ballot; yr oedd pobl Merthyr, a Dowlais, ac Aberdar, o blaid y Ballot, cyn yr etholiad. Un achos o aflwydd- iant Mr Bruce ydoedd ei fod ar ol y bobl yn y peth hwn, o leiaf, ac nid anwybodaeth y Cymry, fel yr awgrymai y Daily News. Argy- hoeddwyd Mr Bruce, mae yn debyg, yn amser yr etholiad diweddaf. Da iawn. Gwell hwyr na hwyrach. Ond yr oedd Mr Bruce wedi cael eithaf chwareu teg o'r blaen i wybod fod angen y Ballot ar weithwyr Merthyr ac Aber- dar. Nid oes eisieu dywedyd, oblegid gwyr pawb, fod Mr. Bright dros y Ballot. Felly hefyd y mae Mr. Childers, a Mr. Chichester Fortescue, a Mr. Goschen; ac y mae lie i feddwl y rhoddai Mr. Lowe ei bleidlais, a'i ddylanwad, o'i blaid. Gellid meddwl, yn eu hareithiau diweddaf, fod Mr. Gladstone, a Mr. Cardwell yn anmhenderfynol. Nid ydynt hyd yn hyn wedi bod yn alluog i daflu carp olaf Toriaeth oddiwrthynt; ond y maent wedi dechreu amheu, ac wedi dyweyd hyny yn gy- hoeddus, a gall y rhai sydd yn sylwi arnynt farrm yn Uawn ryatnl a hwythau i ba gyfeiriad y maent yn ymsymud. Tr ydym yn mawr obeithio y bydd i'r Prif Weinidog, au YsgnI- enydd Rhyfel, ddilyn esiampl yr Ysgrifenydd Cartrefol. Bydd raid iddynt wneud eu meddwl i fyny yn fuan. Beth pe byddai i Mr Disraeli wneud cynyg etto at boblogrwydd, tra fyddo Mr. Gladstone yn petruso Y mae rhai Tor- iaid meddylgar wedi addef fod pleidleisio yn ddirgel yn angenrheidiol i lawer er gallu pleidleisio yn rhydd Yn bresenol, y mae saith neu wyth o aelodau y Cyfrincyngor dros y Ballot, rhai o honynt yn hen bleidwyr iddo, ac ereill wedi derbyn argyhoeddiadau yn ddiweddar, ac y mae y gweddill o aelodau y weinyddiaeth yn debyg i Mr. Gladstone a Mr. Cardwell, yn anmheuwyr yn hytrach nag yn wrthwynebwyr. Pan fydd Mr. Berkeley, hen gefnogwr y Ballot, yn dwyn ei gynyg o flaen y Ty y tro nesaf, efe a gaiff gefnogaeth wahanol i ddim a gafodd erioed o'r Z, 9 blaen, Nid oes ond ychydig mor hyddysg yn arferion gwledydd eraill a Syr Henry Bulwer, ac y mae hwnw yn selog dros y Ballot. Bernir yn gyffredinol y bydd Mr. Milner Gibson yn aelod dros rywle, cyn diwedd y flwyddyn hon. A disgwylir y bydd iddo yn fuan ddangos, o blaid y Ballot, yr egni a'r medr a ddangosodd yn y blynyddoedd gynt er diddymu deddfau yr yd, a dileu treth y papur. Amser a ballai i ni son am Mr. Thomas Hughes, a Mr. Charles Buxton, y rhai sydd wedi eu hargyhoeddi yn ddiweddar, ac yn barod i roddi pob cefnogaeth i'r Ballot. Gweithiodd Cymru yn dda yn yr etholiad di- weddaf, ac y mae ei sefyllfa wladyddol yn ym- ddangos yn iachus a gobeithiol; ond pan geir y Ballot, ffarwel am byth i un Tori fyned dros Gymru i Dy y Cyffredin.
LLYTHYR Y MEUDWY.
LLYTHYR Y MEUDWY. (O'N MEUDWTDY RHWNG BRYNIAU GARTH MADRYN.) Clytwaith, ac nid cyfanwaith seiliedig ar egwyddorion eglur dealladwy, mae llawer gor- modd o bobl yn hoffi, a'r canlyniad yw fod ei canlyniedyddion yn cael mwy o ofid a helbul oddiwrtho na phe buasent yn gorfod dechreu arno o'r newydd. Pa bryd daw y byd i gredu na ddeil hen gostrelau croen ddim gwin new- ydd, ac na ddeil hen ddilledyn ddim o'r pwy- thau a'i cysylltant a dernyn o frethyn new- ydd. Mae i bob enaid newydd gorph newydd, ac ni wnai hen un y tro. Mae drychfeddyliau newyddion yn gofyn gwisgoedd newyddion. Nid oedd dim lie mewn Iuddewiaeth i gynwys Cristionogaeth. Yr oedd i'r cyntaf ei chorph ei hun, ac felly hefyd i'r ail. Nid oes dim lie mewn Pabyddiaeth i Brotestaniaeth. Mae yn amhosibl iddynt gydfyw. Maent yn sicr o ddyfod i wrthdarawiad. Clytwaith oedd y Diwygiad Protestanaidd yn Lloegr a Chymru, a hyny mewn canlyniad i fesur helaeth i'r ffaith iddo gael ei sefydlu trwy rym deddf Seneddol cyn iddo gael ei sefydlu yn argy- hoeddiadau goleuedig y bobl. Fe1 rheol ag iddi ond ychydig eithriadau, ceir fod y bobl o flaen eu cynrychiolwyr yn y Senedd, ond os bydd eisiau paso rhyw fesurau ag a fyddo yn llesol iddynt hwy eu hunain fel dosparth, neu i aelodau Ty yr Arglwyddi, ceir ein deddf- wneuthurwyr ar y blaen o ddigon ar y bobl. Anffawd fawr oedd fod a fynai yr hen bryfyn anllad, aml-wraig hwnw Harri yr wythfed a mesur mor bwysig a'r Diwygiad Protestanaidd. Cael bod yn Bab ei hun ydoedd pwnc Harri, a llwyddodd yn ei amcan. Gwnaed clytwaith o'r mesur oblegid ceisio boddio dwy blaid hollol wrthwynebol i'w gilydd. Credo a ffurfwasan- aeth Pabaidd wedi eu cyfnewid mewn ychydig fanylion ydyw credo a ffurfwasanaeth yr Eg lwys Sefydledig yn Lloegr a Chymru. Cyd- marer y fFurfku a ddefnyddir gan y Pabydd- ion a'r rhai ddefnyddir gan offeiriaid yr Eg- lwys Sefydledig, ac ynafe geir gweled pa le y cafwyd yr amlinell a llawer o'r cynwysiad. Un o effeithiau cyntaf y clytwaith ydoedd ym- neillduad y ddwy fil, ac o hyny hyd yn awr nid ydyw yr Eglwys Sefydledig wedi cael teyrnasu heb fwy neu lai o wrthwynebiad iddi yn ystod y blynyddau meithion sydd wedi myned heibio er pan wrthdystiodd y dewrion hyny yn erbyn yr hyn a ystyrient yn anys- grythyrol. Gwyr yr evangelical clergy o'r goreu fod eu ffurfwasanaeth yn cynwys yr otvifowiarvfv. 'iio-oofii fedvdd. ac ychydig flynyddau yn ol arferent gyfaddef y gofid a deimlent oherwydd yr anghysondeb arnlwg rhwng eu cyffes a'u pregethau. A pha r, zn sawl gwaith y mae Lord Ebury wedi gwneud cynygion i ddiwygio y Llyfr Gweddi Cyffredin, ond hyd yn bresenol yn aflwyddianus. Ac erbyn hyn addefa amryw o'r Efengylwyr yma ei bod hi wedi myned yn rhy ddiweddar i gy- ffwrdd a'r hen lyfr gweddi. Os gwrthodir gwella hen dy, beth sydd i'w ddisgwyl ond y daw i lawr yn ddisymwth ar benau y sawl a drigant ynddo. Pe buasai eglwyswyr ychydig flynyddau yn ol ond diwygio eu heglwys, ni chawsent efallai am ganrifoedd eu blino gan y fath bobl chwilgar ag Edward Miall a'i gan- lynwyr. Athrawiaeth ddyeithr iawn i glust- llawer o Eglwyswyr ydyw un y datgysylltiad a'r diwaddoliad. 'Hir ladrad i grog,' medd yr hen ddiareb, a hir ormes, a hir anghyfiawn- der i ddadymchweliad a maluriad yr hen sef- ydliadau dan gysgod y rhai y beiddid gor- thrymu a sathru dan draed. Tylwyth ei thy ei hun sydd yn gwneud niwed-os niwed hefyd-i'r Eglwys Sefydledig. Mae yn dru- garedd, ar rai ystyron, fod Gladstone yn perth- yn iddi, onide buasid yn cyfrif yr hen fachgen ei hun bron yn well cymeriad nag Anghyd- ffurfwyr. Ha wyr anwyl, onid oes hawl gan aelod o'r Eglwys Sefydledig i'w diwygio, a thrwy ei diwygio i estyn ei dyddiau ? Ni ddylai Eglwyswyr boeri ar eu pilynod eu hunain. Mae yr evangelical clergy yn chwythu yn eu hudgyrn y dyddiau yma oblegid fod y defod- wyr wedi cael eu galw i gyfrif gan eu meistres hwy eich deuoedd, sef y wladwriaeth yn mherson ei swyddog cyfreithiol: ond beth wnant hwy yn ngw yneb fod y Seremoniwyr yn pregethu cyfeiliornadau eglur yn ol eu dar- luniad hwy o honynt. Mae y defodwyr yn ddig wrth bwrs-geidwad Eglwys Loegr oblegid iddifaddau i awdwyr yr 'Essays and Reviews'' am wadu ysprydoliaeth yr Ysgrythyrau, a Duwdod Crist, a phethau eraill, a'u rhwystro hwythau i losgi canwyllau, ffurfio gorymdeith- iau o un ran o'r eglwys i'r llall, a llosgi arogl- darth, ac amryw bethau o'r fath ag y byddai Z5 yn hawdd maddau i baganiaid coelgrefyddol am -eu cyflawni. Pethau dipiwed ddigon ydyw y pethau uchod oddigerth fel arwydd- luniau o gyfeiliornadau. Peth afreidiol yw llosgi canwyllau fel arwydd-lun o Grist fel goleuni pan nad yw haul mawr natur ei hun ond adlewyrchiad o'r fath wanaf o Haul y Cyfiawnder. Ond diniwed yw llosgi arogl- darth mewn cydmariaeth i bregethu fod y bara a'r gwin yn wir gorph Crist. Beth wnaiff yr evangelicals yn wyneb fod. Pabyddiaeth rone yn cael ei phregethu gan eu cyd weinidogion? Oni ddylent ddwyn cwynion yn eu herbyn ger bron llysoedd gwladol ? A wnant hwy hyny? A ydynt yn feddianol ar ddigon o sel i wneud hyn, ac a ydynt yn barod i wynebu y draul o wneud hyn? Beth am yr esgobion ? Ai 'own mudion' yd- ynt hwy ? A oes dim blys cyfarth arnynt wrth weled y blaidd o Rufain yn ymweled a'u praidd ? Fe ddisgwylir i gwn Garth Madryn gyfartJi o leiaf am luo crochanau, ac nid yw e ddim yn ormodd i bobl sydd yn derbyn miloedd y flwydd- yn i gyfarth tipyn yn o lew pan fyddo y praidd mewn enbydrwydd. Nid yw y brodyr pareh- edig hyno fawr wasanaeth er rhwystro taeniad cyfeiliornadau dros y wlad. Gwyn fyd na chaem ni ryw gawr-ddyn fel Cromwell ag a dorai, pe byddai eisieu, a'i gleddyf y cyssylltiad rhwng yr eglwys a'r wladwriaeth, gan droi y blaenaf dros y trothwy, a defnyddio ei gwaddolion at ddibenion bydol a thymhorol. Ha, wyr anwyl, a oes dim modd dwyn y pleid- iau hyn i ryw divorce court P Mae'r Eglwys yn ddigon i fyddaru un Wladwriaeth, ac yr ydym yn synu ei bod wedi cael ei goddef cyhyd. Fe ddylai fod gan ddynion fel ein barnwyr, ein pleidwyr, a'n cyfreithwyr rywbeth lawer mwy teilwng o'u doniau a'u cyrhaeddiadau na chy- hoeddi barn ar deganau plant; oblegid nid yw gwisgoedd, arogldarth, a chanwyllau ddim amgen i bobl mewn oed. 0 ran un pwysig- rwydd neu gyssegrwydd a berthyn iddynt, buasai yr un peth genym ni glywed barnwr oedranus yn cyhoeddi ei farn ar y priodoldeb neu yr anmhriodoldeb o fod y diweddar Sion Tomos o Glynarthen yn myned o gwmpas y wlad i efengylu mewn hat, ac oil case, a shitool las am am ei gleiyn, neu yr anghyssondeb o fod Miller, hen geffyl y diweddar Rhys Dafis, yn cael cenad i gario ei farchogwr at ei gyhoedd- iadau, ar ol iddo yfed bron llon'd celwrn o freci yn yu, y 1/1 vvv.. r* -1'1 ;:¡:- 0 f-hcrnrv hyny gnapo, a chynyg—yr hen glimpyn dilyn- t, yn nghyflawnder ei anystyriaeth-neidio dros ben gate Pensarn. Yn wir, y mae yn rhy hwyr i ryw wr dylan- wadol o ran swydd a safle yn y llys eglwysig i wneud chwip o fan reffynau, a chwipio yr offer hyn o boiti eu basnes, gan eu gyru i geibio ys- tung o dir erbyn dodi tattws, neu wneud ysgub- elli, neu ddal tyrchod, neu rywbeth fyddo o wasanaeth i blant Adda yn lie boddran byd ac eglwys a'u hen seremoniau a'u defodau. Nid ydynt yn werth i'r wladwriaeth i'w harddel. Nid ydynt yn talu iddi am eu halen. Nid yw yr Anghydffurfwyr yn achosi dim trafferth iddi, a beiddiwn ddyweyd na fu pobl erioed yn fwy teyrngar, breninesgar, deddfgar, gwladgar, dyngar, rhyddidgar, ac ufudd-dodgar. Mewn gwirionedd a sobrwydd, yr ydym yn byw mewn amseroedd na welwyd dim er ys talm eu bath. Nid ydym yn gweled un drws o ym- wared ond ysgariad bythol rhwng crefydd a llywodraethau gwladol, a rhwng addysg allyw- odraethau gwladol. Yr ydym yn credu yn gydwybodol fod yr eglwys wedi llygru mwy ar y wladwriaeth nag y mae y wladwriaeth wedi allu wneud ar yr eglwys. Troer yr eglwys allan o'r byd, fel y byddo yn bossibl diwygio wnw. A myner addysg fgdot--y fath a geld ddeugam mlynedd yn ol, cheb un perygl, ac heb fod neb yn breuddwydio fod peryglhyd nesi r Eglwys- wyr a'r AnghydFurfwyr i fyned i frwydro yn nghylch wyn eu deadelloedd ac yna fe fydd rhyw siawns i'r genedl sydd yn cyfodi fyny i ddianc rhag syrthio yn ysglyfaeth i ddichellion offeiriadaeth fel y cyfryw. Ni cheir heddwch yn y gwahanol wersylloc-dd hyd nes mynir addysg ddyddiol fydol yn unig. Mae esgobion ac offeiriaid Pabaidd yr Iwerddon yn gwrthod pob cyfundraeth addysgiadol ond un enwadol-hyny yw, un Babaidd. Wel: gwrthodent hi, os dewisant, a thalent yr holl draul o addysgu plant eu canlynwyr yn eu ffordd eu hunain. Wrth reswm, mae ofn addysg fydol ar yr offeiriaid Pabaidd. Byw ar datws hyd yn awr fuasarr Gwyddelod yn wneuthur, oni buas- ai i Ragluniaeth yn ei mawr diriondeb bydru y rheiny, a thrwy bicellu Pat a newyn ben iddo ymysgwyd o'i ddiogi a'i fryntni, a chychwyn tua gwlad y Gorllewin, lie yr oedd y trigolion yn bwyta eu gwala a'u gweddill o far a a^ c ng, yn lie gwneud eu dynion oddi mewn yn g tatws: ond ni fuasai blaenoriaid 3^\ gwybod nemawr ddim ama-eril-a onibuasai fod y plant a ddysgidyn yr Irish National nhooh wedi dysgu darllen ac ysgrifenu, a thrwy hyny yn darllen yn nghlywedigaeth- eu rhieai a n perthynasau tlodion hanes Gwlad Canaan pob dyn a chwennych weithio, a thrwy weitliio sicr- hau cysuron bywyd. Mae yr offeiriaid Pabaidd wedi colli miloedd o'u gwrandawyr trwy eu hymfudiad i America. Wei, chwi welsoch ond odid fod y Marquis of Bute wedi tanysgrifio pum mil o bunau tuag at y Catholic Cathedral yn Westminster. Dyna y gwr ifangc wedi talu footing go deidy, chwarel teg iddo, wrth ymuno a'r Pabyddion: ae, fe gaiff e fill cyflawn am ei holl ragorfreintiau fel aelod o eglwys Rhufain. Trwy arian yr ydys yn gadwedig yn hon.