Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
22 erthygl ar y dudalen hon
- Y DRYSORFA DDAU-CAN.MLWYDDOL.…
Y DRYSORFA DDAU-CAN- MLWYDDOL. ? Vr — aae Wfidi bod yn lied faith y tro yma ond y roddi Ir' ar 08<^a(^> adroddiad da iawn i'w jy Wa-e amryw eglwysi wedi deffroi ati o ddif- Jp' g i'm 11 aw o Tynewydd, Mynyddisiwyn, o gjjj, Cefnorib, op. os. Dyna y cwbl a gefais • swn y tro 7ma 5 ond yr yd wyf yn clywed i yno J'11 parotoi. Llandudoch, 7p. 10s.; idoff °c' P' a'r Parch. J. M. Davies, eu gwein- mr L p' yn gwneud 20p. Hebron a Nebo, trwy ach.vf-fr°^' Evans, lip. 16s. 4c., yn gwneud, Wv > yr, hyn a anfonasant o'r blaen rhyngddynt lql £ gweinidog, 40p. Parch. J. Davies, Moriali ^4en "P- 10s., wedi talu yr un swm o'r -berhonddu—cyfran o gasgliad y dref, 25p.; ^de-w\r°eS' -^s-' .Ceinewydd, 6p. os., gydag both -p n am ychwancg; Llanboidy, op.; Rheo- itaJ' en^re, op.; Esgardawe, lp. 2s. 8c., yn gwneud JJW, ? y hyn a gafwyd o'r blaen 2p. 8s. 3c., ac y l D a<^aw casgliad etto. Clydaeh, Morgan- jjeL, P'! at y 10p. a ddaeth i law o'r blaen. Mae a'i* cylchoedd wedi dechreu gweithio i Adiil 4op.; Bethesda, 20p.; Ynysgau, 20p.; UKo«am' Salem, 3p.; Tabor, Cefncoedycmer, 4p.; 4.beroQZer-^tt0' 5p"; G"ell.ide§"» !P-; Heolgerig, 3p.; etto i Bethania, Dowlais, 30p.; Brynsion HigA ??'' ^werllwyn etto, lop.; Ivor Chapel (Seis- Q <;?' 8P-; Penydarran, 15p. ^<Uw -^enfr0 oedd ar y blaen pan gyhoeddais ed(^^Sir Forganwg sydd ar y blaen yn awr. Vj, i. a^s nifer o leoedd ereill yn y sir, ac yr wyf g^.sgwyl yr hyfrydwch yn fuan o gyhoeddi eu S fU hwythau. Svf»i -Penmaenmawr, lp. Is. 7^c.; Horeb, Dwy- 2 3Jc.; Bethmacca, lp. 3s. 8c. Araf y jjj gyfeillion y Gogledd yn symmud ond yr wyf Jja y deuant yn gryf o hyn i ddiwedd a tna ~^ae y Colegdy yn prysuro at orpheniad, j)ydf3Wr/ydd e^n gwarth os wedi ein holl dwrw y ceiniog o ddyled arno ddydd ei agoriad. T. WILLIAMS, p Trysorydd. ^Wtre, Merthyr Tydfil.
DADL AR Y CYBYDD A'R AFRADLON.
DADL AR Y CYBYDD A'R AFRADLON. A O'R DDAU SY'N GWNEUD MWYAF 0 NIWAID I GYMDEITH AS. f id ANNYDDORO1 yn ddiau i ddarllenwyr y TYST le y report canlynol o dddadl fawr a gymmerodd e tnewn ystafell gyhoeddus yn ddiweddar yn Rhyl, PWngc a nodir uchod. Llywyddwyd gan ^-gorwyd y ddadl gan A. R. Dywedai,—Mae'n e y8 mai ymdrechfa fydd yma heno i enill y gamp felldithio, a pha faint bynag o wahaniaeth barn Ebal^^1"' a 8a^wn °ld ar yr un tir—ar Fynydd b— arllwys ein digofaint yn ddifesur ar y Cy- tar Afradlon (chwertbin alchymmeradwyaeth). au 9MMeriad eithafol ydynt—un yn cadio i fid dd> a'r Hall yn gwario i ormodedd. Y mae'r u yn ddrwg, ond fy mhwngc i yw dangos mai'r ydd yw y gwaethaf—-y mwyaf niweidiol i gym- tbas- Dechreuaf trwy honi a phrofi fod y Cybydd caethiwo llwyddiant cymdeithas. Yn caethiwo snach. Gwyddom pa mor bwysig ydywmasnach ^yrchus mewii gwlad. Pan gyfyngid un gangen sef y fasnach gotwm-yn amser y rhyfel cartrefol r- America yr oedd trueni yn bygwth miloedd o 0 1 yn Lloegr-ac o ran dim a wna'r Cybydd i ^ystro hyny, gwesgidpob cangen o fasnach i'run- yw, sefyllfa. Y mae'r afradlon, er yn gwneud drWg iddo ei hun, yn I bwrw ei jfara ar wyneb y ytroedd,' yn gwasgar ei dda, yn gwario ei arian, a ^y hyny yn sicr o gynnorthwyo a llesoli rhy wrai ^^lyn a masnach (cymmeradwyaeth). Mae modd Cael gafael ar ei arian, ond haws yw llyngcu llidiart 119, chael gafael ar arian y Cybydd (chwerthin). Y r Afradlon yn gwisgo yn wych, yn bwyta ac yn yn hela-eth, ond am y Cybydd ni rydd efe, os |pU beidio trwy unrhyw ddichell neu ystryw, ffyr- r0? 0 elw i neb byth. Tybia fod pawb yn lladron yn ceisio ei dwyllo yn mhob peth. Gwarafuna i'w gorph ei hun ei angenrheidiau, ac o'i ran ef llwgid Ppb crydd, a theiliwr, a siopwr (chwerthin). Ceidw „l gorph yn un llipryn teneu angeuol— ymsymmuda el drychiolaeth—y mae'r olwg arno yn esponiad ^'a'Wiadol o'r ymadrodd 'cysgod angeu' (chwerthin Qia'wr). Yr un hen got lwyd, ffiaidd, sydd am ei igefil ar hyd y blynyddoedd-yr un hen het fylchog, flidr-(chwertbin)-yr un hen hosanau darniog, ac esgidiau clytiog. Ceidw ei ddillad goreu dan glo Yn dyllau pryfaid i gyd (chwerthin). Edrycher arno yn ei anedd Grwelsom fwy o dan yn nghetyn nag yn ngrat y Cybydd (chwerthin ma^vr). ~tae ei gwpwrdd cyn feined a choes Robyn Goch, ?b friwsion i gi na chath a phresenoldeb joint o .a thatws, a ffa a phwdin ar ei fwrdd agos mor ^dieithr ag ymweliadau comedau—neu mor anaml a JUarwolaeth mul (chwerthin). Dywedai cyfaill un- ^aith nad yw mul byth yn marw (chwerthin). Ac fin nos, eistedda fel hurtyn wrth oleuni canwyll neu ganwyll frwyn, ac a i'w wely rhag Uosgi hono i gyd, i ymrowlio yn ei wely heb gwsg na seibiant am oriau (chwerthin). Pa les a ddichon Y fath adyn wneud i fasnach! Y mae efe yn ddy- chry'n i fasnachwyr, canys ceisia falu eu gwynebau 711 chwilfriw (Cymmeradwyaeth.) Y mae efe yn yw mor ofalus ar ei eiriau ag y rhedai oath ar far- '01', neu ar uwd berwedig! (Chwerthin mawr.) "tasnach y mae'r Afradlon yn gwsmer da, ond beth ddywed. y Cybydd-Aed masnach i Jerico neu i'r fall! Y mae'r Cybydd, drachefn, yn caethiwo sef- ydliadau dyngarol a chrefyddol. Y dyb gyffredin yr Afradlon yw ei fod yn greadur 'ffeind,' calon leddal, rhy hael ar ei les ei hun, ac yn jolly fellow yn ■^hob cymdeithas (eymeradwyaeth). Ceirrhoddion ? chyfraniadau ganddo at wahanol achosion—ond -haws ydyw symud mynydd a pheri iddo neidio oddi- ar ei wadnau, a wingciad llygad na symud calon y ^yhydd i gyfranu, yn ol ei allu, o leiaf, at unrhyw ddyben teilwng a chanmoladwy. Pe buasid yn dibynu ar y Cybydd, ni chawsid railway yn y wlad r^^toliau mul a gawsem—(chwerthin)—dim gwell- ^antau mewn celfyddyd a gwyddoniaeth—dim cym- deithas genhadol—dim ysgolion rhad—na dim arall Yn gofyn cost. Y mae calon y Cybydd yn crynu ^rth swn traed y casglyddion. Dianga i bob cilfach 0 u presenoldeb—weithiau i'r garret, bryd arall i'r eellar ne-u i'r twll dan grisiau! (chwerthin ofnadwy.) .e syrthid wrth ei draed i'w addoli, ni roddai ddu EOl ewin i neb.—Y mae'r cybydd yn poeni cymdeithas. 08turi y mae'r Afradlon yn ei gynyrchu—poor fellow yWr ymadrodd cyffredin a ddywedir am dano—ond J :mae' l' Cybydd, naw wfft i'w galon! (chwerthin Ina-wr.) Y mae'r Cybydd, gyda'i hen war lechwr- fldd, a'i hen wyneb aniddig, anedwydd—fel swm- yn y cnawd'—yn pwyso fel hunllef ar ysbryd pawb—yn fwgan y bwganod yn y byd-heb neb yn garu, ond pob perchen synwyr a chalon yn ei tv ° hirbell (chwerthin ac uchel gymeradwy- eth)'Y mae'r Cybydd, eto, yn anobeithiol ddrwg. ywsom am Afradloniaid yn troi, yn dychwelyd, :}Tn edifeiriol ac yn profi eu hunain yn ddynion da defnyddiol, ond och! pwy a glywodd am Gybydd yn troi ac yn dychwelyd! Haws yw toddi'r Alpau a gwneud ei galon ef yn hael! Efe a bydra yn ei be shod, a bydd farw yn llai ei barch na chi! (cym- meradwyaeth.) Y mae efe yn hollol ddiwerth i gymdeithas. Ni fyn wraig rhag ofn y gost i'w chadw-ac os myn un, myn hi pan yn hen langc i ddyben hollol hunanol-i gadw ei dy rhag myn'd yn nythle i lau a drewdod (chwerthin a chymerad- wyaeth). Nid all ef byth obeithio am addurno y byd a chymeriadau i ddisgleirio mewn cymdeithas— ni welir o'i lwynau ef yn dragywydd Franklin, Newton, Stephenson, Locke, Butler, Spurgeon, na Williams o'r Wern! Yn sicr y caritor ffieiddiaf, os nad y gwaethaf, yn holl greadigaeth Duw, ydyw y Cybydd. Gosodir ef yn amlwg ddu yn y golofn ddu o'r cymeriadau na welant deyrnas Crist yn oes oes- oedd! Y mae Paul yn foddlon i roi ond un enw ar y cwbl, oddigerth y Cybydd—cymer ei anadl i roi cic arall iddo ef-I y Cybydd,' meddai, 'yr hwn sydd ddelw-addolwr.' (Bloeddiadau cymeradwyol.) (l'w barhau.J
GOSTWNG Y STEAM.
GOSTWNG Y STEAM. PENNOD IV. Nodasom yn ein llythyr diweddaf, amryw fathau o gymeriadau ag y byddai yn dda i'r dyn ieuanc hwnw sydd ganddo y graddau lleiaf o barch iddo ei hun, ofalu am ostwng y steam wrth ymwneyd a hwy. Y mae genym eto un neu ddau o nodau, ac yna ni gawn symud i gyfeiriad arall. Hyderwn nad yw ein hymdrafodaeth a'r pwnc o gyfeillgarwch wedi myned yn ddiflas gan y darllenydd. Os oes rhai ieuenctid ag y mae y gwahanol bethau a ddywedas- om yn ymddangos yn ddifydd ganddynt, mae yn bosibl y daw amgylchiadau i'w cyfarfyd y gallant eu gwerthfawrogi a'u prisio. Bu adeg pan nad oeddynt ond pethau hollol ddibwys yn ngolwg yr ysgrifenydd, ond cyfarfyddodd ef ag amgylchiadau sydd wedi ei orfodi i gredu fod dewis cyfaill yn un o'r pethau pwysicaf gyferfydd dyn ar y ddaear. At y gwahanol gymeriadau a nodasom, fel rhai ag y dylai pob dyn ieuanc ostwng y steam wrth ymwneyd a hwy, wele, un eto, sef y dyn dichellgar. Parod iawn ydym i addef ein bod yn dod a nodau cyffredin iawn o flaen y darllenydd, Cof genym glywed un hen bregethwr yn dweyd mai yr adnodau mwyaf hyddysg a ohyffredin i'r gwrandawyr ydynt bob am- ser y testynau goreu i bregethu arnynt, ac ychwan- egai yr un gwr parchedig, na byddai ganddo byth feddwl uchel o'r pregethwyr hyny fydd bob amser yn dewis iddynt eu hunain destynau na feddyliodd yr Ysbryd Glan i neb erioed bregethu arnynt, a thestynau y bydd y rhan fwyaf o'r gwrandawyr yn barod i daeru na bydd y fath beth o fewn i Feibl Duw. Wel, ddarllenydd, gwir neu beidio, nid ydym yn gyfrifol am y syniad. Ie, ddyn ieuanc, gan nad pa mor gyffredin yr ym- ddengys y nodau, gochel di y dyn dichellgar. Byddai y diweddar fardd Owain Lleyn, yn arfer dweyd y gwnelai y dyn dichellgar dad i ladron, ac un diwr- nod eyfarfyddodd y bardd a dyn a adwaenid ganddo bob amser fel dyn dichellgar, o'r enw Lewis Lewis, ac wedi peth ymddiddan, gofynodd Owain i Lewis 'a fyddai ef yn barod i gymeryd tri enw,' atebodd Lewis y byddai os byddai yntau yn barod i wisgo tri, 'O yn y munud,' ebai Owain. 'Byddaf yn f odd- Ion i gymeryd 0 eto at fy enw, yr hyn a wnaiff Owen Owen Onest,' ebai y bardd 'a chai dithau L, yr hyn a wnaiff Lewis Lewis Leidar,' yna gorphenodd yr ymdrafod. Os bydd dichell yn nghalon dyn, y mae y peth yn sicr o fod yn angeu i bob gwreichion o gyfeillgar- wch a ddichon fod yn ei fynwes. Da chwi ddynion ieuainc gostyngwch y steam pan y byddwch weith- iau yn dod i gysylltiad a'r dyn dichellgar; nid yd- ym am sangu Uanerch mor dywyll a threio nodi pa fodd y daw dichell y dyn allan. Ond nid hyny sydd yn bwysig, dichell fydd dichell, doed y peth allan ffordd y myno a than unrhyw ffurf a ddewiso. Mae yn bosibl i ddyn lwyddo i guddio ei ddichell dan fantell rhith o gyfeillgarwch, ond daw allan o'r diwedd, ie, efallai yn ngoleuni y dydcl hefyd, y dydd a'i dengys.' Ddarllenydd, gofala am ostwng y steam hyd yn nod wrth siarad a'r dichellgar. Y mae dos- barth arall hefyd na wnant gyfeillion i neb ond i'r gwr drwg ei hunan, sef y dynion hyny, ag y mae yn rhaid talu mewn rhyw ffordd am y fraint o gael bod yn eu cyfeillach. Adwaenom ddynion ydynt wedi hollol werthu eu hunain i eraill, am ddim ond am y fraint o gael eu hystyried yn eu flafr ac yn nod i garedig- rwydd ac ewyllys da y cyfryw. Nid ydym yn gwy- bod yn iawn faint o werth ydyw ewyllys da rhai dynicn, ond hyn a wyddom, ac yr ydym yn hyf i lefaru, nad oes digon o rinwedd a gwerth yn ewyllys da y naill ddyn i. brynu dyn arall yn slave iddo. Oes y mae dynion i'w cael yn y byd yma, yn ddigon hyf i dderbyn gwarogaeth addoliadol gan eu cyd- greaduriaid, yr hyn beth a wrthododd angelion. Ddarllenydd, paid byth a myned dan draed dyn er mwyn cael y fraint o'i weled yn gwenu wrth dy ben, ac os byth y gweli ddyn a'i fryd ar fyn'd yn feistr arnat, cofia na wna gyfaill i ti, gostwng y steam a dos heibio iddo yn ofalus iawn. Nodwn un nod -eto, ac yna ni gawn adael y pwnc o gyfeillgarwch. Byddwn yn credu na wna dyn llygredig ei foesau, ae isel ei iaith gyfaill i neb. Mae gan gyfrinach a chy- frinachwyr ddylanwad ar eu gilydd. Y mae Paul dan ddylanwad ysbrydoliaeth yn dyfynu brawddeg o enau rhyw fardd paganaidd oedd, mae yn debyg, yn fyw tua 300 o flynyddau cyn Crist, sef fod 'ym- ddiddanion drwg yn llygru moesau da,' gan hyny ddyn ieuanc, na ddos i gyfeillach a'r dynion yma. fVw barhau.)
[No title]
A SUCCESSFUL Expmm=T.-The Civil Serviot Gazette has the following:—"There are very few simple articles of food which can boast so many valuable and important dietary properties as cocoa. While acting on the nerves as a gentle stimulant, it provides the body with some of the purest elements of nutrition, and at the same time corrects and invigorates the action of the digestive organs. These beneficial effects depend in a great measure upon the manner of its preparation, but of late years such close attention has been given to the growth and treatment of cocoa, that there is no difficulty in securing it with every useful quality fully developed. The singular success which Mr Epps attained by his homoeopathic preparation of cocoa has never been surpassed by any experimentalist. Far and wide the reputation of Epps's Cocoa has spread by the simple force of its own extraordinary merits. Medical men of all shades of opinion have agreed in recommending it as the safest and most beneficial article of diet for persons of weak constitutions. This superiority of a particular mode of preparation over all others is a remarkable proof of the great results to be obialned from little causes. By a thorough knowledge of the natural laws which govern the operations of digestion and nutrition, and by a careful application of the fine properties of well-selected cocoa, Mr Epps has provided our breakfast tables with a delicately flavoured beverage which may save us many heavy doctors' bills. It is by the judicious use of such articles of diet that a constitution may be gradually built up until strong enough to resist every tendency to disease. Hun- dreds of subtle maladies are floating around us ready to attack wherever there is a weak point. We may escape many a fatal shaft by keeping ourselves weu fortified with pure blood and a properly nourished frame." £ 59—84.1
MYNYDD CYNFFIG.
MYNYDD CYNFFIG. DAMWAIN ANGEUOL.—Dydd Llun, yr lleg o'r mis hwn, cyfarfyddodd gwraig o'r enw Mary Jones a'i diwedd. Ymddengys ei bod yn cerdded ar y llinell sydd o Tondu i Porthycawl; ac yn y cyfamser, dal- iwyd hi gan y tren, yr hyn fu yn achos iddi gael ei dryllio yn y fath fodd fel y bu farw yn y fan.
NOTTINGHAM.
NOTTINGHAM. Yn ATHRoFA.-Mae yn dda genym ddeall fod y brawd ieuangc a thalentog Mr Peter D. Lloyd, genedigol o Pentrefenin, Pentrefoelas (ond yn ddi- weddar o G-aernarfon), wedi ei gyflawn dderbyn i freintiau yr athrofa uchod ar y 12fed cyfisol. Yr wyf, yn nghyd a'i holl gyfeillion, yn dymuno iddo hir oes a llawer o lwyddiant.-J. ab D.
TRECASTELL.
TRECASTELL. Traddododd y Parch. J. Owen, ddarlith ar New Zealand,' yn yr ysgoldy Britanaidd, nos lau yr 2 lain cyfisol. Am haner awr wedi chwech cymerwyd y gadair gan Mr R. Bishop, Llanymddyfri, yr hwn wedi gwneuthur ychydig sylwadau byr a chynwys- fawr am ymdrechion llwyddianus pobl Trecastell, a alwodd y darlithydd at ei waith; ac yr oedd yn hawdd gweled gyda hyny, fod y gynulleidfa yn ei dderbyn yn roesawus, a'u bod wedi dyfod yno i wrandaw, ac i gofio cynwysiad y ddarlith. Dechreu- odd Mr Owen ei ddarlith drwy ddweyd y modd, yr amser, a chan bwy y darganfyddwyd y wlad, ac yna aeth yn miaen yn naturiol a rhwydd—i ddisgrifio y brodorion mewn gwahanol ystyrion, safle a maintioli y wlad, ei hinsawdd a'i chynyrch, ei hanifeiliaid a'i hymlusgiaid, ei glo a'i mheteloedd, ei mhanteision a'i hanfanteision, &c. Aeth rhyw ddwy awr a han- ner heibio fel amser byr, tra bu yn myned dros y tir yna, er ei fod yn siarad yn hyglyw a chyflym. Llef- erydd y ddarlith yn fyr yw, mai gwlad 'dda odiaeth' yw New Zealand, neu yn ngeiriau y darlithydd ei hun, 'y wlad oreu dan y nefoedd all dyn gwyn ddymuno gael.' Y mae Mr Owen wedi bod yno am bum mlynedd, a gallem feddwl, pan yn gwrando, wrth ei weled mor hyddysg a chyfarwydd yn mhob peth cysylltiedig a'i bwnc, mai ei unig neges yn myned yno oedd ymofyn defnyddiau darlith. Y mae gwrando ar ddyn o graffder, cof, crynodeb, a ffraethineb Mr Owen, yn dreat i unrhyw gynulleidfa fyddo ag archwaeth ynddi i glywed darlith o'r fath. Bwriada fyned drwy'r wlad lie byddo gal wad i ddar- lithio ar yr un testyn, a bydd yn werth i'r rhai sydd mewn angen am ddarlith i sicrhau ei wasanaeth. Cawsom ni ddarlith ragorol, cynulleidfa luosog, a swmyn bach o arian go lew, a gobeithio y cawn ni lawer yn rhagor er mwyn adgyweirio Soar, capel yr Annibynwyr yn y lie.— W. G. Evans MERTHYR TYDFIL. Ar ol ystorm y mae hindda ar ol gauaf caled a chwim y mae haf desog a hyfryd. Am lawer o fis- oedd cyn yr etholiad diweddaf, bu holl enynau cymdeithas yn Merthyr a'r cylchoedd ar y full stretch; ond yn awr, aeth y dymhestl heibio, a bu tawelwch mawr. Er hyny, nid ydym yn y lie hwn, mwy na lleoedd ereill, wedi cysgu byth er yr ethol- iad y mae yma rywbeth yn cael ei wneud yn bar- haus, er nid o nodwedd gynhyrfus iawn, fel yr am- gylchiadau ydynt newydd fyned heibio. Dydd Llun, y 18fed cyfisol, cynhaliwyd CYFAKFOD MISOL yr Annibynwyr yn Merthyr a'r cylchoedd yn Eben- ezer, Cefncoedycymer. Testun y gyfeillach am ddau o'r gloch, Y pwys o feithrin cydymdeimlad a llwyddiant crefydd yn gyffredinol.' Cafwyd sylw- adau buddiol ac adeiladol iawn gan y gwahanol frodyr. Am 7 o'r gloch yn yr hwyr, pregethodd y Parchn. W. H. Thomas, Fochriw; a J. Evans, Bethania, Dowlais. Ar yr un amser, yr oedd GOBEITHLUOEDD gwahanol gapelau Merthyr yn cynnal eu cyfarfod misol yn Adulam. Aeth y plant drwy y gorchwyl y tro hwn mor fedrus ag arferol. Y nos Fercher canlynol, cafwyd darlith ar DDAEAREG yn ysgoldy Soar, gan y Parch. D. Jones, B.A., gweinidog y lie. Hon oedd y drydedd o'r gyfres darlithiau rhad y gauaf hwn. Dywedodd rhai o'r cyfeillion ar y diwedd, wrth fyned drwy y Seremoni arferol, pe buasai yr hen Saint oedd yn Soar ugain a deg ar hugain o flynyddoedd yn ol yn clywed Mr Jones yn dyweyd y fath bethau ag a ddywedodd yR ei ddarlith am oed y ddaear, y buasai dan ddisgybl- aeth yn y cyfarfod eglwysignesaf. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. P. Howell, Ynysgau. Bydd yn dda gan filoedd edmygwyr Mr Bruce yn Nghymru a Lloegr ddeall, er na fu yn llwyddianus yma yn yr etholiad diweddaf, nad ydyw y miloedd cyfeillion a bleidiasant drosto yn meddwl yn is am dano, nac yn teimlo llai o barch iddo. Y maent yn awr yn brysur yn trefnu ar gyfer ei anrhydeddu a THYSTEB. F Tuag at yr amcan, y mae amryw gannoedd obun- nau wedi eu casglu yn nghwm Aberdar a Merthyr. Yn y rhes tanysgrifwyr, y mae enwau dynion o bob gradd a dosparth—o'r meistr gwaith hyd at y gweithiwr iselaf braidd, o'r rector i lawr at y cyw- rad (curate), a thanysgrifiadau o hanner can punt hyd at chwe cheiniog. Myn y bobl anrhydeddu y dyn a sarhawyd ac a anmharchwyd gymmaint yn y misoedd diweddaf. Rhydd y dysteb hon brawf i'r wlad yn gyffredinol mai nid deilliaid a phenbyliaid yw pawb o drigolion Merthyr ac Aberdare.
GLASBWLL.
GLASBWLL. Nos lau, yr 21ain o Ionawr, cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn y lie uchod. Llywyddwyd gan y Parch. R. P. Jones, Llanegryn, yr hwn a arweiniodd y cyfarfod yn hynod foddhaol. Beirniad y darllen a'r adrodd, &c., oedd y Parch. W. Perkins, Pennal. Wedi i'r llywydd roddi araeth ddyddorol a meistrol- gar yn ol ei arfer, galwodd am anerchiadau gan y Beirdd, a chododd un i fyny a dywedodd yr englyn- ion canlynol:— ENGLYN I'R LLYWYDD. Gwrol, eloniol a dengar-a lion Yw'n Llywydd meistrolgax; Ffyddlon gyfeillion a gar, Mae'n haeddu menyw hawddgar, ENGLYN I'R BHAI BUDDUGOL AC ANFUDDUGOL. Heno teimlir hi yn twymno-y V Vawr pan yn gwobrwyo; Rhai nis cant rhuant olu co', Bydd ereill wedi I u hoddio. Arweinydd y canu oedd Mr John Pritchard, Tal- ybont, a chanodd amryw ganeuon ei hun, ac yn neillduol un yn hynod o effeithiol, sef 'Curwoh yr haiarn pan fyddo yn boeth.' Yr oedd yn hawdd gwybod fod patent lungs gan ferched y mynyddoedd oedd yn canu, wrth eu clywed yn lleisio mor glir. Yr oodd cymaint o natur i'w chanfod yn y canu ag o gelfyddyd yn ol fy marn i, ond yn siwr yr oedd yr holl gantorion yn haeddu canmoliaeth. Yr oedd y darllen a'r adrodd yn rhagorol. Yr oedd yn gyfar- fod go lew. Fy nymuniad yw, ar gynydd yr elo'r Glasbwll mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth, a chref- ydd. Cynygiodd un ddiolchgarwch fel y canlyn ar ddiwedd y cyfarfod, 'Rwy'n cynyg diolohgarwch. I'r Llywydd dyfir doeth, A'r hwn fu'n canu curwch Yr haiarn tra fo'n boeth; A'r Ladies prydferth ganodd Diolchwch yn fawr iawn, A'r Beirniaid a'r adroddT, Ac yna 'madael wnawn. Yna ymadawyd, a rhai yn barod i ddweyd wrth fyned adref, rhyfedd fel mae y byd yn cyfnewid. Mae o wedi tafiu ei glocs ffwrdd, ac a rhag ei flaen ar drot yn ei slippers.- Un o Feirion.
---------ALLTYWALIS.
ALLTYWALIS. Nos Fercher, yr 20fed o'r mis presennol, cafwyd cyfarfod llenyddol yn y He uchod. Mr David Lewis Jones, Derlwyn, yn gadeirydd, yr hwn a wnaeth ychydig eiriau dylanwadol iawn ar y dechreu. Yn ystod y cyfarfod darllenwyd amryw ddarnau. Hefyd, adroddwyd yno amryw ddarnau yn darawiadol iawn. Yr oedd yno ddau gor yn canu. Canasant ddarnau yn swynol a hyfryd.—Llwynog Walls.
CEFN CRIBWR.
CEFN CRIBWR. DAMWAIN ANGEUOL.—Ar y 13egcyf.,cyfarfyddodd dyn o'r enw Thomas Williams a'i ddiwedd trwy i ddarn o gareg syrthio arno o'r top tra yn gweithio wrth ei orchwyl. Gadawodd weddw a thri o blant ar ei ol. Yr oedd yn briod serchog ac yn dad tyner. Y Sadwrn canlynol, ymgasglodd torf liosog ynghyd i'w hebrwng i dy ei hir gartref. Claddwyd ef yn mynwent capel y Bedyddwyr yn Penyfai.-CToliebydd y Cefn.
TONYPANDY.
TONYPANDY. Nos Fercher diweddaf, yn Ebenezer, capel yr An- nibynwyr yn y lie uchod, traddododd Miss Cranog- wen Rees, ei darlith odidog ar 'Cymru-ei Chrefydd a'i Haddysg.' Byddai yn ffolineb mewn dyn i afradu ei ddawn i ganmol Cranogwen. Cymerwyd y gadair gan y Parch. J. Morgan, Cwmbach. Awd trwy y rhanau defodol gan y Mri. Miles, Morgan, a Smith (Homo JJdu,) Tonypandy; a Mri. William Lloyd, Elias James, a William Edwards, Bodrin- gallt.- Un oedd yno.
SIRHOWY.
SIRHOWY. AGORIAD CAPEL EBENEZER.—Mae yn hysbys i ddarllenwyr y TYST, ddarfod i'r capel uchod gael ei losgi yn Ilwyr, oddentu blwyddyn yn ol, pan yn ei adgyweirio. Er hyny, y maent wedi bod yn brysur adeiladu un newydd, a'r Sabboth cyntaf o'r flwydd- yn hon, pregethwyd ynddo am y waith gyntaf gan y Parch. Kilsby Jones. Dyddiau Sul a Llun, y 17eg a'r 18ed o'r mis hwn, agorwyd ef yn ffurfiol. Gwein- yddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. D. Williams, Troedrhiwdalar; Kilsby Jones, H. Rees, Caer; Davies, New Inn; E. Hughes, Penmain; a Roberts, Brymbo, (gynt Llanerchymedd.) Cafwyd cynulliad- au Uuosog, casgliadau da, a phregethau rhagorol.
BRYNMAWR.
BRYNMAWR. DAU BLENTYN BACH AR GOLL.-Aeth dwy chwaer fach, tair a chwech oed, o'r dref hon, ar goll un prydnawn, ac er pob ymchwiliad methid cael gafael arnynt, fel y teimlai eu rhieni a'u perthynasau pryderus fod yn rhaid eu bod wedi cwrdd ag angeu ryw ffordd neu gilydd. Dalwyd i chwilio am dan- ynt ar hyd y nos a thranoeth. Modd bynag, ychy- dig o ffordd i'r mynydd, canfyddwyd y ddaa fach mewn agwedd effeithiol iawn. Yr oeddynt yn gor- wedd yn mreichiau eu gilydd fel pe yn hun mar- wolaeth," ac i bob golwg yr oedd bywyd wedi ehe- deg ymaith. Ond wrth graffu yn fanylach, teim- lwyd fod y cyrff yn gynes, ac anfonwyd yn ddioed at y meddyg, a daeth yn uniongyrchol, a thrwy ei fedrusrwydd adferwyd eu hymwybyddiaeth. Ych- ydig a allai y pethau bach ddyweyd pa fodd y treuliasant eu hamser ar ol gadael cartref, ond yn unig eu bod wedi colli eu ffordd ar y mynydd, a'u bod yn methu gwybod sut i ddychwelyd, ac iddynt orwedd i lawr a syrthio i gysgu yn mreichiau eu gilydd, fel y caed hwynt wedi bod am 24 o oriau ar goll.
CWMNEDD.
CWMNEDD. Prydnawn dyddGwener, yr 8fed cyfisol, cynaliodd gweithwyr Pwllfaron eu cyfarfod blynyddol eleni fel arferol, yn ystafell y clwb, Oddfellow's Arms. Mae yn arferiad gan y gweithwyr uchod er's blynyddau, gyfarfod a'u gilydd unwaith bob blwyddyn er meith- rin. Etholwyd Mr R. Gwilym i'r gadair, a T. Daniel i'r is-gadair. Prif destyn siarad y cyfarfod, oedd yr arferiad isel, aflesiol, a phechadurus o dyngu a rhegu, a glywir mor gyffredin gan weithwyr ein gwlad. Siaradodd Mri. J. Morgan, a G. Tasker, ac eraill, yn effeithiol. Yna galwyd ar Mr Rees, yr arolygwr, i siarad, dywedai am yr undeb oedd rhyng- ddynt fel meistri a gweithwyr. Siaradai yn uchel am foesoldeb y glowyr, na chlywodd yr un llw na rheg o enau yr un o honynt yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Yna galwyd ar Mri. D. J. Rees, D. Thomas, G. Tasker (Al.,tiv -Vedd), ac eraill, i ganu, yr hyn a wnaethant fel arfer, yn swynol dros ben. Terfynwyd trwy dalu diolchgarwch fel arfer, a chanu yr anthem genedlaethol, y solo gan Alaw Nedd, a phawb yn cyduno yn y chorus. Nos Fawrth, y 12fed o'r mis hwn, cafwyd cyng- herdd gan y Glyn Neath Glee Party; yr elw er cynoathwyo teulu mewn amgylchiadau cyfyng. Y cadeirydd oedd Mr John Tasker.-O's dim odds pwy.
RHOSYMEIRCH A BODFFORDD.
RHOSYMEIRCH A BODFFORDD. Urddwyd Mr J. R. Davies, o goleg y Bala, yn weinidog ar yr eglwysi uchod, Ionawr 13eg. Pre- gethwyd y nos o'r blaen yn Rhosymeirch, gan y Parchedigion E. Evans, Skewen, a W. Edwards, Aberdar, ac yn Bodffordd gan y Parchedigion M. D. Jones, Bala, a W. Lloyd, Caergybi. Bore dranoeth, yn Rhosymeirch, dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. Owens, Llangefni. Pre- gethwyd ar natur eglwys gan y Parch. R. E. Wil- liams, Beaumaris. Holwyd y gofyniadau i'r gwein- idog ieuanc gan y Parch. W. Jones, Amlwch. Pa rai a atebwyd yn foddhaol ac effeithiol iawn. Wedi cael atebion, gofynwyd am arwydd oddiwrth yr eglwys a'i derbyniad o Mr Davies, a chafwyd hyny yn unfrydol, ac wedi cael arwydd ganddo yntau o'i gydsyniad, gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan y Parch. W. Griffiths, Caergybi. Pregethwyd siars i'r gweinidog gan y Parch. M. D. Jones, ac i'r eglwys gan y Parch. E. Evans, Skewen. Am ddau, pregethwyd gan Evans, Skewen, ac Edwards, Aber- dar. Am chwech, yn Rhosymeirch, gan M. D. Jones, Bala, a W. Lloyd, Caergybi; ac yn Bodffordd ar yr un adeg, gan Evans, Skewen, ac Edwards, Aberdar. Cafwyd cyfarfodydd da o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd yn bresenol, heblaw y gweinidogion uchod, y Parchedigion T. Evans, Bettws y Coed, a J. Wil- liams, Bettws Gwerfyl Goch, a thri o fyfyrwyr y Bala-Mri. T. Roberts, W. Davies, a J. Griffiths. Da genym weled hen eglwysi Rhosymeirch a Bod- ffordd yn rhoddi esiampl o flaen eglwysi gweigion Mon, drwy roddi galwad i ddyn ieuanc o'r coleg.
URDDIAD GWEINIDOG.
URDDIAD GWEINIDOG. Cynhaliwyd cyfarfod i urddo Mr David Davies, B.A., o Gefnarthen, i gyflawn waith y weinidogaeth yn nghapel yr Onllwyn, Undeb Brycheiniog, ar y lau a'r Gwener, y 14eg a'r lofed o'r mis hwn. Trefnwyd yr oedfaeon fel y canlyn:- Am 6, y dydd cyntaf, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan o Parch. J. Griffiths, o Lanwrtyd. Pregethodd y Parchn. W. G. Evans, o Cwmwysg, a J. Owen, Trecasteli, diweddar o New Zealand. Am 10, yr ail ddydd, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan J. Owen. Pregethwyd ar Natur Eg- lwys gan J. Griffiths. Holwyd y gofyniadau gan y Parch. B. Thomas, o'r Gurnos. Dyrchafwyd yr Urdd Weddi gan y Parch. L. Jones, o Ty'nycoed. Pregethodd y Parch. H. Rees, Ystradgynlais, ar Ddyledswydd y Gweinidog; a B. Thomas ar Ddy- ledswydd yr Eglwys. Am 2, darllenwyd a gweddiwyd gan J. Griffiths, 0 1 1 a phregethodd y gweinidogion L. Jones, Ty'nycoed, a D. Thomas, Hermon, Ystradfellter. Am 6, dechreuwyd yr oedfa gan Mr Thomas Lewis, Ty'nycoed, o phregetl-iavycl gan J. Owen, a Mr Thomas. Yr oedd yr hin yn arw_, fel y methodd rhai o'r gweinidogion a ddisgwyliwyd roddi eu presennoldeb, Yr oedd yr oedfaeon yn hynod o lewyrchus, ac ar- wyddion fod a fyno Duw a'r Undeb. I Y mae y brawd yn dechreu ar ei weinidogaeth yn bur obeithiol. Bendith y nefoedd arno ef a'i ddiadell fechan.—Gohebydd.
LLANSAWEL
LLANSAWEL Prydnhawn dydd Calan, anrhegwyd aelodau yr Ysgol Sabbathol perthynol i'r Eglwys Sefydledig a the a bara brith, yn y Town Hall. Am 7 o'r gloch, cynhaliwyd cyfarfod poblogaidd, dan lywyddiaeth y Parch. J. H. Davies. Cymmer- wyd rhan ynddo gan gor yr eglwys, dan arweiniad Mr Thomas Williams (Eos Sawel). Ar 01 anerchiad byr a phwrpasol gan y llywydd, cafwyd amryw gan- iadau, darlleniadau, ac adroddiadau gan amrywiol bersonau.-Saweyry)i.
CWMDAR, GER ABERDAR.
CWMDAR, GER ABERDAR. Y PENNY READINGS.—Cynhaliwyd y pedwerydd gyfarfod o'r natur uchod yn Ysgoldy Brytanaidd y lie uchod, nos Fawrth, lonawr 19eg. Llywydd, Mr Benjamin Edwards. Blaenoriaid y cyfarfod ydynt Meistri. Morris, T. James, Nantmelyn, S. Williams, ac R. Jones, Bwllfa. Canwyd a darllenwyd yn ardderchog. Diben y cyfarfodydd yw cynnorthwyo yr Ysgol Frytanaidd. Rhwydd hynt i'r cyfeillion i fyned yn mlaen.-loaii Risiart.
RHYL.
RHYL. HYN A'R LLA.LL. Dywedir mai y Parch. Dr. Butterton, Brighton Road, sydd wedi ei apwyntio yn Ynad Heddwch dros Rhyl. Rhyfedd, os gwir; oblegid yr oedd Parlament' y dref wedi eymmer- adwyo tri boneddwr arall, ac yn enwedig un yn deall Cymraeg. Cryn ddirmyg ar y I Parlament' yw diystyru eu cymmeradwyaeth. Eglwyswr, ond rhyddfrydwr i'r pen, yw Dr. Butterton. Pleidiodd Gladstone yn yr Etholiad diweddar, a dannodir mai am hyny y gwnaed ef yn Ynad Heddwch. Nos Fawrth diweddaf, yr oedd y Doctor yn gadeirydd yn narlith Hugh Stowell Brown, yn nghapel y Bed- yddwyr Selsmg Mr Francis (onide ?) a haerai yn nghyfarfod Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, fod mor anhawdd cael person eglwys i gapel ag yw cael cockroachan' o'i thwll! Dyma un enghraifft beth bynag o'r anhawsdra wedi ei orchfygu.-Y mae split y British School o'r diwedd wedi esgor ar ffaith gyhoeddus. Clywsom am fil o fan. frwydrau mewn pwyllgorau—rhai yn dadleu dros, a rhai yn erbyn Mr Jones, yr ysgolfeistr. Hysbys yw yn awr fod Mr Jones wedi ei orchfygu-ond ni fynai ei orch- fygu fel lleidr na Uwfrddyn. Gadawodd yr Ysgol w itit fyiiig colours,' dydd Gwener diweddaf, pryd yr ymffurfiodd y plant, (dros ddau gant o bonynt,) yn orymdaith fawreddog, a cherddasant trwy'r dref dan ganu, yn cael eu harwain gan Mr Jones. Y mae ef wedi agor ysgol newydd, ar y Parade. Dechreuodd yno dydd Llun gyda 130 o blant. Cyd- nabyddir ei fod yn dra medrus fel addysgwr, a cherir ef yn fawr iawn gan y plant. Y trueni yw, er hyny, fod y British School yn Rhyl wedi ymranu yn ei herbyn ei hun.V. B.
MANCHESTER.
MANCHESTER. DARLITH AR YR EISTEDDFOD. Traddododd Pedr Mostyn araeth wir ragorol ar y pwngc uchod, nos Fawrth diweddaf, yn y Temper- ance Hall, C. on M. Ni raid iddo wrth ganmoliaeth fel siaradwr syn- wyrol a goleuedig. Y mae wedi ennill iddo ei huh enw uchel yn mysg rhestr areithwyr blaenaf ein gwlad. Un o weithredoedd doethaf pwyllgor yr Eistedd- fod oedd ei ddewis ef yn ysgrifenydd i'r sefydliad. Mae gobaith da yn bresennol y dyrchefir yr Eis- teddfod i fri ac urddas h.y., os derbynia yr ysgrif- enydd y gefnogaeth a'r cymmhorth gofynol i gario allan ei gynlluniau a'i amcanion. Y pwngc mawr ydyw cael arian, er symmud y baich dyled i ffordd. Ymddengys mil o bunnau yn llawer ar un olwg; ond attolwg, beth yw mil o bunnau i ewyllyswyr da y sefydliad yn Nghymru a Lloegr. Yn awr am dani ynte, feirdd a Ilenorion, profwch eich bod yn caru llwyddiant ac anrhydedd yr unig sefydliad Cenhedlaethol sydd genym. Siaradodd y Parchn.JLloyd Jones, John, a Mrldris Vychan yn hynod galonog. Llywyddwyd gan Deiniol Ddu. Yr ydym yn dymuno o'n calon i bawb a all wneud rhywbeth er cefnogi boneddwr mor alluog yn ei orchwyl pwysig. Dangoswn i'r byd ein bod o ddifrif yn ein hym- lyniad wrth yr Eisteddfod, a dangoswn i bwyllgory sefydliad ein bod yn cymmeradwyo eu gwaith yn dewis Pedr Mostyn, i geisio ail anadlu anadl einioes i ffroenau yr hen foneddiges i'w hadfywio.-Ioan.
YSTRAD RHONDDA.
YSTRAD RHONDDA. I raddau yn farwaidd y gellir dyweyd am y gweithfeydd yn y lie hwn y dyddiau hyn, a thrwy y Cwm yn gyffredinol yr un modd. Ond y mae genym le i obeithio y daw amser gwell yn fuan ar y pyllau glo, ac ar wahanol fasnach y lie; ac y mae Ilawer o ddarpariadau yn cael eu gwneud ar gyfer yr amser hwnw. Un peth neillduol dda, ag sydd wedi hir ddisgwyl am dano hefyd, ydyw cael gas i oleuo'r lie. Yn ys- tod yr haf diweddaf, buwyd yn ddiwyd wrth y gorchwyl o roddi pipes i lawr oddz yma i Dreherbert; ac erbyn hyn, y maent wedi ei orphen. A'r wyth- nos ddiweddaf, fe rodddwyd prawf arno mewn gwa- hanol fanau yn y lie; ac y mae yn dda genym allu dyweyd, er na fu y fath beth erioed yn Cwm Rhon- dda, ei fod wedi helaeth foddloni pawb a'i cafodd, ac wedi creu hefyd awydd yn mhob masnachydd yn ddieithriad i'w gael i oleuo eu tai a gobeithio, gan fod y boneddigion wedi myned i gymmaint o draul, y gwnaiff pobl Treorkey a Threherbert gymmeryd rhan ynddo, ac y bydd i'w weled yn goleuo yn mhob siop yn mhob un o'r lleoedd uchod. Mae hefyd yn Treherbert Waith Dwfr ar waith, ac y mae pipes hyny yn cael eu dodi i lawr oddi yno i'r lie hwn ac y mae disgwyliad mawr yma am y dydd pryd y byddant yn gollwngydwfrilawrdrwy y pibellau i ddwfrhau trigolion yr Ystrad. Peth arall sydd yma ar waith, ond heb ei orphen, yw Ty Marchnad. Trwy'r blynyddoedd diweddaf, yr oeddynt yn gorfod myned i lawr oddi yma i Bontypridd, sef wyth milldir o ffordd, cyn y buasent yn cael lie cyfleus i brynu gwahanol bethau at eu hangenrheidiau a phan y daw y lie uchod yn barod, yr ydym yn credu y bydd o les mawr i'r lie, ac i'r trefydd amgylchynol yn ogystal. Hefyd, y mae yma Ddarllenfa o'r fath oreu we di cael ei sefydlu, yn yr hon y gall pob un sydd yn teimlo tipyn o ddyddordeb mewn darllen ac astudio wneud llawer o ddaioni iddynt eu hunain, yn hytrach na myned i'r tafarnau, a lleoedd ereill o'r fath, i wneud ffyliaid o honynt eu hunain, mewn eanlyniad o I wario eu harian am yr hyn nid yw fara, a'u llafur am yr hyn nad yw yn eu digoni.' Cxyda pnriodoldeb y gellir dyweyd hefyd am achos crefydd yn mlilitli y gwahanol enwadau, fod yma lawer o ymdrechiadau yn cael eu gwneud ar ei rhan. 1, -ieuc Mae deuddeg o gapelau newyddion wedi cael eu hadeiladu, rhwng y lie hwn a Threherbert, yn ystod y pedair blynedd diweddaf, ond fod rhai o honynt heb eu gorphen; a'r hen gapelau oedd yma o'r blaen, maent hwythau wedi cael eu trwsio a'u hymestyn, nes y maent yn edrych braidd gystal a phe buasent wedi cael eu gwneud o r newydd. Yr wyf am ddyweyd gair etto am ysgolion dyddiol y lie hwn. At y ddwy oedd yma o'r blaen, y mae un arall yn cael ei hagor yr wythnos hon etto, mewn ystafell helaeth berthynol i'r capel Methodist yn y Ton ac y mae dwy o'r tair yn Ysgolion Brytanaidd, a bechgyn galluog wedi cael eu dewis yn ysgolfeis- triaid ar yr ysgolion. Ab Inys Davies.
Advertising
NOTICE.—All Watches and Clocks MADE and those REPAIRED by W. J. Parry (from Iloskell's) are guarant- eed for SEVEN TEARS. DEPOT for Clocks at 5s. 9d., and Lucky Wedding Rings and Keepers, 137, London-road. [60-111.]