Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

--LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.

Y TAELWRIAID.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TAELWRIAID. Mri. Gol.Mae'rTaeIwriaid, yn hollol ddiragfwr- iado'm rhan i, wedi myned yn fodau pwysig iawn yn mysg deudroedogion y belen ddaearol. Mae eich gohebydd I. G. Eigion' yn sylwi fod y dymhestl yn dechreu crynhoi uwch fy mhen yn yr Herald Cymraeg, o herwydd nad oedd ein penderfyniad fel enwad yn y sir hon yn nghylch y 4 sgriw seiat' yn boddio rhyw fodach 'o sir arall.' Mae eich goheb- ydd yn credu yn ei galon mai taeliwr ydyw. Gwir ddywedaist ti, 0 ddewin. 4 Ni bu sadler brwper brach, Neu daeliwr anwadalach.' Wel, gadawer iddo ganu ei sturmant,' a dawnsio'r Taeliwr Lleuog,' cyhyd ag y myno o'm rhan i. Wei etto, hen hitrwm rhyfedd oedd f' ewyrth Robert, yr hen daeliwr a fu dan sylw o'r blaen. Ni ddywedais yr hanner am dano; am hyny, goddef- weh un hanesyn etto. Yr oedd llabi o ddyn mawr castiog yn byw, dri- gain mlynedd yn ol, mewn tua thri chwarter milldir i drigfa'r hen daeliwr; a phob amser gyda'r blaenaf yn aflonyddu gorphwysfa ei hen gymmydog penys- gafn a diddichell. Adwaenid hwn, o herwydd ei fod yn un o'r rhai mwyaf yn y wlad, wrth yr enw 'Morus fawr.' Un tro, wrth fyned heibio ganol nos, cyflawnodd ryw wrhydri, nes 'codi yr hen daeliwr;' a ffwrdd a fo nerth ei droed tuag adref, a'r hen daeliwr yn trotian ei oreu yn ei grys ar ei ol! Cyrhaeddodd Morus y ty, a chauodd y drws; yr oedd pawb yn cysgu yn dawel yn eu gwelyau, y tan bron o diffodd yn yr aelwyd, a'r crochan uwdyn y gornel ar y pentan, a'r gweddill uwd garw ac eis- inog wedi sych-grasu ac oeri, wrth ddisgwyl Morus o'i grwydriadau nosawl. Ar ben y bwrdd yr oedd cawgiad o enwyn yn dechreu suro, a llwy bren a phicyn, &c. Diben neillduol yr enwyn oedranus, a phrofiadol, oedd dangos y ffordd i'r uwd mynyddig i gylla Morus. A chyda bod Morus yn dechreu llawcio yr uwd llygoer, wrth lewyrch canwyll frwynen, dyna'r hen daeliwr yn dechreu bombardio y ty. Pared coed oedd iddo; felly, yr oedd yn hawddach cadw swn wrth guro. Deffrodd hen wry ty, cododd i'r ffenestr, a gofynodd yn chwerw ac awdurdodol, pa beth oedd yn aflonyddu pobl yn eu gwelyau yr awr hono ar y nos. Yr oedd llais cadarn yr hen wr yn ddigon i ladd gwroldeb milwraidd yr hen daeliwr yn y fan, ac attebodd yn ostyngedig, dim ond Morcyn a minnau.' Gwelodd Morus le i siarad erbyn hyny, a gofynodd yn ddiniwaid, 'I b'le 'r ydach chi'n myn'd, f ewyrth Robert, yr am- ser yma ar y nos—dewch i mewn i gael share o'r uwd yma.' Derbyniodd yr hen symlogyn y cynnyg yn union, a bu'r ddau yn cydwledda yn frawdol ar greifion uwd a llaeth enwyn, fel pe na buasai dim wedi digwydd Ond digon digalon fyddai ar yr hen daeliwr wrth ddychwelyd adref yn ei grys o'i frwydrau, ar ol i'w natur oeri, ac i'r agerdd os- twng. Yr oedd hen daeliwr arall pur ryfedd yn byw rhwng Llangedwyn 9 Llanfyllin. Bychan o gorph- olaeth, ond mawr mewn gwrhydri, oedd hwnw. Meddwi, cadw swn, a brwydro oedd ei hy nodi on* Yr oedd o yn feistr caled ar yr hen wraig a dyna fyddai ei clnvyn wrth ei chymmydogion-I Rhaid i mi dewi pan fyddai'n dweyd y gwir.' Adroddid chwedl hynod am dano tua diwedd ei oes. Mai y dychwelai o Lanfyllin yn hwyr un noswaith, wrth groesi afon fechan y Stryt Isaf, tybiai ei fod yn I gwel'd eog neu leisiedyn yn yr afon cymmaint agos ag ef ei hun. Gan fod y dwfr yn fychan, yr oedd cefn y pysgodyn mewn mannau allan o hono, Aeth i'r afon i geisio ei ddal, a bu yn hela ar ei ol am hir amser, nes o'r diwedd yr aeth i lyn dwfn at glicied ei en; yna brawychodd, a throdd yn ol, gan gwbl gredu mai y diafol, yn rhith salmon, oedd yn ceisio ei ddenu i'r llyn i'w foddi! Os oedd y fall yn medru chwareu y fath 'stranciau efo'r taeliwr, gan ym- rithio fel gleisiedyn i'w hudo i ddinystr, dylasai yntau, fel Ceridwen Wrach gynt, ymrithio fel dyfr- gi i'w hela a phe gwnaethai hyny, y gelyn fuasai mewn mwyaf o berygl am ei gorpws. Pa fodd bynag, yr oedd rhyw goll ar gynneddfau y taeliwr, mae lie i dybied; canys bu farw yn fuan ar ol hyny, a buwyd yn taenu chwedlau fod ei ddrychiolaeth yn ymrithio i deithwyr ar y ffordd fawr, ac yn ymosod yn ffyrnig ar rai o'i hen gym- y 11 mydogion, yn rhwygo eu dillad, &c. Ni waeth gadael 4 y ddau Iwch gwael' yna yn llonydd bellach; ond teg fyddai nodi fod son ar droed am gael hanes y taelwriaid ynllyfr cryno, pan geir 4 nifer ddigonol' o danysgrifwyr, fel y gellir ei rwymo yn gyfrol hardd mewn croen Ho, gydag ymylau goreuredig! Ereill a farnant mai doethach fyddai ei gyhoeddi yn bamphlet, i'w gydrwymo a Hanes Twm Sion Catti, Siencyn Penrhydd, Twm o'r Nant, a bodau hynod o'r fath. Ond mae y pethau yna etto heb eu penderfynu; ac mae'r awdwr yn hollol ddifater pa ffordd y trydd y fantol yn y diwedd. Cynddelw.

MARWOLAETH TYWYSOG BRENHINOL…

FFRWYTH YR ETHOLIADAU YN YR…

TERFYSG YN IT ALL

TWRCI A GROEG.

ST. CLEARS.

Family Notices

Y FASNACH YD.

ANIFEILIAID.

MASNACH METTELOEDD, &a.

MASNACH MARCHNADOEDD CYMREIG.

YR WYTHNOS. ^