Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
-., GOHEBIAETHAU.
GOHEBIAETHAU. [Nid ydym yn gryfrifol ara. syniadau ein Gohebwyr; ac nid yw eu cyhoeddiad yn ein colofnau yn ddigon i Tbrofi ein bod yn eu cymmeradwyo. Nis gallwn eu eau allan heb gael ein cyhuddo o geisio cyfyngu ar ryddid y wasg.—YGOLYGWYB.]
YR ATHROFA OGLEDDOL.
YR ATHROFA OGLEDDOL. AT Y PARCH. E. TiVILLIAM.,9, DINAS. Anwyl Frawd, Derbyniais lythyr oddiwrthych er's ychydig ddyddiau yn ol, gyda ffurf i'w llenwi, os buaswn yn caniatau i'm henw fod ar restr y Pwyllgor Cyffred- inol yn nglyn ag adeiladu Colegdy i'r Athrofa uchod. Mae genyf ormod o barch i chwi yn ber- sonol i adael eich llythyr yn ddisylw; a chan 13 ad ydwyf yn gweled fy ffordd yn glir i gydsynio, y mae genyf resymau boddhaol i mi fy hun dros eich ateb fel hyn drwy gyfrwng y TYST. Mae yn anhawdd iawn i ddyn ysgrifenu ar fater fel hyn heb osod ei hun yn agored i gael ei gam- esbonio ond yr wyf yn gweled fod rhai personau drwgdybus yn tynu camgasgliadau hyd yn nod oddiwrth ddistawrwydd dynion hefyd; ac o ran hyny, pa fodd bynag y gwneir, ofer meddwl bodd- hau pawb. Fy mhenderfyniad i o'r deehreu ydoedd na chymeraswn unrhyw ran arbenig gyda'r symud- iad am gael Colegdy i'r Athrofa Ogleddol. Cefais dipyn o drafferth, fel y gwyddoch, gyda'r mudiad Dau-can-mlwyddol am fwy na saith mlynedd, ac nis gallaswn feddwl am ymdaflu i ganol symudiad cyffelyb am bum mlynedd arall; oblegid, yn an- ffodus i mi, yr wyf yn digwydd bod yn un o'r bobl hyny nas gall fod mewn enw yn unig gydag un- rhyw beth. Rhaid i mi gael bod gyda phob peth o ddifrif, neu ei adael heibio yn llwyr. Mac genyf gymaint o waith o'm blaen, fel yr wyf wedi pender- fynu ymryddhan oddiwrth bob cyfrifoldeb gyda phethau cyhoeddus, o leiaf am bum mlynedd. Yr oeddwn yn credu, ac yr wyf ynparhau i gredu, mai gwell fuasai ymbwyllo ychydig cyn myned yn mlaen ag adeiladu Colegdy arall. Nid fy unig na'm prif reswm dros hyny ydyw fy mod yn meddwl y dylasai yr eglwysi gael gorphwys ar ol Ilafur y blynyddau a aethant heibio,—oblegid yr wyf yn go- beithio mai blynyddoedd o lafur mawr fydd y rhai nesaf hefyd—ond am fy mod yn meddwl fod ein gwlad yn debyg o fyned dan gyfnewidiadau dirfawr yn y deng mlynedd nesaf gyda golwg ar gyfleusderau addysg i'r dosbarth canol a'r dosbarth isaf. Z, Cydsyniais yn ewyllysgar i oedi codi y Colegdy y 11 yn Aberhonddu nes gweled pa beth a dcleuai o'r cynhygiad am Brif Ysgol i Gymru, pan y dadleuai Dr. Rees, o Liverpool, dros hyny gyda'i frwdfryd- edd a'i hyawdledd arferol; a gehiriwyd ef am fwy na blwyddyn. Ac yr wyf yn dra sicr, pe buasai y rhagolygon am Brif Ysgol i Gymru, ac am gynllun o addysg yn gyffredinol, mor addawol bum mlynedd yn ol ag ydynt yn awr, na phenderfynasid beth bynag mor unfryclol ar godi Colegdy yn Aberhonddu. Ond y mae hyny wedi ei wneud, cam neu gymwys, ac nid oes modd ei alw yn ol; ond y mae yn rhaid i mi ddyweyd, pe buaswn yn gweled pethau y pryd hyny fel yr wyf yn eu gweled yn awr, na buaswn yn uno mor galonog ag y gwnaeth urn. Am y rheswm yna yn unig y buaswn i yn cymhell gohirio cwestiwn y Colegdy i'r Athrofa Ogleddol, Ond yr wyf yn gweled eich bod chwi, a iluaws eraill, yn barnu yn wahanol, ae yn benderfynol i fyned yn mlaen. Wei, nid oes genyf ond dymuno Dnw yn rhwydd i chwi; ac o ba le bynag y daw gwrthwynebiad i chwi, yr wyf yn sicr na ddaw oddiwrthyf fi. Ond y mae genyf reswm neillduol sydd yn peri i mi deimlo gwrthwynebiad i fod ar unrhyw Bwyll- gor Gyffredinol yn nglyn a'r am can. Yr j'dwyf yn awr ar Bwyllgor Cyffredinol Athrofa y Bala—hyny ydyw, yn rhinwedd fy mherthynas a'r eglwys dan fy ngofal, yr wyf yn meddu hawl i bleidleisio yn ei holl amgylc-hiadau; ac yr wyf yn teimlo yn gryf iawn yn erbyn cyflwyno yr awdurdod i unrhyw Bwyllgor gwahanol oddiwrth, ac annibynol ar, Bwyllgor a chynhalwyr y sefydliad. Os oes Coleg- dy newydd i gael ei godi i'r Athrofa Ogleddol, dylai fod holl reolaeth ei godiad yn liaw, a'i gyfrifoldeb ar ysgwyddau, Pwyllgor yr Athrofa hono. Yr wyf yn gwybod mai Pwyllgor gwahanol ac annibynol hollol ar Bwyllgor rheolaidd Athrofa Aberhonddu a gododd y Colegdy yno; ond o dan amgylc-hiadau neillduol y bu hyny. Y bwriad gwreiddiol, fel y gwyddoch, oedd uno Athrofeydd 11 Aberhonddu a'r Bala yn un Coleg; ac oblegid hyny etholwyd Pwyll- gor hollol annibynol ar Bwyllgorau y ddwy Athrofa tuag at ddwyn yr amcan i ben. Dichon mai medd- ylddrych gwyllt, rhamantug, cwbl anymarferol oedd y meddylddrych am un Coleg. Nid af i ddadleu hyny yn awr. Nid wyf yn gyfrifol am dano. Nid fy meddylddrych gwreiddiol i ydoedd. Nis gwn yn sicr eiddo gwreiddiol pwy ydoedd; pa un ai Mr Thomas Williams, ai y Gohebydd, neu pwy ond gwn nad fy eiddo i ydoedd ond ymollyngais gyda'r llif yn y gynhadledd gyntaf yn Nghastellnedd, a phenderfynais wneud fy ngoreu drosto gan mai ar hyny y cytunwyd. Ond pe gwybuaswn mai mewn gwneud Colegdy newydd i Athrofa Aberhonddu y terfynasai, yr wyf yn sicr na buaswn yn uno ag un- rhyw Bwyllgor gwahanol i'w wneud, ond y gadaw- swn ef i Bwyllgor rheolaidd yr Athrofa hono i'w ddwyn i ben. Ac er i'r Pwyllgor gwreiddiol barhau i gymeryd holl ofal ac arolygiaeth yr adeilad nes ei ddwyn i ben, eto tipyn o waith a fu i gadw y ddau Bwyllgor rhag dyfod i wrthdarawiad, er yn ffodus na bu dim annymunol o'r deehreu. i'r diwedd; ond yr oeddwn drwy yr holl amser, o'r adeg y daeth yn amlwg na ellid cytuno ar un Coleg, yn teimlo mai Pwyllgor rheolaidd Coleg Aberhonddu a ddylasai gymeryd yr holl ofal a'r drafferth, ac i fod yn gyf- rifol yn unig i gynhalwyr y Coleg yn eu cyfarfod blynyddol am ei weithrediadau. Felly yn hollol yn yr achos yma. Pwyllgor yr Athrofa Ogleddol ddylai gymeryd holl ofal a chyfrifoldeb adeiladu y Coleg newydd, ac nid unrhyw bwyllgor ar wahan oddiwrtho; ac i gynhalwyr y sefydliad yn unig y maent yn gyfrifol, ac nid i unrhyw Bwyllgor cy- ffredinol, nas gellir gwybod am lawer o honynt pa faint o gydymdeimlad sydd rhyngddynt a'r sefydl- iad. Yr wyf yn gwybod fy mod yn hyn yn gwa- haniaethu mewn barn oddiwrth luaws o frodyr ag y mae genyf y parch mwyaf iddynt; ond yr wyf yn teimlo yn bur sicr mai y cynllun a gymeradwyir genyf ydyw yr unig gynllun rheolaidd a chyfan- goddiadol o weithredu. Buasai galw cynhadlea-d gyffredinol yn burion, am wn i, wedi i'r Constituency gydolygu ar eu cynllun i'w osod ger eu bron er diogelu cydweithrediad; ond ychydig iawn o bwys a roddir genyf ar benderfyniadau cynhadledd- au mewn materion fel hyn. Y peth hawddaf yn y byd ydyw pasio penderfyniadau, ond nid ydynt yn dwyn dim arian i mewn. Ac yn ami iawn, y dyn- ion a wna yr areithiau mwyaf ffiamllyd wrth gynyg a chefnogi penderfyniadau mewn cynhadleddau yw y rhai a wna leiaf i'w cario allan. Ond odid na chewch chwi brawf o hyn cyn y byddo y Colegdy wedi ei godi. Rhaid myned at yr eglwysi yn y di- wedd. Eu dedfryd hwy sydd i fod yn derfynol, nid mewn penderfyniadau, ond mewn gweithred a gwir- ionedd. Yr wyf wedi hen ddiflasu ar benderfyniad- au mawrion, ac areithiau cynhyrfus, nes peri i ryw rai gwan a ffol dybied nad oedd eisiau dim ond siar- ad yn llydan a hyderus na ddaw arian yn llifeiriant i'r drysorfa. Cefais yn y saith mlynedd diweddaf ddigon o'r fath bethau am fy oes. Nid ydynt yn gwneud dim da, ond y maent yn gwneud drygioni dirfawr. Codant ddisgwyliadau gau, ac wrth gael eu siomi gwnant ddynion yn anniddig. Haner dwsin o ddynion yn credu mewn unrhyw amcan, ac yn penderfynu cysegru eu hunain yn gwbl iddo, gan fyned ag ef o ddifrif at yr eglwysi ac at berson- au unigol, a wna fwy drosto na phum mlynedd o'r cynhadleddau mwyaf trystfawr, a'r penderfyniadau mwyaf hyderus. Ond wrth reswm, y mae yn rhaid i'r amcan fod yn gyfryw ag a'i eymeradwya ei hun i farn a theimlad yr eglwysi. Mae un peth arall, hwyrach y goddefwch i mi ei grybwyll. Yr wyf yn cael mai camgymeriad mawr y mae llawer o gyfeillion mwyaf brwdfrydig Athro- fa y Bala yn syrthio iddo ydyw siarad yn wastad am ryw bersonau fel gelynion a gwrthwynebwyr, am nad ydynt yn eu cefnogi hwy yn eu holl gynlluniau. Nid oes dim mor debyg o'u gwneud felly ag awgrymu yn wastad mai dyna ydynt. Mae dynion drwgdybus, eiddigus, amheus o bawb, yn rhwym o wneud niwed i'r achosion y piofiesant sel fawr dros- tynt. Yr wyf wedi clywed dynion yn cael siarad am danynt fel gelynion a gwrthwynebwyr i'r Bala pan y gwyddwn nad oedd sail i'r fath dybiaeth, ac y gwyddwn hefyd eu bod wedi gwneud deng mwy dros yr Athrofa na'r rhai oedd yn siarad felly am danynt. Nid yw fod dynion yn digwydd methu cydolygu a phob peth. a ddygir ger eu bron, ac a gymeradwyir gan y rhan fwyaf, yn profi eu bod yn elynion i'r ssfydliad. Rhaid i ddynion gael rhoddi eu barn ar sefydliadau a phersonau cyhoeddus. Yr wyf wedi cael fy rhan yn lied helaeth yn fy oes, yr wyf yn meddwl, 0 feirniadaethau dynion arnaf; ac nid ydynt bob amser yn digwydd bod yn foesgar, heb son am foneddigaidd. Bum dan brofedigaeth fwy nag unwaith i ddyweyd yn fy llid na chyfranwn geiniog byth at ein Hathrofau wrth eu clywed; ond wedi adfeddianu fy hun, yr oeddwn yn gweled nad oedd yn iawn digio wrth sefydliadau cyhoeddus oblegid personau annoeth a ddigwyddo fod mewn cysylltiad a hwy. Gallaf oddef dadl deg, a gallaf basio heibio i air garw; ond nis gallaf oddef na phasio heibio yr ysbryd amheus a drwgdybus sydd yn llunio ac yn taenu chwedlau nad oes cysgod o sail iddynt, ond yn eiddigedd a drwgdybiaeth y ch wedleuwyr eu hunain. Yr wyf yn dyweyd hyn wrthych chwi am y gwyr pawb eich bod yn un o gyfeillion mwyaf profedig y sefydliad, ac yn gwbl rydd oddiwrth yr ysbryd y cyfeiriais ato. Nid wyf yn foddlawn rhoddi i fynu i neb mewn sel dros ein sefydliadau Athrofa- ol; a pha beth bynag ydyw fy iiiarn bersonol am lawer o'u cynlluniau, yr wyf bob blwyddyn yn tan- ysgrifio atynt, ac yn anog y bobl dan fy ngofal i wneud hyny hefyd. Ac a chymeryd ein casgliadau at Aberhonddu a'r Bala am y pymtheg mlynedd di- weddaf, gall eglwys y Tabernacl ddal cydmariaeth, ag unrhyw eglwys a fedd ein henwad. Gyda'r dymuniadau goreu am eich llwyddiant, Yr eiddoch yn serchog, Liverpool. J. THOMAS.
ATHROFA Y BALA A CHYNHADLEDD…
ATHROFA Y BALA A CHYNHADLEDD ABERYSTWYTH. At Olygwyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,—Byddaf ddiolchgar i chwi am le yn y rhifyn nesaf o'ch papur i ychydig o sylwadau byrion ar lythyr Mr P. M. Williams yn y TYST diweddaf. 1. Ar y frawddeg ganlynol—' Er fy mod i wedi taiiysgri-fio.'l Os y flwyddyn ddiweddaf ni dderbyniais gylehlythyr; ac y mae genyf sail i ofni pe chwilid i fewn i'r achos yn fanwl, y ceid allan na wahoddwyd ond nifer fecban o'r eglwysi sydd yn cyfranu y swm gofynol.' Yn awr os gwnaed yr amryfusedd y cyf- eiria efe ato, mae y bai yn gwbl ar yr Ysgrifenydd. Yr Adroddiad oedd gan yr Ysgrifenydd yn gyfar- wyddyd i weled pwy oedd yn meddu pleidlais yn ol rheolau yr Athrofa oedd Adroddiad 18G8, yr olaf ag y mae hyd yn hyrnyedi ei gael. Yn yr Adroddiad hwnw, ni chyfarfvddodd ag enw Mr P. M. Williams, ac wedi darllen yr Adroddiad heddyw drachefn nid yw wedi ei gael. Danfonodd yr Ysgrifenydd gylch- lythyrau yn gwahodd i'r gynhadledd ddiweddar yn Aberystwyth bob tanysgrifiwr o 10s ac uchocl heb basio heibio yr un yn fwriadol, oddieithr ychydig Saeson, yn nhrefydd Lloegr gan mwyaf, a rhai nad oedd ganddo eu llythyr-gyfeiriadau. Ac yn nglyn a'r eglwysi aeth dros yr Adroddiad yn fanwl fwy nag unwaith, gan ddechreu yn y dechreu a dilyn hyd y diwedd, gan nodi pob eglwys oedd yn casglu Ip ac uchod; a danfonodd gylchlythyr iddynt oil heb ddibrisio yr un eglwys hyd eithaf eiwybodaeth. Ac y mae yr awgrym drwgdybus canlynol—' y mae genyf sail i ofni pe y chwilid i mewn i'r achos yn fanwl, y ceid allan na wahoddwyd ond nifer fechan o'r eglwysi sydd yn 'cyfranu y swm gofynol.' Y mae yr awgrym drwgdybus yna heb un sail iddo mewn gwirionedd ac mewn tegwch. Gwassnaetha y dystiolaeth uchod hefyd i wadu yn hollol y cyhuddiad canlvnol-I Cyfyngasant eu gwahoddiad i bersonau a dybient hwy yn ffafriol i gael y Coleg yn y Bala, a phenderfynasant gau allan bawb a fyddent yn debyg o'u gwrthwynebu.' Dan- fonwyd y cylch-lythyrii bawb yn ddiwahaniaeth ag oedd yn meddu pleidlais yn ol rheolau yr Athrofa, pa un ai dros y Bala ai yn erbyn, heb eithrio neb yn fwriadol. 2. Geilw Mr P. M. Y/illiams y Pwyllgor Cyffred- inol yn sham. Ar ba sail ni wn. Ymddengys i mi mor real ag y gall Pwyllgor o'r fath fod. Enwyd y personau gan y gweinidogion a'r lleygwyr oedd yn bresenol—enwai pob un y dyn mwyaf cymhwys a chyhoeddus o fewn cyleh ei adnabyddiaeth ag y gallai feddwl am dano ar y pryd. Wedi hyny pen- derfynwyd danfon at y rhai nad oeddynt yn bresen- ol, ac wedi eu henwi i fod ar y Pwyllgor Cyffredinol, i ofyn eu cydsyniad. Ac y mae erbyn hyn y corph mawr o honynt wedi. danfon eu cydsyniad a chais y Gynhadledd. Ac nid cyfiawnder na boneddigeidd- rwydd ond yn hytrach difenwad ydyw galw Pwyll- gor Cyffredinol felly yn sham. 3. Ysgrifena Mr P. M. W. eto fel hyn:—' Dyma yr un cyfarfod diawdurdodedig yn apwyntio per- sonau o bob awr i'r wlad i fod ar y Pwyllgor Cy- ffredinol i fod yn addurn ac yn sham, ac ar yr un pryd yn cynyg fod i Bwyllgor presenol Coleg y Bala yn ei grynswth i gael ei ethol yn Bwyllgor Gweith- iol y Coleg newydd, ac fod awdurdod yn cael ei roddi iddynt i brynu y tir ar unwaith. Nid dymunol i deimladau yr arweinwyr oedd rhoddi atalfa ddi- serernoni ar y little game yna,. Yr oedd yr amryfus- edd hwn yn myned braidd yn rhy bell, ac felly dewivwyd dynion o gylch eangach, ac o olygiadau mwy cyffredinol.' Mae y rhaneb yna yn gamddar- luniad hollol o sefyllfa pethau. Os y golyga wrth Bwyllgor presenol Coleg y Bala y personau fydd yn arfer bod yn Ilea gyson yn mhwyllgorau yr Athro- fa, a bod y Pwyllgor hwnw yn ei grynswth wedi ei gynyg i fod yn Bwyllgor Gweithiol, nid yw y peth yn wii- Enwyd fist o bersonau i fod yn Bwyllgor Gweithiol, neu yn hytrach dechreuwyd darllen list 0 bersonau, ac yr oedd rhan fawr o hono yn bersonau na fuont, am wn i, yn mhwyllgorau y Bala erioed. Ac yn lie bod yno chwareu rhyw little game i gael y personau hyny i ffurfio y Pwyllgor Gweithiol ac i brynu y tir ar unwaith, ni fu dim o'r fath beth. Darllenwyd penderfyniad i'r dyben i awdurdodi y Pwyllgor i brynu y tir, a darllcnwyd rhan o list o bersonau i ffurfio y Pwyllgor; ond eiliwyd ddim o'r penderfyniad, a chynhygiwyd ddim o hono,—yn unig fe ddarllenodd yr ysgrifenydd ef, a chyn gor- phen darllen enwau y personau oedd yn y list, ey- nhygiodd rhywun fod personau yn cael eu nodi i dynu list o Bwyllgor Gweithiol, a derbyniwyd y cynhygiad yn ddiwrthwynebiad yn uniongyrchol, a gweithredwyd arno. 'Doedd yno yr un little game, na chynyg at y fath beth, ond fel y bodolai hwyrach yn nychymyg Mr P. M. W. Penodwyd Mr Thomas, Bangor; Mr Evans, Caernarvon; Davies, Llanelli; P. M. W., y Gohebydd, ac Athrawon y Coleg a'r Ysgrifenydd, i dynu allan list o Bwyllgor Gweithiol, ac ni fu yr un gair o wrthwynebiad i daflu y pen- derfyniad a'r list flaenorol y naill du ar unwaith. 4. Yr ydym yn beiddio dyweyel fod y Gynhadledd yn hollol gonstitutional yn ol rheolau Athrofa y Bala. Mae y Rheol II., yr hon sydd yn rhoi pleidlais i bob gweindog a gasglo lp. at yr Athrofa, yn wastad yn cael ei hesbonio i olygu unrhyw weinidog, neu ddiacon, neu gynrychiolydd i eglwys fyddo yn casglu lp.esboniad, os nad o fowft llythyren y rheol, y mae yn berffaith yn ysbryd a dyben y rheol. Mae yn wir na fu dim scrutiny ar y pleidleisiau yn Aber- ystwyth, ac nid oedd achos am hyny. Yr oedd y gwahoddiadau o fewn cylch y constituency, ac yr oedd y Gynhadledd morliuosog, ac mor nnol, ao mor frwdfrydig, fel nad oedd ond peth hollol afreicliol. 5. Gyda golwg ar ddwyn achos y Colegdy ger- bron yr eglwysi nad oedd ynjmeddu pleidlajs yn ol rheolau yr Athrofa, ni fydd hyny ddim ond yr un peth ag sydd yn ffaith o hyd yn y casgliadau blyn- yddol. Ni chlywais i erioed am un eglwys yn go- medd casglu, nac yn grwgnach casglu, am nad oedd ganddi bleidlais yn y Pwyllgor. Nid yw yr eglwysi yn edrych ar bethau trwy wydrau cvábls a techni- calities man reolau, ond ar egwyddorion llydain Cristionogol. Ypwnc mawr gyda hwy ydyw, a yw y peth yn fuddiol, a ydyw yn angenrheidiol. Ni welais i yr un achos eto y gellid dangos ei fod yn deilwng ynddo ei hun, yn cael ei wrthod. Ac y mae yn bur sicr genyf, pan ddygir. achos y Colegdy ger- bron yr eglwysi, ac y dangosir iddynt fod yr Athro- fa sydd bellach ys deng mlynedd ar ugain yn addysgu dynion ieuainc i weinidogaeth yr efengyl, (ac yn ami fwy nag ugain o fyfyrwyr ar unwaith ynddi) heb un adeilad yn y byd at ei gwasanaeth, ond congi o dy anedd, y ca achos y Colegdy newydd ystyriaeth mor bwyllog a derbyniad mor roesawgar a Choleg Aberhonddu, neu unrhyw achos da arall perthynol i'r enwad. Geill llythyrau fel yr eiddo Mr P. M. W. greu rhagfarn yn meddyliau rhai tuag at y symud- iad, a gallant fod ynfoddhaol iawn gan y rhaifydd- ant yn ceisio achos yn ei erbyn; ond y mae yn galon- did, yn wyneb hyn, meddwl fod gwynt oer gwrth- wynebiad i achos da yn enyn tan sel yn iwy yn mynwes ei gyfeillion o'i blaid. 6. Dywedaf air am animus llythyr Mr P. M. W. Mae wedi gallu rhoi lliw gwael a drwg ar bob peth perthynol i'r symudiad i gael Colegdy i Athrofa y Bala. Mae yn peri syndod i mi hefyd. Nid ei fod yn gallu gwneud. Geill dyn, os bydd yn ewyllysio, rhoi lliw drwg ar y peth a fyno. Ond y syndod yw ei fod yn gwneud. Yn y Gynhadledd yn Aberys- twyth, gwrthwynebodd y symudiad yn wrol a gwyneb-agored. Nacaodd hefyd i'w enw fod ar y Pwyllgor Cyffredinol. Wedi hyny ymcldangosai fel yn dyfod i gydymdeimlad a'r amcan o godi Colegdy newydd yn y Bala. Enwyd ef yn un i dynu list o Bwyllgor Gweithiol. Cyinerodd y gwaith hwnw, a gwnaeth ei ran yn dda ynddo. Y pryd hwnw, enwyd ef yn un o'r Pwyllgor Gweithiol; derbyniodd yntau y penodiad, ac ysgrifenodd ei enw fel aelod o hono a'i law ei hun. Wel, yr oeddwn yn edrych arno yn ymarweddu gyda magnanimity teilwng o foneddwr a Christion, a theilwng o genius Annibyniaeth,—wedi colli ei well- iant yn plyguilais y mwyafrif, ac ynharneisio ei hun i weithio gyda'r symudiad. Bravo! medd .'11, iPedr Mostyn! Dyna ddyn yn iawn! Ond y mae y llythyr yna wedi fy synu! Wedi cymeryd ci le yn ewyllysgar fel aelod o'r Pwyllgor Gweithiol, dyna fe yn taflu gwrthban gwlyb dros y cwbl i ddiffodd pob brwdfrydedd o blaid yr achos Onid gwrth- weithio y cwbl yw hyn? Duw a'n amddiffyno rhag y fath bleidwyr. Wyf, yr eiddoch yn gywir, EDWAED WILLIAMS. Dinas, Hydref 30ain.
MYFYRWYR TREFECCA A CHYFARFOD…
MYFYRWYR TREFECCA A CHYFARFOD ABERHONDDU A MR. LEWIS, HENLLAN. At Olygwyr y TYST CYMEEIG. Foneddigion,-—Yr oedd Un oedd yno," yn medd- wl ar y pryd, a chyda phob parch, i ddoethincb y gwr o Henllan, y mae efe yn meddwl felly eto, mai teg- weh a charedigrwydd a'r Myfyrwyr oedd iddynt gael achlysur i arnddiffyn eu hunain yn gyhoeddus yn ngwyneb y cyhuddiad a daenid yn eu herbyn mor gyhoeddus a chyffredinol ar hyd y dref a'r wlad ac felly y gwnaethant, ac yr oeddwn inau yn llawen eu gweled yn gwneyd, gan hycLru oddiwrth eu tystiolaeth mai oddiar gamgymeriad y gwnaed y cyhuddiad. Am danaf fl fy hun, nid oeddwn yn adnabod cymaint ag un o'r gwyr ieuainc, felly ni allaswn ddwyn unrhyw gyhuddiad o'r fath yn eu herbyn. Yr wyf yn inedwl hefyd pc buasai Mr. Lewis yn cadw llygaid ei feddwl yn agored, y cadw- asai fysedd ei law rhag ymyraeth fel y gwnaeth yn yr achos hwn. UN OEDD YNO.
TRESIMWN.
TRESIMWN. At Olygwyr y TYST CYMEEIG. Foneddigion,—Fel yr oeddwn ar fy nhaith trwy Fro Morganwg yr wythnos ddiweddaf, sef Hydref 13eg a'r 14eg, darfu i mi glywed fod cyfarfod chwarterol yn Carmel, Tresimwn, gan yr enwad Annibynol. Ac felly troais ychydig oddiar y ffordd er cael gweled y lie a'm llygaid a chlywed a'm clustiau bregethu yr efengyl. Bu yno gynhadledd dda y prydnawn cyntaf, ond aethum yno fy hun erkyn chwecli pryd y clywais ddarllen a gweddio a thri yn pregethu, y cyntaf o'r Eglwysnewydd, yr ail o Benybont, a'r olaf o Bontypridd. Am 10, dranoeth, aethum yno erbyn yr amser, pryd y clywais ddarllen a gweddio, a thri yn preg- ethu, y cyntaf o gwm y Cymer, yr ail o'r Maendy, a'r olaf o Caerdydd. Am 2, clywais ddarllen a gweddio, a thri yn pregethu y cyntaf o Machen, yr ail b Caerdydd, a'r olaf o Pentyrch. Am 6, aethum yno i'r funyd at yr amser, a da oedd hyny i mi onide ni chawswn le i dclodi troed i lawr gan y dorf, ac yr wyf yn cynghori pobl neu eglwys Carmel i godi capel mwy eyn y caffont gyf- arfod mawr eto. Darllen a gweddio, a dau yn pregethu, y cyntaf o Risca, a'r olaf o Caerphili. Yr ydwyf wedi bod mewn llawer o gyfarfodydd mawrion yn fy oes fer; ond ni fum erioed mewn gwell na hwn. Clywais un ar ddeg o bregethau, ac yn wir dda bob un, fel nad gwiw canmol un heb y Hall. Y canu—yr oedd y canu tuhwnt i ddim a glywsom crioed fel canucyriulloidfaol swynol a threiddgar fel yr oedd yn creu rhyw deimlad ac awyddfryd i fod yn gantwr o'r fath oreu. Dywedaf hyn gyda thewi fod y darllen, gweddio, pregethu, canu, yn cael ei gario yn y blaen gyda/r bywiogrwydd mwyaf enill- gar ag a welais erioed. Bum yn sylwi ar y fan y bu y Parch. L. Powell farw, a bydded i eglwys Carmel godi Macn o goffa- dwriaeth am dano yw dymuniad PERERIN.
YR IAITH GYMRAEGr A'I LLYTHYREifAU.
YR IAITH GYMRAEGr A'I LLYTHYREifAU. At Olygwyr y TYST CYMEEIG. Foneddigion,—A rowch chwi gornel o'ch TYST i mi ddywedyd ychydig eiriau (neu lawer, fel y di- gwyddo) wrth Gwendolen, Liverpool,' a Brython, ger Clawdd Offa ?' Crcdaf fod amcan y naill a'r Hall yn bur dda a gwladgarol; ond a ydyw eu cynhygion mor ymarferol, sydd amheus genyf. Yr hyn sy'n blino'r chwaer Gwendolen' (Gwen- dolen P) yw'r pethau a eilw Uythyrenauconglog.' Yr oeddwn yn methu gwybod, ar y cyntaf, beth a feddyliai wrth lythyrenau conglog;' ond gwelais yn fuan mai rhai o'r llythyrenau a elwir yn gyffredin llythyrenau dyblyg' a olygai. Y diwygiacl a gynyg yw v am f, f am ff, x am ch, z am dd, I am 11, £ am LI, k am c, q am ng. Y mae'n meddwl mai ffolineb' fyddai cyffwrdd yn yr ph a'r th, am fod y Saeson, a chenhedloedd ereill yn eu swnio yr un fath a'r Cymry. O'm rhan fy hun, credu yr wyf fi y byddai cy- ffwrdd' yn y lleill, yn ol cynllun Gwendolen,' yn llawn cymaint I ffolineb.' Yn un peth, am fod corph y genedl sy'n codi (a miloedd o rai canol oed a hen bobl hefyd) mor gynefin a sain Seisnig x, z, q, &c., ag ydyw'r Saeson eu hunain; am hyny fe fyddai yn anghyfleusdra a dyryswch i'r cyfryw swnio x= cs yn ch, z yn dd, q=cw yn ng! Heblaw hyny, mae x a z yn cael eu defnyddio yu y Beibl Cymraeg i ddynodi yr un swn ag a ddynodant yn y Saesneg; megis, Exodus, Alexander sel, Ezra, &c.; ac y mae q yn cael ei arfer mewn enwau priodol yn Gymraeg yr un fath ag yn Saesneg, er amser Moses Kyffin hyd yn awr. Hefyd, fe edrychai 1 a'i phen i lawr am 11, a £ am LI, yn bethau hynod o chwithig a chonglog.' Ac, uwch law'r cwbl, y mae amryw o ddiffygion ereill yn llythyraeth y Gymraeg y byddai yn rheitiach eu diwygio, i'm tyb i, na'r ychydig lythyrenau a noda Gwendolen;' gan hyny, I ffolin- eb mawr, yn ol fy marn i, a fyddai cynhyrfu medd- wl y genedl er mwyn cael rhyw fymryn o ddiwyg- iad. Ond, o ran hyny, nid oes fawr o berygl y cy- mer y genedl ei chynhyrfu o blegid y fath beth, fel y prawf ei hymddygiad blaenorol at ddiwygiadau rhanol a gynhygiwyd iddi eisoes, gan wyr nxor en- wog a Gr. Rhotbert, W. Salesbury, y Dr. John Dafydd Rhys, Ed. Llwyd, y Dr. Pughe, ac fe allai ereill hefyd. Credaf nad oes dim yn perthyn i len- yddiaeth mor anhawdd a diwygio'r llythyraeth. Yr wyf fi yn aelod o gymdeithas yn Lloegr er ys deng mlynedd ar hugain, sy'n ceisio diwygio llythyraeth y Saesneg; ac er fod rhai o brif lenorion y byd yn aelodau o'r gymdeithas, a bod ugeiniau o filoedd o arian wedi eu gwario er cyrhaedd yr amcan dymunol; ac er fod yr egwyddor (alphabet) a gyn- hygir y berffeithiaf a all meddyliau penaf yr oes ei r chynhyrchu; er hyn i gyd, nid oes dim arwydd fod yr amcan yn nes i gael ei gyrhaedd yn awr nag ydoedd ugain mlynedd yn ol! Gellid enwi llawer o achosion o hyn megis yr an- hawsder i gael gan genedl gyfan, o'r Dr. yn y brif- ysgol i'r bugail ar y mynydd, ddad-ddysgu yr hyn a ddysgodd o'i mebyd, er mwyn dysgu peth newydd, a hwnw, yn y diwedd, heb fod yn bwysig iawn. Ond yr achos penaf oil o'r anhawsdra, i'm tyb i, ydyw y golled andwyol a barai newid y llythyraeth i'r argraphwyr; ac, fel yr awgrymais eisoes, nid yw rhyw fymryn o newidiad fel yr eiddo Gwendolen' ddim yn werth cynhyrfu meddwl cenedl gyfan o'i blegid. Dywed G.' ped ysgrifenid y gair Cymro yn Kymro, y swniai'r Saeson ef 'yn union fel y Cymry.' Na wnaent hwy, diim yn debyg Cimro y swniai'r Saeson Kymro, a Cimri y swnient Kymry. Ysgrifenu Cymro yn Cumro a fyddai'r dull tebycaf i gael gan y Saeson ei swnio yn gywir, pe bai hyny o ryw bwys. Ar fyr, credu yr wyf fi nad oes neb ond y Llyw- odraeth Wladol a fedr newid orgraph iaith. Medrai hi wneuthur, fel y caed prawf yn Germania. Fy nghynghor i Gwendolen,' a phawb cyffelyb iddi, yw ymdrechu deall cyfansoddiad y Gymraeg yn drwyadl, yn hytrach na threulio amser yn ofer i ddyfeisio cynUuniau newyddion o lythyraeth iddi, na ddeuant byth i ymarferiad. Rhaid gadael pwngc I Brython' hyd dro arall. BRYTANIAD.
Advertising
s BUST O'S DIWEDD AR -3 1 P., HENRY REES t, I'W GAEL GAN ( E. GRIFFITH, SCULPTOR, Flookersbrook, Chester, Wedi ei wneuthur yn hardd, ac addefir ei fod yn ddarlun ardderchog, PRIS SAITH A CHWECH. Gellir gweled specimen trwy ymofyn a gwylwyr capeli Chatham Street a Prince's Road, Liver- pool, ac yn Swyddfa y TYST CYMEEIG. SECOND CHATHAM PERMANENT BUILDING SOCIETY. ESTABLISHED, SEPTEMBER, 1867. TETTSTE, FS. CHARLES W. BOOTE, ESQ. WILLIAM PARRY, ESG. WILLIAM ROBERTS, ESQ. PRESIDENT. JOHN ROBERTS, ESQ. TREASURER. HENRY WILLIAMS, ESQ. The SECOND ANNUAL REPORT is just issued, and shows that the Subscribed Capital is X56,997 Amount outstanding on Mortgages 62,415 Balance of profit after paying the expenses and a dividend of Y,6 per cent 5,404 Number of Invested Shares. 5,826 Ditto of Members 634 In addition to the Ordinary Shares, PREFERENCE SHARES are also issued, bearing a guaranteed dividend of £5 per cent. Copies of the Report and any other information may be obtained, and shares taken, on application to the Secretary. J. LLOYD JONES, 6, Lord-street. SECOND STANDARD BENEFIT BUILD- ING SOCIETY. (SEFYDLWYD TACHWEDD, 1864.) YMDDIRIEDOLWYR. Mr. W. C. Miller. Mr. Robert Price. Timothy Ryan. „ William Hood. LLywYDD-Mr. Seth Bennett. TEYSOBYDD—Mr. J. E. A. Rogers. ARCHWILYDD-MR. B. J. Owens. C,zrREITUIWR-Mr. JarneS Rowe. PWYLLGOR. Mr. Edward Parkin. I Mr. George Owen. John Morris. Thomas Roberts. Thomas Bullock. Charles Smith. „ David Jones. John Heap. Mr. James Smith. Cynhelir cyfarfodydd y Gymdeithas ar y nos Fawrth olaf yn mhob mis, o haner awr wedi saith haner awr wedi wyth o'r gloch. Llog-elw (yr hwn sydd wedi bod yn ol saith punt y cant er sefydliad y Gymdeithas) yn daladwy yn flynyddol yn mis Tachwedd. Y mae holl Gyfarwyddwyr y Gymdeithas hon yn hollol adnabyddus, ac yn brofedig fel cyfarwyddwyr Building Societies. GeHir cymmeryd Shares newyddion, a chael pob gwybodaeth angenrheidiol trwy ymofyn a WILLIAM WILLIAMS A'I FAB, Ysgrif enyddion, 77, Mill-street, Toxteth Park, LIVERPOOL. Y MAE GWIR DDOSBART1IIAD. X LLAFUB AC ELW BYCHAN Yn cyfansoddi undeb digon i ostwng pris- iau oeddynt bron wedi eu sefydlu trwy hen arferiad. Ni chafodd hyn ei brofi erioed yn fwy grymus na chan MYERS, YN EI LODRAU 13s. 6c., y rhai a warantir eu bod wedi eu gwneu- thuroll o WLAN yn mhob ffurf, patrwm, a gwead, yn ffasiynol a boneddigaidd mewn ymddangosiad, wedi eu tori yn gelfydd, eu gwneuthur gan y gweithwyr goreu, ac wedi eu gorphen yn ysplenydd. Y mae y Llodrau hyn yn cael gwerthiad helaeth yn Liverpool, ac yn gyffredinol ad- nabyddus fel rhai na cheir eu cyffelyb mewn gwerth, heb fod yn llai gwerthfawr i drig- olion trefydd Hai, lie y mae prynwyr yn cael eu dal gan absenoldeb cydymgeisiaeth. Ceir esiampl ar dderbyniad ei gwerth mewn P. O. 0.—cludiad yn ddidraul. J. MYERS, 44 a 46, LONDON ROAn, LIVERPOOL. OMOIvERS BEWARE!—Don't poison your- kj selves by smoking out of deleterious and injurious compounds, commonly manufactured into pipes, and sold as Meerschaum of inferior quality. All doctors and analysts have agreed that smoking- out of a Meerschaum Pipe is the least injurious method ot using tobacco; but (say they) it must be real Meerschaum, not the abominable and deleteri- ous compound ordinarily palmed off for profit's sake upon unsuspecting persons who are not competent to judge be- tween the real and the spurious article, which, however cheap the latter may appear, the customer actually pays more than ought to be paid for the real and pure Meerschaum, and this simply by reason of the enormous profits charged upon Meerschaums of best quality. &e., by the wealthier and larger shoppkeeers in the trade, who usually charge ccnt. per cent. profit upon the sale of every pipe. Intending purchasers should inspect our (real sea scum) Meerchaums, at 4s. and 6s. cash, with best amber mouth- it pieces, enclosed in beautifull cases, lined with silk. Imported direct from Switzerland. Those at a distance can have them sent, carefully packed, and free of carriage, upon receipt of stamps for yment i.e., 45 or 12 stamps). NOTE TUB ADDRESS: ZAMBRA AND AEMSTKONG, Importers of Meerchaums, 472, ROCHDALE ROAD MANCHESTER. N.B.—Sale agents in England for 31AHANIOIDIS TURKISH PURKAEES, for preventing the. smell of Tobacco after smoking, and for sweetening the breath, &c., &0- Sold in boxes at 12s. per dozen; sample box sent free by post 12 stampg.-Address as above. CALFARIA, CLYDACH, GER ABERTAWE. C Y N E L I E EISTEDDFOD GERDDOROL YN Y CAPEL UCHOD DYDD NADOLIG NESAP. PRIF DDARNAU. £ 8. d. 1. I'r Cor heb fod dan 40 mewn rhif, a ganont yn oreu "Mai," o'r Cerddor Cymreig. 9 0 0 2. I'r Cor heb fod dan 25 mewn rhif, a ganont yn oreu See the Chariot at hand," o'r Musical Times .300 3 I'r parti o 12 a ganont yn oreu Gwen- ynen Each yr Haf," o Great y Corazó 1 0 0 BL)irniad,-Al,r. T. Davies, (Eos Rhondda). Y Programme yn cynwys y manylion i'w gael ar ol IYledi iaf, trwy anfon dau stamp at Mr. J. B. JONES, Clydach, near Swansea. People's Hall, Pontypridd, and General Furnishing Warerooms. JOHN CROCKETT, Clock, Watch, and Cabinet Maker, Millpuff, Feather, and Iron, Bedstead Warehouse, TAFF & MILL STREET, PONTYPRIDD. HA YE you been to J. Crockett's Furnishing Warehouse, People's Hall, Pontypridd? If not, go and buy for CASH ONLY, A good Iron bedstead 0 14 0 A good Millpuff Bed and bolster 0 16 0 A good Palliasse for ditto.. 0 10 0 A good Mattress 0 18 0 A solid Mahogany Front Chest of Drawers 3 5 0 A good useful Pembroke Table 12 0 A good Eight-day Timepiece 1 5 0 A good American Clock 0 16 0 A good Kitchen Chair 0 3 6 A good Mahogany Bottom Chair 0 5 0 Observe this particularly,- A Patent Lever Watch, Warranted 4 4 0 Do. Do. J. C. best make 5 5 0 Silver and Gold Chains & Alberts equally low. G ood Greneva Watches .150 Do. strongly recommended 1 15 0 Furnishing Department,-—Saucepans, Tea Kettles,Fen- ders, Fire Irons, Brushes, &c., &c. ITIMDERTAKING DEPARTMENT. Iden' s Full Sized Coffiiis 1. 1 2 0 Children's lined with Blue outside 0 6 6 Clothcovered, Pall and attendance 3 5 0 A beautiful coffin. Carpets, Floor Cloths, Hearth Rugs, Pianos and Harmoniums. All goods delivered home for 12 miles round. Sewing Machines 3p. 3s.; 4p. 4s.; to 2op., by the best makers. Ready Money Only.—Arian Parod yn Unig. AEIAI! MAE Swyddfa a sefydlwyd yn 1853 ag arian wrth law yn foddion i'w benthyca i bersonau parchus ar y SlCrW) -anlyiiol:- oOp. i 2,000 ar Wystl ar Gicldofreelwld, leasehold, neu copyhold, eiddo dros fywyd, a policies bywyd-diogeliad, &c., i'w talu yn ol mewn o un i bedwar ar ddeg o flYB- yddoedd. Mewn syiniau o 25p. i 200p. ar sicrwydd personol, i'w talu yn ol yn esmwyth mewn rhan-daliadau misol neu chwarterol. 0 50p. i 2,000p. wystliad ar hawl-woithredoedd, cyf- ranau mewn Joint Stocle Companies, neu bolides bywyd- diogeliad sydd wedi cyrhaedd gwerth swyddegol, ar delerau o un i saith mlynedd. 50p. i 1,000p. ar sicrwydd o life-policy, gydag un neu ychwaneg o feichuion, i'w talu yn ol mewn o un i bump o fiynyddau. Yr ysweiriad i fod yn unig am y tymhor y mae y benthyciad yn rhedeg, ac am swm y benthyciad yn unig yn lie yn ddwbl, fel a godir yn gyffredin. Ymofyner yn bersonol neu trwy lythyr, gan amgau stamp ac envelope wedi ei gyfeirio i MEISTRI MORRISON, 39, High Street, Tredegar, Mon. ELLIS'S ROOFING FELT. THE best and cheapest Waterproof Covering JL for all sorts of Sheds, Outbuildings, Hay and Corn Ricks, &e. Sold wholesale and retail by S. ELLIS & CO., 23, STRAND STREET, LIVERPOOL. Carriage paid. Samples and Prices per Post. Also, Ship Sheathing and Boiler Felts, and Portland Cement. MR. T. MORRIS'S EATING HOUSE, 20, Mary Street, Aberystwyth. ONE MINUTE WALK FnOM THE RAILWAY STATION. Good accommodation, well aired beds, for reason- able terms.
--Y PARCH. JAMES GRIFFITHS.
Y PARCH. JAMES GRIFFITHS. At Olygwyr y TYST CYMEEIG. Foneddigion,—Dywedir yn y Beibl am roddi parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus.' Yr wyf yn deall fod y brawd sydd a'i enw uchod yn un o'r rhai mwyaf parchus fel pregethwr ieuangc pan adawodd y wlad hon, agos i ddeunaw mlynedd ar hugain yn ol, er nad oeddwn. i yn adnabyddus 0 hono yr amser hwnw. Er fod y rhan amlaf o hen gyfeillion Mr Griffiths wedi myned i I ffordd yr holl ddaear,' y mae efe wedi enill iddo ei hun ar y daith yn ngodreu swydd Caerfyrddin, a rhai cyrau o swydd Benfro, safle uchel, uchel iawn yn marn can- oedd a fu'n gwrando arno, oblegid y mae yn bre- gethwr treinus, goleu, a medrus. Y mae yn fon- eddigaidd ei drwsiad, yn ostyngedig ei ymddygiad, ac yn barod bob amser i roddi hanes eglur am beth- au yn America. Y mae yn codi tyrfaoedd i wrando arno, a phawb yn cael eu boddio ganddo. Boed i'r Hwn sydd a'i lywodraeth dros dir a mor ei ddiogelu pan ar ei daith adref at ei deulu a'i eglwysi, yw dy- muniad canoedd o'i wrandawyr, ac yn eu plith eich brawd EVAN JONES. Ffynonbedr, Hyd. 19, 1869.