Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR LERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR LERPWL. Mae y gwir anrhydeddus W. E. Forster yma hedd. yw yn rhanu gwobrau yn y Liverpool Institute; a chan ei fod yn dyfod, a gwybod fod ewestiwn addysg i ddyfod ger bron mewn modd arbenig yn y Senedd nesaf, galwyd cyfarfod ddydd LIun yn y Law Asso- ciatian Rooms gyda'r amcan o benodi dirprwyaeth i fyned at Mr Forster. Nis gwn pwy na pha fodd y alwyd y cyfarfod. Yr oedd wedi myned heibio cyn 1 nii wybod gair am dano. Yr oedd yno lawer o ltydclfrydwyr yn nghyd o wahanol olygiadau a sectau crefyddol. Ni welais enwau neb o'r Cymry yno, na chymaint ag un o'n gweinidogion. Pa fodd y bu byn P A wahoddwyd hwy tybed ? O. do, yr oedd yn gywilydd i'w calonaa nad aethai rhai o honynt. Os na ddo, mae eisiau rhyw ffordd i roddi ar ddeall i'r Saeson nad ydyw y Cymry ddim i gael eu snubbio fel hyn ganddynt. Pwy a edrycha i mewn i'r mater yma POnd pendenynwyd myned ato, a dyweyd yn gryf wrtho fod yn rhaid i'r cynllun o addysg, cyn y cymer gan y wlad, fod ar egwyddor- lon rhydd a hollol ansectaraidd. gCadwyd cyfarfod mawr gan y gwrthddefodwyr 1 y Collegiate nos Lun, dan lywyddiaeth T. B. orsfall, Ysw., yr hen aelod Toriaidd dros y dref n>vu oe^ y110 gynulliad lluosog iawn, a'r areithwyr oil yn gryf yn erbyn defodaeth. Nid oedd m yn rhy gryf nac yn rhy gas ganddynt i'w torwTf i am eu g^yM. Dynodid hwy ar yr un Jvi anffyddwyr a Phabyddion, fel gelynion yr vn K^n a'r "^adwriaeth; ac eto y mae y bobl yma rhvf Syda'u gilydd yn yr un cyfundeb. Mae yn o-nL • ,na byddai digon o eel yn y blaid yma a fyn und °Vfrif mor efengylaidd i ddyfod allan o gyf- sydd yn llochesu o'i fewn ddynion addynodir u "v a8' enwau mor dduon. Ond dyna, rhaid cw:r 1 ryw^e heblaw i'r Eglwys Sefydledig i v £ .am ?ys°ndeb. dnriuv,- wr ^nos Fawrth) yr oedd Dr. Cumming yn BrS.7° GoUe9i*te ar «Wahoddiad y Pab i Rhll/.arid ^yfod i'w Gyngor ^Ecumenical yn ar a'r ^arcb' J. Hughes yn darlithio agos iddi AJt1 ma^er. yn Fitzclarence Street. Rhyfedd i ddau ddya mor wahanol fod yn darlithio mor agos i'w gilydd yr un noson ar yr un testyn. Wrth reswm, fel dyn call aethum i wrando y Cymro, am y gwyddwn y cawn ganddo lai o freuddwydion a mwy o sylwedd. Cymerodd J. Ro- berts, Ysw., Hope Street, y gadair, a llanwodd hi, nid a'i gorff, ond a'i fedrusrwydd. Yn sicr i chwi, dyma rising man ein cenedl ni yn awr. Os bydd ar ryw gonstituency yn Nghymru eisiau aelod da, Rhydd- frydwr trwyadl, Y mneillduwr cydwybodol, a Chymro cynes ei galon,—dyma y dyn. Mae amryw o gyn- rychiolwyr Cymru yn myned ar eu hen sodlau, ac mi gynghorwn i arweinwyr y bobl i gadw eu llyg- aid tua Hope Street; a choeliwch chwi neu beidio, yr wyf fi yn rhyw un nad yw ei gyngor i'w ddir- mygu. Am y ddarlith, digon yw dyweyd ei bod yn deilwng o'r darlithydd—' Ymadrodd iachus yr hwn ni allaf beio arno.' Yr oedd y peth i'r amserau presenol. Dylid, yn ol awgrym y Parch. J. Thomas wrth gynyg diolchgarwch, ei hargraffu yn bam- phletyn, a'i rhoddi hyd y gellir yn llaw pob Cymro. 0, ie, bu agos i mi anghofio dyweyd, y mae Cynghor y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig wedi apwyntio y Parch. J. Thomas, J. Roberts, Ysw., y Cadeirydd, a Mr J. Lloyd Jones, yr Ysgrifenydd, yn gynrychiolwyr i'r Gynhadledd fawr yn Aberys- twyth. Disgwyllr hefyd am Great Demonstration yn Liverpool o hyn i ddechreu Rhagfyr. Dim rhagor yr wythnos hon. AS OWAIN.

Y ' GOHEBYDD' AR LORD DERBY.

MABWOLAETH Y PARCH. J. WILLIAMS,…

LLOFRUDDIAD YN SIR GAERFYRDDIN.

Advertising

[No title]