Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAPEL SION GLAIS, DYFFEYN TAWY.-—Cynhaliwyd cyfarfodblynyddol ylIo Hehdc1 y dydd Sabboth, Hyclrof Slain, Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. B. Williams, Canaan; W. E. Jones, Tre- forris; R. Rowlands, Llansamlet; ac E. Griffith, Abertawy. Cafwyd cyfarfod rhagorol dda yn mhob ystyr. CWMLLYNFELL.—Cyfarfod ymadntvol a chyflwyniad fj/steb.—Nos Fercher, y 27ain o Hydref, cynhaliwyd- eyfarfodymadawol ynghyd a chyflwyniacl o dysteb mown swm helaeth o anr i Mr E. Lewis, Athraw Trwyddedig, ar ei ymadawiad a'r Ysgol Frytanaidd i ysgol yn Risca, Sir Fynwy. Ar noson y cyfarfod, wedi i'r lluaws ymgasglu ynghyd, yn rhieni a phlant, boneddigion a boneddigesau, etholwyd Mr T. Thomas, Arwerthydd, &c., Cwmtwrch, i'r gadair. Oymerwyd rhan yn y cyfarfod gan gor Cwmllynfell, a chafwyd anerchiadau rhyddiaethol, cerddorol, a barddonol gan Meistri T. Jones, ac L. Rees, goru- chwylwyr yn nglofa Cwmllynfell, Asaph G-lan Dyfi, a Glan Oleddau, Ystalyfera, Alaw Llynfell, Cwm- twrch, L. Rowlands, Cwmllynfell, &c. Cyflwyn- wyd y dysteb iddo gan Mrs Jones, priod Mr T. Jones, Goruchwyliwr, Cwmllynfell. Yr oedd y cyf- arfod drwyddo yn un gwir dda. Pob llwydd iddo yn ei faes newydd yw dymuniad calon un a'i profodd yn wr o ymddiried mewn gair a gweithred.J. J. LIBANUS. TREFoRnis.-Tracldod-wyd darlith yn y lleuchod nos Sadwrn, Hydref 30ain, gan y Parch. W. Jenkins, Pentre Estyll. Y testun oedd Y Sab- both. Oyrnr-rwyd y gadair am 7 o'r glocli, gan J. J. Jenkins, Ysw., yr hwn awnaeth araeth bwrpasol. Cynhygiwyd ae eiliwyd. diolchgarwch i'r darlithydd gan y Parcli Tl-. W. E. Jones,fa •—{James (B.) ac i'r Cadeirydd gan y Parchn. J. Davies, Taihirion; a T. Davies, Horeb. Yr eedd y cynulliad yn dda iawn, ac ystyried yr amgylchiadau. Gwnaed ugain punt er cynorthwyo eglwys ieuangc Bronllwyn, Pentyrch, i ail adeiladu ei chapel, yr hwn sydd er's blynydd- oedd yn cael ei ysu gan yr hyn a elwir dry rot., Dy- munir cydnabod yn ddiolchgar y cvnorthwy caredig gafwyd gan y Parchn. Dr. Rees, T. Thomas, Glan- dwr; W. Jenkins, Pentre Estyll; J. Daniel, Myn- ydd bach B. Williams, Canaan E. Owen, Clydach; T. Dayies, W. E. Jones, T. Levi (T. C.), a—James (B.), a'u heghvysi; J. J. Jenkins, Ysiy,, R, Hughes, Ysw., H. Bowen, Ysw., Mr J. Watkins, ac ereill. Gwnaeth cor Libanus ei ran yn effeithiol. Diolch i fy hen gymydogion am eu cydymdeimlad effeithiol. TREHAFOD, PONTYPRIDD. Y mae eglwys Bethel wedi rhoddi galwad unfryd- ol i Mr Methuselah Jones, mab i'r Parch. J. Jones, Pentyrch, a brawd i'r Parch. D. P. Jones, Owmrhos a Tretwr, Brycheiniog, i ddyfod jiV bugeilio. Da genyf hysbysu ei fod ef wedi ateb yn gadarnhaol. Bwriedir ei ordeinio ar y 6ed a'r 7ed o Rhagfyr.— T. Griffiths. BEAUMARIS. Cawsom gyngherdd rhagorol yn nghapel yr An- nibynwyr yn y lie uchodfnos Fawrth, yr 2il cyfisol, gan Mr W. W. Thomas, Pentrevoelas, yn cael ei gynorthwyo gan gor y lie. Llywyddwyd gan y Parch. W. Williams (Cromwell). Yr oedd yr addol- dy yn orlawn, a gorfu i rhai fyned allan o ddiffyg lie. Cawsom gyfarfod difyrus dros ben. Mae Mr Thomas wedi addaw dod yma eto gynal cyngherdd dydd Gwener^y Groglith. Yr oedd yr elw ynmyned i drysorfa'r plant.H. T. LIBANUS, PONTYGOF. Cynhaliwyd tea party yny capel uchod Tachwedd laf. Eisteddodd tua i200 o bersonau i fwynhau eu hunain wrth y byrddau. Am 7, cafwyd cyfarfod cyhoeddus. Yr oedd Cor Undebol Glyn Ebwy wedi dyfod yn nghyd, a chanodd amryw ddarnau yn rhag- orol iawn. Cafwyd anerchiadau gan y Parchn. T. Jeffreys, Pencae; R. Hughes, Cendl"; H. Davies, Llanelli; W. A. Edwards, (G.S.), Pencae; a J. Davies, Glynarthen, &c. Llywyddid y cyfarfod gan Mr Edwards, gweinidog y lie. Elid i fewn trwy docynau. Mae yr elw i fyned at ddileu y ddyled sydd ar y capel.- (7it o'r lie. LLANYMDDYFRI. Cynhaliwyd cyfarfodydd dan yr enw 'Popular Entertainments,' yn yr ysgoldy Brytanaidd, nos Fawrth, Hydref 12fed, a Tachwedd yr 2il, gan yr enwadau Ymneillduol yn y lie uchod, dan lywydd- iaeth D. Thomas, Ysw., a'r Parch. S.Thomas (T.C.). Yr elw oddiwrth y cyfarfodydd hyn i fyned at ad- gyweirio yr ysgoldy Brytanaidd. Cymerwyd rhan yn y darlleniadau a'r adroddiadau, y rhai oeddynt yn Gymraeg a Saesneg, gan bobl ieuaine eglwysi Salem, Ebenezer, a'r Tabernacle. Dangoswyd chwaeth uchel yn y darnau oedd ganddynt, ac yr oeddynt yn hynod fuddiol ac adeiladol. Cymerwyd rhan yn y canu gan Gorau yr un eglwysi. Canasant yn dda a chanmoladwy. Mac yn dda genym hys- bysu fod y ganiadaeth ar ei chynydd yn Salem wedi dyfodiad y Parch. W. Jansen Davies i'w plith fel gweinidog. Hysbyswyd ar y diwedd y bydd y cyf- arfod nesaf i gael ei. gynal yn mhen oddeatu tair wythnos, ac at yr un perwyl.—Dwinan.

LLANARTHNEY, SIR GAERFYRDDIN.