Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
INTERESTING EXPERIMENT. —Place on the upper bar of a grate, with the heads projecting about one inch inwards, some ordinary lucifers—in a few moments they ignite. Then, in the same position, place a few of the Safety Matches of Bryant and May (which ignite only on the box), and it will be found that they will remain for hours-in fact, until the wood becomes liter- ally charred-without taking fire. We look on this as a singularly interesting confirmation of the safety of the new match. Care must be taken in both causes to avoid actual contact with flame.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gabe. Etholwyd Mr Gabe. Dyma dro yn ei le, yn ol ein barn ni, a chredwn yn ol barn y lluaws. Es- i-romaid, dynion nad ydyrit yn deall ein hiaith a'n harferion, ac nad oes ganddynt gydymdeimlad a ni fel cenedl ydynt gan mwyaf yn llanw pob swydd o bwys yn ein trefi a'n plwyfi. Da genym weled Mr Gabe wedi ei godi i swydd mor anrhydeddus a phwysig yn ei blwyf a'i dref enedigol. Caffed flyn- yddoedd lawer i fwynhau y pleser o wneud lies i gleifion tlodion, gan gofio fod Crist a gofal neillduol ganddo am y tlodion. Y BWRDD ARALL.-Druan o'r Bwrdd Iechyd. Y mae efe yn glaf iawn, er nad yw y meddygon hyd ytna wedi mynegu eu barn am ei gyflwr, .am nad ydynt wedi gorphen eu cydymgynghoriad yn ei gylch. Mae yn dioddef oddiwrth £ s. d. i'r gradd- a o 3000p., yn ol pob tebyg. Pan roddodd y Clerk. ei swydd i fynu, mynegai yr hen aelodau gydym- deimlad dwys ag ef, oblegid ei foél. wedi ei siomi gy- niaint yn ei is-glerc. Ar hwnw oedd yr holl fai, nieddent hwy. Gadewch i hyny fod. Os felly, ni ddylai y dyn hwnw byth gael gosod bys i gyffwrdd a Uyfrau y Bwrdd drachefn. Yn lie hyny, pwy sydd yn awr yn yr un lie, ac wrth yr un gorchwyl, ond efe, wedi ei osod gan y Clerk newydd. A phwy sydd Yn awr yn ei ganmol fel y cymwysaf i'r gwaith ond Mr Overton ac eraill, y rhai a osodent yr holl fai arno pan oedd eisiau eydymdeimlo a'r hen Glerc. Rhaid cael gwell trefn ar bethau na hyn, fechgyn, onide ABERTAWE A'R CYLCHOEDD. Mae Eisteddfod y Music Hall heddyw, a'r Post yn cau yn rhy gynar i anfon dim o'r hanes. Gwnaeth un o longau perthynol i'r porthladd hwn fordaith o San Francisco i Queenstown, mewn 30 niwrnod, y fordaith gyflymaf a wnaed mae'n debyg. Syrthiodd seren o'r nenfwd risialaidd, chwedl yr hynafiatd, yn y cylchoedd hyn oddeutu saith o'r gloch nos Sadwrn i b'le yr aeth, mae mor dywyll 1 ni ag oedd i'r hynafiaid.. Yr oedd y meteor, neu beth yw yr enw Cymraeg arno, awyr-dan, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf, os nid y mwyai a welwyd yn nghof neb sydd yn fyw, a'i gyfeiriad rhywbeth o'r Dwyraih i'r Gorllewin. Parhaodd amryw fynudau cyu i'r cwbl o'i oleuni ddarfod. Bu dipyn yn anffodus ar Fethodistiaid Abertawe ac Ystalyfera, nos Iau diweddaf. Yr oedd darlith yn nghapel y Trinity, gan y Parch. W. D. Lewis, B.A., Liverpool, ar 'Ei daith drwy Ganaan;' a chyngherdd gohiriedig Miss Watts, at gapel y Methodistiaid, Ystalyfera. Yr oedd y cyngherdd hwn i gymeryd lie rbyw fis neu chwech yn gynt, ond yn yr amser hwnw bu tad Miss Watts farw, ac felly gohiriwyd ef hyd y noson uchod, nes i'r ddau ddyfod i gydgyfarfod, yr hyn fu yn anfantais i'r ddau. Cynorthwyid Miss Watts gan amryw o gerddorion y Cwm. Digwyddodd dwy ddamwain angeuol yma yr wythnos ddiweddaf. Un oedd Mr Jacob Rees, cyf- reithiwr a goruchwyliwr tir. Yr oedd ei gartref yn y Mumbles, a'i swyddfa yn y dref, a thra yn myned adref brydnawn dydd Iau, ar gefn ei geffyl, syrthiodd i lawr a thorodd gorn ei wddf, a phan y daeth y person blaenaf heibio yr oedd yn hollol farw. C, Hall oedd Thomas Cockley, gweithiwr yn y Patent f-uel Works, Meistri Cory & Co. Yr oedd ynmyned 1 r gwaith haner nos Iau, a chamsyniodd y llwybr nes iddo syrthio dros embankment y New River Cut, o Uchder lied f awr, a phan gafwyd ef yr oedd yn hollol arw- Dychwelwyd rheithfarn yn y ddau achos yn 111,01 a'r iteithiau uchod. Cafodd capel y Bedyddwyr yn Mount Pleasant diangfa brin rhag myned yn aberth i'r fflamau, nos yvener, sef noson fythgofus Guy Eawkes. Yr oedd yr yagol ganu wedi bod yno, ac yn y cyfamser mae'n dd un un o'r crackers neu'r squibs a aefnyddir ar y dydd uchod i mewn i'r capel, ac iddo *sgyn ar un o'r clustogau a llosgi yn dan marw- Elicl(I hyd nes iddo fyned i'r gwaith coed, a chyn iddo gael ei ddiffodd yr oedd nn o'r seats wedi ei llwyr nystrio, on(^ diangodd gyda hyny o niwed. Mae ° ieuenctyd wedi eu gwysio o flaen y Fainc 0ec'dyw, am daflu squibs ar y dydd crybwylledig. allwn feddwl ei bod yn bryd rhoddi terfyn ar yr atieriacl beryglus hon. V MANION 0 FYNWY. Mae'n hysbys bellach er's tro fod y PAEOH. JOHN ELIAS barc^yn galwad unfrydol oddiwrth yr eglwya a •, SALEM, TEELYN, 7.1:8,11 Sabhoth a Llun, yr 3lain o Hydref a'r nak C? 9^' cynhaliwyd cyfarfodydd neillduol er cyd- e-P+T? awd yn fugail ar y praidd yn y lie. Pre- A ara boreu'r Sul gan Mr Elias ei hun. diao llenwyd a gweddiwyd gan Mr J. Jones, CoPf?^' a Phregethwyd gan y Parchn. D. Edwards, Cled-duon ae E. Hughes, Penmain; ac am 6, gan Am in Thomas, Fochriw, a E. Hughes. Jonoa x/ ^un> dechreuwyd gan y Parch. D. Jone, New Tredegar. Pregethwyd ar .'Matur y gan y Parch. J. Morgans, Cwmbach. Gofynwyd am yr arwydd gyffredin gan y Parch. D. Hughes, B.A., Tredegar. Pregethwyd i'rgwein- idog gan y Parch. E. Hughes, ac i'r eglwys gan y Parch. E. C. Jenkins, Rymney. gweinidog yreglwjrs am yn agos i ddeugain mlynedd. Golygfa daraw- iadol iawn oedd gweled Mr Jenkins wedi gorfyw yr wyth enaid ag oedd yn Salem pan ddaeth ef yno, a llawer wyth ar eu hoi hwy, ac eto yn edrych yn gryf a gwrol, a'i lais melusber mor swynol ag erioed. Synais yn fawr iawn ei glywed yn pregethu yn Seisnig mewn cyfarfod misol yn Machen. Mewn gwirionedd, yr oedd yn ei lais, ei gof, ei aceniacl, a'i gywirdeb fel pe buasai yn ddeugain oed. Hawdd. oedd gwybod yn y sexydliad ei fod am gadw yn y mhell oddiwrth hen adgofion, ac onide nis gallasai ddyweyd dim. Hyderwnfod blynyddau lawer o'i flaen eto i wneud daioni yn Rymney, a phan ddelo'r alwad am dano i'r wledd, yma, ger Salem, y, gor- wedda ei gorff hyd foreu'r codi, gyda.'i--oncl dpi a, gwell tewi. Am 2, dechreuwyd gan y Parch. T. Griffiths, Pontlottyn, a phregethwyd gan y Parchn. J. Thomas, Salem, Aberdare R. Hughes, Cendl; a D. Hughes, B.A. Am 6, dechreuwyd gan y Parch., 2 T. L. Jones, Machen, a phregethwyd gan y Parchn. R. Hughes, Ebenezer, Pontypool;" R. Rowlands, i Aberaman; a J. Thomas, Carmel, Tresimwn. Yr; oedd y cynulliadaa yn well na'n disgwyliadau goreu, a da genym ddeall fod y capel yn llawn bob nes Sabboth. Llwyddiant i Mr Elias i wneud da mawr yn yr ardal. Dydd Mawrth, yr 2il cyfisol, cynhaliwyd eyfarfod misol y dosbarth yn TABOE, MAESYCWMWR. Dechreuwyd am 2 gan y Parch. J. Thomas, Carmel, a phregethwyd gan y Parch. T. L. Jones, Machen, a E. C. Jenkins, Rymney. Yr oedd yno angladd ar y pryd—angladd un o'r hen chwiorydd o Salem. Derbyniwyd hi gan Mr Jenkins 36 mlynedd yn ol, a daliodd ei thir yn wrol trwy yr holl flynyddau. Pregethodd Mr Jenkins yn briodol iawn ar yr am- gylchiad. Am 7, pregethoddy Parchn. J. Elias a J. Thomas. Cafwyd cyfarfod hwylus iawn. Bydd; y nesaf yn PENMAIN, ar y dydd Mawrth cyntaf yn Rhagfyr, am 10, 2, a 7.-Gohebydd. Y GYNHADLEDD YN ABERYSTWYTH. ABERTAWE, dydd Llun, Tach. 8fed, 186'g.-Uae'r gynhadledd yn awr wrth y drws. Pa beth bj^nag; fyddant ganlyniadau y gynhadledd hon teimla y; rhai hyny fuont a'r llaw benaf yn gwneud y rhag- drefniadaii a'r rhagbarotoadau iddynt wneud eu rhan yn ffyddlawn hyd y gallasant beth bynag to deserve success. Ac y mae'r cydymdeimlad mwyaf calonog yn cael ei ddangos hyd yn hyn o bob cyfeir- iad, fel ag y mae pob lie i gredu y ceir cynulliad a demonstration na chafwyd ei fath hyd yma yn Nghymru. Bydd yn gynulliad pwysig, nid yn unig gyda golwg ar yr amser a basiodd, ond hefyd gyda golwg ar y clyfodol. Bydd y gynhadledd yn cyfarfod am un ar ddeg o dan lywyddiaeth Mr Evan Matthew Richards, A.S. dros sir Aberteifi. Yr ydys yn dra sicr y teimla pob dyn sydd yn adnabyddus o gymwysderau Mr Richards fel man of business ei fod y right man i gy-: meryd cadair y gynhadledd. Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn dechreu am saith;. Mr Osborne Ifor- gan, A.S., yn y gadair. Nid ydys yn debyg o gael presenoldeb y ddau aelod dros sir Forganwg—Mr Talbot a Mr Hussey Vivian, oblegid na byddant yn ol o wyl agoriad y Suez Canal; ond y maent ill dau yn cydymdeimlo yn lIwyr a'r amcanmewn golwg, ac wedi ymrwymo i gydweithredu yn galonog a pha beth bynag y penderfynir arno yn Aberystwyth. Bydd Mr Dillwyn, o Abertawe, yn bresenol yn y gynhadledd, er y bydd yn rhaid iddo er mwyn bod yno deithio ar hyd y nos y nos Lun blaenorol, a theithio wedi hyny agos drwy'r nos nos Fawrth. Yr ydys newydd glywed oddiwrth Mr Henry Richard o Florence y bydd yn ol, os byw ac iach, mewn pryd i fod yn Aberystwyth. Mae nifer o fanau wedi, a bydd Ilawer mwy yr wythnos hon yn apwyntio delegates i'r gynhadledd., Y mae hyny yn rhagorol: goreu oil po fwyaf; ond dealler hyn—na chyfyngir y gynhadledd mewn un modd i delegates apwyntiedig, ond bydd yn hollol agored i bawb. Gyda golwg ar yr awgrymiad a daflwyd allan am gael casgliad cyhoeddus ar Sabboth penodol drwy'r holl gapelau, mae yn ymddangos hyd yma fod hwnw yn derbyn cymeradwyaeth bron unfrydol a chyffred- inol. Cymeradwywyd ef gan nifer o gynhadleddau misol a chwarterol y Methodistiaid, yr Annibynwyr, a'r Bedyddwyr.. Y GOHEBYDD.' ABERHONDDU. RHYBTJDP. Yn ddiweddar gofynodd bachgen ieuanc yn y dref yma i'w gariad ei daro mor galed ag yr oedd yn ei garu (Hit me as hard as you love me). I ddangos hyn cymerodd y ferch ieuanc afael mewn bwyall a thorodd ei fys i ffwrdd yn y fan. Fechgyn ieuainc, cymerwch rybudd. YMWELIAD DR. THIELWALL.—Dydd Iau, Hyd. 29, talodd Esgob Tyddewi ei ymweliad tair-blynyddol ago Aberhonddu pryd yr anerchodd yn Eglwys St. John, dyrfa o glerigwyr, oddiwrth y geiriau Canys y seiliau a ddiny.itriwyd, pa beth a wna y cyfiawn ?' Ar ol dangos fod y cyfnewidiadau parhaus sydd yn myned yn mlaen yn bresenol yn bwnc a ddylid ei ddwys ystyried, daeth at yr hyn sydd yn achos o gymaint blinder i eglwyswyr y dyddiau presenol, s.ef Yr Eglwys Sefydledig a'i Hymosodwyr.' Mewn atebiad i'r sawl sydd yn dweyd mai wedi ei huniad a'r llywodraeth y daeth cynifer o ddrygau i fewn .i'r eglwys gyntefig-, dywedai fod hyny yn codi oddiar achosion hoilol annibynol, ond fod yr uniad ynddo ei hun yn fanteisiol iawn. Yr oedd y llywodraeth at ei rhyddid i wneuthur y cysylltiad neu i beidio, oblegid nid oedd nac yn waharddedig nac yn orchy- mynedig. Ond y mae pwnc y ffe^-gysylltiad yn llawer mwy dyrus, yn enwedig felly pan yn cyd- fyned ag ysgariad moddianau sydd wedi bod yn perthyn i'r eglwys am flynyddoedd. Ond rhaid cofio, ebe fe, fod offrymau o'r fath yn gymeradwy end yn unig- fel arwydd o deimlad y galon a phan y bydd y ffurf heb y sylwedd, y llythyren beb yr ysbryd, yna mae yn ddiwerth gan Dduw a dynion ac nid yw'r Ilywodraoth ond yn gwneuthur cyfiawn- der drwy eu trosglwyddo at achosion eraill. Er ei fod yn credu hyn nid oedd ar nn cyfrif yn cydweled a'r defnydd wnawd a surplus Eglwys yr Iwercldon. Am yr Eglwys hono creda y bydd mor unedig ac erioed ag Eglwys Lloegr, ac y bydd yn fwy cryf am ei bod yn fwy rhydd. Er hyny nid oedd yn credu fod y ffordd wedi ei hagor i ddadsefydlu yr eglwys yn y wlad hon, ac yr oedd yn rhyfeddu fod cynifer o gyfeillion yr eglwys yn gweled hyny yn dyfod o ganlyniad. Yr oedd y gwahrmiaeth yn ddirfawr. Nid oedd Anghydffurfiaeth Cymreig ond cydmar- iaethol ddiweddar—tarddodd yn yr eglwys ei hun, oberwydd gwc-ithrecloedd ei chlerigwyr, a'r amcan cyntaf oedd, nid achosi rhwyg, ond lledaenu ei defn- yddioldeb, rhoddi iddi fywyd newydd, a chadarnhau ei sylfeini. Ond parodd dallineb dinystriol (fatal blindness) rhai yn yr eglwys i'r rhwyg fwyhau; eto nid oedd y rhwyg yn rhwyg yn awr yn fawr mown cydmariaeth i'r hyn ydyw rbwng Protestaniaeth a Phabyddiaeth yr Iwerddon. Nid yw ond megis agen a dor wres yr haul yn y ddaear i'w gydmaru a'r gagendor llydan naturiol rhwng creigiau. Yr oedd wedi urddo nid ychydig o weinidogion Ang- hydtfurfiol, a rhai o honynt wedi aberthu llawer o fanteision i gael lie yn yr eglwys; ond ni chafodd mewn cymaint ag un o honynt eu bod yn teimlo eu hunain yn ymwrthod ag argyhoeddiadau crefycldol blaenorol. Yr oeddynt yn bwriadu pregethu yr un hen efengyl allan o bwlpud newydd. Yn unig gor- fodid hwynt gan gydwvbod i roddi o'r neilldu ar- ddangosiad o anghydffurfiaeth di-angenrhaid, a dyfod yn eglwyswyr mewn ffurf yn gystal ag o galon. Er hyn i gyd creda'r esgob fod sefyllfa yr eglwys yn achos o bryder dwys i'w chyfeillion; yn fwyaf neillduol oherwydd y rhwygiadau ami o'i mewn, a'r ffaith fod cynifer o hyd yn nod clerigwyr yr Eglwys ei hun yn ymuno a syniadau y Liberation Society. Tardda hyn oddiar awydd yn eu mynwesau am fwynhau annibyniaeth cynnulleidfaol (congrega- tional independence). Mae perygl mawr oddiwrth y rhwygiadau ami yma tufewn i'r eglwys oblegid y mae yn bosibl i eglwys farw oherwydd gormod yn gystal ag oherwydd rhy fach o fywyd ynddi. Rhoddodd yr esgob ergydion caled i'r Defodwyr (Ritualists) yn yr eglwys. Teimlai ef y dylasent ymgynghori a'u hesgobion yn gyntaf, cyn achosi rhwygiadau yn yr eglwys i borthi'ryw ysbryd hun- anol. Eu hamcan oedd gwneuthur bwrdd y cymun- deb mor agos ag sydd yn bosibl i'r ffurf Babyddol. Am y gwisgoedd (vestments) yr oeddynt y diweddaf byth fuasai yr eglwys gyntefig yn fabwysiadu, ac oa amlygiad o athrawiaethau oeddynt, rhaid mai rhyw beth oeddynt nad oedd eglwys y dyddiau hyny nac yn dal nac yn gredu yn iawn. Yna daeth yr esgob at bwnc addysg; a dadleuai fod gan bob plentyn hawl i addysg a'i dyrchafa uwchlaw yr anifail. Ac anogai bawb o gyfeillion addysg i beidio gorphwys nes cael i holl blaut ein gwlad y cyfiawnder yna oddiwrth y Ilywodraeth. Nid oedd arno yr ofn lleiaf y gwneir niwed i na chrefydd na'r Eglwys Sefydledig drwy ysgaru yn hollol addysg grefyddol a lleygol. Ar ol gorphen traddodi y siars, ymneillduodd yr esgob a'r clerigwyr, oddeutu 70 mewnnifer, i giniaw i'r Castle Hotel. [Methasom yn lan oherwydd prinder lie a chyhoeddi yr uchod yn y rhifyn diweddaf.-GoD.]