Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Y Parch. E. Williams, Dinas, at y Parch." J. Thomas, Liverpool—Yn ein nesaf. IWAixfonodd cyfaill o Gaernarfon atom i ofyn i ni ai gwir oedd y chwedl a ledaenid fod tri o weinidogion yr Annibynwyr wedi ysgrifenu at bofcl gyfoethog yn Llundain a manau ereill i geisio eu perswadio i beidio cyfranu dim at yr amcan o gael Colegdy newydd yn y Bala. Mae ein cyfaill wedi rhoddi i ni enwau y tri gweinidog a gyhuddir, ac wedi rhoddi i ni enw y cyhuddwr; ac wedi bod yn ddigon boneddigaidd hefyd i roddi ei enw priodol ei hun i'w gyhoeddi os mlynem. Gwyddem o'r goreu pan anfonwyd y chwedl i ni gyntaf nad oedd dim gair o wirynddi ondwedi i'n gohebydd roddi i ni enw y cyhuddwyr, nid oedd- ym yn gweled wi werth gwneud sylwpellach o honi. Nid ydym amlJ")hwino ein colofnau ag enw y fath ddihiryn sydd drwy y blynyddoedd yn crwvdro y wlad, ac yn dyweydpob cabl-eiriau am bawb na rydd groesaw iddo, Mae yn rhaid fod rhyw 'amryfusedd cadarn fel y credont gelwydd' weii ei ddanfon ar ddynion pan dderbyniaBt jWfiath un i dy, ao y dy- wedant Duw yn rhwydd wrtho. Dlwygiwr-Yn ein nesaf. Ada-Diolch i chwi am eich 'Nodion." Bydd yn dda genym glywed oddi wrthych yn ami. Methasom a'u cael i fewn yr wythnos hon, ond deuant yn sicr yn ein nesaf. Annibynwr-Aclclefwn fod eich sylwadau yn hollol resymol; ond pe gwyddech yr holl amgylchiadau, yr ydym yn sicr yr addefech chwithau fod ein pen- 'dei-fyniad ainau hefyd yn hollol resymol.
AT Y BEIRDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT Y BEIRDD. Derbyaiwyd eidde Cadfab, Enawnt, Idwal Wyn, Dafydd o Went, J, Jones, Llwyd, Gwrgant o Wyn- edd, a Clwydwenfro. Er arbad traul a choll amser, cyfeirier y Farddon iaeth oU i RBV. R. WILLIAMS (Hwfa Mon), 10, Clayland Road, Kennington, LOWDON. Oyfeirier y Gohebiaethau oll-To the Editors of the Tyst Cym- bkio, 8, Brooks Alley, Old Post Office Place, Liverpool; a'r holl archebion a thaliadau am y TnT i'w gwneud i Mr. O. THOMAS, i'r cyfeiriad uchod.
I MASNACH.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MASNACH. Gwyr ein darllenwyr am hinfynegydd yn cael ei wneud i fyny o dy bychan yn meddu dau le drws, ac yn cael ei breswylio gan hen wr a hen wraig-yr hen wr, wrth reswm, er anrhydedd ei ryv, yn dyfod allan ar dywydd garw, a'r hen wraig a'r fasged ar dywydd teg. Weithiau pan fydd yr hin yn gyfnewidiol ae ansicr, fe ddaw yr hen wraig at y drws, fel pe byddai am ddyfod allan, ac eto cilio yn ol ac yn mlaen yno a wna am amser cyn dyfod yn grwn dros y trothwy. Ac nid anaml wedi dyfod allan y cilia yn ol fel mewn braw. Yn mhen amser daw at y gyngor eilwaith gan bipio yn wyliadwrus allan. Nid gJViw i'r hen wr na neb arall ymhel a hi. Ddaw hi ddim allan yn deg a'i basged ar ei braich hyd nes y byddo yr hin wedi setlo ar degwch. Nid hi sydd yn llywodraethu y tywydd, ond y tywydd sydd yn ei llywodraethu hi. Felly mae wedi bod er ys rhai blynyddau bellach gyda mas- nach. Credid dro ar ol tro ei bod yn byw- iocau, ac eto siomid y gobeithion hyn gyda eu bod braidd yn dechreu lloni y wlad. Ciliai anturiaeth yn ol ddau gam ar ol rhoddi un cam yn mlaen. Trodd y proffwydi goreu allan lawer gwaith yn broffwydi gau yn y pedair blynedd diweddaf. Gwelwyd mewn blynydd- au meithion yn ol fwy o wasgfa a newyn yn y wlad; ond ni welwyd yn yr oes bresenol y fath farweidd-dra masnachol mor anadferadwy. Gwnaethom yn ddiweddar rai nodiadau er ceisio egluro hyn, ac felly ni a'i gadawn yn bresenol, gan fyned at well gwaith nag esbonio, sef cydlawenhau a'r miloedd yn y rhanau gweithfaol o'r wlad fod masnach bellach fel wedi cychwyn yn deg, ac yn debyg o barhau mwyach i gryfhau a chyflymu am o leiaf ddeng mlynedd-hyny yw, a chymeryd yn ganiataol na chymer rhyfel le, ac na cheir cynhauafau drwg. Dau beth a dylanwad dirfawr ar fas- nach yw y ddau beth yma-rhyfel a chyn- hauaf drwg. Mae y blaenaf i raddau, os nid yn gwbl, at ewyllys dynion, a'r olaf yn hollol yn ol ewyllys Arglwydd nef a daear. Os ceir heddwch a chynhauafau da ynte, mae He teg i gredu y parha masnach i wellhau am amryw flynyddau. Araf y mae yn ysgogi, ac eto mae yn symud; ac araf y disgwyliwn y bydd ei chamrau o hyn i ganol Mawrth nesaf. Ond mae yn gysur ei bod yn symud, ac nid yn aros, na myned yn ei hoi. Mae miloedd, os nid mil- filoedd, o ganghenau i fasnach, ac eto maent oil fel olwyn mewn olwyn a rhyw gysylltiad- au rhyngddynt a'u gilydd. Eto, pedair olwyn fawr sydd megis yn rheoli y lleill oil—mas- nach y cotwm, masnach y gwlan, masnach yr haiarn, a masnach y glo-y pedair hyn. An- hawdd dywedyd pa un sydd bwysicaf o honynt, a chymeryd y deyrnas gyda'u gilydd; ond y ddwy ddiweddaf sydd bwysicaf o ddigon i weithwyr Cymru. Mae melinau rhai parthau o swydd fawr a phoblog Lancaster yn dechreu ysgogi yn gyflymach ac yn fwy cyson; ac os parha hyn, fel y credwn y gwna, daw llawen- ydd a chan eto i'r gweithdai mawrion ac aneddau dirif sydd yn y parth pwysig hwnw o'r wlad. Mae masnach yr haiarn yn ddi- ddadl wedi cychwyn i'w thaith, ac ymddengys fel ar ei goreu i gwhwfanu ei baner er hudo ei chwiorydd eraill i symud ar ei hoi. Mae mwy o alw am haiarn, ei bris yn codi yn y farch- nad, a'r cyflogau yn myned yn uwch i'r gweithwyr. Mae Hwre' yn ein calon, ac y mae yn rhaid iddi gael dyfod yn y TYST yn 1 HWBE FAWR' a adseinio o Bontypool i Llan- elli, ac o'r Brynmawr i Abertawe, gan ad- seinio cymoedd yr Ebw, y Rumni, a'r Clydach, a fflachio fel mellten drwy ardaloedd y Dar, y Taf, y Rhondda, a'r Nedd. Hunanfeddiant ac amynedd sydd eisiau yn awr am ychydig o amser, er fir gwelliant gael chwareu teg i gryf- hau, ac yna mae y lies can sicred o gyrhaedd y gweithwyr a bod codiad haul yn dilyn tor- iad y wawr. Mae pris pob haiarn wedi codi ychydig, a phris rhai mathau o hono wedi codi cryn lawer, ac eisioes mae y puddlers ac eraill yn Lloegr wedi cael codiad cyflogau. Mae rhyw beth tebyg o godiad wedi cymeryd lie mewn rhai manau yn Nghymru mewn math o wobrau am y gwaith goreu. Mae mwy o bwys yn natur y gwaith nag a feddylir. Os yw masnach haiarn Cymru a Lloegr i gadw y blaen yn marchnad y byd, rhaid cael gwell haiarn na'r hyn a droid allan yn llawer o'r melinau y blynyddau diweddaf. 0 hyn i'r gwanwyn, yr ydym yn dra sicr fe geir codiad yn nghyf- logau holl weithwyr haiarn Cymru, ond i'r meistri fod yn ddoeth, ac i'r gweithwyr fod yn bwyllog. Mae gan fasnach yr haiarn ddylan- wad mawr ar fasnach y glo. Mae mwy o lo yn cael ei ddefnyddio yn y gweithiau pan yn llawn gwaith na phan yn haner segur. Mae y meistri haiarn hefyd yr amser hwnw yn methu a gorlenwi marchnad y glo fel y gwnant ar amser drwg. Ac y mae y glo arall yn cael chwareu teg i ofyn y pris am dano ei hun a ddylai gael er talu i feistr a gweithiwr. Heb- law hyn, pan mae masnach yr haiarn yn byw- iocau, mae mwy o alw am lo at bob peth- mwy o'i angen yn y ffwrneisi a'r melinau, mwy o'i angen i lanw berwedyddion y reil- ffyrdd a'r agerlongau, a mwy o'i eisiau at bob peth arall. Ac wedi y cwbl, eisiau peth sydd yn codi ei bris. Mae y glo ynte-ac er lloni miloedd bechgyn braf Morganwg a Mynwy, mae yn llawen genym ddywedyd hyn-yn symud. Fe yrwyd mwy o hono i'r mor yn Nghaerdydd yn y mis diweddaf nag a wnaed mewn unrhyw un mis er ys blynyddau, os nid erioed. Pan mae y galw am dano yn cynhyddu, mae y meistri yn dechreu cael calon i ofyn rhagor am dano a thrwy drugaredd, mae rhai o'r masnachwyr a werthent dan eraill, ac a gadwent y prisoedd i lawr, wedi methu, ac felly mae meistri da sydd am godi y pris yn cael gwell chwareu teg. Ymddengys y pris yn symud yn y ffordd oreu er lies gweithiwr a meistr, ac yr ydym yn credu nad aiff llawer o'r gwanwyn heibio cyn i'r glowr gael codiad cyflog, a chyn i lawenydd a gorfoledd lenwi heolydd ein gweithfeydd unwaith eto. Araf iawn, ar ol oedi yn hir, mae yr amser da yn dod, ac eto, ond i feistr a gweithiwr fod yn ddoeth, y mae yn dyfod; ac yn dyfod, ni a obeithiwn, i aros gyda ni am o leiaf ddeng mlynedd.
.... ff ftjrst %rawijj,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ff ftjrst %rawijj, DAN OLTGIAETH, YTarchedigion W. Rees, D.D., J. Thomas, N. Stephens, a W. Roberts, Liverpool; a J 0 Davies, Caerdydd. Cyfrifa yn mysg ei oliebwyr rai o lenorion blaenaf ein cenedl—rhai o honynt yn rheolaidd, ac eraill yn achlysurol. Mae y rhai a ganlyn yn mysg ei feddian- wyr, neu wedi ysgrifenu erthyglau ar destynau gwladol neu eglwysig, ac yn addaw gwneud hyny hefyd eto: —Y Parchedigion J. R. Kilsby Jones; W. Ambrose (Emrys), Portmadoc; R. Thomas (Ap Vychan), Ban- gor; D. Roberts (Dewi Arfon), E. Evans (Herber), R. Ellis (Cynddelw), Caernarfon; D. Griffiths, Port- dinorwic; R. Williams (Hwfa Mon), Llundain; A. J. Parry, Liverpool; D. Jones, B.A., Merthyr; E. Ste- phen, Taaymarian; W. Evans, Aberaeron; O. Evans, Llanbrynmair; J.Lewis, Henllan J. Peters, Bala; T. Johns (Taborfryn), Llanelli; W. Thomas (Gwilym Gwenflrwd); T. Rees, D.D., Abertawe R. W. Grif- fith, Beffeel; D. Oliver, Llanberis; W. J. Morris, Pont- ypridd; H. Oliver, B.A., Newport; D. Rowlands,B.A., (i)ewi Mon), Trallwm; E. Owen, Clydach: 0. Jones, Ystalyfera; H. Rees, Caer; W. Griffith, Caergybi; H. Jones, Cemaes; J. M. Prytherch, Wern; S. Evans, Hebron; W. Morgan, Caerfyrddin; W. Roberts, Aberhonddu; J. B. Jones, B.A.,Penybont; J. Davies, Taihirion; L. Probert, Bodringallt; T. Ll. Jones, Ma,chen; W. Nicholson '(ERIad Mon), Treflys; W. Thomas, Whitland; T. Thomas, Glandwr; R. Hughes, Cendl; W. Jones, o India; H. E. Thomas, o America; T. Thomas, o Africa; Meistri P. Mostyn Williams; J. Ceiriog Hughes- C. R. Jones, Llanfyllin; J. Williams, Trecynon; W- Tegerin Hughes, Gweirydd ap Rhys, T. Williams, Goitre, yn nghyda lluaws o weinidogion a lleygwyr galluog eraill.
DALIER SYLW. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DALIER SYLW. Bydd i Mr. W. Jones, Goruchwyliwr Swyddfa y TYST Cymeeig, ymweled a pharthau o'r De yr wythnosau nesaf; a dymunir ar i'r holl Ddosbarthwyr sydd heb dalu barotoi ar gyfer ei ddyfodiad. "I.—••••"» i—■«—t
TEYRNGED I GEORGE PEABODY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TEYRNGED I GEORGE PEABODY. George Peabody wedi marw! Prin y gallwn gredu y newydcl, ac er ei gredii rhy brin y gallwn ei realisio. Yr un yw efe i ni yn awr yn nwylaw oerion angau, ac yn ngharchar tywyll y bedd, a phan y synwyd ni gyntaf gan ei anrheg dywysogaidd i dylodion Llundain, a phan y clywsom am dano drachefn a thrachefn yn rhoddi profion o'i gyfoeth diderfyn, ac o'i haelioni dihysbydd. Y mae wedi anfarwoli ei hunan, a phery ei goffadwriaeth fel perarogl hyfryd yn y byd, tra byddo llygad i weled angen, a chalon i deimlo daioni. Nid yw ei fod wedi symud o'r byd hwn yn gwneud nemawr o wahaniaeth i ni na welsom ef erioed o ran y cnawd, ond y mac y symudiad wedi bod yn enill anrhaethol iddo ef. Wedi ei eni mewn amgylchiadau isel, ac yn gorfod dibynu ar ei ymdrechion ei hun er yn blentyn, cyfododd i'r sefyllfa uchaf fel masnachwr llwyddianus a chyfoethog. Ganwyd ef y 18fed o Chwefror, 1795, yn Danvers, Massachusetts. Hanodd o hen gyff Puritanaidd, ac ymffrostiai ei fod yn disgyn o'r Pererin-dadau enwog a laniasant yno oesau yn ol. Pan yn 11 oed, rhwymwyd ef yn brentis o Grocer yn ei dref enedigol. Yn mhen pedair blynedd ar ol hyny, cawnefynbart- ner gyda'i frawd mewn 8tore yn Newbury Port. Llosgwyd y siop hono, a gorfu arno fyned at ei ewythr i Columbia. Tra yno, ymgysegrodd i achos ei wlad fel milwr yn rhyfel mawr Anni- byniacth yn 1812. Yn nesaf, yn 1815, ymun- odd ag un Mr Riggs, yr hwn yn fuan iawn a symudodd y fasnach i Baltimore. Wedi saith mlynedd o lwyddiant, agorasant ganghenau yn Philadelphia a New York; ac yn y flwyddyn 1830, trwy ymgiliad Mr Riggs, gadawyd Mr Peabody ei hunan yn ben ar un o'r cwmnïau