Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nid yw ein newyddion tramor yr wythnos hon ond ychydig, a lied ddibwys ar y cyfan. Bydd Camlas Suez yn barod i gael ei agor ar yr 17eg o'r mis hwn. Dywedir fo(I Caclben M'Rillup wedi dychwelyd i :Alexandria y 13eg o'r mis di- weddaf, gyda dwy o longau o lynges llywodraeth yr Aipht, y rhai a gymerodd cyn belled ag Ismailia. Dywed fod y gamlas o 24 i 26 o droeclfeddi o ddyfn- der yn y canol oddiyno i Port Said. Y mae paroto- adau yn cael eu gwneud er dyfnhau y gamlas o Is- mailia i Suez, a disgwylir y bydd y rhan hwnw wedi ei derfynu mewn ychydig ddyddiau i ganiatau llestr y Viceroy sydd yn tynu 24 troedfedd o ddwfr i fyned drwodd. Disgwylir y bydd yn barod i longau masnach fyned drwodd yn ddioed. Mae y cefnogwyr yn y Cortes Yspaenaidd o blaid cael y Due o Genoa i'r orsedd yn dal yn galonog o hyd. Credant y llwyddir i'w gael cr gwaetha'r gwrthwynebwyr sydd yn anmhleidiol iddo. Mae dirprwyaeth wedi ei hanfon gan lywodraeth Yspaen i Florence i agor cydymgynghoriad ffurfiol gyda golwg ar apwyntio y Due o Genoa i wisgo y goron. Ond gan fod y Brenhin yn wael, dichon na ddeuir i un cytundeb buan, drwy fod sylw yr holl deulu brenhinol yn cael ei ddwyn ato ef. Dywedir ei fod yn gwella, a disgwylir y bydd wedi cael ei adferu yn hollol yn bur fuan. Mae y newyddion diweddaraf am iechyd Brenhin Itali yn ffafriol i'w adferiad. Mae y ffaith fod y Tywysog Napoleon, yr hwn sydd yn briod a merch Victor Emmanuel, yn aros yn Sanrossore yn profi fod iechyd y brenhin wedi bod yn beryglus iawn. Mae y gwrthryfel yn Dalmatia yn cael ei roddi i lawr yn araf. Mae cymydogaeth wrthryfelgar Zappa wedi taflu eu harfau i lawr. Distrywiwyd amddiffyufa Stanjerich gan y gwrthryfelwyr, wedi iddynt ei meddianu am bythefnos o amser.

"SARAH JACOBS."

[No title]

Family Notices

MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.

I Y FARCHNAD YD.

Y FARCHNAD ANIFEILIAID.

Advertising

EBENEZER, PONTYPOOL.

TYSTEB Y PARCH. E. EVANS,…